Awst 24 – Gorff 25

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams, a "(Cyf-GJ)" gan Gwynfor Jones.

Dydd Iau Awst 29 2024. Talsarnau-Soar. Roedd yr haul yn gwenu heddiw am daith hyfryd o Dalsarnau. Cyfarfu criw o 27 dan arweiniad Elsbeth ger tafarn y Ship Aground yn y pentref.

Roedd y daith gerdded yn arwain yn gyntaf ar draws caeau a rheilffordd y Cambrian i forfeydd heli Glastraeth ar y Traeth Bach gyferbyn ag ynys lanw canol sianel Ynys Gifftan, nad oedd neb yn byw ynddi ers y 1960au. Roedd glaswellt y gors caled yn arfer cael ei werthfawrogi ar gyfer tywyrchu caeau pêl-droed a lawntiau bowlio. Roedd golygfeydd gwych draw i Bortmeirion, gan roi persbectif gwahanol o’r dirwedd leol o daith gerdded ddiweddar ar Bentir Portmeirion.

Yna dilynodd y llwybr Lwybr yr Arfordir tua’r de-orllewin heibio i ffermydd Draenogan Mawr a Bach, troi tua’r de-ddwyrain dros glawdd ac ail groesi’r rheilffordd. Roedd y llwybr yn croesi’r ffordd fawr ym Mhont Fuches Wen yng Nglan y Wern ac yn parhau i Bont y Glyn. Ger yma mae stad Glyn Cywarch, cartref hanesyddol y teulu Wynn yn dyddio o'r 17G. Roedd y daith bellach yn dilyn llwybr coediog hyfryd tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd glan ddeheuol Afon y Glyn gyda sgarp feiddgar y Coed Duon yn codi’n serth yr ochr arall.

Ar ôl arhosfan fer am banad aeth pont droed â'r parti ar draws yr afon i ddringo llwybr serth i mewn i bentref golygfaol Soar. Aeth rhai llwybrau glaswelltog troellog â’r parti drwy erddi a rhandiroedd diddorol ar gyrion y pentref, gan ddringo’n raddol i dirwedd fwy agored.

Roedd bryncyn yn y man uchaf, llecyn hyfryd i ginio, yn agor panorama godidog o fynyddoedd Eryri, yn disgleirio’n llachar yn yr heulwen, yn ymestyn o Foel Hebog i’r Moelwynion, o boptu masiff yr Wyddfa â chap y cwmwl. Ar Fferm Cefn Trefor, roedd y llwybr yn torri’n sydyn i lawr lôn wledig, gan droi i ffwrdd ar lwybr coediog dymunol arall i Faes Gwyndy ac yn ôl i’r stryd fawr a’r brif ffordd drwy Dalsarnau.

Roedd hon yn daith bleserus iawn o tua 5ml a 1200 troedfedd o ddringo dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).

Dydd Sul 25ain Awst 2024. Ty’n y Groes – Coed y Brenin. Cyfarfu 7 o rodwyr o dan arweiniad Eryl yn Ty’n y Groes ar gyfer cylchdaith ddymunol  yn y rhan deheuol o Coed y Brenin. Roedd yn fore gwlyb ond roedd y rhagolygon o wyntoedd 50 milltir yr awr yn anghywir gan i’r cerddwyr fod yng nghysgod y coedwigoedd a’r bryniau isel.

Cychwynnodd y daith ar lwybr coedwig yn arwain i’r gogledd-ddwyrain gyda dringo serth  oddeutu 500 troedfedd yn yr hanner milltir cyntaf a gymerodd tua hanner awr. Yn Penrhos Uchaf aeth y llwybr i mewn i ardal goetir nodweddiadol mwsoglyd, symffoni o wyrddni rhyfeddol! Roedd “bothy” sylweddol ac wedi ei drefnu yn dda yn yr hen dy fferm Penrhos Isaf, yn cael ei gynnal gan “Mountain Bothies Association”, yn le croesawgar, allan o’r glaw, i gael paned y bore.

