Awst 12 – Gorff 13

Awst 12 – Gorff 13

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau 25 Gorffenaf. Bryn Cader Faner. Dafydd Williams  arwainodd griw o 26 cerddwr o Lyn Tecwyn ar ddiwrnod oer ond sych, i fyny’r llwybr i Nant Pasgan Bach. Ymlaen ac i fyny dros y bwlch a chyrraedd Bryn Cader Faner, y cylch cerrig 4000 o flynyddoedd oed o’r Oes Efydd a gyfeiria ato hefyd fel y Goron Ddrain. Oddi yno dilyn Llwybr Ardudwy yn ol i’r cychwyn. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Sul 21 Gorffenaf 2013. Cylch o Aberdaron i Borth Oer. Roy Milnes arwainodd 10 cerddwr ar gylchdaith o Aberdaron ar ddiwrnod  heulog gyda awel lesol o gyfeiriad Aberdaron. Gwneud defnydd o Lwybr yr Arfordir a llwybrau eraill ar y daith o 11 milltir heibio Porth Oer (Whistling Sands). Cyrraedd yn ol yn Aberdaron am 6 o’r gloch. Hefyd mi arwainodd David ac Elizabeth Williams 6 aelod ar daith fyrach o Aberdaron a gorffen am 3.25 y prynhawn a mewn pryd i fwynhau hufen Ia. Gorffen drwy fynd ar hyd y clogwyn uchel yn gwynebu Enlli. Taith ddiddorol a phleserus wedi ei harwain yn fedrus. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 11 Gorffenaf 2013. Trefriw Llyn Geirionydd. Criw bychan detholedig deithiodd o Drefriw a cael eu harwain gan Maureen Evans drwy gefn gwlad brydferth i Lyn Geirionydd. Mi oedd y tymherau uchel yn oddefol oherwydd  cysgod dymunol  y coed. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 7 Gorffenaf 2013. Bethesda – Carnedd Dafydd – Yr Elen. Noel arwainodd 10 cerddwr ar gylch daith 13 milltir egniol  o Fethesda i’r Carneddau. Y ffordd yn mynd i fyny Cwm Caseg ac yna esgyniad hir i Foel Ganol a’r Elen a chyrraedd y grib yn cysylltu Carnedd Llewelyn a Charnedd Dafydd, yr ail a trydydd o fynyddoedd uchel yn Gymru a Lloegr. Yna i Cwm Llafar ac er  y diwrnod cynnes, mi oedd y cymylau ar y copaon yn lleihau y gwres ac yn cwtogi ar y golygfeydd. Y criw yn cyrraedd yn ol yn Bethesda am 7.00 yr hwyr  yn flinedig  ond yn teimlo yn foddhaol iawn.  Noel Davey. (Cyf: DHW).

 Dydd Iau 27 Mehefin 2013. Nant Gwrtheyrn/Pistyll. Ian Spencer arwainodd 22 aelod o faes parcio Mount Pleasant i lawr i Nant Gwrtheyrn a chael coffi cyn dilyn Llwybr yr Arfordir a dringo i ben y clogwyn. Oddi yno mynd ar hyd rhan newydd o’r Llwybr heibio safle Gwladfa Canol Oesol y Gwahanglwyf ger Eglwys Pistyll. Oddi yno mynd yn ol i Mount Pleasant gan ddefnyddio’r llwybr arferol. Yn anffodus cafodd y diwrnod diddorol ei sarnu oherwydd i’r tywydd fod yn wlyb unwaith eto. (Efallai i’r darllenwyr wybod mae Ian yw Pen Campwr y Clwb o fod yn gerddwr olaf taith unigol. 91.6M ar Glawdd Offa Mehefin 2013 – Golygydd). (Cyf: DHW).

