Awst 19 – Gorff 20

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Medi 2020.

Yn ol ym mis Mawrth roedd y Rhodwyr ddim ond newydd gael ei Cyfarfod Blynyddol a chyhoeddi rhaglen newydd o deithiau cerdded pan gyrhaeddodd yr haint difrifol ma. Yn ystod y clo cychwynnodd lawer o’r aelodau gerdded eu llwybrau lleol mesul un neu ddau, gan gasglu gwybodaeth eang o’I pum milltir sgwar. Cawsom y fraint o gael y cyfle annisgwyl I fwynhau ein tirlun rhyfeddol, oedd bron yn wag, yn haul y gwanwyn. Roedd y teithiau tawel hyn yn fendith i gadw draw pryder y Cofid. Wrth I’r cyfyngiadau ryddhau dyna’r Clwb gan bwyll yn cychwyn rhaglen o deithiau wthnosol ar gyfer grwpiau o 6 – 8 gan roddi pwysigrwydd ar bellter cymdeithasol a gofal o amgylch gatiau. Roedd yn ryddhad I gymdeithasu ac ymweld a rhannau gwyllt o Wynedd. Ers hyny rydym wedi mwynhau oddeutu 16 taith, y mwyafrif mewn ardaloedd yn cael eu anwybyddu gan y llu ymwelwyr yn dychwelyd. Y bwriad yw trefnu rhaglen newydd o deithiau ond nid ar y funud achos yn anffodus mae arwyddion fod pethau yn dirywio ynglyn a’r haint. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 12ed Fawrth 2020. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cefngwlad Criccieth. Cynhaliwyd y 41ain Gyfarfod Blynyddol yn Capel y Traeth, Criccieth gyda 44 aelod yn bresennol. Ail etholwyd y tri swyddog presennol a’r 8 aelod o’r pwyllgor yn unfrydol am flwyddyn ychwanegol. Roedd yna drafodaeth am y dyfodol ansicr o Wyliau’r Clwb, a chynigion ynglyn a teithiau codi arian at yr Eisteddfod a Phlant mewn Angen.
Ar ol cinio yn y Capel, arweiniodd Dafydd Wiliams 36 aelod ar daith 3.5 milltir yn gefngwlad Criccieth gyda haul a gwynt cryf. Roedd hi yn braf i weld nifer sydd y dyddiau yma ond yn cerdded ambell waith gyda’r Clwb. Aeth y ffordd heibio Gwesty’r Llew ac ar hyd llwybr cae, ymylu’r dref ac i fyny Lon Fel i Bryn Awelon. Nawr yn gartref mamaeth, derbyniodd y fan hyn yn ddiweddar blac porfor yn cofnodi fod Megan Lloyd George, merch Lloyd George fel yr AS fenywaidd gyntaf yng Nghymru. Dilynnodd y daith ar hyd y ffordd gefn ddymunol i gyfeiriad Llanystumdwy a throi i ffwrdd ar lwybr braidd wedi or dyfu drwy’r goedwig wedi ei gadael a llwyni Gwesty Bron Eifion, plasty Victorianaidd a adeiladwyd gan y teulu Greaves. Wedi croesi’r A497, dyma’r rhodwyr yn mynd i gyfeiriad yr arfordir a chanolfan a gwersyll y Girl Guides yn Ynysgain. Roedd y daith gerllaw y moroedd garw ar Lwybr yr Arfordir yn caniatau golygfeydd da o Griccieth a’r Rhinogydd tu draw. Roedd yna arwyddion o ddifrod i’r llwybr. Wedi mynd heibio’r ty “grand designs” dadleuol wedi ei ailadeiladu, Cefn Castell, yn fuan dyma’r parti yn cyrraedd y Promenad Gorllewinnol, a thorri yn ol heibio twmpath creigiog o’r Dinas i gwblhau taith hamddennol gymdeithasol gyda lluniaeth yn wahanol gaffeoedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8ed Mawrth 2020. Tiroedd chwarel o Manod, Cwm Teigl and Cwm Penmachno. Roedd yna ddwy daith heddiw yn ymchwilio tiroedd y chwareli llechi rhwng Manod a Cwm Penmachno ar daith ffigur wyth. Arwahan i law dros y filltir olaf roedd yn ddiwrnod sych a heulog o dro i dro, gyda gwynt rhynllyd o’r de orllewin. Roedd yna gynulliad da o 24 o aelodau’r clwb a gychwynnodd a’i gilydd i’r dwyrain, o Cae Clyd ger pentref Manod, ar lwybr cyfarwydd ar draws caeau. Yna roedd dringo o 1300 troedfedd ar lwybrau rhostir a thraciau chwarel o amgylch ochr orllewinnol niwlog Manod Mawr a chyrraedd uchder o 2000troedfedd uwchben y pwll anferth, chwarel Graig ddu. Ar ol y dringo egniol yma dyma’r parti yn cael paned wrth y gatiau i’r ogofeydd gwlyb a diferol, enwog am iddynt lechu lluniau o’r Galeri Cenedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae rhain yn ran o Chwarel Manod sydd yn parhau o dan law Llechi Cymru (Welsh Slate). Oddi yno arweiniodd Dafydd chwech i lawr yn ol trwy Cwm Teigl a chyflawni cylch o 5-6 milltir, tra aeth Noel a deunaw cerddwr ar gylch ychwanegol mwy llafurus o 5milltir i’r dwyrain, ac o’r diwedd ymuno hefo ffordd Cwm Teigl. I gychwyn aeth y ddolen ddwyreiniol i’r gogledd ar hyd trac gwastad ond wedi orlifo mewn sawl man, heibio’r tipiau wedi eu gadael, chwareli Blaen y Cwm a Cwt y Bugail, cylchu i’r dwyrain i lawr ar draws rhostir noeth a di lwybr gyda cip olwg oddi tano o gaeau gwelltog yn y cwm anghysbell, Machno, isafon i’r afon Conwy. Roedd yna arhosiad am ginio yng nghysgod coedwig pinwydden uwchben y cwm. Yn dilyn roedd dringo serth i bentref bach Cwm Penmachno ar lawr y dyffryn, 700 trodfedd, gan ddringo serth eto o 600 troedfedd (ddim yn syniad da yn syth ar ol cinio) drwy gymysgfa hudol o lethrau, tipiau a pyllau oedd yn bodoli ar ol Chwarel Cwm Penmachno. Mae’r adran yma yn rhan o’r Llwybr Llechi newydd yn arwain i fyny heibio rhaeadrau a dwfr gwyllt yn llifo o gronfa wedi cwympo oedd unwaith yn gyrru melinau. Daeth trac coedwigaedd a’r parti i’r basn uwchdirol unig wedi ei feddiannu gan weddillion gafaelgar a gwasgarlyd, Chwarel Rhiwbach. Roedd hon yn un o’r gweithfeydd llechi lleol ehangach, yn y diwedd yn cynnwys wyth lefel dan ddaear ac erbyn 1861 wedi ei ymuno a’r Rheilffordd Ffestiniog drwy dramffordd dair milltir. Mae melin a thy peiriant stem a simdde yn amlwg byth. Roedd y gwersylloedd mawrion y rhai olaf yn Gymru i gartrefu gweithwyr chwarel pan gaeodd y chwarel yn 1952. Y syndod olaf i’r parti oedd dringo digalon a serth 150 troedfedd i fyny llethr mewn cyflwr da i gyrraedd top Bwlch Careg y Fran yn arwain i’r fordd i lawr Cwm Teigl. Roedd y fan yma o’r diwedd yn gwneud y cerdded yn esmwythach, er i ddanedd y gwynt cryf yn dod i fyny’r cwm. Roedd y rhan olaf yn torri ar draws tirlun tynerach o gaeau a hen waliau ar hyd Caecano Mawr i ail ymuno a’r llwybr allanol o Cae Clyd. Profodd hon i fod yn ddiwrnod egniol o gerdded oddeutu 10 milltir mewn 6 awr drwy wlad chwilfrydig ac anial, wedi ei greu gan ein etifeddiaeth diwydiannol unigryw. Roedd Tafarn Pengwern yn le addas am yr arhosiad olaf i gryfhau cyn y siwrne adref. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 27ain Chwefror 2020. Llanelltyd. Ar ddiwrnod oer ond clir a heulog daeth 21 aelod o’r Clwb ynghyd a chymeryd y ffordd i Llanelltyd ger Dolgellau am daith bleserus yn cael ei harwian gan Nick White. Newidwyd y daith wreiddiol oherwydd y nifer o goed oedd wedi cwympo oherwydd y stormydd diweddar, a’r mwd dan draed. Cychwyn y daith oedd yr hen bont yn Llanelltyd dros y Fawddach. Cymerwyd y ffordd i’r de-ddwyrain i’r clwb golf, heibio safle plasty’r Hengwrt o’r 18ed ganrif;ar un amser roedd y fan hon yn gartref i gasgliad o lawysgrifau enwog Cymraeg a oeddent wedi eu rhoddi i’r Llyfrgell Cenedlaethol cyn i’r ty losgi i’r llawr yn y 1960au. Ar ol tua milltir aeth y daith ar lwybr i anifeiliad coediog yn rhedeg i’r gogledd ddwyrain drwy Coed Pen y cefn. Roedd bryn coediog i’r gogledd yn safle Castell Cymer, castell cynnar Cymraeg wedi ei adeiladu tebyca 900 mlynedd yn ol er i’r gweddillion gweladwy fod yn debygol o fod yn mwy diweddar. Ger Pandy bach fe drodd y daith i’r gogledd i fyny trac sydd yn ddiweddar wedi ei dderbyn fel llwybr caniataol yn cysylltu a’r Llwybr Dibyn Newydd. Dringodd hwn yn araf drwy dirlun coediog braf i 700 troedfedd a chyrraedd man prydferth, Llyn Cynwch, cronfa a llyn pysgota yn llawn brithyll, yn nythu rhwng y caerau Moel Offrwm a Moel Faner. Cyd ddigwyddodd cinio a chawod fer o eirlaw, ond roedd yr olygfa o’r eira disgleirig ar y mynyddoedd i’r de yn rhagorol, yn estyn o Cadair Idris i’r ddwy Arran. Gwnaethpwyd cyclch o’r llyn ar lwybr rhwydd cyn dychwelyd ar y ffordd allanol a ffordd fach arall. Ar y ffordd i lawr roedd yna olygfeydd o adfeilion adnabyddus Cymer Abbey, mynacdhdu Benedictaidd o’r 12ed ganrif a ddioddef yr un dynghed yn gyffredin i fynachlogau yn y Diddymiad Tuduraidd. Profodd hon i fod yn daith bleserus ychydig yn brin o 6 milltir dros 3-4 awr yn y wlad braf i’r gogledd o Ddolgellau, oedd yn edrych yn hardd yn haul mis Chwefror. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 24ain Chwefror 2020. Beddgelert - Blaen Nanmor. Hugh Evans arweiniodd grwp o 11 ar ddiwrnod arbennig yng nghanol Eryri. Ar ol y stormydd diweddar roedd y tywydd yn gymharol heulog gyda gwyntoedd ysgafn. Er iddi fod yn sych uwchben roedd y cyflymdra yn cael ei arafu oherwydd y cyflyrau gwlyb a llithrig dan draed gyda llif yn pob ffrwd. Cychwynnodd y daith yn Beddgelert, yn arwain drwy’r pentref a dringo ar draws Rheilffordd Ucheldir Cymru i’r uchelderau uwchben yr ochr orllewinnol o geunant Aberglaslyn. Aeth y ffordd heibio gweddillion mwyngloddiau copr ger Bryn Felin a’r twr conigol isel gyferbyn ac i lawr i’r ddyfroedd pell Aber y Glaslyn. Roedd yna ddisgyn serth ac anodd i lawr ar lwybrau creigiog drwy goed godidog Aberglaslyn i Bont Aberglaslyn. Ar ol croesi’r bont olygfaol i bentref Nantmor, roedd yna aros am baned yn y maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yna fe aeth y llwybr i’r gogledd dddwyrain drwy’r dyffryn coediog, gwyllt a hyfryd Nantmor. Dewiswyd le braf i gael cinio mewn haul amryliw o dan goed mwsoglyd gyda swn dwr rhuthredig yn y cefndir. Ger chwarel lechi Blaen Nanmor ymunodd y ffordd a’r ffordd wledig gul heibio Gelli Iago cyn mynd i’r gorllewin ar draws rhostir corslyd yn ymylu i’r gogledd o Bryn Castell. Aeth y llwybr ger y bwthyn unig, Hafod Owen, yn enwog gan ddringwyr creigiau oherwydd iddo fod yn gartref i Colin Kirkus ac wedyn John Menlove Edwards a gymerodd ei fywyd ei hun yno yn y 1950au. Ar