Yna parhaodd y ffordd i gyfeiriad y gogledd ar rhwydwaith o draciau a llwybrau coedwig, o amgylch uchder o 600 troedfedd, ymylu i’r gorllewin o Bryn Merllyn heibio Friog a Mynydd Cae’n y Coed. Daeth rhai mannau agored gyda grug a golygfeydd lletach o’r cwm coediog a chopâu niwlog. Yna dyma’r ffordd yn disgyn 400 can troedfedd yn araf i’r Afon Mawddach oedd yn  cwympo yn ysblennydd dros feini mawr mewn hafn coed linellog dwfn a chul. Dilynwyd y llwybr drac y glan dwyreiniol o’r afon, heibio cyflifiad a’r Afon Eden. O’r diwedd mi groesodd yr afon ar bont droed yn Ganllwyd ble profodd byrddau picnic yn le cyfleus os tamp i gael tamaid o ginio fel roedd y glaw yn lleihau.

Yn y prynhawn croesodd y daith yr A470 heibio’r Neuadd Gymunedol ddu drawiadol rychog, eglwys genhadol adeiladwyd oddeutu 1900 a’i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2006. Yna dyma rwydwaith o lwybrau yn ymchwilio stad a tŷ Dolmelynllyn, nawr hefyd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Adeiladwyd y Plas dŷ diddorol yn 1796 i William Maddocks sylfaenydd Porthmadog, ond wedi ei ehangu a’i newid yn arw wedyn. Mae nawr yn cael ei addasu fel gwesty bychan. Mae’r stad oddeutu 1250 acer yn cynnwys coedwig law tymheraidd a hen goedwigoedd, yn nodedig am amrywiaeth o blanhigion parasitig a cen y coed. Nodwedd diddorol yn y fan hyn i’w wal o dyllau gwenyn, agoriadau bychan sgwâr yn cael ei defnyddio ar gyfer cychod gwenyn cyn dyfodiad rhai pren.

Mordwyodd lwybr o amgylch llyn arddunol bychan.  Aeth stepiau a’r parti yn ol i oddeutu 500 troedfedd cyn troi lawr eto ar ffordd fechan fetelaidd yn Berth Lwyd, man cyn bwll aur. Roedd hon yn daith weddol rwydd oddeutu 7 milltir gyda 1270 troedfedd o ddringo dros 4 awr, dewis da ar ddiwrnod tamp!  Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau Awst 15ed 2024. Fferm Afonwen – Lon Goed. Gohiriwyd taith Heddiw o’r rhaglen ddiwethaf oherwydd tywydd garw. Y tro hyn roedd eto’n wlyb a gwyntog ond yn gynnes ac nid yn annymunol. Nia Parry arweiniodd 13 aelod o’r clwb ar gylch rhwydd o Fferm Afonwen.

Dilynodd y daith yn y dechrau drac fferm i lawr i’r arfordir yn Sŵn y Don, a throi i’r gorllewin ar hyd reilffordd y Cambrian heibio rhes o garafanau teithio tymhorol, i’w gweld yn ddigon trochlyd yn y tamprwydd. Aeth pont llithrig a’r parti dros y reilffordd a throi yn ôl dros bont droed a llwybr i  lawr i draeth llydan creigiog, wedi ei groesi yn ysbeidiol gan argaeau yn dilyn stormydd. Mae rhan newydd pendant o Lwybr Arfordirol i’w ddisgwyl yn y fan hyn. Roedd y traeth dinoeth yn wyllt a gwyntog gyda môr garw. Y bwriad gwreiddiol oedd i gerdded ar hyd  y traeth i Fferm Glanllynnau, ond newidiwyd hyn ar ôl hanner milltir oherwydd yr amodau tywydd. Yn y  lle hyn dringodd y parti y clawdd cerrig anferth yn amddiffyn y reilffordd o erydiad arfordirol, ac yn ôl dros giât anodd ac yn ôl i Fferm Afonwen.