Dydd Sul 23 Mehefin 2013. Cylch o’r Rhinogydd. Dafydd Williams (Hen law ar Clawdd Offa – golygydd) yn arwain 9 cerddwr ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog ar gylchdaith yn y Rhinogydd. Cychwyn ger Cronfa Trawsfynydd, i fyny a dros y Bwlch ac i lawr i Cwm Moch cyn cyrraedd Bryn Cader Faner, lle cyffroes, lle claddu oes efydd yn cael ei ddisgrifio fel “Coron Ddrain”. Yna i fyny i  Lyn Dywarchen ac ar hyd llwybr ardderchog i Lyn Du a disgyn yn serth cyn croesi tir corsiog yn ol i’r ceir. Y criw yn cael eu harwain yn dda o dan amgylchiadau gwael. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 13 Mehefin 2013. Llyn Gwernan. Nick White yn arwain 7 aelod ar daith 5 milltir foddhaol o Ddolgellau i fyny i Lyn Gwernan ar hyd llwybrau pleserus drwy’r coed ac ar draws dolau wrth odre Cader Idris. Diwrnod tamp a chymylog  hefo glaw ar y cychwyn ond yn gwella at y diwedd. Gorffen hefo te yn caffi,  T. H. Roberts, Ty’r Senedd, Dolgellau. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 9 Mehefi 2013. Dolwyddelan, Pont y Pant, Sarn Helen. Nick White arwainodd 6 cerddwr ar daith 7.5 milltir ardderchog o Dolwyddelan ar hyd rhan o Sarn Helen i Pont y Pant gan ddychwelyd drwy lwybrau coediog pleserus ar lannau Afon Lledr. Mi oedd yn ddiwrnod heulog cynnes gyda awel bleserus a braf oedd cael torri syched ar y daith yng Ngwesty Plas Hall. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 30 Mai 2013. Nanhoron Pwllheli.Ar ddiwrnod heulog braf Miriam Heald arwainodd 27 aelod ar daith bleserus 6.7 milltir o Blas Nanhoron i fyny at Garn Bach ar ychydig lwybrau sydd ar agor yn yr ardal yma. Uchafbwynt y diwrnod oedd cael ymweld a gerddi godidog y Plas ble’r oedd Clychau’r Gog, azaleas a blodau’r gwanwyn yn yr ardd yn edrych  yn syfrdanol. Dyma wahoddiad gan Bettina Harden i’r ty am de ac adroddodd hanes y teulu. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 26 Mai 2013. Nant Peris, Glyders-Foel Goch.Ar ddiwrnod gwyl y banc, braf a heulog, Hugh Evans  arwainodd yn fedrus criw o 4 cerddwr profiadol ar daith o 10 milltir ar draws y Glyderau. Mynd ar y bws Sherpa o Nant Peris i Pen y Gwryd a dringo ar lwybr y Miners a thrwy gangymeriad yn methu y “cantilever” wrth droedio heibio Glyder Fach a Glyder Fawr. R’ oedd yna olygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad. Ymlaen i’r Garn a Foel Goch cyn disgyn drwy Cwm Dudodyn i Nant Peris a chael ymlacio mewn tafarn leol ar ol diwrnod cofiadwy ac egniol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 23 Mai 2013. Spring Reunion Luncheon Nant Gwrtheyrn. Cafodd 44 aelod fwynhau cinio aduniad ardderchog a gafodd ei gynnal am yr ail flwyddyn yn Nant Gwrtheyrn. Diddanwyd y ciniawyr drwy iddynt edrych ar luniau o wyliau  y Clwb a teithiau diweddar, wedi ei drefnu gan Nick White.Fred Fosket enillodd y wobr raffl wedi ei drefnu gan Dafydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 16 Mai 2013. Coed y Brenin. Nick ac Ann White arwainodd 26 aelod ar daith foddhaol 4 milltir yn Coed y Brenin ar ddiwrnod braf. Pawb wedyn yn mynd i dy Nick ac Ann yn Bontddu a mwynhau te arbennig i ddathlu pen blwydd Ann yn 70 oed. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 12 Mai 2013. Llwybr yr Arfordir Mon. Cemaes i Bull Bay a Llugwy. 16 aelod yn mynd ar ddwy daith i’r dwyrain o Gemaes Bay, a chwblhau un o’r rhanau olaf o Lwybr yr Arfordir Mon oedd heb ei gerdded gan y Clwb. Kathleen Marsden arwainodd yn fedrus adran anodd o 6 milltir i Bull Bay. Er gwaethaf y tywydd gwlyb a chymylog mi oedd golygfeydd yr arfordir yn wych. Noel Davey arwainodd 7 cerddwr 4 milltir ym hellach heibio Amlwch i Laneilian a chael tywydd sychach. Uchafbwynt y daith  oedd ymweld a Eglwys San Badrig, Dolffins, safle mwyaf gogleddol o Gymru a gweddillion y ffatri cynhyrchu Porslen a gwaith bricks. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 2 Mai 2013, Dau Lyn Gwreiddiol a Llwybr yr Arfordir. 