Awst 16 - Gorff 17

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau 20ed Orffennaf 2017. Llanberis. Roedd yna gynulliad da o 24 aelod yn Llanberis am daith bwyllog ond eitha egniol 6 milltir yn cael ei arwain gan Maureen Evans. Y pethau nodedig o’r diwrnod oedd y gweddillion hudol o’r gwaith llechi o amgylch y chwarel anferth Dinorwig. Cychwynnodd y daith ger yr amgueddfa lechi, dringo i’r ysbyty chwarel gynt a sefydlwyd yn 1860 ac yna drwy lwybrau cul a nentydd drwy’r coed hud Alltwen a Fachwen. Yna aros am ginio mewn tir agored uwchben Y Clegyr gyda golygfeydd gwych i’r gorllewin tuag at Bryn Refail, Cwm y Glo a’r Fenai. Yna heibio’r hen bentrefi chwarel Clwt y Bont a Deiniolen, dringo ar lwybr anodd wedi ordyfu i uchder o 1000 troedfedd ger Dinorwig gan fynd heibio cofgolofn coffad o dan y waliau annumunol o lechi ar lechweddau Elidir Fawr. Oddi yno roedd y teithio yn araf ac yn aml anodd i lawr drwy ddryswch hen adeiladau chwarel, llechweddau serth, periannau rhydlyd a llwybrau cul rhwng waliau llechi a ddefnyddwyd gan y chwarelwyr. Arhosodd y cerddwyr i edmygu y bythynnod gafaelgar Barics Sir Fon lle roedd y gweithwyr yn byw tra yn gweithio yn y chwarel ar hyd yr wythnos. Yn haul y prynhawn roedd yna olygfeydd ysblennydd o ochrau’r Wyddfa gyferbyn a dwr gwyrdd Llyn Padarn a chastell Dolbadarn yn cysgodi islaw. Roedd hon yn daith ddiddorol a chofiadwy. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 16 Orffenaf. –  Roedd 15 aelod wedi dod ynghyd i gerdded dwy daith yn cychwyn ger Bont Ddu ar yr ymyl gogleddol o afon Mawddach.

De Diffwys. Hugh Evans arweiniodd 9 ohonynt ar y daith hir i fyny ac o amgylch Diffwys a Nick White aeth a’r 6 arall ar daith fyrach ar lethrau is o amgylch Y Figra.(gweler uwchben). Cychwynnodd y daith A o 750 troedfedd ar Banc-y-Fran ar y man uchaf o ffordd serth wledig gul a chymeryd llwybr groes i’r cloc uwchben y man hyfryd Cwm Mynach ac i lawr ar lwybrau drwy goedwigoedd newydd eu cael gan Coed Cadw. Y llwybr yn troi i’r gorllewin ac i fyny ger Llyn Cwm Mynach gan fynd heibio ardal gyda gweddillion diddorol o gloddio byr amser yn y 19 ganrif am fanganis ac o’r diwedd cyrraedd copa Difwys (2450 troedfedd) mewn amser i gael cinio. Mi oedd yn wlyb ac yn llawn dwr dan droed yn dilyn y glaw diweddar ond mi oedd y niwl a ragolygwyd wedi diflannu ac yn caniatau golygfeydd ardderchog i’r de ar draws y Mawddach i gyfeiriad Cader Idris ac i’r gogledd i Ardudwy ac ar draws Bae Ceredigion i Ben Llyn. Yna dyma’r daith yn dilyn yr ysgwydd llydan i’r gorllewin tuag at Llawllech a disgyn yn araf i lawr Braich ar ran o’r hen ffordd porthmyn a’r goits fawr yn arwain o Pont Scethin a Harlech. Roedd pawb wedi mwynhau y diwrnod arbennig hwn yn fryniau Meirionnydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Cylchdaeth Bontddu. Nick White y Cadeirydd arweiniodd 6 aelod ar daith gron 6 milltir o faes parcio Farchynys ac yn syth i fyny llwybr serth drwy’r coed yn arwain i fwynglawdd aur Figra. Cael te/coffi yng nghanol y gwastraff oedd yr agosa y buom at yr aur cyn ymuno a ffordd fechan oedd unwaith y lon bost o’r Amwythig i Harlech. Roedd hon yn arwain heibio ceir y cerddwyr A ac yna i lawr gan fynd heibio ffermydd gwag, tai haf ac  hen fwynglawdd aur arall a dyma gael cinio ar goed yn disgwyl eu casglu. Yna drwy ardd hardd yn Goetre ac i fyny i ffordd coedwigaeth arall yn arwain i lyn bychan braf. i ddiweddu mynd dros Bwlch yr Ysgol, heibio gwinllan newydd ei phlanu ac i lawr drwy’r coed ar lwybr oedd yn nant mewn manau yn dilyn y glaw diweddar oedd trwy lwc wedi cadw draw ar tywydd yn braf a heulog. Gorffen y diwrnod mewn steil gan fwynhau te/coffi a scones yn cartref Nick ac Ann! Nick White. Nick White. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 6ed Orffennaf 2017. Trefor. Ar ddiwrnod teg heulog Jean Norton arweiniodd 22 aelod ar gylchdaith 5 milltir bleserus o gwmpas y pentref diddorol Trefor. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r pentref ger yr harbwr a’r pier a dilyn llwybr yr arfordir gorllewinnol i dir yr  Ymmddiriedolaeth Genedlaethol Morfa  ar hyd y clogwyni gwych Trwyn y Tai i gyfeiriad y Bythynnod Pen Orllewinnol tlws. Oddi yno roedd golygfeydd rhyfeddol eang ar draws y bae o Borth Dinllaen i Ynys Mon. Dod o hyd i lecyn da i gael cinio uwchlaw gweddillion hen forglawdd y pysgotwyr. Yna y llwybr yn mynd heibio gwaelod anferth chwareli ithfaen Yr Eifl, ffynhonell y gorffennol o ffyniant y pentref ac yn fyd enwog fel ffynhonnell cerrig “curling”. Yna ymlaen heibio Plas yr Eifl, cartref gwreiddiol rheolwr y chwarel wedi ei adnewyddu fel gwesty yn dilyn tan niweidiol yn 2005 cyn dychwelyd i’r man cychwyn yn y pentref ar hyd lwybrau trwy’r caeau heibio Elernion. Diolch i Gwynfor am fod mor garedig a helpu pan i un o’r cerddwyr (yn holliach erbyn hyn) fynd yn sal yn ystod y dydd. Noel Davey  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 2il Gorffennaf 2017. Carnedd y Filiast & Mynydd Perfedd. Mi oedd y tywydd yn sych, clir a heulog gyda’r awel gymedrol yn creu  cyflusterau da ar gyfer 17 aelod a gyfarfu ar gyfer dwy daith yn Nant Ffrancon. Cychwynnodd y ddwy daith o Tai Newyddion ar y ffordd gul wledig ar yr ochr orllewinnol o’r Cwm. Noel Davey arweiniodd 9 ar daith “A”; aeth y llwybr hir i fyny yn gyson am oddeutu 2000 troedfedd yn aml ar hyd lwybrau defaid drwy’r grug, yn gyntaf ar Fronllwyd gan edrych i lawr ar byllau anferth Chwarel y Penrhyn ac yna i gopa di enw a elwyd weithiau fel “Carnedd 721”, oherwydd ei uchder, ac yna i Carnedd y Filiast (2700 troedfedd). Mi oedd y lloches ar y copa yn le delfrydol i gael cinio wrth i’r niwl gyrraedd am ychydig amser yn unig ac wedyn mi oedd yn glir ac yn rhoddi cyfle i weld  ac ymuno a golygfeydd ardderchog o’r llwyfandir cyfagos i gyfeiriad y Carneddau, Tryfan, Ogwen, Yr Wyddfa ac Elidir Fawr. Yna dyma’r parti yn aros ger Mynydd Perfedd i edmygu’r “Atlantic Slabs “ gafaelgar cyn dringo yn serth i gopa Foel Goch, man uchaf y diwrnod. Yna roedd y llwybr yn mynd am i lawr ar hyd y grib ysblennydd, Y Lymllwyd, heibio’r”Mushroom Garden”  chwilfrydig ac yn disgyn drwy Cwm Cywion ac o’r diwedd cyrraedd y ffordd yn ol i’r man cychwyn. Roedd y disgyniad yn rhoddi cyfle i weld y golygfeydd godidog o’r pentwr tywyll, Pen yr Ole Wen yr ochr arall i’r cwm a Rhaeadr Ogwen mewn llawn llif. Roedd hon yn daith egniol oddeutu 7 milltir dros 6 awr. Noel Davey (Cyf-DHW).