Cymerwyd ffordd arall swnllyd annymunol ond mwy cysgodol ar y lon beicwyr ar ochr yr A497 brysur. Aeth hon heibio yn agos i dwmpath wedi ei guddio drosto gan eithin, adnabwyd fel y Domen Fawr, cylchfur caeedig amddiffynnol Normanaidd, ddefnyddiwyd wedyn gan y Tywysogion Cymraeg; gwnaeth cloddio yn ystod adeiladu’r ffordd o amgylch yn 2004-6 o hyd i dystiolaeth o’i ddefnydd yn y ddwy gyfnod, sef yr Oes Efydd a Rhufeinig-Brydeinig. Roedd hi yn ollyngdod i droi oddi ar y lon bost yn yr Hen Fwthyn Giât Doll gwyngalchog, cyn arwydd o bwysigrwydd y ffyrdd arfordirol.

Dilynodd y daith ffordd fach wledig i’r gogledd, yn agos i’r Afon Dwyfach. Aeth hon heibio Plas Talhenbont, plasty adeiladwyd yn 1607 gan y Vaughaniaid o Gorsygedol, wedyn yn eiddo i deulu Ellis-Nanney ac yn mwy diweddar ei ddatblygu fel lle i gynnal priodasau a bythynnod gwyliau. Yna trodd y ffordd i’r de ar y Lon Goed, trac coed ochrog adeiladwyd yn wreiddiol i gyflawni agen a chalch i ffermydd mewndirol yn yr 18G. Mae’r rhodfa ffrwythlon ac urddasol yma yn hyfrydwch mewn unrhyw dymor ac roedd yn gysgod ar gyfer cinio tamp! Rhyw ddwy filltir ymhellach ail ymunodd y ffordd a’r lon beicwyr ar yr A497 yn ôl i’r man cychwyn. Er gwaethaf y tywydd, roedd hon yn siwrnai bleserus groesawus oddeutu 5.5 milltir dros 3 awr yn caniatáu digon o gyfle i gloncian. Noel Davey. (Cyf: DHW)

Dydd Sul Awst 11ed 2024. Trawsfynydd – Foel Fawr. Daeth diwrnod heulog gyda awel gymedrol aeth a 11 o rodwyr i Trawsfynydd am gylch hamddenol, o dan arweiniad Hugh Evans, yn y bryniau yn y dwyrain. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio ger y fynedfa i’r orsedd bŵer, yn gyntaf yn ddewr, wynebu’r A487 swnllyd cyn suddo i lonyddwch mwsoglyd ardal hyfryd o goed derw. Arweiniodd lwybrau drwy gaeau i Tomen y Mur, man pwysig yr Gaer Rhufeinig, wedi ei dominyddu gan y twmpath o’r mwnt Normanaidd llawer hwyrach.

Dilynodd y ffordd ran o’r Ffordd Rufeinig o’r Sarn Helen, heibio basn hynafol gwelltog or hen amffitheatr ble unwaith diddanwyd milwyr y garsiwn. Yna trodd ar draws y tirlun garw bryniog o rostir yn aml yn  ddi-lwybr a ddominyddodd y gweddill o’r dydd. Dringodd y parti yn gyson drwy wair corsog a llus gan fynd heibio Lyn Craig y Tan, i gopa Foel Fawr oddeutu 1750 troedfedd o uchel. Roedd y man manteisiol yma yn caniatáu golygfeydd rhyfeddol yn ôl lawr i Lyn Trawsfynydd, gwarchodwyd gan y ddau dwr sgwat o orsaf bŵer Spence, gyda chefndir o fynyddoedd y Rhinogydd. i’r gogledd ceir coedwig Hafod Fawr a  chopâu uchel Eryri.

