Awst 14 – Gorff 15
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-EE)" wedi cael eu cyfieithu gan Enid Evans.
Dydd Iau 23 Gorffennaf 2015. O gwmpas Mynydd Carnguwch . Arweiniodd Ian Spencer 20 o gerddwyr ar ddiwrnod braf, o Faes Parcio Mount Pleasant, ar ben ffordd Nant Gwrtheyrn. Roedden nhw yn cerdded wrth ochr yr Eifl a Thre'r Ceri cyn croesi'r B4417 i'r trac o amgylch Mynydd Carnguwch. Roedd golygfeydd godidog o ddau arfordir y Penrhyn; o’r Eifl hyd Garn Fadryn ar yr arfordir Gogleddol, ac o Abersoch i Gricieth ac ymlaen ar hyd Bae Ceredigion i’r de. Daeth y daith yn ôl i Mount Pleasant ar ôl ail-groesi a defnyddio'r llwybr cyhoeddus trwy ardd breifat yn Llithfaen o eiddo perchenog dymunol iawn. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 19 Gorffenaf 2015. Moelwyn. Yn hynod abl a brwdfrydig arweiniodd Hugh Evans chwech o gerddwyr ar daith ysblennydd ar draws y Moelwyn,gan ddringo tua 3000 troedfedd dros 9 milltir. Dechreuodd y llwybr yng Nghroesor, yn esgyn yn serth a phendant drwy’r rhedyn. Roedd yr hawl tramwy yn cael ei rwystro gan ffensys, ond yn fuan cyrhaeddodd y llwybr y grib ac arwain hyd at chwarel Croesor. Ar ôl aros am banad yn adfeilion y chwarel, aeth y grwp yn ei flaen i Foel-yr-Hydd cyn dringo copa uchaf Moelwyn Mawr. Doeth oedd osgoi'r llwybr serth dros Graigysgafn, cyn dilyn y llwybr is uwchben Llyn Stwlan, ac yn y pen draw cyrraedd Moelwyn Bach. Er bod cymylau cyson yn amharu ar yr olygfa o’r Moelwyn Mawr,roedd amodau gwell ar y copaon is yn rhoi golygfeydd godidog ar draws Eryri ac i lawr i Blaenau, Aber y Ddwyryd a Dwyfor. Dychwelodd y criw mewn hwyliau da i lawr yr ysgwydd orllewinol hir ond hawdd, i'r wobr o de yng Nghaffi Croesor. Noel Davey. (Cyf EE)
Dydd Iau 9 Gorffennaf 2015. Rhiw. Ar ddiwrnod gogoneddus o heulog arweiniodd David a Lis Williams 15 aelod ar daith gerdded hyfryd o Rhiw i lawr i'r arfordir i Drwyn Talfarch, gan ddefnyddio Llwybr Arfrdir Cymru Gyfan lle roedd hynny yn addas.Roedd y golygfeydd i’r ddau gyfeiriad, allan i'r môr ac o Fryniau Rhinog yn y pellteryn odidog. Mwynhawyd picnic amser cinio ar bentir creigiog ar ddiwrnod pan oedd Pen Llyn i’w weld ar ei orau. I orffen diwrnod perffaith mwynhawyd te yng ngardd hyfryd yr arweinwyr . Ian Spencer. (Cyf EE)
Sul Gorffennaf 5ed 2015. Gallt y Wenallt, Lliwedd. Arweiniodd Noel Davey (o enwogrwydd C2C ) yn ddiymdrech, yn amyneddgar ac yn hyderus grŵp o naw i fyny o Fethania i Allt y Wenallt ac yna i Y Lliwedd (Dwyrain a Gorllewin). Yn fuan ar ôl y rhaeadrau ar Lwybr Watkin roeddem yn troi i’r gogledd-ddwyrain, gan ddringo'n raddol nes i ni gyrraedd ein man coffi yng nghysgod adfail ym mlaen Cwm Merch. Yna dechreuodd y dringo ... a'r niwl a glaw. Awr yn ddiweddarach wedi trechu Gallt Y Wenallt fe gyrhaeddom ein stop cinio penodedig yng nghysgod craig fawr. Yna dechreuodd y gwaith anodd. Ond ar ôl 45 munud oedd roeddem wedi cyrraedd y pwynt uchaf ar Y Lliwedd yn 2888troedfedd a wedyn gwneud y disgyniad serth a chreigiog iawn i ailymuno â llwybr Watkin ym Mwlch Ciliau. Peidiodd y glaw heb i ni sylweddoli a dyna lle roeddem yn yfed cwpanaid o de a siocled poeth, ac yn cnoi brownies a bara brith yng Nghafi Gwynant. Er gwaethaf y cymylau a’r glaw cawsom aml gipolwg ae rai golygfeydd trawiadol iawn o amgylch yr Wyddfa. Taith gerdded ardderchog. Hugh Evans. (Cyf EE)
Dydd Iau 25ain Mehefin 2015. Mynydd Mawr i Porth Oer. Arweiniwyd y daith gan Megan Mentzoni o Fynydd Mawr gan ddefnyddio y maes parcio mwyaf gorllewinol mae’n debyg ym Mhen Llŷn.Roedden nhw yn dilyn Llwybr yr Arfordir gan ddringo ac yna disgyn gyda golygfeydd mynyddig ac arfordirol hynod drawiadol sydd hyd arfordir gogleddol y penrhyn. Roedd y tywydd yn ar ei orau wrth iddynt gyrraedd Porth Oer a'i dywod unigryw. Diolchwyd i Megan Mentzoni, arweinydd profiadol a galluog sy'n adnabod y penrhyn yn dda gan y criw o 15. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 21 Mehefin 2015. Carnedd y Cribau. Dan arweiniad Catrin Williams cychwynnodd 13 o gerddwyr trwy Fferm Coed Mawr ym Mlaenau Dolwyddelan. Fe wnaethon nhw ddringo i fyny llwybr creigiog a chorsiog i Fwlch y Rhediad gan weld golygfeydd gwych o Eryri a Llyn Gwynant islaw. Aethant wedyn i fyny at y grib oedd yn eu harwain i gopa Carnedd y Cribau. Ar ôl eu cinio picnic, mewn heulwen braf daethant wedyn i lawr llethr gwelltog at lan Llyn Diwaunydd. Wedi cael egwyl fer ymlaen â’r cerddwyr ar lwybr coedwig a aeth a hwy y ddwy filltir yn ôl at eu ceir. Arweiniwyd y daith fedrus iawn ar gyflymder rhesymol, braf gan Catrin a diolchwyd yn gynnes iddi gan bawb. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 11 Mehefin 2015. O gwmpas Clynnogfawr.
