Awst 20 – Gorff 21

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau Gorffennaf 29ain 2021. Mynydd Nefyn (Llethrau is). Ar ddiwrnod braf o haf Miriam Heald arweiniodd barti o chwech o fan parcio bychan ar ochr y bryn mewn dwy gylch, pellter oddeutu pedair milltir. Mae yna ddigonedd o lwybrau yn mynd i bob cyfeiriad yn yr ardal yma ac roedd y llwybr wedi ei archwilio yn ofalus. Aeth y ddwy filltir gyntaf a ni i olygwedd yn caniatau golygfeydd gafaelgar o’r orynys a thref Nefyn islaw gyda Mor yr iwerydd yn y cefndir. Yn dilyn dwy filltir o gerdded dyma ddychwelyd i’r ceir a gwneud cylch arall i fyny a chael cinio ar y copa tu mewn i weddillion hen adeilad frics yn berthnasol i gyn chwarel gyfagos neu yr ail ryfel byd. Taith fer fwynhaol gyda chwmni difyr yn caniatau digonedd o amser i ail gysylltu a ffrindiau a rhoddi’r byd yn ei le. Dafydd Williams.

Dydd Sul 25ain Orffenaf 2021. Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Roeddwn wedi gwneud y daith yma i yn wreiddiol ar ol derbyn gwahoddiad gan ffrind gyda cysylltiadau a’r Ysgwrn, Trawsfynydd, ble magwyd a sydd bellach yn allor i’r bardd clodfawr, Hedd Wyn, a ennilloedd y gader yn Eisteddfod Genedlaethol yn Pen Fedw yn 1917. Erbyn cyrraedd seremoni’r cadeirio roedd Hedd Wyn wedi ei ladd ar faes y gad yn Ffrainc ac mi wisgwyd y gader mewn du ac o hyny ymlaen mi gelwyd “Y Gader Ddu”.

Roedd y daith wreiddiol yn uniad o Hanes/Hynafiaeth, yr hanes yn brif am Hedd Wyn a llefydd lleol tra roedd yr hynafiaeth am yr oes efydd, y Rhufeiniaid ac amser mwy diweddar.

Roedd hi yn ddiwrnod bendigedig o haf fel i’r parti gychwyn o’r “Ysgwrn “gan ddychwelyd ar y ffordd y deuthum gyda’r car o’r A470, hyd nes cyrraedd Bryn Goleu ar gornel ble roedd arwydd llwybr yn cyfeirio i’r chwith. Ar ol oddeutu 400 llath dyma gyrraedd ffermdy nobl canoloesol, Plas Capten,

unwaith yn gartref i Capten John Morgan, cefnogwr i’r brenhinwyr yn ystod y rhyfel cartref yn yr 17eg ganrif. Yn y fan yma mynd i’r dde a dros bont gerrig fechan a choed wedi or dyfu yn ein rhywstro tan cyrraedd camfa i gae gyda arwydd yn ein cyfeirio i groeslinio i’r de ddwyrain. Wedi cyrraedd y gornel roedd y llwybr yn mynd ar hyd ffordd drol ac allan ar ffordd fechan oedd un amser yn briffordd i Ddolgellau a ddatgelwyd yn fuan, pan i ni fynd i’r chwith, gan hen garreg filltir gyda “Dolgelley 11 miles” arni. Mae yn werth son am ddigwyddiad rhyfedd ar y rhan yma o’r fordd pan oeddwn yn croesi grid gwartheg. Roedd un o’r parti yn cerdded yn gyfochrog a mi pan arhosodd hanner fordd ac edrych i lawr rhwng y bylchau ac yna mynd i lawr ar ei liniau gyda’i freichiau drwy’r bylchau. Daeth i’r amlwg fod yna oen, ac nid un bychan ychwaith, o dano. Gyda tipyn o anhawster mi fu i ddau o’r parti gyda profiad amaethyddol ei gael allan ac mi redodd i ffwrdd at ei ffrindiau gerllaw. (Ychwanegwyd 12/08/21). Dilynwyd y ffordd am oddeutu milltir a rhoddwyd rywfaint o wybodaeth hanesyddol cyn cyrraedd Capel Penstryd, lle da i gael paned ddeg.! Roeddwn wedi bod yn yr ardal yma pan oeddwn yn gwneud fy ngwasanaeth cenedlaethol yn 1955 pan oedd yn ardal hyfforfiant filwrol ac roedd yr “Royal Artillery” yn ymarfer tanio’r gynnau mawr. Yna dyma fynd i’r chwith oddi ar y tarmac ac ar drac garw ar i fyny ac ar ol oddeutu milltir dyma gyrraedd llyn/cronfa, Llyn Gelli-gain. Ymlaen yn groes i’r cloc o amgylch y llyn am 400 llath aeth y llwybr ac yna dringo yn serth i’r dde a chyrraedd copa bryn bychan, Craiglaseithin, 1550 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod a chael cinio. Oddi yma roedd yna olygfeydd eang i bob cyfeiriad fel ac yr oedd drwy’r dydd ar y diwrnod arbennig hwn gyda dim ond awel fwyn. Oddi yma roedd yna ond milltir a hanner yn ol i’r ceir ar draws ardal di lwybr, Ffridd Ddu, ble roeddem o dro i dro yn medru dilyn olion peiriant amaethyddol. Roedd y hanner milltir olaf i lawr rhiw, a’r siwrne yn bellter oddeutu 6.5 milltir. Taith bleserus ar gyflymdra cymedrol yn weddus a’r tywydd poeth oedd yn bodoli ar y diwrnod. Dafydd Williams.

Sul 18 Gorffennaf 2021. Cylch Llanllechid. Ar un o ddiwrnodau cynhesaf yr haf daeth 9 aelod i arosfan ar ochr yr hen A5 ger Talybont i ddilyn cylchdaith hawdd tua 8 milltir o hyd o dan arweiniad Dafydd Williams. Cychwynnwyd am y De i groesi’r A55 cyn gadael rhuo’r cerbydau ar ôl a chael ein hunan ar lon werdd yn croesi caeau yna dilyn ymylon coedlan Marian y Winllan. Dringo’n gyson wedyn i diroedd mwy agored ac am ysgwydd Foel Wnion rhyw 1200 troedfedd uwch lefel y môr. Cafwyd oddi yma olygfeydd braf i’r Gorllewin am Elidir Fawr a chopaon eraill uwchben chwarel Penrhyn, tra bod gwastadeddau Arfon ac Ynys Mon yn ymestyn i’r Gogledd. Troi wedyn i’r Gorllewin gan ddisgyn trwy weddillion chwarel lechi Bryn Hall. Er golwg deniadol pwll y chwarel mae’n beryg bywyd, sonnir bod hen arfau, weiren bigog a llechi peryglus yn y dyfnderoedd a chollwyd bywyd gwr ifanc yn plymio yno flynyddoedd yn ôl. Er y bu i aelodau o’r rhodwyr weld cofeb iddo ar ymweliad blaenorol yn drist iawn nid oedd golwg o’r gofeb erbyn heddiw.
Cafwyd llecyn cyfforddus o gysgodol o dan goed Ynn a Ffawydd ym mynwent Eglwys Llanllechid, adeilad tra crand yn ei oes.
Tro nol am y ceir wedyn gan droedio coedlannau braf cysgodol yn agos i lan Afon y Llan yna Afon Ogwen. Rhaid mentro wedyn i ddilyn darn bychan iawn o’r A5 cyn troi am dy Cochwillan un o’r esiamplau gorau o dy canoloesol cyfan yn yr ardal. Bu ym meddiant Ystâd Penrhyn am ran helaeth o’i hoes. Wedyn pasio Melin Cochwillan (hen bandy a drowyd yn felin flawd wedi sylweddoli fod cemegau’r pandy yn gwenwyno’r pysgod yn yr afon). Buan wedyn y daethpwyd at Borthdy mawreddog Castell Penrhyn i’n hatgoffa o deyrnasiad teulu Pennant dros yr ardal. Wedyn mae cangen fewndirol o’r llwybr arfordir agorwyd fel cam dros dro wrth geisio cytundeb Ystâd y Penrhyn i lwybr mwy addas yn nes i’r môr. Braf cael taith ddifyr a hamddenol yn gweddu i’r dim i wres y diwrnod. Noel Davey (Cyf GJ)

Dydd Iau Gorffennaf 15fed a Gorffennaf 22ain 2021. Mynydd Carnguwch. Bu i’r daith boblogaidd yma ei ail wneud ar ddyddiau Iau yn olynol. Roedd yna 11 ar y daith gyntaf o dan arwainyddiaeth Kath Spencer a Megan Mentzoni ac 8 ar yr ail yn cael ei harwain gan Jean Norton ac Annie Andrew. Roedd mwy i ddod ond disgynnodd pump allan oherwydd y tywydd poeth annisgwyl. Cychwynnodd y daith o faes parcio Mount Pleasant uwchben Nant Gwrtheyrn a chymeryd y llwybr cyfarwydd i gyfeiriad Tre’r Ceiri, gan aros i chwilio’r arwydd ithfaen yn enwi’r copaoedd gweledig. Yna fe aeth y daith i’r de ac ar draws ffordd Llithfaen. Dilynnwyd ffordd wledig ddymunol, gan fynd yn groes i’r cloc o amgylch droed Carnguwch i fan ar y gornel de ddwyreiniol oedd yn caniatau dringfa eitha rhwydd ac yn amlinellu yn araf. Yna roedd adran fer o ddringo serth drwy’r grug a’r llus gan nesau at y copa o’r gogledd ddwyrain. Roedd y ddringfa agored o oddeutu 650 troedfedd o’r ffordd yn y gwres anghyfarwydd yn waith caled a sychiedig ond y wobr oedd golygwedd rhithiol ar draw yr orynys o for i for. Mae’r copa 1200 troedfedd wedi ei goroni gan garn anferth wedi ei adeiladu gan ddyn, nodwedd amlwg yn dyddio yn debyg o oes efydd. Roedd y ddau gopa, Yr Eifl, a Tre’r Ceiri yn dominyddu i’r gogledd, golygfa ysblennydd o grug porffor llachar a rhedyn ungoes gwyrdd gyda cefndir creigiog llwyd. Carn Carnguwch oedd y man cinio ar y daith gyntaf, ond cysgod clawdd ar odre’r mynydd oedd y lle ar yr ail daith er mwyn cael rywfaint o gysgod oddiwrth y gwres. Gwneuthpwyd y disgyniad ar lwybr mwy union a serth yn gyfochrog a clawdd terfyn. Dilynwyd ffyrdd gwladol yn ol i bentref Llithfaen ac y rhan olaf ar draws llwyfandir gwelltog trwy Tir Glyn. Roedd y rhain yn deithiau wobrywol oddeutu 6.5 milltir o hyd a dringo cynyddol o 1400 troedfedd gan gynnwys un o gopaoedd ychydig son amdano, ond amlycaf Llyn. Noel Davey. (Cyf: DHW)

Dydd Sul 11ed Orffennaf 2021. Moel Eilio. Heddiw dyma 10 aelod yn cael ei hunain ymysg tomenau hen chwarel yn Bwlch y Groes yn pen draw’r ffordd darmac, 700 troedfedd uwchben Waunfawr, ar gyfer taith i fyny Moel Eilio yn cael ei harwain gan Hugh Evans. Roedd yn ddiwrnod cymylog ond yn ddymunol ac yn sych nes iddi fwrw ar ol cinio. Cychwynnodd y daith gyda’r prif estyniad y dydd, a mynd yn gyson i’r de i fyny’r grib i’r copa, 2400 troedfedd o uchder. Roedd y carnedd ar y copa yn rhoddi cysgod oddiwrth y gwynt oeraidd ar gyfer paned ddeg. Roedd yr olygfa eang o’r mynyddoedd o’r fan hyn yn gymysgfa ysblennydd o lethrau o bob lliw o wyrdd a’r cernlun rhyfedd o’r copau yn ymddangos o’r cymylau. Roedd y rhan canol o’r daith ar y grib yn olyniaeth o bantiau a bryniau, yn cynnwys Bwlch Gwyn a Bwlch Cwm Cesig, Foel Gron a Foel Goch. Roedd yna gip olwg o Lyn Dwythwch i lawr yn y cwm mawr i’r dwyrain, yn ol yr hanes cynefin i’r Tylwylth Teg. Daeth disgyn serth a’r parti i lawr i gysgod Bwlch Maesgwm ble roedd y polion teligraff wedi ei gadael yn glwyd i gael cinio. Fel i’r glaw yn ol yr addewid gyrraedd, aeth rhan y prynhawn ar y llwybr graean sydd newydd ei adnewyddu i lawr i gyfeiriad Llanberis, nawr yn ran o Lwybr y Llechi ac yn cysylltu a llwybr y “Ranger”i fyny’r Wyddfa. Erbyn hyn roedd yn rhaid cae arhosiad pob hyn a hyn i wisgo neu chyweirio ger glaw. Er gwaethaf y tywydd roedd yna fwy o olygfeydd i gyfeiriad Elidir Fawr, Llyn Padarn a’r Wyddfa, ble roedd trenau’r reilffordd yn cloncian i fyny ac i lawr ac yn achosi siom o’r mynydd i’r ymerlwyr heddiw. Yn Maenllwyd Uchaf aeth y llwybr i’r gogledd orllewin a dringo dros fryn yn ol i Bwlch y Groes. Profodd hon i fod yn daith ardderchog ar un o gopau mwyaf gwobrywiol Eryri, dros bellter oddeutu 7.5 milltir a 2200 troedfedd o ddringo mewn llai na 5 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 8ed Orffennaf 2021. Mynydd Cilan. Annie Andrews a Jean Norton arweiniodd grwp o 10 cerddwr ar gylch o Sarn Bach i Fynydd Cilan. Roedd yn ddiwrnod sych a chlir ac yn ddymunol iawn yn yr haul. Croesodd y daith gaeau gyda safle carafanau yn Fferm Pant Gwyn ac i bentref bach Bwlchtocyn ar rwydwaith o lwybrau newydd eu gwella yr ochr orllewinnol o Fynydd Cilan. Roedd y ffordd yn caniatau golygfeydd ardderchog dros fae trawiadol Porth Neigwl i gyfeiriad Mynydd Rhiw ac i lawr yr arfordir i Ynys Enlli. Roedd yna aros am banad wrth ochr carafan ardderchog Airstream wedi ei pharcio yn ymyl lle a’r enw annisgwyl “Greenland”. Yna fe ymunodd y daith a Llwybr yr Arfordir, gan ddringo i’r maen ar drwyn Cilan ychydig is na 400 troedfedd mewn uchder. Roedd y fan yma yn le braf i gael cinio yn edrych dros gochlas llachar diweddar y grug fydd yn ymuno yn fuan gyda aur yr eithin yn datblygu cyfuniad o liwiau anghyffredin sydd yn nodweddol o bentiroedd Llyn ar ddiwedd haf. I’r dwyrain roedd yn bosib gweld amlinell niwlog o fynyddoedd y Cambrian yn troi o amgylch Bae Ceredigion. Yna dyma’r daith yn mynd yn ol ar ei hun ac yn disgyn ar lwybr creigiog i draeth caregog Porth Neigwl. Yna o’r diwedd dyma’r daith yn mynd yn ol i’r tir ar draws caeau yn agos i’r pentref colledig Penygogo a dringo’r trac i Fferm Ty Newydd ac yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith bleserus a mwynhaol o amgylch 6 milltir gyda 900 troedfedd o ddringo dros 3-4 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 4 Orffenaf 2021. Llyn Trawsfynydd. Peth amser yn ol y glaw oedd yn gyfrifol am ddileu cylch o Lyn Trawsfynydd. Mi wnaeth fwrw y tro hyn ond drwy drugaredd cawodydd ysbeidiol a sydyn yn gymysg a chyfnodau heulog. Dafydd Williams arweiniodd 15 cerddwr, prawf cynyddu rhif y nifer, gan obeithio fod y brechlyn yn lleihau y perygl o’r haint. Cychwynnodd y daith o gaffi’r llyn i gyfeiriad yn groes i’r cloc gan fynd heibio adeilad fygythiol o uchel, yr orsedd bwer, bob amser yn brysur gyda’r gwaith cau. Ar yr argae dyma saib i edrych ar y peipiau anferth yn rhedeg ar i lawr i’r twrbein hidro ym Maentwrog islaw y coetir hynafol, Coed Llenyrch a’r ceunant ysblennydd o Afon Prysor. Roedd y llwybr ar yr ochr orllewinnol yn codi yn raddol i 1000 troedfedd, gan fynd drwy Warchodfa Natur Cenedlaethol Coed y Rhygen, rhan o’r goedwig law Geltaidd yn nodiadol am ei rawn y perthi prin, clustiau’r asen, mwsoglau a chen y coed. Ymhellach ymlaen aeth y ffordd i dir mwy agored, gan fynd heibio’r ganolfan achub fynyddig a thorri ar draws y gornel dde-ddwyreiniol o’r llyn gan ddefnyddio’r bont bren 400 medr o hyd, diolch fod hon wedi cael ei atgyweirio i leddfu’r ambell olwg frawychus drwy’r planciau o’r dwr oer odanom. Daeth hyn a’r parti heibio Garreg yr Ogof i bentre Trawsfynydd, lle yn cynnwys tai ithfaen soled gyda atgofion o’r bardd enwog, Hedd Wyn. Roedd y ffordd yn ol ar hyd y glan dwyreiniol yn golygu cerdded nerthol ar hyd yr A470 yn y glaw trwm gan herio’r llif o’r chwistrelloedd o’r cerbydau yn mynd heibio. Roedd y llwybr coediog olaf yn gymorth croesawys, ond yn well na dim oedd y te haeddiannol yn y caffi cymunedol cyfeillgar yn dilyn siwrna bleserus oddeutu 8 milltir o hyd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau, Gorffennaf 1 af 2001  Llwybrau'r Chwalwelwyr ,Nantlle. Arweiniodd Tecwyn Williams un ar ddeg o gerddwyr o'r maes parcio yn Nhalysarn ymlaen at lwybrau chwalelwyr / cyhoeddys i fynd at droed Mynydd Cilgwyn. Roedd hwn yn lwybr golygfaol ond yn anffodus roedd yn niwlog iawn ac yn amhosib gweld ymhellach na chan llath. Daeth y llwybr a’r cerddwyr i'r Fron at yr hen ysgol sydd bellach yn gaffi a siop. Cymerodd rai goffi a hufen iâr ac roedd yn lle perffaith i gael cinio. Gwasgaru wnaeth y niwl ar ôl cinio a gwellodd y golygfeydd fel y gellid gweld chwarel Pen yr Orsedd gyda'i dwll dwfn  enfawr yn ei holl ogoniant. Roedd y gwyrddni a'r blodau yn wych, gan wneud yr ardal gyda'i dwmpathau llechi yn gwneud yr ardal  yn deilwng o gael ei henwebu fel safle Treftadaeth y Byd. Roedd y parti'n ymdoddi ar hyd y llwybrau nodedig i lawr i'r cwm gan basio pob math o strwythurau adfeiliedig, Aed â dadwenwyno bach i'r chwarel Twll Mawr sydd dan ddŵr ac nawr yn "Llyn Glas". Roedd Dorothea yn dawel iawn gan fod y hygyrchedd ar gyfer cerbydau wedi'i atal gan gatiau cadarn ar y naill ben a'r llall i'r diriogaeth. Cyn diwedd yr ardal gerllaw saif Plas Talysarn cartref adfeiliedig perchennog y chwarel Thomas Robinson, bellach yn adfail adfeiliedig iawn dim ond am ddangos yr hyn a fu'n dŷ mawreddog gyda'i stablau a'i gytiau cŵn. Mae'n cael ei rag gan y tywydd, coetir a graffiti. Roedd y rhan olaf wedi'i or-adennill banciau bas a oedd fel petaent yn dod yn ddolydd blodau deniadol. Roedd y daith gerdded i'w gweld yn llwyddiant ar ôl y cychwyn niwlog ac roedd pawb yn falch o weld hen ffrindiau a chyfarch aelodau newydd. Tecwyn Williams