Ymlaen i’r dwyrain, aeth y ffordd heibio Llyn Graig y Wen, un o nifer o lynnau cronafwyd yn yr 19G ar gyfer pyllau a chwareli leol. Roedd copa gerllaw o’r Graig Wen yn 1850 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod, yn le braf i gael cinio gyda amser i fwynhau y gogoniant o’r tirlun mynyddig amgylchynol, o restr Cadair i’r Arans yn y de, i’r Arennig a’r Arans yn y dwyrain, rhosydd Dinbych yn gwywo i’r tarth a chromen Manod Mawr, yn llywodraethu tir corsiog y Migneint i’r gogledd. Roedd rhan y prynhawn ar i lawr i weddillion diddorol o Bwll Aur y Tywysog Edward, oedd yn gweithio o ddiwedd y 19G tan1935,  a chyfrannu 278 owns  o aur, a’i rannol ddefnyddio ar gyfer modrwya brenhinol, o 123 tunnell o fwyn.

Trodd y ffordd adref i’r gorllewin, ac o’r diwedd dod i drac garw oedd yn mynd yn ffordd ar hyd cyn dramffordd yn chwareli llechi Braich Ddu, bellach yn gweithio mewn dyll lai ar gyfer llechi ardduniadol. i ddiweddu, ail ymunodd y ffordd a’r llwybr allanol yn ôl i’r orsedd bŵer. Roedd hon yn ddiwrnod da mewn ardal ddim yn aml yn cael ei mynychu, 8-9 milltir a 2230 troedfedd o ddringo cynyddol dros 6.75 awr. Roedd y tirlun a’r gwres anghyfarwydd yn gwneud y daith deimlo’n hollol flinedig tra roedd y gwelededd da yn gwneud y gorau o’r golygfeydd mynyddig eithriadol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Mawrth 6ed Awst 2024. Ar draws y Carneddau. Yn wreiddiol roedd croesi’r  Carneddau wedi ei gynllunio ar gyfer diwedd Mehefin, ond cafodd ei ohirio nifer o weithiau i ddisgwyl gwell tywydd! O’r diwedd cyrhaeddodd diwrnod heulog clir addas yn Awst a dyma barti o 5 (allan o 10 gwreiddiol oedd eisiau mynd) o dan arweiniad Gareth Hughes oedd yn medru gwneud y daith.

Bu cychwyn buan o Glan Dena ar yr A5 prin i’r dwyrain o Llyn Ogwen. Roedd y dringo ar ochr Afon Lloer yn serth a braidd yn araf, ond o’r diwedd cyrhaeddwyd y tro gorllewinol yn Clogwyn Mawr uwchben Cwm Lloer a Bryn Mawr, yn arwain i Pen yr Ole Wen, y cyntaf o bum copa’r diwrnod dros 3000 troedfedd. Roedd yna olygfeydd trawiadol ar draws i’r twr grymus o Tryfan, ei waliau garw yn disgleirio’n siarp yn haul y bore. Arweiniodd y ffordd nawr ar y tir rhwyddach o’r bwa mawr yn troi i’r gogledd a’r dwyrain mewn cylch i Carnedd Dafydd, ac o’r diwedd Carnedd Llewelyn, y ddau gopa uchaf o’r diwrnod, y ddau bron 3500 troedfedd. Roedd y grib gogleddol greigiog rhwng y ddau gopa yn syrthio yn serth i lawr i’r Ysgolion Duon (Y Black Adders) dramatig. I’r de roedd nawr yna olygfeydd ysblennydd ar draws y canol o Eryri, o’r talp llwyd o’r Glyderau gyferbyn, yn cynyddu i’r Wyddfa a Grib Goch a draw ac yn bellach Grib Nantlle a’r Eifl.

Gyda gwynt bywiog De Orllewin a cyfnod o gymylau trymach roedd y parti yn falch o gysgod lloches gerrig ar gopa Carnedd Llewelyn. Erbyn hyn roedd y cerddwyr yn camu’n gyflymach ac roedd rhan y prynhawn gan fwyaf ar lwybrau gwelltog ar draws y llwyfandir gwastad uchel, cyrraedd copa Foel Grach, ble mae cwt lloches, yn ddidrafferth. A Carnedd Gwenllian (Ail enwid yn 2009 i ddathlu yr arwres Gymraeg a merch i Llywelyn ein Llyw Olaf, (Llywelyn the Last). Agorodd golygfeydd hardd drwy’r coed i gyfeiriad Dyffryn Conwy i’r dwyrain ac i’r Fenai a Ynys Môn i’r gogledd. Trodd y rhan olaf i’r gorllewin a chroesi ger brigiadau creigiog Yr Aryg, y Berasau a Drosgl, ac yn raddol ddisgyn ar draws Gyrn Wigau. Canolbwynt yr olygfa nawr oedd copâu Elidir a Carnedd y Filiast a’r traciau’n troelli lawr yn Chwarel y Penrhyn.