drum o amgylch 600 troedfedd, agorodd yr olygfa i gyfeiriad ochrau uchel llwyd Eryri gyferbyn a dwr gwyrdd llonydd Llyn Dinas islaw. Daeth disgyniad drwy’r coed a’r parti i lawr i’r llyn a thaith rwydd ar hyd y llwybr afon cyfarwydd yn ol i Feddgelert.Tafarn Tanronnen oedd y man aros diwethaf am luniaeth haeddiannol ar ol taith ardderchog oddeutu 9-10 milltir dros 6 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Chwefror 13eg 2020. Y Foryd. Yn dilyn y dilead o’r daith dydd Sul diwethaf roedd 28ain o aelodau yn awyddus i fanteisio ar yr amser byr rhwng stormydd Ciara a Dennis ar gyfer taith yn cael ei harwain gan Judith Thomas ar hyd y Foryd ar lannau’r Fenai. Roedd yn ddiwrnod cymylog ond sych a dim yn or wyntog. Cychwynnodd y daith o faes parcio Canolfan Arddio Fron Goch, yn ddiweddar wedi ei urddo y goreu yn y Deyrnas Unedig. Fe aeth y daith i’r gorllewin heibio Tyddyn Alice a Cefn y Coed ar draws caeau rholynog dymunol gyda choed yma ac acw a golygfeydd i gyfeiriad y Fenai ac Ynys Mon. Yn aml roedd y cyflyrau yn fwdlyd ac y gamfeydd lletchwith a gatiau yn arafu’r cerddwyr. Aeth y daith heibio Capel Pen y graig, nawr wedi ei atgyweirio’n ardderchog i dy preswyl. Yna dyma aros am goffi yn yr eglwys nodedig canoloesol Santes Baglan, yn sefyll oddi mewn i fynwent waliog unig oruwch y Fenai. Mae’r adeilad syml, nawr o dan rheolaith Ffrindiau o Eglwysi Amddifad, yn dyddio o’r 13 ganrif, ond mae yna garreg o’r 6ed ganrif uwchben y cyntedd yn tystio i ddechreuad cynt. Mae’r fynwent yn fan claddu Antony Armstrong-Jones (Yr Arglwydd Snowdon), Antony Charles Robert ar ei garreg fedd. Yna trodd y ffordd i’r gogledd-ddwyrain a dilyn estyniad hir o ffordd di gysgod, nawr yn ran o Lwybr yr Arfordir, yn rhedeg yn ochrog a dyfroedd ewynnog Bae y Foryd i gyfeiriad Caernarfon. Roedd hyn yn caniatau golygfa eang wych o’r Eifl niwlog, ar draws y tir isel o amgylch Dinas Dinlle a Fort Belan, Ynys Llanddwyn a Warren Niwbwrch i waliau’r castell a datblygiadau mwy diweddar yng Nghaernarfon. Roedd yna dystiolaeth o or lifo helaeth ar draws y ffordd o ganlyniad i’r stormydd diweddar. Arosodd y parti am ginio yn y parc cyfleus, Coed Helen. Ymlaen aeth y daith ar draws y Seiont a thros pont sigl yr Aber, sgyrtio o dan esgyniadau’r muriau uchel o gastell Edward (yr hen gythral) ac i lawr heibio’r glanfeydd llechi heibio, terfyn newydd ei adeiladu, Rheilffordd Ucheldir Cymru. Aeth y Lon Eifion goediog i feicwyr, a’r parti yn gyfochrog a’r reilffordd, yn ol ar draws y Seiont ac yn fuan yn ol i Fron Goch am luniaeth yn y caffi ardderchog. Roedd hon yn daith fwynhaol a haws o amgylch 6 milltir ar dir gwastad. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Chwefror 9ed 2020. Garndolbenmaen. Y daith wedi ei chanslio. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 30ain Ionawr 2020. Cylchdaeth Porthmadog. Cyfarfu cynulliad nodedig o 39 aelod o’r clwb yn maes parcio Lidl ar gyfer taith amrywiol a diddorol o gylch Porthmadog a chael ei harwain gan Tecwyn Williams. Roedd yn ddiwrnod tamp a chymylog ond dim glaw o bwys. Y rhan gyntaf oedd y mwyaf llafurus, yn golygu 300 troedfedd o ddringo drwy’r coed ar ysgwydd Moel y Gest. Aeth y llwybr heibio’r ardal toreithiog ffrwythlon o’r chwarel fechan gyntaf a gloddwyd o ochr y bryn. O fan uchel uwchben y dref, roedd yna olygfeydd da ar draws i Borth y Gest ac Aber y Glaslyn. Arweiniodd lwybr llithrig i lawr i faes carafannau Tyddyn Llwyn, ac ar draws ffordd brysur Morfa Bychan ac ar hyd llwybr a elwyd yn lleol “Lovers Lane”. Yna fe aeth y llwybr i’r gogledd ar y ffordd ucha i Borthmadog, gyda tai hardd o’r 19eg ganrif ar bob llaw. Roedd yna olygfeydd i lawr i Cei Ballast a’r datblygiad diweddaraf yn y porthladd a’i gyrraedd gan res o risiau hir. Roedd y garreg amlwg tu ol i Ty Moelwyn yn caniatau golygfa ardderchog o’r cob pwysig a adeiladwyd gan William Maddocks 1805-11 i sychu a chroesi’r Traeth Mawr. Roedd yna amser i archwilio’r tyllau o sawl “rock cannons” hynod a wneuthpwyd gan chwarelwyr i ddathliadau cyhoeddus yn yr oes Victorianaidd. Yna dilynwyd llwybr metel ar hyd Cob Crwn, ble roedd parapet isel hir yn le addas i gael cinio gyda mwy o olygfeydd ar draws y Glaslyn. Daeth hyn a’r daith i ardal dywidiannol diddorol wedi ei groesymgroesi gan dri neu bedwar o reilffyrdd ac am hyn o beth mae Port yn enwog. Yna dilynnodd y ffordd drac mwdlyd heibio ” Farm Yard Farm” hefo’r enw cyffredin, a chyrraedd yr A498 ac ar hyd Stryd Fawr Tremadog. Arweiniodd y rhan olaf i’r de ar hyd Pensyflog ar draws rheilffordd y Cambrian i’r Ganolfan Hamdden a chael lluniaeth. Roedd hon yn daith ardderchog o ryw 5.5 milltir ac yn ymweld a rhai o gorneli cudd o Borthmadog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 26ain Ionawr 2020. Bryniau Trawsfynydd. Gwynfor Jones arwainiodd 10 Rhodwyr ar daith heddiw yn cychwyn ger Stesion Bwer Trawsfynydd. Roedd rhagolygon y tywydd yn hollol gywir gyda gwynt a glaw am yr awr neu ddwy gyntaf ond yn gwella yn fuan i fod yn glir a sych gyda ychydig o haul. Cychwynnodd y daith i’r gorllewin gyfochrog a dyfroedd ewynnog lan y llyn heibio’r atomfa, nawr bron i 30 mlynedd yn cael ei chau i lawr ond yn obeithiol o adfywiad fel safle i ymweithydd llai. Daeth hyn a’r parti at yr adeiladwaith gafaelgar o brif argae Llyn Trawsfynydd, adeiladwyd i ddechrau yn y 1920au ar gyfer stesion bwer hidro-electrig Maentwrog sydd yn dal mewn bod, ond codwyd yr uchder yn y 1960au er mwyn paratoi dwr oer i’r offeriant pwer niwclar. Aeth y llwybr ymlaen i’r gorllewin yn ochrog a “leat” yn llifo yn gyflym i’r llyn. Ger Nant Ddu fe aeth y llwybr i’r gogledd ac yna yr gogledd orllewin ar draws tir garw agored wedi ei groesi gan waliau cerrig wedi eu chwalu, gyda golygfeydd braf i gyfeiriad Manod a’r ddau Foelwyn. Yna trodd y llwybr i’r dwyrain, i mewn i Coed Llennyrch, ardal o goedwig “Atlantic” a brynwyd gan Coed Cadw/Woodland Trust yn 2015, yn cael ei rheoli yn gyd ochrog a Coed Felenrhyd sydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Mae’r ardal rhyfeddol o’r goedwig law sydd wedi ei amddiffyn yn nodedig am ei hen goed derw cnotiog wedi eu cuddio gan fwsoglau a rhedynennau. Yng nghanol y goedwig daeth y parti i fan agored yn Cae’n y Coed gyda llyn mawr a choed dechreuol yn coffau anifeiliad anwes yng ngerddi ty haf neilltuol. Ymlaen i’r dwyrain aeth y llwybr heibio ymyl ac uwchben rhan o hafn coediog dyfn o’r Afon Prysor. Arweiniodd y llwybr hwn yn ol i’r argae a’r ffordd yn ol i faes parcio’r llyn. Ar ol taith ardderchog o 8.5 milltir ac 1000 troedfedd o ddringo dros 4-5 awr, y pleser olaf oedd te yn y caffi cymunedol Llyn Trawsfynydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 16eg Ionawr 2020. Abersoch i Clawdd Mawr. Cyfarfu 21 aelod ar gyfer y daith heddiw, cylch oddeutu 5.5 milltir o Abersoch yn cael ei harwain gan Gwynfor Jones. Roedd yn ddiwrnod o gymylau duon a gwyntoedd cryfion ond mi gadwodd y glaw draw am yr awr gyntaf beth bynnag ac wedyn nid oedd yn drwm iawn. Cychwynnodd y daith o faes parcio neuadd y pentref cyfagos i ysgol y pentref sydd eto dan fygythiad o gau. Aeth y daith ymlaen dros y bont, heibio’r harbwr olygfaol ac yna i lawr i Traeth Castellmarch drwy tywodfryniau’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Tywyn y Fach. Gwnaeth y llanw uchel a’r mor tymhestlog gyda gwynt cryf o’r mor am daith ffres ar yr estyniad hir o dywod. Gorfododd y llanw i’r parti ddringo’r grisiau i gyrraedd llwybr swyddogol drwy’r lletyau moethus yn Parc Wyliau Warren sydd yn meddiannu rhan helaeth o’r tywodfryniau wrth y mor. Yn ddiweddar mae’r Parc wedi agor ty bwyta/caffi mewn adeilad newydd o goed. Ar draws yr A499 mi gerddodd y parti i fyny’r ffordd hir yn arwain i’r ty hanesyddol Castellmarch adeiladwyd yn 1625 gan Syr William Jones Penaeth Ynadon o’r Bwrdd Brenhinol. Dringodd y llwybr y trac tu ol i’r ty i Muriau ac yna disgyn i le mwdlyd yn croesi dyffryn Nant Fawr a llwybr cae yn mynd heibio cabanau pren nodweddiadol yn Fferm Braich. Roedd y rhan nesaf o 400 metr ar hyd pen Clawydd Mawr, clawdd terfyn fel cob i gae gyda dwy ffos heb ddyddiad iddo. Roedd gwirfoddolwyr Rhodwyr Llyn wedi clirio y man pwysig yma o’r llwybr swyddogol oddeutu blwyddyn yn ol o ganlyniad iddo fod bron yn anghysbell. Yna disgynnodd y daith i’r pentref dyniadol Llangian, ac aros am ginio yn gysgod y cyntedd a giat eglwys St. Cian; mae carreg o’r 6ed ganrif yn tystio mewn Lladin i hynafiaeth o’r man Cristionogol yma. Parhaodd y daith dros Bontnewydd, cob hir a man chroesi’r Afon Soch. Aeth y llwybr mwdlyd serth a’r daith eto i’r man uchaf o Pen y Gaer, safle caer o’r oes haearn. O’r man roedd golygfeydd niwlog wrth edrych yn ol i lawr ar y Soch yn ymdroelli a’r mehangder o gaeau dan ddwr tu ol y tonnau taranllyd yn Porth Neigwl. Yna yn fuan dyma drac a ffordd gul yn dod a’r parti i lawr yn ol i Abersoch ar ol siwrne amrywiol gymdeithasol gyda phawb wedi mwynhau er gwaethaf y tywydd gwael. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 12 Ionawr 2020. Cylchdaeth Rhyd-ddu. Dafydd Williams arweiniodd 17 o rodwyr ar daith yn Goedwig Beddgelert o Pont Cae Gors ger Rhyd Ddu. Mae’r gwellhad yn y rhwydwaith o lwybrau weddol haws a llwybrau coedwigaidd wedi gwneud y fan yma yn le poblogaidd i deithiau’r clwb yn y gaeaf. Roedd yn ddiwrnod heulog a sych gyda gwyntoedd ysgafn, yn ffodus yng nghanol cyfnod o dywydd stormllyd. I gychwyn fe aeth y daith i’r gogledd a chroesi ffordd Beddgelert ac yna ar lwybr cwrteisi newydd i Ffridd Uchaf a dringo yn araf i’r groesffordd o lwybrau Y Wyddfa o Rhyd Ddu a Bwlch Cwm Llan oddeutu 1000 troedfedd o uchder; tra mae’r gwelliannau presennol yn mynd ymlaen roedd y llwybr yn gorslyd iawn mewn mannau. Roedd Yr Wyddfa yn y cymylau, ond roedd yna olygfeydd ddeniadol o’r Aran, Mynydd Mawr a bwtres miniog Y Garn yn y pen dwyreiniol o Grib Nantlle. Yna trodd y parti i’r gorllewin a disgyn ar lwybr serth i Rhyd Ddu ble roedd ystafell aros yn stesion Rheilffordd Ucheldir Cymru yn le cyfleus i gael coffi. Yna ail groesi’r brif ffordd ar uchder o 600 troedfedd a dilyn y llwybr amrywiol bwrpas ardderchog, Lon Gwyrfai a mynd oddi arno ar lwybr uwch oedd yn dringo yn gyson i’r de-orllewin i Cwm Marchnad, oddeutu 1000 troedfedd. Roedd yna olygfeydd da yn edrych i lawr i Llyn y Gader, llyn basddwr wedi ei goffau gan y bardd lleol enwog T.H.Parry Williams. Roedd yr holl ardal yn llifo o ddwr yn dilyn glaw trwm y noson cynt ac roedd croesi nant di bont yn creu tipyn o sialens. Yn fuan wedyn fe aeth y llwybr i mewn i Goedwig Beddgelert, gan ddilyn nifer o draciau llydan drwy’r coed pinwydden. Roedd yna aros am ginio mewn man agored ddeniadol. Yna disgynnodd y daith yn araf i Llyn Llywelyn, yna cylchu o amgylch ochr dde o’r llyn bychan darluniadol ac aros am funud neu ddau ar ei lan ddwyreiniol llonydd. Oddi yno disgynnodd y trac ar hyd ochr yr afon i Hafod Ruffydd Uchaf, ail ymuno a Lon Gwyrfai a chroesi bont ffordd y goets fawr yn agos i cyflifiad hefo’r Afon Colwyn. Yn fuan dyma gyrraedd y man cychwyn yn Cae Gors yn dilyn taith bleserus a gwobrywol o 7.5 milltir dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 2ail Ionawr 2020. Harlech. Daeth y daith gyntaf o’r flwyddyn newydd a 21 aelod o’r Clwb, i Harlech am daith wobrwyol a chylch amrywiol o amgylch y wlad tu hwnt i’r dref yn cael ei harwain gan Colin Higgs. Roeddi yn ddiwrnod cymylog gyda gwynt bywiog ac oer o’r de, ond arwahan i gawod fer cadwodd y glaw draw tan yn hwyr yn y prynhawn. Cychwynnodd y daith o Bron y Graig yn y rhan uchaf o’r dre, gyda dringo egniol i fyny’r bryn ar nifer o lwybrau cul, adrannau o ffyrdd gwledig a llwybrau drwy gaeau yn dod allan ar gyfandir arfordirol Ardudwy ar uchder o 850 troedfedd. Mae hwn yn dirlun arbennig o waliau cerrig cymhleth, systemau hen gaeau a llawer o olion anheddfaoedd cynhanesyddol yn dyddio yn ol fan leiaf i’r oes efydd. Roedd yna olygfeydd braf ond braidd yn fudanllud yn dywyllwch y dydd, i lawr i’r dref a chastell Harlech ac ar draws Bae Thremadoc i Potmeirion a Llyn yn y niwl. Tu draw Rhyd Galed Uchaf aeth y llwybr hebio Foel Sengl ac ar draws nifer o gamfeydd traddodiadol. Ar gyffordd aeth y cyfeiriad i’r de-orllewin ar hyd ffordd ucheldir unig, heibio croesffordd yn nodedig gan Gapel Engedi y Bedyddwyr a elwyd yn lleol fel “capel bara caws” oherwydd fod y gynulleidfa wasgaredig yn cael ei bwydo pan yn mynychu oedfaon. Ymhellach ymlaen ar safle adnabyddir fel Muriau Gwyddelod roedd yna awgrym o’r boblogaeth helaeth roedd yr ardal unwaith yn gynnal. Roedd lle caeedig a waliog, mwy na thebyg yn gorlan defaid, yn loches dderbyniol ar gyfer cinio. Aeth y llwybr yn ei flaen i lawr i’r arfordir, a chroesi’r ffordd fawr ger Llanfair. Yna ymunodd y ffordd a Llwybr yr Arfordir, ar stepiau serth i lawr i Reilffordd y Cambrian ac ar y traeth tywodlyd, gwag a llydan yn ehangu i’r gogledd. Roedd y mor gwyllt a’i resi o wrychoedd o dywyni a glaswellt tywod, yn sbardyn i gerdded yn frysiog am filltir a hanner. Yna roedd llwybr yn torri i’r tir drwy’r twyni heibio’r Cwrs Golff i Harlech isaf. Daeth ffordd serth droelliog (nid yr un newydd ei gofnodi fel y serthaf yn y byd) a’r parti i fyny at y castell hiliogaethus ac i’r caffi CADW ardderchog a’r ganolfan ymwelwyr. Roedd pawb wedi mwynhau y daith bleserus yma oddeutu 7 milltir a 1400 troedfed o ddringo dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 29ain Ragfyr 2019. Moel-y-Gest. Ail gychwynwyd hen draddodiad o ddringo Moel y Gest o gwmpas y Nadolig heddiw. Arweiniodd Judith Thomas gynulliad dda o 16 aelod yn awyddus i ymadael a ormodolion y Nadolig. Roedd am y rhan fwyaf yn ddiwrnod llwyd, ond arhosodd yn sych a thyner, a’r gwynt yn ysgafn, yn groes i’r rhagolygon. Cychwynnodd y daith o bentref Borth y Gest, a oedd yn eithriadol o ddeiniadol oherwydd llanw uchel y boreu. Ar ol ymylu y bae aeth y ffordd i’r tir ar hyd llwybr mwdlyd ac yn dangos ol treulio trwm. Ac yna croesi ffordd Morfa Bychan heibio Saethon a drwy faes carafanau Tyddyn Llwyn, sydd wedi ei guddio yn dda. Daeth dringo cymedrol a’r parti i ardal tir agored ac i groesffordd o lwybrau ar dir weddol wastad coediog o ble roedd y prif ddringo o grib y Foel yn cychwyn ar hyd llwybr garw a chreigiog i gyfeiriad y gorllewin. Cyrhaeddwyd copa’r dwyrain (231m) yn fuan, a chaniatau cyfle i gael te deg a’r cyntaf o olygfeydd teg ond braidd yn niwlog dros wastadedd arfordirol Morfa Bychan ac ar draws aber y Glaslyn. I’r gogledd roedd llechweddau a ffurfiwyd gan y chwarelu eang yn disgyn yn serth i’r ychydig ddatblygiad ar hyd y coridor ar yr A497 i’r gorllewin o Borthmadog. Roedd y rhan nesaf o’r llwybr i fyny i’r grib orllewinol (262m) yn anodd oherwydd y tir anwastad a’r creigiau llithrig ac roedd yn rhaid ymdrechu yn galed i ddringo drostynt. Y wobr ar y copa oedd mwy o olygfeydd i bob cyfeiriad. Mae yna weddillion o gaer oes yr haearn yma. Gwneuthpwyd y disgyniad i gyfeiriad y de-orllewin ar lwybr hawddach gwelltog ac ymlaen ar hyd hen lwybr y “ffordd bost”neu” ffordd coets” heibio lamas ffroenuchel a chymysgfa o anifeiliad eraill yn y ganolfan farchogaeth. Dilynnodd y rhan olaf lwybr mwdlyd yn ol i gyfeiriad Borth y Gest. Roedd yna gylchdaith anghenrheidiol i’r graig fawr wen yn cofnodi David Owen, telynor dall gyfansoddodd yn ol traddodiad y don enwog adnabwyd nawr fel Dafydd y Garreg Wen (ar ol y fferm ble roedd yn byw) fel iddo orwedd yn marw yn 29 oed yn 1741; mae wedi ei gladdu gerllaw yn Ynyscynhaearn. Roedd hon yn daith dda am yr amser o’r flwyddyn, 4.5 milltir yn yr un amser mewn milltiroedd a 1200 troedfedd o ddringo yn dywyllodrys o anodd. I derfynu roedd yna luniaeth yn caffi Sea View yn Borth y Gest. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 19eg Ragfyr 2019. Llanbedrog i Rhyd-y-Clafdy. Jean Norton ac Annie Andrew arweiniodd 19eg o aelodau ar daith gron bleserus o dros 8 milltir o Llanbedrog. Cychwynnodd y diwrnod yn braf a heulog, ond daeth glaw man ar ol cinio. I ddechrau fe aeth y daith i lawr i’r traeth, cymeryd y stepiau i fyny i Llwybr yr Arfordir ac yna i’r tir drwy gaeau i Fferm Crugan ac ar llwybr golygfaol. Mae hwn yn dy eithaf hardd, 300 mlynedd oed, yr hen blasdy i Penyberth, gyda cysylltiad i deulu Love Jones Parry, Madryn. Mae 75 acer o’r stad wedi goroesi yn cynwys coedwig gyda ieir Gini. Dyma aros am goffi a mince peis, diolch i’r arweinyddion, oherwydd iddi fod y daith olaf cyn y Nadolig. Parhaodd y daith heibio Coed Cefn Llanfair, a chroesi nant ger Penrhyndyn, ac yn fuan cyrraedd y fford i’r pentre bach Rhydyclafdy (mae’r “clafdy” yn atgof i’r fan yma unwaith fod yn dy i’r gwahanglwyfus). Yn fuan tu draw i dafarn Twnti (Tu Hwnt i’r Afon), cymerodd y cerddwyr lwybr i’r de-ddwyrain ar draws caeau adgored yn cynnwys nifer o hen, weithiau yn guddiedig, gatiau haearn a rhannau mwdlyd. Roedd yna arosiad am ginio gyda golygfeydd da i lawr i’r mor i gyfeiriad Pwllheli. Aeth y llwybr ymlaen ger Gellidara, ag ymuno a’r ffordd fach ger y Capel yn Penrhos. Wedi croesi’r A499 brysur arweiniodd y llwybr drwy gwrs golff Pwllheli, ail ymuno a Llwybr yr Arfordir ar hyd y trac yn rhedeg islaw’r tywynau yn ol i Pwllheli. Roedd hon unwaith yn dramffordd i gerbydau yn cael eu tynnu gan geffylau wedi ei adeiladu gan Solomon Andrews ar ddiwedd yr 19eg ganrif i gludo ymwelwyr i’r oriel gelf newydd yn Plas Glyn y Weddw. Mae’r Plas yn parhau i’r dydd hwn, yn fan ddiwylliannol gwerthfawr i Ben Llyn. Wrth i’r glaw drymhau, roedd y cerddwyr yn falch o gyflymu o amgylch Carreg y Defaid a chyrraedd yn ol am luniaeth yn caffi’r Plas ar ol sawl awr boddhaus ar y llwybrau. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 15ed Ragfyr 2019. Porthor i Porth Gwylan. Meri Evans arweiniodd y daith heddiw ar adran hyfryd o Lwybr yr Arfordir rhwng Porth Oer a Porth Gwylan. Criw o wyth gychwynnodd am hanner awr wedi naw ar ei ben, mewn haul dymunol a mynd i’r gogledd uwchben Porth Oer ac ar hyd nifer o gilfachau deniadol bob ochr i Porth Iago. Roedd yna lanw uchel ac mi oedd y mor yn ewynnog. Roedd y gwrthdaro cyson o’r tonnau gwyn ar greigiau garw’r clogwyni arfordirol yn olygfa ryfeddol yn y golau cryf. Wrth deithio gwelodd y parti amrywiaeth o fywyd gwylt, sef ychydig o forloi, niferoedd o adar mor yn cynnwys morfrain a chwpl o grwpiau o fobl mewn siwtiau du yn marchogi’r tonnau. Ar ol aros am goffi ger Porth Ferin dyma fynd i’r de fel roedd y glaw yn cyrraedd o’r de-orllewin a pharhau am oddeutu awr tra’r oeddem ar y rhan heibio Porth Widlin a Porth Ty Mawr. Pryn bynnag mi arhosodd yn olau a’r glaw yn cilio’n llwyr a chaniatau i ni gael cinio ar y creigiau uwchben Porth Colmon Fe gadwodd y llwybr ar hyd y bae hir, Traeth Penllech, ar ben y clogwyn man mwyaf, ond fe aeth i lawr i groesi nant cyfagos i raeadr. Roedd y llanw uchel yn rhywstro i ni gerdded ar y traeth ac roedd yn rhaid gwneud cylchdaith i fyny dyffryn gyda ffrwd tyfn er mwyn ail ymuno a’r Llwybr Arfordirol swyddogol. Roedd y mwyafrif o’r llwybrau mewn cyflwr gweddol, ond yn aml yn fwdlyd ar ol y tywydd gwlyb diweddar. Mae erydiad ar yr clogwyni bregus, tyfn a ffoslyd yn broblem gynyddol. Yn y prynhawn dyma ddioddef ddwy storm o gorwynt ddramatig, ac o fewn munudau hyrddwynt ffyrnig o law a cenllysg, gwyntoedd cryfion, a tharanau ac yna haul cryf gyda enfys llawn. O’r diwedd dyma’r llwybr yn cyrraedd cilfach Porth Ychain a phen y clogwyn yn arwain i Porth Gwylan. Dyma tro i’r tir yn dod a ni i fuarth fferm ble roedd y ceir yn ein disgwyl i’n cludo yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn dywyllodrus o egniol, ond hefyd yn ddiwrnod pleserus, yn gofiadwy oherwydd amrywiaeth y tywydd oedd yn ymddangos tirlun yr arfordir gwych mewn sawl gwisg. Cymerodd y daith naw milltir o amgylch pum awr ac roedd yna 1750 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Llun 16eg Rhagfyr 2019. Mae yna newyddion trist bod Rene Hayes wedi marw. Roedd Rene, ynghyd â’i gŵr Harold, yn un o sylfaenwyr Rhodwyr Llyn 40 mlynedd yn ôl. Roedd hi'n ddynes hynod yng nghanol ei 90au ac yn cadw mewn cysylltiad agos efo aelodau eraill y Clwb, gan ymweld yn rheolaidd â Llyn ac ymuno â ni ar un o wyliau'r Clwb ychydig flynyddoedd yn ôl. Dim ond yn ddiweddar y gwnaethom ddeall ei bod wedi symud i mewn i gartref. Ein cydymdeimlad â Lynda, ei merch. Noel. (Cyf-Google Cyfieithu)