Dydd Sul Mehefin 27ain 2021. Cwmystradllyn-'Moel-ddu'-Bryn Banog. Cyfarfu hanner dwsin o aelodau’r Clwb yn Cwmystradllyn ar gyfer cylch o dan arweiniaid Noel Davey o amgylch y Llyn ac yn cynnwys copau Moel Ddu a Bryn Bannog. Roedd hi yn ddiwrnod dymunol heulog gyda gwynt bywiog o’r gogledd-ddwyrain. Cychwynnodd y grwp o argae’r gronfa, a chymeryd y llwybr i Felin Lechi Ynyspandy ar hyd y trac oedd gynt yn ran o dramffordd geffyl Gorseddfa. Roedd yr olion ddywydiannol yn thema gylchol o’r dydd, yn atgofion o’r anturiaeth ysblennydd o’r chwareli llechi yn 1860au a ddaeth i ben ar ol dim ond 8 mlynedd o gynnyrchu a cholledion ariannol oherwydd cyflwr gwael y llechi. Yr felin lechi yw heb amhaeath y seren o’r datblygiad, adeilad anferth yn cynnwys ffenestri mawrion yn sefyll yn ei odidowgrydd unig, rhan nodedig o pensarniaeth dywydiannol yn atgaffaol o adfeilion mynachdai yr abatai Tintern neu Riveaulx. Arwahan i’r dramffyrdd a’r rhes o lefelau gafaelgar a’r adeiladwaith o’r chwarel ei hun yn ben y dyffryn, aeth y rhan hwyrach y daith i olion y pentre diffaith, Treforus, a adeiladwyd ar gyfer y chwarelwyr. Aeth y daith ymlaen i’r goellewin ar hyd trac fferm heibio Ereiniog ac Ynys Wen a dringo’n gyson ar dir pori agoriadol gyda mynediad, (open access grazing land) ac yn ddiweddarach llwybrau aneglur i gyrraedd y ddau gopa o Moel Ddu o amgylch 1800troedfedd. Oddi yno roedd y golygfeydd yn ogoneddus, ac roedd hi yn amser am baned yng nghystod y cafn naturiol cul sydd rhwng y copau. Daeth disgyniad serth a’r parti i lawr i ymylon y chwarel, yn barod ar gyfer dringo serth o 500 troedfedd i fyny ymyl miniog Bryn Banog. Ar y copa roedd clawdd yn le cyfleus i gael cinio yn goruchwylio y llyn islaw, gyda creigiau clodwynog ar yr ochr dwyreiniol o Foel Hebog yn ymddangos uwchben. Parhau i’r gogledd wnaeth y llwybr am hanner milltir ar hyd grib wych yn caniatau mwy o olygfeydd godidog i lawr i Beddgelert ac ar draws mynyddoedd Eryri. Yna crosoedd y daith dir corsiog yn ben Cwm Cyd ac i lawr gwli nant serth i’r tir corsog uchel uwchben y llyn. Daeth llwybrau defaid yn croesi walia toredig o’r diwedd a’r grwp i strydoedd taclus Treforus ac i lawr i brif lwybr y chwarel. Roedd cael te yn Ty Mawr y pleser olaf o’r dydd ac yn siawns i adfer ar ol taith egniol ond wobrwyol o ryw 7-8 milltir a 2750 troedfedd o ddringo dros oddeutu 6 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 24ain Fehefin 2021. Cylchdaith Chwilog-Llangybi. Cyfarfu 11 aelod yn ardal y Dafarn Madryn, Chwilog ar gyfer taith 7 milltir yn cael ei harwain gan Meri Evans ac Elspeth Roberts. Roedd hi yn ddiwrnod tywyll/tamp o’r cychwyn yn union fel ddyddiau diweddar. Roedd y rhan fwyaf o’r daith ar ffyrdd tarmac gwladol yn ol ac ymlaen o Chwilog i Llangybi ac yn ymweld a Ffynnon Cybi safle lleol adnabyddus. Oddiwrth a tu ol i’r ffynnon roedd yna ddringo serth, i ddechrau trwy’r coed nes cyrraedd caeau ble’r oedd y llethr yn cynnyddu hyd nes cyrraedd copa Garn Bentyrch, 400 troedfedd. Roedd tri o’r cerddwyr wedi penderfynnu cael cinio ar ol cyrraedd y caeau tra roedd y gweddill yn ciniawa ar y copa. Yna mi ildiodd y tywydd rywfaint ac wedi cyrraedd yn ol ar y tarmac drwy fynwent eglwys St. Cybi dyma hi yn goleuo ac yn amser i gael gwared o’r dillad glaw! Roedd hon yn daith digon ddymunol os fuase’r tywydd yn well ac fe gawsom ein trechu ar ol dychwelyd i Chwilog gan ddarganfod fod Tafarn y Madryn ar gae ac felly dim lluniaeth. Dafydd Williams.

Dydd Sul 20ed Mehefin 2021. Criccieth-Treflys-Graig Ddu. Taith cerdded 'B' amgen. Cychwynnodd y daith B gyda 4 aelod yn bresennol ar ddiwrnod dymunol o’r caffi Blue China ar rodfa dwyreiniol Criccieth. Roedd rhagolygon y tywydd yn gynharach yn yr wythnos wedi bod yn fygythiol dros ben ond wedi gwella yn arw erbyn hyn.
Aeth y daith i’r dwyrain ar hyd y rhodfa, tu cefn i’r bwyty poblogaidd, Dylan’s ac ymlaen i’r dwyrain yn gyfochrog a’r rheilffordd hyd nes cyrraedd safle’r hen Arhosiad Tren. Wedi croesi’r lein dyma fynd i’r dde i’r Graig Ddu, disgrifiad priodol, a gan fod y llanw allan roedd yn caniatau inni fynd i’r dwyrain a dringo dros adran greigiog am bellder byr a chyrraed llwybr gwelltog yn mynd ar i fyny. Daeth hyn a ni i ffordd drol yn arwain i dy gwyn “Tripp” yn edrych dros Traeth y Graig Ddu o’r golwg bron gan haid o Geir a phobl yn benderfynnol i fwynhau eu hunain. Oddeutu 200 llath ymhellach dyma ymuno a ffordd fach darmac yn arwain i’r traeth ond i’r chwith yr aethom ac ar ol o amgylch 400 llath i fyny’r allt dyma gyrraedd eglwys Treflys, ble bu aros am baned, y cerrig beddi niferus yn fyrddau cyfleus!
Gan ddychwelyd i’r ffordd dyma fynd i’r gogledd ar y tarmac am oddeutu dwy filltir nes cyrraedd Bont y reilffordd Wern, ac roedd yn rhaid mentro ein bywydau a rhedeg ar draws y ffordd brysur, yr A497. Tu ol i’r bont mae yna lwybr, i’r gorllewin ac ar i fyny i gychwyn ond yna yn wastad ac ar ol tri chwarter milltir dyma gyrraedd croesffordd o lwybrau, syth ymlaen i Dolbenmaen, o’r gogledd i’r de Penmorfa i Pentrefelin, lle addas i gael cinio. Roedd y man yma yn y coed heb ddim golygfeydd ond roedd yn rhoddi amser i fyfyrio diwrnod mor arbennig yr oedd hi i gerdded gyda’r wlad , yn dilyn y glaw diweddar, ar ei oreu.
Wedi ciniawa dyma fynd i’r chwith ac o fewn milltir cyrraedd y senotaff ym mhentre Pentrefelin ar yr A497 ac ymlwybro i’r gprllewin am 200 llath cyn mynd i’r dde ac i’r gogledd i fyny Allt Tabor ble ar ol oddeutu 200 llath dym alw ar gartref dau aelod, Jack a Christine First a chael ein tywys o amgylch y llwyni, adrannau llysiau a’r ty gwydr nobl. Yna dyma fynd ymlaen i fyny’r rhiw cyn mynd i’r chwith a heibio cartref aelod arall oedd heddiw yn arwain y daith A. Oddi yno yn serth i fyny’r allt tan cyrraedd fferm Braich y Saint. Yna ar ol hanner milltir arall, i’r chwith ac i’r de a chyraedd tir yr hen Glwb Golff, Criccieth ble fel aelod am dros hanner can mlynedd roeddwn yn ymwybodol o ysbrydion o hen golffers! Wedi cyrraedd yr hen dy golf roedd rhaid mynd i’r dde ac i fyny i gopa Moel Ednyfed, wedi ei amgylchu gan nifer o feini mawr oedd yn datgan ei fod yn safle gaer ryw dro. Roedd yr golygfeydd yn syfrdanol i bob cyfeiriad, mae y safle hon yn arbennig ar gyfer golygfeydd ac mi wn iddo gael ei ddefnyddio i wylio diffygiau a phethau tebyg yn fy amser i. Yna i lawr yr ochr orllewinol i Blas Ednyfed ac i lawr y dreif i’r ffordd Criccieth i Gaernarfon yr B4411, i’r chwith a drwy y stad o dai cyngor, heibio Bryn Awelon ac ar i lawr ar fordd fechan ddeiliog i’r lon bost, Criccieth i Pwllheli yr A497 eto. Croesi hon, gyda anhawster eto, ac i lawr ac ar hyd Rhodfa’r Marine, i fyny a heibio’r castell urddasol ac, o’r diwedd, i lawrallt y castell ac yn ol i’r Blue China. Taith fwynhaol gofiadwy o 10 milltir gyda cwmni da dros pum awr a hanner. Dafydd Williams.

Sul 20 Mehefin 2021. Taith ‘A’ Capel Curig -Llyn Crafnant- Llyn Cowlyd. Ystyriwyd gohirio’r daith hon ar sail rhagolygon tywydd gwael iawn ond gydag argoel am welliant a thywydd sych, cymylau ysgafn a chyfnodau heulog penderfynodd  dau aelod ymuno ac Eryl Thomas am daith ddifyr 12.5 milltir  rhwng y llynnoedd i’r gogledd o Gapel Curig.
Wedi parcio mewn cilfan ger Plas y Brenin  dilynwyd llwybr Ogwen heibio Gelli at siop Jo Brown cyn croesi’r A5 ac i’r gogledd ddwyrain i dir mynediad agored gan ddringo yn gyson heibio Crimpiau i Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Glas Crafnant.  Cafwyd paned mewn bwlch ar gyfuchlin oddeutu 1000tr a chyfle i fwynhau’r golygfeydd  godidog o lyn a dyffryn coediog Crafnant  ymhell islaw. Disgyn wedyn i  lan gogleddol y llyn. Gan fod cerbydau o Drefriw yn medru cyrraedd yma, dyma oedd rhan brysuraf y daith.  Dringo wedyn i rostir uwch i’r gogledd orllewin cyn cymryd cinio ger Lledwigan. Yma cafwyd golygfeydd panoramig o dir ffrwythlon Dyffryn Conwy a chadwyn y Berwyn a Rhostir Sir Ddinbych yn gefnlen  i un cyfeiriad , gweddillion gwaith plwm ac arian y Klondyke  i gyfeiriad arall a chip hyd yn oed o bendraw Penrhyn Llŷn. Braint oedd rhannu’r olygfa gyda’r Cudyll Coch yn cylchu uwch y dyffryn.  Parhaodd y llwybr dros dir mwy di-nod hyd at 1650 tr uwch y môr cyn disgyn i Lyn Cowlyd. Datblygwyd y Llyn tawelach hwn yn gyntaf fel cronfa ddŵr i wasanaethu trefi arfordir y gogledd, ond bu wedyn yn cynhyrchu pŵer hydro i waith  alwminiwm Dolgarrog nes iddo gau yn 2007. Mae nawr yn cyflawni trydan i’r grid cenedlaethol. Croeswyd morglawdd y llyn a heibio’r beipen ddu anferth yn nadreddu ei ffordd i’r tyrbin islaw.  Llwybr gwastad wedyn am ddwy filltir  ar lan gogleddol dyfroedd oer a dwfn Cowlyd, sy’n gorwedd rhwng llethrau serth Pen Llithrig y Wrach a Chreigiau Gleision.  Un ddringfa arall ym mhen draw’r llyn heibio craig amlwg Maen Trichwmwd a llwybr graddol lawr i Gapel Curig.  Diwrnod wrth ein bodd o gerdded cyflym dros dir gweddol hawdd gydag esgyniad o ryw 2350 tr. Noel Davey. (Cyf: CJ).

