Awst17 - Gorff18

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Sul 29ain Orffenaf 2018. Llwybr Llechi – Manod Mawr i Gwm Cynfal. Cychwynnodd 8 cerddwr dewr ar ddydd Sul gwlyb a gwyntog i fyny Manod Mawr ac ar hyd y Llwybr Llechi. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolygon gyda oriau sych yng nghanol y dydd ac hefyd ambell i olwg niwlog o’r tirlyn. Cyfarfu y cerddwyr yn Llan Ffestiniog a mynd a ceir ymlaen i Cae Clyd yn pentref Manod a dechrau’r daith yn weddol hawdd gan ddringo Manod Mawr. Cyrhaeddwyd y lloches ar y copa mewn amser i gael paned y boreu. Yna fe aeth y llwybr i lawr drwy Cwt y Bugail, un o’r ychydig chwareli yn dal i gynhyrchu llechi to Cymraeg ac hefyd yn enwog fel safle diogelu lluniau o’r Oriel Genedlaethol yn ystod yr ail ryfel byd. Yn dilyn mynd i lawr y ffordd yn Cwm Teigwl roedd rhaid dringo yn serth 500 troedfedd a chael cinio yn gysgod creigiau uchel y cwm. Ymlaen i’r de drwy lwybrau ‘r ucheldir unig ar hyd Afon Gemallt ac o amgylch Craig y Garreg-lwyd, a chyrraedd glannau Llyn Morwynion. O’r diwedd dyma’r parti yn cyrraedd gwahanfa ddwr Cwm Cynfal ac mynd i’r gorllewin a dilyn y cwm dramatig yma yr holl ffordd yn ol i Ffestiniog. Hyd yn oed yn dywyllwch y glaw man roedd y creigiau garw, coedwigoedd mwsoglyd a’r nentydd chwyrn yn cael eu coroni gan ddwy raeadr odidog. Roedd y parti yn falch o gyrraedd yn ol a chael croeso yn dafarn Pengwern, sydd yn ofal y gymdeithas leol yn Ffestiniog, ar ol taith lafurus ond wobrwyol dros dirwedd amrywiol o dros 11 milltir mewn 7 awr, ac yr oedd y gwynt a’r gwlybaniaeth wedi profi yn adfywiol ar ol y tywydd crasboeth diweddar. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 19eg Orffenaf 2018. Llwybr Arfordir Rhiw. Cyfarfu 34 aelod a ffrindiau yn Rhiw ar ddiwrnod perffaith o haf ar gyfer taith gron hyfryd ar hyd y llwybr arfordirol, Lis Williams yn arwain. Aeth y daith o faes parcio newydd Plas yn Rhiw a chymeryd rhan newydd ei agor o’r llwybr arfordirol i’r de drwy’r goedwig i fyny i’r amlinell 500 troedfedd ar lethrau Mynydd-y-Graig. Yna ymlaen ar draws y bryn agored drwy’r rhedyn ungoes a grug, heibio Carreg Lefain ac i flaen pentir ymwythig Mynydd Penarfynydd. Roedd y fan  hyn yn le ardderchhog i gael cinio yn yr haul cynnes gyda awel ysgafn a golygfeydd bendigedig o’r cilfachau glas a chreigiog a’r ysgubiad pell o’r Mynyddoedd y Cambrian ar draws Bae Ceredigion. Dychwelyd ar y llwybr isaf uwchben Farm Penarfynydd, cymerodd y cerddwyr y llwybr a’r ffordd i bentref Rhiw. Aeth hanner y parti ymlaen i fyny i gopa Mynydd Rhiw, 1000 o droedfeddi uwchben y mor a mwynhau mwy o olygfeydd eang ysblennydd ar draws Llyn. Yna ymunodd bawb am baned dderbyniol yn yr Hen Reithordy yn uchel ar ochr ddwyreiniol y mynydd yn edrych tros Porth Neigwl. Gwneuthpwyd gyflwyniad ynglyn a’r daith elusennol ddiweddar y Rhodwyr a trosglwyddwyd oddeutu £500 i drefnydd St. Davids Hospice oedd gyda ni ar y dydd. Noel Davey.  (Cyf-DHW)

Dydd Sul 15ed Orffenaf 2018.

Glyder Fach - Elidir Fach. Roy Milner arwainiodd 12 cerddwr ar daith anodd linelloll o Capel Curig ar draws pump copa a cribau cyfagos y Glyderau i Llanberis. Yn y mynyddoedd roedd yn ddiwrnod cymylog adfywiol yn tueddu i fod yn niwlog gyda gwynt rhynllyd ar adegau, ond roedd y newid o’r tywydd trymaidd crasboeth diweddar yn groesawys ac roedd yna saethau cyson o haul yn goleuo’r golygfeydd ysblennydd o gopau cyfagos Eryri drwy gydol y dydd. Cychwynnodd y daith i gyfeiriad y gorllewin  ar hyd Cefn y Capel, a dringo yn gyson ar hyd y grib dros Y Foel Goch ac o’r diwedd i fyny at y cymysgedd rhyfeddol o grieigiau garw yn llunio Glyder Fach. Dyma aros yn y fan yma i gael llun clasurol o’r criw ar y “Cantilever”, a chinio yn dilyn  yng nghysgod y creigiau cyfagos. Yna ymlaen ar draws y llwyfandir creigiog rhyfeddol i’r Glyder Fawr, 3300 troedfedd, man uchaf y diwrnod. Roedd y llwybr cerrig man creigiog serth i’r gogledd-orllewin i lawr i Llyn y Cwn yn anodd,a  chael ei ddilyn gan godiad hir i fyny llethr moel Y Garn. Gwellhaodd  pethau  ar lwybr weddol wastad ar  y grib yn dolennu i’r gogledd a’r gorllewin i gyfeiriad Elidir Fawr. Oddi yno roedd golygfeydd ardderchog i lawr Dyffryn Ogwen i’r dwyrain a’r gorllewin i gyfeiriad Llyn Peris. Wedi croesi’r Bwlch Marchlyn main uwchben y gronfa yn meithrin y cynllun pwmpio a storio y Mynydd Trydanol, dyma ddringo olaf y dydd yn dod a’r parti i gopa Elidir Fawr. Roedd y rhan olaf o’r daith yn mynd i lawr drwy weddillion diddorol chwareli anferth Dinorwic ar lethrau deheuol Elidir, wedi eu cau oddeutu 60 mlynedd yn ol, ond yn dal yn sioe o beiriannau rhydlyd a llechweddau serth. Roedd yn ollyngdod i gyrraedd y diwedd sef Gwesty’r Victoria yn Llanberis 7.30 gyda’r nos ar ol taith byth gofiadwy o egniol ond wobrwyol 14 milltir a dringo 5250 troedfedd dros 9 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW)

Nant y Benglog.  Yn dilyn y tywydd poeth diweddar ac er i ni ei groesawu roeddem yn dechrau ei ddioddef yn hytrach na ei fwynhau ac roedd y newid i dymherau mwy arferol dros y dyddiau diweddar i’w croesawu.. Roedd y daith “A” heddiw yn un bell o 14 milltir ac mi benderfynwyd i gael taith “B” ferach yn cychwyn o’r un fan sef Maes Parcio Joe Brown yn Capel Curig. Roedd 11 cerddwr yn bresennol ac mi aeth 6 ar y daith “A” a 5 ar y daith “B”. Cychwynnodd y cerddwyr “A” ar garlam tra roedd y cerddwyr “B” yn cymeryd eu amser i baratoi. Aeth y daith i gyfeiriad y gogledd i fyny’r ffordd beryglus yr A5 am oddeutu hanner milltir. Diolch byth dyma gyrraedd Bron Heulog a chroesi’r gamfa ar y dde ac mynd i’r gogledd/gogledd orllewin ar i fyny i Tal-y-Waun gan aros nawr ac yn y man i ail enill ein gwynt ac edmygu’r golygfeydd gwych fel Inni ennill uchder. Ar ol oddeutu awr dyma gyrraedd Cronfa Llyn Cowlyd, 1100 trodfedd uwchben y mor ac y llyn dyfna yn Gogledd Cymru ac mae yn un o ddau lyn yn cyflenwi dwr i waith alwminiwm yn Dolgarrog. Cawsom ginio mewn llecyn cysgodol ger bont bren yn croesi’r “leat” cyn ail gychwyn ar y llwybr yn mynd gyfochrog a’r “leat” i gyfeiriad y gorllewin. Yna ar ol oddeutu milltir dyma gyraedd llwybr yn mynd i’r de orllewin i gyfeiriad fferm Tal-y-braich ac fel inni fynd ar i lawr roedd swn diflas y traffig ar yr A5 yn cynyddu. Dyma ei chroesi ar frys a drwy giat i le diogel ac o fewn 100 llath dyma groesi bont gerrig ac ymuno a’r hen A5 a mynd i’r chwith i gyfeiriad ryw fymryn i’r de o ddwyrain am ddwy filltir.  Roedd y ffordd newydd ei adewyddu yn mynd a ni yr holl ffordd yn ol i’r man cychwyn yn Capel Curig ac yr unig beth oedd ar ol,  oedd cael paned dderbyniol o de a chacen yn Caffi Siabod cyfagos ac myfyrio are daith arall bleserus yn y bryniau. Dafydd Williams.

