Awst 13 – Gorff 14

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau 24 Orffenaf 2014. Cylch o Lanfaglan. Miriam Heald oedd yn arwain 23 o gerddwyr o faes parcio Fron Goch ar daith a ddisgrifwyd fel Cylch o Lanfaglan. Diwrnod twym arall oedd hi a thymherau o 29c yn Mhorthmadog. Taith wladol braf oedd hon gyda cymysgfa o dir pori a ffyrdd bach distaw. Ar ol diolch i Miriam cymerodd y cerddwyr fantes o’r caffe ardderchog sydd ar gael yn Fron Goch. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 20 Orffenaf 2014. Mi oedd yna ddewis o ddwy daith.

Cadair Idris. Arweinwyd y daith hir gan y Cadeirydd Noel Davey gyda n11 yn cychwyn o faes parcio Ty Nant ger Llyn Gwernan. Roedd yr haul yn wresog wrth iddynt gychwyn dringo y “Pony Path” a mynd ar hyd y grib i gyfeiriad copa Cadair Idris. Erbyn hyn roedd cymylau ysgafn wedi iselhau y tymherau ac yn ei gwneud yn brafiach i gerdded. O’r fan hyn disgyn i lawr yn serth gan ddefnyddio’r llwybr wrth ochr y ffens ac wedi cyrraedd y gwaelod amlinellu o amgylch y Mynydd yn ol i’r man cychwyn, hon yn daith 12.5 milltir, egniol ond bleserus iawn. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Godre Cadair Idris. Arweinwyd y daith fur gan Nick White gyda 3 cerddwr yn ei ganlyn a chychwyn o’r un man ond yn dringo i fyny heibio Llyn Gafr ac wedyn i fyny eto at Llyn y Gadair ble mwynhawyd ginio. Ar i lawr wedyn i’r “Pony Path” a dilyn y llwybr yn ol i’r maes parcio. Taith ardderchog o ryw 6 milltir yn cynwys dringo anodd ar ddiwrnod twym. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 10 Orffenaf 2014. Trawsfynydd, Ceunant Llenyrch. Alun a Beryl arwainodd y daith 6 milltir hyfryd hon gyda 21 aelod, yn haul gwych Orffennaf. Cychwyn o atomfa Trawsfynydd, drwy y coed i Warchodfa Natur Ceunant cyn cael cinio wrth odre y rhaeadr ysblennydd ar ochr Afon Prysor. Gorffenwyd y daith braf yma yn y caffe wrth Llyn Trawsfynydd sydd newydd ei ail agor. Noel Davey a Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 6 Orffenaf 2014. Llwybr Ardudwy. Bermo – Talybont. Dafydd Williams oedd yr arweinydd awdurdodol yn arwain 15 cerddwr o Bermo ar y rhan gyntaf o Lwybr Ardudwy. Cychwyn tu ol i’r Eglwys, dringo yn serth i Ffridd y Graig a throi i’r Gogledd Ddwyrain i Cerrig Arthur ac yna i fyny i Bwlch y Rhiwgr a chael cinio mewn man delfrydol. Gyda i ni fynd i lawr ochr gogleddol Bwlch y Rhiwgr dyma’r mwyafrif yn gwneud cylchdaith i weld Cerrig Meini Oes Ddiweddar (Carneddau Hengwm) ar ochr Mynydd Egryn tra r’oedd y gweddill yn cadw golwg ar ein eiddo! Ymlaen ar ol y toriad yma i Afon Sgethin a dilyn y llwybr hyfryd ar lan yr afon a thrwy y coed i Tal y Bont. Peth nodweddol o’r daith yma oedd y golygfeydd odidog o Aber Mawddach, y mynyddoedd a hefyd yr arfordir i gyfeiriad Harlech a Phenrhyn Llyn. Pawb yn canmol y daith ar ddiwrnod mor braf. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Iau Mahefin 26 2014. Rhiw. David a Lisabeth Williams oedd yn arwain 30 aelod ar daith ddiddorol o’r maes parcio Yr Ymriedolaeth Genedlaethol ar Mynydd Rhiw. Mi oedd gan y daith destyn hynaniaethol wrth ymweld a ffatri bwyeill, manau claddu a charneddau efydd ac wedyn y cloddio blynyddol yn pentref oes yr haearn,ger Meilllionnydd. Yno, eglurodd y pen dyn, yr Athro o Awstria, beth oedd yn mynd ymlaen gan ddangos celfi oedd wedi eu darganfod tra yr oedd un o aelodau y pwyllgor, Catrin Williams, yn brysur fel aelod o’r tim cloddio, yn y ffos! Gorffenwyd y daith drwy gael te yn yr Hen Reithordy pan ddiolchwyd i’r arwainydd am ei caredigrwydd ac am ddiwrnod llwyddianus. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22 Fehefin 2014. Moel Siabod. Diwrnod ardderchog i gerdded, Roy Milnes yn arwain 8 cerddwr i fyny Moel Siabod o faes parcio Bryn Glo ac mi oedd y daith egniol yma yn rhoi cyfle i weld golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad. Mi oedd yna grafangu go arw uwchben Llyn y Foel ac wedyn cerdded anodd ar hyd y grib cyn cyrraedd y copa a disgynfa serth a mwy o grafangu dros y creigiau. Derbyniol iawn oedd y diodydd pan ddiolchwyd i Roy am arwain y daith gofiadwy yma. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Mehefin 12 2014. Moel y Ci. Toedd yna ddim cofnodiad ond llawer o ddiolch i Pat Housecroft am arwain y daith yn yr ardal ddiddorol yma ar ymylon Eryri. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8 Fehefin 2014.Manod Mawr a Sarn Helen. Ffodus iawn eto oedd Rhodwyr Llyn y tywydd yn sych ac yn braf drwy’r dydd. Judith Thomas yn arwain 10 cerddwr yn ei dull gyfeillgar arferol , o Manod, yn gyntaf i fyny ar lwybrau hawdd ac, ar ol paned dringo yn serth i gleopa Mynydd Manod. Disgyn wedyn i’r hen weithfeydd, Chwarel Lechi Manod hefo’r simdde tal yn dal i sefyll yn urddasol cyn dod at chwarel Graig Ddu. Taith bleserus yn y dyffryn yn dilyn cyn amgylchu Mynydd Manod yn ol i’r pentref. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 29 Fai 2014. Llwybr newydd ei agor Beddgelert i Rhyd Ddu. Tywydd braf eto pan arwainodd Ian Spencer 19 aelod o Rhyd Ddu i Feddgelert. Mynd ar un o’r bwsus olaf Cwmni Bwsus Padarn o Feddgelert. Y criw o gerddwyr yn mwynhau ar y llwybr ardderchog yma sydd ar gyfer cerddwyr, pobl o dan anfantais, beicwyr a cheffylau, drwy ganol Eryri. Cafodd ei agor oddeutu blwyddyn yn ol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 25 Fai 2014. Cylch o Lanberis. Mi oedd yn ddiwrnod gwell nag y rhagolygon ac yn sych drwy gydol y daith cafodd ei arwain yn berffaith gan Kath Mair. Deuddeg o gerddwyr yn cychwyn o Lanberis gan ddringo heibio’r hen Ysbyty’r Chwarel ar ei ffordd drwy Parc Gwledig Padarn, i lawr i Fachwen cyn dringo eto i Rhiwen. Dringo Moel Rhiwen cyn dychwelyd drwy Deiniolen heibio y mast radio ar gopa Pen y Bigil. Diolchwyd i’r arweinydd am daith ddiddorol. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 15 Fai 2014. Coed y Brenin. Judith Thomas yn arwain taith 5 milltir bleserus  iawn  o Ganllwyd i’r coed anhygoel sydd i’r gorllewin o Goed y Brenin. Y tywydd yn braf ac y 26 o gerddwyr yn mwynhau’r haul ac yn gweld sawl cwymp dwr a meysydd o glychau’r gog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 11 Fai 2014. Arenig Fawr. Ar ol glaw trwm dros nos gwlyb iawn oedd hi drwy gydol y dydd pan arweinodd Tecwyn 9 o gerddwyr  gan gychwyn o lan de Llyn Celyn. i fyny at Llyn Arenig Fawr a’r adeilad ger y llyn, cyn bwrw ymlaen i fyny Arenig Fawr ond pan i’r gwynt aruthrol gyrraedd cyflymdra o 85 milltir yr awr, troi yn ol wnaeth Tecwyn a dychwelyd i’r adeilad. Ail gychwyn ar ol cael cinio ond ddim am y copa ond i gyfeiriad y de a chwtogi’r daith yn y tywydd garw, Tecwyn wedi arwain yn dderbyniol ac  yn ddiogel a chael ei gymeradwyo. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 1 Fai 2014. Ynys Enlli. 