Dydd Iau 5ed Ragfyr 2019. Cefn gwlad Llanystumdwy. Kath Spencer arweiniodd 21 o aelodau ar daith yng nghefn gwlad Llanystumdwy. Roedd yn ddiwrnod cymylog a phan ddaeth y glaw roedd yn ysgafn ac ni ymharodd ar yr hwyl. Wedi cerdded drwy’r pentref ac ar draws yr hen bont dros y Dwyfor, cymerwyd y ffordd i’r gogledd ac yn fuan mynd i’r caeau gyda ochr Coed Cabin. Aeth y llwybr heibio gweddillion Plas Gwynfryn, plasdy castellog adeiladwyd o gwmpas 1876 gan yr A.S. Ellis Nanney a gollodd yn hanesyddol ac o drwch blewyn i Lloyd George yn 1880. Yn ddiweraddach mi fu yn ysbyty rhyfel, yn gartref i blant amddifaid ac yn westy ond cafodd ei ddifrodi gan dan yn 1982. Ymhellach ymlaen dilynnodd y llwybr glannau coediog hyfryd yr Afon Dwyfach. Yn y rhan yma roedd yna nifer o gamfeydd cul trwsgl, oedd yn llithrig yn yr amodau tamp, a wnaeth y daith yn araf. Wedi croesi’r afon, dilynnodd y parti lon wledig i’r gorllewin, a mynd i’r de ar ran o’r Lon Goed brydferth ger Fferm Plashen. Cafodd y trac golygfaol gyda coed pob ochr yn mynd i’r tir o’r arfordir ger Afonwen, ei anfawroli gan y bardd R. Williams Parry, ei adeiladu gan stad leol yn gynnar yn y 19eg ganrif i helpu i ddod a chalch i wella caeau ffermydd. Roedd boncyffiau anferth coed wedi eu dymchwel gan stormydd diweddar yn le cyfleus am ginio. Ar ol oddeutu milltir trodd y ffordd i’r dwyrain ar drac mwdlyd gyda Ysgubor Hen, ty bonedd o’r flwyddyn 1700. Yna ail groesodd y llwybr y Ddwyfach a chyrraedd y lon bost a’r ffordd yn ol i Llanystumdwy. Roedd hon yn daith bleserus ac hamddenol oddeutu 6 milltir dros 4 awr yng ngwlad hyfryd Eifionydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 1af Ragfyr 2019. Betws-y-Coed - Llyn y Sarnau. Daeth boreu clir a heulog a 10 awelod o’r rhodwyr i Betws y Coed am daith gampus o dan arweinyddiaeth Dafydd Williams yn y bryniau o Goedwig Gwydir i’r gogledd o’r dre. Cychwynnodd y daith i’r gorllewin o’r bont adnabyddus, Pont y Pair (“pont y grochan”) sydd yn dyddio o amgylch 1500, a dilyn llwybr poblogaidd i fyny ar hyd yr Afon Llugwy drwy’r coed a gweirgloddau gwlyb. Roedd y llwybr yn arwain i’r enwog Bont y Mwynwyr (Miners’ Bridge), unwaith yn fan croesi i’r gweithwyr i’r niferoedd o fwyngloddiau plwm a sinc yn yr ardal. Yna aeth y daith ar y ffordd uwchben yr afon, mynd i fyny ger y gyffordd ochr uchaf i ganolfan Cymdeithas Eryri yn Ty Hyll (Ugly House). Aeth dringo serth heibio Cae Hydgyll a golygfan yn Tynllwyn, ac o’r diwedd cyrraedd Llyn Sarnau o amgylch 800 troedfedd o uchder. Mae hwn yn un o nifer o gronfeydd yn yr ardal adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer y mwyngloddiau. Mae cynllun i gryfhau rhai o’r cronfeydd, oherwydd pryder diogelwch, wedi ailddechrau yn dilyn methiant cwmni Dawnus, y cwmni peirianyddiaeth gwreiddiol mewn grym. Roedd y niwl cynnar yn y cwm nawr wedi troi yn haul mewn pryd i ni gael cinio dymunol ar fyrddau picnic ar lan y llyn. Gwneuthpwyd cylchdaith fer er mwyn gweld y ganolfan awyr agored Cyngor Conwy a chapel wedi ei newid, yn Nant Bwlch yr Haearn ynghyd a simdde gafaelgar o’r peiriant a ty boeler o’r cyn fwynglawdd plwm Llanrwst. Yna aeth y llwybr i’r de ar lwybr goedwigaeth, gyda ambell gipolwg o Foel Siabod rynllyd. Roedd hon yn ddiwrnod hyfryd yn cynnwys taith o amgylch 8 milltir ag 1100 troedfedd o ddringo dros 4.5 hour. Roedd amser ar ol cyn machlud haul i gael lluniaeth yn y Caffi Siabod poblogaidd a thaith hudol adref drwy ganol Eryri ym mrig y nos. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 21ain Dachwedd 2019. Mynydd Nefyn. Cyfarfu 22 o aelodau ym maes parcio Stryd y Plas, Nefyn am gylch iachus, o dan arweiniad Maureen Evans, i’r bryniau darluniadol i’r dwyrain o’r dref. Roedd yn ddiwrnod braf, heulog ond roedd effaith rhynllyd o wynt cryf o’r gogledd yn dod a’r tymherau i lawr i rewbwynt. I gychwyn dilynnodd y llwybr hen lwybr cul rhwng fythynod i ymylon y dref, mynd heibio Hen Eglwys Santas Mair, nawr yn gartref i’r Amgueddfa Forwrol arbennig. Yna roedd dringo cyson heibio Tyn y Mynydd a caeau bychan waliog i ardal eang o dir agored ar uchder o 700-800 troedfedd, yn ymestyn ar draws tri bryn amlwg. Defnyddiodd y daith rwydwaith o lwybrau gwelltog newydd eu gwella, i wneud tair dolen, yn rheiddiadu o Tyddyn Ffynnon: Yn gyntaf, i’r gogledd i fyny llethr i fan ardderchog o fanteisiol, Gwylwyr, yn caniatau golygfeydd gwych i lawr i Nefyn a Phorth Dinllaen; yna i’r de o amgylch gweddillion o un o amryw o chwareli ithfaen lleol o’r 19 ganrif oedd yn caniatau golygfa eang ar draws iseldiroedd canolbarth Llyn; yn olaf, i’r gogledd-ddwyrain o amgylch y graig amlwg gyda’r garreg ateb, Carreglefain, yn edrych ar draws i fryniau Yr Eifl a Carnguwch. Yna mynd ar i lawr yn ol i Nefyn, gan ddilyn trac hir a syth a llwybr serth ble roedd gwelliannau diweddar wedi ei difrodi yn ddifrifol yn dilyn erydiad gor lifo. Roedd hon yn daith hyfryd o tua 5 milltir gyda cyfanswm o 1400 troedfedd o ddringo. Roedd y golygfeydd ardderchog ar ddiwrnod clir yn gwneud gwynebu yr amodau rhynllyd yn werth yr ymdrech. Ar ol gorffen roedd y mwyafrif o’r parti yn falch i ymweld a chynhesrwydd Tafarn Nanhoron am luniaeth. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 17eg Dachwedd 2019. 'Fryniau Clynnog. Taith A/B', ac 'O amgylch Tre Ceiri. Taith 'C''. Roedd yna ddwy daith heddiw, y ddwy yn cychwyn ac yn gorffen yr un amser yn Llanaelhaearn. Dafydd Williams arweiniodd 4 ar daith haws o amgylch Yr Eifl. Noel Davey arweiniodd 8 ar daith anoddach i Fryniau Clynnog. Roedd yn ddiwrnod cymylog gyda niwl ar y copau, o dro i dro i lawr i lefelau eithaf isel, ond yn sych, tra roedd yna wynt oer mewn mannau yn gwynebu’r gogledd a’r dwyrain.
Taith 'A/B'. Cychwynnodd y daith anoddaf drwy fynwent yr eglwys yn Llanaelhaearn, croesi’r A499 a chymeryd llwybr dymunol ar hyd ochr nant i fyny drwy nifer o gaeau a gatiau i fferm Penllechog. Yna fe aeth y daith ar draws cae i dir agored a dringo llethr gwelltog yn gyd ochrog a cloddiau cerrig i gopa Moel Penllechog, bryn eithaf diarth ac ychydig dros 1000 troedfedd mewn uchder. Aeth y parti ar i lawr tipyn o ffordd i’r de i adfeilion hen ffermdy ble cafwyd arhosiad cynnar am baned gyda golygfeydd da dros iseldiroedd Eifionydd i’r mor ac i gyfeiriad ynysoedd St. Tudwals. Ymunodd llwybr i’r gogledd ar draws gaeau garw, yn fuan a’r Llwybr Arfordirol Cymunedol newydd sydd yn croesi llwyfandir Clynnog ar uchder oddeutu 1000 troedfedd. Troiodd y llwybr ar ol hanner milltir i fyny 700 troedfedd ychwanegol ar lwybrau defaid i gopa Gyrn Ddu. Edrychai y meini mawr duon llithrig sydd yn ffurfio’r can troedfedd olaf o ben y mynydd yn fygythiol yn y niwl, cafodd ei anwybyddu heddiw. Yn ei le cymerwyd lwybr ar draws y bwlch yn union i’r dwyrain, yn disgyn i’r gogledd ddwyrain ar draws gwellt garw, ac yna dilyn clawdd i gopa Gyrn Goch, y trydydd copa o’r dydd 1625 troedfedd. Er gwaethaf ymdrechion yr haul gwelw uwchben, dal i’n trechu ni oedd y niwl i weld y golygfeydd gwych i bob cyfeiriad sydd yw gweld o’r man manteisiol yma ar ddiwrnod da. Cymerwyd ginio mewn man cysgodol o dan y copa. Aeth y ffordd yn ol i’r de ar draws rhostir gwelltog di lwybr, ac ail ymuno a’r Llwybr Arfordirol Cymunedol trwy un o nifer o fylchau cyfleus ble fel arall roedd y waliau cadarn wedi chwalu. Dilynwyd hwn i’r gorllewin am oddeutu milltir, y golygfeydd ar draws Llyn yn dychwelyd. Wrth cwpl o hen ffermdai yn cael eu atgyweirio wrth Fronheulog, aeth y ffordd i lawr trac i Maes y Cwm ac yna ffordd Cwm Coryn yn ol i lawr i Llanaelhaearn. Roedd hon yn daith dda ar gyfer diwrnod tamp a niwlog ym mis Tachwedd, pellter o ryw 7 milltir mewn 5 awr gyda dringo cynyddol o bron 2000 troedfedd .Golygai y cychwyn cynnar fod digon o amser i aros yn Tyddyn Sachau am de cymdeithasol ar ol diweddu. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith 'C'. Dewis arall oedd hon, o dan arweiniad Dafydd Williams, i’r daith A oedd ar y rhaglen ac yn mynd i fyny i dri copa ar Fryniau Clynnog, yn cael ei harwain gan Noel Davey. Cychwynnodd y ddwy daith a’i gilydd o’r un man, y maes parcio gerllaw eglwys Llanaelhaearn, y ddwy garfan yn mynd yn groes, yr A i’r dwyrain a’r B i’r gorllewin.