Dydd Sul 7 Mehefin 2015. Y Garn. Aeth Judith Thomas a 6 o gerddwyr yn fedrus ar daith ardderchog mewn tywydd braf i fyny Y Garn. Dechreuodd y llwybr 9 milltir o hyd o Lyn Ogwen, gan amgylchynu’r llyn, gan fynd i Gegin Diafol a’r ardd madarch gyfrinachol, cyn gyrraedd y brig ei hun sydd yn 947m o uchder. Diwrnod hynod bleserus. Noel. (Cyf EE)
Dydd Iau Mai 28, 2015 Beddgelert. Arweiniodd Rhian Watkins 17 o aelodau ar daith o Feddgelert ar hyd y llwybr at Lyn Dinas. Wedyn roedden nhw yn dringo i fyny at Fwlch y Sygyn ac ar ôl cinio picnic i lawr llwybr Cwm Bychan. Oddi yno aethant yn ol i Feddgelert ar hyd Llwybr y Pysgotwr. Roedd yr arweinydd wedi paratoi, te, coffi a digon o gacennau yn y ei gardd hyfryd. Cytunwyd bod y te a’r cacenau yn ychwanegu at y daith gerdded hyfryd. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul Mai 24, 2015 Y Fron. Arweiniodd Kath Spencer 10 daith gylchol o ddeng milltir o Y Fron ar ddiwrnod o dywydd da. Roedd y daith dros y rhostir yn cynnwys dringo Moel Tryfan, Moel Smytho ac yn olaf i ben Moel y Cilgwyn. Roedd y criw o 10 aelod wedi mwynhau’r daith yn fawr iawn a chafodd Kath ei llongyfarch ar ei sgiliau arwain. Ian Spencer. (Cyf EE)
Iau 14 Mai 2015. Moelfre. Dan arweiniad Dafydd Williams aeth 15 aelod ar daith fer, hyfryd o Foelfre, Ynys Môn. Roedden nhw yn dilyn y Llwybr yr Arfordir i'r Gogledd gan fynd heibio i'r cwt Bad Achub Newydd, y gofeb i'r enwog gocsyn Richard Evans a safle llongddrylliad y Royal Charter. Yn fuan trowyd i mewn i’r tir nes dod i safle hynafiaethol Din Lligwy a'r capel gerllaw. I orffen dychwelyd i Moelfre gan ddiolch i Dafydd am dro diddorol iawn. (Cyf EE)
Dydd Sul 10 Mai 2015. Cerrig Cochion Circular- Yr Arddu - Foel Goch. Aeth Hugh Evans â 7 o gerddwyr dan arweiniad medrus ar daith ardderchog o dros 10 milltir i'r bryniau i'r dwyrain o Bethania. Dringwyd y 2000 troedfedd heibio Llyn Edno i fyny i Yr Arddu a Foel Goch mewn tywydd eithaf llaith a niwlog, ond roedd amodau sychach a brafiach i ddod i lawr dros Afon Cwm Edno i Lyn Gwynant, gan roi ambell gip o'r golygfeydd ysblennydd. Roedd y ffordd yn ôl i'r caffi ac at y ceir ar hyd llwybr coediog hyfryd gyda glan ogleddol y llyn. Diwrnod egnïol ond hynod bleserus yn y mynyddoedd. Noel Davey. (Cyf EE)
Dydd Iau 30 Ebrill 2015. Borth y Gest. Arweiniodd Noel Davey griw o 26 o gerddwyr ar daith hyfryd o Borth y Gest. Roedd blodau’r gwanwyn yn gwneud arddangosfa hardd ar hyd y daith.Roedd y golygfeydd o'r arfordir a hefyd tuag at Dremadog yn eithriadol. Aeth y daith â’r cerddwyr heibio'r gofeb i Dafydd y Garreg Wen. Talwyd diolch arbennig i’r arweinydd yn enwedig gan iddo sefyll yn y bwlch ar y funud olaf. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 26 Ebrill 2015. Arenig Fawr. Dan arweiniad Tecwyn Williams aeth deg o gerddwyr i fyny Arenig Fawr ar ddiwrnod sych a heulog ar y cyfan. Mwynhawyd y daith gerdded yn fawr gan bawb, oedd yn ddiolchgar bod yr arweinydd yn dringo i fyny'r mynydd ar gyflymder rhesymol. Mae'r golygfeydd clir o'r copa yn werth yr ymdrech. Ian Spencer. (Cyf EE)
17eg - 24ain Ebrill 2015. Monk Coniston. Roedd saith aelod ar hugain o'r clwb wedi mwynhau eu gwyliau blynyddol ym Mhlasty Gwyliau Conistonwater. Roeddent bron yn anhygoel o lwcus yn y tywydd gyda 6 diwrnod o heulwen di-dor. Roedd tair lefel o deithiau cerdded yn cael eu trefnu bob dydd gydag arweinwyr "gwirfoddol". Roedd ganddynt un diwrnod yn rhydd i archwilio Ardal y Llynnoedd. Ar y diwrnod olaf dringodd y grwp A "Old Man of Coniston”. Trefnwyd cwisiau ac adloniant bob nos. Ar y cyfan gwyliau gwych! Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 12 Ebrill 2015. Gradd C: Cwm Nantcol. Arweiniodd y cadeirydd Nic White griw o 7 o gerddwyr, ar ddiwrnod gwyntog a gwlyb, ar daith fero Nantcol. Daethant i lawr at y bont dros yr Afon Artro cyn dilyn y llwybrau clir dros y caeau. Yna dilynodd y daith Ffordd Adudwy am ychydig cyn ailgroesi Afon Artro ac yn ôl i'r dechrau. Er gwaethaf cychwyn mewn amodau gwael mwynhawtd y daith yn fawr gan yr holl gerddwyr. Ian Spencer. (Cyf EE)