Dydd Iau Gorffenaf 5ed 2018. Sialens Llwybr Arfordirol Llyn. Roedd taith heddiw wedi ei threfnu gan y Clwb fel rhan o’i cyfraniad at Sialens Llwybr Arfordirol Llyn i godi arian i Lety Sant Dafydd (St. David’s Hospice) ac y Bws Arfordirol O Ddrws i Ddrws. Roedd y diwrnod cyntaf yn cynnwys taith 13 milltir arfordirol o Abersoch i Rhiw. Noel Davey arweiniodd criw o 16 aelod yng nghwmni 20-30 o gerddwyr eraill oedd yn cymeryd rhan yn y Sialens. Roedd yn ddiwrnod hyfrydol i gerdded hefo’r cymylau niwlog cynnar a’r gwynt ysgafn bywiog yn dilyn, yn cadw’r tymherau yn gymedrol. Cyfarfu y cyfranogwyr yn y Clwb Golff am 8.30 a chychwyn am 9.00, gwneud amser da ac o’r diwedd cyrraedd Rhiw oddeutu 3.30. i ddechrau fe aeth y daith ar draws Clwb Golff Abersoch, cylchdeithio trwyn Cim hefo golygfeydd o Ynysoedd St. Tudwals ac yna i lawr i’r bae godigog Porth Ceiriad ac i fyny ar ehangderau gwelltog Mynydd Cain. Yma roedd y Llwybr Arfordirol o amgylch y trwyn yn rhoddi golygfeydd ysblennydd o Porth Neigwl islaw, yn ddigyffro heddiw, ac i lawr yr orynys  i gyfeiriad Ynys Enlli. Ar ol cinio ar y tywod ger Pentowyn, fe aeth y daith i’r tir  ar draws caeau agored, ac o’r diwedd cyrraedd rhan o ffordd flin cyn y rhan olaf o ddringo drwy’r coed a chael te haeddiannol yn Caffi Plas yn Rhiw ar ddiwedd y daith. Aeth tri car, wedi eu parcio yn Rhiw yn gynarach, a’r parti yn ol i Abersoch yn brydlon. Roedd hon yn daith anarferol o hir i ddydd iau, ond mi wnaeth pawb yn dda, y mwyafrif yn cyflawni’r daith i gyd, un yn ymuno yn Cilan a dau yn dychwelyd ar y Bws Arfordirol ar ol cerdded 8 milltir cyn belled a Pentowyn. Roedd rhai cerddwyr cadarn yn paratoi i fynd ymlaen o amgylch yr arfordir i gyfeiriad Nefyn ar yr ail a trydydd diwrnod y Sialens. Roedd yn ddiwrnod ardderchog ac mi godwyd £400,00 gan Rhodwyr Llyn i gefnogi yr elusenau. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Gorffenaf 1af. 2018. Bethania-Llyn Dinas-Craflwyn. Cadeirydd y Clwb, Gwynfor Jones arweiniodd 8 cerddwr ar gylch daith hyfryd wyth milltir o Bethania. Roedd y diwrnod yn nghanol yr haf crasboeth a fwynhasom ond roedd awel dderbyniol yng nghymoedd y mynyddoedd o amgylch Y Wyddfa yn cwtogi’r gwres. Cychwynnodd y daith drwy’r coed hyfryd yn Parc Hafod y Llan a dilyn rhan isaf o Lwybr Watcyn. Cyn cyrraedd y rhaeadr fe aeth y daith i’r gorllewin ar lwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyfeiriad Craflwyn, dringo 1000 o droedfeddi at Bylchau Terfyn drwy dir anodd ac heibio hen fwyngloddiau ar ochr ddeheuol o” Yr Arran”. Roedd yna olygfeydd hardd dros ucheldiroedd Dyffryn Glaslyn a’r copau cyfagos. Yna disgyn yn gyson i lawr dyffryn Afon y Cwm a dyma fwyafrif y parti yn gwneud cylchdaith ar lwybr coediog troellog a heibio rhaeadr hyfryd ac yna i fyny i’r copa amlwg Dinas Emrys: y fan hyn yw amddiffynfa chwedleol Vortigen, tywysog o’r bumfed ganrif a safle chwedloniaeth Gymraeg fel safle’r frwydr  rhwng y dreigiau ac yn diweddu yn fuddugoliaeth Y Ddraig Goch Gymraeg dros Y Ddraig Wen Sacsonaidd; roedd adfeilion twr canol oesol yn y man hudol yma yn le ardderchog i gael cinio. Roedd rhan olaf y daith ar lwybr golygfaol, sydd newydd ei wella’n arw, ar hyd lan dwyreiniol Llyn Dinas. Er i’r caffi yn Bethania fod ar gau oherwydd  i’r prif bibell ddwr i Beddgelert fod wedi torri roedd hon yn daith haf gymedrol a  phleserus. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 21ain Fehefin 2018. Rhaeadr Coed y Brenin. 8 aelod ymunodd a Nick White ar daith hamddenol drwy Coed y Brenin ac ymweld a rhai o’r rhaeadrau sydd yno. Trueni nac roedd rhai o’r cerddwyr arferol ddim yno oherwydd iddynt fod yn gwneud taith mwy egniol ar Hadrians Wall achos roedd y tywydd yn berffaith ar gyfer taith ar hyd llwybrau coediog y Comisiwn Coedwigaeth. Roedd yna weddillion o weithgarwch cloddio am aur fel roedd y rhaeadr yn dod i’r golwg drwy’r coed, ac yr Afon Mawddach yn llachar yn yr haul. Oherwydd y tywydd sych, cymedrol oedd y llif dros Pistyll y Cain a Rhaeadr Mawddach, ond roedd yr haul yn gwneud i fyny am hyn. Roedd y criw yn medru rhyfeddu ar yr uchder gyrhaeddodd yr afon yn y llif mawr 2003 wrth iddynt groesi’r bont a sgubwyd i ffwrdd ger Gwynfynydd ble cafwyd egwyl am goffi. Wrth gerdded i lawr yr afon ac ar draws y bont  ochr isaf i Tyddyn Gwladys gwelwyd dau nyth byw o forgrig coed cyn cyrraedd yn ol yn y man picnic yn Tyddyn Gwladys, maes parcio’r ceir. Roedd hwnnw yn berffaith ar gyfer cinio cyn dychwelyd adref. Nick White. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 17eg Fehefin 2018. Arenig Fawr. Ar ol y tywydd heulog diweddar roedd rhaid gwynebu sefyllfa damp, niwlog a gwyntog ar gyfer dringo Arenig Fawr. Judith Thomas arweiniodd barti o 9. Cychwyn o Pant yr Hedyd ychydig heibio pentre bach Arenig ac yn fras, i gyfeiriad y de heibio Llyn Arenig Fawr. Gwneuthpwyd arosiad byr yn  gaeth ei sguboy bwthyn bach perffaith. Dilynodd y prif ddringo i’r gorllewin heibio Carreg Lefain ac Y Castell, y niwl yn ei gwneud yn anodd dros ben i ddilyn y llwybr. Cyraeddwyd y copa 2800 troedfedd ar ol oddeutu dwy awr ac mewn amser i gael cinio yn y lloches ddefnyddiol. Mae cofeb yna yn coffau y golled o Americanwyr pan fu Flying Fortress blymio i’r mynydd yn 1943. Daeth disgyniad serth ar wair twmpathlyd a’r parti i lawr i lwybr mwdlyd ger Ffridd Nant y Pysgod. Aeth y rhan olaf mewn cylch yn ol i’r gogledd a’r dwyrain o amgylch y mynydd ar lwybr rhwydd, yn rhannol yn dilyn yr hen rheilffordd. Oherwydd y tywydd toedd dim golygfeydd, ond roedd y glaw man yn  ysbeidiol ac roedd hon yn daith bleserus a iachus o tua 7.5 milltir mewn hyd, yn yr ardal anghysbell a mynyddig yma. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dyd Iau 7 Fehefin 2018. Borth y Gest. Daeth diwrnod o haul cynnes a 25 o gerddwyr allan ar daith gron hyfryd 7 milltir o dan arweiniad Kath Spencer o amgylch Borth Y Gest. Cychwynnodd y daith o Glwb Golff Porthmadog, gan gymeryd y rhan ddifyr o Lwybr yr Arfordir uwchben aber y Glaslyn yn arwain i bentref ddarluniadol Borth Y Gest lle roedd y maes parcio wedi cau tra mae’r mor waliau yn cael eu adnewyddu ar gyfer amddiffyn llifogydd. Yna dringodd y parti stepiau serth i gysgod coedwig gwarchodfa natur Parc y Borth, croesi ffordd Morfa Bychan at y fferm Lamas a chymeryd hen ffordd drol drwy wlad agored gogledd orllewinol i gyfeiriad Moel-y-Gest. Cymerwyd ginio ar greigiau cynnes ger Bron y Foel gyda golygfeydd hardd ar draws yr aber, ac yn gwmpeini dau geffyl busneslyd a phenderfynol i gymeryd rhan. Yna aeth y daith i’r de orllewin ar dir bugeiliol dymunol ond roedd y llwybr yn aml yn anodd yw ddilyn, heibio Garth-morthin ac ail ymuno a’r fordd drol yn Tyddyn Adi a chael stop am baned o de. Roedd y rhan olaf drwy dir anferth Parc Carafanau Greenacres ac mewn hir a hwyr dychwelyd i’r Clwb Golff a chael siawns i ddiffod ein syched ar ol dioddef y gwres anghyfarwydd. Roedd hon yn daith lac a chymdeithasol gyda golygfeydd arbennig o’r tirluniau hardd o’r ardal yma. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 3 Fehefin 2018. Y Fron. Roedd diwrnod cynnes braf hefo cyfnodau heulog yn ardderchog ar gyfer taith gron bleserus 11 milltir yn uchelderau ddeiniadol Uwchgwyrfai. Kath Spencer arweiniodd 11 o gerddwyr gan gychwyn oddeutu 1000 o droedfeddi uwchben y mor o bentref gwasgaredig Y Fron ac mynd i’r gogledd ddwyrain gyda siap ellifant mawreddog Mynydd Mawr o’n blaen. Yna mynd i lawr 500 troedfedd i ddyffryn Gwyrfai yn Betws Garmon a dilyn Nant y Betws drwy wlad bleserus bugeiliol i Waunfawr. Aeth adran serth o Lwybr y Llechi a ni yn ol i’r ucheldir o grug a rhostir a dros dri bryn yn cynnwys Moel Smytho (safle cinio), Moel Tryfan a Mynydd y Cilgwyn (safle te). Roedd y tri copa hyn yn fanteisiol ar gyfer golygfeydd, braidd yn niwlog, ar draws gwlad, i’r gogledd i gyfeiriad gwastadedd Arfon, Y Fenai ac Ynys Mon ac i’r de i Ddyffryn Nantlle a’r Grib. Mae Moel Tryfan, y safle uchaf 1400 troedfedd yn adnabyddus fel Safle Arbennig Wyddonol Ddiddorol oherwydd ei ffurfiant creigiog a’i ddatblygiad yn ganol Ardal Llechi Cambrian a’i ran yn ffurfio datblygiadau damcaniaeth cyfansoddiad y ddaear, yn cynnwys syniadau Darwin a ymwelodd a’r ardal yn 1842. Roedd copa Mynyd Clilgwyn, hefo’i gofeb i St Twrog wedi ei niweidio, yn rhoddi golygfeydd o’r ardal eang o cyn chwareli llechi uwchben Nantlle, cyn inni ddisgyn yn araf yn ol i Y Fron ar ddiwedd diwrnod ardderchog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 24ain Fai 2018. Rhos ar y Môr. Miriam Heald arweiniodd 22 aelod tu allan i’w tir arferol ar daith amrywiol a diddorol oddeutu 6 milltir o hyd dros y Gogarth Fach i Llandrillo yn Rhos. Casglodd y cerddwyr yn y Premiier Inn, Craig y Don (lle addas i gael lluniaeth ar ol y daith) a bron yn syth i fyny llwybr ar glogwyni arbennig Gogarth Fach (Creigiau Rhiwledyn) a chyrraedd uchder o 400 troedfedd. Mae y pentir carreg calch yma yn gartref i lawer o flodau gwyllt ac adar ac hefyd archaeoleg yn mynd yn ol i oes y cerrig cynnar. Roedd y chwarel welltog Trwyn y Fuwch uwchben Port Dyniewyd (Angel Bay yn enwog am ei morloi llwyd) yn le ardderchog i oedi am goffi gyda golygfeydd niwlog ardderchog ar draws Bae Penrhyn ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Aeth y daith yn ei blaen ar Lwybr Arfordirol Cymru ar hyd y glannau a’r amddiffyniadon mor  ac o’r diwedd cyrraed y capel bychan St. Trillo sydd yn cael ei ystyried fel yr eglwys leiaf yn Brydain. Cafwyd ginio gan ddefnyddio y nifer o seddi hir coffa ar y ffrynt. Yna taith ddiddorol o amgylch strydoedd ac ardaloedd cyfoethog Llandrillo yn Rhos a dyna’r cerddwyr yn cyrraedd bryn amlwg coediog Bryn Euryn gyda niferoedd o lwybrau hyfryd coediog a drwy warchodfa natur, heibio gweddillion gafaelgar Llys Euryn o’r 15ed ganrif, cartref gwreiddiol Ednyfed, prif gefnogwr Llewellyn Fawr ac wedyn cartref i deulu’r Conwy. O’r  copa 400 troedfedd, safle naturiol i gaer, roedd yna olygfeydd godidog i bob cyfeiriad i’r mor a’r trefi arfordirol islaw  ac ar draws Dyffryn Conwy i’r Wyddfa. i ddiweddu aethom i Eglwys Llandrillo i weld bedd swyddog dewr ar y Titanic, a chael bws yn ol i’r man cychwyn. Cyfrannodd y tywydd sych heulog gyda chymylau ysgafn, i ddiwrnod pleserus dros ben. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 20ed Fai 2018. Moel Eilio. Arweiniodd Dafydd Williams barti o 11 i fyny Moel Eilio a chychwyn o Llanberis ar ddiwrnod braf a chlir. Ar ol peth dryswch i ddechrau ynglyn a’r man parcio a’r man cyfarfod (ddim yn beth diarth yn Llanberis), cychwynnodd y daith yn stesion Rheilffordd y Wyddfa, dringo heibio’r rhaeadr ysblennydd, Rhaeadr Ceunant ac ymylu tir agored i gyfeiriad Bwlch y Groes. Yna dyma’r dringo yn dilyn y grib welltog dros Bryn Mawr i’r copa 2400 troedfedd. Oddi yno roedd yna olygfeydd gwych o’r cylch o gopfeydd Gogledd Eryri ac i gyfeiriad y Feni ac Ynys Mon tu hwnt. Roedd y lloches ar y carn yn le cysgodol o’r gwynt bywiog i gael cinio. Yna fe aeth y llwybr i’r de ddwyrain ar hyd y grib a elwyd y “Carousel” sydd yn disgyn a chodi dros Foel Gron a Foel Goch ac o’r diwedd i lawr yn serth i groesffordd o lwybrau yn Bwlch Maesgwm. Oddi yno roedd disgyniad cyson ar hyd llwybr campus graean i’r gogledd i lawr Cwm Maesgwm ac yna ail ymuno a’r llwybr gwreiddiol ac yn ol i Llanberis. Taith ardderchog o 9-10 milltir yn gorffen hefo lluniaeth yn Caffi’r Rheilffordd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 10ed Fai 2018. Bethania – Cwm Lan. Dafydd Williams arweiniodd 23 cerddwr ar daith bleserus 5 milltir o Bont Bethania i’r cwm hardd uwchben sef Cwm Llan ar ddiwrnod weddol heulog hefo ambell gyfnod o wynt rhynllyd. Dilyn y Watkin Path i gychwyn sydd efallai y ffordd oreu a’r mwyaf anodd i fyny’r Wyddfa. Mynd drwy goed gwyrdd y gwanwyn Parc Hafod y Llan ac yn fuan cyrraedd caeau agored uwcjhben Castell a golygfeydd o’r rhaeadrau ysblennydd. Mae rhain yn ddiweddar wedi eu addasu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer cynllun hollol anamlwg i wasanaethu y fferm Hafod y Llan islaw ble mae man y twrbein wedi ei leoli. Ymhellach draw aeth y ffordd heibio Plas oedd unwaith yn gartref i reolwr Gwaith Llechi De Eryri yn y blynyddoedd 1840 i 1882 ac wedi gadael gwedillion diddorol yn cynnwys gwyriad, gwersyll a cytiau trin llechi. Yna cael cinio gerbron y Graig Gladstone enwog yn coffau yr araeth ar “Cyfiawnder i Gymru” a wnaeth y Prif Weinidog yn y man yma yn1892 yn 83 mlwydd oed. Fel i gopa amlwg y Wyddfa ddod i’r golwg uwchben dyma adael y Watkin Path a mynd heibio’r hen chwarel lechi ac ar hen dramffordd i orllewin o Afon Cwmllan ac yn ol i’r rhaeadrau. i ddiweddu, ail groesi llwybr yr afon ac i lawr i Hafod y Llan ac ar hyd yr Afon Glaslyn yn ol i Bethania i’r caffi a mwynhau y te/coffi a’r bara brith. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 6 Fai 2018. Fryniau Dyfi. Hugh Evans arweiniodd ddwsin o gerddwyr ar daith arbennig 8.5 milltir ar Fryniau Dyfi mewn tywydd cynnes braf, yn wahanol iawn i’r niwl ar y glannau. Cychwynnodd y daith o gyffordd Cross Foxes ar yr A470 i’r dwyrain o Ddolgellau ac yn fuan mynd oddi wrth y lon bost brysur ar lwybr heibio Gwanas Fawr a dringo’n gyson drwy goedwig gonwydd ac allan i’r rhostir agored; gweld llwynog ar gyfeiliorn yn y man yma. Wedi mwy o ddringo dyma’r parti yn cyrraedd Gloddfa Gwanas, chwarel lechi or 19eg ganrif gyda twll anferth gafaelgar. Yna dyma ddilyn y grib i’r de orllewin oddeutu 2000 troedfedd o uchder; dyma ddisgyn yn y tirwedd ac yn arwain i ddringo serth ac annisgwyl a chyrraedd copa Waun Oer, 2200 troedfedd, prif nod y diwrnod. Roedd y fan honno yn le ardderchog i gael cinio, gyda golygfeydd panorama arbennig i gyfeiriad Maesglase i’r dwyrain, cadwyn Cader Idris i’r gorllewin a mynyddoedd gogledd Eryri yn y pellter. Yn y prynhawn dyma fynd yn bellach i’r gorllewin ar hyd  Mynydd Ceiswyn a disgyn yn rhwydd i lwybr metel a ddefnydwyd fel ffordd beicio i lawr i’r lon bost yn arwain i Fachynlleth. Wrth ddod i lawr roedd modd gweld yn glir safle damwain ddychrynllyd achosodd i gau y ffordd oherwydd hofrenyddion a sawl ambiwlans fod yn bresennol. Gwnaeth y daith ddolen i orllewin o’r ffprdd, yn bennaf ar drac beicio heibio Gwernghraig a’i bywiogi gan swn gwcw’r gwanwyn, ac o’r diwedd ail groesi’r lon bost a dilyn beth oedd unwaith yn lwybr metel ond nawr yn fwy fel gwely ffrwd fwdlyd a dychwelyd gerbron Y Cross Foxes, sydd newydd ei adnewyddu, ble roedd y te a’r diodydd oer yn fendithiol cyn y daith adref. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 6 Fai 2018. Tabor - Y Foel. Pan roeddem yn cychwyn o Pwllheli/Criccieth gwael iawn oedd y rhagolygon hefo niwl mor gwlyb yn cyfyngu gwelededd i ychydig o lathennau ond ar gyrraedd Porthmadog dyma ymddangos haul disglair ac felly y bu am weddill y dydd cynnes. Wedi dewis i wneud y daith hawddaf B, pum aelod o dan arweiniad Nick White gychwynnodd o’r arhosfan ger y dafarn Cross Foxes, Dolgellau a chymeryd y ffordd fechan, yn gyntaf ychydig i’r gogledd o orllewin i gyfeiriad Tabor ac yna i’r gogledd ar lwybrau drwy gaeau ac heibio nifer o ffermydd cyn croesi’r A470  a chyrraedd ffordd fechan arall. Yna dyma fynd  i’r gogledd ddwyrain ac ychydig ar i fyny ar Lwybyr y Torrent hyfryd ble roedd y tyfiant diweddar y gwanwyn ar ei orau yn arbennig y trawiadol goed ffawydden niferus. Wedi cyrraedd y ffordd fechan yr B4416 dyma ddal ymlaen i gyfeiriad y dwyrain yn diweddu mewn dringo serth i fyny’r Foel (1100 troedfedd) o ble roedd golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad ac yn arbennig o aber y Mawddach i’r gorllewin. Yna dyma wneud cylch byr o bentref Brithdir cyn ail groesi ein llwybr gwreiddiol a chreu figwr wyth cyn  dod a’r daith i ben gan fynd i’r de ar ffordd fechan arall gan fynd heibio y fferm Gwanas. Roedd hon ar y cyfan yn daith hawdd a phleserus ac mi gawsom wahoddiad i gartref newydd Nick ac Ann yn Nolgellau a mwynhau eu croeso ac te/coffi a chacen gartref. Roeddem wedi bod yn ymwybodol yn y prynhawn o drafnidiaeth awyrenau hofran, ceir yr heddlu a goleuadau yn flachio yn yr ardal o amgylch ein ceir ac yn ddiweddarach deallasant fod yna ddamwain   ddifrifol wedi cymeryd lle ar y ffordd oddeutu milltir o’r Cross Foxes ar yr A487 i gyfeiriad Tal y Llyn. Dafydd Williams.