Roedd yna 4 aelod yn y parti B ar ddiwrnod tamp a niwlog, aeth yr hanner milltir cyntaf i fyny’r allt ar y B4417 i gyfeiriad Llithfaen, cyn troi i’r dde ac i’r gogledd ac amlinellu ar draws sawl cae cyn dyfod allan ar ffordd fechan. Dilynwyd hon hyd nes i ni gyrraedd giat ar y chwith ble yn ddiweddar iawn roedd coedwig fechan wedi ei dymchwel, roedd arwydd y llwybr ar lawr ac mi aethom ychydig o bellter i’r neilltu. Yn ol ar y llwybr cywir dyma amlinellu yr ochr gogleddol o Tre Ceiri ac, yn dilyn arosiad am baned, dyma gyrraedd y trac sydd yn dringo yn serth i Bwlch yr Eifl ac yna disgyn i gyfeiriad Mount Pleasant. Fel arfer mae golygfeydd ardderchog o’r man yma ond nid heddiw oherwydd y niwl a’r cymylau isel. Oddeutu thri can llath yn fyr o Mount Pleasant dyma gymeryd llwybr amlwg ar y chwith oedd yn dringo wrth i ni amlinellu a chafwyd ginio o fewn golwg i Caergribin, brig mawr creigiog. Yna dyma’r niwl bygythiol oedd wedi bod yn cuddio copa Tre Ceiri yn disgyn nes inni fod yn ei ganol. Dyma gario ymlaen ar i fyny, nawr ar lwybr i’r copa ac mi wyddom bod rhaid mynd i’r dde ac i’r de, roedd yna ddau lwybr, yr ail roeddem ei eisiau ac mi gafwyd hyd iddo yn y niwl trwchus ar ol tipyn o drafferth. Yna mynd ar i lawr yn serth drwy’r grug ar lwybr llithrig nes i ni gyrraedd diogelwch y B4417 ble roedd un neu ddau o gerddwyr o griw diarth o gerddwyr yn cael eu holi gan griw yn ymddangos fel pobl teledu. Yna cwbl oedd eisiau ei wneud oedd cerdded i lawr y ffordd yn ol i’r maes parcio ar ol mwynhau cerdded o 6.5 milltir. Tra roeddem ni yn tynnu ein esgidiau dyma’r cerddwyr A yn ymddangos ac ymuno a mynd i caffi Tyddyn Sachau, diweddvglo ardderchog i’r ddwy garfan. Dafydd Williams.

Dydd Iau 7ed Dachwedd 2019.  Coed y Brenin. Roedd y daith heddiw yn Coed y Brenin. Arweiniodd Nick White ddwsin ar grwydr ddifyr mewn tywydd cymylog ond yn glir a sych. Roedd Parc y Goedwig yn edrych yn rhyfeddol: symffoni o liwiau melyn ac aur yr hydref, coniferau urddasol gwyrdd tywyll a hafnau tyfn a thamp, wedi ei hollti gan ddwr rhuthriedig mewn llawn lifeiriant ar ol y glaw diweddar. Cychwynnodd y daith yn Ganllwyd a chroesymgroesi’r Mawddach i fyny’r afon ar bontydd troed ar hyd llwybrau llydan coedwigaidd ar y ddwy ochr i’r afon. Aeth y ffordd heibio gweddillion mwynglawdd aur Gwynfynydd ger Ferndale, wedi cau ers 1998, ond nawr gyda rhagolygon o ail agor. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti y ddwy raeadr wych Pistyll Cain a Rhaeadr Mawddach, lle delfrydol i gael cinio uwchben swn y dwr yn wrthdaro. Mae yna gynllun anymwthiol hidro-electrig yn bodoli yn dilyn cynllun o’r 19 ganrif. Roedd hon yn daith hawdd a ddymunol o 5.7 milltir, aros am luniaeth yn Caffi Llyn Trawsfynydd ar y ffordd adref.  Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 3 Dachwedd 2019. Glyderau - Llwybr Dot Coch a Chylchdaith Capel Curig i Ty-hyll. Roedd yna ddwy daith heddiw. Richard Hirst arweiniodd barti o ddeg o Pen y Pass i fyny’r Glyderau. Aeth Dafydd Williams a tri aelod ar daith lefel is ac hawsach o Capel Curig.
Taith 'A' .Cyfarfu y grwp mynydda ger Pen y Gwryd a mynd ar y bws Sherpa i fyny’r allt i’r man cychwyn sef Pen y Pass. Roedd y glaw ar y dechrau i weld yn cadarnhau y rhagolygon digalon tamp a niwl ar y mynyddoedd, ond buan y trodd yn sych ac roedd yn ddiwrnod eithaf dymunol gyda ysbeidiau cyson o haul yn caniatau golygfeydd da i dreiddio drwy’r cymylau. Aeth y daith i fyny i’r gogledd i Glyder Fawr o tu ol i’r gwesty heicwyr, gan ddilyn y llwybr “Red Dot” sydd fawr o ddefnydd ohono. Mae yna i weld o hyd pob hyn a hyn sblasus o baent coch ond wyr neb o sicrwydd pa bryd na phaham y gwneuthpwyd y rhain. Roedd y ffordd yn cynnwys llwybrau gwelltog gyda rhai adrannau creigiog, ond ddim yn arbennig o anodd. Mi gymerodd y dringo o 2000 troedfedd oddeutu ddwy awr a hanner yn cynnwys arhosiad am goffi. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti y cerrig cwmpiedig ar gopa Glyder Fawr. Yna fe aeth y ffordd i’r dwyrain ar draws y cerrig rhyfedd gwasgaredig ar lwyfandir y Glyderau ar uchder o 3000 troedfedd, wedi ei nodweddu gan bentyrau ffrwydrol o greigiau llwyd garw drylliedig.. Mi fu arhosiad am ginio mewn man cysgodol ger Bwlch y Ddwy Glyder. Cawsom ambell gip olwg ryfedd o lethrau’r Grib Coch, Lliwedd a daeth Llyn Cwmffynnon allan o’r niwl. Ar ol mynd heibio Castell y Gwynt a Glyder Fach, cyrhaeddodd y parti Y Gwyliwr, yr enwog graig “Cantilever”, sydd yn ymwthio allan, a dringo i fyny ar gyfer y llun rhes mandadol. Yna dyma’r llwybr yn dechrau disgyn yn araf, gan fynd i’r de ac ymuno a Llwybr y Mwynwyr. Daeth hyn a golygfeydd heulog o brydwedd anferth Tryfan yn codi gerllaw, y llethrau gwyrdd ac aur o Foel Siabod, a Gwaunydd Dinbych, yn frith o dwrbinau gwynt, yn y pellter. Roedd y llwybr i lawr mewn llawer i le yn llifo gyda rhydfeydd dwr a rhaeadrau. Roedd y disgyn yn araf ar brydiau gan fod yna gregiau anodd neu fannau corslyd a dioddef o cramp. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti yn ol i’w ceir yn disgwyl yn yr arhosfan ar y ffordd bost fel roedd golau dydd yn diflannu ac yn golygu defnyddio torsau. Roedd hon yn daith egniol wobrwyol oddeutu 6 milltir dros chwe awr a hanner. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith 'B'.Trefnwyd y daith o dan arweiniaid Dafydd Williams fel taith arall i’r daith A anoddach , oedd yn dringo’r Glyderau, a chael ei harwain gan Richard Hirst. Cychwynnodd y diwrnod yn damp a gwlyb ac felly yr oedd hi pan i ni foduro heibio Pen y Gwryd, man cychwyn y daith A, ond erbyn i ni gyrraedd Dyffryn Mymbyr mi wellodd yn arw. Dim ond tri ddaeth i’r maes parcio tu ol i siop Joe Brown a dyma gychwyn i’r gogledd ar yr hen A5 cyn yn fuan iawn troi i’r de orllewin yn Gelli cyn cyrraedd a chroesi’r A4086. Yna cymeryd y llwybr rhwng pen dwyreiniol o Llynnau Mymbyr a Chanolfan Cenedlaethol Mynydda Plas y Brenin cyn mynd i’r chwith ar lwybr coedwigaidd ar ochr deheuol yr Afon Conwy. Dilynwyd y llwybr drwy goedwig oedd wedi ei wasgaru gan ddail derw yn pydru, i Bont Cyfyng, gyda’r afon mewn llif yn dilyn y glaw trwm diweddar. Yna ymlaen i’r un cyfeiriad ar y ffordd darmac, yr hen A5 cyn belled a Ty Hyll a chroesi’r bont ar yr A5 ac yn serth i fyny ar y ffordd fach yn dilyn i Llyn Geirionydd. Gan fynd i’r chwith ar oddeutu 400 llath fe aeth y llwybr a ni drwy’r goedwig ac ambell i fan gwlyb a mwdlyd am yn agos i dair milltir yn gyfochrog a’r ffordd allanol. Prin filltir yn brin o Capel Curig dyma ddod allan o’r coed i olygfa o Foel Siabod o’n blaen yn dominyddu’r gorwel. Gorffennodd y daith, fel y dylau pob taith dda, mewn caffi ble ymgeisiodd dau ohonom ond methu i fwyta sgon maint torth fach gyda paned o de. Dafydd Williams. 

Dydd Iau Hydref 25ain 2019. Cwm Teigl / Cwm Cynfal. Arweiniodd Tecwyn Williams 25 o gerddwyr o Cae Clyd yn pentref Manod ar daith ddifyr drwy’r ardal braf o wlad ochr isaf i Blaenau Ffestiniog. Roedd y tywydd heulog clir yn ymddangos y lliwiau hydrefol cyfoethog o’r coed derw a’r ffawydden a’r rhedyn ungoes ar y llethrau ar eu goreu. Chafodd y niwl cynnar a’r ambell gawod yn y prynhawn fawr o ddylanwad ar bethau yn gyffredinol. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn agos i’r cae pel droed, cyfeirio i’r de ddwyrain o amgylch troed copa mawreddog Manod Mawr a chroesi’r rhostir garw ar uchder o 800 troedfedd. Ger y bwthyn o’r 14 ganrif, Caecanol Mawr, dyma fynd yn siarp ac i’r de-orllewin heibio Teiliau Mawr, ar lwybr yn arwain i lawr ac ar draws y rheilffordd sydd wedi cau o Trawsfynydd i Blaenau. Roedd y lein ar ddefnydd o 1964 i 1998 i wasanaethu’r atomfa, yn cynnwys cario fflasgiau niwclar. Roedd yna ymdrech anlwyddianus i ail agor y lein yn 2016-1 7tra mae yna Ymddiriedolaeth Trefdadaeth yn breddwydio o’i ail agor. Roedd yr arhosiad am ginio yn caniatau golygfeydd braf i gyfeiriad maint uchel o’r Moelwyniaid, Argae Stwlan yn sefyll allan yn glir hanner ffordd i fyny’r mynydd, ble mae’r gwaith maen yn cael ei atgyweirio. Wedi croesi’r A470 brysur disgynnodd y parti i Cwm Teigl, a dilyn adran hardd o goed yn nyffryn yr afon yn nodweddu cenllifau a rhaeadrau ysblennydd. Mewn man ble roedd yr hen bont wedi dymchwel aeth y daith i’r gogledd ar drac gwelltog, nawr yn rhan o’r Llwybr Llechi, a heibio’r cyrn uchel yn Pengwern Old Hall, cartref i foneddigion pwysig gyda dechreuad Elizabethan. Aeth y rhan olaf i Cwm Bowydd, dilyn llwybrau ymdroellog ar draws gwlad gyda choed toredig, ac o’r diwedd arwain yn ol i Manod. Roedd hon yn daith bleserus, o dan bum milltir ar gyflymdra hamddenol ar gyfer y rhif oedd yn cerdded a’r nifer o’r camfeydd cerrig oedd rhaid eu dringo. Ar y diwedd roedd yr arweinydd wedi trefnu te ardderchog yn y Seren yn Llan Ffestiniog gaeth ei werthyfawrogi yn fawr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 20ed Hydref 2019. Aber Falls / Carneddau. Roedd yna ddwy daith heddiw y ddwy yn gwynebu tipyn o gystadleuaeth oddiwrth y rygbi rhyngwladol. Aeth saith aelod ar yr daith A yn cael ei arwain gan Annie Andrew ac Jean Norton, a gwneud dychweliad croesawgar i’r hyfryd Ddyffryn Aber, ble gwneuthpwyd taith dydd Iau ychydig wythnosau ynghynt. Ymunodd pump o dan arweiniad Dafydd Williams ar y daith B lefel is yn cychwyn o Talybont. Roedd yn ddiwrnod dymunol sych gyda cyfnodau o haul.

