Awst 11 – Gorff 12

Awst 11 – Gorff 12

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau 26 Orffenaf 2012. Llanaber i Panorama Bermo. Pump ar ugain yn cael eu arwain yn fedrus gan Nick White gyda chymorth Ann ac yn cerdded ar hyd y” Panorama Walk” i Bermo. Mi oedd y daith bleserus hon hefyd, yn gwneud defnydd o Lwybr Ardudwy ac mi oedd golygfeydd godidog o Aber y Mawddach. Mi wnaeth mwyafrif y criw ddefnydd o’r tren o Bwllheli ar ddiwrnod heulog ond braidd yn niwlog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22 Orffenaf 2012. Llwybr yr Arfordir Sir Fon Cemaes i Church Bay. Ian Spencer arweinodd 9 cerddwr ar hyd Llwybr yr Arfordir Sir Fon o Gemaes i Church Bay. R’ oedd yn sych ond braidd yn wyntog. Mi oedd y llwybr yn eu harwain heibio Gorsaf Ynni Wylfa gyda golygfeydd godidog o’r arfordir yn Bae Cemlyn a Camel Head. Mae Y Skerries gerbron yr arfordir yn y fan yma ac er mwyn hwyluso morwriaeth mae dwy arwydd nobl sydd yn cael eu adnabod fel dwy ddynes wen mewn llinell gyda twr ar Ynys White Mouse. Pan i’r criw fynd i’r de am Church Bay mi oedd y golygfeydd yn odidog Mi gryfhaodd y gwynt ac mi gofnodwyd gyflymdra o 61 m.y.a. Mi oedd pawb wedi mwynhau y daith. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12 Orffenaf 2012. Cylch o Lanllyfni. Kath Mair arweinodd 17 cerddwr ar gylchdaith hyfryd o Lanllyfni. Am unwaith mi oedd y tywydd yn braf. Ymweld a phentref Nasareth ac ar hyd y Llwybrau Llechi ar waelod Grib Nantlle gyda gologfeydd  arbennig tuag at Sir Fon a’r Menai Straits. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8 Orffenaf 2012. Cnicht. Mi oedd yna ddwy daith.Y daith hir yn cael ei harwain gan Judith Thomas o Groesor i fyny Cnicht. O’r copa dilyn y grib cyn disgyn i Nanmor ac i fyny’r heol fach i Gelli Iago. Oddi yno dringo i Bwlch y Battel a dychwelyd i Groesor. Ar ol bore braf y prynhawn yn troi yn wlyb.

Cwm Croesor. Nich White yn arwain yr ail daith ar hyd Cwm Croesor. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 28 Fehefin 2012. Cwmorthin a Rhosydd. Nick ac Ann White yn arwain criw o 25 aelod ac yn cychwyn o Danygrisiau. Dringo i gyfeiriad yr hen chwarel yn Cwmorthin. Dyma’r glaw trwm yn troi i fod yn lofeiriol ac ar ol cyrraedd gweddillion yr hen  gapel dyma benderfynu i fynd yn ol wrth i’r llwybr fod o dan tua 3 modfedd o ddwr. Cafwyd paned dderbyniol iawn yn y caffi yn Tanygrisiau. Erbyn hyn mi oedd ochr Moel yr Hydd yn wyn o sawl rhaeadr yn dylifo i gronfa Tanygrisiau. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 24 Fehefin 2012. Ar Draws y Carneddau. Noel Davey arweinodd 11 cerddwr ar daith anodd ar draws y Carneddau. Cychwyn o Fferm Gwern Gof Isaf drwy ddringo yn syth i fyny ochr y Carneddau. Yn anffodus mi oedd yr awyr yn dywyll ar ddiwrnod cymylog a niwlog. Uchafbwynt y daith hir hon oedd cael golwg ar y Rhaeadr Fawr yn llifo’n wyn yn dilyn y glaw trwm diweddar fel iddynt agosau at Abergwyngregyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd iau 14 Fehefin 2012. Llyn Trawsfynydd. Alan Edwards a Beryl Davies arweinodd 32 aelod ar daith hyfryd dros 6 milltir o Drwasfynydd drwy y coed yn y Warchodfa Natur Cenedlaethol Ceunant  Llennyrch. Cael picnic ger y Rhaeadr Ddu, safle bendigedig ond yn anffodus r’oedd y caffi yn Trawsfynydd ar gau ac felly dim te fel r’ oedd yr addewid. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 10 Fehefin 2012. Cylchdaith Moel Fferna. Dafydd Williams yn arwain 8 aelod ar daith bleserus o 9 milltir o Gynwyd i fyny Moel Fferna ar ymylon gogleddol mynyddoedd y Berwyn. Mi oedd y tywydd yn braf gyda golygfeydd ardderchog o’ u cwmpas yn cynnwys Moel Famau, y ddwy Arenig a mynyddoedd Eryri. (Cyf-DHW).