Dydd Iau 17 Mehefin 2021. Harlech-Llanfair. Ar ddiwrnod braf o Fehefin cychwynnodd 11 cerddwr o dan arweiniad Gwynfor am gylchdaith o gwmpas Harlech a Llanfair. Wedi cyfarfod ym maes parcio Min y Don yng nghanol y clwb golff, aethpwyd am y traeth gan basio set anghyffredin wedi ei llunio i ymdebygu i (neu efallai wedi ei hailgylchu o) ran flaen cwch rwyfo fechan. Ganol bore, a chanol wythnos ac ‘roedd y traeth yn bur wag gydag ambell un yn unig yn torheulo neu gerdded eu cwn, a chafwyd taith hwylus gwastad i’r de ar dywod cadarn.
Wedi hynny bu rhaid dringo cyfres o risiau igam ogam, gan bwyllo yn aml i edmygu’r olygfa cyn cael panad ar lecyn agored gyda golygfeydd dros y twyni tywod a chefnlen yn ymestyn o’r Cnicht i ben draw Llyn.
Rhaid dilyn y lon bost wedyn, ond wrth iddo wyro i osgoi pentref Llanfair ymlaen a ni i galon y pentref. Mae eglwys y Santes Fair yn agored i weddi breifat ar ddydd Mercher, efallai y byddai werth ymweliad wedi i’r aflwydd Cofid basio. Cofnodir fod eglwys yma yn 1188 pan fu i Gerallt Gymro (gydag Archesgob Caergaint) basio trwodd ac aros yma ar daith i bregethu a chodi milwyr i’r trydydd o’r Croesgadau.
O 1711 i 1734 y Rheithor oedd Ellis Wynne o’r Lanynys Fawr, tŷ hynafol oedd cyn Cofid o leiaf yn agored yn achlysurol. Ysgrifennodd nifer o emynau a charolau Plygain ond mae yn fwy enwog am Weledigaethau y Bardd Cwsg.
Ynghanol y pentref troi fyny heibio talcen Ty Bychan, croesi cae gan wynebu tomen llechi ond troi i’r dde i ddilyn llwybr coediog heibio gwaelod y domen. Darn byr o darmac wedyn yn arwain at ogofeydd llechi Llanfair, safle twristiaeth fechan, yna ar hyd llwybr goddefol coediog at i fyny. Mae darnau o’r llwybr yn llawn llysdyfiant ond yn fuan down allan heibio lawntiau taclus fferm Penyrallt.
Wedi dod i mewn i iard y fferm drwy’r drws cefn fel petae rhaid ymadael drwy’r brif fynedfa, ar darmac eto am sbel a heibio safle wersylla fechan. Gadael y lon galed eto am lwybr yn arwain i’r Gogledd. Cafwyd cinio tra’n edmygu golygfa wych arall yn cynnwys pentrefi Llanfair islaw a Llandanwg yn nes at y môr, y ddau wedi eu gosod men clytwaith o gaeau bychain amgylchynir gan waliau cerrig nodweddiadol yr ardal. Heibio ceg yr afon Artro mae Mochras a maes awyr Llanbedr, lleoliad posib i orsaf gofod cyntaf Cymru medd rhai.
Anelu yn ôl wedyn i Harlech ar gyfres o lwybrau bychain, rhai yn agored braf, eraill rhwng llwyni eithin gyda nifer o gamfeydd cerrig i’w dringo yn ofalus. Maes o law cyrhaeddwn dopiau Harlech gan edrych lawr ar y Castell.
Yn y dref gwahanodd y grŵp, rhai am ddisgwyl eu tro i gael mynediad i gaffi Cadw yn gysylltiedig â’r castell cyn (mae’n debyg) mentro lawr y stryd sydd dal wedi ei chofnodi yn lleol fel stryd serthaf y byd. Aeth eraill yn ôl yn ddi-oed i’w ceir i gwblhau taith o ryw bum milltir a hanner. Gwynfor Jones.

Dydd Sul 13eg Fehefin 2021. Mynydd Cennin. Cyfarfu dwsin o Rodwyr Llyn yn Bryncir ar ddiwrnod cynnes a heulog o ddechrau haf. Arweiniodd Kath Spencer daith gron hyfryd mewn ardal weddol ddiarth yn Nyffryn Ddwyfach. Aeth y daith i’r gogledd o’r hen orsedd Bryncir ar hyd y ffordd hamdden, Lon Eifion, gan ddilyn trac yr rheilffordd gynt o Gaernarfon i Afon Wen, a gaewyd o dan doriadau Beeching yn 1964, ond nawr yn werthfawr iawn i gerddwyr a beicwyr. Croesodd y ffordd yr Afon Ddwyfach ddwy waith ger Derwyn Bach a safle y Gaer Rufeinig Pen Llystyn, adeiladwyd cyn Crist 80 fel rhan ymosodiad gan y Rhufeiniaid i feistroli gogledd Cymru. Ymhellach ymlaen, roedd llwybr i’r gorllewin yn mynd heibio fferm lwyddiannus, Derwen Fawr, o dan y llinellau pwer grym trydan uchel o Drawsfynydd a thri twrbein gwynt. Roedd copa gwelltog bryn Y Foel, 715 troedfedd, tir comin, yn le manteisiol am olygfeydd o’r wlad o amgylch a chael paned. Ger Bwlch Derwin aeth dolen o lwybrau llydan a’r parti drwy ardal enfawr o goed conwydd yn cael ei rheoli gan Tilhill. Dyma rhan hir syth gyda codiad yn y ffordd yn arwain i Cae Gors a thrwy wal fregus i ardal o dir agored Mynyd Cennin. Roedd yr uchder o 860 troedfedd y man uchaf o’r diwrnod ac yn amser  cael cinio ar y copa. Er ddim yn “fynydd”, roedd yr ardal braf yma o dir uchel gwelltog yn rhoddi golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad, i Ynys Mon yn y gogledd, Mynydd Graig Goch a chopfeydd Eryri  i’r dwyrain, ardal o brydferthwch naturiol, Bryniau Clynnog i’r gorllewin a’r caeau toreithiog a choedwigoedd Eifionydd yn ymestyn i arfordir Llyn i’r de. Gan fynd i’r de i Hendre Cennin, dilynnodd y ffordd rhan gogleddol o’r Lon Goed,  estyniad o’r trac adnabyddus sydd yn goediog, er wedi braidd ordyfu a llai o ddefnydd iddo na i lawr i’r de. Dilynnodd y rhan olaf ffordd wladol i’r dwyrain drwy ffermydd Llecheiddior ble mae’r gweithfeydd agored graean dros dro yn difrodi’r wlad. Roedd hon yn daith hawdd ac yn fwynhaol dros ben o 9 milltir gyda dringo cynyddol oddeutu 1000 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 10 Fehefin 2021. Porth Ysgo - Penarfynydd. Roedd y daith yma o 5 milltir yn gyfan gwbl yn y niwl. Roedd y cyflwr gweledig ddim mwy na chan llath am bedair awr. Er hynny mi fu 10 cerddwr o dan arweiniad Judith Thomas fwynhau taith gyda digon o amser i gloncian. Tra roedd yr aer, a’r glaswellt dan draed yn damp mi oedd hi yn gymharol gynnes a dim glaw. Roedd yn rhaid gadael y golygfeydd bendigedig o’r rhan yma i’r arfordir i’r dychymyg, ond roedd y ffurfiau tywyll o’r creigiau yn ymddangos a swn nid golwg y mor yn atmosfferig. Cychwynnodd y daith o’r cae maes parcio yn Porth Ysgo. Roedd y clogwyn yn glytwaith hyfryd o flodau gwyllt – llygaid y dydd mawr ac eraill yn ffram i rhaeadr nant yr Ysgo. Roedd y creigiau duon ar y Traeth yn atgof o’r hen weithfeydd manganis gerllaw. Mae’r rhan o’r llwybr yn cysylltu i Penarfynydd uwchben Porth Alwm a Porth Llawenan i’r de, yn dal i gael ei ddatblygu, felly dyma’r ffordd yn cymeryd llwybr i’r tir ar draws caeau gyda sawl gamfa anodd. Roedd yna aros am baned yn Fferm Penarfynydd gyda adloniant gan fochyn plastig real a dwy afr fusneslyd a newynog! Ymhellach ymlaen, roedd merlynod yn pori yn cyflenwi’r filodfa. Aeth y daith ymlaen i ben draw gwyllt o Fynydd Penarfynydd ar gyfer golygfeydd profoclyd cynhenid, yn dychwelyd ger y postyn ar y ccpa 580 troedfedd. Roedd cinio yn dilyn yn y corlannau defaid ger Graig Fawr. Roedd y niwl yn distewi y bloeddio yn garreg ateb Carreg Lefain. Yna fe aeth y daith yn ol i Ysgo gan ddilyn trac heibio Ty Croes Mawr a’r ffordd wladol yn mynd ger yr eglwys unig, Llanfaelrhys. Arhosodd y criw i ymweld a’r lle tlws yma sydd yn cael ei gadw yn agored ac mewn cyflwr perffaith. O’r canol oesau i ddechrau, mae gan yr adeilad un ystafell gysylltiad mwy diweddar i’r bardd RS Thomas a’r chwiorydd Keating o Plas yn Rhiw. maent wedi eu claddu yn fynwent yr eglwys. Gwibdaith ddieithr ond gofiadwy. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 6ed Fehefin 2021. Cylchdaith Porthmadog-Penmorfa-Traeth Creigiau Duon. Daeth diwrnod heulog a 9 aelod o’r clwb i Borthmadog ar gyfer taith gylch o dan arweiniad Hugh Evans o amgylch amrywiol ddiddorol o gefn gwlad y dref. Cychwynnod y daith drwy strydoedd a llwybrau cefn i’r harbwr, yn brysur gyda llongau hamdden. Yna ar draws y Stryd Fawr a thraciau’r Rheilffordd Ucheldir Cymru, llwybr coediog yn mynd gyda Ynys Tywyn, bryncyn bychan coediog yn berchenogaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y pen gorllewinnol o’r Cob, yr argae mawr adeiladwyd gan Madocks dros 200 mlynedd yn ol i ailennill y Traeth Mawr o’r mor, mae’r llifddorau a’r morlyn yn nodi i ble’r neilltuwyd a rheoliwyd dyfroedd yr Afon Glaslyn fel rhan o’r anturiaeth peirianuriaeth rhyfeddol yma. Ymlaen ar lwybr gwastad drwy ran annibennol masnachol ar gyrion y dre, yna ar draws caeau or lifo o amgylch y lle a’r enw priodol “Farm Yard”. Oddi yno fe aeth y ffordd i’r gorllewin ar hyd y ffordd fawr drwy sqwar odidog Tremadog. Yn dilyn yr ysbyty arweiniodd llwybr ceffylau coediog i Penmorfa o dan glogwynii serth Alltwen. Yna fe aeth llwybr hen dymunol i’r de drwy hen Stad Y Wern. Mae hon yn dyddio o’r 16eg, unwaith yn feddiant y teulu pwerus y Wynniaid, ond mi fu i’r ty ei hun gael ei adlunio mewn dull Chelf a Chrefft yn yr 19eg hwyr i’r peirianydd RH Greaves o chwarel Llechwedd. Yn dilyn cyfnod fel cartref mamaeth, mae nawr o dan adnewyddiad, yn cynnig llety yn y nifer adeilad allanol. Aeth ffordd wladol i’r arfordir drwy’r coed ac heibio yr eglwys unig Sant Mihangel, Treflys, ble roedd fynwent uwchben Morfa Bychan, yn le addas i gael cinio gyda golygfeydd da o Foel y Gest a’r mor. Yna fe aeth y ffordd i’r gorllewin ar draws yr enfawr draeth lanw isa eang, Traeth Creigiau Duon, wedi ei sarnu gan geir yr mewnlifiad arferol o fobl ar eu gwyliau. Wedi cylchu Ynys Cyngar, aeth y llwybr uwchben Bae Samson ac ar ymyl Cwrs Golff Porthmadog. Yna dringodd cylch i’r tir i wlad wylltach ar wylodion Moel y Gest cyn belled a’r hen lon bost yn Tyn y Mynydd. Roedd yna aros croesawus am de prynhawn o dan goeden Fai yn denu chwilfrydedd dau llama o’r ganolfan farchogaeth gerllaw. Aeth oddeutu’r filltir olaf a’r parti i lawr i’r pentref deniadol, Borth y Gest yn tyrru o amgylch ei fae bychain ac yna yn ol ar hyd yr arfordir i Borthmadog. Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog, gyda cherdded rhwydd o 13miltir dros 7 awr gyda’r mwyafrif o’r dringo o 1150 troedfedd yn hawdd. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 3ydd Fehefin 2021. Bwlch y Dwy Elor. Ymgunullodd ynghyd criw o 10 cerddwr yn Pont Cae’r Gors ger Rhyd Ddu (yn anffodus methodd un cerddwr y daith oherwydd iddi gamgymeryd Cae’r Gors, Rhosgadfan, cartref plentyndod yr awduras Kate Roberts fel y man cychwyn). Dafydd Williams arweiniodd gylch o 6.5 milltir drwy Goedwig Beddgelert, dringo 1200 troedfedd i’r bwlch yn arwain i Cwm Pennant. Roedd y tywydd ar y cychwyn yn eithaf cymylog ac oeraidd i gymharu a diwrnodau diweddar, ond mi arhosodd yn sych a chlir yn hwyrach. Cychywynnodd y daith i’r gorllewin ar hyd llwybrau llydan y goedwig ac yr oedd y rhain yn dywyllodrus ac roedd yn rhaid ymofyn cyfeiriad o’r rhifau llwybrau ddefnyddiol. Dringodd y llwybr yn gyson i Fwlch y Ddwy Elor, 1400 troedfedd uwchben y mor, fel yr ydym yn deall yn dilyn yr ymarfer o gario’r meirw, yn aml yn dilyn damweiniau yn y chwarel, rhwng Cwm Pennant a Rhyd Ddu, ac yn trosglwyddo’r corff i dim arall ar gopa’r bwlch i fynd i lawr.Roedd y man unig ac agored yma yn caniatau golygfeydd i lawr Cwm Pennant ac arfordir Llyn ac i lawr i St. Tudwal’s. Dyma “wal draws” yn y fan yma yn rhoddi cysgod i gael paned y boreu. Yna dyma fynd yn ofalus i lawr llwybrau a llethrau, drwy weddillion diddorol Chwarel Tywysog Cymru. Caeodd yr anturiaeth enfawr yma yn 1886 ar ol dim ond 13 mlwyddyn o weithredu di elw. Aeth llwybr creigiog garw a’r daith i’r dwyrain drwy Bwlch Cwm Trwsgl, heibio brigiad anferth Y Glyn. Yn dilyn ymlwybro caled i lawr ar draws tir noeth, y coed newydd eu clirio, ac roedd yn ryddhad i gyrraedd trac iawn ac aros am ginio. Cynyddu wnaeth haul y prynhawn ac roedd y llwybrau yn llai bygythiol drwy’r coed gyda ambell olygfa i gyfeiriad llethrau cymylog Y Wyddfa ar draws Dyffryn Colwyn a brig amlwg Yr Aran yn y blaen. Roedd glan tawel ac o’r neilltu, Llyn Llywelyn yn le ardderchog i aros am de. Roedd yn dda gweld nifer o deuluoedd o amgylch yn rhannu’r man anghysbell yma. Wedi cyrraedd Hafod Ruffydd Ganol ymunodd y daith a’r Lon Gwyrfai gampus, llwybr ar gyfer nifer weithriad, rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu, gan groesi Afon Cwm Du ar y bont gerrig wych o’r 18ed ganrif a’r hen ffordd y goits fawr i Gaernarfon. Roedd hon yn daith fwynhaol gyda amryw o adrannau heriol dros 5 awr gyda cwpeini da. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 30ain Fai 2021. Cylchdaith Criccieth - Rhoslan. Wrth iddi fod yn wyl y banc cynnes, heulog ac yn eithriadol o brysur penderfynwyd i wneud y daith yn un leol. Dafydd Willians arweiniodd 10 aelod o’r clwb ar daith ddifyr o Lanystumdwy yn cyfuno tirwedd gwladol Eifionydd a Llwybr yr Arfordir o Griccieth. Aeth y llwybr cyfarwydd i fyny’r llwybr hudol gyda glan Afon Dwyfor heibio bedd Lloyd George a drwy’r goedwig ar lan yr afon yn edrych ar ei oreu wanwynol gyda ffawyddeddau gwyrdd a carped llachar o flodau gwyllt. Roedd yna arhosiad am goffi ar Bont Rhydybenllig ar yr B4411, yn brysur heddiw gyda trafnidiaeth ymwelwyr a fferm. Yna dyma’r daith yn mynd ar lwybrau llai cyfarwydd o amgylch Cefn Isa, ty fferm ardderchog traddiodiadol, wedi ei adnewyddu, ac a’r perchennog presennol am ei werthu drwy werthu tocynnau raffl £5.00, sydd yn ei wneud ar gael i bawb beth bynnag eu sefyllfa ariannol, hyn yn dilyn yr un gwerthiant llwyddiannus y ty drws nesaf, Cwellyn, yn yr un newydddeb anarferol. Mae’r fan yma yn ardal wastatir agored o Lyn fewnol o amgylch 300 troedfedd o uchder yn nodweddol o gaeau waliog agorad ac anheddfannau hynafol sydd wedi ei brofi gan y ddwy siambr gladdu oes ddiweddar y meini yn Rhoslan ac Ystumcegi,d. Roedd yr ymyraeth ddiweddar o ffensiau trydanol yn creu tipyn o anhawster, ond yn gofalu na toedd yna ddim cyfarfod annisgwyl hefo’r nifer fawr o wartheg. Wedi croesi pont hir fregus a gamfeydd lletchwith cyrhaeddodd y parti yn ol ar draws uchel fannau’r Afon Dwyfor am ginio ger y gromlech gyda’r garreg anferth fflat yn do, ger Ystumcegid. Yn dilyn rhan ar ffyrdd gwledig fe aeth y trac ar draws hen gwrs golff Criccieth, heibio’r hen dy golff mae’r perchenogion yn bwriadu ei ail adeiladu i letya aduniadau teuluol a grwpiau tebygol. Mae’r dyll yma yn cael ei ddilyn yn y ty o’r 18 ganrif cyfagos, Ednyfed Fawr, cartref Margaret Owen, cyn iddi briodi a Lloyd George. Yna dringfa fer o Fynydd Ednyfed, fwy o fryn na mynydd, yn caniatau golygfeydd gwych o Griccieth a’r Rhinogydd ar draws y bae. Aeth y rhan olaf o’r daith i lawr at yr arfordir drwy Lon Fel, Muriau a’r trac cysgodol adnabwyd yn lleol fel “Lover’s Lane”. Aeth y ffordd arfordir brysur a’r parti unwaith eto ar hyd y Ddwyfor ger ei genau ble yn anffodus toes yna ddim gobaith ar hyn o bryd o gael pont droed. Yn ol yn Llanystumdwy drwy Fferm Aberkin roedd Tafarn y Plu gymunedol yn groesawys wedi ei ail agor gyda torf o ddiotwyr yn eistedd y tu allan ac yn mwynhau cyfeiliant band byw. Roedd y daith weddol haws amrywiol 10 mlltir yma yn ddewis da ar gyfer dydd Sul gwyliau cynnes. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 27ain Fai 2021. Cylchdaith ddwyreiniol Abererch. Megan Mentzoini arweiniodd 10 cerddwr ar daith bleserus o 7 milltir o Abererch. Roedd yn ddiwrnod cynnes a heulog, newid derbynniol o’r glaw diweddar a ddilynnodd i deithiau wythnos diwethaf gael eu byrhau neu dileu. I ddechrau fe aeth y parti i’r dwyrain ar hyd y traeth tywodlyd ardderchog Abererch a oedd bron yn wag. Oddeutu hanner ffordd ar ei hyd daeth hen garreg fawr byr a thew i’r golwg ar silff amlwg ar yr tywodfryniau uwchben y traeth oedd unwaith o bosib i mewn yn y tir, erbyn hyn mae erydiad yr arfordir wedi rhoddi’r nodwedd amlwg yma ar y traeth. Ar bentir ymwthiog Penychain dyma aros i gael paned a mwynhau yr olygfa eang wych o fynyddoedd Eryri, ac o Grib Nantlle yn y gorllewin i’r Moelwyni yn y dwyrain gyda’r Wyddfa yn y canol. Yn ymyl roedd yna blat haearn, tebyca gweddillion safle gwn o’r Ail Ryfel Byd, atgoffiad o ddefnydd y man yn y rhyfel cyn i’w drosglwydo i Butlin’s ac yn fwy diweddar Parc Hamdden Hafan. Aeth y daith i’r tir a dilyn llwybrau llydan gwelltog ar draws cwrs golf newydd Hafan gan fynd heibio ychydig o letyau moethus y Parc. Wedi croesi’r ffordd fe ddilynnodd y daith ffyrdd bach cul a choediog, gyda’i ymylon yn hyfrydwch o flodau gwyllt y gwanwyn. Arweiniodd y rhain heibio’r ty hanner canol oesol prin o’r 15ed ganrif, Penarth Fawr. Nid oedd CADW wedi ail agor y llys, ond mi oedd yn bosib edmygu ei nodweddau allannol ardderchog. Ymlaen a’r daith ar ffyrdd bach yr holl ffordd o amgylch Broom Hall, unwaith y stad fwyaf yn Eifionydd. Roedd y coed trwchus yn y tir parc eang yn gwaharddu unryw olwg o’r ty gafaelgar o’r 18ed ganrif. Roedd yna gip olwg o’r tai 18ed ganrif perffaith llai a’r ardd Plas Hendre oddiwrth trac o’r gilffordd gyfyngus (yn agored o hyd i unrhyw geffyl a chart sydd wedi oroesi) oedd yn arwain yn ol i’r briffordd yn Abererch. Roedd hon yn daith laes a llac a chymdeithasgar drwy arfordir ddeniadol a gwlad goediog gyda dim ond ychydig o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 23 Mai  2021. Llyn Trawsfynydd. Wedi'i ganslo oherwydd tywydd gwael.