Taith 'A'. Cychwynnodd y daith galetaf o’r maes parcio yn Abergwyngregyn gan ddringo drwy’r pentref deniadol, heibio’r ty twrbin o’r cymdeithas cynllun hidro Ynni Anafon i goed y Warchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber. Cyrhaeddodd y parti yn fuan y Rhaeadr enwog yn pen y Dyffryn, golygfa ysblennydd yn dilyn y glaw trwm diweddar. Ar ol croesi’r Afon Rhaeadr Fawr, dyma aros am goffi islaw rhaeadr y Rhaeadr Bach. Fforchiodd y llwybr i’r de orllewin ar lwybrau aneglur drwy’r rhedyn ungoes, croesi’r Afon Gam oedd yn gorlifo a dringo’n gyson i fyny’r afon. O’r diwedd dyma gyrraedd llwybr gwelltog, oedd yn mynd a’r parti i’r gogledd ac yn syth i gopa Moel Wnion oddeutu 1900 troedfedd. Nodir hwn gan weddillion carn oes efydd mawr, nawr yn loches i gerddwyr gyda piler cyn triongliant mapau swyddogol y llywodraeth wedi ei blanu yn y canol. Roedd y man manteisiol yma yn le i gael cinio rhynllyd a golygfeydd pell ar draws y Carneddau, i gyfeiriad Ynys Mon ac i lawr yr arfordir ble roedd y “coedwigoedd” o’r twrbinau gwynt Gwynt y Mor i’w gweld yn ymdeithio yn agos i’r glannau. Oddi yno roedd y cyfan ar i lawr, disgyn yn rhwydd ar lwybrau gwelltog a rhan o Lwybr Gogledd Cymru sydd yn rhedeg yn uchel ar hyd ochr gorllewinol o Ddyffryn Aber. Roedd y rhan olaf yn dilyn trac a llwybrau drwy gaeau heibio Henffordd yn ol a lawr i Abergwyngregyn mewn amser i gael te buan yn y caffi cymunedol. Roedd hwn yn ddiwrnod da, yn cynnwys oddeutu saith milltir a dringo 2000 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith 'B'. Trefnwyd y daith yn ol dymuniad arweinyddion y daith A, Jean Norton ac Annie Andrews, rhag ofn i’r tywydd achosi iddynt fethu cyrraedd y copa o Foel Wnion. Fel datblygodd pethau di-sail oedd eu ofnau achos iddi ddatblygu i fod yn ddiwrnod cerdded ardderchog gyda haul achlysurol a gwynt ysgafn. Cychwynnodd y daith B, o dan arweiniad Dafydd Williams, o arhosfan ar yr hen A55 agos i filltir i’r dwyrain o Castell Penrhyn a mynd i’r de a chroesi yr A55 newydd ar bont gerdded i wartheg ger Tal y bont uchaf. Aeth y llwybr ymlaen i’r de ar i fyny ac o amgylch coed yn Tan y marian a drwy iard y fferm yn Plas Uchaf a chyrraedd ffordd B. Aeth hon i’r chwith ac i’r de ddwyrain am oddeutu hanner milltir cyn cyrraedd Llwybr Gogledd Cymru a dyma aros a mwynhau paned o goffi. Yna aethom ar i fyny a dal i’r de drwy gaeau a chyrraedd odre Moel Wnion a chael golygfeydd ardderchog o Sir Fon a’r Orme Fawr yn Llandudno i’r gogledd orllewin. Yna amlinellodd y llwybr gwelltog cyn cylchu i’r gogledd ddwyrain ac ymuno a ffordd drol fwdlyd yn llawn tyllau a mynd ar i lawr i Bryn Hall yn gyfagos i chwarel lechi wedi cau. Yna ar i lawr eto a dilyn llwybr chwarel, ac ymuno a ffordd darmac gul cyn mynd ar lwybr ar draws caeau yn arwain i bentref Llanllechid a chael cinio yn fynwent yr eglwys gauedig sydd yn drist yn brysur ddirywio. Oddi yno mynd i’r gorllewin ar lwybrau braf a choediog ar hyd glannau Afon y Llan tan i ni gyrraedd yr A5 yn Halfway Bridge a mynd ar lwybr i’r gogledd orllewin ar ochr yr Afon Ogwen a cyrraedd Felin Cochwillan gyda’i argae darluniadol, a chroesi’r afon ar bont haearn i gerddwyr. Yna fe aeth y llwybr i’r gogledd o dan yr A55 newydd ac heibio Clybiau Rygbi a Chriced Bangor hyd nes i ni gyrraedd Llandygai a’r brif fynedfa i Gastell Penrhyn. Oddi yno roedd yna ddim ond oddeutu milltir yn ol i’r ceir wrth i ni gerdded drwy’r pentref del a chroesi’r hen A55 a drwy dau gae. Roedd i weld fod y cerddwyr wedi mwynhau y daith ar gyflymdra derbynniol a’r cellwair parhaol. Dafydd Williams.

Dydd iau 10ed Hydref 2019. Nant Gwrtheyrn. Er gwaethaf y rhagolygon am dywydd gwlyb a gwyntog, roedd yna 25 o aelodau ar gyfer y daith heddiw yn cael ei arwain gan Noel Davey i Nant Gwrtheyrn, man y Ganolfan iaith Gymraeg. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn agos i Mount Pleasant uwchben Llithfaen. Aeth y daith i’r de orllewin ar draws y llwyfandir anwastad ac agored i Ciliau Uchaf, ac ymlaen ar draws caeau wedi eu beuddu gan wartheg, i Pistyll. Cerddwyd y rhan yma yn sydyn yn wyneb cawodydd ysbeidiol a gwynt bywiog o’r de orllewin. Dyna aros yn y fan hyn i gael cinio buan ac ymweld ac Eglwys Sant Beuno, y rhan fwyaf ohoni yn dyddio o’r 15ed ganrif ond wedi ei adeiladu ar safle o’r 6ed ganrif ac yn berthnasol i’r pererindod i Ynys Enlli; mae y naws syml heddychol yn cael ei hyrwyddo gan y traddodiadau o ganwyllau a llawr frwyni; mae’r fynwent yn cynnwys bedd yr actor Rupert Davies, sef Maigret. Roedd yr ail ran o’r daith yn fwy llaes ac yn llac, yn sychach a chysgodol, er yn llithrig mewn mannau. Yna fe aeth y daith i’r gogledd ddeheuol ar Lwybr yr Arfordir, heibio gweddillion o’r drefedigaeth i’r gwahanglwyfys o’r canol oesau a dringo i fyny i’r hen chwarel ar bentir Penrhyn Glas. Oddi yno roedd yna olygfeydd, braidd yn llym heddiw, i lawr yr ehangder hir y traeth yn ymestyn i Nant Gwrtheyrn, yn cysgodi o dan wal o fryniau serth chwarelig. Am fyr amser collwyd y llwybr ger Ciliau isaf, cyn dringo Gallt Bwlch drwy goed derw. Ar ol aros eto am ail ginio, dilynodd y llwybr lan y mor, a mynd heibio hen adeiladau chwarel a dringo i fyny i’r Nant. Yno roedd Caffi Meinir yn ein disgwyl gyda lluniaeth cyn y dringo olaf serth 800 troedfedd ar y ffordd olygfeyddol a throelliog yn ol i Mount Pleasant, gyda oddeutu hanner yn cerdded a hanner yn dibynnu ar gludiant car. Roedd i weld fod y mwyafrif wedi mwynhau y daith o 5-6 milltir. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 6ed Hydref 2019. Dyffryn Dysynni. Aeth taith heddiw a 10 aelod o’r Clwb i gwm hyfryd Dyffryn Dysynni yn ne Gwynedd. Arweiniodd Hugh Evans 7 ar daith “A” o 11.5 milltir ac oddeutu 2800 troedfedd o ddringo, tra i Nick White arwain 3 ar daith “C” o 6/7 milltir. Roedd yn ddiwrnod sych gyda’r cyfnodau heulog yn cynyddu ond roedd yna wyntoedd bywiog. Cychwynnodd y ddwy daith o safle y castell Cymraeg Castell y Bera o’r 13eg ganrif wedi ei adeiladu ar fryn coediog gyda golygfeydd dros y dyffryn. I gychwyn aeth y daith i’r gogledd ddwyrain heibio’r capel yn Llanfihangel y Pennant o ble o gwmpas 1800, mi gerddodd yr enwog Mary Jones yn droed noeth 26 milltir i’r Bala i brynu copi o’r beibl Cymraeg, camp a sbardunodd cychwyniad Cymdeithas Beiblaidd Prydain a Thramor.
Taith 'A'. Yna fe aeth y daith hir i’r gorllewin ar hyd ochr gogleddol o Ddyffrn Dysynni. Wedi croesi Nant Caw yn Bodilan Fach, roedd yna ddringo cyson o oddeutu 1500 troedfedd ar drac gwelltog yn arwain i’r rhostir. Yn hytrach na dal ymlaen i’r gogledd i’r bryn a’r enw Trawsfynydd, fe aeth y daith i’r gorllewin dros dir garw a mynd heibio Esgair Berfa. Cymerwyd ginio mewn lle cysgodol ar y copa yn agos i gorlannau.. Roedd yna ambell i gip niwlog o Ynys Enlli ar draws Bae Ceredigion. Aeth trac gro ac yna ffordd gul balmantaidd , hefyd yn ffordd beicio 82, i lawr i gyfeiriad y de gyda thro ar lwybrau caeau ger Foel Tyr gawen. Roedd y dysgyniad araf yn caniatau golygfeydd ardderchog dros y caeau nodedig o wyrdd llachar a ffrwythlon gwastad a gwlyb Dysynni, yn ymestyn i Tywyn ar yr arfordir. Yna dilynnodd y llwybr y cloddiau, y ffosydd a’r morglawddiau i fyny ac ar hyd yr afon, i gyfeiriad y clogwyni mawreddog Craig y Deryn, wedi ei enwi yr ol yr hanes am ei fod y lle nythu mewdirol mwyaf i mulfrannau yng Nghymru. Cymerwyd cylchdaith i ddringo i’r copa 850 troedfedd ar lwybr weddol hawdd o ble roedd yna fwy o olygfeydd ysblennydd. Roedd y rhan olaf yn gerdded hawdd ar hyd heolydd bychain i’r man cychwyn, ac rhoddi amser i edrych o amgylch gweddillion Castell y Bere yn haul y prynhawn hwyr, ar ol diwrnod ardderchog o gerdded. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith 'C'. Fel dewis arall i’r daith egniol A oedd ar y rhaglen, trefnodd ac arweiniodd Nick White, ar fyr rybudd y daith C yma yng nghwmni dau aelod arall. Yn fyr, cychwynnodd y daith o faes parcio Castell y Bere ac ar ol ymweld a’r nodedig gapel Mary Jones yn Llanfihangel y Pennant, mynd ymlaen ar lwybrau dymunol ond gwlyb iawn mewn mannau, oddeutu tair milltir i Abergynolwyn a chael cinio ar fainc yn sgwar y pentref. Dychwelodd y daith ar ochr y ffordd a’r afon yn arwain i Castell y Bere. Roedd hon yn daith ddymunol a hamddenol o chwe milltir gyda tywydd ardderchog ac yn gorffen mewn modd ardderchog gan fwynhau te a bara brith yn ty Nick ac Ann yn Nolgellau. Dafydd Williams.  