Dafydd Williams arweiniodd 8 aelod ar gylchdaith “B”, yn groes i’r cloc gan gychwyn i fyny’r cwm, croesi’r afon Ogwen yn Mae Caradoc ac i fyny yr ochr arall ar lwybr hwylus a chyrraedd rhostir Cefn yr Orsedd. Yna ar ol croesi’r afon Berthen, gyda tipyn o drafferth, oherwydd y llif, cerdded yn hamddenol i’r gogledd ac i coed Braich Melyn ar hyd y grib ac yna i lawr a chroesi’r A5 ac ymuno a’r Lon Las drwy’r dwmpathau llechi ac yn ol at y ceir yn Nant Ffancon. Yr wyth cerddwr yna yn mynd i’r caffi hwylus Moelyci am luniaeth haeddianol. Dafydd Williams. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 29 ain Fehefin 2017.  Ddathlu penblwydd 80 Ian Spencer. Pan i 16 aelod gyfarfod yn faes parcio Llwybr y Snowdon Ranger ar gyfer taith i fyny’r Wyddfa i ddathlu penblwydd 80 un o’r aelodau, sef Ian Spencer, roedd y tywydd yn debyg iawn i llynedd pan oeddwn i yn dathlu fy 80. Yng ngolau y rhagolygon erchyll am law a gwynt ac atgofion o’r daith  flwyddyn diwethaf yn fyw yn y cof gwneuthpwyd penderfyniad doeth i wneud taith ar y gwastad ac  ar dir isel ar lwybr campus Lon Gwyrfai, rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu. Cychwynnodd y daith yn Pont Cae Gors ac i lawr tair milltir drwy’r goedwig i Feddgelert ble cafodd y parti fara brith yn y lloches ar  stesion y tren fach. Yna gan ddychwelyd ar yr un llwybr mi oedd gwledd ychwanegol o gacen pen blwydd blasus. Er i’r glaw barhau ar brydiau, mi gododd y cymylau rhywfaint ac mi oedd yn braf i gerdded ar y llwybr sych hefo cerrig man dan draed a chreu taith bleserus gyda digon o amser i gloncian. i ddiweddu mi gerddodd hanner y parti ar hyd y rhan gogleddol o’r llwybr heibio Llyn- y- Gader (“Gwel y teithiwr talog mohono bron” medd T.H.Parry Williams) i Rhyd Ddu ac yn ol yn gwneud cyfanswm o 10 milltir, yn bellach ond yn llai llafurus na dringo’r Wyddfa!  Mi ddaw haul ar fryn eto a chyfle i orhfygu’r mynydd mawreddog yn yr haul. Penblwydd hapus Ian. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 22ain Fehefin 2017. Moel y Ci. Pat Housecroft a’r Teulu arweiniodd 17 aelod ar daith ddiddorol a phleserus o Moel y Ci. Fferm cefnogol yn eiddo’r  gymdeithas i’w hon ger Tregarth sydd ar ol helyntion gwreiddiol nawr yn cefnogi gweithgareddau eang yn cynnwys gerddi, caffi a siop fferm, naddu coed, gwneud caws, canolfan cynhadleddau a rhwydwaith llwybrau lleol. i ddechrau roedd y daith yn dilyn llwybrau gwledig i’r gorllewin a’r de, hebio llechweddau isaf Mynydd Moel y Ci.  Roedd y tywydd tamp a niwlog yn ymharu ar y golygfeydd ond yn dderbyniol yn dilyn y diwrnodau diweddar o dywydd poeth eithriadol. Yna yn dilyn cinio a dioddef y gwybaid byddarol dyma’r llwybr yn dal ymlaen i’r dwyrain drwy goedwigoedd pin gan fynd drwy Sling a ger Dob ar draws Afon Ogwen ac ymuno a Lon Las Ogwen. Mae’r llwybr ardderchog yma i gerddwyr, beicwyr a marchogion yn dilyn y llwybr gwreiddiol o’r dramffordd lechi geffylau chwarel y Penrhyn, a adeiladwyd yn 1801, i gysylltu y chwarel enfawr (sydd yn dal i weithio ac yn cyflogi 200) i’r cyn borthladd; gafodd i ddi sodli gan reilffordd stem yn 1876. Uwchafbwynt yma oedd cerdded drwy dwnel gafaelgar Tregarth, 200 meter, sydd newydd ei ail agor i’r cyhoedd ar ol gwaith adnewyddu arbennig ac yn dangos y cerrig pardduol gwreiddiol,  y brics yn y twnel a’r ceunant cyfagos. Gorffenwyd y daith yn bleserus iawn gan gael te yn Caffi Moel y Ci yn haul y prynhawn. Gwneuthpwyd arolwg o’r cerddwyr ar y daith o 7 milltir ac mi oedd yr oed canoliad yn 75, teyrnged rhyfeddol i fitrwydd cerddwyr dydd Iau. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 18ed Fehefin 2017. Carneddau. drwy ddringo stepiau pen standllyd, cerrig man a’r ymlusgo ac o’r diwedd cyrraedd y copa oddeutu 2000 troedfedd uwchben y man cychwyn ac 1.8 milltir a 3 awr yn ddiweraddach! Y wobr oedd cinio teilwng. Roedd gweddill y daith yn gymharol hawdd gyda amser i weld golygfeydd syfrdanol ymhob cyfeiriad ar draws lawer o Ogledd Cymru, gyda awel ysgafn dderbyniol yn cynorthwyo’r  gwres anarferol. Yna ymlwybro ar draws y gwagle creigiog yn ffurfio’r grib orllewinol o Cefn Ysgolion Duon sydd yn cysylltu copau’r Carnedd Llewelyn a Carnedd Dafydd, y trydydd a phedwerydd fynydd uchaf yn Gymru, y ddau ychydig is na 3500 troedfedd. Yna dyma’r llwybr yn mynd i’r de ddwyrain ar yr ucheldiroedd uwchben Cwm Eigiau gyda chrafangu am amser byr ond yn serth i fyny Pen yr Helgi Ddu ac yna’r grib welltog yn arwain yn araf i lawr ar hyd ffordd wasanaeth Dwr Cymru i’r A5. Ar ol tua dwy filltir ar hyd yr hen ffordd Telford ac ar ochr Llyn Ogwen dyma gyrraedd yn ol i’r man cychwyn ar ol diwrnod egniol a chofiadwy ac wedi cerdded 11 milltir dros 8 awr ar draws rhai o dirluniau goreu Cymru. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 8ed o Fehefin 2017. Llyn Mair. Roedd yn ddiwrnod gwlyb ond yr arwyddion iddi wella wedi temtio pedwar ar ddeg dewr (neu gwyrion!) i gerdded taith hawdd o amgylch Llyn Mair a chael eu arwain gan Nick White. Roedd rhaid cwtogi y daith wreiddiol gradd “D” oherwydd fod y llwybrau wedi eu cau ar gyfer gwaith coedwigaeth. Cawsom ddechrau call iawn  wrth inni gael cinio cyn cychwyn yn y safle picnic ar ochr y llyn ac hefyd  ein sbardynu gan fara brith ardderchog Anne i ddathlu penblwydd Jean Norton.  Yna dyma’r criw yn rhodio o amgylch ochr orllewinol y llyn ac yna dringo i Coed Cadw ger Hafod y Llyn a’r llyn bychan gerllaw yn dwyn yr un enw. Roedd y tir parc ardderchog yma wedi ei ddatblygu yn wreiddiol yn yr 19eg ganrif fel rhan o stad Plas Tan y Bwlch a’r enwog deulu llechi Oakley. Er gwaethaf y cawodydd parhaol a’r glybaniaeth dan draed roedd y lliwiau gwyrdd, y llynnoedd dirgel a’r nentydd rhuthredig yn bleser. Ar ol dwy filltir a chael chwa o awyr agored dyma’r criw yn cerdded neu gyrru i fyny at caffi stesion Tan y Bwlch am y baned olaf. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 4ydd o Fehefin 2017. Nant Gwynant. Dafydd Williams arweiniodd 12 cerddwr ar daith yng nghanol Eryri gan gychwyn o Bont Bethania. i ddechrau roedd hi braidd yn wlyb ond yn fuan daeth yn glir a chynnes yn haul Mehefin. Cychwynnodd  y daith i’r gorllewin gan fynd heibio Llyndy Isaf, y fferm 600 erw brynodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ddiweddar ac maent nawr yn dewis ei pumed ysgolor ffermwr ifanc i reoli y fferm am flwyddyn. Mae llwybr gro newydd ei wella yn mynd gyda ymyl glan Llyn Dinas ac yn osgoi y cyn fan mwdlyd ac ymlaen heibio mwynglawdd copor Sygun ac i Beddgelert. Yna mynd i’r de gan fynd heibio Eglwys y Santes Fair yn dyddio yn debygol o’r 12ed ganrif a lleoliad cofgolofn gerrig yn nodi y man gorffwys ci ffyddlon Llewelyn o ble daeth enw’r pentref. Roedd llwybr annymunol Y Pysgotwyr (dim pysgotwyr heddiw) yn arwain drwy fwlch urddasol Aberglaslyn , ar ei orau yn y golau llachar uwchben dwr troelliog yr afon. Roedd y  byrddau picnic ger Pont Aberglaslyn yn le delfrydol  a chysgodol i gael cinio a pharatoi ar gyfer y dringo cyson i fyny Cwm Bychan, yn nodedig am weddillion diddorol o’r cloddio copor yn y 19eg ganrif, a chyrraedd y man uchaf o’r diwrnod sef 950 troedfedd ar Grib Ddu. Oddi yno roedd golygfeydd ardderchog o’r copau agosaf Eryri, y llyn a’r cwm coediog oddi tano. Roedd y ffordd yn ol i lawr llwybr o risiau serth (eto wedi ei wella) ac ail ymuno a’r llwybr ger y llyn a gerddom yn gynt. Roedd y te yn Caffi Bethania yn dderbyniol iawn ar ol taith ardderchog oddeutu 9 milltir a 6 awr o amser. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 25ain Fai 2017. Cylchdaeth Ysgo i Aberdaron. Liz Williams arwainodd criw o 22 aelod ar daith fendigedig arfordirol o Porth Ysgo i Aberdaron ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn, gyda haul llawn a thymerau yn cyrraedd 27C. Roedd y ffordd yn dilyn rhan 3 milltir newydd ei agor o Lwybr Arfordirol Cymru, yn uchel ar y clogwyn gwelltog o ble roedd gologfeydd gwych o’r traeth creigiog o Gallt y Mor heibio Porth Cadlan a Maen Gwenonwy, y ddau yn gysylltiedig a chwedlau Arthur, i Trwyn y Penrhyn sef y man pellaf o Fae Aberdaron. Yna mynd i’r tir a dilyn y dyffryn dymunol o Afon Daron am filltir yw aber. Cael cinio hamddenol a hufen ia yn Aberdaron ar lan y mor cyn y tair milltir yn ol i fyny’r cwm ar y ffordd a’r cyn Lwybr Arfordirol Llyn drwy gaeau Cadlan Uchaf ac Isaf, ble mae rhestr o gamfeydd traddodiadol heb eu ailosod eto gan gatiau mochyn, yn arafu’r cyflymdra. Dewisodd rhai i ddychwelyd gyda Bws Arfordir Llyn, y gwres anarferol yn drech a hwy. Cafodd rhai o’r parti fwynhau te a chacen flasus yng nghartref Liz, yn Yr Hen Reithordy a dod a diwrnod gwych i ben. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 21ain Fai 2017. Cwm Hesgyn. Cyfarfu 16 aelod yng Nghanolfan Cenedlaethol “Whitewater” ger Bala am ddiwrnod arbennig o gerdded mewn tywydd sych a heulog mewn ardal ddiarth ac anghysbell, Cwm Hesgyn. Gwnaeth hanner y criw y daith bell, 11.7 milltir a cael eu arwain gan Hugh Evans; yr hanner arall  yn dilyn ffordd fyrach o dan arweiniad Dafydd Williams. Cychwynnodd y cyfan a’u gilydd gan fynd i’r gogledd heibio ty a’i enw yn” Efrog Newydd 1933” a chael gwybod gan wraig a oedd yn rhoddi dillad ar y lein mewn ty cyfagos, y stori ddiddorol a ganlyn. Yn dechrau’r ganrif ddiwethaf aeth dynes oddi yna i’r America ac ar fwrdd y llong cyfarfod ac Americanwr ariannog. Mi fu iddynt briodi ac mi ddychwelodd y ddynes mewn amser a throi beth oedd yn feudy yn dy a’i enwi yn addas! Yna wedi cyrraedd y ty ffarm unig Cwm Hesgyn dyma wahanu ac aeth y cerddwyr taith fer  i’r dwyrain ar draws Ffridd Bwlchgraianog. Y cerddwyr eraill yn mynd i’r gogledd a chroesi yn ddiogel Nant y Coed, lle anodd pan mae llif, a dringo drwy’r grug ac o’r diwedd cyrraedd copa Carnedd y Filiast, oddeutu 2100 troedfedd. Cael cinio mewn man cysgodol o ble roedd golygfeydd i’r gogledd dros y rhostir gwag cyn belled a chopeuon uchaf Eryri, i’r de at y ddwy Aran a’r ddwy Arenig ac i’r dwyrain at Mynyddoedd y Berwyn a Bryniau Clwyd. Roedd y ffordd ymlaen yn dilyn y grib heibio Llyn Hesgyn gan ail ymuno a llwybr y daith fer yn Bwlch Graianog a disgyn i gaeau gwyrdd nant Afon Mynach. Roeddynt ar frys i gael blaen ar y teithwyr eraill, ond yn ofer, er mwyn cael paned a “carrot cake” yn caffi Manon gerllaw yr afon ble roedd y canws yn rhuthro i lawr o Llyn Celyn, ffordd ardderchog i ddarfod diwrnod gwych. Noel Davey. (Cyf-DHW).