Fel aeth y ffordd i Gerlan roedd golygfeydd y mynydd yn newid i dyddynnau waliog ac hen lwybrau chwarel a lonydd bach Bethesda, terfyn y daith linellol. Roedd hon yn daith gofiadwy ac yn ddiwrnod egnïol, pellter oddeutu 12 milltir mewn 8 awr a bron 5000 troedfedd o ddringo cynyddol ac werth y disgwyl am dywydd addas. Noel Davey. (cyf: DHW).

Dydd Iau 1af Awst 2024. Porth Ceiriad. Cylch oedd taith heddiw o ran teg o Lwybr Arfordirol Cymru i’r de o Abersoch. Cyfarfu 28 aelod o’r clwb, dan arweiniad Louise Fletcher-Brewer, yng Ngwesty croesawgar Bwlch Tocyn ar ddiwrnod cynnes bendigedig, gyda awel ysgafn o’r tir.

I ddechrau cychwynnodd y daith i lawr i Machros a’r gorllewin ar hyd y “Lon Haearn”, yr argae sydd ar ôl o’r reilffordd wnaeth yn yr 19G i gludo mwyn o’r pyllau metel lleol i’r lanfa yn Penrhyn Du. Yn y gyffordd gyda’r trac i lawr i’r Cwrs Golff, trodd y parti i fyny’r allt ar ffordd i anifeiliaid coediog cul iawn (mewn theori ar agor i bob trafnidiaeth, ond yn beryglus i geir!). Ar y top mae pentre bach Bwlchtocyn, ac o hyd ei gapel annibynwyr diymhongar adeiladwyd yn 1796. Yna dilynwyd lwybrau caeau i’r de trwy Fferm Corn a Riffli yn caniatáu golygfeydd i lawr yr orynys tuag at Porth Neigwl  (Hell’s Mouth), Rhiw ac Ynys Enlli. Arweiniodd rhan ar i fyny, ar ffordd Cilan heibio Bryn Celyn Uchaf, i lwybr cae dwyreiniol i Nant y Big, ble cynigiodd perchen y gwersyll i’r cerddwyr ddefnyddio’r “cyfleusterau”.

Nawr dilynodd y daith rhan odidog o’r Llwybr Arfordirol yn rhedeg uwchben y bae clogwynog gwych o Porth Ceiriad ac yna i’r gogledd ar hyd yr ymyl o Fferm Cim. Yn dilyn dringo da roedd yn amser i ginio hamddenol ar y pentir gwelltog o Drwyn Yr Wylfa lle roedd yna olygfeydd ardderchog yn edrych dros Traeth Porth Ceiriad, yn syndod o ddistaw heddiw, i glogwyni Pared Mawr, ei gaer oes yr haearn, a llwyfandir Mynydd Cilan. Roedd pâr o gudyll yn hofran gerllaw. Daeth llwybr Cim, yn uchel uwchben y clogwyni du, a golygfeydd yn cael eu pwnio gan foroedd  glas diorffwys, yn dod a hynod mwy o olygfeydd eang ysblennydd o’r ddwy ynys, St. Tudwal yn union ar draws y dwr a, tu draw, y cylch mawr o’r mynyddoedd Cymreig o’r Wyddfa i Cadair Idris.

Yn rhu fuan trodd y llwybr i lawr heibio i’r hen mwyngloddiau yn ôl i Bwlch Tocyn yn dilyn taith arfordirol hyfryd oddeutu 5-6 milltir dros 3-4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).