Dydd Iau 26ain Fedi 2019. Rhaeadr Aber. Jean Norton ac Annie Andrews drefnodd dwy daith o Abergwyngregyn i’r Rhaeadr. Cyfarfu 23 aelod yn maes parcio’r pentref. Cludwyd 5 ohonynt filltir i fyny’r cwm i’r Bont Newydd, tra roedd y gweddill yn cerdded ar hyd y ffordd ddymunol drwy’r pentref, yn enwog fel man llys Llewelyn Fawr. Ymunodd y partion a mynd ymlaen ar y llwybr graean oedd yn dringo yn araf i’r Rhaeadr Fawr yn ben y cwm. Mae’r llwybr yn mynd heibio sawl lleoliad o oes yr efydd, meini sefydlog a charneddau, yn adlewyrchu hen draddodiadau ein cyndeidiau. Yn dilyn y glaw trwm dros y dyddiau diweddar roedd y Rhaeadr yn ei lawn lifeiriant, yn disgyn i lawr 120 troedfedd mewn ffrwydrad chwistrellud. O’r man yma aeth y cerddwyr “D” yn ol ar yr un llwybr i’r pentref. Mynd i’r gorllewin i’r rhaeadr llai, Rhaeadr Bach, wnaeth y cerddwyr “C, ble roedd safle ar lan yr afon yn le ardderchog i fwynhau cinio. Yna aeth y llwybr yn ol ar hyd yr ochr orllewinnol o’r cwm, gan ddilyn llwybr eithaf gwastad oddeutu 600 troedfedd o uchder, mewn ffaith ar Lwybr Gogledd Cymru. O’r man yma roedd yr golygfeydd yn ol i gyfeiriad y ddwy raeadr a’r pentwr uchel o fynyddoedd y Carneddau yn y cefndir. Ymhellach ymlaen roedd y llwybr yn esgyn ac yn disgyn yn weddol serth, roedd yna olygfeydd gwych o’r arfordir gyda Ynys Puffin? yn y blaen ac yna pentref Abergwyngregyn, y twmpath amlwg Pen y Mwd, mwnt amddiffynnol o’r 11fed ganrif, yn amlwg iawn. Cafodd y daith bleserus hon o oddeutu 5 milltir ei hyrwyddo gan ddiwrnod clir gyda dim ond un gawod o law. Roedd y lluniaeth yn y caffi cymunedol yn y pentref o’r safon uchel arferol ar ddiwedd y daith. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22ain Fedi 2019. Moelfre-Bodafon. Aeth y daith heddiw a 9 o rodwyr i’r arfordir deheuol o Ynys Mon ar gylch diddorol ac amrywiol o 10/11 milltir o dan arweiniad Dafydd Willimas. Roedd y rhagolygon am law, ond cyfyngwyd hwn i gawodydd o law man yn hwyr yn y boreu , tymherau cynnes a chlir yn y prynhawn. Cychwynnodd y parti i’r gorllewin ar draws caeau i gyfeiriad Lligwy a’r galwad cyntaf oedd y safleoedd rhyfeddol hynafiaethol yn y man yma yn cynnwys, siamber gladdu 4000 mlynedd oed yn perthyn i oes diweddar y meini gyda carreg anferth, pentref Din Lligwy 2000 mlynedd oed o amser y Rhufeiniaid a gweddillion Hen Gapel Lligwy o’r 12fed ganrif. Ar ol cael llond bol o hanes aeth y cerddwyr ymlaen i’r gorllewin ar lwybr coediog wedi ei gynnal gan y “Silver Slashers”, (Adran wirfoddol o Rhodwyr Ynys Mon) a drwy ardal o feysydd carafanau oedd wedi achosi tipyn o helynt a newidiadau i lwybrau swyddogol. Ar ol aros am goffi, croesodd y llwybr rostir o grug ac eithin, heibio’r eglwys a ficerdy Sant Michael, Penrhoslligwy, ac o’r diwedd cyrraedd y grib amlwg greigiog Yr Arwydd a Mynydd Bodafon. Roedd y copa 600 troedfedd yn caniatau golygfeydd braf dros fwynder yr ynys, yn ymestyn i’r de ar draws y Fenai ac i fynyddoedd Eryri. Yna disgyn i le mwy cysgodol, Tyn y Mynydd am ginio. Ymlaen i’r gogledd ddwyrain, croesi’r lon bost yr A5025 yn Brynrefail a throi yn Dafarn Y Pilot a mynd ar drac gwelltog yn ffurfio rhan o Lwybr yr Arfordir uwchben y moryd tyfn Traeth Dulas. Dilynnodd yr adran nesaf o’r daith y Llwybr i’r de, sgyrtio nifer o fae hyfryd a pentyrrau creigiog. Roedd y llefydd o ddiddordeb yn cynnwys Ynys Dulas gyda’i dwr nodweddiadol, morlo bychan wedi ei adael ar lan y mor a bad achub newydd Moelfre yn gwibio allan i’r mor ar alwad. Yn dilyn arhosiad byr yn Traeth Lligwy, aeth y 2.5 filltir olaf heibio nifer o atgofion o drychineb dryllio’r Royal Charter, gan gyrraedd y pentref del Moelfre. Roedd yna amser am luniaeth cyn y siwrne adref i Llyn ar ol diwrnod pleserus iawn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12ed Medi 2019. Felin Uchaf, Rhoshirwaun. Miriam Heald drefnodd siwrna ddiddorol ger Rhosirwaen, yn cynnwys taith gerdded fer ac ymweliad yn dilyn i le anghyffredin gerllaw sef y Ganolfan Felin Uchaf. Daeth 33 aelod o’r clwb er gwaethaf y tywydd niwlog oedd yn ymharu ar y golygfeydd. Gan gychwyn o’r maes parcio yn Felin Uchaf, aeth y llwybr i’r de drwy dir Bodrydd, fferm wedi ei datblygu i fusnes hamdden. Aeth y ffordd o amgylch nifer o lynnau golygfaol pysgota a gerddi grug. Roedd dwy durbin gwynt yn chwyrn-droi uwchben, yn ymharu braidd ar y cefndir sydd arwahan i hyn yn dirlun dymunol islaw Mynydd Rhiw. Drwy gerdded ar lwybr o graean da, daeth y parti i’r ffordd ac o fewn cam neu ddau i Felin Uchaf. Creuwyd y safle deuddeg mlynedd yn ol fel canolfan ddiwylliannol ac ecoleg, yn hyrwyddo chreftau traddodiadol gwledig a credoau Cymraeg gyda cefndir amgylchedd sensitive. Mwynhaodd y parti daith ar rwydwaith o lwybrau gwelltog drwy 20 erw o goed wedi eu plannu. Roedd rhain wedi eu dotio hefo nifer o adeiladau wedi eu llunio o dderw ac wedi ei cerfio, waliau traddodiadol a toiau gwyrdd, yn cynwys dau dy crwn Celtaidd, storfa i sychu llysieuynnau , arsyllfa, toiled gwyrdd, ysgubor uchel wedi ei waellu a derw yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu dodrefn a gwneud cychod, gyda caffi a chanolfan astudio wrthi yn cael eu adeiladu. Ar ol cinio yn yr arsyllfa cafodd y grwp wahoddiad i de yn y mwyaf o’r tai crwn, cefndir ar gyfer hanes clasurol o’r Mabonogion a draethwyd yn ddeniadol gan David Davies Hughes, y perchennog hudolus a chrewr yr anturiaeth unigryw yma. Mi brofodd hwn i fod yn ddiwrnod bywhaol a gwahanol. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 8ed Fedi 2019.
Taith gerdded 'A'.  Rhinog Fawr. Saith aelod gyrhaeddodd y cwm anghysbell a hydolus yma sef Cwm Bychan yn Ardudwy ar gyfer dringfa egniol o Rhinog Fawr. Y tro olaf i’r clwb ymdrechu i ddringo y mynydd hwn roedd yn rhaid i’r dringwyr fynd yn ol hanner fordd i fyny oherwydd gwyntoedd 70 m.y.a. Roedd gwyntoedd ysgafn heddiw a chyfnodau hir sych a heulog yn gyferbyniad croesawus. Cychwynnodd y parti o’r llyn darluniadol Cwm Bychan, dringo 1000 troedfedd i fyny Bwlch y Tyddiad ar beth alwyd yn “Grisiau Rhufeinig”, er y peth tebyca yw fod y bwlch yma yn mynd yn ol cyn belled a’r oes efydd. Cymerwyd arhosiad am goffi ar y top ac edrych dros y llwybr dwyreiniol i lawr i gyfeiriad Trawsfynydd. Dyna’r ffordd yn troi i ffwrdd ar lwybr drwy’r grug yn troelli i fyny i’r lle sarrugllyd gyda’r enw priodol, Llyn Du. Oddi yno cymerodd y parti un o lawer o lwybrau creigio, ac anodd i’w gweld, i fyny’r llechwedd serth gogleddol, ble roedd rhaid defnyddio’r dwylo rywfaint, i gyrraedd y copa gyda uchder o 2367troedfedd. Er gwaethaf y cymylau tywyll bygythiol uwchben y copa, gwella yn fuan wnaeth y golau a rhoi golygfeydd godidog a heulog i bob cyfeiriad: yn agos i’r de, roedd copau Rhinog Fach, Y Llethr a Moelfre, i’r dwyrain ac yn bellach, y ddwy Arenig a Llyn Trawsfynydd, ac i’r gorllewin arch o Llyn yn ymestyn yn bell i’r mor i Cilan ac Ynys Enlli. Wedi adfywio gan ginio aeth y parti i lawr ar lwybr eitha rhwydd ar y llethr de-orllewinol ac o’r diwedd troi i’r gogledd ar lwybrau dirgel drwy grug ar lwyfandir llydan ac unig 1500 troedfedd. Yn is i lawr croesodd y llwybr dir llawn dwr i gyrraedd dwr llonydd Gloyw Lyn, y llyn disglair, a lle i gael te. Yna roedd siwrne fer dros y grib tu ol, ac ail ymuno a’r ffordd allan ger hen bont droed gerrig. Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog ar y mynydd distaw rhyfeddol yma, yn cymeryd 6.5 awr i gerdded yr un faint o filltiroedd, ac 2500 troedfedd o esgyniad. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Taith cerdded 'B'Llyn Gloyw Lyn . Tra roedd taith A anodd i fyny Rhinog Fawr yn cael ei harwain gan Noel Davey, trefnwyd un B haws a chael ei harwain gan Tecwyn Williams. Fel datblygodd pethau dim ond Tecwyn a Dafydd Williams gychwynnodd o faes parcio Coed Gerddi Bluog yn Cwm Bychan i ddringo i fyny i Llyn Gloyw Lyn 1300 troedfedd. Golygai hyn gerdded eithaf egniol o 5 milltir mewn tywydd cerdded da ac ond cyfarfod dau gerddwr arall dros gyfnod o bedair awr. Dafydd Williams. 

Dydd Iau 29ain Awst 2019. y Bala / Llyn Tegid. Roedd yna ddwy daith heddiw o amgylch tref y Bala. Dafydd Williams arweiniodd 12 aelod ar y daith galetaf, cymeryd drosodd oddiwrth Gwynfor Jones oedd wedi dyfeisio’r daith ond oedd yn anhwylys. Ar y cyfan roedd yn ddiwrnod cymylog ac eithaf gwyntog ond mi oedd ambell i gyfnod clir ac mi oedd yn ddiwrnod da i gerdded. Cychwynnodd y daith ger yr Ganolfan Hamdden a mynd gyda ymyl glan gogleddol o Llyn Tegid oedd yn brysur gyda llongau hwylio yn ymdopi hefo dwr eithaf garw. Wedi croesi Pont Mwynwgyl y llyn dyma’r daith yn troi i mewn i goed dymunol, yn dringo yn eithaf serth drwy Coed Pen y Bont o 500 troedfedd i dros 1000 troedfedd o uchder. Tu draw i Ffridd Fach ddeiliog daeth y llwybr allan i uwchdir toredig. Yna aros i gael cinio ble roedd llwybrau yn cyfarfod ger Cefn ddwygraig. Yna dyma’r llwybr yn ail ymuno a’r goedwig wladol ac o’r diwedd allan i gaeau dyrchafedig ac yn caniatau golygfeydd ardderchog o’r llyn a thref y Bala yn nythu i’r gogledd a gwrthgloddiau Arenig Fawr i’r gorllewin. Disgynnodd y daith ar lwybr rhwydd i anifail gan fynd heibio cyn gwrs golf a’r clwb cymdeithasu nawr yn westy moethus. Tu draw i weddillion mwnt a beili o’r 13 ganrif a terfyn rheilffordd mesur cul Llyn y Bala i Llanuwchllyn, croesodd y parti y llwybr allanol gan droi ar ddolen ddiddorol ar ochr y llwybrau dwr ac argaeau cymleth yn gysylltiedig a’r llyn, yn cynnwys yr Afon Dyfrdwy a’r Afon Tryweryn. Pasiodd y rhan olaf yn annisgwyl o dan fwa o Bont y Bala yn pontio y prif ffordd ac i mewn i strydoedd cefn y dre yn arwain yn ol i’r Ganolfan Hamdden. Profodd hon i fod yn daith bleserus o 6 milltir ac yn cynnwys 1000 troedfedd o ddringo i derfynu mynhawyd luniaeth yn Cafi’r Llyn gerllaw. Noel Davey.