 

Dydd Iau 11 Fai 2017. Cwm Pennant. Mae bob amser yn bleser i ymweld a Chwm Pennant un or cymoedd prydferthaf yng Nghymru ac yn mynd yn ddyfn i fynyddoedd gorllewinol Eryri. Ian a Kath Spencer arweinodd 32 aelod ar daith boblogaidd ac hamddenol yn ardal deheuol o’r cwm. Arhosodd y daith oddeutu chwe milltir o hyd yn bennaf ar heolau bychain gan gychwyn ger yr eglwys fechan, Santes Mair, Dolbenmaen, mi gredir i’r fan yma fod yn ganolfan bwysig weinyddol Eifionydd yn amser y tywysogion. Wedi mynd heibio Llanfihangel y Pennant a Pont y Ddol dyma’r cerddwyr yn mynd i’r de ar lwybr serth gan frwydro dros gamfa anodd cyn cael cinio ar ochr Craig Isallt. Yna dyma’r ffordd yn ol yn ymuno a’r llwybrau union drwy weddillion stad y Brynkir ble nawr mae Canolfan Awyr Agored a Twr Bryncir o’r 19eg ganrif sydd yn ddiweddar wedi ei adnewyddu fel safle gwyliau drud! Cafwyd yr arhosiad olaf am baned ar y bont olygfaol Pont y Lodge gan ddod ar daith bleserus ar ddiwrnod clir a heulog i ben. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 7 Fai 2017. Nefyn i Llanbedrog. Gan fwynhau y cyfnod diweddar heulog o’r gwanwyn gyda awyr las, 19eg aelod o’r Clwb gerddodd 9 milltir yr holl ffordd ar draws Orynys Llyn o Nefyn i Llanbedrog a chael eu arwain gan Miriam Heald a Jean Norton. Cychwynnodd y daith yn maes parcio Sryd y Plas a mynd i’r de o amgylch Garn Boduan ac heibio’r man ble yn 1284 cafodd Edward 1 dwrnament i ddathlu ei fuddugoliaeth dros y Cymru.  Roedd y rhan canolog yn cadw draw o’r Gors Geirch gan ddilyn lonydd pleserus a’r gwrychoedd ar eu gorau. Ar ol cinio mewn hen bwll graean dyma barhau i’r de ar hyd llwybrau anodd i’w dilyn i Rhyd y Clafdy a chael arhosiad bleserus yn Tafarn Tu Hwnt i’r Afon. Yna defnyddio llwybrau newydd eu atgyweirio heibio Wern Fawr a mynd i’r de ddwyrain i ddilyn trac coediog y porthmyn i Crugan. Oddi yno roedd fawr o ffordd i lwybr yr arfordir a mynd ar hyd y traeth yn ol at y ceir yn maes parcio’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn Llanbedrog. Roedd hon yn daith ardderchog dros dir hardd Llyn a thrwy lefydd dirgel gan roddi llawer o olygfeydd o fryniau Llyn ac ambell i gipolwg o’r mor. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Ebrill 29ain i Fai 6ed 2017. Gwyliau Blynyddol Rhodwyr Llyn. Cafodd 35 aelod a ffrindiau fwynhad o wythnos ryfeddol yn aros yn Westy’r HF (Holiday Fellowship), Freshwater Bay ar Ynys Wyth. Dros y pum diwrnod  roedd dewis o dair taith yn amrywio mewn anhawster a chael eu arwain gan aelodau o’r parti dros wahanol rannau difyr o’r Ynys yn cynnwys ardaloedd gwastad, coedwigoedd a golygfeydd yr arfordir heb anghofio’r clogwyni unigryw gwyn a’r “Needles” ar y pen gorllewinol pellaf.  Mi gerddodd y mwyafrif bellter o rhwng 35 a 65 milltir yn ystod yr wythnos. Arwahan i’r glaw ar y ddau diwrnod cyntaf  roedd yn dywydd cerdded ardderchog, yn sych hefo ambell o gyfnod heulog. Roedd rhai gwydn neu gwirion yn fodlon gwynebu’r gwynt dwyreiniol main a gwneud defnydd dyddiol o’r pwll nofio allanol ond gwresog! Ar y diwrnod rhydd aeth hanner y parti i “Osborne House” (Ty crand oedd yn berchen i’r Frenhines Victoria!) tra roedd eraill yn ymlacio gan fynd i erddi lleol a Castell Carisbrooke, ble carcharwyd y Brenin Siarl 1af yn yr ail ganrif a’r bymtheg. Roedd y llety a’r gwasanaeth yn ardderchog yn ol yr arfer. Y bwyd digonol a rhagorol yn rhoddi cyfle i gloncian ac or fwyta. Gyda’r nos  roedd yna raglen amrywiol a llawn miri o adloniant gan yr aelodau. Diolch yn fawr i Hugh Evans am drefnu gwyliau mor gofiadwy.  Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Ebrill 27ain 2017. Ardal Chwilog. Kath Spencer arweiniodd 24 cerddwr ar daith bleserus o Chwilog gan fynd 5.5 milltir dros 3 awr. Roedd yn ddiwrnod o gynfnodau heulog ac ambell i gawod ysgafn  a gafodd ddim dylanwad ar hwyliau da y cerddwyr nac y cloncian! Cychwynodd y daith ar hyd y ffordd fawr i gyfeiriad Criccieth cyn mynd i’r chwiith ar ol hanner milltir ar y Lon Goed gyda golygfeydd i gyfeiriad y mor. Mae coed bob ochr i’r llwybr hanesyddol yma, adeiladwyd dwy ganrif yn ol gan Stad Mostyn ar gyfer gwasanaethu ffermydd lleol, ac mae bob amser yn le delfrydol i gerdded yn enwedig yn y gwanwyn pan mae dail y coed ffawydd yn blaguro. Ar ol hanner milltir dyna adael y Lon Goed a mynd am Chwilog Fawr a chael paned ger lyn pysgota newydd ac yna heibio safle carafanau Llety Wennol. Yna ar hyd un o berlau o lonydd bychan coediog Eifionydd am oddeutu milltir ac ail ymuno a’r Lon Goed a’i dilyn yn ol i’r man cychwyn ger Afonwen ar ol aros mewn man delfrydol gerllaw un o’r meinciau wedi ei cherfio, am ginio. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 23ain Ebrill 2017. Carnedd y Cribau. Roedd Ebrill 23 yn ddiwrnod odidog i fynd am dro yng nghanol Eryri. Dafydd Williams arweiniodd grwp o 16eg o gerddwyr gan gychwyn yn agos i Wersyll y Rhufeiniaid yn Pen y Gwryd a chroesi i’r de ar draws y rhostir enwog “Land of the 1000 bogs”, ond oherwydd y tywydd sych diweddar mi oedd yn weddol sych.  Gwnaethpwyd cylchdaith fer i fan golygfeddol, Cefn y Cerrig, cyn cyrraedd copa Carnedd y Cribau, oddeuty 2000 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod. Oddi yna roedd golygfeydd arbennig o’r copau o’n amgylch yn cael eu dominyddu  gan Yr Wyddfa oedd yn ynarferol o ddisglair! Yna dilyn ar hyd grib anesmwyth  Y Cribau a chael cinio mewn man creigiog a chysgodol. Y tawelwch yn cael ei chwalu gan foto beic yn mynd heibio o fewn troedfeddi i ni yn y man anghysbell yma! Cyrraedd Bwlch y Rhediad a dyma wneud cylchdaith arall gan fynd  i ymweld a safle ddamwain erchyll ar noson y 10ed Ionawr 1952 pan blymiodd awyren Aer Lingus ar ei ffordd o Lundain i Ddulyn, i’r gors ac mi gollodd y cyfan yn cynnwys plant, sef 23 eu bywydau. Mae rhai yn dal yn y gors hefo gweddillion yr awyren, 12 wedi eu claddu yn mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon a cyrff y gweddill wedi eu cludo i’r Iwerddon. Yna dyma’r daith yn mynd i lawr yn serth ond braf a choediog, cwm Glaslyn uchaf a chyfeirio yn ol am Pen y Gwryd ar yr hen ffordd gan ddringo, ddim yn serth, ond yn gyson ger safle hidro-electrig Cwm Dyli gyda golygfeydd breddwydiol yn ol i gyfeiriad Llyn Gwynant. Roedd hon yn daith chwe awr bleserus ond yn dywyllodrys o egniol oddeutu 7.2 milltir a 2500 troedfedd o ddringo! Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 13ed Ebrill 2017. Cylchdaith Mynydd Rhiw. Dyma griw o 25 cerddwr yn mwynhau taith braf ar Fynydd Rhiw a cael eu arwain gan Marian Hopkins gan gychwyn o’r maes parcio bychan yr Ymddriedolaeth Cenedlaethol yn uchel ar ochr y dwyrain ogleddol o’r mynydd. Roedd 4 aelod arall wedi dewis maes parcio gwahanol a gwneud taith ar lwybrau eraill. Cychwynodd y daith i fyny llwybr gwelltog llydan i’r copa oddeutu 1000 troedfedd gan fynd heibio safle ffatri bwyelli oes y cerrig a chysgodi yn y copa oes efydd am baned. Er gwaethaf yr awel finiog roedd yn ddiwrnod clir hefo cyfnodau heulog ar awyr yn glir yn caniatau golygfeydd ardderchog ar draws Llyn ac i Ynys Enlli, copau Eryri ac i lawr arfordir Cymru. Yna dyma’r cerddwyr yn cyfeirio at y de ac yn ddwyreiniol i lawr ochr y mynydd ac aros i edmygu bythynnod wedi eu adwenyddu (tebyg eu bod yn dai unnos) a’r gerddi yn Fron Deg o dan ofal  Emyr ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a lle da am ginio! Aeth y daith o’r neilltu i edrych ar dwlc mochyn canol oesol prin ac yna gweddillion Capel Galltraeth a gaewyd yn 1942 wrth i’r gynulliad ostswng i ddau frawd a oedd yn enwog oherwydd iddynt wrthod a siarad a’i gilydd am flynyddoedd! Dychwelyd drwy weddillion coedwig pin ar ganol eu ail blannu a gorffen gan fynd i fyny yn serth i’r man cychwyn. Taith ddiddorol oddeutu 4 milltir gyda diweddglo perffaith hefo te drwy garedigrwydd Lis Williams yn yr Hen Reithordy. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 9ed Ebrill 2017. Rhobell Fawr.  Judith Thomas arweiniodd 11 aelod ar daith ardderchog i fyny Rhobell Fawr, mynydd ac iddo enw drwg yn y Clwb ac wedi ei osgoi am rhai blynyddoedd.  Roedd y daith i’r man cychwyn anghysbell, oddeutu 950 troedfedd yn ei hun yn antur gan fynd pum milltir ar hyd ffordd gul a throelliog drwy wlad anial, heibio’r pentref bychan, Abergeirw. i ddechrau aeth y daith ar hyd trac da ar hyd Cwm yr Allt-lwyd a mannau uchel yr Afon Mawddach cyn mynd i’r de yn y lleoliad lliwgar, Nant yr Helyg ac yna yn syth i fyny llethrau gwelltog a chyrraedd y prif gopa oddeutu 2400 troedfedd ar ol tair awr. Roedd yr haul niwlog wrth ddringo yn caniatau golygfeydd o’r copau cyfagos, Dduallt ac Rhobell y Big a’r tir cyfagos. Ar hyn dyma’r niwl yn gwaethygu hefo’r gwynt gorllewinol, ond roedd lle cysgodol ar gael a r gyfer cinio ychydig is na’r copa. Yna i lawr yn serth i’r de i’r goedwig coniffer o gwmpas Cefn yr Eryr ble mae torri coed yn cymeryd lle, a dyma fynd ar hyd ffordd i geffylau yn arwain at y llwybr allanol. Dyma bum awr ardderchog yn y bryniau yn cynnwys 7.2 milltir a threchu y diflastod tuag at Rhobell Fawr! Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 30ain Fawrth 2017. Nant Gwrtheyrn. Ian Spencer arweiniodd 15 o gerddwyr penderfynol o’r maes parcio Mount Pleasant uwchben Llithfaen ar ddiwrnod gwlyb a niwlog arall gan ymweld rhan o daith a wnaeth y Rhodwyr ar ddydd Sul yn ddiweddar pan oedd y tywydd yn waeth hefo gwyntoedd cryfion. i lawr aeth y cerddwyr ar y ffordd droelliog serth weddol newydd yn arwain i’r Ganolfan Iaith Gymraeg gafaelgar, Nant Gwrtheyrn ble ‘roedd cyfle i gael paned o de/coffi dderbyniol yn y caffi. Yna aeth y llwybr uwchlaw’r traeth, heibio’r adfailion chwareli ithfaen ac i fyny’r bryn heibio Gallt y Bwlch. Cafwyd cinio wedi cyrraedd top y clogwyn yng nghysgod ty haf, yr un man ble arhosodd y daith flaenorol. Dychwelodd y cerddwyr ar draws y gwastatir uchel ac agored a’r tywydd yn dirywio ar lwybr wedi ei wella yn ddiweddar fel rhan o’r cylchdeithiau ardderchog yn cychwyn o Lwybr yr Arfordir ac wedi eu ariannu gan y Gymuned Arfordirol. Er gwaethaf y tywydd garw mi oedd y daith 3.5 milltir yn gyfle i fod yn yr awyr agored ac ymarfer y corff ar y rhan dramatig yma o arfordir Llyn. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 26ain Fawrth 2017. Mynydd Mawr. Ar ddiwrnod hyfryd o wanwyn ‘roedd yna ddwy daith, y ddwy yn cychwyn o Talysarn, taith gradd A 10.5 milltir yn cael ei arwain gan Noel Davey a taith gradd B gan Dafydd Williams. Cychwynnodd y criw o 18 a’i gilydd a dringo oddeutu 700 troedfedd i fyny at Cilgwyn ar lwybrau cul a serth (rhaii wedi eu gwella yn ddiweddar gan gerddwyr gwirfoddol) sydd yn nodweddiadol o’r ardal chwarelog gynt yma. Yna dyma’r llwybr oddeutu 1000 troedfedd yn lefelu gan fynd heibio y cyn dwll sbwriel wedi ei lenwi ger pentref Y Fron ac yna cyrraedd rhostir agored Uwchgwyrfai. Ger Llyn Ffynnonau dyma’r ddwy garfan yn gwahanu , 11 yn  dringo’n bwyllog i fyny Mynydd Mawr (2300 troedfedd) ar y llwybr gwelltog ar yr ochr gogledd orllewinol. O’r copa’roedd golygfeydd ysblennydd  i gyfeiriad Y Wyddfa, Crib Nantlle, Llyn, Ynys Mon ac  arfordir Iwerddon. Cael lloches i gael cinio rhwng dwy wal a chael rhywfaint o gysgod oddiwrth y gwynt  dwyreiniol miniog sydd yw gael ar yr uchder yma. Gwnaethpwyd y disgyniad ar yr ochr de orllewinol, heibio creigiau serth Craig y Bera ac i lawr gwli waliog hir i Rhos Pawl ac ardal Caeronwy sydd yn nodedig am weddillion hen dyddynod a gwaenau. Yna dyma ail ymuno a’r llwybr a gymerwyd yn gynt gan y 7 ar y daith fyrach. ‘Roedd hwn yn arwain i Nantlle trwy gaeau gwyrdd cyn cyfeirio at Talysarn drwy olion nodedig o’r chwareli di ri yn cynnwys llynnoedd chwilfrydig wedi eu ffurfio gan y pyllau tyfn Twll Mawr a Dorothea, lle addas i aros a chael paned! ‘roedd y tywydd heulog, y golygfeydd godidog a’r amgylched diddorol yn cyfrannu at mwyniant y diwrnod egniol. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 16 Fawrth 2017. Dolwyddelan. Dafydd Williams oedd yn arwain taith fer o bedair milltir a hanner yn Dolwyddelan ac mi oedd 24 aelod, yn cynnwys dau aelod newydd eto, wedi cyfarfod yn stesion Dolwyddelan. Pan oedd y Rhodwyr yn yr un man mis ynghynt ‘roedd y tywydd yn drychinebus ac ‘roedd y rhagolygon eto yn wael ac er iddi fod yn gymedrol ym Mhwllheli, pan ‘roeddem yn nesau at Blaenau Ffestiniog, niwl a glaw man oedd yn ein cyfarch ac felly ‘roedd hi yn Dolwyddelan.  Cychwynnodd y daith i’r de ar y Sarn Helen, ffordd darmac weddol  gul, ar i fyny i Cwm Penamnen hefo Afon Maesgwm yn llifo’n gryf tuag atom ar y llaw chwith. Ar y dde ‘roedd rhaeadr yn disgyn drwy’r coed bron yn syth i lawr yr ochr serth oddeutu pedwar can troedfedd. Wedi cyrraedd rhes o adfeilion Tai Penamnen, bythynod o’r 15eg ganrif a chael paned, dyma fynd heibio dau dy, Gwyndy a Ty’n y Cwm, wedi eu adnewyddu yn ddiweddar, cyn mynd i’r chwith ac yn weddol serth drwy’r coed. Y man yma oedd yr uchaf ar y daith a dyma fynd am y gogledd ar lwybr gwastad a’r afon eto ar ein chwith ond ‘nawr yn llifo i’r un cyfeiriad a ni! Cael cinio hanner ffordd i lawr y cwm hardd yma, ac mi beidiodd y glaw man ac mi giliodd y niwl, oedd yn ein galluogi i weld godre Moel Siabod yn y pellter a’i gopa o dan gwmwl. Yna yn ol i’r maes parcio a chael paned/coffi a chacen dderbynniol mewn caffi cyfagos. Hon oedd y daith olaf cyn symud y clociau ymlaen ac er iddi fod yn fyr mi oedd pawb wedi ei mwynhau. Dafydd Williams. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 12ed Fawrth 2017. Moel Ddu. Ar ddiwrnod tamp a niwlog Dafydd a Tecwyn Williams arwainodd bob yn ail – toedd hi ddim yn amlwg pob amser pwy  - i arwain criw o 14, yn cynnwys dau aelod newydd, i fyny Foel Ddu. Cychwynnodd y daith 650 troedfedd uwchben y mor ger cronfa Llyn Cwm Stradllyn, y prif darddiad o ddwr Llyn. Dilynodd y llwybr gyfeiriad yn groes i’r cloc ac o’r diwedd cyrraedd y ddau gopa Moel Ddu oddeutu 1800 troedfedd, mewn amser i gael cinio buan. Oddi yno ‘roedd cylch llawn o olygfeydd o niwl trwchus, ond wrth fynd i lawr mi gododd i roddi cip olwg tywyll o’r tirwedd gafaelgar o tanom. Yna dyna daith drwy’r gweithfeydd Chwarel Gorseddau, rhan o’r buddsoddiad canol yr 19eg ganrif hynod ond yn ariannol yn drychinebus yn y gwaith llechi lleol. Dyma’r cerddwyr yn rhyfeddu ar waith  cerrig hynod yno a credir iddo arbad gwastraff llechi gorlethu y dramffordd oddi dano drwy fynd dros ben y wageini! Y llwybr yna yn mynd ar hyd llwybr o dan ddwr i’r gogledd o’r llyn, heibio adfeilion tai chwarel ac ail gyrraedd y gronfa fel ‘roedd yr haul yn dod allan. Er gwaethaf y glaw man parhaol yn ystod y ddwy awr gyntaf, y glybaniaeth a’r tirwedd llithrig drwy’r amser, mi oedd y tywydd yn weddol fwyn a’r gwynt yn gymedrol, ac mi oedd hon yn daith fwynhaol ac egniol er iddi fod ddim ond 5.5 milltir. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 2ail Fawrth 2017. Cynhaliodd y Clwb ei 38ed Cyfarfod Blynyddol yn Capel y Traeth, Criccieth. ‘Roedd y cyfarfod yn nodedig am ei fyrder a chynulliad o 46. Yna Dafydd Williams arweiniodd criw o 30 ar daith hamddenol a chartrefol 3.3 milltir ar lan yr afon Dwyfor. Cychwynnodd y daith o Lanystumdwy gan ddefnyddio’r dreif hir a syth i Plas Trefan ac aros am ginio ger y bont hardd o ddiwedd yr ddeunawfed ganrif, Rhyd-y-Benllyg ac yna dychwelyd ar hyd glan yr afon Dwyfor. Yn dilyn y glaw diweddar ‘roedd llif uchel yn yr afon a’r  llwybr yn llithrig a gwlyb ond mi oedd rhai eirlysiau ar ol ac y cennin pedr yn dechrau ymddangos ac yn creu sioe ysblennydd sydd bob amser yn gwneud y daith goediog hon yn uwchafbwynt ein rhaglen diwedd y gaeaf. Yn ol ger y pentref mi oedd rhaid aros i gymeryd llun y criw ger bedd David Lloyd George. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 26ain Chwefror 2017. Tre’r Ceiri and Yr Eifl. Y daith ar y rhaglen ar gyfer dydd Sul 26ain o Chwefror oedd i ddringo Tre’r Ceiri a’r Eifl ond oherwydd y niwl a’r rhagolygon o law trwm a  hyrddwynt o 60 milltir yr awr, dyma’r copau, ar ol trafod, yn cael llonydd am y tro. Dyma Judith Thomas yn arwain 8 cerddwr ar daith 5 milltir gan gychwyn o’r maes parcio Mount Pleasant (900 troedfedd uwchben y mor) ar i fyny i gyfeiriad Bwlch yr Eifl ac yna i lawr yr allt serth i Nant Gwrtheyrn, Canolfan Yr Iaith Gymraeg, a mwynhau paned dderbyniol yn y caffi campus. Ymlaen wedyn uwchben glan y mor Porth y Nant, heibio’r hen chwareli ac yn ol i fyny drwy’r coed hynafol, Gallt y Bwlch gan aros am ginio yng nghysgod clawdd dy haf unig. Yna yn sigledig dyma’r cerddwyr yn mynd yn ol ar draws y llwyfandir a chael eu taro gan wyntoedd cryfion. Er i hon fod yn daith fyrach na’r arfer ar y Sul mi oedd yn bleserus ac yn her ac mi oedd y penderfyniad yn ddoeth gan i’r glaw gyrraedd am weddill y dydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 16 Chwefror 2017. Taith gerdded dyffryn Dolwyddelan. Er i rhagolygon y tywydd addo na fydda’r glaw yn dechrau tan 3.00 o’r gloch y prynhawn  ‘ roeddent unwaith eto yn anghywir! Cychwynodd y glaw ar y ffordd i Dolwyddelan ble ‘roedd 33 o gerddwyr cadarn wedi ymgynnull yn y maes parcio ger yr orsaf a chael eu arwain ar daith pum milltir gan Judith Thomas. O’r maes parcio,  cychwyn i gyfeiriad y pentref ac i’r chwith dros y bont lein ac ymuno yn fuan a’r llwybr sydd yn weddol serth ac yn arwain i Ty Mawr, Gwybrnant, lle pwysig hanesyddol, man geni William Morgan (1545 – 1604) a gyfieithodd y Beibl o’r Groeg a’r Hebraeg i’r Gymraeg. Derbynir i’r weithred yma fod yn gyfrifol am i’r iaith gymraeg oroesi tan y presennol. Ar ol agos i ddwy filltir dyma fynd i lawr i’r chwith i’r dyffryn a chyrraedd ger arhosiad Pont y Pant. Yna dyma ddau o’r cerddwyr yn ein gadael, un oherwydd fod ganddo apwyntiad meddygol a’r llall am iddi gael digon o’r glaw cyson!  ‘Roedd ein arweinydd meddylgar, Judith wedi trefnu inni alw yn caffi Gwesty’r Plas Hall gerllaw ble cawsom groeso, er inni fod wedi trochi ac yn wlyb dros ben. ‘Roedd  cael cysgod o’r tywydd garw yn dderbynniol dros ben a dyma fynd a’r afael a the/coffi a chacennau a phan inni ddychwelyd  ‘roedd y glaw yn ysgafnach.  Dyma ymlwybro yn ol i Dolwyddelan cyfochrog a’r afon a dyma’r glaw unwaith eto yn trymhau ac yn daer ond er gwaethaf y tywydd mi oedd pawb ond un wedi mwyhau yn arw! Dafydd Williams.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 12 Chwefror 2017. Moel Eilio. Heather Stanton arweiniodd 8 o gerddwyr dewr ar ddiwrnod gaeafol i fyny Moel Eilio. ’Roedd y gwynt dwyreiniol oer a chryf yn chwythu dros 60 milltir yr awr ar adegau ac yn pery i’r tymherau rhewllyd deimlo’n oerach ac yn achosi’r cerddwyr cryfa i syrthio, tra ‘roedd yr eira tenau yn uwch a 1200 troedfedd  yn ei gwneud hi yn llithrig. Ond  mi  oedd yr awyr yn glir a saethau o haul yn goleuo’r tirwedd ac yn hyrwyddo y golygfeydd ysblennydd o’r eira ar y copfeydd a’r lliwiau gwyrdd, brown ac arian o’r dyffrynnoedd a’r llynnoedd islaw. Cychwynodd y daith ger Bwlch y Groes uwchben Waunfawr ac yn syth i fyny i gyfeiriad y de i Eilio ei hun 2400 troedfedd; mynd ymlaen dros Foel Goch, cael cinio brysiog yng nghysgod wal yn Bwlch Maesgwm.’Roedd y disgyn yn lawer haws gan fynd ar lwybr Maesgwm oedd yn ddi eira ac yna 800 troedfedd heibio ucheldiroedd Llanberis ac o’r diwedd yn ol i’r ceir. Yng ngolau’r tywydd mi oedd hon yn daith heriol ond bywiog, dros 8 milltir a cyfanswm o 4000 troedfedd o ddringo dros bedair awr. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 2 Chwefror 2017. Beaumaris. Cyfarfu 20 aelod yn y dref liwgar, Beaumaris a chael diwrnod pleserus ar Ynys Mon. Arweinwyd  y daith 6 milltir oedd yn cyd ddigwydd hefo ychydig oriau o dywydd heulog braf a gwyntoedd cryfion, gan John Enser.  Aeth y daith i’r gogledd o’r dref drwy dir taclus Cwrs Golff Henllys  ac heibio’r gwesty mawreddog Henllys Hall adeiladwyd canrif yn ol fel mynachlog, yna cyrraedd Llanfaes, pentref bychan gyda hanes enwog canoloesol fel porthladd pwysig, ac am gyfnod yn brifddinas brenhiniaeth Gwynedd a man gorffwys Joan, gwraig Llewe;lyn Fawr a merch y brenin John. Dyma’r daith yn mynd i’r gorllewin ac yna i’r de drwy dir uwch gyda golygfeydd godidog i gyfeiriad y Carneddau a Llandudno, ac aros am ginio ger y Cofeb Bulkeley, obelisg o’r 19eg ganrif  yn coffau y teulu ddylanwadol lleol a’u stad. Wedi mynd heibio elusendai o’r 17eg ganrif fe aeth y daith ymlaen ar hyd “The Mile Road” ac o’r diwedd i lawr Allt Goch Bach heibio Clwb Golff Baron Hill ble ‘roedd golygfeydd ysblennydd o’r Menai Straits, orfododd y cerddwyr i osgoi y dilyw o ddwr o’r tonnau yn curo morglawdd Beaumaris. Gorffenwyd y daith gan aros yn un o’r caffis ar y Stryd Fawr. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul 29 ionawr 2017. Foel Fawr, Graig Wen & gloddfa aur. Roy Milnes arweiniodd 8 aelod ar daith ddiddorol o 7 milltir  ar waunydd Mynydd Maentwrog i’r dwyrain o Trawsfynydd. Cychwynnodd y daith yn Tomen y Mur, safle cyfarwydd oherwydd y castell o’r 11ed ganrif ar ben  y twmpath amlwg ac hefyd gweddillion hyn filwrol  o amser y Rhufeiniaid pan oedd yn groes fordd strategol yn yr ardal anghysbell yma. ’Roedd y daith i ddechrau yn mynd heibio safle fechan hollti llechi, i fyny Foel Fawr ac yna dilyn crib droelliog i Graig Wen; ‘roedd  uchder o 1750 troedfedd yn le addas i gael cinio gyda golygfeydd ardderchog i gyfeiriad y Moelwyni, Manod Mawr, y ddwy Arenig a’r Rhinogydd, oll hefo mantell ysgafn o eira. Y rhan ore o’r daith oedd ymweliad chwilfrydig i’r hen weithfeydd aur dan ddaearol gerbron yr Afon Llafar. Gallodd y criw dreiddio sawl can llath gyda golau tors ar hyd y  twnnel  creigiog i’r mwynglawdd gan gadw draw o lawer o dwnneli peryglus yr olwg ond, yn anffodus daeth dim aur i’r golwg!. ‘Roedd y daith yn ol, drwy weddillion Camp  Ymarfer Rhufeinig, Dolddinas,  wedi ei ddefnyddio ar gyfer symudiadau militaraidd a meysydd ymarfer. ‘Roedd hon yn daith bleserus gan osgoi dim ond glaw man ar y filltir olaf yn groes i’r rhagolygon am law trwm am y rhan fwyaf o’r dydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 19 ionawr 2017. Tudweiliog. Ar ddiwrnod cymylog, llonydd tawel a mwyn, Miriam Heald arweiniodd 18 cerddwr ar daith amrywiol a diddorol o bron i bum milltir o amgylch Tudweiliog. Cychwyn i mewn i’r tir i lawr y dreif nodiadol goediog filltir  o hyd yn arwain i Cefn Amwlch, cartref hanesyddol y teulu enwog Griffith yn ystod  y 15ed - 18ed ganrif Drwy ganiatad caredig y perchennog aeth y criw i’r stad heibio’r ty porthor mawreddog 1607 a cherdded o amgylch y gerddi cloddiog ac edmygu yr hen dy haf bricsen 200 oed a’r nifer o blanhigion oedd er syndod yn blodeuo yn ionawr, lle cofiadwy am baned. Yna dilyn rhwydwaith o lwybrau tamp a deiliog yn ol drwy’r coed cyfagos. Ar ol cinio yn Gwesty’r Llew dyma wneud cylch arall ar hyd llwybrau mwdlyd i’r arfordir yn Porth Towyn a chael cyfle i fwynhau’r olygfa arbennig o’r mor a’r clogwyni, yn cynnwys y morloi. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 15 ionawr 2017. Bryncir. Kath Spencer arweiniodd 9 aelod ar daith dda hirgron o bron i naw milltir ar ffyrdd bach a llwybrau diarth i’r gorllewin o Fryncir. Cychwynhodd y daith o faes parcio yr hen stesion  ac yn dilyn trac beicio ardderchog Lon Eifion i’r gogledd am tua milltir ac yna i’r gorllewin i gyfeiriad Bwlch Derwin, heibio peilons anghynas a twrbins gwynt ac adrannau fferm mwdlyd a’r bryn bychan Y Foel. Yna ‘roedd cylch drwy ardal coediog ac ar ol  cinio derbyniol ymlaen i’r de o amgylch tir agored Mynydd Cennin. Wrth ymyl Hendre Cennin mi oedd trac eithriadol o fwdlyd yn arwain at y rhan gogleddol o’r Lon Goed enwog, ffordd drol gyda coed  y naill ochr wedi ei adeiladu yn y 19eg o’r arfordir yn Afon Wen i ddod a calch i’r ffermydd mewn dirol Stad Mostyn.  Oddi yno dilyn ffyrdd tarmac yn ol i Bryncir drwy Llecheiddior, ardal ble mae chwareli gro ar y wyneb yn mynd i ail ddechrau. Mi oedd hon yn daith bleserus gymdeithasol i’r dim ar gyfer diwrnod yng nghanol ionawr oedd, er iddi fod yn laith, niwlog a di haul mi oedd yn llonydd, mwyn ac yn rhyfeddol sych, yn groes i’r addewidion. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 5ed ionawr 2017. Chwilog. Mi oedd yna gynulliad dda o 24 ar gyfer y daith dydd iau gyntaf o’r flwyddyn newydd yn cael ei harwain gan Kath Mair. Ar ddiwrnod  oer a rhewllyd a haul clir mi oedd yn berffaith ar gyfer y daith wledig, amrywiol a phleserus o Chwilog. Mi oedd y llwybr yn arwain i gyfeiriad yr arfordir ar hyd heolydd cyfareddol a chaeau gyda rhai camfeydd anodd, heibio Penarth Fawr y llys nodedig a Penychain tan cyrraedd y traeth hir tywodlyd ger Abererch. Cawsom le cysgodol i gael cinio yn y tywynau tywod. Yna yn ol i’r gogledd o amgylch waliau stad Broom Hall sydd yn dal i fod yn chwilfrydig. Taith ddymunol o dros 8 milltir yn dod i ben ar ol gwahoddiad caredig i gael te a chacen nadolig yng nghartref ian a Kath gerllaw  yn Llanarmon. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 1af ionawr 2017. Moel y Gest. Ar ddiwrnod braf o aeaf Tecwyn Williams a ian Spencer arweiniodd 13 cerddwr o faes parcio Borth y Gest i fyny Moel y Gest, mynydd diniwed (bryn) o dan 1000 troedfedd ond wrth eich bod yn cychwyn o lan y mor mae rhaid dringo 1000 troedfedd i’r copa. Mae Tecwyn yn gyfarwydd a’r ardal wrth iddo fyw yn Porthmadog ac mi arweiniodd ni yn gyntaf ar hyd llwybr digon  mwdlyd, heibio Tyddyn Llwyn ac yna ar lwybr serth, ac ar y diwrnod, llithrig a seimlyd i gyfeiriad y copa cyntaf a’i gyrraedd ar ol peth trafferth. Ar ol paned dyma’r ddau arweinydd yn penderfynu mynd am yr ail gopa o’r ochr gorllewinol yn hytrach na’r dwyreiniol gan iddynt feddwl byddai’n anodd dan draed. Dyma 10 o’r criw yn cyrraedd y copa gogleddol ar old mwy o ddringo serth, gorfod i’r tri arall ddychwelyd gartref oherwydd galwadau teuluol. i ddechrau, mynd i lawr yr un ffordd ac yr aethom i fyny ac yn y fan hyny dyma y ddau gerddwr olaf, Hugh a Gwynfor yn meddwl eu bod wedi dod ar draws mwynglawdd arian ar Moel y Gest tan iddynt sylweddoli mae syrthio o boced Gwynfor oedd yr arian!  Yna dyma’r parti yn mynd i gyfeiriad Morfa Bychan gan fynd heibio y fferm hefo ceffylau, moch a llamas, croesi’r ffordd Porthmadog/Morfa Bychan, drwy y coed, dros bryn Dafydd y Garreg Wen ac yn ol i Borth y Gest. Yn anochel mi oedd rhaid ymweld a’r caffi lleol am gwpanad o de neu choffi cyn gwasgaru, ar ol diwrnod llwyddiannus o gerdded yn y Flwyddyn Newydd. Dafydd Henry Williams.