35 aelod – tri llond cwch – yn cael diwrnod cofiadwy yn ymweld a Ynys Enlli, niwl y bore yn codi a’r tywydd yn gwella fel i’r dydd fwrw ymlaen. Mi oedd gan pob llond cwch bedair awr i sgrealu i bob cwr o’r ynys, cerdded y llwybrau hefo golygfeydd arbennig, archwilio’r goleudy a adeiladau eraill, gweld yr adar yn nythu, y bywyd gwyllt, rhai yn dringo i gopa’r bryn a chael paned cyn dychwelyd gan basio clogwyni’r gogledd a chornicyllod y dwr. Y rhai mwyaf egniol yn cerdded tua 5 milltir ac mi oedd rhai wedi mwynhau eu hunain cymaint nes iddynt benderfynu dychwelyd am wyliau.  Diolch i Miriam Heald am drefnu diwrnod mor bleserus. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 27 Ebrill 2014. Diffwys/Y LLethr/Rhinog Fach. Braf oedd cael bod yn ol unwaith eto yn y Rhinogau ac yn cyflawni  taith galed o ddeg milltir a dringo tua 3000 troedfedd a chael ein harwain yn berffaith gan Hugh Evans. Parti o 7 yn dringo o Cwm Mynach i fynny Diffwys, ar hyd Crib-y-Rhiw i Y LLethr ac ymlaen i Rhinog Fach, gan ddisgyn dros dir corslyd heibio Llyn y Bi yn ol i’r ceir erbyn 5 o’r gloch. Mi oedd y tywydd ar y cyfan yn fafriol, tipyn yn wyntog ond mi oedd golygfeydd godidog o Ddwyrain Eryri. Mi  oedd y parti yn ffodus i osgoi y gwaethaf o’r cawodydd terfysg trwm a oedd yn bodoli  cyn ddiwedd y daith. Diwrnod ardderchog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 17 Ebrill 2014 Ardal Pwllheli. Tra r’oedd nifer helaeth o aelodau y Clwb ar eu gwyliau yn Sir Amwythig, Karla Lightfoot arwainodd yn gampus, yn y prynhawn, dwsin o gerddwyr ar daith hamddenol a phleserus, o faes parcio Penmount ar hyd lwybrau ar gyrion Pwllheli. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 13 Ebrill 2014. Llyn Trawsfynydd. Y noson cyn gwylia’r Clwb i Church Stretton arwainodd Catrin Williams yn ddewr iawn 6 aelod o amgylch Llyn Trawsfynydd. Croesi’r bont droed (dyna ble r’oedd y dewrder yn dod i’r amlwg!), drwy pentref Trawsfynydd, dros Tomen y Mur a’r Amffitheatr, cyn dychwelyd i’r maes parcio wrth fynedfa’r Orsedd Niwclar. Mi oedd yn hynod o braf, y gwynt yn fain ac wrth i’r llwybr gael ei wella yn ddiweddar i ganiatau beicwyr ,mae yn lawer iawn rhwyddach i gerddwyr.Taith ardderchog. Hugh Evans. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Ebrill 3 2014. Cylch o Benygroes. Kath Spencer arwainodd yn egniol iawn, 22 aelod o Benygroes i fyny Clogwyn Melyn, drwy Cilgwyn cyn cyrraedd copa Mynydd Cilgwyn a chael cinio. Disgyn i lawr yr ochr gogleddol a dychwelyd i Benygroes drwy Bryn Awelon a heibio’r winllan win ac, er cael ychydig o law ysgafn,mi oedd yn gynnes drwy ystod y daith. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 30 Mawrth 2014. Beddgelert i Rhyd Ddu. Nol ac Ymlaen. Ian Spencer oedd yn arwain 12 aelod yn galonnog a hyderus – golygydd, ar Lon Gwyrfai, llwybr newydd ardderchog ar gyfer cerddwyr, beicwyr, marchogwyr a phobl anabl, o Feddgelert i Rhyd Ddu ac yn ol. Diwrnod ardderchog a’r golygfeydd o’r Wyddfa, Yr Aran, Foel Goch a Moel Cynghorion i’r dde a Moel Hebog, Mynydd Drws-y-Coed, Y Garn a Mynydd Mawr i’r chwith. Cael cinio yn y stesion yn Rhyd Ddu cyn dychwelyd yr un ffordd i Beddgelert. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 20 Fawrth 2014. Cylchdaith o Borth y Gest. Nifer dda yn bresennol, sef 21, ar gyfer taith o 4 milltir o Forth y Gest, gyda Tecwyn Williams yn arwain yn ei ddull unigryw ei hun! Cychwyn i’r gogledd drwy y goedwig ac heibio’r graig Dafydd y Garreg Wen, ar draws odre Moel y Gest a dychwelyd drwy y meysydd carfannau wrth yr arfordir. Troi yn wlyb a gwyntog wnaeth y tywydd ac mi oedd y cerddwyr yn falch o gyrraedd yn ol a chael te yn y caffe lleol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Mawrth 16 2014. Porth Oer i Aberdaron. Roy Milnes oedd yn arwain 7 aelod ar daith ardderchog ar hyd oddeutu 9 milltir o lwybr yr arfordir o Borth Oer i Aberdaron. Edrychai y golygfeydd arfordirol yn syfrdanol yn haul cynnes y gwanwyn a barhaodd trwy’r dydd. Rol cael cinio ar Trwyn Maen Melyn aeth rhai o’r criw i lawr at Ffynnon Santes Mair. Gorffenwyd y daith trwy cael te derbyniol iawn yn ty Roy. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 6 Fawrth 2014. AGM Criccieth. Cynhaliwyd 34 cyfarfod blynyddol y Clwb yn Capel y Traeth, Criccieth. Cafwyd adroddiad ddoniol a chywir o weithgareddau y flwyddyn yn cynnwys dros 60 taith a sawl achlysur poblogaidd cymdeithasol. Cafwyd araeth ar y sefyllfa ariannol gan y trysorydd ac mi gytunwyd i roddi £100.00 yr un i ddwy gymdeithas “Mountain Rescue”. Mi oedd arian yn barod wedi ei gyfranu i gymdeithas Aberglaslyn drwy ymdrechion aelodau. Cafodd y pwyllgor a’r swyddogion i gyd ei ail ethol ac i orffen, cafodd cytundeb i newid fan bethau i Gyfansoddiad y clwb. Mi oedd 33 aelod yn bresennol ac ar ol y cyfarfod arwainodd Dafydd Williams daith fer o amgylch Criccieth a Llanystumdwy. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 2 Fawrth 2014 Dolwyddelan. Nick White oedd yn arwain 9 cerddwr yn anrhyderus ar ddiwrnod llwyd, o Ddolwyddelan ar lanau Afon Lledr ac i fyny i Ty Mawr, Gwybrnant, cartref William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg. Oherwydd fod coed wedi cwympo ar ol y corwynt diweddar, rhaid oedd gwneud gwyriad a mynd drwy dir corslyd.Dychwelyd i Ddolwyddelan cyn y glaw ail gychwyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 20 Chwefror 2014. Great Orme, Llandudno. 18 o gerddwyr oedd yn cael eu arwain yn fedrus gan Miriam Heald ar daith o Landudno ddechreuodd yn y glaw ond orffenodd yn yr haul. Cinio gerbron Eglwys St. Tudno cyn cerdded o amgylch y Great Orme oedd yn eu galluogi i weld golygfeydd ysblennydd dros y mor, y “Wind Farm” ac y dref. Gorffen y dydd hefo te a chacennau yn y Cottage Loaf Cafe. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 16 Chwefror 2014. Porth Oer i Porth Ysgaden. Hugh Evans arwainodd 9 aelod ar daith arfodirol o Borth Oer. Cychwyn ar lwybr yr arfordir ar hyd rhan, newydd ei agor, heibio Porth Iago i Borth Widlin. Yn dilyn y stormydd diweddar mi oedd yn fwdlyd mewn mannau a thystiolaeth garw i’w weld o’r gwyntoedd terfysgaidd. Ymlaen i Draeth Penllech a cherdded ar y traeth cyn ymuno eto a llwybr yr arfordir Borth Ysgaden a diwedd taith ddymunol iawn ar ddiwrnod heulog prin. Diolchwyd i Hugh gan bawb am arwain mor fedrus. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 6 Chwefror 2014. Llyn Morwynion a Rhaeadr y Cwm. Kath Spencer oedd yn arwain yn fedrus, 25 aelod ar daith fywiog o Lyn Dubach ger yr B45407 tu draw i Lan Ffestiniog. Mi wnaeth y tywydd wella wrth i’r parti fynd gerllaw Llyn Morwynion a thrwy dir corsiog cyn croesi’r ffordd ac ar i lawr yn serth i’r cwm hyfryd, Cwm Cynfal a thros dir sychach. Wedyn dilyn y llwybr i Cwm Farm ac i fyny yn serth yn ol i’r ffordd. Mi oedd rhaeadr Cynfal yn ogoneddus ar ol y glaw diweddar. Yn ol i’r ceir wedi mwynhau taith amrywiol a rhagorol. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 2 Chwefror 2014. Cylch o Groesor. Tecwyn Williams arwainodd 10 cerddwr ar daith i fyny’r llwybr sydd yn dringo o Dde Ddwyrain o’r cwm i’r hen Chwarel Croesor ac ymlaen i Chwarel Rhosydd a Cwm Orthin. Yna i lawr yr “incline” ac yn ol i Croesor wedi mwynhau tywydd braf yn ystod y daith. Diolchwyd i Tecwyn am daith ddiddorol. Yr un diwrnod arwainodd Nick White barti bychan ar daith haws o’r un man. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 23 Ionawr 2014. Cwm Afon Artro. Dafydd Williams. Dafydd Williams yn arwain 26 cerddwr ar daith ardderchog o Cwm Afon Artro ger Pentre Gwyn. Heibio Pen y Bont ac i fyny’r allt, mynd heibio Wengron ac ar hyd y cae i Tyddyn Rhyddid. Wedyn dilyn heol fach cyn troi i’r chwith a dilyn hen lwybr a chael golygfeydd gogoneddus cyn dychwelyd i’r cychwyn. Pawb wedi mwynhau y daith a gaeth ei harwain yn fedrus ar ddiwrnod heulog. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 19 Ionawr 2014. Pwllheli i Griccieth. Mary Evans a Rhian Roberts arwainodd 15 aelod ar daith arfordirol o Pwllheli i Griccieth ar ddiwrnod godidog a haulog gyda golygfeydd ardderchog o Benrhyn Llyn i’r gorllewin a mynyddoedd y Rhinogau i’r dwyrain. Ar hyd lan y mor i Penychain wrth fod llwybr yr arfordir wedi diflanu mewn manau fel canlyniad i’r tywydd stormus diweddar.Mi oedd olion y stormydd yn amlwg gan fod rhannau helaeth o’r tywodfryniau wedi diflanu, adeiladau haf wedi eu dinistrio a sbwriel ym mhob man. Heibio “Butlins” cyn troi i’r tir at y Lon Goed oherwydd nid oedd yn bosib i fynd ar lwybr yr arfordir yn y man yma ond yn ol ati cyn cyrraedd Criccieth. Diolchwyd i Mary a Rhian am daith ddiddorol a phleserus. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 9 Ionawr 2014. Coed y Brenin. Ar fur rybudd, Noel Davey arwainodd yn absennoldeb yr arwainydd priodol oherwydd angladd teuluol. 31 yn mwynhau ar ddiwrnod sych a heulog a chychwyn o Ganolfan Coed y Brenin. Mi oedd hon yn daith gofiadwy, yn cerdded drwy goedwigoedd addfed a chael cinio mewn man delfrydol. Ar ol dychwelyd cael paned a chacen yn y Ganolfan. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 5 Ionawr 2014’ Dolgellau. Ian Spencer oedd yn arwain yn fedrus y daith o Ddolgellau ar ddiwrnod gwlyb. Drwy lwc mi oedd y tywydd yn lawer iawn gwell na’r rhagolygon. Dilyn Llwybr Mawddach am ryw 4 milltir i Abergwynant ond oherwydd fod llifogydd ar y llwybr roedd rhaid gwneud cylchdaith hir. Mynd heibio y “Kings YHA” ac yna dringo a mynd heibio fferm Tyddyn Evan Fychan cyn cyrraedd y maes parcio ger y lon a dilyn i Lyn Gwernan. Yna dilyn y llwybrau ar draws y caeau cyn disgyn i Ddolgellau. Taith annisgwyladwy o bleserus ar ol addewidion o law trwm. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 26 Ragfyr 2013. Dydd Sant Steffan. Cafodd 17 aelod eu harwain yn fedrus gan Tecwyn Williams o bentref braf Borth y Gest. Dringo yn ofalus y llwybr creigiog llithrig i fyny Moel y Gest ac ar hyd y grib at y copa. Ar ol picnic disgyn heibio’r “Activity Centre” a gweld y llamas, ceffylau a moch yn mwynhau y tywydd braf. Diolchwyd i Tecwyn am y daith sydd yn dechrau dod yn daith draddodiadol ar ddiwrnod Sant Steffan. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22 Ragfyr 2013. Dafydd Williams yn arwain 8 aelod ar ddiwrnod syndod o braf ar daith o’r enw “Cefn Gwlad Criccieth”. Cychwyn o faes parcio y Gorllewin a cherdded i fynny i’r Clwb Golff a dilyn y llwybrau i Ynys Ddu. Troi i’r chwith ac yn fuan cyrraedd Ystumcegid a’r Maen amlwg sydd oddeutu 4.000 mil o flynyddoedd oed. Ymlaen a chyrraedd glannau’r afon Dwyfor, a’i dilyn heibio Pont Rhyd-y-benllig ac i lawr i Lanystumdwy. Croesi’r A497 a chyrraedd yr afon Dwyfor eto ger y lli. Dilyn llwybr yr arfordir yn ol i Criccieth ac i gartref yr arweinydd a phawb yn mwynhau te a mince pies. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12 Ragfyr 2013. Llanarmon. Kath Mair yn arwain 35 o gerddwyr ar hyd llwybr hynafol Y Lon Goed o Chwilog. Er i’r tywydd tamp ddirywio a throi yn law, cafodd y cerddwyr fwynhad garw ar y daith Nadoligaidd a chael mince pies, te, scones a muffins yn nghartref Ian a Kath yn Llanarmon. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8 Ragfyr 2013. Pistyll a Moel Gwynus. Ar ddiwrnod mwyn sych a’r awyr yn las yn y bore arweinodd Catrin Williams 10 aelod o Pistyll. Cychwyn drwy ddringo, a dychwelyd i gopa Moel Gwynus, yna i’r Gogledd Ddwyrain a cherdded ar hyd y llwybr o amgylch Moel Garnguwch ac i lawr i’r Ganolfan IaIth yn Nant Gwrtheyrn. Cael te a choffee yn y café cyn dilyn Llwybr yr Arfordir yn ol i Pistyll. Taith wedi ei dyfeisio a’i arwain gan Catrin. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 28 Dachwedd 2013. Penllech. Diwrnod llonydd a dymunol a Megan Mentzoni yn gwneud yn gampus trwy arwain criw o 21 ar daith 6 milltir o Penllech. Mynd o amgylch pentref Llangwnadl  ar lwybrau wedi eu adnewyddu ac yn ymuno a llwybr yr arfordir yn Porth Widlin ar gyfer dychwelyd. Diwrnod arall boddhaol. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 24 Dachwedd 2013. Godre Moel Siabod. Judith Thomas arwainodd 17 cerddwr ar daith bleserus wedi ei ymchwilio yn dda o tua 6 milltir wrth odre Moel Siabod. Cychwyn o Pont Cyfyng ac o amgylch ochr de-ddwyrain y mynydd, dringo yn serth wrth ochr ffrydiau brysiog i 1900 troedfedd ger Llyn -y- Foel o ble r’oedd golygfeydd hydrefol ardderchog ar draws y pigau cyfagos. Diwrnod da yn gorffen hefo te yn caffe Bryn y Glo. Noel Davey. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 14 Dachwedd 2013. Taith y Llechi. Kath Spencer arwainodd 17 cerddwr ar daith o Lanberis. Cychwyn drwy gerdded rhwng Llyn Padarn a Llyn Peris ac i fynny i ysbyty’r chwarelwyr ac yna i fynny drwy’r coed tan cyrraedd y ffordd .Y cerddwyr yn mynd trwy Dinorwig ac ar y lwybr yn arwain i weddillion y chwareli llechi. R’oedd y llwybr ardderchog hwn yn ei arwain i lawr i De Ddwyrain Llyn Peris.Y cerddwyr wedyn yn dilyn y ffordd i gyfeiriad Llanberis heibio gweddillion Castell Dolbadarn .Mi oedd y tywydd yn braf drwy gydol y dydd ac mi oedd pawb wedi mwynhau’r daith wedi ei arwain mor fedrus gan Kath. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 10 Dachwedd 2013. Rhaeadr Coed y Brenin. Nick ac Ann White arwainodd criw o 14 ohonym ar daith neulltuol 9.74 milltir trwy Coed y Brenin ac mi oedd y morgludo a’r cyflymdra yn plesio. Mi oedd y tywydd hydrefol  yn ardderchog i gerdded: mi oedd yn haulog a’r tymherau oddeutu 10 C., er iddi oeri am gyfnod byr ar ol cinio .Mi oedd y golygfeydd yn odidog a’r coed yn adlewyrchu yr hydref diolch i’r tywydd tawel oer diweddar ac mi oedd y rhaeadrau yn gadael argraff, diolch i’r glaw trwm a gafom dros y chwe wythnos ddiweddar. Taith gofiadwy. Hugh Evans. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 31 Hydref 2013. Rhaeadr a Choed Llanbedr. Fred Foskett arwainodd 34 cerddwr ar daith bleserus o Llanbedr i’r coed a’r rhaeadrau lleol. Defnyddiodd y mwyafrif o’r cerddwr y tren o Bwllheli, Criccieth a Phorthmadog i Llanbedr a dychwelyd o Llandanwg. Wedi cwblhau y daith dyma ddychwelyd i dy yr arweinydd i gael te, coffi a chacen i ddod a diwrnod neilltuol i ben. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 27 Hydref 2013. Garndolbenmaen.  Tecwyn Williams arwainodd 12 cerddwr o Garndolbenmaen, a’r tywydd yn well na’r addewidion. Yn syth ar ol ymadael ardal y pentref mi oedd y llwybrau yn aneglur ac mi oedd yn wlyb dan draed. Cyrraedd ardal anial bwthyn Cae Amos ar ol croesi, hefo anhawster, yr afon gerllaw. Ymlaen wedyn i lawr i’r cwm hyfryd, Cwm Pennant, ac i fyny yr ochr arall, cyn dychwelyd heb fantes o lwybr yn y byd ar hyd ochrau Craig-y-Garn. Mi wnaeth Nick White arwain taith arall ond fyrach yn yr un ardal. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 17 Hydref 2013. Cylchdaith Edern i Garnfadryn. Ian Spencer arwainodd daith o 7 milltir o Edern i gyfeiriad Garn Fadryn. Diwrnod heulog braf yn denu 24 aelod gan fynd heibio ffermydd Bryn Rhyd a Tref-erwyn. Yna cyfnod byr ar y ffordd cyn mynd i gyfeiriad y de eto i’r eglwys ddifyr ger Fferm Tyn Llan. Y llwybr wedyn yn arwain yn agos at Castell Madryn cyn troi i gyfeiriad Edern a mynd heibio ffermydd Ynys a Madrynisaf. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 13 Hydref 2013. Cerrig Gwynion. Ar ddiwrnod weddol sych cychwynodd 7 cerddwr o Lanfairfechan i gyfeiriad Cerrig Gwynion dros Waun Llanfair. Yn absenoldeb Hugh Evans, ein Cadeirydd cadarn, Noel Davey arwainodd y daith bleserus yma.. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau Hydref 3 2013. Beddgelert-Nantmor ar y tren stem. Arwel Davies a drefnodd wledd i 29 aelod. Yn teithio hefo tren bach Ffestinio o Feddgelert a dychwelyd ar Lwybr y Pysgotwyr  a te i ddilyn yn Beddgelert. Er iddi fod yn ddiwrnod cymylog wnaeth hi ddim glawio ac mi oedd Ceunant Aberglaslyn more brydferth ac erioed. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

 Dydd Sul Medi’r 29 2013. Crib Foel Ganol a Drum. Pam Foster a Diane Doughty arwainodd criw o 11 ar daioth bleserus o Abergwyngregyn i’r Carneddau. Mi oedd yn ddiwrnod haulog braf hefo golygfeydd ardderchog ar draws y Fenai i Ynys Mon ond mi oedd yn wyntog. Ar ol cyrraedd Foel Ganol penderfynodd dau gerddwr fynd yn ol  tra r’ oedd y gweddill yn ymdrechu yn erbyn gwynt cryf ar hyd y grib i gopa Drum cyn disgyn yn ddiolchgar i le tawel a Chwm Anadon. Diwrnod ardderchog yn dod i ben hefo te yn y caffi yn Aber. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 19 Fedi 2013. Cwm Nantcol. Dafydd oedd yn arwain y daith yma yn fedrus ac nid oedd y tywydd  yn addawol hyd nes yn sydyn, dyma’r cawodydd yn dod yn haul braf. Mi oedd y daith yn cychwyn o ben Cwm Nantcol, cwm unig a difyr iawn ac i fyny dros 1000 o droedfeddi  ar lethrau creigiog, Foel Wen. Wedyn i lawr ar hen lwybr o  ble r’oedd y dwsin cerddwr yn cael golyfeydd i lawr y cwm i’r arfordir o amgylch Llanbedr ac ar draws i Lyn. Noel Davey.  (Cyf-DHW)