Gradd A: Rhinog Fawr. Mewn hwyliau da ac yn bur ddewr arweiniodd y cyn gadeirydd, Noel Davey dri aelod dewr i fyny’r Grisiau Rhufeinig a thua Rhinog Fawr. Ar y ffordd i fyny cawsom ein cysgodi rhag y gwaethaf o'r tywydd gan odre Rhinog Fawr. Ond wrth i ni droi i'r de-orllewin, oddi ar lwybr y Step tuag at Llyn Du, roeddem fwy-fwy ar drugaredd y gwynt a'r glaw. Roeddem o fewn 45 metr i Llyn Du pan fu rhaid i ni droi yn ôl. Roedd y gwynt ar cyfartaledd dros 50 milltir yr awr ac yn hyrddio hyd at 70mya (darlleniadau anemomedr). Cyrhaeddom yn ôl i’r maes parcio yng Nghwm Bychan ychydig yn wlypach nag yr oeddem yn cychwyn, ond yn falch nad oeddem wedi cymryd yr opsiwn hawdd. Gwae y fath syniad! Hugh Evans. (Cyf EE)
Dydd Iau 2 Ebrill 2015. Cylchdaeth Bangor. Dan arweiniad Dafydd Williams ar ddiwrnod sych, braf roedd y daith hon, yn drefol ac ar dir pori. Roedd gan y 13 o gerddwyr yn y grwp olygfeydd ysblennydd o’r Carneddau ac yn syndod o fuan roedden nhw mewn cefn gwlad agored ac yn gadael Dinas Bangor tu ôl. Yn y diwedd daethant i Fangor gan ddringo yn raddol hyd at Ysbyty Gwynedd a’i phasio wedyn ar y ffordd i lawr at Afon Menai ac i Bangor a’r pier hyfryd. Ar y diwedd diolchwyd iDafydd am daith gerdded bleserus iawn arall. Ian Spencer. (Cyf EE)
29ain Mawrth 2015. Betws y Coed i Capel Garmon. Arweiniodd Dafydd Williams 11 o gerddwyr, ar fore gwlyb iawn, o Fetws y Coed Cychwynwyd ger Pont Waterloo a dringo i fyny trwy'r coed oddi wrth yr A470. Roedd dringo hir, cyson gan ddod allan wrth y cytiau c?n. O'r fan hon a arweiniodd Dafydd hwy i Gapel Garmon ac yna i Faen Hir Capel Garmon lle cafodd y cerddwyr eu cinio picnic wrth y gladdfa bum mil o flynyddoedd oed. O'r fan hon aeth Dafydd ymlaen tuag at Afon Conwy hyd lwybr mwdlyd iawn cyn cyrraedd y prif lwybr. Dilynodd y cerddwyr hwn gan ddisgyn yn raddol i lawr at lan yr afon ac yna dilyn ochr afon oedd yn llawn iawn o dd?r gwyn. Taith gerdded ardderchog, wedi ei harwain yn dda. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 19 Mawrth 2015. Cylchdaeth Croesor. Dan arweiniad Tecwyn Williams aeth grwp o 22 o gerddwyr o Garreg ar ffordd Llanfrothen. Aethant i fyny codiad tir cyson ac ymlaen i rhostir cyrraedd y ffordd i lawr i Groesor dan y Moelwyn ar y chwith. O bentref Croesor, lle mwynhawyd cinio yn ôl wedyn ar hyd llwybr diddorol hyd ochr dyffryn prydferth Afon Maesgwm ac yna yn ôl at eu ceir. Mwynhaodd pawb daith Tecwyn yn fawr iawn. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 15 Mawrth 2015. Gaerwen - Bryn Celli Ddu. Aeth Noel Davey a 12 aelod ar daith gerdded ddeng milltir o Gaerwen, Ynys Môn ar ddydd Sul 15 Mawrth. Cawsant daith ddiddorol ar hyd lonydd gwledig a llwybrau troed. Un uchafbwynt oedd y domen gladdu 5000 o flynyddoedd oed ym Mryn Celli Ddu yr oedd yn bosibl m ynd i mewn iddi gan ei bod wedi ei chadw mewn cyflwr mor ardderchog . Oddi yma aeth y criw ymlaen ac i lawr at Afon Menai lle cawsant eu cinio. Wedyn yn ol ar hyd y glannau cyn troi tua'r tir ac yn y diwedd yn ôl i'r man cychwyn. Diolchwyd i’r arweinydd yn galonnog gan bawb am dro diddorol iawn ac arweiniad da. Ian Spencer. (Cyf EE)
Ddydd Sul yr 8fed o Fawrth. Tn garedig iawn ysgrifennodd Noel Davey adroddiadau ar gyfer y teithiau canlynol. Dydd Iau 19 Chwefror, 2015, Portmeirion, taith Nick White. Dydd Iau 26 Mehefin, 2014, Rhiw, taith David a Lis Williams. Dydd Iau 12 Mehefin, 2014 Moel y Ci, taith Pat Housecroft . Dydd Iau, Mai 1af Coed y Brenin, taith Judith Thomas '. Dydd Iau 1 Mai, 2014, Enlli, taith Miriam Heald. (Cyf EE)