32 cerddwr yn mwynhau taith hyfryd ar ddiwrnod arbennig o braf. Dafydd Henry arwainodd gan gychwyn o Ffarm Merthyr a gwneud y daith fer tuag at y rhai yn dringo Moel Goedog ac ail ymuno gyda’r gweddill ar waelod y mynydd i’r dwyrain. Ymlaen ar lwybr da o amgylch Moed Goedog tan iddo gyrraedd Llwybr Ardudwy a’i ddilyn gan ddod i fan cyfleus i gael picnic. R’oedd golygfeydd o fynyddoedd uchaf Eryri, Penrhyn Llyn yn cynnwys Ynys Enlli, Y Rhinogydd ac yn y pellter, Sir Benfro, a’r mor llonydd, yn rhyfeddol. Mi oedd hon yn daith fendigedig. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 28 Ebrill 2013. Carneddau. Bera Bach, Bera Mawr. Pam Foster a Diane Doughty yn rhoi cynnig  dewr arall ar arwain taith i’r copfeydd o Fethesda mewn tywydd arferol wael. Criw o 7 yn cyrraedd copa Drosgl ychydig yn is na Bera Bach, a’r tywydd yn troi yn wyntog, oer a niwlog ac yn gorfodi’r cerddwyr droedio i lawr yn gyflym. Er hynny mi oedd rhai wedi mwynhau y daith egniol. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Gwener 19 Ebrill 2013. Dartmoor. Y Clwb yn cychwyn am 7 diwrnod ar ei gwyliau blynyddol i HF Holidays Country House yn Haytor, Devon. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 18 Ebrill 2013. Penrhybdeudraeth.Kath Spencer arwainodd daith ddelfrydol o fannau aros cerbydau i’r gogledd orllewin o Benrhyndeudraeth. Cychwyn i gyfeiriad y de cyn ail groesi y ffordd a dringo i ben ucha Penrhyndeudraeth a chymeryd y llwybr heibio Rhiw Goch i bentref bychan Rhyd. Yna dychwelyd drwy Coed Llyn y Garnedd gan fynd heibio argae Hafod y Llyn. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul. 14 Ebrill 2013.Garndolbenmaen.14 stalwart yn cyfarfod yn Garndolbenmaen ar gyfer dwy daith i’w harwain gan Tecwyn Williams a Nick ac Ann White. Mi oedd y tywydd yn sobor, glaw trwm ac mi benderfynwyd i uno y ddwy daith a gwneud yr un fyra. Buan iawn dyma ddod i’r canlyniad ei bod mor wlyb mae rhoi gorau iddi fydda y peth calla a dychwelyd i’r ceir. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 4 Ebrill 2013.Llyn Cwm Ystradllyn.Alan Edwards a Beryl Davies yn arwain taith ardderchog o 5.5 milltir o amgylch Llyn Cwmstradllyn ar ddiwrnod heulog a golygfeydd arbennig. Mi oedd olion yr hen byllau llechi yn ddiddorol yn cynnwys yr hen felin lechi, y waliau shapus yn Chwarel Gorseddau a’r pentref i’r chwarelwyr uwchlaw y llyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 31 Mawrth 2013. Yr Aran a Coedwig Beddgelert. Ar ddiwrnod braf a heulog dydd Sul y Pasg, Noel Davey aeth a criw o 6 cerddwr penderfynol ar daith o 8 milltir o Rhyd Ddu i fyny drwy Goedwig Beddgelert a  heibio Bwlch y Ddwy Elor. Ail ddewis oedd y daith yma am iddynt orfod anghofio dringo’r Aran oherwydd y rhew peryglus. Er hynny mi aeth y daith uwchben odre’r eira ac mi oedd golygfeydd o’r rhew disgleiriog ar copfeydd Eryri o’i cwmpas yn syfrdanol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 21 Mawrth 2013. Llwybr yr Arfordir Porth Neigwl i Machroes Unffordd . Arweinyddion Paul Jenkins a Osla Israelowiz. Dim manylion. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 18 Ebrill 2013. Penrhybdeudraeth.Kath Spencer arwainodd daith ddelfrydol o fannau aros cerbydau i’r gogledd orllewin o Benrhyndeudraeth. Cychwyn i gyfeiriad y de cyn ail groesi y ffordd a dringo i ben ucha Penrhyndeudraeth a chymeryd y llwybr heibio Rhiw Goch i bentref bychan Rhyd. Yna dychwelyd drwy Coed Llyn y Garnedd gan fynd heibio argae Hafod y Llyn. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul. 14 Ebrill 2013.Garndolbenmaen.14 stalwart yn cyfarfod yn Garndolbenmaen ar gyfer dwy daith i’w harwain gan Tecwyn Williams a Nick ac Ann White. Mi oedd y tywydd yn sobor, glaw trwm ac mi benderfynwyd i uno y ddwy daith a gwneud yr un fyra. Buan iawn dyma ddod i’r canlyniad ei bod mor wlyb mae rhoi gorau iddi fydda y peth calla a dychwelyd i’r ceir. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 4 Ebrill 2013.Llyn Cwm Ystradllyn.Alan Edwards a Beryl Davies yn arwain taith ardderchog o 5.5 milltir o amgylch Llyn Cwmstradllyn ar ddiwrnod heulog a golygfeydd arbennig. Mi oedd olion yr hen byllau llechi yn ddiddorol yn cynnwys yr hen felin lechi, y waliau shapus yn Chwarel Gorseddau a’r pentref i’r chwarelwyr uwchlaw y llyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 31 Mawrth 2013. Yr Aran a Coedwig Beddgelert. Ar ddiwrnod braf a heulog dydd Sul y Pasg, Noel Davey aeth a criw o 6 cerddwr penderfynol ar daith o 8 milltir o Rhyd Ddu i fyny drwy Goedwig Beddgelert a  heibio Bwlch y Ddwy Elor. Ail ddewis oedd y daith yma am iddynt orfod anghofio dringo’r Aran oherwydd y rhew peryglus. Er hynny mi aeth y daith uwchben odre’r eira ac mi oedd golygfeydd o’r rhew disgleiriog ar copfeydd Eryri o’i cwmpas yn syfrdanol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 21 Mawrth 2013. Llwybr yr Arfordir Porth Neigwl i Machroes Unffordd . Arweinyddion Paul Jenkins a Osla Israelowiz. Dim manylion. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 17 Mawrth 2013. Dysynni a Llwybr yr Arfordir. Judith Thomas oedd yr arwainydd medrus yn arwain criw o 16 ar daith ddiddorol oddeutu 9 milltir mewn ardal hollol ddiarth i’r Clwb, o Donfanau ar draws gwlad godidog uwchben y rhan isaf o Gwm Dysynni ac hefyd rhan o Lwybr yr Arfordir. Mi oedd y tywydd yn braf ac mi oedd yna ologfeydd ardderchog yn cynnwys y bont droed dros yr afon Dysynni. Diolch i Alan a Mal, dau gerddwr lleol, am ein cynorthwyo. Noel Davey.  (Cyf: DHW).

Dydd Iau 7 Mawrth 2013. Cyfarfod Blynyddol a Taith.Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol yng Nghapel y Traeth, Criccieth gyda 25 aelod yn bresennol. Ail etholwyd  y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd y Trysorydd ac hefyd y pwyllgor.  Wedi’r cyfarfod arwainodd Dafydd Williams 15 cerddwr ar draws y Clwb Golff ac i lawr yr afon o Bont Rhyd y Benllig. Mi oedd y glannau yn frith o eirlysiau tlws. Dychwelyd i Griccieth ar Lwybr yr Arfordir ac er y tywydd gwlyb mi oedd pawb wedi mwynhau. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 3 Mawrth 2013. Llynau Crafnant, Glangors a Geirioinydd.Ar ddiwrnod hyfryd arwainodd Ian Spencer, 17 cerddwr o Trefriw ar daith o amgylch tri llyn. Cychwyn ar lwybr dymunol gyda arwyddion da, i Lyn Geirionydd a heibio ymyl Grinllwm. Yna dringo i fyny at lyn llai, Llyn Glangors a chael cinio cyn  troi am i lawr i ben Llyn Geirionydd a dringo y llwybr yn y coed, i lawr i Lyn Crafnant ac yn ol i Drefriw. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 21 Chwefror. 2013. Llyn Gwynant. Kat Spencer arwainodd yn drefnus eto ar ddiwrnod braf arall. Y tro yma o faes parcio Bethania gyferbyn a’r “Watkin Path”. Rhif o 22 yn mynd ar ochr Afon Glaslyn ac yna ar hyd ond uwchben Llyn Gwynant drwy y coed ac o amgylch y llyn cyn cychwyn i fyny’r llwybr yn arwain drwy “rhododendrons” a choed conifer. Ymadael y coed ac yna cael golygfeydd rhyfeddol o’r Wyddfa a’i chap o eira. Y llwybr yn arwain i ffordd darmac a’i dilyn i lawr i’r cychwyn. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 13 Chwefror 2013. Newborough Warren. Kath Spencer yn arwain yn fedrus yn ddirprwy i’w gwr clwyfedig!! 15 cerddwr o Niwbwrch i Ynys Llanddwyn. Oherwydd fod rhan helaeth o’r goedwig o dan ddwr mi oedd rhaid dilyn Llwybr yr Arfordir ar hyd y glannau. Uwchafbwynt y daith bleserus hon oedd heb os, Ynys Llanddwyn. Cyfarfodd y criw amryw o gerddwyr eraill yn mwynhau yr heulwen. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dyd Iau 7 Chwewfror 2013. Cylch o Laniestyn. Miriam Heald yn arwain yn galonnog 20 aelod ar ddiwrnod gwlyb a thir mwdlyd ar gylchdaith oddeutu 6 milltir drwy wlad hyfryd a  thawel yn ardal Laniestyn, gan gerdded ar lethrau isaf Garn Fadryn a Nant Fawr. (Cyf: DHW).