Dydd Iau 26ain Ebrill 2018. Bryniau Conwy. Cychwynodd 15 aelod o’r Clwb o ymyl waliau Castell Conwy ar daith bleserus 7.5 milltir o dan arweiniad Maureen Evans i ddechrau ac wedyn am y mwyafrif o’r ffordd, Noel Davey. Roedd yn ddiwrnod braf a heulog er fod yna wynt bywiog a rhynllyd o’r de orllewin. i ddechrau aeth y cerddwyr o amgylch yr harbwr darluniadol a Coed Bodlondeb ac yna i fyny ar Lwybr Gogledd Cymru a chyrraedd godrau de  Mynydd y Dref a chyrraedd uchder oddeutu 700 troedfedd ble roedd golygfeydd da ar draws Dyffryn Conwy. Yna aeth y daith heibio safle’r caer enfawr oes yr haearn, Castell Caer Seion oedd rydym yn deall mewn grym rhwng y 6ed a’r 2ail ganrifoedd CC. Cinio yn dilyn mewn pant cysgodol uwchben Bwlch Sychnant. Aeth y daith i lawr i gyfeiriad y de ddwyrain ar lwybrau gwelltog llydan i Dyffryn Conwy, heibio Lodge, Llechwedd a Groesffordd. Dychwelyd heibio rhwydwaith o lwybrau dymunol drwy gaeau a rhwng heolau gwladol yn diweddu mewn disgyniad serth drwy’r coed i waliau’r castell mewn amser i gael te a hufen ia yn y ciosg cyfleus yn y maes parcio. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 22ain Ebrill 2018. Bronmiod – Pen y Gaer.  Yn ddewr iawn Sue Woolley a Miriam Heald arweiniodd barti o 14 ar daith 8.5 milltir o Llanaelhaearn i’r dyffryn hardd a’r bryniau uwchben Cwm Coryn. Yn dilyn y cyfnod diweddar o ddyddiau heulog a chynnes, dyma gael tywydd gwarthus o niwl isel a glaw oedd yn cyfyngu ein gweledigaeth ac gwneud ein morwriaeth yn anodd. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio newydd nesa i’r fynwent yn pentref Llanaelhaearn, mynd i’r dwyrain i fyny’r heol fach i mewn i Cwm Coryn. Wedi cyrraedd oddeutu 700 troedfedd aeth y cerddwyr i’r gogledd ar lwybr mwdlyd a dringo’n serth i fyny’r bryn amlwg Moel Bronmiod, aros am goffi wrth y carnedd mawr naturiol ar y copa 1350 troedfedd heb olygfa yn y byd oherwydd y tywyllwch. i lawr yr un ffordd aeth y llwybr i’r dwyrain heibio godre Bronmiod ac ymlaen ar draws rhostir di lwybr at droed Pen y Gaer oedd o’r golwg yn y niwl. Arhosodd y parti am ginio tamp ymysg cerrig hynafol enfawr o gytiau mewn cylch ac yna penderfynu mynd yn ol ac anghofio am yr ail fryn. Bron iawn yn syth dyma’r glaw yn peidio, y niwl yn codi a dyma’r haul yn ymddangos a’r cerddwyr yn cael eu haeddiant o olygfeydd o’r bryniau cyfagos a’r  clytwaith rhyfeddol o gaeau waliau cerrig o amgylch a’r wlad dawel yn ymestyn i lawr ar draws Llyn i’r mor. Felly roedd y daith yn ol yn llawer mwy diddorol ac roedd y cerddwyr mewn hwyliau gwell na cynt yn y dydd. Cymerodd rhai y cyfle i ymweld a’r eglwys wych o’r 12ed ganrif St. Aelhaearn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Gwyliau’r Clwb yn Exmoor 13 – 20 Ebrill 2018. Teithiodd 27 aelod o’r Clwb i Exmoor ar eu gwyliau blynyddol y mwyafrif yn gwneud y siwrne 8 awr ar fws Caelloi o Gwynedd i Holnicote House wedi ei leoli mewn safle gwladaidd braf rhwng Porlock a Minehead yn Gwlad yr Haf. Yn ol yr arfer roedd y ty gwladol HF yn cynnig llety a gwasanaeth derbyniol a digon o fwyd a diod i gynnal y parti yn ystod wythnos llawn o gerdded a gweithgareddau cymdeithasol.

Ar pob un o’r 5 diwrnod cerdded roedd yna ddewis o deithiau caled, canolog a hawdd, pob un yn cael eu arwain gan aelodau o’r Clwb, o gwmpas 12, 9 a 6 milltir mewn hyd, pob un yn ei dro. Roedd  cydbwysedd da o’r nifer yn cymeryd rhan rhwng y tri dosbarth yn golygu fod bron pawb wedi cerdded rhwng 30 a 60 milltir yn ystod yr wythnos. Gwellhau wnaeth y tywydd i fod yn gynnes a heulog; roedd y teithiau goreu ar yr arfordir difyr ac ar hyd dyffrynoedd nodedig coediog yr afonydd yn cynnwys yn arbenig y daith i Lynmouth a Linton yn cynnwys taith ar y “funicular railway” ac ar draws i Ddyffryn y Creigiau nodedig. Roedd y tywydd gwaethaf yn cyd fynd a thaith lawog dros y “Quantock Hills” a dringo “Dunkery Beacon, y man ucha ar Exmoor 1700 troedfedd ble roedd y niwl isel, glaw hegar a gwyntoedd 50 milltir yr awr yn ei gwneud yn anodd ac yn amhosib i weld 13 sir, yn ol y llyfrau teithio, i lawr i un! Yn ffodus roedd y diwrnod brafia yn cyfateb hefo’r daith olaf yn y rhan mwyaf anial o’r waen ac yn rhoddi amodau cerdded mwy dymunol ac yn rhoddi syniad o lymder ac ehangder di nod Exmoor. Ar y diwrnod di gerdded aeth y mwyafrif ar y bws i’r dref brydferth cyfagos, Dunster hefo’i gastell a gerddi nodedig yn rhoddi oriau o ddiddordeb.  Aeth eraill ar daith arall neu ymweld a llefydd o ddiddordeb fel y rheilffordd trefdadaeth yn Minehead neu pentref Selworthy a’r Colcerth uwchben.

Roedd y nosweithiau yn brysur hefo gweithgareddau cymdeithasol, y mwyafrif wedi eu trefnu gan  aelodau’ Clwb ac yn cynwys “Chinese Auction” boblogaidd a Dawnsio Gwerin anrhefnus heblaw pedwar cwis a chystadleuath lluniau anodd i adnabod aelodau yn eu ieuanctod.