Dydd Iau 5 Mawrth 2015.Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cerddwyr Ll?n yng Ngapel y Traeth yng Nghriccieth. Mynychwyd gan 32 o aelodau. Cyflwynodd y Cadeirydd Noel Daey a oedd yn ymddeol ei adroddiad ar y flwyddyn flaenorol. Roedd y Clwb oedd mewn iechyd rhagorol ar ôl cael amrywiaeth o deithiau bob yn ail dydd Iau a dydd Sul trwy gydol y flwyddyn. Ni fu unrhywdoriadau oherwydd y tywydd!Ategodd y cadeirydd ei adroddiad gyda nifer o ystadegau diddorol. Yna cyflwynodd y Trysorydd Dafydd Williams ei adroddiad yn dweud fod y Clwb mewn cyflwr ariannol iach. Roedd y clwb wedi rhoi £ 100 i bob un o'r timau Achub Mynydd lleol. Cafodd yr adroddiad ei basio yn unfrydol. Cyn symud ymlaen at yr etholiadau cyflwynodd yr Ysgrifennydd John Enser ei adroddiad. Yna cafodd Nick White ei ethol yn gadeirydd newydd a chytunodd yr Ysgrifennydd a'r Trysorydd i aros yn eu swyddi am flwyddyn arall. Cytunodd y Pwyllgor
Cyffredinol i gael eu hail-ethol yn eu cyfanrwydd. Ar ôl i nifer o faterion yn cael eu trafod yn Unrhyw Fater Arall diolchodd Ian Specer i Noel Davey am y gwaith ardderchog yr oedd wedi'i wneud fel Cadeirydd. (Cyf EE)
Cylchtaeth Cricieth. Ar ôl cinio tywysodd Dafydd Williams daith gerdded bleserus 4 milltir o Gricieth, gan fynd heibio hen dy Lloyd George a throi i lawr y lon uchaf tuag at Lanystumdwy. Ar ôl tua roedden nhw yn troi i'r chwith gan anelu am yr arfordir ac yn ôl i Gricieth. Ian Spencer. (Cyf EE)
Sul 1 Mawrth 2015. Porth Oer i Aberdaron. Ar Ddiwrnod Dewi Sant arweiniodd Roy Milnes 8 aelod ar daith arfordirol o Borth Oer i Aberdaron. Roedden nhw yn cychwyn mewn heulwen ar hyd darn llydan braf o lwybr, gydag arwyddion da, o'r maes parcio uwchben Whistling Sands. Creodd y gwyntoedd cryfion a wneir sioe ysblennydd o gesyg gwynion ar y môr. Fodd bynnag, trodd y tywydd cyn bo hir adaeth glaw trwm, ond roedd y golygfeydd yn dal yn odidog. Cafwyd cinio ar ochr Mynydd Mawr ac yna ymlaen ar eu taith mewn tywydd hynod gyfnewidiol –cenllysg hyd yn oed - i Aberdaron. Mwynhaodd y cerddwyr de a chacennau yn nhŷ yr arweinydd a fu yn ddiweddglo teilwng i'r daith a arweinwyd yn dda iawn a phleserus er gwaethaf y tywydd. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 19 Chwefror 2015. Cylchdaeth Porthmadog. Ar ddiwrnod cymylog ond braf pan na ddaeth y glaw addawyd, arweiniodd Nick White 19 o gerddwyr ar daith ddymunol o 5 milltir o Borthmadog, ar draws y Cob ar y llwybr uchaf heibio Boston Lodge ac i fyny i'r ardal goediog, hyfryd Portmeirion. Cafwyd cinio yng nghyffiniau Mynwent Minffordd, cyn dychwelyd dros y Cob hyd y llwybr beicio is. Roedd y golygfeydd ar draws aber Afon Glaslyn i fynyddoedd Eryri mor wych ag erioed. Tro ardderchog. Noel Davey. (Cyf EE)
Dydd Sul 15 Chwefror 2015. Llyn Crafnant, Llyn Geirionydd. Roedd y tywydd yn braf a thawel gyda ias yn yr awyr. Edrychai’r grŵp yn awyddus, yn hapus ac yn eithaf hyderus yn eu harweinydd, Hugh Evans, fel yr arweiniai nhw allan ar lwybr cylchol 10 milltir o Gapel Curig. Aethant ar lwybr pur gyfarwydd - i fyny Nant y Geuallt a throsodd i Gwm Crafnant a’i gronfa, Llyn Crafnant. Roedd y golygfeydd yn ysblennydd. Cafwyd cinio dan haul yn sglentio drwy’r coed ger nant yn safle picnic y Comisiwn Coedwigaeth ychydig tu draw i ben draw’r gronfa ddŵr. Aeth y ffordd yn ôl â ni heibio'r hen fwynglawdd Klondike (o'r golwg), cofeb Taliesin (cyfle i dynnu lluniau), ochr orllewinol Llyn Geirionydd a'r hen fwynglawdd Pandora cyn i ni fynd i mewn i'r goedwig. Ail-ymunodd ein llwybr â’r un ar y daith allan ger Clogwyn Mawr a dathlom gyrraedd yn ôl yng Nghapel Curig trwy droi i mewn i Pinnacle Pursuits & Café. Yn ol a ddywedwyd wrthyf cafodd pawb gryn fwynhad. Hugh Evans. ('Falch o ddweud i’n hyder gael ei wireddu gan ei bod yn daith gafodd ei harwain yn abl dros ben Ed: cyn-gadeirydd) (Cyf EE)
Dydd Iau 5 Chwefror 2015. Traeth Penllech, Porth Iago, Porth Oer Llinellog. Roedd gan y 24 cerddwr daith arfordirol ar hyd Gogledd y Penrhyn a arweinid fedrus iawn gan Megan Mentzoni o draeth Penllech. Ar ôl cael trefn ar y ceir wedi gweld fod ymaes parcio ynghau oherwydd gwaith ailadeiladu ar y bnt dilynodd y grwp Lwybr Arfordir Cymru gyfan. Roedd yn eithaf mwdlyd mewn manau ar ôl y glaw diweddar, ond roedd yr arwyddion yn dda. Ymlaen heibio Porth Colmon a Phorth Iago ac wedyn i dywod enwog Porth Oer. Oddi yma daethant i ddiwedd taith bleserus iawn. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 1 Chwefror 2015. Cylchdaith Cwm Pennant. Aeth 13 o aelodau’r clwb dan arweiniad cadarn Kath Spencer o Ddolbenmaen i fyny’r nodedig Gwm Pennant . Roedd y diwrnod yn heulog ond oer pan gychwynwyd i fyny'r cwm cyn dringo i fyny’r ochr orllewinol o amgylch rhannau isaf Craig-y-Garn. Roedd ar adegau yn gorslyd dan draed fel y crddent i gyffiniau anghysbell murddyn bwthyn Cae Amos. Oddi yno aethant ymlaen uwchben y Cwm cyn cyfarfod y ffordd a chroesi pont Afon Dwyfor. Yna cawsant eu harwain i’r De heibio fferm Brithdir Mawr ac yna am gyfnod byr ar y ffordd f cyn gadael a dilyn y llwybr uwchben y chwarel. Roedd y cerddwyr yn fuan yn ôl ar y ffordd ac i lawr at y bont lle roeddrnt yn ymuno â'r ffordd yn ôl i Ddolbenmaen.Cafodd Kath ei llongyfarch am arwin taith ardderchog. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 22 Ionawr 2015. Mynytho i Abersoch.Arweiniodd Miriam Heald 24 o aelodau ar daith gylchol o Fynytho drwy Abersoch. Unwaith eto, buont yn lwcus gyda'r tywydd, er ei bod yn eithaf mwdlyd mewn mannau. Roedd hon yn daith ddymunol iawn ar hyd nifer o lwybrau cul gyda gwrychoedd uchel ar bob ochr cyn cyrraedd ochr dyffryn serth sy'n arwain at Abersoch. Cafwyd cinio cyn i’r criw anelu yn ol am Fynytho a’u ceir Diolchwyd i’r arweinydd am dro hynod bleserus. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 18 Ionawr 2015. Moelfre Uwchgynhadledd. Arweiniodd Ian Spencer daith, ar ddiwrnod eithaf heulog, o'r hyfryd Ddyffryn Nantcol a’i olygfeydd gwych o'r Rhinnogau . Dringodd nifer dda o 14 i fyny ochr ddwyreiniol Moelfre sy’n 1932 troedfedd gan sgrialu i fyny'r creigiau ger y copa. Cawsant eu cinio mewn heulwen hynod gynnes yng nghysgod y wal ger y copa. Oddi yno i lawr ochr orllewinol gan ddilyn yr un mur roedden nhw wedi ei ddilyn i'r brig. Daethant i gyfarfod 4 cerddwr oedd wedi cerdded o amgylch Molfre a mynd yn ôl i'r car gyda’i gilydd. (Cyf EE).
Dydd Iau 8 Ionawr 2015. Cwm Llan ar hyd l lwybr Watkin. Yn hyderus arweiniodd Kath Spencer 24 o gerddwyr o faes parcio Bethania ar ddiwrnod rhanol heulog , ond oer gydag ambell gawodfer . Aethant i fyny Llwybr Watkin, heibio i olygfa wych y rhaeadrau a oedd yn llawn iawn ar ôl y glaw diweddar. Gadawodd y criw y llwybr ger fan hyn a dringo hyd at y lefel lle yr arferai hen reilffordd y chwarel redeg. Arweiniodd Kath hwy i safle'r hen chwareli lle cafwyd cinio . Ailddechreuodd y daith drwy ddisgyn hyd Lwybr Watkin gan aros ar y ffordd i edrych ar Graig Gladstone. Mae hon yn nodi'r fan lle bu i’r gŵr hynod hwnnw fynd i'r afael â'r dorf o 2,000 yn 1892 a lle bu ef a'r dorf yn mwynhau gwrando ar nifer o gorau Cymraeg yn canu. Yn is i lawr dilynwyd llwybr i'r dde a thrwy fuarth fferm at Afon Glaslyn a arweiniodd yn ol i fan cychwyn y daith. Cytunodd pawb fod hon yn daith ardderchog. (Cyf EE).
Dydd Sul 4 Ionawr 2015.Llanberis (rhan o Daith y Pedwar Cwm ). Dan arweiniad Diane Doughty cychwynnodd 14 gerddwyr ar daith hyfryd o Ganolfan Gymunedol Talysarn. Aethant i fyny gyda’r Cilgwyn ac i'r dwyrain o Fynydd Cilgwyn, yna heibio Y Fron. Roedd y golygfeydd yn bur odidog a’r tir o dan draed da yn hwylus i’w gerdded. Gyda Mynydd Mawr y tu ôl iddynt ac i'r chwith aethant yn eu blaen heibio Moel Tryfan a Moel Smythio. Oddi yma aeth y criw i lawr y goriwaered serth tuag at Waunfawr. Daeth y dro i ben trwy alw yn Nhafarn Parc y Wyddfa lle cafwyd gwin, cwrw, coffi neu de . Diolchwyd i Diane am arwain taith gerdded ardderchog yn fedrus iawn. Ian Spencer. (Cyf EE).
Gŵyl San Steffan 26 Rhagfyr 2014. Dydd San Steffan ni cherddwyd i fyny Moel y Gest. Daeth 4 o gerddwyr allan, ar ddiwrnod gwlyb iawn, am daith o dan arweiniad Tecwyn Williams a oedd wedi penderfynu yn rhesymol iawn i fyrhau’r daith a pheidio dringo i fyny Moel-y-Gest. Yn hytrach, cawsant fwynhau taith gerdded fwyaf dymunol trwy Parc-y-Borth ac ar draws y ffordd i'r ganolfan weithgareddau lle gwelsant y lamas. O'r fan yma aethant drwy'r Maes Carafannau i'r Cwrs Golff ac yn ôl i Borth y Gest. Cyn dychwelyd adref buont yn mwynhau te a choffi yn y caffi lleol rhagorol. Ian Spencer. (Cyf EE).