Cinio’r Gaeaf. Ar yr un noson mwynhaodd 53 aelod Cinio’r Gaeaf y Clwb yn Clwb Golff Porthmadog ac i ddilyn, araeth ddiddorol gan John Dobson Jones, aelod o dim lleol Ambiwlans, Aberglaslyn Mountain Rescue. Cyflwynwyd iddo siec o £185.00 i gefnogi ymdrechion achub ar y mynyddoedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).

 Dydd Sul 3 Chwefror 2013. Cwm –mynach. Nick White arwainodd 10 cerddwr ar daith ragorol o 9 milltir o Bontddu i fyny drwy nant guddiedig Cwm mynach. Mae yr estyniad prin yma o “Goed Celtaidd” yn cael ei reoli gan y Woodland Trust ac mi oedd yn nodweddol niwlog a gwlyb ond mi oedd y mwswm a cen y coed yn gorchuddio y derw cynhenid a gweddillion y pyllau aur yn atgof parhaol a swynol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 24 Ionawr 2013. Edern i Porth Ysgaden. Megan Mentzoni yn hebrwng 22 cerddwr ar daith ragorol ar yr arfodir o 5-6 milltir o Edern i Porth Ysgaden. Mi oedd y mwd eithafol yn creu problemau ond mi oedd y golygfeydd ar y diwrnod braf golau oer a heulog  yn syndod heb anghofio yr morlo yn torheulo ar un o’r traethau. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Llun 21 Ionawr 2013. Phyl Miller. Fe fu farw yn 97 oed yn Ysbyty Gwynedd un o aelodau cynnar y Clwb. Mi oedd yn byw yn Cae Eithin, Minffordd ond wedi bod yn y cartref Hafod y Gest am beth amser. Mi fydd yr aelodau hun fel finnau yn ei chofio wrth iddi arwain teithiau yn ardal Port Meirion. Mae’r angladd yn  Amlosgfa Bangor ar y 9 Chwefror am 10.30 y bore. (John Enser. Ysgrifennydd). (Cyf: DHW).

Dydd Sul 20 Ionawr 2013. Llanbedrog i Nefyn. 15 aelod yn mwynhau taith wych o dan reolaith perffaith Judith Thomas ar draws y gorynys o Lanbedrog i Nefyn ar ddiwrnod sych a chlir ar adegau. 8 milltir oedd y daith ar tirwedd yn weddol rwydd ac yn arwain i’r tir a’r golygfeydd hudol o eira, heibio Rhydyclafdy, Cors Geirch a Garn Boduan. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 17 Ionawr 2013. Glenys Davies. Un o hoelion wyth ac yn aelod ers blynyddoedd yn marw yn sydyn heddiw, Mae’r holl aelodaeth yn meddwl am Arwel yn yr amser trist yma. (John Enser. Ysgrifennydd) (Cyf: DHW).

Dydd Iau 19 Ionawr 2013. Cylchdaith Mynydd Nefyn/Pistyll. Maureen Evans yn arwain 23 cerddwr ar daith wych o Nefyn ar ddiwrnod braf! Dringo yn gyson o’r pentref i Mynydd Nefyn ac yna i lawr i’r de ddwyrain cyn mynd i gyfeiriad Pistyll ac yn ol i Nefyn ar Lwybr yr Arfordir mwdlyd. Yr arwainyddes abl wedi amseru pethau yn berffaith wrth i’r glaw ddechrau fel i’r daith orffen. Ian Spencer. (Cyf: DHW). 