Dydd Iau 20 Mai 2021. Mynydd Nefyn (llethrau isaf). Digwyddodd y daith er gwaethaf y gwynt a'r glaw trwm. Arweiniodd Miriam y grŵp o wyth ar y daith gerdded ond ei dorri 2-3 milltir! Dychwelodd pob un yn ôl pob golwg mewn ‘ysbryd da’.

Dydd Sul 16eg Fai 2021. O Amgylch Yr Eifl. Roedd yna 9 o gerddwyr ar y daith yma o 6 milltir ac yn cael ei arwain gan Dafydd Williams yn cychwyn o faes parcio’r eglwys yn Llanaelhaearn. Roedd y daith yn ychwanegol i’r daith A ac yn cychwyn o’r un fan dan arweiniad Noel Davey i ddringo Bryniau Clynnog. Roedd hi yn ddiwrnod weddol braf ar y cychwyn ag er gwaethaf y cymylau glaw ymddangos o dro i dro, mi gadwodd y glaw draw ac mi brofodd i fod yn ddiwrnod da i gerdded gyda’r ddaear yn eithaf cadarn o dan droed.
Roedd yr hanner milltir cyntaf ar i fyny ar yr B4417 y ffordd sydd yn arwain i Lithfaen, yna fe aeth y llwybr i’r dde drwy giat fochyn a dilyn arwyddion amlwg oedd ddim ar gael y tro diwethaf i’r Clwb gerdded yn y fan hyn. Ar ol oddeutu hanner milltir roedd dau gae wedi eu croesi a dyma gyrraedd lon darmac fechan ac mynd i’r chwith am bellter byr cyn mynd i’r chwith eto a chamlinelli gwylodion Yr Eifl. Ar ol oddeutu milltir dyma gyrraedd llwybr yn dod i fyny o gyfeiriad Trefor ac yna dyma ddechrau ar y gwaith caled o ddringo yn serth gan ddilyn rhes o bolion telegraff am hanner milltir ac o’r diwedd cyrraedd Bwlch yr Eifl. Roedd y dringo serth yn gwaharddu rhoddi sylw i’r golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad er i ni gael dwy seibiant ond roedd arosiad am de/coffi yn rhoddi ‘r cyfle. Yna dyma ddilyn y llwybr grean llydan i lawr i gyfeiriad maes parcio Mount Pleasant ac oddeutu hanner milltir yn brin ohonno dyma fforchio ar lwybr gwelltog gan amlinellu i’r dwyrain ac yn raddol ar i fyny gan groesi dau lwybr yn arwain i gopa’r Eifl. Yn fuan ar ol i’r llwybr fynd yn serthach dyma gael cinio mewn man oedd yn caniatau golygfeydd eang o‘r arfordiroedd i’r gogledd a’r gorllewin yn y pellter. Gan barhau i ddringo’n gyson ac o fewn hanner milltir i gopa Tre Ceiri dyma gymeryd llwybr aneglur ar y dde a dal i amlinellu cyn mynd mwy i’r dde. Aeth y llwybr ymlaen ac am i lawr a chyrraedd camfa ac yna dilyn y wal ar y chwith drwy ddau gae cyn ail ymuno a’r B4417. Oddi yno roedd tua 800+ llath yn ol i’r man cychwyn. Diwrnod mwynhaol dros ben ac er i’r daith fod ddim ond 6 milltir roedd yna fannau serth i wneud yr ysgyfaint weithio. Dafydd Williams.

Dydd Sul 16eg Fai 2021. Fryniau Clynnog: Bwlch Mawr & Pen-y-Gaer. Heddiw, mentrodd 9 aelod i Fryniau Clynnog, un o’berlau anadnabyddus o Lyn sef ardal amlwg o brydferthwch naturiol. Roedd yn ddiwrnod eithaf heulog gyda gwynt ysgafn ac ni ddatblygodd y cawodydd oedd yn bygwth. Ar ol rywfaint o oedi, cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn cefnu ar eglwys Llanaelhaearn, gan ddringo gan bwyll ar lwybrau a thraciau trwy gaeau ac yna Penllechog ble roedd rhaid cymeryd camau i osgoi gwartheg yn yr iard. Tu draw i Maes y Cwm, ac o’r diwedd, dyma’r parti yn cyrraedd Fronheulog 900 troedfedd uwchben y mor ac ymuno a thrac llydan, nawr wedi ei benodi yn lwybr Gymunedol Arfordirol, sydd yn mynd yr holl ffordd ar draws y llwyfandir llydan gwelltog, ac yn ymylu rhwng bryniau Gyrn Ddu a Moel Bronmiod. Mae’r ardal yn nodweddol o rwydwaith o waliau hir wedi eu cadw, corlannau llafurfawr a’r Clawdd Seri hynafol. Ar ol oddeutu dwy filltir aeth y grwp i’rgogledd ddwyrain ar hyd llwybrau defaid, gan ddringo yn raddol i gamfa newydd ei adeiladu yn caniatau mynediad i gopa creigiog Bwlch Mawr, 1700 troedfedd, y man ucha o’r diwrnod. Roedd hi yn amser cinio ac yn rhoddi cyfle i edrych ar y golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd a’r mor i bob cyfeiriad. Roedd y ffordd yn ol i’r trac cannolog y rhan anoddaf o’r daith, yn gorfodi cripian dros ac o amgylch cymysgiad o gerrig mawr. Yna fe aeth y daith ar draws ehangder di lwybr o wlad agored fydd yn fuan yn haws mynd ato gan gynllun Ardal O Brydferthwch Naturiol ariannu rhai gamfeydd ac arwyddion llwybrau. Y man penodol oedd y bryn conigol amlwg Pen y Gaer sydd wedi ei goroni gan weddillion o gaer fechan cynhanesol, yn cael ei chyrraedd drwy ddringo byr serth i 1300 troedfedd. Yna dyma aros am de ar y man uchel uwchben cwm Bryncir. Roedd y rhan olaf o’r daith yn dilyn ffordd droed yn mynd yn araf i lawr Cwm Coryn, yn galluogi golygfeydd arbennig dros drefn o gaeau waliog hynafol a choedwigoedd Glasfryn. Aeth y rhan olaf ar ffordd wledig a’r parti i lawr yn ol i Llanaelhaearn ar ol cerdded arbennig o 6.5 awr dros 10 milltir gyda dringo cynyddol o ryw 2000 troedfedd yn y rhan o wlad ddistaw a rhyfeddol yma. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 13eg Fai 2021. Mynydd Mawr/Uwchmynydd/Gorllewin Llŷn. Mentrodd grwp o 8 i lawr tu draw i Uwchmynydd i’r blaen gorllewinnol o Lyn i fwynhau cylch ychydig yn brin o 6 filltir drwy dirlun arfordirol rhyfeddol yn y man unig yma. Fe arweiniodd Judith Thomas y daith hon mis Tachwedd y llynedd rhwng yr “firebreak” a’r ail glo hir. Roedd y cymylau gwynion a’r gwynt ysgafn yn gefndir i gyflusterau eitha cynnes ac mi gadwodd y glaw draw tan ddiwedd y daith. i gychwyn dilynnodd y daith Lwybr Arfordirol Cymru i gyfeiriad y de-ddwyrain, yn caniatau golygfa braf ar draws y Swnt i Ynys Enlli. Ymdrechodd rhai i fynd i lawr llwybr llithrig i’r pwll o ddwr ffres Ffynnon Santes Mair (St. Mary’s Well), yng nghesail y creigiau o Drwyn Maen Melyn, ond y tro hwn roedd y llwybr cywir yn aneglur ac yr oedd rhaid i’r criw fodloni ar olygfa o bell o’r llwybr wrth amgylchu Mynydd y Gwyddel (The Irishman’s Mountain?) ymhellach ymlaen. Yna fe aeth y daith dros nifer o bentiroedd odidog wedi eu hollti gan gilfachau tyfn. Roedd llwybrau’r clogwyni yn wenfflam o flodau lliwgar y gwanwyn yn cynwys blodau Gorffennaf, wniwn gwanwyn y mor, llygadau-y-dydd mawr, llysiau ychen y mor ac eithin. Roedd yr amddiffynfa a gweddillion cytiau gwyddelod ar Trwyn Bychestyn yn arwydd fod bywiogrwydd yn yr ardal ers mil o flynyddoedd. Yn Pen y Cil aeth y llwybr i’r gogledd yn dyn yn y clogwyni uwchben Hen Borth, Porth y Pistyll a Porth Cloch. Roedd yna olygfeydd i’w cael i gyfeiriad Aberdaron a’r ddwy ynys, Gwylan Fawr a Gwylan Fach. Yn dilyn cinio ar Graig Cwlwm fe aeth y ffordd i’r tir ar draws caeau heibio ffermydd Bodermid Uchaf ac Isaf. Ar ddiwedd y daith hyfryd yma gwnaeth hanner y grwp y ddringfa olaf i ben Mynydd Mawr, 535 troedfedd uwchben y mor ac y man gwylio llywodraethol yn yr ardal a safle y cyn orsedd gwylwyr y glannau a gweddillion o amddiffyniadau’r rhyfel. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 9ed Fai 2021. Cylchdaeth Llanystumdwy. Kath Spencer arweiniodd griw o 9 aelod ar daith bleserus drwy gefn gwlad Eifionydd gan gychwyn a gorffen yn Llanystumdwy. Roedd y dosbarthiadau o flodau gwyllt y gwanwyn yn y gwrychoedd ac ymylon y niferoedd o lwybrau coediog a ffyrdd bach ,ar ei goreu ar ol y glaw diwe feddar. Roedd yn ddiwrnod braidd yn gymylog gyda cyfnodau heulog ac ambell i gawod. i ddechrau fe aeth y ffordd drwy’r pentref dros pont yr Afon Dwyfor, heibio y Fferm Gwningod ac ar draws caeau Gwynfryn. Yma mae gweddillion mawreddog o Blas Gwynfryn, wedi ei adeiladu gan yr Aelod Seneddol, Ellis Nanney yn 1876, unwaith yn westy, ac yn awr yn disgwyl caniatad cynllunio i fod yn ystafelloedd wyliau. Aeth un o nifer o gamfeydd anodd a ni i’r coed ac i ganol garlleg gwyllt uwchben yr Afon Dwyfach. Aeth y llwybr ymlaen dros yr afon ar bont droed ac heibio Betws Fawr, o’r diwedd yn dod allan ar lwybr llydan Y Lon Goed. Adeiladwyd y chwe milltir hon yn 1820au i wasanaethu ffermydd mewndirol ac yn llawn haeddu i fod yn fwy adnabyddus. Heddiw dilynnodd y daith y rhodfa lydan o goed ffawydden wyrdd am oddeutu 2 filltir i’w therfyn deheuol yn Afon Wen. Yn dilyn arosiad byr am baned deg o dan bont y rheilffordd, ymunodd y daith a lwybr yr arfordir, heibio lletai moethus Parc Gwyliau Hafod y Mor. Cychwynnodd hwn yn 1940 pan adeiladodd Billy Butlin y gwersyll hyfforddi HMS Glyndwr ar gyfer yr Morlys gan ei gyfnewid i’r gwersyll gwyliau enwog ar ol y rhyfel. Roedd y pentir dinoeth gwyntog yn Penychain yn caniatau golygfeydd braf i lawr yr arfordir ond roedd lloches gorsedd yr rheilffordd cyfagos yn le gwell i giniawa. Wedi ein adfywio, dyma’r cerddwyr yn ail groesi’r A497 a mynd i’r tir drwy caeau Bryn Bachau sydd nawr yn fan eitha cudd i fferm solar. sydd wedi bod yn cynhyrchu ynni adnewyddiol oddi wrth ei ddosbarthiad 4.5MW dros y pum mlyned diwethaf. Wedi cyrraedd Chwilog fe aeth y daith i lawr y briffordd, gan fynd heibio stad lleol. Ail gerdded oddeutu milltir o’r Lon Goed oedd yn dilyn cyn mynd i lawr heibio Ysgubor Hen ac ar draws y Dwyfach unwaith eto ar bont droed arall. Daeth hyn a’r daith i Glyn Dwyfach a’r fynwent yn Bont Fechan, yn gadael ychydig o bellter drwy bentref Llanystumdwy. Roedd hon yn daith bleserus dros ben o amgylch 12.5 milltir mewn 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 6ed Mai 2021. Rhostryfan-Moel Tryfan-Moel Smytho. Arweiniodd Meri Evans ddwsin o gerddwyr ar daith saith milltir yn cychwyn o orsaf Rhostryfan. Gorsaf ydoedd ar ran caeedig o Reilffordd Gul Gogledd Cymru, cyfleuster godwyd i gario llechi o’r chwareli i’r porthladd. Mae rhan o’r llinell dal yn bod fel Rheilffordd Eryri heddiw.
Dilyn yr hen wely rheilffordd wnaethom drwy ddrysfa o gaeau bychain waliau carreg, nifer annisgwyl ohonynt gyda cheffylau yn pori. Ger cymuned Bryngwyn rhaid oedd troi i’r Dwyrain ar lon gyhoeddus. Wedi gadael llwybr y Rheilffordd ymserthu wnaeth y daith ac roeddem yn falch o gael hoe am baned ar lecyn gyda golygfeydd eang bendigedig dros Gaernarfon a’i gastell, Y Fenai, Llanddwyn ac ymhellach.
Dringo wedyn tuag at chwarel Moel Tryfan. Er i’r Arolwg Ordnans ei ddisgrifio fel un heb fod mewn defnydd ‘roedd peiriannau i’w gweld yn ei weithio. i’r chwith i osgoi'r domen gwastraff a dilyn ymyl honn yn serth at i fyny. Bechod i gymaint o’n cerdded cyfnod clo fod ar y gwastad! O’r diwedd daethom at bwll chwarel dyfnach cyn troi i’r chwith eto i gyrraedd copa Moel Tryfan, copa creigiog ynghanol rhostir.
Yna caethom ginio ac er y golygfeydd godidog am Fôn ceisiodd y rhan fwyaf ohonom gysgod y graig a golygfeydd i’r De at Grib Nantlle a’r Wyddfa dal o dan gwrlid o eira. Tynnu llun o’r grŵp ger cofeb yn nodi ymweliad Charles Darwin a’r fangre, yna’n flaen dros y rhos am Foel Smytho. Sgwrs fer yno a chychwyn ar ein taith i lawr, gyda golygfeydd yn awr dros bentre’ Waunfawr. Wrth ddechrau troi yn ôl am y gorllewin daethom ar draws tŷ a chasgliad o gaeau bychain o fewn waliau cerrig. Deallwyd mai yma y ffilmiwyd y gyfres Snowdonia 1890 yn dangos dau deulu modern yn ceisio ymdopi a chaledi a thlodi'r oes a fu. Addas iawn mae’n siŵr gan ein bod rŵan uwch ben Rhosgadfan cartref mebyd Kate Roberts. Atgofion o’r bywyd hwn oedd llawer o’i gwaith, yn ei geiriau ei hun yn ceisio croniclo bywyd pobol “oedd heb gyrraedd gwaelod eu tlodi ond yn ymladd yn ei erbyn, yn ei ofni”
Yna yn raddol gostwng a throi i’r gorllewin i gyrraedd Arosfan Tryfan ar y rheilffordd fodern cyn ail ymuno a’r hen gangen i’n tywys yn ôl i’n man cychwyn. Taith ddifyr a phleserus mewn ardal oedd yn ddiarth i lawer ohonom. Diolch Meri. Gwynfor Jones.