Llaniestyn. Yr un prynhawn  arweinodd Miriam Heald griw bychan ar daith bleserus o gwmpas Llaniestyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 3l Fai 2012. Botwnnog. David ac Elisabeth Williams arweinodd 26 aelod ar daith o Fotwnnog ar hyd heolydd bychan yn ol ac ymlaen i Laniestyn. Yn anffodus mi oedd  glaw man drwy’r dydd ond r’ oedd y cerddwyr yn eitha hapus drwy gydol y daith bleserus. Miriam a Tony Heald yn caniatau y cerddwyr i wneud defnydd o’i cartref braf yn Llaniestyn i gael picnic a llechu odiwrth y glaw. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 27 Fai 2012. Llangybi, Bronmiod, Pen y Gaer. Tri Moel a Ffynnon. Catrin Williams arweinodd  gyda cymorth medrus Noel Davey taith o Langybi ar ddiwrnod pan i’r tymherau gyrraedd 28gradd.c. Mi ymwelodd y criw o 16, Ffynnon St. Cybi a dringo Garn Bentyrch ac yna cerdded i’r gogledd i Foel Bronmiod. Ar ol dringo Moel Bronimod mynd i’r dwyrain cyn dringo eu trydydd, Pen y Gaer ac felly yn cyflawni tri Moel a Ffynnon. Yna dychwelyd i Langybi drwy gyfnuno ffyrdd a llwybrau. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 24 Fai 2012. Cinio’r Gwanwyn. 48 aelod yn mwynhau y cinio yn  cael ei gynnal eleni yn y Ganolfan Iaith Gymraeg  ysblennydd yn Nant Gwrtheyrn. Ar ol pryd arbennig cael gwrando ar araeth gan Dion Llwyd, Cadeirydd Tim Achub Mynydda Aberglaslyn. Rhoddwyd siec o £200.00, elw raffle a drefnwyd gan Tecwyn Williams yn rhodd i’r Tim Achub. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 17 Fai 2012. Abersoch -  Yn ol ac ymlaen i Foel Gron.  Miriam Heald arweinodd 24 cerddwr o Abersoch ar daith arbennig i gyfeiriad Mynytho. Cawsant ologfeydd ysblennydd i lawr  arfordir y Cambrian i Cadair Idris o ben Foel Gron ar ol dringo i’r copa a dychwelyd i Abersoch. Er i’r tywydd fod yn niwlog mi oedd yn gynnes ac yn bleserus i gerdded. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 13 Fai 2012. Creigiau Gleision.  Hugh Evans arweinodd 14 cerddwr gan gamu yn heini ar daith o Gapel Curig i fyny’r grib i Creigiau Gleision. Yna disgyn i gronfa Llyn Cowlyd. Ymlaen ar hyd ochr y gronfa cyn dychwelyd i Gapel Curig ar ddiwrnod braf ond gwyntog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 3 Fai 2012. Llwybr Arfordir Llyn.  Dwy daith yn cael eu harwain gan John Enser, 22 cerddwr o Rhiw ac yr un amser Judith Thomas yn arwain 20 o Fynydd Mawr  acv yn cyarfod yn Aberdaron ac yn mwynhau sgons, hufen a jam! Trefnwyd y teithau i ddathlu agor cyn hir, Llwybr Arfordir Cymru Gyfan. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 29 Ebrill 2012. Carneddau, Bera Bach a Bera Mawr. Gorfod gohirio’r daith oherwydd rhybudd fod tywydd garw yn debygol. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 24 Fai 2012. Cinio’r Gwanwyn. 