Dydd Sul 21 Rhagfyr 2014. Yr Eifl a Nant Gwrtheyrn. Dan arweiniad Judith Thomas aeth 14 aelod ffyddlon fyny Tre'r Ceiri a’r Eifl mewn gwynt a oedd yn gyson hyrddio hyd at 55mya i’w hwynebau gan wneud y cerdded yn waith caled! Roedden nhw wedyn yn disgyn i lawr y llwybr creigiog i'r Bwlch ac ar i lawr i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. O'r fan hon dilynent yr arfordir nes cyrraedd llwybr y clogwyn oedd yn arwain at lwybr cae a fyddai'n arwain yn ôl i Faes Parcio Mount Pleasant. Diolchwyd i Judith am dro ragorol ac yn wir cyffrous ar adegau. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 11 Rhagfyr 2014. Mynydd Cilan.Arweiniodd Ian Spencer( yn ddewr ac yn fedrus yn ol y golygydd, gan fod gwyleidd-dra yn amlwg yn atal Ian rhag rhoi y geiriau hyn amdano ei hun) daith Borth Neigwl ar ddiwrnod o wyntoedd tymhestlog pan oedd y môr yn rhy arw i'r syrffwyr. Roedd 14 o gerddwyr yn dilyn y lan cyn esgyn i'r rhan newydd o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan sy'n dringo hyd at ben y clogwyn ac sydd wedi ei nodi yn dda. Oddi yma roedden nhw yn dilyn y Llwybr am tua 3 milltir, gan gael eu chwythu i'r ochr ar adegau nes eu bod troi i mewn i'r tir yn Nhrwyn Llech-y-doll i hen gapel wedi ei addasu'n dŷ ac yna yn ôl i lawr i'r traeth. Wedyn i dŷ yr ysgrifennydd John Enser a’i wraig Rein i gael te a chacennau. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 7 Rhagfyr 2014. Carreg Fawr - Cwm Bychan. Arweiniwyd y daith yn fedrus gan Tecwyn Williams o Gwm Bychan i fyny Carreg Fawr ac ymlaen i ymyl Glowy Lyn. Yna, i’r gorllewin hyd drac gwyrdd, clir at bont fechan yng Nghwm-yr- Afon ac yn ôl i'r man cychwyn. Gwnaeth yr arweinydd ddefnydd da o'r "Mynediad Agored" drwy beidio cyfyngu y daith i lwybrau dynodedig. Roedd y tywydd yn wyntog ond sych a heulog er ei bod mewn mannau braidd yn wlyb a chorsiog o dan draed. Fodd bynnag, mwynhawyd y daith yn fawr gan y grŵp o 14 o aelodau. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 27 Tachwedd 2014. Llaniestyn. Miriam Heald arweiniodd y daith o Eglwys Llaniestyn gan ddilyn llwybrau maes mewn lleoliadau hyfryd. Cafodd y 22 o gerddwyr oedd yn bresennol wahoddiad, ar eu ffordd, i gael golwg ar fodel o reilffordd hynod ddiddorol. Wedyn aethant ymlaen ar y daith cyn dychwelyd i Laniestyn a mwynhau te yn nhŷ yr arweinydd. Bu hwn yn ddiwrnod diddorol o gerdded . Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 23 Tachwedd 2014.Llwybr Volcano, Coed y Brenin & cyffiniau. Teitl braidd yn ddramatig y daith yng Nghoed y Brenin oedd "Llwybr Folcanig" . Mae'r llosgfynyddoedd wedi hen ddiflannu wrth gwrs! Arweiniwyd y daith yn dda iawn gan y Cadeirydd Noel Davey ar ddiwrnod heulog oer o'r Ganllwyd. Dringodd y 12 aelod dr i fyny ar hyd y llwybrau coedwig fynd heibio Bryn Coch, cyn aros am egwyl goffi ger Afon Wen. Yna aethant ymlaen ar eu taith heibio Buarthre Newydd. Cafwyd cinio ar Foel Hafodowen gyda golygfa fendigedig i bob cyfeiriad. Roedd y llwybr yn ol yn gyfochrog â'r Afon Wen yn arwain yn ôl at eu ceir. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Iau 13 Tachwedd 2014. Cylchdaeth Tremadog.Yn Hwyliog ac ar ddiwrnod gwlyb arall arweiniodd Tecwyn Williams y daith o Dremadog . Cafodd gwmni 11 o gerddwyr gychwynnodd eu taith drwy ddringo’r " Grisiau Rhufeinig” i fyny Clogwyni Tremadog, Oddi yno aethant i Bant Egan lle cawsant egwyl goffi haeddiannol. Ymlaen wedyn â’r daith, gan ddilyn yr arweinydd i’r ffordd aeth â hwy i’r ffordd i lawr i Brenteg lle cafwyd cinio yng nghyffiniau’r maes chwarae. Wedi hynny aeth y cerddwy yn ôl i Dremadog. Ian Spencer. (Cyf EE)
Dydd Sul 9 Tachwedd 2014. Ffordd Ardudwy Harlech i Landecwyn. Dan arweiniad Dafydd Williams aeth 12 aelod y drydedd rhan o Ffordd Ardudwy o Harlech i Landecwyn. Roedd angen cychwyn yn gynnar oherwydd fod angen dargyfeirio trwy Faentwrog. Fodd bynnag cychwynnodd y criw o Harlech mewn hwyliau da er nad oedd tywydd yn dda iawn ac ar adegau yn hynod wlyb . Roedd yn aml yn eithaf gwlyb dan draed. Fodd bynnag, roedd llwybr da a chlir. Er gwaethaf awyr dywyll ar adegau roedd Penrhyn Llŷn yn drawiadol dros ben, ac ar adegau gellid gweld golygfeydd gwych o ranau helaeth o Eryri. Diolchwyd i Dafydd am arwain taith aedderchog. Ian Spencer. C
Dydd Iau 30 Hydref 2014. Ar hyd gwaelod Moelfre. Roedd y tywydd yn sych ar y cyfan er yn gymylog. Cymerodd Nick White a Kath Marsden le Fred Foskett gan a rwain dwsin o gerddwyr yn fedrus ar daith gylchol braf o chwe milltir o amgylch Moelfre uwchlaw Harlech. Dechreuodd y daith uwchben Nantcol anghysbell yn dilyn traciau o gwmpas y mynydd ar uchder o 1000-1400ft, gan gynnwys rhan o hen ffordd drol ger Pont Scethin. Noel Davey. (Cyf EE)