Llawer o ddiolch i Hugh am ei waith trylwyr yn trefnu gwyliau blynyddol llwyddianus unwaith eto. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12ed Ebrill 2018. “Dir Dylliog” yn Dyfryn Nantlle. Tecwyn Williams arweiniodd daith hamddenol a diddorol oddeutu 5 milltir drwy “Dir Dylliog” yn Dyfryn Nantlle yn cynnwys llawer i domen, pyllau a llynnoedd yn goroesi yn y ganolfan fawr o chwareli llechi a fydd gobeithio yn ran o Leoliad Treftadaeth y Byd. Cychwynnodd y daith o Dalysarn ac yn syth i’r gogledd ar lwybrau chwarel nodweddiadol, heibio ysgrin Uniongred a cyn gapel a chyrraedd troed Mynydd Cilgwyn oddeutu 900 troedfedd. Yna i’r dwyrain ar ymyl pwll sbwriel Cilgwyn sydd wedi ei gau ac nawr yn cael ei ddefnyddio i greu “methane” ar gyfer cynyrchu pwer ar raddfa fechan. Yn bentref gwasgarog ac uchel Y Fron fe aeth y parti yn ol i’r de, aros am ginio ar hen dramffordd chwarel gyda golygfeydd ardderchog o weithfeydd chwarel Pen yr Orsedd ac ar draws Dyffryn Nantlle i’r wal gafaelgar Grib Nantlle. Aeth y ffordd yn ol ar hyd rhan newydd ei agor o’r Llwybr Llechi Eryri, gan weu rhwng nifer o byllau tyfn gafaelgar, llawer ohonynt yn llawn dwr, yn cynnwys y Twll Mawr gyda’i ddwr glas, Dorothea a’i ddwr niwlog, lle poblogaidd gan ddeifiwyr, a llyn dirgel Talysarn.  Gwnaethpwyd archwiliad o adfeilion Plas Dorothea/Plas Talysarn ble roedd i weld fod y ceffylau a’r cwn wedi cael gwell lle na pherchennog y chwarel. Roedd hon yn daith ardderchog ar ddiwrnod clir a sych, a’i therfynu gan fynd i’r caffi cyfagos yn Winllan Pant Du. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Ebrill 8ed 2018. Mynytho-Carn Fadryn. Ar ddiwrnod heulog oedd yn raddol ymdwymo Roy Milnes arweiniodd 23 cerddwr ar daith arbennig 8.5 milltir o Fynytho i Garn Fadryn ac yn ol. Dilynnodd y daith rhan o’r llwybr newydd ar draws Llyn, “Llwybrau Morwr”, sydd yn cael ei ddatblygu i gyfeiriad y gogledd o Abersoch/Llanbedrog i Nefyn, yn cynnwys gatiau mochyn newydd ac ychydig rannau o lwybr newydd. i  gychwyn dringodd y daith y bryn serth conigal, Foel Gron, safbwynt ardderchog ar draws i Abersoch a St.Tudwal, ac yna cymeryd y trac canolog ar draws y rhostir agored Tir Commin Mynytho. Oddi yno roedd hen lwybr wedi ei ail ddefnyddio gan i Stad Nanhoron roddi caniatad i lwybr cyhoeddus fynd heibio Pandy i lawr trac coediog i’r ffordd yn Pont Llidiard y Dwr neu Pont Inkermann (atgof Rhyfel y Crimea). Ychydig pellach ymlaen mae’r hen lwybr wedi hir ddiflannu i waelod Chwarel Nanhoron a llwybr newydd ar draws caeau i’r gorllewin sydd yn dod allan ar lon wledig yn Penbodlas. Yna fe aeth y llwybr i fyny i’r gorllewin o Garn Bach, cael ei warchod gan fwgan brain gafaelgar wrth droed Garn Fadryn ei hun. Nid yw’r llwybr i’r copa 1200 troedfedd yn anodd ac mi gafodd y cerddwyr, rhai yn ei ddringo am y tro cyntaf, eu gwobrwyo gyda golygfeydd  ysblennydd ar draws Penllyn ac hefyd cael cip amlinelliad o’r caer oes yr haearn a’r cylch gytiau ar y llethr yn union islaw. Wedi cael cinio croesawus yn yr haul cynnes, aeth y parti yn ol  yn hamddenol bron ar y llwybr gwreiddiol. Cymerwyd y llwybr dwyreiniol ar draws Commin Mynytho a chael golygfeydd hyfryd i gyfeiriad Port Neigwl a Rhiw gan fynd heibio Ffynnon Sarff, un o nifer o hen ffynhonnau yn Llyn wedi eu adferiadu gan gynllun AONB. Roedd hon yn daith llawn miri ac yn daith dydd Sul weddol haws ar ddiwrnod o dywydd da ac golygfeydd difyr o’r tirlun. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Mawrth 29ain 2018. Fairbourne-Llyn Glas. Daeth oddeutu 30 cerddwr ynghyd am daith fer o dan 4 milltir o Fairbourne i’r Llyn Glas a cael eu arwain gan Nick White. Roedd y mwyafrif wedi manteisio ar ddiwrnod olaf i deithio ar y tren dros y gaeaf am ddim o Bwllheli i lawr Arfordir y Cambrian a chael golygfeydd ardderchog ar ddiwrnod clir gyda cyfnodau heulog. Cychwynnodd y daith ar hyd promenad yn Fairbourne, sydd wedi ei linellu gan wal anferth o flociau concrit a adeiladwyd fel amddiffynfa yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ac yna i’r tir a dringo llwybr serth i fyny i safle yr hen chwarel lechi Golwern. Bu’r chwarel yn mynd am 50 mlynedd o 1865 ac er nad oedd wedi bod yn llwyddiannus, mae wedi gadael olion diddorol o lethrau, twnneli, twmpathau gwastraff a pheiriannau rhydlyd ar bedwar lefel. O lefel 2 oddeutu 400 troedfedd uwchben y mor roedd golygfeydd gwych i fyny’r arfordir i Bermo a Harlech ac ar draws Bae Ceredigion i lawr yr holl hyd o orynys Llyn o Borthmadog i Ynys Enlli. Y peth mwyafaf nodedig am y chwarel i’w y twll dyfn, anodd i gyrraedd, drwy dwnnel gwlyb gyda tho isel yn llawn o ddwr llonydd glas yn adlewyrchu y clogwynau llechi: Y Llyn Glas oedd uwchafbwynt y daith , y creigiau yn le addas i gael cinio, llawer brafiach na ddioddefodd chwech aelod ar daith dydd Sul wlyb eithriadol Rhagfyr diwethaf. Yna fe aeth y daith yn ol drwy’r pentref heibio man cychwyn y rheilffordd lleol “Rheilffordd Fairbourne” sydd yn rhedeg dwy filltir ar hyd yr arfordir i Bont y Bermo. Yna dyma’r parti yn gwahanu i sawl grwp: un yn dal y tren 13.45 oedd wedi ei oedi, yn ol i Bwllheli, un arall yn mynd i Dolgellau i siopa ac ymweld, un arall yn mwynhau coffi a hufen ia i ddisgwyl neu cerdded dwy filltir ymhellach i stesion Morfa Mawdach i ddal y tren nesaf. Unigolyn di enw yn cerdded dros y bont i Bermo a bron colli y tren!  Profodd hon i fod yn ddiwrnod diddorol a dymunol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Mawrth 25ain. 2018. Arthog – Llynnau Cregennen. Parti yn cynnwys 18 aelod ddaeth ynghyd yn yr hen stesion Arthog am daith  arbennig a chael eu arwain gan Nick White. Yn y cychwyn roedd y tymherau yn agos i rewbwynt ond mi gynnesodd yn fuan yn haul mis Mawrth a’r awyr las. Aeth y llwybr o bron i 9 milltir i fyny’n serth o Eglwys y Santes Catherine yn pentref Arthog, drwy’r coedwigoedd ac heibio’r rhaeadrau gafaelgar ar yr Afon Arthog ar lwybr a gerddodd y Clwb ar ddiwrnod llawer gwlypach ym mis Rhagfyr. Ar ol cyrraedd y llwyfandir oedd o amgylch 500 troedfedd dyma cael seibiant am goffi yng nghanol gweddillion cerrig Llys Bradwen yn draddodiadol cwrt chwedlonol pennaeth o’r 7ed ganrif. Yna aeth y llwybr i’r dwyrain i Lynnau Cregennan lle haeddianol boblogaidd ers oes Victoria sydd wedi ei brofi gan weddillion tai bach o’r 19G. Roedd y man yn le ardderchog i gael cinio a chael golygfeydd godigog nid yn unig dros un o’r llynnoedd ond hefyd y wal urddasol o gopfeydd Cader Idris i’r de ac ehangderau Aber Mawddach a Bont Bermo i’r gogledd. Yna aeth y daith ar lwybr eitha gwastad i’r gogledd ddwyrain o dan grib Pared y Cefn Hir yn ochrog a waliau cerrig mewn amryw gyflwr gan fynd heibio Ty’n Llidiart ble roedd gan Gwynfor Evans loches ac mae carreg goffa iddo yn fynwent Rehoboth gerllaw. Daeth y llwybr allan ger yr adeiliad difrifol yr olwg, Llety Brenin yr Ieuenctid ac ar heol fach goediog gyda’r Afon Gwynant ac i lawr i’r A493 yn Bont Abergwynant. Yna fe aeth y daith heibio rhodfa o “Coast Redwoods a “Wellingtonians” yn arwain i Plas Abergwynant ac, ar ol ymylu heibio Coed Abergwynant, heibio hen odyn calch, cyrraedd Llwybr Mawddach. Roedd y Llwybr ardderchog hwn yn caniatau cerdded rhwydd gyda golygfeydd ar hyd yr Aber i gerddwyr a beicwyr gan ddilyn yr hen reilffordd o Ruabon i Bermo fu gau yn 1965. Roedd y gwyneb gwastad yn caniatau y daith i gyflymu nes cyrraedd y ceir yn Arthog ar ol diwrnod ardderchog yn haul y gwanwyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 15ed Fawrth 2018. Cylchdaeth