48 aelod yn mwynhau y cinio yn  cael ei gynnal eleni yn y Ganolfan Iaith Gymraeg  ysblennydd yn Nant Gwrtheyrn. Ar ol pryd arbennig cael gwrando ar araeth gan Dion Llwyd, Cadeirydd Tim Achub Mynydda Aberglaslyn. Rhoddwyd siec o £200.00, elw raffle a drefnwyd gan Tecwyn Williams yn rhodd i’r Tim Achub. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 17 Fai 2012. Abersoch -  Yn ol ac ymlaen i Foel Gron.  Miriam Heald arweinodd 24 cerddwr o Abersoch ar daith arbennig i gyfeiriad Mynytho. Cawsant ologfeydd ysblennydd i lawr  arfordir y Cambrian i Cadair Idris o ben Foel Gron ar ol dringo i’r copa a dychwelyd i Abersoch. Er i’r tywydd fod yn niwlog mi oedd yn gynnes ac yn bleserus i gerdded. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 13 Fai 2012. Creigiau Gleision.  Hugh Evans arweinodd 14 cerddwr gan gamu yn heini ar daith o Gapel Curig i fyny’r grib i Creigiau Gleision. Yna disgyn i gronfa Llyn Cowlyd. Ymlaen ar hyd ochr y gronfa cyn dychwelyd i Gapel Curig ar ddiwrnod braf ond gwyntog. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 3 Fai 2012. Llwybr Arfordir Llyn.  Dwy daith yn cael eu harwain gan John Enser, 22 cerddwr o Rhiw ac yr un amser Judith Thomas yn arwain 20 o Fynydd Mawr  acv yn cyarfod yn Aberdaron ac yn mwynhau sgons, hufen a jam! Trefnwyd y teithau i ddathlu agor cyn hir, Llwybr Arfordir Cymru Gyfan. Ian Spencer.

Dydd Sul 29 Ebrill 2012. Carneddau, Bera Bach a Bera Mawr. Gorfod gohirio’r daith oherwydd rhybudd fod tywydd garw yn debygol. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

13-20 Ebrill 2012. North York Moors. Mae Y Clwb newydd ddychwelyd ar ol wythnos o wyliau yn aros yn HF Holiday’s Larpool Hall yn Whitby. Trefnwyd tair taith bob dydd dros y pum diwrnod ac mi oedd y teithiau yn amrywio o 13 i 6 milltir y naill ar y North Yorkshire Moores neu’r arfordir. Er i’r tywydd fod yn siomedig mi oedd y gwyliau yn llwyddiannus ac yn foddhaol i’r 41 aelod. Cafwyd raglen adloniant  amrywiol gyda’r nos wedi eu threfnu gan Mary Williams. Ar y diwrnod rhydd treuliodd y mwyafrif o’r aelodau amser diddorol yn y dref hanesyddol, Whitby. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 5 Ebrill 2012. Y Coed Islaw Rhinog Fawr. Colin White arweinodd yn ddeallus 23 aelod ar  daith drwy y coed islaw Rhinog Fawr. R’ oedd yr aelodau yn tu hwnt o ddiolchgar i Colin oherwydd iddo gymeryd yr awenau ar fyr rybudd yn dilyn marwolaeth teuluol. Profodd hon i fod yn daith hyfryd. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 1 Ebrill 2012. Pont Rhufeinig (Roman Bridge). Ian Spencer arweinodd 20 cerddwr ar daith o Orsedd Bont Rufeinig. Ar ddiwrnod braf cerddasant i lan Llyn Diwaunydd, lle ardderchog i gael cinio. Ymlaen wedyn i fyny’r cwm i Bwlch y Rhediad o ble cawsant ologfeydd godidog o Ddyffryn Nant Gwynant a Phedol y Wyddfa (Snowdon Horseshoe). (Cyf-DHW).