Dydd Sul Mai 2ail 2021. Dolwyddelan-Lledr Valley-Castell. Hugh Evans arweiniodd 7 cerddwr ar daith braf o 10 milltir drwy Ddyffryn Lledr hudol ar wyl Sul y banc eithaf braf. Cychwynnodd y daith o orsedd Ddolwyddelan, ar lwybr dymunol coediog ar ochr ddeheuol o’r dyffryn a chyrraedd uchder ooddeutu 700 troedfedd. Ar ol oddeutu 2.5 milltir fe aeth y cerddwyr i lawr i lwybr golygfaol yn dilyn yn ol i Ddolwyddelan, yn agos i lan yr afon a reilffordd Dyffryn Conwy sydd yn arwain i Flaenau Ffestiniog. Aeth y llwybr heibio Lledr Hall, a adeilawyd dros ganrif yn ol fel cartref gwyliau gan adeiladwr llongau ariannog, ond nawr yn ganolfan breswyl fywiogrwydd yn eiddo i Cyngor Salford. Ymhellach ymlaen yn ddramatig ar dir uchel uwchben yr afon yn Pont y Pant daeth y “castell” rhyfedd, Plas Penaeldroch, a adeiladwyd yn wreiddiol fel llety hela gan berchen chwarel, ac yn ddiweddar wedi ei adnewyddu fel gwesty a chaffi. Gan wneud lle i ddefaid ar goll, dyma’r parti yn croesi glan gogleddol o’r Lledr ar y bont droed a chymeryd llwybr uwchben yr A470 trwy Foel Cynnud, cyn safle chwarel lechi, yn arwain i lawr yn ol i bentref Dolwyddelan. Yn cyd ddigwydd gyda cerdded brysiog ar yr A470 roedd yna nifer o gawodydd byr yn achosi i’r tymherau ddisgyn yn sydyn, ond mi wellodd ddigon i ni gael cinio mewn man ysblennydd ar ochr twr sgwar amlwg o amddiffynfa mawreddog o Gastell Dolwyddelan, a adeiladwyd yn ddechrau’r 13 ganrif gan Llywelyn Fawr a anwyd gerllaw. Roedd y safle yma yn rhoddi golygfeydd ardderchog o ochrau garw Moel Siabod a’r ardal wledig cyfagos. Aeth ffordd cart ymlaen i’r gorllewin a chyrraedd oddeutu 800 troedfedd ac o’r diwedd yn ymuno a ffordd i lawr i Pont Rufeinig (Roman Bridge), a chymeryd y ffordd yn ol ar draws y Lledr i ddilyn yr afon ychydig filltiroedd yn ol i Ddolwyddelan ar lwybr dymunol arall. Cawsom ddiwrnod 5 awr o gerdded arbennig mewn ardal wledig yn bennaf gyda llethreddau cymharol fwyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Iau Ebrill 29ain 2021. Cylchdaith Abererch. Cafodd Rhodwyr Llyn foddhad garw o fedru ail ddechrau cerdded yn gymdeithasol (yn ddiogel o’r cofid) ar ol bod yn gyfyng am bedwar mis o gerdded yn annibynnol ar lwybrau a ffyrdd bychan lleol. Ar ddiwrnod clir a heulog arweiniodd Kath Spencer barti o 10 ar gylch oddeutu 7 milltir o’r maes parcio ger orsedd Abererch. i ddechrau fe aeth y ffordd i’r tir drwy stryd fawr ddistaw Abererch, yna dringo’r heol fach heibio’r Hen Ficerdy, sydd wedi ei adnewyddu, a Plas Llwyn Hudol, i ffordd Caernarfon. Aeth y parti i’r dde ar ol 200 llath i ddilyn ffordd wledig ddymunol, gyda blodau’r gwanwyn ar bob ochr, yn arwain i Denio. Yn Penrallt fe aeth llwybr cul drwy sgrwb i fyny i’r man ucha o Y Garn a chael cinio croesawus yn yr haul. Oddi yno roedd yna olygfa wych dros dref Pwllheli oddi tanom, a golygfa eang yn estyn i fyny ac i lawr yr arfordir ac ar draws mewndirol Llyn. Yna fe aeth y daith ar i lawr ger Coleg Meirion Dwyfor i’r dre, heibio’r orsedd, ar hyd rhodfa’r mor o’r harbwr mewnol a drwy’r Hafan Marina lliwgar yn Glan y Don. Roedd yna gyfle i edmygu’r Orsedd Bad Achub Newydd gafaelgar a dderbyniodd feddiant o’r bad achub Newydd Shannon Class, “Smith Brothers” wythnos yn ol. Ymylodd y llwybr o amgylch sianel yr harbwr, yn edrych ar draws i Cerrig yr Ymbil (Gimblet Rock), safle chwarel oedd unwaith yn bwydo’r setts i lorio strydoedd Lloegr. Roedd yma arwyddion o waith ynglyn a digwyddiadau glanhau heddiw, sydd ei eisiau yn barhaol i gadw sianel a basn yr harbwr yn agored. Roedd y rhan olaf o’r daith yn ymlwybr cyfforddus ar ochr y tywodfrynniau ac ar hyd traeth eang glan y mor Abererch. Profodd i fod yn ddechrau ardderchog i’r rhan diweddara o deihiau’r clwb. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Covid-19 Cymru cyfnod cloi. 19/12/2020 tan 26/04/2021. Dim teithiau cerdded wedi'u trefnu.

Dydd Iau 10 Ragfyr 2020. Cylchdaith Borth y Gest. Roedd y daith heddiw yn grwydr o 5 milltir gan Tecwyn Williams o bentref hardd Borth y Gest. Roedd yn ddiwrnod gweddol lachar a sych. Yn gyntaf, cymerodd y parti o 10 y grisiau serth yn arwain i'r gogledd o'r harbwr, lle prysur iawn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, man adeiladu cychod ar gyfer y fasnach arfordirol. Ymhellach ymlaen, roedd piler pren mawr dirgel o darddiad ansicr. Yma, yn hael, rhoddodd yr arweinydd i'r cerddwyr drît annisgwyl o fincepies cyn y Nadolig. Yna, wedi ei bodloni aeth y grwp ymlaen drwy’r coed derw hardd Parc y Borth, rheolir y grŵp gan Ymddiriedolaeth y Coetir mewn partneriaeth â CNC a'r gymuned leol. Roedd y llwybr yn croesi Ffordd Morfa Bychan, gan fynd heibio dŷ unig Tŷ'r Mynydd. i'r gogledd, cododd llethrau rhedyn a eithin i gopaon creigiog mawreddog Moel y Gest. Ger Tyddyn Adi, sydd bellach yn un o lawer o safleoedd carafanau a gwersylla lleol, trodd y llwybr i'r de. Roedd stop am ginio ar safle yn edrych dros y rhesi o garafanau ar Barc Greenacres. Yna ymlaen drwy Garreg Goch a chroesi Cwrs Golff Porthmadog, gan ymuno â rhan donnog hyfryd o Lwybr Arfordir Cymru sy'n glynu wrth arfordir Aber Glaslyn uwchben cildraethau tywodlyd bach ac yn ôl i'r Borth. Darganfyddiad gwerth chweil a wnaed i graig Samson, erratig rhewlifol amlwg, lle roedd golygfa dda ar draws y bae i Cwt Powdwr a ddefnyddid ar un adeg i storio ffrwydron a gludwyd i mewn ar gyfer y chwareli. Ychydig ymhellach cymerodd y grŵp lwybr cuddiedig arall i fwa naturiol trawiadol yn y creigiau uwchben y dŵr. Yn fuan cyrhaeddodd y cerddwyr y warchodfa natur ym Mhen y Banc ac adennill y pentref heibio'r hen dai peilot ger ceg yr harbwr. Roedd y daith yn darparu ychydig oriau difyr o ymarfer corff a sgwrsio hamddenol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul Rhagfyr 6ed 2020. Dolen Pentrefelin - Craig y Gesail. Diolch i Eryl Thomas am ein harwain ar daith hael ei golygfeydd a’i hanes yn gylchoedd o gwmpas Pentrefelin. O’r man cychwyn anelwyd gyntaf i’r de heibio Cae Gwenllian (uwchben llynnoedd pysgota Eisteddfa) a thrwy faes carafannau Mynydd Du cyn croesi’r A487. Dilynwyd llwybr heibio Moel y Gadair a’i hen waith copr o’r 19eg ganrif ac ymlaen i unigrwydd Eglwys Ynyscynhaearn. Yn wreiddiol hon oedd eglwys plwy Porthmadog ond erbyn heddiw mae yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill. Mae olion o’i phwysigrwydd gynt yn parhau, seti crand i’r byddigion, pulpud anferth ac organ o fri. Yn y fynwent cofnodir claddedigaethau yr enwog Jack Blach, James Spooner – adeiladydd Rheilffordd Ffestiniog, Dafydd y Garreg Wen a’r beirdd Ellis Owen Cefn Meysydd Isaf ac Robert Isaac Jones (Alltud Eifion) o Tyddyn Iolyn. Yn ol wedyn i’r pentref ar hyd y sarn ac ymlaen i’r Gogledd Ddwyrain trwy diroedd coediog, heibio Llys Cynhaearn a Garreg Felen – dau dy hardd a fu’n destun llafur Clough Williams Ellis. Ger Penmorfa ymwelwyd ag eglwys di-gyfail arall a gysegrwyd i Sant Beuno. Mae Porth sylwedol i mewn i’r fynwent ond digon syml yw golwg allannol yr eglwys. Tu mewn fodd bynnag mae olion crandrwydd gyda ffenestri lliw canoloesol a sawl nodwedd yn gysylltiedig a theulu Williams-Ellis. Wedi gadael yr eglwys bu rhaid dringo yn serth i gopa Craig y Gesail. Yno mwynhawyd tamaid o ginio a golygfeydd eang o Borthmadog, Moel y Gest a’r bae 900 troedfedd islaw. Gerllaw mae nifer o dyrrau cerrig trawiadol y credir iddynt gael eu codi gan ymwelwyr gyda cherrig o garneddi llawer hyn gerllaw. Disgyniad fwy graddol wedyn i’r gorllewin o’r Graig gan basio ty hanesyddol Gesail Gyfarch o’r 16eg ganrif sydd a chysylltiadau a theulu Wynniaid Gwydir yn mynd yn ol ymhellach. Yna ymlaen heibio Plas Wern cartref teulu chwarelyddol Greaves, a thrwy goedlannoedd yr ystad i’r de o’r briffordd. i orffen gwnaed dargyfeiriad bach i weld cartref Jack Black cyn mynd yn ol i’r pentref i gwbwlhau taith wych o 10 milltir gyda esgyniad o 1600 tr ar Sul heulog o Ragfyr. Noel Davey. (Cyf GJ)