Arweiniodd Nick White 4 aelod ar daith fyrach gron 3-4 milltir gan gylchu i’r gorllewin ac i’r gogledd o Bala. Wrth fynd i lawr y bryn daethant ar draws chwarel rhyfeddol, mwy tebyg i ogof gron na chwarel agored. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 25ain Awst 2019. Roedd dwy daith gerdded heddiw:
Taith gerdded 'A': Aran Fawddwy. Dydd o haf perffaith - mae’n debyg mae hon oedd gwyl y banc Awst cynhesaf erioed – a dyma oedd y gosodiad am ddiwrnod cofiadwy ar fynyddoedd yr Aran. Aeth parti o saith i’r lle anghysbell, cuddiedig a thlws Cwm Cywarch i’r gogledd o Ddinas Mawddwy. Mae hanes diwydiannol i’r cwm wedi ei seilio ar fwyngloddio plwm ac chynt am ladron (y Cochion Cywarch), ond nawr mae yn du hwnt o ddistaw a gwledig ac mae’r cysylltiad i cywarch neu cannabis yn yr enw yn ddirgelwch. Cychwynnodd y daith oddeutu 500 troedfedd uwchben y mor ger y fferm Blaencywarch, ac i fyny cwm cul eithaf serth gyda theimlad alpaidd gan ymylu bwtres creigiog Glascwm. Ger copa’r cwm aeth y gwres anghyfarwydd yn drech a rhai a phenderfasant fynd yn ol. Aeth pedwar cerddwr ymlaen i’r gogledd ddwyrain ar draws y llwyfandir di gysgod gwelltog, a chael eu helpu ar draws y mawn llaith gan nifer o slipers lein, llawer ohonynt bellach yn dyriwio. Yna dyma copa creigiog Aran Fawddwy, dim ond 31troedfedd yn fyr o 3000 troedfedd ac y mynydd Cymraeg uchaf i’r de o’r Wyddfa, yn dod i’r golwg. O’r diwedd dyma’r parti yn cyrraedd y copa, yn boeth ac yn flinedig ac mewn angen o ginio hwyr. Tra roedd hi braidd yn dawchlyd roedd yna olygfeydd ysblennydd o’r uchder odidog yma ar draws y cribau gwyrdd o ganolbarth Cymru ac i lawr ar unwaith i Creiglyn Dyfi, tarddiad yr Afon Dyfi. Wrth fod y 3-4 milltir o ddringo wedi cymeryd amser cymharol o oriau dyma bebderfynu peidio ac ymestyn y daith yn bellach i’r gogledd ar hyd y grib i Aran Benllyn, ond wrth fynd ar i lawr ac edrych yn ol roedd yna olygfeydd gafaelgar o’r ymyl gogleddol clogwynog o grib y ddwy Aran a chip olwg o Lyn Tegid tu hwnt. Roedd y ffordd i lawr yn weddol rhwydd, mynd i’r de ddwyrain ar draws grib welltog Drysgol ac heibio carn unig yn y man ble lladdwyd achubwr mynydd RAF gan fellten. Dyma’r parti yn mynd i’r de orllewin ac yna ar lwybr eithaf hawdd oedd yn cyfuchlinellu ochrau Pen yr Allt Uchaf ac i lawr i’r cwm siap U bedol Hengwm ac yn ol i Cwm Cywarch. Mi oedd yn dda gweld amryw o gerddwyr o gwmpas, ond mae’r mynyddoedd anghysbell yma yn ddefrydol i osgoi tyrfaoedd gwyliau’r banc. Arweinwyd y daith fynyddig, arbennig ac egniol yma gan Hugh Evans, gyda Noel Davey yn dirprwyo rhan o’r ffordd. Roedd y pellter yn 7.6 milltir a dringo o 2850 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Taith gerdded 'B': Mallwyd. Penderfynodd Hugh Evans oedd yn arwain y daith A ei fod eisiau taith arall B rhag ofn i’r tywydd ei rwystro i ddringo’r mynydd. Fel digwyddodd pethau roedd y tywydd yn hollol groes a Dafydd Williams arweiniodd y daith B gyda pump aelod arall ar ddiwrnod llethol o boeth. Cychwynnodd y daith oddeutu 8 milltir o Westy’r Brigand, Mallwyd ac ar unwaith mynd i’r dwyrain a dringo lon fach a pharhau i ddringo’n gyson ond ar ol Ysgubor Wen fe aeth y tarmac yn ffordd fferm ac yna yn lwybr troed yn mynd gyfochrog a’r B458 i gyfeiriad Y Trallwm. Tuag at ddiwedd y 3.5 milltir allanol roedd y llwybr yn anodd i’w ddilyn ac yna wedi ei lwyr rwystro gan ffens 6 troedfedd oedd yn cadw ffesantau(coedieir) ifanc yn y fan ei magwyd. Roedd yna yn llythrennol ganoedd o’r adar yma o gwmpas, cael eu magu i gael eu saethu, mae yn anobeithiol dyfalu pwy fwynhad mae pobl yn gael o’r math yma o sbort. Yna mynd i’r gogledd a chyrraedd ffordd fechan arall a’i cherdded am bellter byr a mwynhau ein cinio yn adwy fferm a chymeryd llwybr drwy’r buarth. Yna dod allan ar yr un lon fechan a dringo yn serth cyn creoesi’r B458 a dal at i fyny ar y tarmac. Yna mynd heibio nifer o ffermydd a thai yn adfeilio dros bellter o oddeutu 1.5 milltir cyn cymeryd llwybr i lawr drwy gae a chyrraedd unwaith eto ffordd fechan a chael egwyl cyn croesi rhyd ar bont bren. Ar i fyny unwaith eto a chael anhawster dod o hyd i gamfa simsan yn croesi ffrwd ac i ddilyn gorfod gwthio ar i fyny drwy lwyni a rhedyn am oddeutu 30 llath i ail ennill y llwybr. Yna roeddem o fewn golwg i’r stesion betrol gerllaw Gwesty’r Brigand a dyma ei chyrraedd yn ddidrafferth ar lwybr rhwydd. Er ar brydiau i’r gwres fod yn llethol, cerddwyd ar gyflymdra cymedrol ac mi oedd yn bleserus ond y tro hwn roedd golygfeydd yn brin oherwydd i ni fod mewn dyffryn ac ochrau serth. Roedd y te a’r cacenau yn y Brigand yn dderbyniol dros ben. Dafydd Williams. 

Dydd Sul 11ed Awst. Llanfairfechan. Kath Spencer arweiniodd 9 o rodwyr ar daith gron 12 milltir ardderchog o Llanfairfechan. Dilynodd y daith ran fwyaf o’r hen lwybrau gwyrdd sydd yn croesi’r llwyfandir uwchben 1000-1400 troedfedd o uchder, ac yn cylchu Tal y Fan mewn cyfeiriad yn groes i’r cloc. Roedd yn ddiwrnod cymylog a thamp gyda cawodydd byr parhaol, ond dyma’r niwl cynnar yn clirio peth ac ambell i lygedyn o haul, yn caniatau golygfeydd da ar draws y tirlun cyfagos. Cychwynnodd y daith o faes parcio bychan uwchben Gwarchodfa Natur Nant y Coed, ac i ddechrau yn disgyn i gyfeiriad y pentref ac yna dringo’n serth i fyny ysgwydd i ben Garreg Fawr. Yna ymunodd y llwybr a’r ffordd Rhufeinig yn mynd i’r dwyrain-orllewinnol gan fynd drwy Bwlch y Ddeufain. Mae hwn yn llawn o hen gofadailau yn cynnwys cerrig meini, cylchoedd a charneddau, ond mae hefyd yn anffodus wedi ei ddifetha gan linellau yn trosglwyddo grym trydan uchel. Roedd nifer o nentydd yn gorlifo ar draws y trac yn sialens ar ol y glaw, ond o’r diwedd cyrhaeddodd y parti y maes parcio bychan yn y pen uchaf o’r ffordd i fyny o Rowen. Troiodd y ffordd i’r gogledd ger Cae Coch ble i hen ysgubor mewn corlan fod yn le sych a chysgodol i ginio. Roedd yna olygfeydd ardderchog i lawr Dyffryn Conwy, yn cynwys cip olwg pell o’r pebyll ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, ac yn hwyrach Castell Conwy, amlinellau o Llandudno wedi ei amgylchu rhwng y ddwy Orme ac, allan yn y mor, nifer fawr o wyliedydd gwynion Gwynt y Mor. Yna dyma’r daith yn troi i’r gorllewin ar hyd y trac cynhanesyddol llydan, nawr yn ran o Lwybr Gogledd Cymru, yn rhedeg uwchben chwareli Penmaenmawr. Daeth hyn a’r parti i’r cylch rhyfeddol o 30 o gerrig a adnabyddir fel Cylch y Derwydd (Meini Hirion) yn dyddio i oes ddiweddar y meini, ac hefyd cylch arall llai ar lethrau Cefn Coch a Moelfre. O’r diwedd dyma’r ffordd yn dechrau dringo yn ol ac yna i lawr i gyfeiriad Llanfairfechan, ac yn caniatau mwy o olygfeydd o’r arfordir gyda Mynyddoedd y Carneddau yn y cefndir. Daeth hyn a’r parti yn ol i’r dyfroedd cwymplyd a’r goedwig hyfryd o Nant y Coed a dringo byr yn ol i’r man agored braf uwchben yr arfordir. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 15ed Awst. Bwlch y Ddwy Elor. Ar ddiwrnod dymunol braf a heulog cyfarfu 25 o aelodau a gwesteion yn Pant Cae’r Gors ger Rhyd Ddu ar gyfer taith drwy Goedwig Beddgelert o dan arweiniad Dafydd Williams. Ymunodd preswylydd lleol a’r grwp am ran o’r ffordd. Aeth y rhodwyr ar draws y Rheilffordd Ucheldir Cymru i’r gorllewin ar hyd traciau coedwigoedd heibio Moelfryn a Parc Cae Cra Ar ol cwpl o filltiroedd fe aeth y daith i’r de a dringo i oddeutu 1400 troedfedd drwy Bwlch y Ddwy Elor unig, yn ol yr hanes yn atgofio defnydd hanesyddol o fwlch y mynydd yma i gludo cyrff ar elorau rhwng Cwm Pennant a Beddgelert. Fe aeth y llwybr i lawr drwy’r gweddillion gafaelgar o Chwarel Tywysog Cymru (Prince of Wales). Fel llawer o chwareli lleol roedd hon yn fethiant arwrol, a’i gadael yn 1886 ar ol dim ond 13 mlynedd o weithredu anfuddiol. Roedd yna aros am ginio ar slabiau twll chwarel tyfn gyda golygfeydd ysblennydd i lawr y llethrau a’r tramffordd yn rhedeg drwy Cwm Pennant i’r mor yn y pellter ger Porthmadog, creigiau Moel Lefn yn esgyn uwchben un ochr o’r dyffryn ac arc o grib Nantlle yn wrych yr ochr arall. Yna dyma’r cerddwyr yn ymdrechu yn ol i fyny llwybr creigiog drwy Bwlch Cwm Trwsgl, a chyrraedd diffeithwch o ran o’r goedwig wedi ei chwympo. Dilynodd gwedill y daith lwybrau coedwigoedd da a chael seibiant ar lan coediog Llyn Llewelyn. Ymunodd y rhan olaf o’r daith a Lon Gwyrfai, gan fynd heibio Hafod Rufydd Ganol ac Isaf. Roedd hon yn daith 6.5 milltir fwynhaol dros oddeutu 4 awr. Gwnaeth rhai o’r parti arosiad arall yn Beddgelert am fwy o luniaeth. Noel Davey. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 1af Awst 2019.Beddgelert-Cwm Bychan. Daeth diwrnod heulog a chynnes a 25ain o aelodau i Beddgelert ar gyfer clasur o daith yng nghanol Eryri. Maureen Evans arweiniodd y daith trionglog oddeutu 6.3 milltir gyda cymorth gan Dafydd.  i gychwyn fe aeth y daith i’r de i lawr i Bwlch Aberglaslyn, gan gymeryd llwybr y pysgotwyr sydd yn gul a chreigiog ac yn glynnu yn beryglus i ymyl yr hafn coediog uwchben y dwr gwyn taranllyd yn yr afon Glaslyn yn ei llawn lifeiriant ar ol y glaw trwm diweddar. Yn Bont Aberglaslyn aeth y llwybr i’r dwyrain ac yna’r gogledd, a dringo dros wreiddiau coed i lannerch ble roedd yna fyrddau picnic cyfleus a symbylodd stop am baned deg. Yna dringo cyson drwy dir grug gwyllt Cwm Bychan o uchder o 100 troedfedd i bron 1000 troedfedd i Bwlch y Sygun a Grib Ddu. Oherwydd i rhai fod yn ymdrechu yn y gwres cymerwyd ginio hanner ffordd mewn man gyda golygfeydd ardderchog i’r de cyn belled ac Aber y Glaslyn ac i’r dwyrain i gopau rhai o fynyddoedd Eryri. Yn uwch i fyny’r cwm aeth y llwybr ger rhes hynod o bileri haearn oedd un tro yn cynnal rhaffau awyrol i gludo mwyn o’r mwyngloddiau yn uwch i fyny’r cwm, i lawr i’r felin brosesu. Byr oedd y gollyngdod o gyrraedd y bwlch oherwydd i’r daith i lawr y llwybr graeanog fod yn serth ac yn ysigiadol ar y pen gliniau tan cyrraedd glan Llyn Dinas llonydd ymhell islaw. Roedd y rhan olaf o’r triongl i’r de orllewin yn ol i Beddgelert ac yn dilyn llwybr rhwydd a gwastad drwy lwyni o rodyn ungoes ble roedd mwy o’r rhododendron ysbeilwraidd wedi ei glirio. Yna dyma’r parti yn gwasgaru, rhai i’r caffi lleol ac eraill i dderbyn cwrteisi cerddwr preswylydd. Roedd hon yn daith ddifyr yn ol yr arfer, wedi ei harwyddo gan y tywydd rhagorol ac ar gyflymdra hamddenol yn addas ar gyfer y tirwedd a’r gwres. Noel Davey. (Cyf-DHW).