Dydd Iau 22 Fawrth 2012.Llwybr Mawddach. Karla Lightfoot arweinodd barti enfawr o 43 cerddwr ar Lwybr Mawddach. Mi oedd pawb wedi mwynhau gan fod i’r mwyafrif o’r cerddwyr  deithio yn ol ac ymlaen o Bermo ar y tren, a chael y bws  i Benmaenpool i ddechrau’r daith. Taith hawdd ond yn bleserus dros ben. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 18 Fawrth 2012. Mynydd Maentwrog, Mwynglawdd Aur. Tecwyn Williams arweinodd barti o 15 aelod ar daith o Domen y Mur dros fryniau Mynydd Maentwrog. Ychydig o gerdded sydd yn yr ardal yma a toes fawr o lwybrau i’w cael. Er hynny mi oedd yn daith arbennig yn cynnwys ymweliad i safle gynt yr hen Fwynglawdd Aur y Tywysog Edward. Dychwelyd i’r cychwyn ar ol dringo Mynydd Maentwrog a Craig Wen ar ddiwrnod braf o Wanwyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Cronfa Llyn Trawsfynydd. Ar yr un diwrnod arweinodd Nick ac Ann  White 11 cerddwr ar daith llai egniol o’r un man cychwyn ond i gyfeiriad Cronfa Llyn Trawsfynydd, lle cawsant le deniadol i gael picnic. Mi oedd pawb wedi mwynhau y daith yn arw. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 8 Fawrth 2012. Cyfarfod Blynyddol yn Nghapel  Y Traeth Criccieth.  Mi oedd 43 aelod yn bresennol, cynulliad da iawn. Neuthpwyd diolchiadau i’r Cadeirydd Meirion Owen oedd yn ymddeol ac hefyd teyrnged i Arwel Davies, Y Trysorydd. oedd yn ymddeol ar ol 18 mlynedd yn y swydd. Cyflwynwyd tocynau i Arwel a blodau i’w wraig Glenys a oedd wedi darparu lluniaeth ardderchog i aelodau’r  pwyllgor yn eu cartref dros flynyddoedd maith. Etholwyd Noel Davey yn gadeirydd, Dafydd Wiliams yn drysorydd a Nick White a Miriam Heald yn aelodau o’r pwyllgor.Yn dilyn y Cyfarfod Blynydol cawsom araeth gan Swyddog Llwybrau’r  Glannau ynglyn a Llwybr yr Arfordir ac am agoriad Llwybr Cymru yn mis Mai eleni. Yna mi atebodd gwestiynau ynglyn a trafodeuthau ar fannau ansicr.