Dydd iau 22 Ragfyr 2016. Coed y Brenin / Ganllwyd.  Gan roddi prysurdeb y Nadolig o’r neilltu dyma 19 aelod yn cyfarfod yn Coed y Brenin ar gyfer dwy daith hamddenol ar un o’r nifer o lwybrau coediog ardderchog sydd ar gael. Unwaith eto mi oedd yn ddiwrnod mwyn clir a sych er fod yna wynt miniog. Y parti yn cychwyn  gyda’i gilydd gan ddringo yn araf i’r gogledd o’r Ganolfan Ymwelwyr i grib Cefndeuddwr ac i lawr i’r Afon Gain. Yna Dafydd Williams yn arwain 11 cerddwr ar gylch hirach oddeutu 5 milltir heibio adfeilion fferm Penmaen a’r “bloomeries” canoloesol, gweddillion o’r pedwerydd ganrif a’r ddeg o weithfeydd haearn metel yn ddefnyddio sercol lleol. Nick White, bron wedi gwella yn llwyr ar ol llaw driniaeth diweddar arweiniodd wyth cerddwr ar daith 3 milltie fyrach. Dychwelodd y ddau barti i lawr rhannau o’r Sarn Helen, un o brif ffyrdd Rufeinig yn cysylltu Gogledd a De Cymru ac yn ol yr hanes wedi ei enwi ar ol arwres Fabinogaidd ac wedi ei marcio gan garreg filltir oroesig. R’oedd y cerdded yn rhwydd, y rhan fwyaf ar lwybrau coediog gyda ambell gip i gyfeiriad y Rhinogydd a Rhobell Fawr, taith ddelfrydol ar gyfer dyddiau byr o gwmpas troiad y rhod. Y parti yn ail ymuno i gael te yn caffi moethus Y Ganolfan. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 18 Ragfyr 2016. Criccieth.  Dafydd Williams arweiniodd 10 aelod yn nghefn gwlad Criccieth ar ddiwrnod cymylog ond sych, mwyn a thawel – tywydd ardderchog i gerdded. R’oedd yn daith ddiddorol ac amrywiol o bron  9.5 milltir drwy gaeaf a llwybrau coediog a heolau bychain. Cychwyn yn y maes parcio gorllewinol a cherdded i’r gogledd i fyny y Lon  Fel gul a thros Mynydd Ednyfed, 450 troedfedd a’r man uchaf y diwrnod, i’r cwrs golff gyda gologfeydd o’r dre a’r castell. Ymlaen i Ystumcegid ac aros am baned y bore ger Y Gromlech Neolithic cyn mynd i’r de ac i lawr yr afon Dwyfor ar hyd lwybr coediog a swynol sydd yn bleser ym mhob tymor. Aros am ginio ger Bont Rhydybenllyg a thynnu llun ger man tawel bedd David Lloyd George. Ymlaen heibio Aberkin i’r arfordir a dilyn llwybr yr arfordir yn ol i Griccieth heibio’r ty dadleuol Cefn Castell (Dryll Hyll?). i orffen diwrnod ardderchog Catherine a Dafydd yn diddanu y criw i de arbennig yn cynnwys cacen penblwydd (i Noel yn 70 oed!), mince pies a prosecco! Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 8 Ragfyr 2016. Uwchmynydd / Porth Meudwy. Marian Hopkins awrweiniodd 9 cerddwr ar daith arfordirol yn ol ac ymlaen o Aberdaron i Uwchmynydd. Ar ol glaw a niwl yn y bore dyma hi yn newid i fod yn ddiwrnod heulog hyfryd gyda gwyntoedd ysgafn a rhyw naws o wanwyn. ‘Roedd y rhan gyntaf yn dilyn Llwybr yr Arfordir i’r de ac yn cynnwys dringfeydd egniol i fyny ac i lawr stepiau llithrig ger cilfachau creigiog Porth Simdde, Porth Meudwy a Porth Cloch cyn o’r diwedd cyrraedd pentir Pen y Cil, lle arbennig i gael cinio gyda golygfeydd gwych ar draws y swnt ewynnog yn arwain i Ynys Enlli. Yna dyma’r llwybr yn mynd i’r gogledd orllewin dros Fynydd Bychestyn ble mae’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn ymdrechu i ostwng yr eithin ac annogi’r grug  o dan gynllun i adfer ffyrdd traddodiadol o dir pori i wartheg. Gan fynd i’r tir dyma’r criw yn mwynhau paned yn caffi Ty Newydd oedd ar agor drwy garedigrwydd y perchennog, cyn dychwelyd i’r arfordir ger Cwrt a’r llwybr yn ol i Aberdaron. Taith gymhedrol o 7 milltir dros 5.5 awr oedd hon ond ddim yn hawdd achos fod yna ddringo cynyddol o 1200 troedfedd.  ‘Roedd y tywydd braf anghyfarwydd i’r tymor yn fonws ac yn ein galluogi i weld golygfeydd gwych o’r arfordir drwy gydol y dydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 4 Rhagfyr 2016. Maetwrog i Lyn Trawsfynydd. Parhau wnaeth  y tywydd cerdded ardderchog hefo diwrnod clir a heulog gyda gwynt ffres o’r dwyrain. ‘Roedd yna ddwy daith o Faentwrog i Lyn Trawsfynydd. Hugh Evans arweiniodd 4 aelod ar daith gradd A o 10 milltir a Dafydd Williams a feddiannodd y merched ac arwain 11 ar daith haws  gradd B, oddeutu 7 milltir. Dringo’n serth wnaeth y ddwy adran o’r safle hidro-electrig o ddechrau’r 20ed ganrif, drwy goedwig pinwydden cymysg Coed Felinrhyd ac ar ol 700 troedfedd, cyrraedd rhostir agored hefo adfeilion corlanau a thai fferm. Yna dyma’r adran gradd B yn amlinellu i’r dwyrain ar hyd” leete” a chyrraedd argae Llyn Trawsfynydd tra fod i’r criw gradd A fynd ymlaen yn frysiog i’r de ar gylch mwy eang a chyrraedd 1300 troedfedd ar hyd Cwm Moch a disgyn i’r llwybr beicio newydd ar lannau Llyn Trawsfynydd. Cafwydd le perffaith i ginio gyda seddi cerrig a bwrdd gyda golygfa eithriadol o’r llyn a’r copfeydd yn wyn o eira yn y cefndir. Dyma’r ddau griw yn ymuno ar ol croesi’r argae ac yna croesi’r pibellau anferth a dilyn glan dde yr Afon Prysor drwy geunant coediog hyfryd a’r gwarchodfa natur cenedlaethol Ceunant Llenyrch. O’r llwybr ‘roedd yna olygfa dda o’r Rhaeadr Ddu ysblennydd, a mynd heibio golygfa ryfedd o goed gwyn ysgerbwdol. Mae y rhain yn ran bwysig o hen goedwigoedd derw iwerydd newydd eu prynu i’w amddiffyn gan Coed Cadw. Yna yn fuan dyma’r llwybr yn ymuno a ffordd darmac gul yn arwain i lawr yn ol i’r powerdy i gwblhau taith 5 awr foddhaol hefo mince pies gan Roy Milnes. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 24 Dachwedd 2016. Porth Oer. Ar ddiwrnod ysblennydd a heulog ian Spencer arwainiodd 21 aelod ar daith ddymunol yn ol ac ymlaen  o Porth Oer i Aberdaron. Dilynodd y daith oddeutu 6.4 milltir gymysgfa hawdd o lwybrau caeau, traciau a lonydd cefn gwlad yn cynnwys rhan o Lwybr yr Arfordir i lawr i Afon Daron a chyrraedd Aberdaron erbyn amser cinio. Cafwyd fwyd gan eistedd ar y seddau uwchben y mor glas yn y bae, y clogwyni erydlyd a’r ddwy Ynys Gwylanod. Ar ol ymlwybro drwy’r pentref a rhoddi amser i’r merched ymweld a siop yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol, Porth y Swnt dyma’r ffordd yn dringo’n serth i gyfeiriad Uwchmynydd ac yna i’r gogledd ac yn ol heibio Mynydd Carreg i’r man cychwyn. Taith bleserus iawn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 20 Dachwedd 2016. Mynydd Gorllwyn. Dychwelodd Tecwyn Williams ar ol salwch i arwain 12 aelod ar daith ardderchog o amgylch y llwyfandir uwchben Tremadog, ardal arbennig o glogwyni a chreigiau gyda arwyddion amlwg o boblogaith oherwydd y llu o gytiau gwyddelig, meini a murddunod. ‘Roedd y llwybr yn arwain o Sgwar Tremadog yn serth drwy’r coed heibio Tan yr Allt, y “Grisiau Rhufeinig” a’r graig ddringo boblogaidd yn rhoddi y cyfle cyntaf y dydd o’r ologfeydd braf tuag at Porthmadog ac ar draws aber y Glaslyn 600 troedfedd islaw. Yna ymlaen i’r gogledd ar draws tir agored gan ddringo ar lwybr cymharol serth i’r lle uchaf ar y daith sef Mynydd Gorllwyn bron yn 1300 troedfedd: oddi yno panorama ysblennydd o’r wlad oddi cwmpas gyda ambell gip o’r eira ar gopfeydd uchaf Eryri. Cafwyd ginio mewn man cysgodol wrth droed Bwlch y Rhiwiau cyn amgylchu y llwyfandir agored i’r gorllewin i gyfeiriad Y Felin Lechi ac i’r de heibio Craig y Gesail.Yna aros i edrych ar grwp anarferol o garneddau ac i orffen i lawr yn serth heibio Cwm Mawr. Taith gofiadwy 7.5 milltir wedi ei mwyhau ar ddiwrnod arbennig o hydref hefo haul a gwyntoedd ysgafn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 10 Dachwedd 2016. Garnfadryn. Ar ddiwrnod heulog ond oer dyma 22 aelod yn cyfarfod yn Llaniestyn a chael eu arwain gan Miriam Heald ar daith i fyny ac i lawr Garn Fadryn. R’oedd y llwybr newydd ei lanhau yn dringo’n serth oddeutu 500 troedfedd i’r ffordd yn bentref Garn Fadryn.  Yna dilyn y llwybr cyfarwydd yn mynd i’r gogledd ddwyrain o amgylch y mynydd ac yna igam ogam i fyny ar lwybr  annymunol drwy’r grug a chyrraedd tir gwastad creigiog ac o’r diwedd  heibio’r carneddau i’r copa 1200 troedfedd o uchder. Oddi yno ‘roedd golygfeydd ardderchog ar draws Llyn i bob cyfeiriad. Cafwyd ginio gan gysgodi o’r gwynt ger amddiffynfa un o’r cestyll Cymraeg cyntaf oedd uwchben gweddillion caer oes haearn oddi tano. Yn dilyn disgyn ar lwybrau mwy i’r dwyrain, dyma’r criw yn cael panad a cacenau derbyniol yng nghartref Miriam a Tony ger Llaniestyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 6 Dachwedd 2016.  Llynnau Cregennan o Arthog. ‘Roedd hon yn daith ddymunol iawn o Arthog, sydd rhwng Dolgellau a Morfa Mawdach, i Llynnau Cregennan o dan arwainiad sef Dafydd Williams a Noel Davey. Digwyddodd hyn ar fyr rybudd ddigwyddodd hyn oherwydd anhwylder yr arweinydd gwreiddiol sef Y Cadeirydd oedd wedi cael llaw driniaeth ond ar wella erbyn hyn.  