Dydd Sul 6 Rhagfyr 2020. Cylch gron “Gwenllian a’r Wern” yn Llanfrothen. Oherwydd i ddau aelod dynnu’n ol y diwrnod cynt, cyfarfu pump ohonom gyfarfodd yn yr ardal o flaen i siop y pentref yn Llanfrothen ar fore bendigedig o Ragfyr yn dilyn noson o farrug ac ambell i fan llithrig o ganlyniad. Ar ol ganol dydd dirywiodd y tywydd i fod braidd i fod yn dawchlyd. Llanfrothen, wrth gwrs yw’r lle roedd y pensaer enwog (ymysg pethau eraill) , Clough Williams-Ellis yn byw ac mae ei gartref a’r gerddi godidog, Bron Danw, ar odre’r pentref. Cychwynnodd y daith i gyfeiriad Beddgelert ar yr A4085 ac ar ol oddeutu 400 can llath mynd i’r dde i gyfeiriad Croesor ac, ar ol mynd heibioBron Danw, mae yna dro tuag yn ol i’r dde ac ar ol pellter byr un arall ond y tro hwn i’r chwith. i gychwyn mae’r tarmac yn parhau ond yn fuan newid i fod yn ffordd goedwigaidd ac ar ol milltir a hanner dod allan ar ffordd fechan ble roedd braidd yn llithrig, yn mynd i’r dde i gyfeiriad Tan y Bwlch. Ar ol milltir ac ychydig yn brin o dy, Ogof Llechwyn, ar y chwith, mae gamfa gyda giat ar y dde a’rllwybr yn mynd i gornel y cae i bont droed ac mewn dau gam un arall gyda’r llwybr yna yn dilyn ochr chwith Afon Rhyd. Mae yn arwain i Dy Ty’n Ddol ble mae rhaid mynd 90 gradd i’r dde ac yna mae’r llwybr nodedig yn arwain i Tyddyn Gwyn ble inni fwynhau ein cinio er gwaethau iddi fod yn niwlog. Oddi yno ac ar ol oddeutu milltir ar draws tri cae a dros ddwy gamfa anodd dyma gyrraedd ffermdy Y Wern sydd yn dyddio o’r 16eg ganrif a chynt yn gartref i beth bynnag dau Gymro dysgiedig. Mae’r llwybr yn mynd heibio talcen y ty ac i lawr ffordd darmac am oddeutu 200 lath cyn mynd i’r dde ar drac ar i fyny drwy’r coed a chyrraedd grib y bryn o ble roedd y pentref i’w weld islaw. Yn y man hyn mae llwybr yn mynd i’r dde i fyny bryn arall ble mae twr wedi ei adeiladu, mae’r plac uwchben y drws yn darllen” Tanysgrifwyd y twr yma fel anrheg priodas i Clough Williams-Ellis a’i briodferch Amabel Strachey yn 1915 gan ei frodyr swyddogion o’r Welsh Guards. Yn yr ail ryfel byd paratoiwyd fel man militaraidd lleol i yrru’n ol yr oresgyniad a ddisgwylid gan yr Almaenwyr”. Roedd y man hyn yn werth ei ymweld ac oddi yno roedd dim ond i lawr y bryn ac ail ymuno a’r ffordd allanol ger Bron Danw ac yn ol i’r man cychwyn. Taith bleserus 6.5 milltir dros dair awr a hanner gyda cwmpeini da. Dafydd Williams.

Dydd Sul Tachwedd 29 2020. Dolen Nant Gwynant. Diwrnod hydref llachar a digynnwrf oedd y lleoliad perffaith ar gyfer taith gerdded lefel isel yng nghanol Eryri o amgylch dau lyn eiconig Llyn Dinas a Llyn Gwynant. Arweiniodd Roy Milnes 12 o gerddwyr ar y gylchdaith hyfryd hon o hyd 10-11 milltir yn cynnwys tua 1250 troedfedd o esgyniad. Dechreuodd y daith ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Neuadd Craflwyn i'r dwyrain o Beddgelert, gan groesi Afon Glaslyn ym mhwll copr Sygun a dilyn yr afon i lan ddeheuol Llyn Dinas. Hanner ffordd ar hyd y llyn, canghennodd y llwybr i fyny llwybr bryn, heibio tŷ unig Hafod Owen, cyn gartref i ddringwyr creigiau arloesol. Roedd stop ar gyfer coffi boreol mewn man agored ar uchder o tua 500 troedfedd o'r fan lle roedd golygfeydd godidog i lawr i ddyffryn Nant Gwynant ac ar draws i gopaon llyfn Lliwedd, crib Crib y Ddysgl a màs llwyd urddasol Yr Wyddfa ei hun. Roedd siafftiau o haul yn treiddio drwy dendrils o niwl yn dangos allan y gwyrdd llachar a’r brown o’r bryniau. Trodd y llwybr tua'r gogledd a disgyn yn raddol trwy goedwigoedd derw a phinwydd. Yn fuan, daeth drych cwbl llonydd o ddyfroedd Llyn Gwynant i'r golwg, gan rodddi adlewyrchiadau rhyfeddol o'r bryniau a'r coedwigoedd cyfagos. Gan fynd heibio pen gogleddol corsiog y llyn, trwy faes gwersylla sydd bellach yn wag, parhaodd llwybr creigiog trwy goed hyd at y graig amlwg o'r enw Elephant Rock (Penmaen Brith). Roedd stop i ginio ar y man gwylio ysblennydd hwn uwchben y llyn. Yna aeth llwybr a ffordd dda â’r parti trwy dir fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Hafod y Llan i Fethania, man cychwyn ar gyfer Llwybr Watkin Y Wyddfa. Heddiw croesodd y llwybr yn ôl dros Afon Glaslyn ac arwain yn ôl ar hyd lan ddeheuol Llyn Dinas, gan adennill y llwybr tuag allan. Roedd hon yn daith gofiadwy a mwyaf pleserus trwy dirwedd syfrdanol. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 29ain Dachwedd 2020. Cylchdaith i Rhyd. Cychwynnodd y daith o'r 2il arhosfan ar y chwith hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog ar yr A487 ac fe'i harweiniwyd gan Dafydd Williams. Roedd 11 aelod yn bresennol ar fore hydrefol hyfryd ond erbyn un o'r gloch, roedd wedi mynd yn niwlog braidd. O'r arhosfan fe wnaethon gerdded 200 can llath i gyfeiriad Penrhyn a chroesi'r ffordd i lwybr troed wedi'i arwyddo ac ar ôl rhyw 200 llath mynd i'r dde a bron yn syth i'r dwyrain ac ymlaen nes cyrraedd ffordd fach darmac. Arferai hon fod y briffordd yn cysylltu Maentwrog a Phenrhyndeudraeth yn ôl yn yr 18fed ganrif cyn i'r Traeth Mawr gael ei ddraenio. Yn fuan, aethom heibio ffermdy Bryn Dwyryd ar ochr y ffordd ac yna troisom i'r dde i lwybr troed arall wedi'i arwyddo ac ar ôl 150 llath fe gyrhaeddom gamfa yng nghornel y cae. 100 llath ymhellach dyma fynd hanner i'r chwith i fyny clawdd ac wrth gyrraedd y brig roedd arwydd llwybr troed i'w weld yn y wal gerrig o'n blaenau. Aeth hyn â ni i'r goedwig gyda'r llwybr yn mynd yn eithaf serth i lawr am 250 llath a chyrraedd a chroesi'r A487 unwaith eto. Yn union gyferbyn mae'r fynedfa i faes carafanau Blaen Cefn lle mae'r llwybr troed, bron yn syth, yn mynd i'r chwith ar hyd y perimedr i gyfeiriad Penrhyndeudraeth ac yn dod allan ar ffordd darmac Ar ôl 100 llath mae'r llwybr yn mynd yn serth i fyny nes cyrraedd prif ffordd Penrhyndeudraeth-Llanfrothen a dyma aros am baned bore gan ddefnyddio tair mainc gyfleus wrth rheilffordd Ffestiniog. Yna mae'r llwybr yn mynd i'r gogledd gyda'r rheilffordd ar y dde ac i Rhiwgoch ac ymlaen ar drac coedwigaidd sydd yn mynd am dri chwarter milltir cyn dod i'r amlwg ar gaeau gwlyb iawn a chyrraedd ar y ffordd ar gyrion pentref Rhyd. Gan fynd i'r chwith fe wnaethom ddilyn llwybrau o amgylch y pentref gan ddod allan ar yr un ffordd ym mhen dwyreiniol y pentref, gyda'r 200 llath olaf dros dir corsiog dros ben. Yna i'r chwith a’r dwyrain am oddeutu 200 llath a chymeryd llwybr i'r dde lle roedd cwympo coed ar y gweill, lle delfrydol i fwynhau cinio yn yr heulwen gynnes. Yna ymlaen trwy'r goedwig am filltir a hanner ar lwybrau da gyda golygfeydd rhagorol uwchben y coed o bryd i’w gilydd, gan basio un o lynnau ystâd Tan y Bwlch, Llyn Hafod y Llyn. Yn gyfleus daeth y llwybr allan o'r coed i’r arhosfan nesaf i ble roedd ein ceir wedi'u parcio. Roedd yn ymddangos bod yr holl gerddwyr wedi mwynhau'r daith 6.5 milltir dros dair awr a hanner ar gyflymder cymedrol. Dafydd Williams.

Dydd Sul 22 Tachwedd 2020. Tomen y Mur - Trawsfynydd. Cychwynnodd 10 aelod i gyfeiriad y de o Gaffi Llyn Trawsfynydd dan arweiniad Dafydd Williams ar ddiwrnod hyfryd o hydref. Mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd ochr y llyn a thrwy'r coed cyn dod i'r amlwg ar ôl rhyw hanner milltir ac yn mynd i'r chwith i gyrraedd a chroesi'r A470 prysur i drac gyferbyn ac yna  heibio Llwyn-crwn. Cyn hir, mae’r llwybr yn troi i'r gogledd ac yn dringo'n gyson, i ddechrau, ar hen lôn fferm gaerog ac yna trwy gaeau lle mwynhawyd golygfeydd gwych o'r llyn islaw a mynyddoedd Rhinog gerllaw. Mewn dim o dro roeddem yn agosáu at ein hamcan cyntaf, caer bryn Rhufeinig conigol Castell Tomen y Mur sy'n weladwy o bell o bob cyfeiriad. Esgynnodd y parti i gyd yn ddewr i'r brig ond yn anffodus wrth ddisgyn cymerodd un aelod godwm cas a phenderfynwyd aros er mwyn iddo allu casglu ei hun trwy gael paned o de / coffi. Yna aethom i'r gorllewin i lawr y ffordd darmac am ryw 400 llath cyn cymryd llwybr troed ar ein chwith trwy gae i gyfeiriad y gorllewin cyn dod i'r amlwg ar yr A470 a'i chroesi unwaith eto yng Nghapel Utica. Ychydig lathenni i'r de ac fe wnaethon ymuno â llwybr troed arall sydd eto'n mynd i'r gorllewin ac, mewn rhyw 200 llath fe basiom ni y tu ôl i ffermdy ac ar ôl hynny roedd hi'n wlyb iawn wrth i ni groesi nant chwyddedig cyn cyrraedd cyffordd T. Yma aethom i'r dde ar hyd hen lwybr hyfryd wedi'i leinio â choed a milltir ymhellach ac ychydig yn brin o ffordd fach â tharmac, trodd y llwybr bron yn bedol a dod i'r amlwg ar gaeau agored. Rhyw 300 llath ymhellach ar ei hyd aethom i'r chwith cyn cyrraedd giât fferm, ac i fyny dreif i hen dŷ fferm ond bellach yn adfail a dyma ei basio ar y dde ac i fyny'r cae a thrwy giât fochyn i'r goedwig. Roedd llwybr y goedwig a oedd mor syth â saeth yn wlyb ac yn fwdlyd dros ben mewn mannau, yn enwedig ar ôl hanner milltir pan roedd rhaid i ni ei adael trwy fynd i'r chwith am oddeutu y 200 llath olaf. Yna allan o'r goedwig wrth giât fochyn ar lan y llyn ac o fewn can llath i'r Damn Newydd a godwyd ym 1992. O'r fan hon, dim ond mater o gerdded rhyw 1.25 milltir oedd eisiau wrth ochr y llyn ar y ffordd darmac yn ôl i'r man cychwyn ar ôl oddeutu 8 milltir dros 3.5 awr. Roedd hon yn daith gyffrous mewn tywydd gwych, y digwyddiad anfodus oedd yr anaf a gafwyd gan yr aelod ac hefyd fod y caffi croesawgar wedi cau. Dafydd Henry Williams.

Sul 22ain Tachwedd 2020. Dyffryn Maentwrog. Ar ddiwrnod braf heulog mewn awel ysgafn cafwyd tro 10 milltir drwy’r coedlannau hardd uwchben Dyffryn Maentwrog. Gyda Hugh Evans yn arwain cychwynnwyd o’r gilfan ger yr A487 yng Nghoed Cae Fali gan ddringo’n serth drwy’r goedwyg hydrefol cyn croesi llinell segur Rheilffordd Ffestiniog. Troi i’r gorllewin wedyn gan ddilyn llwybr cyfochrog a’r rheilffordd ar y gyfuchlin 300m. Wedi croesi Afon Coed Cae Fali ymunwyd a’r llwybr o Benrhyndeudraeth am Pen yr Allt. Mae’r coed yma yn cuddio gweithfeydd Bwlch y Plwm o’r 19eg ganrif. Yna i dir fwy agored ond corsiog lle cafwyd panad mewn llecyn braf heulog. Wedi cyrraedd pentref Rhyd ar lethrau isaf Moelwyn Bach ymlaen wedyn drwy gaeau braf heibio Ty’n Ddol nes tro i’r de-ddwyrain ar hyd y lon fechan o Groesor. Dilyn llwybrau wedyn o amgylch Llyn Hafod y Llyn ac yna cafwyd cinio yn yr heulwen ger Llyn Mair. Mae’r ddau lyn yn rhan o drefniant dwr y parc mawr ddatblygwyd gan deulu chwarelyddol Oakley yn Nhan y Bwlch. Ymhellach ar y daith gwelwyd pibellau’r cynllun trydan hydro modern adnewyddwyd o’r gwreiddiol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Dilynnodd rhan olaf y daith lwybrau drwy goedlannau i’r gorllewin. Cafwyd un ymdrech fawr ar ddiwedd y daith sef dringo Y Gysgfa, man ucha’r dydd ar 768troedfedd gyda gwobr ar y ffordd serth i lawr o weld gogoniant Afon Dwyryd yn troelli’n rhuban arian i’w haber yn haul hwyr y prynhawn. Taith wych ac annisgwyl o heriol gyda esgyniad dros 2000tr. Noel Davey – (Cyf GJ)

Dydd Iau 19eg Dachwedd 2020. Eisteddfa-Pentrefelin. Arweiniodd Val Rowlinson daith braf o 4-5 milltir yng nghefn gwlad deniadol o amgylch Pentrefelin. Ar wahân i un neu ddau o gawodydd byr, gan gynnwys rhywfaint o genllysg, roedd yn ddiwrnod o gyfnodau heulog, er yn eithaf oer. Cyfarfu deg cerddwr ym maes parcio Pysgodfeydd Eisteddfa. Yn gyntaf oll , roedd cylched o un o'r llynnoedd pysgota heddychlon. Roedd yna ychydig o bysgotwyr â chyfarpar da ar y glannau, yn bwriadu dal y potensial o’u ‘nofio’. Roedd y daith nesaf yn mynd i'r gogledd i fyny lôn, heibio'r safle carafanau Eisteddfa sydd wedi'i sgrinio'n dda a'r tŷ yn Garreg Felin. Roedd golygfeydd da ar draws i fryniau a sgarpiau amlwg Moel y Gest, Craig y Gesail ac Alltwen gyda Moel Hebog yn codi y tu ôl. Yn Cefn y Meusydd Uchaf bu egwyl am banad, cyn i'r parti droi i'r de ar lwybrau trwy goedwigoedd a chaeau heibio adfeilion hen adeiladau fferm i gyrion Pentrefelin. Parhaodd y llwybr trwy'r pentref, gan basio maen hir amlwg 10 troedfedd o uchder Treflys ar y briffordd, ac yna troi i lawr y trac sarn hynafol i Ynyscynhaearn, a leolir ar hen ynys yn Llyn Ystumllyn, sydd bellach yn gaeau dan ddŵr a chorstir. Mae eglwys ddiddorol 19C gyda gwreiddiau llawer hŷn yn sefyll yma mewn mynwent furiog anghysbell lle mae cerrig beddi nodedig yn cynnwys rhai John Ystumllyn, a elwir yn lleol fel Jack Black ac y dywedir mai ef yw'r caethwas cyntaf a ddaeth i Gymru, a David Owen, y bardd, telynor cyfansoddwr 'Dafydd y Garreg Wen'. Mwynhaodd y cerddwyr eu cinio yn y lle hudolus hwn. Yna cymerwyd y llwybr i'r de o Moel y Gadair yn ôl i'r briffordd a gwneud taith olaf i edrych ar dŷ a gardd hardd Elisabethaidd Ystumllyn. Mwynhaodd pawb y daith hamddenol hon mewn tywydd braf. Noel Davey. (Cyf: DHW.