Yn dilyn cinio mi arweinodd Ian Spencer 30 aelod  daith i lawr yr afon Dwyfor i Lanystumdwy a dychwelyd i Griccieth ar lwybr yr arfordir. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 4 Fawrth 2012.Beddgelert, Sygun, Cwm Bychan .Mi arweinodd Judith Thomas yn fedrus iawn 18 aelod o Feddgelert i  gyfeiriad mwynglawdd Copar Sygun. Yna dringo i ben Cwm Bychan ac i fyny i gopa Moel Dyniewyd.  Oddi yno mynd i gyfeiriad Bryn Castell a chael golygfeydd godidog o Bedol y Wyddfa  ac yn arbennig Grib Nantlle o dan yr eira. Yna ymlaen at “The Ten Mile Road” cyn dychwelyd i Feddgelert ar hyd lannau Llyn Dinas. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 23 Chwefror 2012. Llwybrau Sarn Mellteyrn. Miriam a Tony Heald arweinodd griw o 33 ae;lod o Sarn Mellteyrn. Yn anffodus mi oedd ar adegau yn niwlog iawn ac yn dylanwadu ar ologfeydd o’r gwaunydd a’r coed yn ganol Penrhyn Llyn. Cawsant ginio yn Eglwys Santes Mair yn Penllech, lle delfrydol, nawr yn cael ei gwarchod gan y “Friends of the Friendless Churches”. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 19 Chwefror 2012. Moel Eilio. Noel Davey arweinodd griw o 13 cerddwr o Lanberis i fyny Maesgwyn i’r Bwlch. Mi oedd yr eira man wedi ychwanegu at yr eira eisioes oedd ar y mynyddoedd. Yna dringo i fyny Foel Goch o’r Bwlch ac ymlaen dros Fron Gron cyn cyrraedd gopa Moel Eilio. Dychwelyd gan ddisgyn i gyfeiriad gogleddol ac i  Lanberis. Pan ymddangosodd yr haul prin,  mi oedd mynyddoedd Eryri i’w gweld are eu goreu. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 9 Chwefror 2012.Mynydd Nefyn a’r Glannau. Maureen Evans arweinodd griw o 22 aelod ar daith o Nefyn. Er iddi fod yn ddiwrnod siomedig hefo cymylau isel ac ar adegau yr awyr yn dywyll mi aeth y daith ar lwybrau difyr ar wylodion Mynydd Nefyn i droed Moel Ty Gwyn cyn dychwelyd i Nefyn. Yna dilyn y llwybr ar y clogwyn cyn troi i’r tir gan ddefnyddio Lon Ty Pwll a chyrraedd Morfa Nefyn. Oddi yno dychwelyd ar draws gwlad i Nefyn eto. Pawb yn cytuno iddi fod yn daith arbennig. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 5 Chwefror 2012. Moel Ddu. Tecwyn Williams arweinodd 13 cerddwr o Bont Aberglaslyn i fyny yn serth trwy y coed uwchben Plas Aberglaslyn gan ddringo tan cyrraedd copa Moel Ddu lle cawsant bicnic. Mi oedd yn lithrig dan draed. ar ol yr eira,  wrth iddynt fynd ar draws gwlad i Dremadog. Er i’r daith fod yn weddol fer mi oedd yn eithaf anodd. Ian Spencer.  (Cyf-DHW).

Dydd Iau 26 Ionawr 2012. Llwybr yr Arfordir a’r Safle Gwylio’r Arfordir. Criw o 23 yn cael eu arwain gan Megan Mentzoni o Edern. Dilyn Llwybr yr Arfordir wnaeth y daith arbennig hon yn ol i Borthdinllaen yn eu galluogi i ymweld a’r Safle Gwylio’r Arfordir o dan ofalaeth gwirfoddolwyr. Yna cael picnic ar lan y mor cyn mynd ymlaen ar llwybr yr arfordir. Mynd i’r tir i Morfa Nefyn ac yna croesi caeau a rhannau mwdlyd ar y llwybr cyn cyrraedd Edern. Mi oedd y tywydd yn haulog ond yn wyntog iawn. Ar yr un diwrnod, gyda’r nos cynhaliodd y Clwb ei Cinio’r Gaeaf  yn Clwb Golff Porthmadog. Yn dilyn pryd ardderchog gwrandawodd yr aelodau  ar araeth ddifyr gan David Davies-Hughes. Mi draethodd lawer o hanesion mympwyol gan fynd a’r gwrandawyr i lefydd fel Awstralia, Groeg, Antartica a Chwm Pennant. Noson arbennig. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22 Ionawr 2012. Beddgelert. Kath Mair arweinodd yn fedrus 18 aelod o Beddgelert i fyny i Bryn Du ac yna i lawr y llwybr serth a choediog i Bont Aberglaslyn. Ar y diwrnod braf yma ymlaen i fyny Nanmor gan basio ”Carnedd” a “Gelli Iago” cyn mynd i’r gorllewin i gyfeiriad dyffryn Nantgwynant a golygfeydd ardderchog o Bedol y Wyddfa. Ar y ffordd i Lyn Dinas dyma fynd heibio Hafod Owen. Ar ol aros am baned haeddiannol, yn ol a’r criw i Feddgelert. Pawb yn cytuno iddi fod yn daith gaeaf ardderchog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12 Ionawr 2012. Cylchdaith Criccieth i Bont Rhydybenllig. Lil Parker arwainodd 32 aelod ar daith fer ond foddhaol iawn o Griccieth. Mi oedd y daith yn foddhaol dros ben oherwydd y tywydd heulog er iddi fod yn fwdlyd iawn o dan draed ar adegau. Ar ol cwblhau y daith dyma fynd i dy yr arwainyddes am luniaeth a sel o gelfi,  yr arian tuag at y Gwasanaeth Ambiwlans yr Awyrlu, a codwyd £126.00. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8 Ionawr 2012 Bwlch yr Eifl o Drefor. Judith Thomas yn ei ffordd lawen a gyda chymorth Catrin Williams arweiniodd 18 aelod ar daith o Drefor. Dilyn yr arfordir o amgylch Trwyn y Tal cyn dringo yn serth i Bwlch yr Eifl. Oddi yno mi gerddasant o amgylch mynyddoedd Yr Eif a Tre’r Ceiri cyn dychwelyd i faes parcio yn Harbwr Trefor. Cafodd y daith ardderchog hon ddim ei ymharu gan y cymylau isel tamp a ddiflannodd i ddatguddio y caeau glas, coedwigoedd a bryniau De Llyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 8 Ionawr 2012 Bwlch yr Eifl o Drefor. Judith Thomas yn ei ffordd lawen a gyda chymorth Catrin Williams arweiniodd 18 aelod ar daith o Drefor. Dilyn yr arfordir o amgylch Trwyn y Tal cyn dringo yn serth i Bwlch yr Eifl. Oddi yno mi gerddasant o amgylch mynyddoedd Yr Eif a Tre’r Ceiri cyn dychwelyd i faes parcio yn Harbwr Trefor. Cafodd y daith ardderchog hon ddim ei ymharu gan y cymylau isel tamp a ddiflannodd i ddatguddio y caeau glas, coedwigoedd a bryniau De Llyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 1 Ragfyr 2011.Glasdir, Ganllwyd, 2 Raeadr. Nick White yn ogoneddus yn arwain yn lle Colin White oedd yn dioddef o afiechyd. Arweinodd 15 aelod ar daith hyfryd yn Coed y Brenin. Arwahan i brydferthwch y goedwig ei hyn mi welsant beth bynnag ddau raeadr, un yn neilltuol o ysblennydd. Diwrnod braf a sych yn cael ei fwynhau gan bawb. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 27 Dachwedd 2011. Mynydd Nodol.  Noel Davey arweiniodd griw o 11 cerddwr o Lyn Celyn ac i fyny y mynydd diarth, Mynydd Nodol. Mi wellodd y tywydd fe li’r dydd fynd ymlaen ar ol noson stormliyd. Croesi tir corslyd ac yna dilyn yr hen reilffordd, yna dringo Mynydd Nodol. Toes dim llwybrau ar yr ochr Gogleddol a grug yr holl ffordd i’r copa ac mi oedd symud ymlaen yn anodd. Y cerddwyr yna yn disgyn ar yr ochr dwyreiniol o’r mynydd, ar lwybr annymunol cyn dychwelyd i Argae Llyn Celyn. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 17 Dachwedd 2011. Nant Gwynant, Craflwyn Estate. Kath Mair arweiniodd 32 aelod ar daith foddhaol iawn o faes parcio Bethania i ddechrau ar y Watkin Path ac yna dilyn Llwybr Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth i Stad Craflwyn. Oddi yno dilyn llwybr ar ymyl Llyn Dinas yn ol i Fethania. Fel diweddglo i’r diwrnod arhosodd y mwyafrif o’r cerddwyr i gael lluniaeth yn y caffi cymdeithasol ardderchog. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Sul 13 Dachwedd 2011.Harlech i Landecwyn. Llwybr Ardudwy. Dafydd Williams arweiniodd 14 aelod ar ddiwrnod heulog arbennig o braf ar y rhan olaf o Lwybr Ardudwy. Cychwyn o Harlech a cherdded i Landecwyn. Trwy gydol y dydd mi oedd golygfeydd odidog o Eryri a hefyd yr arfordir a Phenrhyn Llyn yn ymestyn cyn belled ac Ynys Enlli .Tuag at diwedd y dydd dyma aros i ryfeddu at yr adeilad oes Efydd hynod, Bryn Cader Faner. Mi oedd hon yn daith hir ond un ardderchog. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 3 Dachwedd 2011. Porth Meudwy, Pen y Cil. Mynydd Gwyddwel a Mynydd Mawr.  Taith ardderchog yn cael ei arwain yn fedrus gan Rhian Roberts a Mary Evans o Borth Meudwy ar hyd y llwybr arfordir gwerfeiddiol hefo golygfeydd bendigedig o Ynys Enlli. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 10 Hydref 2011. Pedol Penamnen. Ian Spencer arweinodd criw o 17 aelod o Ddolwyddelan i fyny ar lannau’r nant cyn dringo i fyny llwybr y porthmyn i gopa Y Rowen .Oherwydd y niwl dim ond ambell i  olwg  oedd i gael o’r golygfeydd hardd. Mi oedd  hefyd wynt cryf i’w gwynebau yn ystod y hanner cyntaf o’r daith wrth iddynt gario  amgylchu y grib cyn dringo Penamnen. Yna dychwelyd i Ddolwyddelan ar ol cwblhau y disgyniad serth drwy’r coed. Er yn hir cafodd ei mwynhau gan bawb. Ar yr un diwrnod arweinnodd Dafydd Williams griw fechan o 7 cerddwr hefyd o Ddolwyddelan. Ian Spencer. (Cyf-DHW). 

Dydd Iau 20 Hydref 2011. Coedwigoedd, Ynys, Traeth Bach. Criw enfawr o 30 aelod yn mwynhau taith o ddiddordeb garw o Dalsarnau, gan ddilyn y glan llifogydd i Llechollwyn ac yna i’r eglwys yn yr Ynys a dychwelyd ger Glan y Wern, dringo i fyny drwy’r coed a dros Cae’r Ffynnon i Dalsarnau.Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 16 Hydref 2011. Yr Aran. Tecwyn Williams yn arwain 16 aelod i fyny Yr Aran gan gychwyn ar y Watkin Path ag yna dringo i’r grib, ar hyd y grib a dychwelyd ger  Cwm Llan. Y mwyafrif o’r cerddwyr yn cael lluniaeth yn y caffi cymuned yn Bethania cyn mynd adref ar ddiwrnod gwyntog. ar adegau, a niwlog, ond yn sydyn mi oedd yna olwg gogoneddus o Gastell Caernarfon ac ymhellach i Fynydd Caergybi. Taith ardderchog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 2 Hydref 2011. Cylchdaith Bwlch Mawr. Ar ddiwrnod arbennig o niwlog gyda cymylau isel, Marian Hopkins ac Ann Jones arweinodd 9 cerddwr ar hyd yr arfordir ac yna i fyny yn serth i gopfeydd Gyrn Goch a Gyrn Ddu cyn mynd ymlaen i Bwlch Mawr. Mi oedd hon yn daith egniol ond boddhaol iawn. Ar ddydd Iau 6 Hydref arweiniwyd criw o 29 aelod gan y Cadeirydd Meirion Owen ar daith hyfryd drwy’r coed ger Coed Cae Valley.Ian Spencer. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 22 Fedi 2011 – Fort Belan – Y Foryd. Pam Foster arweiniodd 32 aelod o Ddinas Dinlle ar ddiwrnod sych a braf.Mi oedd hon yn daith ddiddorol mewn ardal ddiarth i’r mwyafrif o’r cerddwyr. Yn ystod y daith gwneud ymweliad a Fort Belan yn geg y fynedfa i’r Menai Straits. Cafodd y fort ei adeiladu i amddiffyn y Straits yn nyddiau Napoleon. Mae amryw o’r cannons yno hyd heddiw. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 18 Fedi 2011. Tal-y-Bont i Harlech. Wyth cerddwr caled dan arweiniad Dafydd Williams yn cerdded y rhan canol o’r llwybr newydd, Llwybr Ardudwy, rhwng Bermo a Llandecwyn.Agorwyd yn swyddogol ar 19 Fedi 2011. Mae yn 22 filltiroedd o hyd ond medrwch ei gerdded mewn tair rhan, sef Bermo i Talyboint 7 milltir, Talybont i Harlech oddeutu 13 milltir, a Harlech i Landecwyn, 11milltir. Gwlyb iawn oedd dydd Sul am  hanner cyntaf y daith ond mi wellodd ac yn bosib i fwynhau y golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad er gwaetha’r tir gwlyb dan draed. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 8 Fedi 2011. Moe;lfre(Dyffryn Ardudwy). Nick White arweiniodd griw o 16 ar daith 5.5. milltir drwy dir rhostir anghysbell o amgylch Moelfre uwch ben Dyffryn Ardudwy. Er gwaethaf y niwl a’r tir gwlyb mi gadwodd y glaw draw ac mi fwynhaodd y criw y daith gan gael ambell i gip olwg o Gwm Nantcol ac edmygu y walia cerrig nodweddol o’r ardal.  Noel Davey. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 4 Fedi 2011. Moel Hebog. Hugh Evans arweiniodd daith ardderchog 8.5 milltir o Feddgelert i fyny Moel Hebog, ymlaen i Moel yr Ogof a Moel Lefn a dychwelyd ar hyd lwybrau diddorol drwy’r coedwigoedd a Chwm Meillionnen. Mi oedd y tywydd yn braf am y rhan fwyaf o’r dydd yn caniatau golygfeydd hardd a chyrhaeddodd y glaw ysgafn ddim tan ddiwedd y daith. Noel Davey. (Cyf-DHW).

 Dydd Iau 25 Awst 2011. Cwm Cynfal. Ann a Nick White arweiniodd griw o 19 i lawr i’r cwm hardd, Cwm Cynfal. Mi oedd y golygfeydd yn wefreiddiol o gychwyn y daith aeth heibio Rhaeadr y Cwm. Mi oedd yna gawodydd trwm yn ymharu ar y daith fer foddhaol. Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 21 Awst 2011 Grib Nantlle.  Noel Davey arweinodd 11 aelod o Eglwys Dolbenmaen  ar daith egniol i Grib  Nantlle. Yn anffodus mi oedd y tywydd yn druenus hefo glaw trwm a chymylau isel drwy gydol y bore ac ar ddechrau’r pnawn tan iddi wella. Pawb yn ymdrechu ac yn cwblhau y daith ond un yn cael cam gwag gan lithro a disgyn i afon lifeirig!

Ar yr un diwrnod arweinodd Ian Spencer 8 aelod ar daith fer o ben draw Cwm Pennant. Er gwaethaf y tywydd mi oedd pawb yn galonog hyd yn oed pan yn dilyn llwybr cyhoeddus ac methu a mynd yn bellach! Ian Spencer. (Cyf-DHW).

 Dydd Sul 7 Awst 2011. Glasgwm a Cwm Cywarch. Judith Thomas arweinodd griw o 9 cerddwr ar daith fwynhaol 7 milltir o’r cwm anghysbell a ramantus, Cwm Cywarch, i fyny i Grib Glasgwm gan ddychwelyd ger Pen y Brynfforchog, ar draws safle wedi ei ddigoedio a dychwelyd i’r Cwm i lawr hen lwybr mwyngloddio serth. Diwrnod braf a golygfeydd ardderchog er ambell i gawod. Pawb yn dod at ei hun wedyn yn y Llew Coch yn Dinas Mawddwy. Noel Davey. (Cyf-DHW).