Cychwyn o’r hen stesion Arthog ac mi oedd y llwybr yn dringo’n serth drwy goed ffawydden a coed derw, heibio nifer ffrydlifoedd a rhaeadrau, croesi pont gerrig a man Llys Bradwen oedd yn ol pob son yn bennaeth chwedlonol yn y canol oesau. Yn y fan yma fel ymhobman arall ar y diwrnod r’oedd lliwiau’r hydref yn nodedig. O’r tir agored o gwmpas y llynnoedd. oddeutu 800 troedfedd uwchben y mor, yr oedd golygfeydd ardderchog i lawr ac ar draws Aber Mawddach cyn gystal a grib niwlog Cader idris a Tyrrau Mawr. Ymlaen i’r gogledd-orllewin aeth fwyafrif o’r criw ond mi gymerodd tri y cyfle i ddringo’r Caer oes yr haearn, Pared y Cefn Hir oddeutu 500 troedfedd yn uwch. Pawb yn ail ymuno i gael cinio yn y fynwent yr hen gapel Rehoboth sydd yn enwog gan fod yno garreg goffa i Gwynfor Evans y gwleidydd adnabyddus a’i wraig Rhiannon. ‘Roedd ganddynt  gysylltiad agos a’r ardal ers eu dyddiau caru!  Yna disgyn drwy i Abergwynant drwy ddyffryn coediog cul Gwynant. Oddi yna ‘roedd taith tair milltir ar hyd  rhan neilltuol o Lwybr Mawddach yn dilyn hen reilffordd Dolgellau i Bermo ar ochr glan yr aber. Tra r’oedd glaw ysgafn o dro i dro yn  y bore gyda gwynt ysgafn, dyma’r haul yn sicrhau diweddglo ardderchog i’r diwrnod.  Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 27 Hydref 2016. Afon Ysgethin / Siambrau Claddu. Uchafbwynt y rhaglen dydd iau bob amser i’w mynd ar y tren.  Eleni dyma oddeutu ugain o aelodau yn mynd yn y bore o Bwllheli ar lein y Cambrian i Dalybont a cael eu cyfarch gan arweinydd y daith, Fred Foskett, gyda cymorth Kathleen Marsden. R’ oedd y diwrnod yn gymylog ond yn sych a chynnes hefo ambell i heulwen ar y daith oddeutu 6 milltir, yn arwain drwy goed hyfryd hydrefol o  fawydden ar ochr Afon Ysgethin, gan aros wrth lecyn hardd Pont Fadog cafodd ei adeiladu yn yr 18ed ganrif. Yna ‘roedd y ffordd yn cyfeirio i’r gogledd orllewin heibio Llety Loegr a oedd unwaith yn lety ar ffordd y porthmyn, a’r cromlechau claddu 5000 mlynedd oed hefo to carreg gam sydd yn mynd o dan yr enw Quoit Arthur. Yma ‘roedd golygfeydd niwlog i’w cael dros Fae Ceredigion ac ar hyd Llyn cyn belled ac Ynys Enlli. Gyda caniatad y perchennog presennol dyma gael cinio yng ngerddi mawreddog Plas Cors y Gedol sydd yn dyddio o’r 16eg a chartref hanesyddol y Foniaid. Yna dyma’r daith yn gwneud cylch drwy dir gwladol dymunol a llwybrau coediog gan groesi’r ddreif, filltir o hyd, i’r Plas, ac yn fuan cyrraedd yn ol i Tal-y-Bont. Tra yn disgwyl am y tren 4 o’r gloch dyma’r arweinydd yn talu i’r cerddwyr gael paned yng  Ngwesty Pedwerydd a’r bymtheg- (1957) ger y stesion. (Lle crand iawn). Mi oedd yn daith hapus a hamddenol  mewn ardal hanesyddol gyda golygfeydd ardderchog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 23 Hydref 2016. Ro Wen. Mi wnaeth Y Clwb ei ail ymweliad yr Hydref yma i’r lle hyfryd ond diarth i’r mwyafrif, sef bedol Penamnen gan gychwyn unwaith eto o stesion Dolwyddelan. Y tro hwn Judith Thomas arweiniodd 14 cerddwr i fyny Cwm Penamnen ar lwybr sydd yn rhan o Sarn Helen Ffordd Rhufeinig gan fynd heibio adfeilion unig Tai Penamnen sydd yn mynd yn ol i’r 15ed ganrif a oedd yn gartref i Maredudd ab ieuan, sylfaenydd o’r linach grymus y Wynniad o Wydr. Yna dyma’r criw yn dringo llwybr coediog serth ac yn mynd i’r chwith ar ol cyrraedd y grib oedd yn arwain i gopa Ro Wen oddeutu 2000 troedfedd, a chael cinio. R’ oedd yn gymylog ac oer yn aml yn y gwynt ond mi arhosodd yn sych gyda golygfeydd da. R’ oedd  y disgyniad ar lwybr digon rhwydd arwahan i orfod fynd o gwmpas nant yn y coed. Mi fwynhaodd pawb y daith braf 7.5 milltir dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 13 Hydref 2016. Llanberis. Tecwyn Williams arwainiodd 10 aelod ar daith braf hefo tywydd heulog yn cyffiniau Llanberis. Yn anffodus mi oedd criw Pwllheli ddim yn bresennol wrth iddynt fynd i faes parcio arall a mwynhasant daith arall gan arwain eu hunain o amgylch Llyn Padarn. Cychwynnnodd y daith swyddogol yn Parc Gwledig Padarn gan ddilyn llwybrau newydd drwy y coed cymuned dymunol Coed Doctor gan fynd heibio ymyl pentref Llanberis ac yna mynd o dan pont Rheilffordd y Wyddfa i droed  gafaelgar Rhaeadr Ceunant. Mi oedd hwn yn fan cyfareddol i gael cinio, glyn creigiog tyfn yn agos i’r cenllif yn rhuthro o’r rhaeadr wedi ei amgau gan glogwyni gwyrdd o fwsog, cen y coed a rhedyn. Yna dyma’r criw yn gwahanu yn ddwy adran: un yn disgyn i Castell Dolbadarn a’r llall yn dringo yn uwch i gael golwg gwell ar y rhaeadr, a cherdded ar draws tir agored gyda golygfeydd o Foel Eilio ac i gyfeiriad Y Wyddfa, a disgyn ar lwybr coediog i Westy Victoria. Yna y ddwy adran yn ymuno i gael te bach yn caffi’r Mynydd Trydan. Taith ardderchog oddeutu 4-6 milltir yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 9 Hydref 2016. Gogledd y Rhinogydd. Roy Milner arwainiodd 9 aelod ar daith ardderchog yn gogledd y Rhinogydd mewn tywydd braf gyda cyfnodau clir heulog ac awel finiog. Hon oedd yr ail ymweliad Y Clwb y flwyddyn yma i’r rhan rhyfeddol yma o Eryri. Cychwynnodd y daith fel ac o’r blaen i’r gorllewin o Drawsfynydd gan ddringo yn serth i’r manau ucha o Foel Penolau ac Ysgafarnogod o gwmpas 2000 troedfedd. Yna dyma’r daith yn troi i’r de i lawr y grib gan fynd heibio sawl brig amlwg di enw a “thyrrau cerrrig” ar y map O.S. gan gyrraedd y man deheuol sef Clip. Mi oedd yr awyr yn glir twy’r dydd yn caniatau golygfeydd ysblennydd pell i bob cyfeiriad. Cafwyd ginio mewn man creigiog cysgodol yn agos i Llyn Corn-ystwc ac yn ein caniatau i  edrych i lawr hyd at Pen Llyn cyn belled a Ynys Enlli. Gwnaethpwyd y disgyniad heibio Bwlch Gwylim ac hefo anhawster ar draws y gorsydd enwog Cwm Crawcwellt. Cafodd un aelod bryfyn ar ei groen yn y tir marwol yma ond cafodd ei drin yn fuan ac yn effeithiol. Mi oedd y criw yn falch o gyrraedd y ceir ar ol taith egniol ond ardderchog o saith milltir mewn chwe awr. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd iau 29 Fedi 2016. Betws-y-Coed, Ceunant Conwy.  Ar ddiwrnod hydrefol braf Dafydd Williams arweiniodd 21 o rodwyr ar daith chwe milltir bleserus yn Betws y Coed o dan yr enw Ceunant Conwy, Fairy Glen, Rhaeadr Conwy a Rhaeadr Machno. Cychwynnodd y daith o rosfan ar draffordd yr A470 ger y Bont Waterloo adnabyddus. Mae y plac ar y bont yn dweud mae yr enwog Thomas Telford oedd y periannydd a William Hazledine (1763 – 1840) oedd yn gyfrifol am y gwaith haearn ac ei wyneb ef sydd ar y plac. O’r bont mynd i gyfeiriad Betws ond yn fuan mynd tu cefn i’r gwesty Waterloo ac ar ol cerdded byr drwy’r coed dod allan ar yr hen A5 ac mewn hanner milltir cyrraedd a chroesi Beaver Bridge ar y A470. Yna yn syth i’r dde, wedi ei arwyddo Fairy Glen, eto ar yr hen A5 ble deallwn fod gan ein aelod yn y Cynulliad, gartref. Ar ol milltir cyrraedd yr A5 bresennol a Chaffi Ceunant Conwy a mynd i’r dde hyd nes dod i Felin Wlan Penmachno oedd o bob golwg, wedi cau. Yna i’r dde  a dilyn ffordd darmac i lawr y rhiw ac, yn ymyl ein man cinio, ymweld a Rhaeadr Machno, y gorau o’r sawl rhaeadr ar y daith. Ar ol  ymuno eto  a’r A470 yn fyr o Beaver Bridge dyma ail ymuno a’r ffordd allanol ac yn ol i’r rosfan. Yna fe aeth mwyafrif o’r cerddwyr  i Gaffi Y Royal Oak am luniaeth. Diwrnod dymunol mewn ardal anghyfarwydd o Betws y Coed i fwyafrif o’r cerddwyr. Dafydd Williams.    

Ar ddiwrnod hydrefol braf Dafydd Williams arweiniodd 21 o rodwyr ar daith chwe milltir bleserus yn Betws y Coed o dan yr enw Ceunant Conwy, Fairy Glen, Rhaeadr Conwy a Rhaeadr Machno. Cychwynnodd y daith o rosfan ar draffordd yr A470 ger y Bont Waterloo adnabyddus. Mae y plac ar y bont yn dweud mae yr enwog Thomas Telford oedd y periannydd a William Hazledine (1763 – 1840) oedd yn gyfrifol am y gwaith haearn ac ei wyneb ef sydd ar y plac. O’r bont mynd i gyfeiriad Betws ond yn fuan mynd tu cefn i’r gwesty Waterloo ac ar ol cerdded byr drwy’r coed dod allan ar yr hen A5 ac mewn hanner milltir cyrraedd a chroesi Beaver Bridge ar y A470. Yna yn syth i’r dde, wedi ei arwyddo Fairy Glen, eto ar yr hen A5 ble deallwn fod gan ein aelod yn y Cynulliad, gartref. Ar ol milltir cyrraedd yr A5 bresennol a Chaffi Ceunant Conwy a mynd i’r dde hyd nes dod i Felin Wlan Penmachno oedd o bob golwg, wedi cau. Yna i’r dde  a dilyn ffordd darmac i lawr y rhiw ac, yn ymyl ein man cinio, ymweld a Rhaeadr Machno, y gorau o’r sawl rhaeadr ar y daith. Ar ol  ymuno eto  a’r A470 yn fyr o Beaver Bridge dyma ail ymuno a’r ffordd allanol ac yn ol i’r rosfan. Yna fe aeth mwyafrif o’r cerddwyr  i Gaffi Y Royal Oak am luniaeth. Diwrnod dymunol mewn ardal anghyfarwydd o Betws y Coed i fwyafrif o’r cerddwyr. Dafydd Williams.    