Dydd Sul 15eg Dachwedd 2020.

Taith B. Taith Cerdded o amgylch Llyn Trawsfynydd. 11 o aelodau oedd yn bresennol yn faes parcio Caffi’r Llyn ger Trawsfynydd ar ddiwrnod llwyd dros ben a cael eu cyfarch gan arwydd “Caffi wedi Cau”. Dyma gychwyn ar gyflymdra bywiog i gyfeiriad y de (yn groes i’r cloc) gyda’r llyn i’r chwith ac heibio’r Atomfa ar y dde. Dyma groesi’r argae yn fuan a gyda hyny mynd i’r chwith ac i’r de ac ymuno a’r llwybr ardderchog i gerddwyr a beiciwyr ac, oddeutu milltir ymhellach, dringodd y llwybr a chyrraedd y man uchaf o’r dydd, 1000 o droedfeddi uwchben y mor. Er gwaethaf y cyflwr gweledig gwael mi roeddem yn medru gweld, rhwng y cawodyd o law a chenllys, mynyddoedd y Moelwyn cyfagos. Yn dilyn arosiad byr i gael paned o de/goffi ymlaen a ni a chyrraedd y ffordd darmac gul a’i dilyn tan iddi fynd i’r chwith a’r gogledd ac yna dringo’r clawdd a chyrraedd y bont ar draws y llyn. Fel i ni gychwyn dyma gawod drom o genllys a ddaliodd ati tan i ni gyrraedd cysgod y glan dwyrainiol ar gyrion y pentref. Roedd un neu ddau o’r cerddwyr yn dioddef o’r oerni a’r tywydd gaeafol, nid oedd yr elfennau o’n plaid. Ymlaen a ni i ganol y pentref am ginio a chael rhyddhad haeddiannol a cymeryd mantais o nifer o seddi hir cyfleus tra yn syllu ar y capel dros y ffordd. Yna yn sefyll mae cerflun o’r bardd cymraeg enwog, Hedd Wyn, gafodd ei ladd yn y ffosydd yn y Rhyfel Mawr cyn iddo gael cyfle i hawlio’r gadair a enillodd yn y Eisteddfod Genedlaethol1917. Gan ymadael a’r pentref dyma fynd i’r gogledd ar ochr yr A470 brysur am oddeutu milltir cyn mynd i’r chwith ar lwybr yn cyfeirio tuag at y llyn ac ymlaen i’r gogledd am o gwmpas milltir a chwblhau y cylch 8 milltir mewn tair awr a hanner gyda theimlad o gampwaith. Dafydd Henry Williams.

Taith A. Abererch yn nghefn gwlad Pwllheli.
Roedd rhagolygon y tywydd o law trwm a gwyntoedd cryfion wedi gorfodi gohirio y daith ar Grib Nantlle heddiw ac yn dilyn i gynllun B, taith mwy gwastad sef cylch o Abererch yn nghefn gwlad Pwllheli. Mi brofodd hyn i fod yn benderfyniad doeth, oherwydd hyd yn oed ar yr arfordir roedd y gwyntoedd yn gryfion, ond fe oedd yn ddiwrnod o gyfnodau clir a heulog gyda un neu ddwy o gawodydd byrion. Cychwynnodd parti o 8 o dan arweinyddiaeth Meri Evans i’r gorllewin ar hyd estyniad 1.5 milltir o draeth Abererch ble roedd y llanw uchel a’r tywydd stormlyd yn creu golygfa o donnau gwyllt a gwyniog. Wedi cyrraedd Glan y Don fe aeth y parti heibio’r adeilad crwn lliw arian a thrawiadol Plas Heli a’r safle bad achub newydd, cylchu gyda llwybr y lan gyferbyn a Craig Gimblet ac ar ochr y goedwig o hwylbrennau yn y Marina. Yna dyma’r cyfeiriad yn mynd i’r gorllewin ar hyd y cei o’r Harbwr Mewnol a oedd yn olygfa drawiadol ar lanw uchel. Roedd adeilad coed mawr yn fan cyfleus i aros am baned. Aeth y daith ymlaen drwy strydoedd adnabyddus tref Pwllheli, dringo yn serth i fyny Penrallt heibio Coleg Meirion ac i ffwrdd i fyny llwybr cul drwy’r eithin i fan gwylio ar fryn bychan gyda golygfeydd ardderchog o’r dref islaw a’r wlad o amgylch i’r gogledd. Ychydig o ffordd ar hyd Stryd Llyn, ger Fffynnon Felin Fach, dyma lwybr gwelltog yn profi i fod yn le cyfleus a chysgodol i gael cinio, cyn mynd a’r grwp i lawr heibio Plas Penmaen i Ffordd Nefyn. Dyma lwybr corslyd o Ffordd Ala yn croesi’r Afon Rhyd-hir ar hen bont droed gerrig ac yn arwain ymlaen drwy’s cwrs golff ac yn ymuno a llwybr yr arfordir yn Talcymerau. Yma fe aeth y ffordd yn ol i’r dwyrain ar hyd yr unwaith grand ond erbyn hyn wedi dirywio promenad y West End, gan fynd heibio datblygiadau diddorol o wahanol dai. Yn olaf dyma’r daith yn mynd ar hyd y Cob, heibio’r Cofeb Rhyfe. Ac ail ymuno a’r ffordd allanol ar hyd traeth Abererch. Roedd hon yn daith wobrywiol ac amrywiol oddeutu 9 milltir dros 4.5 awr ac (yn syndod) bron i 1000 troedfedd o ddringo, cymysgedd o bethau trefol a morol diddorol gyda golygfeydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12ed Dachwedd 2020. Mynydd Mawr/Uwchmynydd/Gorllewin Llyn. Roedd yn ollyngdod cael mynd allan yng nghwmni eraill ar siwrnai bleserus yn cael ei harwain gan Judith Thomas ar ol bron i dair wythnos o deithiau cerdded o adref dros y cyfnod cofid “firebreak”. Ble well i fynd na pen pella Gorllewin Llyn yn Braich y Pwll. Cyfarfu dwsin aelod ar lechweddau gwelltog islaw Mynydd Mawr, ar ol gorchfygu y ffyrdd cul yn estyn tu hwnt i Aberdaron drwy Uwchmynydd. Culiodd y cawodydd cynnar a newidiodd i fod yn ddiwrnod clir a heulog ond yn wyntog. Cychwynnodd y daith i lawr i’r clogwyni uwchben Trwyn Maen Melyn, o ble roedd modd gweld ffynnon ddwr Y Santes Fair mewn hollt yn y creigiau islaw ac hefyd man goll bron o Gapel y Santa Mair uwchben. Yn nyddiau pererindod y man hyn oedd y lle olaf cyn croesi ar draws y swnt i Ynys Enlli, lle i gael ei osgoi ar ddyddiau o forydd garw fel hyn. Ymlaen ac i fyny aeth y llwybr o amgylch Mynydd y Gwyddel, dringo uwchben cilfach ddwfn Porth Felen, ar hyd y clogwyni i Fynydd Bychestyn uwchben Parwyd ac allan ar bentir Pen y Cil. Roedd y man yma yn fanteisiol ar gyfer golygfeydd o’r tonnau yn gwrthdaro ar y creigiau ar hyd yr arfordir. Wrth fynd ymlaen i’r gogledd ar lwybr yr arfordir, dyma ddod o hyd i fan cysgodol ar gyfer cinio yn yr haul uwchlaw Porth y Pistyll. Yna dyma’r llwybr yn mynd i’r tir, heibio ffermydd Bodermid ac o’r diwedd ymuno a’r ffordd fechan yn ol i’r cychwyn, pellter oddeutu 4.5 milltir. Fe wnaeth pedwar o’r cerddwyr ddringo Mynydd Mawr i fwynhau panorama rhyfeddol ar draws i Enlli, ymddolennu yn ol drwy grug am 1.5 milltir yn ychwanegol ar hyd llwybr yr arfordir. Roedd hon yn daith fwynhaol a bywiog mewn ardal arfordirol unigryw. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Hydref 22 2020. Taith Gylchol Mynytho. Cymerodd dwsin o’r aelodau y cyfle olaf o daith gyda’r clwb cyn y clo 17 niwrnod gyrraedd. Roedd hon yn gylch ddiddorol oddeutu 6 milltir o amgylch Mynytho wedi ei chynllunio a’i arwain gan Megan Mentzoni gyda help Jean Norton. Roedd y diwrnod yn glir a chyfnodau heulog a ryw awgrym o law. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn Moel Gron, amgylchu’r bryn conical heibio’r ysgol ac ar hyd y sgarp gorllewinnol o Dir Comin Mynytho, ardal hyfryd. Oddi yn roedd golygfeydd ar draws Nanhoron i Mynydd Rhiw a Garn Fadryn. Aeth y llwybr heibio Ffynnon Sarph – yn ffodus toedd yno ddim nadrodd yno heddiw – un o nifer o ffynhonnau hynafol wedi eu adnewyddu trwy gynllun gan Ardal o Harddwch Naturiol Llyn. Yna fe aeth y daith i’r dwyrain ac ymuno a’r “lon gefn” yn mynd i fyny o Capel y Nant, heibio bryniau isel Carneddol a Saethon; yn rhwystredig mae y rhain allan o gyrraedd y cyhoedd , er i Saethon, gyda caer oes yr haearn yn goron, yn ynys wedi ei benodi yn dir agored. Yna fe ddringodd y grwp y bryn 600 troedfedd o dan reolaeth y Warchodfa Genedlaethol yn adnabyddus gan sawl enw fel Foel Fawr, Foel Felin Gwynt a’r “Jampot” oherwydd ei dwr amlwg, adfail wedi ei ail gylchu o gyn felin wynt. Roedd y man manteisiol yma yn le amlwg i gael cinio, ac yn caniatau golygfeydd hardd i bob cyfeiriad, i lawr i’r baeau tywynllyd Abersoch a Phorth Neigwl, ar draws Llyn, ac ymhellach i fynyddoedd niwlog Eryri. Ymlaen i’r de aeth y ffordd a dilyn dolen ar y llethrau gwaelod o amgylch Mynytho yn ardal Gadlys ac yn cynnwys rhan o lwybr newydd ei wella yn cysylltu a Haulfryn ger y lon bost yr A499. Croesodd y rhan olaf gaeau yn Caer Towyn dros gamfeydd anodd i gyrraedd y ffordd fach syth yn ol i Foel Gron. Ychydig o oriau hamddenol a mwynhaol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 18ed Hydref 2020. Taith Gylchol Garndolbenmaen. Cyfarfu un ar ddeg aelod o Rodwyr Llyn ym maes parcio Garndolbenmaen ar gyfer taith yn cael ei arwain gan Kath Spencer. Roedd y diwrnod braidd yn gymylog gyda ambell egwyl heulog, ychydig yn wyntog ond yn sych. Cychwynnodd y parti i gyfeiriad y gogledd drwy gyrion y pentre drwy heolau bychain diddorol yng nghanol cymysgfa nodweddol o gaeau gyda walia isel. Wedi mynd gyda ymyl Gors Graianog dyma fynd ar adran o lwybr cul waliog oedd wedi elwa o driniaeth gan wirfoddolwyr y llwybrau y flwyddyn diwethaf, a dyfod allan ar ardal lydan o rostir agored yn ymestyn ar draws llethrau deheuol o Fynydd Graig Goch. Mae’r mynydd gafaelgar yma sydd newydd ei ail ddosbarthu yn gopa 2000 troedfedd yn ffurfio terfyn gorllewinol o Grib Nantlle. Mae’r tirwedd di lwybr, arwahan i lwybrau defaid, yn frith o grug garw. Mewn mannau roedd y grug wedi ei losgi ac yn datgelu cerrig gwynion a gwair prin. Dringodd y grwp yn raddol gan ddilyn llinell o waliau syth a hir i uchder oddeutu 1300 troedfedd. Oddi yno roedd yna olygfeydd urddasol ar draws Eifionydd ac i lawr yr orynys i Cilan ac Ynysoedd St Tudwals. Yna fe aeth y daith i’r de a dilyn uchelfannau nentydd oedd, yn is i lawr, yn ymuno a’r Afon Dwyfor yn Cwm Pennant a’r Afon Dwyfach ger Bryncir. Roedd yna aros derbynniol am ginio mewn corlan ddefaid enfawr. Ymhellach ymlaen roedd yna stop fer yn Cae Amos, lle anial a chynt yn fwthyn wedi ei adael ac wedi ei fabwysiadu yn1967 gan Glwb Mynydda Leeds ac yna ei drosglwyddo yn 2015 i’r Gymdeithas o Fythynod Fynyddig, i greu lloches i gerddwyr yn yr ardal. Oddi yno dilynodd y llwybr drac ar hyd rhan o Fwlch y Bedol, ac o’r diwedd ail gyrraedd gwareiddiad y Garn. Roedd hon yn daith wych, wedi ei ymchwilio yn dda ac oddeutu 7 milltir o hyd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Hydref 11ed 2020. Yr Elen. Cyfarfu 12 aelod yn Pont Abercaseg yn Bethesda i ddringo Yr Elen yn y Carneddau a chael eu arwain gan Roy Milnes. Roedd rhan fwyaf y diwrnod yn heulog a dim mor oer ar y copau a’r rhagolygon, er gwaethaf y gwynt bywiog a niwl ar brydiau. Yn fuan gadawodd y ffordd allan y llwybrau coediog yn agos i’r dref a chymeryd llwybr Cwm Caseg, a dringo’n gyson i’r dwyrain a chyrraedd rhostir gwelltog agored, a chadw i lwybr uwch sychach ar ochr gogleddol y dyffryn, tipyn uwchben y tir corslyd ar ochr Afon Caseg ei hun. Fel i’r niwl godi daeth copa amlwg Yr Elen i’r golwg. Ar ol oddeutu tair milltir croesodd y llwybr rhagafon ar uchder o 1600 troedfedd, a mynd i’r de heibio Carreg y Gath a chyrraedd entrychion cul y dyffryn rhwng walia creigiog sydd yn esgyn uwchben y llyn bychan Cwm Caseg. Roedd yna aros derbyniol am ginio yn y man cymharol gysgodol yma ar uchder o 2500 troedfedd. Aeth yr ymosodiad serth olaf ar y llwybr llai poblogaidd, i fyny’r ffordd dwyreiniol o Yr Elen i gyrraedd y copa 3156 troedfedd, y nawfed uchaf o’r copau Cymraeg. Oddi yno roedd golygfeydd yw gweld i’r gorllewin i gyfeiriad Carnedd Dafydd ac Elidir Fawr ac i’r gogledd ar draws iseldiroedd Arfon, Afon Menai ac Ynys Mon. Roedd y ffordd i lawr i’r gorllewin ar hyd ysgwydd welltog weddol hwylus i Cwm Llafar, a chroesi Foel Ganol a Braich y Brysgl. Aeth y llwybr ar draws tir corslyd yn agos i Afon Llafar, yn aneglur mewn mannau, ond o’r diwedd yn cyrraedd gwylodion golygfaol o’r afon yn agos i Bethesda. Roedd hwn yn ddiwrnod eithaf egniol ond hefyd yn wobrywol yn cynnwys oddeutu 8.5 milltir dros yn agos i 7 awr a dringo cynyddol oddeutu 2750 troedfedd. Fe wnaeth pawb yn dda yn enwedig y rhai oedd yn mentro i’r mynyddoedd am y tro cyntaf ers rhai misoedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Hydref 8fed. Taith gylchol Y Fron, via Moel Tryfan a Mynydd Cilgwyn. Ar ddiwrnod cymylog gydag ambell gawod arweiniodd Derek Coslett ddwsin o gerddwyr ar daith 6 milltir o bentref Y Fron drwy'r gweithfeydd chwarelyddol ar Gomin Uwch Gwyrfai. Cychwynnwyd i’r Gogledd Ddwyrain dros rostir uchel ac eang o dan Mynydd Mawr, gan basio heibio pyllau tyfn a thomenni ysbwriel chwareli Alexander a Moel Tryfan. Er peth anesmwythyd i rai mai rhain yn gweithio bellach a gwelwyd peiriannu yn hel gwastraff llechi wrth i’r grŵp basio. Gwnaed cylch wedyn i gopa creigiog Moel Tryfan, man uchaf y daith ar 1400 tr, gyda golygfeydd gwych dros Arfon cyn belled â Chaergybi a draw at Ddyffryn a Chrib Nantlle. Mae’r safle yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan ei fod yn un o’r safleoedd gorau yng Nghymru i astudio creigiau o’r cyfnod Cambriaidd Isaf 530 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae cofeb yn nodi i Charles Darwin, daearegwr ei hun, ymweld yn 1842 ac i hynny ddylanwadu ar ei weithiau dilynol. Trodd y criw wedyn am ochr orllewinol y chwareli heibio pen Inclein Bryngwyn a oedd unwaith yn cysylltu â Rheilffordd Ucheldir Cymru i gario llechi i Harbwr Porthmadog. Ymlaen wedyn drwy glytwaith nodweddiadol o gaeau bychain a bythynnod bach diarffordd cyn cael toriad i ginio ar lan nant fechan gan gysgodi rhag y gwynt ger wal gardd gyfagos. Wedi cinio gwnaed cylch o gwmpas Mynydd Cilgwyn i’r de o’r Fron. Wedi cau’r chwarel yn 1956 fe’i trowyd yn domen byd yn 1974 nes i hwn gael ei gau yn 2009. Gwelwyd fod pibellau wedi eu gosod i ddraenio dŵr gwastraff i’w drin ac i gasglu nwy methan i’w droi yn drydan. Er y tywydd diddrwg didda taith braf, ysgafn diddorol drwy dirwedd hanesyddol ddiddorol. Noel Davey (Cyf-GJ)