Dydd Sul 26 Hydref 2014. Mynydd Nefyn, Garn Boduan a Garn Fadryn. Mewn tywydd cymylog a gwyntog, ond sych aewiniodd Roy Milnes naw o gerddwyr ar daith ddeng milltir ddiddorol ar draws tri o gopaon Llŷn. Dechreuodd y llwybr uwchben Nefyn, gan ddringo creigiau Carreglefain (sy’n uwch ac yn rhoi g well golygfa na Mynydd Nefyn cyfagos) yn gyntaf, ac yna ymlaen i Garn Boduan a’i chaer drawiadol o Oes yr Haearn . Yna croesodd y daith y darn isel o dir i'r gogledd o Gors Geirch drwy Mochras, dringo i fyny at y bwlch o 850 o droedfeddi, ychydig yn is na Garn Fadryn. Wynebodd pum cerddwr hyrddiau o 60mya 400 troedfedd ychwanegol i gyrraedd i ben y mynydd.Diwrnod hynod bleserus. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Iau 16 Hydref 2014. gorsaf Nefyn / Bad Achub. Gwnaeth Maureen Evans gwaith ardderchog yn arwain 22 o gerddwyr ar gylchdaith 8 milltir ar hyd y clogwyni a'r traeth o Nefyn i Borthdinllaen, gan gael cinio ychydig ynis na'r orsaf bad achub newydd drawiadol cyn dychwelyd ar draws y cwrs golff drwy Edern a llwybrau mewndirol. Er bod amodau cynnes a heulog o bryd i'w gilydd yn cael eu taro gan gawodydd byr, sydyn achlysurol, roedd pawb wedi mwynhau y daith ddymunol a hapus. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Sul 12 Hydref 2014. Tryfan & Heather Terrace. Arweiniodd Noel Davey grŵp o 10 o gerddwyr dewr, yn broffesiynol iawn (a ychwanegwyd gan y golygydd, gan fod gwyleidd-dra yn amlwg yn atal Noel rhag cyfeirio felly ato’i hun) i fyny Tryfan ar lwybr pur heriol. Cychwynwyd o'r A5 heibio dyfroedd Nant a Llyn Bochlwyd hyd at Fwlch Tryfan i'r de o'r brig. Oddi yno dringo i fyny dros y cae Cerrig anwastad i'r copa 3000 troedfedd .Roedd niferoedd i o ddringwyr dipyn iau ar y brig ac wrth fwyta eu cinio cafidd y criw fwynhau golygfeydd syfrdanol o ran helaeth o ogledd Eryri ar ddiwrnod tawel a heulog o hydref. Daethant yn ol ar hyd y llwybr uchel Heather Terrace i'r dwyrain o'r mynydd, gan ddisgyn yn y pen draw at y llwybr ar ochr y ffordd yng Ngwern Gof Uchaf. Diwrnod hir a llafurus, ond bythgofiadwy. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Iau 2 Hydref 2014. Cylchdaith Egryn. Dan arweiniad Dafydd Williams aerh criw o 15 aelod ar hyd Llwybr Egryn o ymyl Talybont ar daith 5 milltir, yn esgyn at ddwy siambr gladdu Neolithig Carneddau Hengwm sydd 900ft uwchben lefel y môr. Mae tŷ canoloesol diddorol Abaty Egryn,sydd yn awr yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y ffordd yn ol a chfwyd cyfle i’w weld. Gorffenwyd y daith gan de yn y caffi cymunedol yn Nyffryn Ardudwy a groesawyd yn fawr gan bawb. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Sul 28 Medi 2014. Tal y Bont i Harlech Taith Ffordd Ardudwy. Dan arweiniad Dafydd Williams aeth criw bychan i fwynhau diwrnod cofiadwy yn dilyn rhan ganol Taith Ardudwy o Dalybont i Harlech, pellter o tua 13 milltir. Aeth y llwybr i fyny drwy goetir hyfryd i Bont Fadog, ar hyd hen ffordd y bws dros y rhostiroedd cyn belled a Phont Scethin. Oddi yno troi tua'r gogledd o gwmpas Moelfre ac ar draws cymoedd Nantcol ac Afon Artro, ac yn y diwedd i lawr tua'r gorllewin i Harlech, Roedd y golygfeydd ar draws Bae Ceredigion i Benrhyn Llŷn yn rhyfeddol drwy gydol y dydd. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Iau 18 Medi 2014. Cylchdaeth Mynydd Twr. Gwnaeth y Clwb y gorau o’r tywydd cynnes a gafwyd yn ystod y pythefnos diwethaf gyda theithiau yn Ynys Môn a ger y Bala. Gwnaeth Catrin Williams waith aedderchog yn arwain 16 o aelodau ar daith gylchol hyfryd a diddorol o ganolfan RSPB ger Caergybi, gan fynd dros Fynydd Caergybi / Mynydd Twr a'r tir creigiog o amgylch. Roedd y tywydd eithriadol o gynnes yn golygu taith bur hamddenol oedd yn rhoi pob cyfle i fwynhau’r golygfeydd bendigedi. Gorffennodd y daith gerdded gydag ymweliad â'r arsyllfa RSPB, y caffi ac, i rai y Cytiau Gwyddelod rhyfeddol sy’n aros o’r Oes Haearn. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Sul 14 Medi 2014. Aran Benllyn, Aran Fawddwy. Hugh Evans a arweiniodd grŵp bach yn ddeheuig i mewn i fynyddoedd yr Aran o Lanuwchllyn ar daith gerdded fywiog o 12.6 milltir. Cychwynnodd y llwybr i fyny crib Craig y Llyn yn syth i'r gogledd i Aran Benllyn. Yn dilyn cinio annisgwyl o oer a drafftiog, aeth y criw ymlaen i Aran Fawddwy, sy’n un o’r mannau uchaf yng Nghymru ar bron i 3,000 troedfedd . Cliriodd y tywydd yma i roi golygfeydd godidog trwy’r tarth, a daethpwyd i lawr mewn tywydd cynyddol gynnes a heulog, ar draws Erw y Ddafad Ddu a thrwy dir hyfryd Cwm Croes a Chwm Cynllwyd. Diwrnod gwych o gerdded. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Iau 24 Medi 2014. Dyffryn Ardudwy. Nick White fu yn arwain deg aelod ar daith hamddenol, a oedd a aeth yn dda iawn. Gan gychwyn o faes parcio Traeth Benar, aeth y llwybr dros gaeau gwyrdd, coedwig hyfryd a lonydd cul ym manau is Dyffryn Ardudwy,heibio cartrefi gwyliau dros y twyni tywod ac ar i'r traeth mewn pryd ar gyfer cinio. Gan ymwrthod â hyfrydwch rhan y noethlymunwyr o’r traeth, roedd y llwybr yn ôl dilyn y Llwybr yr Arfordir a'r twyni, am ryw 3.5 milltir. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Sul 31 Awst 2014. Cylchdaeth Llynpenmaen. Tro graddfa C. Arweiniodd Colin White griw o ddeg o Benmaenpwl trwy Taicynhaeaf ac i fyny llethr eithaf serth o ryw 800 troedfedd i Foel Ispri. Mewn tywydd bendigedig mwynhaodd y cerddwyr olygfeydd gwych dros aber y Fawddach i Gadair Idris a'r môr.Wrth ddychwelyd drwy goed pîn cawsant eu hamgylchynu gan garped anhygoel o ffyngau, rhai yn ddim mwy na 5mm o uchder a diamedr.Yna ar hyd trac coedwig a goriwaered serth ac yn ôl dros y bont i Lyn Penmaen. Ar ôl taith fer o'r blwch signalau a ddefnyddir gan y Parc Cenedlaethol fel canolfan natur, aeth y criw i’r George am baned haeddiannol. Noel Davey. (Cyf EE).