Dydd Sul 15 Fedi 2013. Dolwyddelan. Oherwydd tywydd garw mi oedd rhaid  gohirio’r daith i fyny Carnedd y Cribau. Felly arwainodd Dafydd Williams criw o chwe cerddwr dewr ar daith fer o Dolwyddelan. Er y tywydd mi oedd yn daith adfywiol a phleserus. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 5 Fedi 2013. Llanelltyd/New Precipice. Alan Edwards a Beryl Davies wnaeth arwain yn wych gan dywys 35 cerddwr ar ddiwrnod braf ar daith 6 milltir o Abaty Cymmer, ger Llanelltyd, y daith yn cynnwys y llwybr ysblennydd a clogwynau y New Precipice. Mi oedd y tywydd yn garedig unwaith eto a’r golygfeydd yn gofiadwy. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 1 Fedi 2013. Crib Nantlle.Mi oedd yna ddwy daith yn y tywydd heulog yn ardal Talysarn. Catrin Williams yn arwain 6 ar daith bleserus isel raddol ar lwybrau diddorol i Nebo. Mi wnaeth10 o gerddwyr arall ddewis i wneud taith mwy egniol ar grib Nantlle a cael eu harwain gan Noel Davey. Ar ol dringo yn eitha rhwydd i gopa Cwm Silyn, y man uchaf ar y grib, mi oedd y daith yn cynwys Tal y Mignedd a Trwm y Ddysgl cyn disgyn dros lethrau grug at dir agored i lwybr i’r de o Lyn Nantlle, cyfanswm o bron 9 milltir. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau Awst 22 2013. Llanbedrog – Rhydyclafdy. Miriam Heald arwainodd yn fedrus 28 aelod ar ddiwrnod wirioneddol braf ar gylch-daith o Lanbedrog. Dilyn Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad Pwllheli cyn troi i’r tir  rhanau o Ben Llyn na toedd llawer o’r cerddwyr heb eu cyffwrdd cynt. Cael te bach mewn man hyfryd ger Rhydyclafdy cyn gorffen y cylch yn Llanbedrog. Ian Spencer. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 18 Awst 2013. Trefnodd y Clwb 2 daith, y cyntaf. Craig y Llyn a Braich Ddu, yr hiraf a’r uchaf  gyda Noel Davey yn arwain. Taith hyfryd wedi ei chynllunio gan Hugh Evans (oedd yn methu arwain oherwydd anabledd i’w goes). Dringodd y 7 cerddwr yn serth at Lynnau Cregennan uwchben Arthog a cherdded  o amgylch  Tyrraau Mawr ac ar hyd y grib godidog uwchben Craig-y-Llyn o ble yr oedd golygfeydd syfrdanol dros yr afon Mawddach ar draws i Benrhyn Llyn ac i lawr yr arfordir i Sir Benfro. Mi oedd Noel yn ddirprwy arweinydd ardderchog yn absenoldeb Hugh.

Mi oedd yr ail daith hefyd yn bleserus ac yn cael ei arwain gan Nick White a’i wraig, Ann. Mi wnaeth yr 11 aelod fwynhau yn fawr iawn y golygfeydd anhygoel wedi cychwyn o Lynnau Cregennan a mynd yr ochr isaf i Bryn Brith a heibio Ty’n Llidiart. Yna i lawr i’r heol fach ac i’r gorllewin a chroesi tir corsiog cyn cyrraedd yn ol yn Cregennan. Mwynhaodd y mwyafrif o’r cerddwyr luniaeth mewn lle bwyta Llyn Gwernan. Ian Spencer.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 8 Awst 2013. Garnfadryn. Judith Thomas oedd yr arwainydd siriol yn cynwys 29 cerddwr gan gychwyn o Garnfadryn i gopa’r mynydd a mwynhau’r golygfeydd anhygoel o ddwy ochr Penrhyn Llyn. Canu penblwydd hapus yn y ddwy iaith i ddathlu penblwydd Dafydd Williams yn 77 oed. Judith wedyn yn arwain i lawr a gwneud cylch o’r mynydd a’r mwyafrif yn mwynhau te a hufen ia yng Nghaffi Botwnnog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 4 Awst 2013.Borth- y- Gest. Kath Mair arwainodd 10 cerddwr o Borth y Gest a gwneud cylchdaith o Foel y Gest, gan gychwyn i fyny a drwy y coed hyfryd tu ol i’r pentref, a chroesi ffordd Morfa Bychan. Ymlaen heibio y fferm “Lammas”, dros y Bwlch ac i lawr heibio Bron y Foel. O’r fan honno i gyfeiriad Penmorfa, i fyny, a gwneud cylch o Allt Wen ar lwybr newydd i fwyafrif o’r cerddwyr, heibio Gesail Gyfarch ac ymlaen i ffordd Prenteg .  Mwynhaodd y cerddwyr y daith oedd wedi ei harwain mor fedrus er gwaethaf y cawodydd trymion. Ian Spencer.  (Cyf-DHW).