Dydd Sul 4ydd Hydref 2020. Criccieth - Pont Dolbenmaen. Dafydd Williams arweiniodd 10 aelod ar daith boblogaidd, cylch 12 milltir drwy ardal wledig sef caeau i’r gogledd o Griccieth gyda nifer o lefydd gweledig a hanesyddol. Yn fuan ciliodd y glaw ac mi ddaeth yn ddiwrnod dymunol sych gyda chyfnodau heulog. O dan droed pryn bynnag roedd yn aml yn wlyb a mwdlyd. Cychwynnodd y daith o du allan i’r meddygfa ac i fyny’r Lon Fel boblogaidd gan fynd heibio Bryn Awelon fu unwaith yn gartref i Lloyd George a’i ferch Megan, ond nawr yn gartref i oedolion. Dyma’r llwybr yn ymylu Mynydd Ednyfed Fawr, ty’n cychwyn o’r 16eg ganrif. Ar ol croesi’r cyn cwrs golff trodd y cyfeiriad i’r gogledd, heibio fferm Braich y Saint, adeilad arall o’r 16eg ganrif. Ymunodd y llwybr a ffordd wledig am amser ac yna trodd i ffwrdd ar lwybr islaw y bryniau bychan o Fryniau Ystumcegid a Bryniau’r Tyddyn. Yn y fan hyn mae bryn bychan heb olion, o Cefn y Fan, plasdy canoloesol, oedd yn ol pob tebyg yn Lys i Ieuan ap Meredudd ap Hywel ac yn ol yr hanes cafodd ei losgi gan Owain Glyndwr yn 1403. Ymhellach ymlaen daeth y parti ar draws haid o wartheg bywiog ond trwy lwc nid oedd yna ddim helynt. Yna o bellter beth oedd yn edrych fel llyn enfawr, ac beth oedd mewn gwirionedd, ond dwr o’r Afon Dwyfor oedd wedi gorlifo dros ardal eang o laswelltir yn dilyn y glaw trwm diweddar. Roedd hyn yn golygu nid oedd yn bosib cerdded y llwybr ar lan deheuol yr afon ac felly roedd rhaid cerdded hanner milltir go dda ar fin y ffordd brysur yr A487. Cyn hyny roedd parapet yr hen bont yn Pont Dolbenmaen wedi bod yn le dymunol i gael cinio uwchben dwr yr afon. Ar y ffordd bost fe aeth y parti heibio gweithfeydd, newydd ei adeiladu, Dwr Cymru sydd yn gofalu am y dwr o Llyn Cwmystradllyn ac yn gyfrifol am y rhan helaeth o Llyn: mae’r cynllun yn cydfynd a’r tirlun. Yna fe aeth y ffordd i’r de ac yr oedd yn rhaid padlo i gyrraedd pont yn ail groesi’r Dwyfor. Roedd llwybrau cae yn cysylltu y dair fferm Ystumcegid, yn cynnwys y ty yn Ystumcegid Ganol sydd wedi ei adael ers 1935. Yn Ystumcegid Isaf roedd yna aros am de gerbron y gromlech gladdu ogoneddus oes y meini a thrafodaeth yn dilyn sut i’r adeiladwyr fedru codi’r to triongl anferth i’w doi. Yna ymlaen heibio Fferm Y Gell, a throi yn Fferm Trefan ar lwybrau llai adnabyddus i’r A497. Aeth y rhan olaf i lawr i’r arfordir drwy Ynysgain a heibio canolfan Y “Girl Guides”, ar hyd Llwybr yr Arfordir heibio Cefn Castell ac yn ol drwy Muriau. Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod braf yma yng ngwlad Eifionydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 1af Hydref 2020. Taith gylchol Moel y Ci. Sue Tovey arweiniodd griw o 11 o gerddwyr ar daith hamddenol o 6.5 milltir yn yr haul dymunol gan gychwyn o’r anturiaeth cymunedol Moel y Ci ger Tregarth. i gychwyn i’r dwyrain fe aeth y ffordd ac yna i’r de ar rwydwaith o lwybrau prydferth drwy goed a chaeau a sgyrtio Waen y Pandy a Sling. Roedd yna olygfeydd da i gyfeiriad tref Bethesda wedi ei ddodi o dan mynyddoedd y Carneddau y tu olI’r de o Bryn Eglwys dilynnodd y daith lwybr difyr drwy ddyffryn tyfn a dwfn o goed derw a dwr rhuthredig. Mae ardal y coedwigoedd yma wedi ei chyflwyno i’r gymuned gan Stad y Penrhyn am bris enwol. Roedd yna arhosiad am ginio mewn gardd gysgodol gerllaw diolch i gwrteisi’r arweinydd. Ymlaen aeth y daith drwy bentref chwarel Mynydd Llandegai sydd wedi ei wahaniaethu gan ddwy res gyfochrog o fythynod “semi-detached” i chwarelwyr wedi eu adeiladu i weithwyr yn Chwarel anferth y Penrhyn gerllaw, yn yr 19 ganrif. Mae rhain yn nodweddol oherwydd grid hir main un erw o dir oedd wedi ei ddarparu i fwydo pob teulu. Wedi tro i’r gorllewin dyma gyrraedd ardal ucheldirol agored gyda golygfeydd braf i gyfeiriad copau Mynydd Perfedd ac Elidir Fawr. Ar y ffordd dyma’r grwp yn edmygu Neuadd Goffa hardd wedi ei adnewyddu a gwaith dwr newydd gafaelgar. Dilynwyd llwybr i’r gogledd o amgylch bryn Moel y Ci ar uchdwr o dros 1000 troedfedd, yn caniatau golygfa drwy’r coed o’r caeau iseldirol a phentrefi Rhiwlas a Pentir. Daeth disgyn graddol yn y diwedd a mynd a’r parti i’r gogledd-ddwyrain ar draws cloddiau a chaeau coediog i ail ennill y man cychwyn yn Moel y Ci. Manteisiodd rhai o’r cerddwyr ar ol taith bleserus a chael lluniaeth yn yr caffi cymunedol campus. Noel Davey. (Cyf:DHW)

Dydd Sul 27ain Fedi 2020. Crib Nantlle (Cwm Silyn - Mynydd Tal-y-Mignedd). Cylch o 8.5 milltir oedd y daith heddiw o dan arweiniad Noel Davey, yn cynnwys rhan ganolog o Grib Nantlle. Cyfarfu grwp o 9 cerddwr yn Maenllwyd yn pen draw heol fach i’r dwyrain o Llanllyfni ar derfyn tir agored ac uchder oddeutu 900 troedfedd. Roedd yn ddiwrnod ardderchog o heulog i gychwyn gyda gwynt cymedrol. i ddechrau aeth y daith i’r dwyrain ar lwybr rhostirol, a mynd i’r de ar ol oddeutu milltir a dringo ysgwydd gwelltog hir Cwm Silyn. Aeth hyn a’r parti uwchben creigiau serth Clogwyn y Cysgod i lwybr y grib a chyrraedd y copa creigiog 2400 troedfedd, y rhan uchaf o’r grib ac mewn amser i gael paned deg deilwng. Roedd y golygfeydd oddi yno ac drwy’s dydd yn ysblennydd yn estyn i lawr i’r Glaslyn a Llyn i’r gorllewin, i fynyddodd canolog Eryri i’r de a’r dwyrain ac i iseldiroedd Arfon ac Ynys Mon yn y gogledd. Roedd disgyniad 750 troedfedd i lawr Cwm Silyn ar lwybrau troelliog creigiog ac yn aml yn aneglur y rhan anoddaf o’r daith. Roedd ambell i gipolwg profoclyd i lawr i Cwm Pennant ymhell islaw a panorama mawreddog o’r grib werdd yn troelli o’n blaen yn y pellter. Roedd y seibiant o gyrraedd y bwlch gwastad yn Bwlch Dros-bern yn fuan yn dod a ni i ddringo serth a chreigiog o 500 troedfedd i lwyfandir Tal y Mignedd. Ar y copa,roedd yr obelisk, yn dathlu jiwbili diemwnt y Frenhines Victoria, yn le delfrydol am ginio yn yr haul. Aeth y llwybr yn ol i’r gogledd-orllewin i lawr yr ysgwydd werdd gyda golygfeydd hardd cyn belled a Llyn Nantlle a’r rhesi o’r hen weithfeydd gyda niferoedd o dwmpathau gwastraff o lechi. Ar ol gorffygu meini mawr i groesi Afon Craig Las, fe aeth y daith ymlaen i’r de orllewin ar draws rhostir, gan amlaf ar lwybrau defaid yn agos i’r amlinell 1000 troedfedd. Wrth gamfa , trodd y parti i’r de drwy grug a llus a chyrraedd y ddau lyn o Lynnau Cwm Silyn yn nythu o dan y clogweini llwyd ac uchel, Graig yr Ogof, cynefin poblogaidd dringwyr mynyddoedd. Roedd yna arosiad dymunol am de ar lan y llyn. Aeth y rhan olaf heibio gweddillion diddorol o ddechreuad ansicr, ail ymuno a llwybr y boreu yn ol i’r ceir ar ol oddeutu 6 awr. Roedd hon yn ddiwrnod gwobrwyol yn yr ardal rhyfeddol yma o Eryri yn cynnwys cyfanswm o gwmpas 2500 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf:DHW)

Sul 13 Medi 2020. Moel Goedog – Bryn Cader Faner. Arweiniodd Derek Coslett grwp bychan o gerddwyr i ucheldir Ardudwy Sir Feirionnydd am daith 8 milltir o hyd. Er i darth a glaw ysgafn y bore gyfyngu’r golygfeydd cychwynwyd mewn hwyliau da.
O fan parcio unig ar ochr y lon ger fferm Merthyr cychwynnwyd i’r Gogledd Ddwyrain ar hyd lôn Oes Efydd o dan Moel Goedog gan ddringo yn araf heibio Llyn y Fedw a Llyn Eiddew Bach. Erbyn heddiw mae’n rhan o Daith Ardudwy sef y daith ucheldirol sydd newydd ei agor yn cysylltu Abermaw a Llandecwyn. Aethom drwy ardal gyfoethog ei harchaeoleg yn frith o gerrig hynafol, carneddi a chytiau cylch i’n hatgoffa fod hwn yn ardal boblog dair mil o flynyddoedd yn ôl. Yn fuan daeth “Cylch Drain” Bryn Cader Faner i’r golwg yn uchel ar fryncyn creigiog unig. Mae’r cerrig wedi eu gosod i ogwyddo allan o’r cylch . Fe’u disgrifir gan F Lynch yn ei “A guide to Ancient and Historic Wales” fel cofeb o gynllun syml ond effeithiol wedi ei leoli yn gelfydd i greu argraff dramatic ar y rhai ddaw ato o’r De a dadleua ei fod yn un o’r hynafolion Oes Efydd prydferthaf ym Mhrydain.
Cafwyd cinio men llecyn cysgodol gerllaw cyn i’r cymylau glirio i’n gwobrwyo gyda golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion am Bortmeirion a Phenrhyn Llyn. Dilynwyd llwybr glaswelltog ar ochr gogleddol Moel Goedog i ddychwelyd i’r ceir. Er y tywydd gwael taith bleserus mewn tirwedd ddiarffordd a difyr. Noel Davey. (Cyf-GJ).

Dydd Sul 6ed Fedi 2020. Cilan - Porth Ceiriad. Ar ddiwrnod braf a heulog Jane Logan arweiniodd daith hyfryd ger Abersoch yn caniatau golygfeydd rhagorol o’r arfordir a’r mynyddoedd, gyda nifer o lefydd hanesyddol. Cychwynnodd y daith ar ran o dir garw o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ar Fynydd Cilan, ar i lawr uwchben Fferm Nant i Llanengan. Roedd yna seibiant am goffi wrth y simdde argraffiadol o’r 19G sydd wedi ei adnewyddu, gweddill o fwyngloddiau plwm sydd yn yr ardal. Ymlaen aeth y llwybr drwy bentref Sarn Bach, wedi ei amgylchu gan safleoedd carafannau amlwg, a dilyn llinell yr hen dramffordd geffyl fu unwaith yn cludo mwyn , i lanfa yn Penrhyn Du. Roedd y Traeth Mawr yn Abersoch yn brysur gyda torfeydd Gwyl y Banc, ac yn olygfa wych. Roedd atgofion eraill o dreftadaeth mwyngloddio’r ardal yn cynnwys bythynod a chapel wedi ei adeiladu ar gyfer mudwyr mwynwyr tin o Gernyw a phlac yn cofnodi damwain mewn mwynglawdd. Yna fe drodd y daith i ddilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd y clogweini ysblennydd yn Cim, a heibio Ynysoedd St.Tudwals. Roedd Trwyn Wylfa yn le ardderchog i giniawa ac edrych dros y bae clogwynyddol yn Porth Ceiriad. Gwelwyd haig o dolffins yn y dwr islaw. Dringo’r wal serth o Pared Mawr wnaeth y llwybr gan fynd gerllaw olion bryncaer o’r oes haearn. Roedd yna gylchdaith er mwyn archwilio un garreg anferth oedd wedi oroesi yn y siambr gladdu oes y meini Llech y Doll. Daeth llwybrau grug ar draws top Cilan a’r cerddwyr yn ol i’r man cychwyn a’r pleser o gael te yn ngardd yr arweinydd, i goroni diwrnod cofiadwy. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Medi 2020.

Yn ol ym mis Mawrth roedd y Rhodwyr ddim ond newydd gael ei Cyfarfod Blynyddol a chyhoeddi rhaglen newydd o deithiau cerdded pan gyrhaeddodd yr haint difrifol ma. Yn ystod y clo cychwynnodd lawer o’r aelodau gerdded eu llwybrau lleol mesul un neu ddau, gan gasglu gwybodaeth eang o’i pum milltir sgwar. Cawsom y fraint o gael y cyfle annisgwyl i fwynhau ein tirlun rhyfeddol, oedd bron yn wag, yn haul y gwanwyn. Roedd y teithiau tawel hyn yn fendith i gadw draw pryder y Cofid. Wrth i’r cyfyngiadau ryddhau dyna’r Clwb gan bwyll yn cychwyn rhaglen o deithiau wthnosol ar gyfer grwpiau o 6 – 8 gan roddi pwysigrwydd ar bellter cymdeithasol a gofal o amgylch gatiau. Roedd yn ryddhad i gymdeithasu ac ymweld a rhannau gwyllt o Wynedd. Ers hyny rydym wedi mwynhau oddeutu 16 taith, y mwyafrif mewn ardaloedd yn cael eu anwybyddu gan y llu ymwelwyr yn dychwelyd. Y bwriad yw trefnu rhaglen newydd o deithiau ond nid ar y funud achos yn anffodus mae arwyddion fod pethau yn dirywio ynglyn a’r haint. Noel Davey. (Cyf-DHW).