Dydd Sul 25 Fedi 2016. Moel Penamnen. Ar ddiwrnod clir ond yn sobr o wyntog, Dafydd Williams arweinodd naw o gerddwyr ar daith wych ar fynyddoedd Penamnen o 9.2 filltir gyda dringo cynyddol o 2500 troedfedd. Cychwynodd y daith yn stesion Dolwyddelan gan ddilyn llwybrau coedwigaeth ar yr ochr dwyreiniol o Gwm Penamnen ac yna dringo yn serth i’r grib o le cafwyd golygfeydd ardderchog or rhosydd a’r mynyddoedd o’r Arenigs i Manod yn cynnwys y Moelwyns. Mi oedd y gwynt cryf i’n gwynebau yn ei gwneud yn anodd ond yn fywiog ar y grib gorslyd. Wedi mynd heibio Foel Fras dyma ddringo i gopa Moel Penamnen ei hun ac wrth gael cinio yn ei gysgod  cawsom olygfeydd godidog i gyfeiriad Moel Siabod, Tryfan a’r copau o amgylch Y Wyddfa. Yna dilyn y grib i’r gogledd gan osgoi cawodydd gwyntog a’r enfys. Mi oedd y llwybr i lawr ochr gorllewinol Cwm Penamnen wedi ei gau oherwydd gwaith coedwigaidd ac mi oedd rhaid disgyn ar lwybr ymhellach i’r gorllewin oedd yn dilyn Cwm Lledr  ysblennydd yn ol i’r maes parcio ar ol 5 awr dymunol yn y mynyddoedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 15 Fedi 2016. Capel Curig. Ar ddiwrnod cynnes, heulog, hydrefol a  bendigedig, Mary Evans a Rhian Roberts arweinodd criw o 24 cerddwr ar daith mewn cylch o amgylch Capel Curig gan gychwyn o ‘r maes parcio ar bwys siop Joe Brown yn gwerthu tacle cerdded a dringo drud, Gan fynd i’r dde o’r maes parcio am rhyw ganllath cyn troi i’r chwith drwy’r giat ar yr hen A5 ac ar hyd  trac da am filltir cyn cyrraedd yr A4086.  i’r chwith am gyfnod byr ac yna i’r dde heibio talcen Plas y Brenin, ar draws pont yr afon ac yna i’r chwith ar hyd y llwybr sydd yn rhedeg ochr yn ochr a’r afon Llugwy. Cyn cyrraedd a chroesi’r bont hanesyddol, Pont Cyfyng, eto ar yr hen A5, dyma gael cinio yn gysgod derbynniol y coed ar ochr yr afon. Yna croesi yr A5 bresennol i  Faes Parcio Bryn Glo a dros gamfa ac am i fyny am dri chwarter milltir ar lwybr derbynniol drwy y coed cyn ymuno a  llwybr arall a mynd i’r chwith. O’r fan honno mi oedd yn gerdded rhwydd am filltir cyn cyrraedd yr Eglwys ger y man cychwyn ac, yn anochel ymweld a’r caffi gyda pawb yn cael te wedi ei dalu amdano gan Tecwyn fel arwydd o ddiolchgarwch am yr caredigrwydd a dderbyniodd gan yr aelodau yn ystod ei waeledd diweddar. Dafydd Williams.  (Cyf-DHW).

Dydd Sul Medi 9ed 2016. Dyffryn Ogwen. Mi oedd yna ddwy daith yn y cwm hardd Dyffryn Ogwen ar ddiwrnod braf ond gwyntog: taith gradd “A” oddeutu 9 milltir linellol hefo dringo cynyddol o 4700 troedfedd a Noel Davey yn arwain, a thaith gron oddeutu 8 milltir mewn hyd gradd “B” yn cael ei arwain gan Dafydd Williams. Cychwynodd 14 aelod gyda’i gilydd o Fethesda gan ddringo drwy Goedwig Braichmelyn a chyrraedd rhostir agored Cefn yr Orsedd. Yna’r ddau griw yn gwahanu ger y gorlan ar ol 2.6 milltir. Y criw “B” yn disgyn ar lwybr da i Ddyffryn Ogwen, croesi’r A5 a’r afon, a dychwelyd ar hyd y llwybr gogleddol Lon Las Ogwen ar ochr gorllewinol i’r dyffryn ac heibio chwarel enfawr Y Penrhyn. i fyny aeth y criw “A” a chyrraedd crib godidog Carnedd Dafydd ar ol dringo llafurus o 2000 troedfedd dros 2 filltir. O’r diwedd cyrhaeddwyd y carn isaf a chael cysgod derbyniol i gael cinio hwyr ac osgoi y gwaethaf o’r gwynt cryf o dros 60 milltir yr awr. Dyma rhai yn crafangu i’r carn cyfagos cyn i bawb fynd ymlaen yn ofalus ar hyd y grib i gopa Pen yr Ole Wen gan fwynhau ambell gipolwg o’r golygfeydd godidog yn ystod ambell eiliad gostegog. Yna’r llwybr yn disgyn i le tipyn yn dawelach, Cwm Lloer, gan fynd ar hyd llwybr a meini mawr i’r gogledd o Llyn Ogwen a chyrraedd idwal Cottage a chludiant yn ol i Fethesda. R’oedd pawb yn y parti wedi goresgu sialens y diwrnod egniol hwn yn y mynydoedd. Noel Davey.  (Cyf-DHW).

Dydd iau Medi 1 2016 Ynys Llanddwyn, Goedwig Niwbwrch a'i draeth. Jean Norton a Marian Hopkin arwainodd 19 o aelodau ac un ffrind i aelod, ar daith bleserus 8.3 milltir drwy Goedwig Niwbwrch i Ynys Llanddwyn. Ar y cyfan mi oedd yn heulog a chynnes arwahan i wynt o’r de orllewin ar yr arfordir. R’oedd y cerdded yn rhwydd ar y llwybrau llydan ac amlwg  ar draws ardal ganolog o’r goedwig a digon o siawns i roddi y byd yn ei le! Mi oedd y llanw ar drai yn caniatau i ni groesi yn ddiogel  y cildir i’r ynys. Ar ol cinio yn ymyl bythynnod y peilot ar amgueddfa, mi oedd amser i ymweld a llefydd eraill o ddiddordeb yn y lle arbennig o hardd yma yn cynnwys adfeilion capel a chroesau a chysylltiadau i chwedl Santes Dwynwen, y ddau oleudy a’r creigiau anarferol wedi eu creu drwy  symudiadau folcanig o dan y mor. Ar ol edmygu y golygfeydd hardd ar draws y bae i’r Eifl ac Eryri , dyma ddychwelyd drwy’r goedwig ar lwybr arall ar ol mwynhau taith gyfarwydd a phoblogaidd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Awst 28 2016. Moel Druman. 6 aelod yn cael eu arwain gan Hugh Evans yn mwynhau Dydd Sul Gwyl y Banc ardderchog yn cerdded bedol y “Blaenau”, un o’r teithiau cribau digyfarwydd yn Eryri. Taith oedd hon yn agos i un ar ddeg milltir a tua 2565 troedfedd o ddringo yn cychwyn ar ben draw ffordd wledig ger Pont Rhufeinig, yn dringo at Mynydd Dyrnogydd uwch ben bwlch Crimea (Bwlch y Gorddinan). Yn y dechrau r’ oedd niwl yn gwahardd gweld ar Allt Fawr (tua 2300 troedfedd) ac ar lan y llyn a enw hynod, Llyn Conglog. Yna ar Moel Druman dyma’r haul allan yn ein galluogi i gael golygfeydd gwych ar draws Eryri am weddill y diwrnod, i’r de at y Moelwyns a Cnicht, gyda’r Glaslyn oddi draw, i’r gogledd i Lliwedd, Yr Wyddfa a Siabod, a i lawer o gopfeydd eraill o gyfeiriad anghyfarwydd. Y daith yn mynd ymlaen dros Ysgafell Wen ac yna disgyn yn ol i Dyffryn Lledr ac yn cwblhau diwrnod egniol ac mwynhaol iawn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 18 Awst 2016. Garn Boduan. Miriam Heald arwainodd 20 cerddwr ar daith bleserus ac hamddenol i fyny ac o gwmpas Garn Boduan ar yr ochr ddeheuol gyda oddeutu 3 milltir ac 700 troedfedd o ddringo. Oherwydd fod gwaith coedwigol dros dro ar y llwybr gwreiddiol mi oedd rhaid newid y man cychwyn o faes parcio  Stryd y Plas yn Nefyn i’r Bryn Cynan ac  yn golygu teithiau diflas i osgoi peryglon yr A497 ond  yn rhoddi esgus i’r parti dorri eu syched ar ddiwedd y daith! Mi oedd y tywydd yn gynnes, yn ddi haul, ond yn iawn i gerdded gyda gologfeydd braf ar draws y wlad gerllaw. Cael cinio ar y copa sef  y  Caer oes yr haearn. Mi oedd yn braf i sylwi fod y fferm solar newydd islaw, o’r golwg diolch i dyfiant yr haf. R’oedd llethrau’r Garn yn weddfreiddiol o liwiau, y coniffers gwyrdd, eithin melyn, grug piws a flachau coch ysblennydd o ffrwyth y gerddinen. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 14 Awst 2016. Pennal i Aberdyfi.  Yn ffres ar ol dringo’r Wyddfa dydd iau diwethaf Dafydd Williams arwainodd 9 cerddwr ar daith ardderchog 12.2 milltir linellol o Pennal i Aberdyfi hefo dringo cynyddol o dros 3000 troedfedd. R’oedd y tywydd yn gymylog ond yn sych hefo awel ysgafn ac yn ardderchog ar gyfer cerdded ac mi oedd  yr awyr yn glir. Y llwybr yn dringo yn serth drwy dir coediog cyn o’r diwedd cyrraedd copa Tarren Hendre mewn pryd i gael cinio. Oddi yno mi ddilynodd y parti grib lydan braf hefo gologfeydd ardderchog ar draws Dyffryn Dyfi i’r gogledd i Cader idris ac i’r de a’r gorllewin ar draws Bae Ceredigion i Benfro a Llyn; i lawr i Cwm Maethlon (Happy Valley) a  dringo 500 troedfedd, yr hoelen yn yr arch, cyn disgyn i Aberdyfi a chael llymed yn y dafarn tra oedd rhai anffodus yn gorfod ol y ceir ar gyfer y siwrna gartref! Diwrnod hir  ond gwobrwyol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 11 Awst 2016. Y Wyddfa. Mi ddathlodd y Clwb ben blwydd Dafydd Williams yn 80 oed trwy ddringo’r Wyddfa. 26 yn cynnwys aelodau, ffrindiau a theulu yn ymgasglu yn maes parcio y Snowdon Ranger ac 21 yn cyrraedd y copa, da iawn yn wir gan i’r tywydd fod yn drychinebus. Llongyfarchiadau  arbennig i’r rhai roddodd eu cynnig cyntaf ar Y Wyddfa neu heb ei dringo ers rhai blynyddoedd. Mae  llwybr y Ranger yn dringo oddeutu 3000 troedfedd dros bellter o 4.3 milltir ac er nad yw mor anodd a rhai o’r llwybrau eraill, r’ oedd y dringo yn galed yn y niwl trwchus a’r glaw di ildio, fel i chi fod yn dringo drwy dwnnel du gwlyb a llithrig. Ar ol tynnu llyniau yn frysiog ar y copa peryglus a oedd trwy lwc yn wag am ychydig eiliadau, dyma’r parti yn gwasgu i mewn i’r caffi orlawn a chael cinio cyn cychwyn ar y daith hir i lawr. Fel i ni nesau at y diwedd dyma’r glaw yn peidio ac o’r diwedd gologfeydd hardd o ddyffryn Gwyrfai a Llyn Cwellyn yn agor o’n blaenau. Mi oedd yn ollyngdod i gyrraedd y maes parcio ar ol 7 awr anodd ond mi oedd yna deimlad ein bod wedi cyflawni rhywbeth yn ngolau y tywydd garw. Mi oedd Dafydd yn arwain yn ei ffordd  arferol, hyderus a sionc ac mi oedd adfeiriad yn sydyn wrth i bawb fynd i gartref Catherine a Dafydd ble r’oedd sawl aelod arall o’r Clwb wedi ymuno a ni. Penblwydd Hapus Dafydd! Cawn edrych ymlaen n’awr i ail wneud y gamp pan iti fod yn 90. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd iau 4ydd Awst 2016. Cylchdaeth Y Fron.  Taith dydd iau dda eto, y tro hwn yn cael ei mwynhau gan 16 cerddwr ac eu harwain gan ian a Kath Spencer.  Y daith yn cychwyn o’r pentref uchel,  Y Fron ac yn cylchredeg ar draws tir diddorol yn cynnwys rhosydd, bryniau bychan, tai ar wasgar a gweddillion chwareli llechi sydd yn nodweddol o’r ardal. Ar ol cychwyn yn y niwl gwlyb dyma’r tywydd yn gwella a’r glaw yn cadw draw. Mi oedd y man cinio yn rhoddi cyfle i weld golygfeydd o’r haul ar Gastell Caernarfon, Y Fenai a tu hwnt i Niwbwrch. Noel Davey.  (Cyf-DHW).