Dydd Sul Ionawr 6  2013. Y Wyddfa. Noel Davey, cadeirydd y Clwb yn arwain 10 aelod ar ddiwrnod cymharol wlyb. Drongo Llwybr Rhyd ddu a gweld sawl cerddwyr arall ar ei ffordd i fyny. Wedi treulio peth amser ar y copa a dim golygfa, yna mynd i lawr ar Lwybr y Snowdon Ranger. Neb i’w gweld ar y ffordd i lawr ond dychwelyd i’r ceir yn eithaf hapus hefo’i ymdrechion. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Y Clwb yn dathlu Y Nadolig hefo dwy daith ardderchog, y ddwy ar ddiwrnodau weddol braf: Dydd Iau 27 Rhagfyr 2012. Cerdded rhwng dau draeth Porth Fawr a Porth Ceiriad. Mary Evans a Rhian Roberts yn arwain yn wych 27 ar daith rhwng y ddau draeth ar y rhan newydd neilltuol o ben y clogwyn, yr All Wales Coastal Path rhwng Porth fawr, Abersoch a Porth Ceiriad. Yna cael ein gwarchod i de neis  yn ty John a Rein Enser a chodi oddeutu  £120.00 tuag at Dim Achub Mynydda Aberglaslyn . Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 23 Rhagfyr 2012.Moel y Gest. Tecwyn Wlliams yn arwain criw bach ond pwysig! i fyny Moel y Gest gan ymweld a Cist Gerrig carreg ganol oesol chwilfrydig  ar y ffordd i lawr cyn dychwelyd i Borth y Gest. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 13 Ragfyr 2012. Cylch o Boduan.  Ian Spencer arwainodd daith ar ddiwrnod oer ond heulog o Eglwys Boduan i gyfeiriad Mynydd Nefyn ac ymlaen tuag at yr arfordir gogleddol o’r orynys  a chael golygfeydd arbennig o Nefyn a Phorthdinllaen. Y 20 cerddwr yn mwynhau mince pies a choffi wedi eu rhoddi gan Kath Spencer, gwraig yr arweinydd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Sul 9 Ragfyr 2012. Dyffryn Ardudwy a Pont Scethin. Catrin Williams yn arwain 10 aelod ar gylchdaith o Dyffryn Ardudwy i Bont Scethin ac er iddi fod yn wlyb dan droed mi oedd yn ddiwrnod eithaf sych. Mi oedd hon yn daith fwynhaol ac i ddilyn cael mince pies a lluniaeth yn y caffi lleol. Ian Spencer.  (Cyf: DHW).

Dydd Iau 29 Dachwedd 2012. Cwm Pennant. Kath Spencer yn arwain yn fedrus criw o 14 o Dolbenmaen i fyny i hyfrydwch Cwm Pennant. Dringo uwchben y planhigfa o goed deilgoll newydd,  dilyn y llwybr a chyrraedd y ty anghysbell, Cae Amos. Yna mynd heibio adfeilion Llwyn y Bettws ac i lawr i waelod y cwm ger Bryn Wern. Croesi’r bont bren ar draws yr afon Dwyfor, mynd heibio’r Ganolfan Awyr Agored Brynkir a dychwelyd i Dolbenmaen ar ddiwrnod dymunol. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Sul 25 Dachwedd 2012. Pen-yr-Helgi-Ddu a Phen Llithrig y Wrach. Ian Spencer yn arwain yn  abl 10 aelod ar daith o Gwern Gof Isaf i fyny’r grib i gopa Pen yr Helgi Ddu. Ar ddiwrnod ardderchog mi oedd y gologfeydd yn anhygoel yn enwedig Carnedd Llewelyn gyda’i gap o eira. Oddi yno disgyn i Fwlch y tri Marchog cyn dringo’n serth i gopa Pen Llithrig y Wrach. Penderfynnu peidio dilyn y llwybr serth i lawr i’r de orllewin ar ol yr holl law diweddar, a mynd i lawr yr ochr welltog ar yr ystlys i’r leat,a’i dilyn i’r ffordd darmac ac yn ol i ’rceir. Cyrraedd fel r’oedd y glaw yn dechrau! Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Iau 15 Dachwedd 2012.Dau Lyn a Llwybr yr Arfordir. Ian Spencer yn ddirprwy arwewinydd medrus ar ddiwrnod teg o Dalsarnau. 22 yn mwynhau yn fawr y diwrnod gan gychwyn ar Lwybr yr Arfordir i Landecwyn ac yna dringo at yr hen eglwys uwchlaw aber  Afon Dwyryd. Ar ddiwrnod clir r’oedd y golygfeydd i gyfeiriad Borthmadog, Portmeirion ac Eryri yn anhygoel. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 11 Dachwedd 2012. Cwm Prysor, Bwlch y Bi a Phont dros Reilffordd. Tecwyn Williams yn arwain yn fedrus criw o 14 i fyny Cwm Prysor. Dringo’r llwybr i’r bryniau yn cynnwys Bwlch y Bi, ar yr ochr dde i’r cwm. Y tir, ar ol y flwyddyn wlyb, yn fwdlyd a chorsiog yn enwedig oherwydd drwy fanteisio ar y tir agored medru osgoi llwybrau neu ffyrdd!  Y cerddwyr o’r diwedd yn croesi y lon bost a dychwelyd ar yr hen reilffordd yn cynnwys croesi yr hen Bont y Rheilffordd ysblennydd. Mi oedd y tywydd yn braf trwy’r dydd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 1 Dachwedd 2012.  Cylchdaith Mynytho/Llanbedrog. Kath Marsden yn arwain yn fedrus 19 cerddwr ar daith arbennig o Fynytho ac yna i fyny y llwybr newydd i’r “Dyn Haearn” a heibio’r Theatr Gron. Mi fu  i’r tywydd aros yn heulog hefo golygfeydd mawreddog o fynyddoedd Eryri, y Rhinogau ac hefyd Penrhyn Llyn. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 28 Hydref 2012. Moel Penamnen. Hugh Evans arwainodd 9 aelod o Flaenau Ffestiniog heibio Llyn Bowydd, i fyny Foel Fras ac yna yn y gwynt cryf, Moel Penamnen. Dychwelyd i Flaenau heibio cronfeydd Llynnau Barlwydd ac yna i lawr y llwybr llechi llithrig gwlyb. Pawb yn dychwelyd yn ddi anaf, ac yn gorfoleddu ond yn wlyb! Ian Spencer. (Diymhongwrydd ddim yn caniatau i mi roddi y gair coll yn y frawddeg gyntaf. Oherwydd y tywydd rhoddwyd siawns i’r criw ger Llyn Bowyd i fyrhau y daith 4 milltir, yn naturiol toedd neb eisiau gwneud hyn, hyd yn oed pan  i un o’r criw fethu canolbwyntio a gorfod cael ei achub! .Golygydd).  (Cyf: DHW).

Dydd Iau18 Hydref 2012  Cylchdaith Llandecwyn. Alan Edwards a Beryl Davies yn arwain yn fedrus taith boblogaidd o tua 5 milltir o Landecwyn, yn cynnwys Llyn Llandecwyn Isaf ac mi fu hyn yn dipyn o ymdrech oherwydd y dwr uchel. Eto mi oedd yr haul yn ddisglair ac mi fwynhaodd y 31 cerddwr eu hunan. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul Hydref 14 2012. Moel Siabod. Criw o 11 cerddwr yn dringo Moel Siabod o dan arweiniad medrus Noel Davey. Cymeryd y llwybr o Bont Cyfyng, heibio Llyn y Foel ac i fyny’r grib orllewinol a dychwelyd ar lannau Afon Llugwy. Y cawodydd cynnar yn troi i dywydd clir a heulog oedd yn cyfranu at ddiwrnod ardderchog yn diweddu hefo te bach yn y caffi lleol. Noel Davey. (Cafodd y gair “medrus” ei ychwanegu gan y golygydd wrth i’r awdur fod yn rhu ddiymhonghar i’w ddefnydio.) (Cyf: DHW).

Dydd Iau 4 Hydref 2012. “Y Lle distawaf yn Llyn” Miriam Heald a Pat Housecroft arwainodd 23 cerddwr ar daith hyfryd o 7 milltir o bentrf Garn Fadryn i fyny at gopa Moel Caerau a chael cinio yn “Y Lle distawaf yn Llyn”, yn agos at y cyn eglwys o Lanfihangel yna dychwelyd ar draws y tir agored ar Garn Bach .R’ oedd y tywydd heulog yn galluogi y cerddwyr i weld y golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad dros yr orynys a chyn belled a Caergybi. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 30 Fedi 2012. Fron, Moel Tryfan, Mynydd Cilgwyn. Pam Foster a Diane Doughty arwainodd daith o 8.5 milltir mewn tywydd tamp, niwlog ac yn gynyddol wlyb o bentref Nantlle. Y llwybr yn mynd i fyny i Y Fron, o amgylch Moel Tryfan a Mynydd Cilgwyn, methu y ddau gopa y tro hwn ac yn dychwelyd drwy’r chwareli.  Er gwaethaf y tywydd difrifol mi oedd yn daith egniol a phawb yn mwynhau. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 20 Fedi 2012. Aber Falls. Tecwyn yn dirprwyo dros Dafydd i arwain taith o Abergwyngregyn. Criw o 15 yn cerdded i fyny’r cwm i raeadr  Aber ac oddi yno mynd i’r gorllewin a’r gogledd ar lethrau isaf Moel Wnion gyda golygfeydd arbennig tuag at y Carneddau ac ar draws y Fenai i Fon  Gorffen y diwrnod  hefo te yn y caffi cymunedig. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 16 Fedi 2012. Craig y Llyn a Braich Ddu. Rhagolygon y tywydd yn peru gohirio y daith,” A” a drefnwyd i fyny Tyrrau Mawr. Mi oedd y penderfyniad yn gywir oherwydd i’r cawodydd ysgafn weithygu a bod yn law trwm parhaol gyda niwl isel.  Er hynny, Nick White arwainodd griw unol o  10 cerddwr penderfynol ar y daith “C” wreiddiol o Lynnau Cregennan. Taith 5.5 milltir  yn cynnwys cymysgiad o  rosdir grug, coed mwsoglyd a rhuthr y nentydd, ac aros wrth gofeb i  Gwynfor Evans ym mynwent diarffordd mewn adfail hen gapel. Dychwelyd wedi adfywio, on braidd yn wlyb! Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 6 Fedi 2012. Cylch o’r Eifl. Catrin Williams a Judith Thomas yn arwain yn fedrus ar ddiwrnod  braf a haulog, ac arwain 31 aelod ar daith bleserus o Mount Pleasant mewn cyfeiriad croes i’r cloc  o chwe milltir ar draws llethrau ar waelodion o Dre’r Ceiri. R’ oedd y llwybr yn galluogi’r cerddwyr gael golygfeydd hynod o amgylch ac ar draws Eifionydd ac i fyny yr arfordir tuag at Arfon .Rhai yn cael y llwybr yn ol i fyny Bwlch yr Eifl yn serth ond mi oedd yn galonogol gweld fod y Llinellau Trydan Trawsyriant ar draws y golygfeydd yma wedi diflannu o dan y ddaear. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 2 Fedi 2012. Cwm Bychan. Dafydd Williams yn arwain criw o 9 ar daith ardderchog o 8.5 milltir o Gwm Bychan i fyny y Stepiau Rhyfeinig ac yna ar lwybr coedwig wedi ei adnewyddu i dir corsiog Crawcwellt ac yna ar hyd odre Clip. Y tywydd yn wlyb i ddechrau ond gwella i fod yn haul llachar ac yn caniatau golygfeydd godidog o’r grug a chreigiau y Rhinogydd. Er i’r gwlybaniaeth dan draed wneud y cerdded yn ara deg, mi oedd pawb  wedi mwynhau  y daith. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 23 Awst 2012. Mynytho i Nanhoron a Garn Bach. 26 cerddwr yn mwynhau diwrnod diddorol drwy cael eu harwain gan Miriam Heald o Fynytho. Cychwyn gan fynd heibio  y grug gogoneddus ar dir comin Mynytho, mi oedd yn wych. Mynd drwy lefydd diarth ar y Llyn i Stad Nanhoron ble r’oedd yr arweinydd wedi trefnu i gael taith ddifyr a gwybodus gan y perchennog, Mrs Harden. Dychwelyd wedyn i’r ceir ym Mynytho. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 19 Awst 2012. Mynydd Mawr. Criw o 10 aelod  o dan arweiniad medrus a gofalus Noel Davey yn cerdded o Rhyd Ddu i fyny i gopa Mynydd Mawr. Yna mynd i’r gogledd orllewin, o amgylch Craig Cwmbychan cyn mynd i’r dde ac i lawr yn serth i Ddyffryn Nantlle. Yna y cerddwyr  yn dilyn y ffordd am gyfnod byr cyn dringo  tu cefn i Clogwynygarreg ac  i lawr  yn ol i Rhyd Dddu. Taith egniol ond boddhaol er gwaethaf y tywydd gwlyb a niwlog. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Iau 9 Awst. 2012.Llwybrau Llanrwst. Meirion Owen yn arwain criw ar ddiwrnod braf ar daith boblogaidd o Lanrwst ac yn gwneud defnydd o gaffi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hyfryd ger yr  hen bont ar draws yr afon Conwy. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

 Dydd Sul 5 Awst 2012. Carnedd y Filiast, Elidir Fawr.Tecwyn yn arwain 10 aelod o Dalywaen ger Dinorwig. Cychwyn drwy fynd i fyny Carnedd y Filiast ac yna Mynydd Perfedd cyn dringo i gopa Elidir Fawr. Ymlaen i gopa Elidir Fach a’r glaw di ddiwedd yn parhau, ac yna disgyn i lawr y llwybr yn ol i’r cychwyn. Y criw yn wlyb iawn ond yn ymfalchio eu bod wedi cwblhau taith egniol. Ian Spencer. (Cyf: DHW).