Ar yr un diwrnod. Moel Ispri & Y Garn. Tro graddfa A. Hefyd yn cychwyn o Bemaenpwl ac sy'n cyd-fynd â'r cerddwyr C am y filltir gyntaf, roedd naw cerddwr arall, o dan arweiniad Noel Davey, am fwynhau taith gerdded fwy egnïol o ryw 9.5 milltir hyd at gribg Y Garn. Ar ychydig dros 2000 troedfedd o’r copa roedd golygfeydd ysblennydd dros y cyfan o dde Eryri. Aethant i fyny o’r ochr ddwyreiniol uwchben Blaen y Cwm, tra’n dod i lawr gan ddilyn y grib i'r de hir o Foel Ddu. Yn y diwedd roedden nhw yn ail ymuno ailymuno â'r llwybrau drwy’r coed islaw Foel Ispri. Noel Davey. (Cyf EE).
Dydd Iau 21 Awst 2014. Harlech (Llandanwg ar y rhaglen). Dan arweiniad Fred Foskett aeth criw o 15 o gerddwyr, o’i gartref ef ,Llanfair Isaf ar daith amrywiol iawn yn cychwyn ar hyd y traeth tywod braf yn is na'r twyni am 2 filltir. Oddi yno aethant mewn i'r tir heibio pen y Cwrs Golff ac i fyny tuag at Gastell Harlech. Cawsant eu cinio ar y meinciau parc ac wedyn dringo yn araf i fyny ac allan o Harlech i gyfeiriad y de cyn gorffen yn y diwedd yn nhŷ fred am luniaeth hynod dderbyniol. Roedd yn daith gerdded ddymunol iawn ar fu yn amgenach a sychach na’r rhagolygon. Ian Spencer. (Cyf EE).
Dydd Sul 17 Awst 2014. Bryniau Clynnog.Yn bur fedrus aewiniodd Catrin Williams 12 aelod ar daith egnïol, ond gweddol fyr o'r A499 ger Trefor, i fyny llwybr serth, heibio Dove Cottage a'r hen weithfeydd chwarel. Oddi yno dilynwyd trac da cyn disgyn yn serth i gopa Gyrn Ddu ac yna parhau i gyfeiriad Gogledd Ddwyreiniol hyd at gopa Gyrn Goch. Wedyn arweiniodd Catrin y grwp i lawr ac ar hyd Planhigfa Cwm-gwared yn ôl i ffordd yr A499 aeth â nhw yn ôl i'r car. Ian Spencer. (Cyf EE).
Dydd Iau 7 Awst 2014. Foel Cynwch a Llwybr Cenllif. Arweiniodd Nick White dan 19 o gerddwyr drwy bentref Brithdir i fyny llwybr cymharol newydd, rhyw 3 blwydd oed, i gopa Y Foel [343 medr] lle mae cafwyd cinio. Roedd golygfeydd gwych o Gadair Idris, Rhobell a'r Aran i’w gweld. Ar ôl cinio aethant i lawr i'r Llwybr Cenllif gan basio trwy goed ffawydd ger Afon Clywedog ar hyd llwybr cymharol newydd arall , eto drwy garedigrwydd Rhys Gwynn a'r tirfeddiannwr lleol. Wedyn i fyny yr hen lwybr a fu yn atyniad i dwristiaid ers tua 200 o flynyddoedd. Roedd yr haul yn wincio yn batrymau hyfryd drwy’rcoed a’r glaw diweddar yn golygu fod llif llawn yn yr afon. Daeth y daith i ben gydag ymweliad â'r Ystafell De leol. Diolchwyd i Nick am daith hyfryd. Ian Spencer. (Cyf EE).
Dydd Sul 3 Awst 2014. Mynydd Cribau. Mewn amodau cerdded delfrydol, er gwaethaf ambell gawod drom aeth 10 o gerddwyr a arweinir dan arweiniad cadarn Hugh Evans ejoyed ar daith gylchol o un filltir ar ddeg o faes parcio Pont-y-Pair ym Metws-y-Coed. Dechreuwyd drwy ddringo drwy Goedwig Gwydyr ar Lwybr Jiwbilî i'r heneb uwchben Llyn Elsi. Wedyn roedden nhw yn pasio trwy'r "bentref anghofiedig" Rhiwddolion ar hen ffordd Rufeinig Sarn Helen, hyd at yr A470 ym Mhont-y-Pant. Yno roedd y llwybr yn troi i’r gogledd ger Fferm Ty Newydd dros y rhostir rhwng Moel Siabod a Mynydd Cribau. Ger y gaer Rufeinig yng Nghaer Llugwy roeddent yn troi i’r dwyrain ôl drwy Goedwig Gwydyr, gan fynd heibio Coed yr Artistiaid, croesi Afon Llugwy dros Bont y Glowyr ac yna ddilyn yr afon yn ôl i'r cychwyn. Cafodd y diwrnod ei gwblhau gyda lluniaeth yng Nghaffi rhagorol Moel Siabod yng Nghapel Curig. Ian Spencer. (Cyf EE).