Llyn Gwynant. Rhian Watkin arweiniodd griw o 18 ar daith ddifyr 6.5 milltir o amgylch Llyn Gwynant yng nghanol Eryri ar ddiwrnod cynyddol glir a heulog o wanwyn. Cychwynnodd y daith o Bethania yn Nant Gwynant a chymeryd y llwybr drwy’r cae i’r gogledd ddwyrain ar draws tir y fferm Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Hafod y Llan yn gyfochrog a’r afon Glaslyn. Yna roedd gwaith dringo i gyrraedd y llwybr coediog uwchben glan gogleddol Llyn Gwynant. Aros am goffi ar y man amlwg a’r enw poblogaidd “Elephant Rock” ond Penmaen Brith yn gymraeg, yn rhoddi golygfeydd hardd as draws y llyn llonydd. Ymhellach ymlaen roedd lan gogleddol y llyn yn le nodweddol i gael cinio yn yr haul cynnes. Ar ol cyfnod byr ar y ffordd bost aeth y llwybr i’r gogledd drwy coed Coederyr a chyrraedd ucaflbwynt o 600 troedfedd ble roedd golygfeydd gwych i’w cael ar draws y dyffryn i gyfeiriad copau cyfagos Gallt y Wenallt, Lliwedd. Yr Aran, Moel Hebog ac yn coroni’r cwbl, swmp Y Wyddfa ei hun, gyda’i smotiau eira ar ol y chwa Arctig diweddar. Roedd y rhan olaf yn rhwydd, yn disgyn ar y ffordd fach hebio Plas Gwynant ac yn ol i Bethania. Ymlacio wedyn yn yr hen gapel gerbron a chael siawns i fwynhau paned a chacen. Er gwaethaf y llefydd anodd amrywiol o fwd, bonau coed peryglus, cerrig llithrig, coeden wedi disgyn a gorfod croesi nant anodd, roedd pawb wedi mwynhau y daith. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 11 Fawrth 2018. Trawsfynydd - Caer Rhufeinig. Roedd y bore heulog a’r addewid o daith weddol fer (7.3 milltir) wedi denu 16 aelod o’r Clwb ar daith bleserus o dan arweiniad Tecwyn Williams.  Cychwynnodd y daith o’r arhosfan ar yr A470 ychydig  i’r gogledd o Drawsfynydd ar hyd llwybr coediog pleserus i fyny Nant y Cefn ac yna i’r gogledd ddwyrain yn Craig y Tan ac , o’r diwedd cyrraedd y gweundir agored llwm yn cwm Afon Llafar. Roedd llwybr graean a adeiladwyd ar gyfer cynnal yr gwifrenau trawsyriant uwchben yn ffordd rwydd heb ddim o’r mwd oedd yn nodweddol yn y caeau. Roedd adfeilion Dolddinas yn le addas i gael cinio. Y fan hyn yw man un o ddau safle Gwaith Ymarfer Rhufeinig ble roedd y milwyr o’r Caerau cyfagos yn ymarfer oddeutu dwy fil o flynyddoedd yn ol ond ychydig iawn o’i olion sydd i weld. Aeth y ffordd i’r gorllewin a chroesi llinell y Ffordd Rufeinig Sarn Helen yn Dolbedyr a chwareli llechi Braich ddu sydd yn dal i weithio ar raddfa bychan. Yn fuan cyrhaeddodd y daith y prif safle o’r Caer Rhufeinig ble roedd y Clwb wedi ymweld ar daith dydd Iau oddeutu dau fis yn ol. Cymerodd pawb y cyfle, rhai am y tro cyntaf, i ddringo y twmpath amlwg, Tomen y Mur, y mwnt Normanaidd ar yr un safle, dros 1000 o droedfeddi ac yn rhoddi golygfeydd ardderchog dros Llyn Trawsfynydd a’r mynyddoedd cyfagos. Yna fe aeth y llwybr yn ol i’r de, uwchben y ffordd bost, o amgylch Llwyn y Crwn ac yn ol i’r man cychwyn. Gorffennodd y daith bleserus yn y caffi cymunedol, cyfarwydd erbyn hyn, ar gyrion Llyn Trawsfynydd hefo paned o de a chacen flasus. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Mawrth 1af. 2018. CCB, a Criccieth - Pentrefelin. Cynhaliodd y Rhodwyr ei 39ain Gyfarfod Blynyddol yn Criccieth pan fynychodd 30 o aelodau, ar ddiwrnod dychrynllyd o oer, y cyfarfod ar ddiwrnod Gwyl Dewi. Roedd y cyfarfod yn fyr ond yn llwyddiannus ac yn dilyn ymddeoliad Nick White y cadeirydd am dair blynedd, fe etholwyd Gwynfor Jones yn ei le. Yn dilyn y cyfarfod a chael cinio buan yn vestry Capel y Traeth, mentrodd 17 aelod o dan arweiniad Dafydd Williams ar daith 4.75 milltir. Roedd y tymherau israddol yn teimlo fel -10C yn y gwynt rhynllyd ond er hyny mi oedd yn sych ac roedd y ddaear rhewllyd i’w groesawi yn dilyn y mwd di ddiwedd diweddar. Dilynodd y parti y promenad yn Criccieth, heibio Ty bwyta Dylans, ar Lwybr yr Arfordir, mynd i’r tir yn Rhiw-for-fawr a heibio Ystumllyn, ty wedi ei restru o’r 16eg ganrif sydd yn nodedig oherwydd cymeriad o’r 18ed ganrif, Jack Black gafodd ei ddal pan yn blentyn, cael ei gadw fel gwas, a mynd ymlaen i fagu teulu lleol ac mae wedi ei gladdu gerllaw yn fynwent Ynyscynhaearn. Yn Pentrefelin aeth y daith a r draws y lon bost, heibio llyn pysgota Eisteddfa a chartref Lady Olwen Carey-Evans, merch Lloyd George, a’i theulu. Yna roedd dringo i bron 500troedfedd i fyny lon fach i Braich y Saint. Oddi yna dyma’r parti yn disgyn ar draws cyn gwrs golff Criccieth, (chwith ei weld), a chyrraedd cysgod derbynniol y dref. Oherwydd y cyflymdre roedd y criw wedi cadw yn weddol gynnes ac mewn hwyliau da ac yn teimlo yn lwcus i gyflawni’r daith cyn i Storm Emma wrthdaro a’r “Beast from the East” a dod a lluwchwyntoedd a rhew du. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 25ain Chwefror 2018. Llwybr Llechi Eryri. Diwrnod oer, heulog a chlir oedd hi, perffaith ar gyfer taith hir. Un ar ddeg yn cyfarfod ger Tafarn y Nelson ym Mangor ar gyfer rhodfa o dan arweiniad Noel Davey i Fethesda ar hyd yr adran newydd ei agor o Lwybr Llechi Eryri a dychwelyd ar hyd ffordd beicio Lon Las Ogwen. Roedd y rhan gyntaf yn gyflym ac yn rhwydd i’r de o Porth Penrhyn ar hyd y llwybr beicio coediog, roedd mor rhwydd fel i’r arweinydd fynd hanner milltir heibio y tro i’r dwyrain i gyfeiriad Llandygai a Bryn Cegin. Yna croesodd y llwybr yr A5, o amgylch y cae rygbi ar lwybrau wedi ei clirio gan y Rhodwyr yn ochrog ac yna o dan yr A55. Roedd yn ollyngdod i gyrraedd caeau distawach ar ochr yr Afon Ogwen, man ardderchog i gael paned, ychydig oruwch i argae mini-hidro newydd wrth ymyl Cochwillan. Ymhellach ymlaen aeth y llwybr heibio’r ty gwych o’r 15ed ganrif Cochwillan, rhan o stad canoloesol enfawr y teulu Gruffydd o Penrhyn. Gan ddod i ran byr o’r A5 yn Halfway Bridge aeth y llwybr i fyny i Llanllechid ble roedd mynwent yr eglwys yn le dymunol i gael cinio, cyn dringo drachefn i’r man uchaf 750 troedfedd ger Rachub; oddi yno roedd golygfeydd gorau’r dydd i gyfeiriad Chwarel y Penrhyn, y Carneddau a Culfor y Menai. Daeth disgyn serth a’r parti i ganol Bethesda. Oddi yno aeth dau yn ol i Fangor ar y bws ar ol 8 milltir ac yna tri arall o Tregarth ar ol 10 milltir. Ymlwybrodd y 6 oedd yn weddill ymlaen yn sydyn ar hyd y llwybr beicio coediog bron yn wastad yr holl ffordd yn ol i Bangor ar ol cyflwyno 14.5 milltir dros 6.5 awr. Mae Lon Las Ogwen yn boblogaidd ac yn werthfawr i gerddwyr a beicwyr, yn dilyn adrannau o gledrau cynnar rheilffordd Penrhyn ac yn ddiweddarach cangen y rheilffordd Bethesda-Bangor LNWR. Man diddorol oedd Twnnel Tregarth sydd newydd ei ail agor. Ychydig ymhellach ymlaen cafwyd arhosiad am baned dderbyniol yn y caffi cymunedol arbennig Moel y Ci. Gwnaeth y tywydd braf hi yn ddiwrnod gwerth ei chael  gan gynwys amrywiaeth o bethau diddorol a digon o ymarfer corff ac hefyd galluogi y cerddwyr i  gerdded pellter yn ol eu dymuniad. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 15ed Chwefror . Cylchdaeth Maentwrog. Roedd cynulliad da o 24ain ar gyfer y daith ddiddorol ac amrywiol oddeutu 5 milltir yma dan arweiniad Tecwyn Williams, o’r Oakley Arms ym Maentwrog. Roedd yn ddiwrnod heulog ac yn dangos dyffryn llydan Maentwrog a’r llethrau coediog ochrog ar ei oreu er gwaethaf y gwynt oer. Dilynodd y rhan cyntaf y ffosydd morgloddiog igam ogam ar draws yr aber gwastad gerllaw yr Afon Dwyryd ymdroelliog; anaml maent yn cael eu cerdded ac nid ydynt yn lwybrau fformal ond maent yn rhoddi golygfeydd unigryw o’r dyffryn. Wedi croesi’r A487 ger Bryn Mawr (cartref yr astrologydd Russell Grant) dyma’r parti yn dringo drwy gerddi y Plas godidog, Tan y Bwlch a adeiladwyd yn yr 19eg ganrif o arian llechi y teulu Oakley, ond erbyn heddiw canolfan astudiaeth amgylchedd o dan ofal  Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd y byrddau picnic ar y teras mawreddog yn le rhagorol i gael cinio gyda golygfeydd urddasol ar draws y dyffryn wedi ei gynllunio a’i adlunio gan y teulu Oakley. Yna aeth y daith i fyny llwybrau tu ol i’r Plas drwy allt hardd o Goedwrydden Japanead Coch ac yn fuan cyrraedd ac amgylchu y llyn cyfarddefol, Llyn Mair. Gan nesau at y diwedd aeth y daith ar lwybrau wedi eu rhwygo braidd gan gliriad coedwigaidd diweddar, drwy Coed Ty Coch islaw Y Garnedd a Rheilffordd Ffestiniog. Yn dilyn disgyniad serth dyma gyrraed yr Oakley Arms ble daeth diwrnod pleserus i ben drwy fwynhau coffi a chacen. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 11ed Chwefror 2018. Llanystumdwy. Dafydd Williams a Jean Norton gymerodd drosodd i arwain 11 o gerddwyr ar y daith hir ond werth chweil yma drwy wlad ddymunol i’r tir o Llanystumdwy. Dilynodd y ffordd ddeuddeg milltir siap ffigwr wyth ar rwydwaith o lwybrau gwastad, yn mynd yn groes i gyfeiriad taith ddydd Iau ddiweddar, yn gofiadwy oherwydd y mwd truenus. Unwaith eto mwd oedd yn flaenllaw ond roedd rhannau cyson o darmac yn rhoddi rwyfaint o ryddhad o’r mwd tyfn ac yn ffodusc roedd y tywydd yn sych arwahan i un gawod sydyn o genllys, hefo cyfnodau heulog a gwynt oer. Yn gyntaf aeth y criw i’r gorllewin o bentref Llanystumdwy a heibio’r fynwent, ar draws y Dwyfach ac ymuno a rhan ddeheuol o’r Lon Goed tu draw i Ysgubor Hen. Ar ol cerdded i’r A497 yn Afon Wen a chael seibiant am baned, aeth y cerddwyr drwy fferm newydd solar, Bryn Bachau, wedi ei chysgodi yn dda, ac ymlaen i Chwilog a chael cinio yn y maes chwarae di blant. Oddi yn roedd ffordd rwydd darmac i gyfeiriad y gogledd ddwyrain  cyn unwaith eto fynd i’r mwd gan fynd heibio llyn pysgota ac ail ymuno a’r Lon Goed. Yna dilynodd y daith yr hen ffordd fawreddog a choediog yma i’r gogledd, heibio Rhosgyll Fawr a throi oddi arni ar ol tua dwy filltir ar hyd llwybr yn mynd o’r gorllewin i’r dwyrain ger man croesi yr hen reilffordd Bryncir-Afonwen. Yna dychwelodd y daith i’r de ar hyd y ffordd ac yna llwybr coediog braf heibio glan dwyreiniol y Dwyfach ac o’r diwedd croesi caeau drwy Gwynfryn ac yn ol i Llanystumdwy. Roedd yna siarad cyson drwy gydol y deuddeg milltir oedd yn awgrym nac oedd anhawsterau’r daith ddim yn ormodol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 1af Chwefror 2018. Mynytho – Llanbedrog. Jean Norton, ar fyr rybudd arweiniodd grwp o 22 o Fynytho i Llanbedrog. Arhosodd y tywydd yn sych a heulog ond mi oedd yna wynt oer gogleddol. Oherwydd cyflwr mwdlyd y llwybrau a’r ordyfiant, prin oedd y dewis o lwybrau ac unwaith eto roedd yr arweinydd wedi treulio peth amser yn tocio drain ac eiddew ymlaen llaw. Er hyny roedd yna ddigon o safleoedd mwdlyd a llawn dwr ar y llwybrau yn arwain i’r dwyrain o’r man cychwyn yn Foel,Gron. Aeth y daith ger ochr dwyreiniol ardal gorslyd o dir comin, heibio Gadlys a meysydd carafanau yn Ty Hir a Bodwrog a drwy ardd Y Ferw. Yna i lawr drwy gaeau a llwybr delfrydol coediog wrth ochr nant yn rhuthro’n serth i gulffordd ar yr A499 rhwng dwy caer uchel yr oes haearn. Oddi yno roedd dringo cyson 400+ troedfedd Mynydd Tir-y-Cwmwd mewn amser i ginio. Cysgodi  tu ol i gerrig cyfleus neu yn y grug a’r eithin o’r gwynt wnaeth y mwyafrif i fwynhau y picnic a’r golygfeydd heulog ysblennydd i’r de ar draws y bae i Abersoch, Cilan ac ynysoedd St Tudwal. Roedd y cerflyn llechi yn y fan hyn, wedi ei atgyweirio ar ol fandaliaith diweddar yn arweinydd diddorol i gopau niwlog Eryri. Yn dilyn cinio cymerodd rhai o’r parti mewn cangymeriad lwybr hirach o amgylch ymyl y Pentir yn hytrach na’r ffordd fyrach i’r dwyrain, i’r man gwylio unigryw yr “Iron Man”: Hwn yw’r trydydd gerflun i’w adeiladu ar y safle ers i Solomon Andrew roddir addurn yma. Yna dyma’r ddau grwp yn ail ymuno  ger Plas Glyn y Wedd ar ol dychwelyd i lawr y grisiau serth i’r traeth neu’r llethrau haws drwy goed Winallt. Yna dychwelodd y cerddwyr yn ol i Fynytho mwy na lai ar yr un llwybrau a’r daith allanol. Roedd y daith bleserus yma o 6 milltir ar gyflymdra cymedrol ond i lawer yn siwrne egniol. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 28ain Ionawr 2018. Llanuwchllyn ac Afon Dyfrdwy. Roedd y daith arbennig yma o 10 milltir o  Lanuwchllyn ar hyd yr afon Dyfrdwy ger Bala wedi ei chyflawni gan griw bychan ar ddydd Sul y Pasg 2016 ond yn ddiau roedd yn werth ei ail gwneud. Y tro hwn roedd 10 cerddwr yn cael eu harwain gan Hugh Evans ac mi gychwynodd i gyfeiriad y de orllewin drwy wlad ddymunol ar ochr deheuol y cwm, gan ddilyn llwybr newydd ei wella, nawr yn rhan o lwybr 28 milltir Mary Jones, yn dathlu ei hymdrech wrol fel merch ifanc i gael gafael ar Feibl yn 1800. Roedd coeden yn arwyddo safle Gwersyll Rhufeinig yn le da i aros am baned ond toes yna fawr o olion y Rhufeinwyr. Ger Pant Clyd roedd y llwybr yn croesi’r ffordd brysur yr A494 a’r hen reilffordd yn cysylltu Dolgellau a Bala. Yna roedd dringo serth o 600 troedfedd ar lwybr mwsoglyd drwy’r coed i fyny Carreg y Hebog, hwn oedd y rhan mwyaf egniol o’r daith ac roedd pawb yn barod  am ginio mewn man agored yn agos i’r top. Yna dyma’r daith yn parhau ar lwybr coedwigaidd haws, ar draws y Dyfrdwy a ger tir agored wrth droed creigiog Moel Caws. Roedd y rhwystrau yn niferus ar y  ffordd yn ol yn cynwys digon o fwd ond, yn ffodus, roedd yr arweinydd wedi rhyddhau rhan o’r ordyfiant  ar y llefydd anodd cyn llaw, y trydydd troy n ddilynol mae hyn wedi fod yn anghenreidiol ar  deithiau ar y rhaglen bresennol. Roedd y tywydd yn gymylog gyda gwynt garw a’r glaw yn ymharu rywfaint ar y golygfeydd, ond mi oedd yn ddiwrnod da o gerdded yn yr ardal ddiarth yma o Wynedd  ac, i ddiweddu, mynd i’r Llew Gwyn yn Bala ar y ffordd gartref. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau Ionawr 18ed 2018. O Amgylch Garn Boduan. Maureen Evans ar fyr rybudd wnaeth arwain 26 aelod ar daith bleserus 7 milltir ar rhwydwaith amrywiol o lwybrau rhwng Nefyn a Porth Dinllaen. Arwahan i gyffro byr o genllys roedd yn ddiwrnod sych  gyda peth haul ond  gwynt rhewllyd.  Cychwynnodd y daith i’r de o faes parcio Stryd y Plas ar lwybr Arfordirol Cymunedol newydd ei ddyrchafu ac ar draws tir ymladd y Tywysog Du, i’r gogledd ar draws yr B4417, heibio’r llyn mawr hwyaid cymunedol i gyrraedd yr arfordir. Yna aeth y cyfeiriad i’r gorllewin ar hyd adran braf o Lwybr yr Arfordir cyn belled a Port Dinllaen gan roddi golygfeydd da ar draws y bae ac yn ol i’r Eifl. Mae’r llwybr yn y man yma bob amser o dan fygythiad o erydiad ac  ymsuddiant oherwydd y clogwyni bregus, mae rhan wedi ei golli ac mae rhaid gwneud gwyriad mewndirol. Ar ol  sbel ar hyd lan y mor , roedd y byrddau picnic yn y Dafarn Ty Coch enwog yn le addas i gael cinio ac yn rhoddi tipyn o gysgod o’r gwynt. Roedd y ffordd yn ol ar draws y Cwrs Golff di gysgod i Morfa Nefyn yn oerach. Yna ail ymunodd y daith a’r Llwybr Arfordirol yn ol i Nefyn gan fynd heibio’r Amgueddfa Forwrol yn yr hen Eglwys Santes Fair. Diwrnod da!. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Ionawr 14eg. O Amgylch Llyn Trawsfynydd. Roedd y rhagolygon o dywydd braf ar addewid o gerdded rhwydd yn cyfranu tuag at i 27 gerddwyr ddod ar daith 8.3 milltir ardderchog a chael eu arwain gan Judith Thomas o amgylch Llyn Trawsfynydd. Mae’r llyn hardd hwn ar ol llafur dyn nawr yn gronfa ers 1920 ar gyfer yr orsedd hidro-electrig ym Maentwrog; cafodd ei ehangu yn 1965 fel man oeri’r dwr er mwyn yr orsedd niwclar Trawsfynydd a gaeodd yn 1991 ac yn debyg o gymeryd 100 mlynedd i’w gau yn gyfan gwbl. Mae’r mwynderau lleol wedi eu hyrwyddo ar derfyniad yn ddiweddar o lwybrau troed a beic o amgylch y llyn sydd ar y cyfan yn wastad hefo gwyneb caled. Aeth y daith yn groes i’r cloc, cychwyn i’r gorllewin o’r caffi ar lan y llyn heibio’r hwlc o weddillion yr orsedd bwer i’r prif argae yn y gornel ogledd orllewinol o’r llyn. Yna mynd i’r de a dringo ryw ychydig ar ochr Warchodfa Natur Coed y Rhygen. Yn dilyn arosiad am baned ar yr argae deheuol dyma’r parti yn croesi’r bont droed hir, heibio Garreg yr Ogof i Trawsfynydd ble roedd y maes chwarae, y seddi o flaen cofgolofn Hedd Wyn a’r Ganolfan Trefdadaeth Llys Ednowain a’r Llety yn le addas i gael cinio. Wrth fod yna ddim hawl i gerdded ar adran byr o’r glan gogleddol i’r pentref, aeth y cyfeiriad ar lwybr mwdlyd am oddeutu milltir, i’r dwyrain o’r A470, ac ail ymuno a glan y llyn am y rhan olaf yn ol  i’r cychwyn ble roedd y caffi cymunedol yn le delfrydol i ddiweddu’r diwrnod. Drwy gydol y diwrnod roedd y gwynt rhynllyd a’r haul gaeafol yn ehangu y golygfeydd o’r leoliad y llyn yn gorwedd ar ochr mynyddoedd y Rhinogau. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau y 4ydd o Ionawr  2018. Llanystumdwy. Kath Spencer arweiniodd 19 aelod ar gylchdaith dda 7 milltir yn y wlad goediog braf mewndirol o Lanystumdwy. Roedd yn ddiwrnod heulog arwahan i gyfnod o gawodydd cryfion ac yr oedd y coed yn rhoddi cysgod o’r gwynt, diwedd Storm Eleanor, ond roedd llawer o fannau yn nodweddol am gyflwr mwdlyd dan draed a nifer o gamfeydd llithrig a rhwystredig. Aeth y ffordd drwy’r pentref ac i fyny lon gul serth, ymlaen i’r gogledd ar draws caeau mwdlyd heibio Fferm Gwynfryn a gweddillion llosgedig Plas Gwynfryn, a chroesi’r Afon Fach ger Bettws Fawr. Yna roedd cerdded ar y tarmac yn rhoddi rhywfaint o ollyngdod o’r mwd, cyn i’r daith fynd i’r gorllewin ar lwybr gwlyb ble cafwyd ginio derbyniol ger twmpath o gerrig mwsoglyd cysgodol. Wedi cyrraedd y Lon Goed aeth y parti i’r dde i ddilyn y llwybr coedlyd mawreddog wedi ei adeiladu yn y 18ed ganrif i wasanaethu ffermydd ystad. Aeth y rhan olaf o’r daith mewn cylch heibio Plas Talhenbont, ail groesi’r Ddwyfach yn Glyn Dwyfach a chyrraedd y llwybr yn ochrog a’r A497 ger y fynwent a Bont Fechan, ac yn fuan dod a’r parti yn ol i Lanystumdwy. Roedd hon yn daith ddymunol o bedair awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 31 Rhagfyr 2017. Frynniau Clynnog. Daeth diwrnod olaf y flwyddyn a 14 cerddwr ar daith 8.5 milltir yn Frynniau Clynnog a chael eu harwain gan Noel Davey. Roedd yn ddiwrnod o gyfnodau clir a heulog gyda ambell i gawod a gwynt gorllewinol cymedrol. Cychwynodd y parti o’r hen dafarn Y Beuno yn Clynnog Fawr ac mynd yn syth i fyny ar y ffordd serth a ffordd i anifail sobr o wlyb yn arwain o’r diwedd i gaeau a tir agored  ar lethrau gogleddol Bwlch Mawr. Roedd y dringo cyson oddi yno i’r copa gan ddilyn llwybrau defaid ac eithin byr yn dipyn o laddfa, ond cyrhaeddodd pawb mewn amser i baned y bore. Roedd y parti yn medru gwneud defnydd o ddwy gamfa newydd eu gosod (wedi eu adeiladu ar gais a gan gwirfoddolwyr Rhodwyr Llyn) er mwyn cael  mynediad dros y waliau uchel i’r copa.  Oddi yno roedd golygfeydd tipyn yn niwlog i’r gogledd i gyfeiriad Ynys Mon a’r Fenai, i’r de ar draws Eifionydd i Bae Tremadog ac i’r gorllewin dros gadwyn o fryniau i lawr y Llyn. Yna fe aeth y ffordd i’r de dros lwyfandir gwelltog i gyrraedd y prif llwybr deheuol-gorllewinol ar draws Bryniau Clynnog fydd yn fuan yn cael ei fabwysiadu fel rhan o’r Llwybr Cymdeithasol Arfordirol. Ar yr estyniad gorllewinol hwn o’r daith roedd amryw o gamfeydd gwan a llithrig i’w dringo a rhai caeau mwdlyd. O gwmpas ganol dydd roedd cyfnod byr, diolch byth, o law brathog  a gwyntoedd cryfion ond daeth yr haul yn ol mewn pryd i ni gael picnic yng nghysgod wal yn edrych dros Cwm Coryn. Aeth y daith ymlaen ar y llwybr drwy system o gaeau waliog hynafol ac yna i lawr ar lwybr igam ogam i gyfeiriad yr arfordir a’r A499 islaw. Cyn cyrraedd Rock Cottage, aeth y llwybr i’r Gogledd ddeheuol, heibio yr ymyl gogleddol o Fryniau Clynnog, dilyn llwybr annymunol ond gwastad  oedd unwaith yn arwain i weithfeydd y cyn chwarel Ithfaen, Tyddyn Hywel ar lethrau Gyrn Ddu. Wedi cylchdaith o fferm Ystymllech daeth llwybr coediog a’r parti allan i Pont y Felin yn Gyrn Goch o ble roedd hi yn gerddediad byr yn ol i Clynnog ar y llwybr beicio ar ochr y prif ffordd. Roedd hon yn daith egniol ond yn helpu i orffygu or fwyta’r Nadolig cyn paratoi am fwy dros y Flwyddyn Newydd! Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 21 Ragfyr 2016. Rhaeadr Llanberis. Ar ddiwrnod troiad y rhod aeth 15 cerddwr i’r maes parcio cywir ar ochr Llyn Padarn yn Llanberis am daith bleserus ychydig dros 6 milltir gyda Tecwyn Williams yn arwain. Aeth y llwybr i’r tir drwy Goed Doctor, coedwig gymuned ar ymylon gorllewinol y dref. Yna gan fynd oddi tan y bont dros y Reilffordd Eryri, dilynnodd y parti lwybr cul llithrig drwy geunant tyfn mwsoglyd wedi ei ffurfio gan yr Afon Ceunant rhuthredig a chyrraedd troed  y rhaeadr ysblennydd yn disgyn i bwll yn y pen draw, lle addas i gael paned deg. Gan ddychwelyd yr un ffordd dyma’r cerddwyr yn dringo i fyny’r allt a chael golygfa arbennig arall o’r rhaeadr islaw. Dyma gyfarfod a dau Santa Claus yn rhedeg ar draws tir agored a’r rhostir  cyn i ni gael cinio ar safle a golygfeydd da i lawr at y llyn a rhesi o lechi ar  lethrau Elidir Fawr. Wedi croesi’r Ceunant a’r rheilffordd roedd y ffordd i lawr yn ymuno a Llwybr y Wyddfa Llanberis cyn gwneud trobwynt drwy Coed Victoria. Yna dyma wneud cylchdaith er mwyn ymweld a twr crwn arbennig Castell Dolbadarn Llewelyn Fawr. Roedd caffi’r Mynyddd Trydan (Electric Mountain) yn le cyfleus am baned arall cyn cerdded yn ol ar hyd y llyn. Yma roedd yr uchafbwynt olaf sef y cerflun o’r cledd ( Llafn y Ceiri) 20 troedfedd o uchder newydd ei godi i ddathlu treftadaeth enwog yr ardal o amser y Tywysogion Cymreig. Roedd hon yn daith bleserus a diddorol mewn tywydd sych a thyner er yn gymylog. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul 17eg Ragfyr 2017. Llyn Glas Friog ac Rhaeadrau Arthog. Cyfarfu chwech o aelodau hanner call yn Morfa Mawddach ar gyfer taith wlyb iawn 9.6 miltir a cael eu harwain gan Nick White yn y bryniau i’r de o Aber Mawddach. Mynd ar gyflymdra da dros y ddwy filltir gyntaf i ddannedd glaw pigog a gwynt rhwystredig ar hyd llwybr syth a gwastad y morglawdd di gysgod i gyfeiriad Fairbourne. Aros i gael ein gwynt atom yn gysgod un o’r bythynod lan y mor i’r de o’r dref ac yna dringo 500 troedfedd i fyny i’r hen chwarel Golwern. Dyma safle y Llyn Glas (Blue Lake) hudolus, pwll tyfn wedi ei amgylchu gan glogwyni serth, gweddillion chwarel lechi, ac nawr   yn denu nofiwyr gwyllt. Roedd yn wag heddiw ond hyd yn oed ar ddiwrnod mor damp, gwlyb a thywyll roedd lliw glas y llyn a’r creigiau cyfagos yn cyfleu awyrgylch unigryw. Roedd cysgod mynediad isel y twnnel, allan o’r glaw diddiwedd, yn le cyfleus i gael cinio. Er i’r  bore fod cyn wlyped a’r rhagolygon roedd yn sychach yn y prynhawn.  Dal ar i fyny wnaeth y llwybr a chyrraedd oddeutu 900 troedfedd uwch ben y mor, mynd i’r dwyrain heibio Cyfanedd i gyfeiriad Cregennan. Yna roedd disgyniad hir a llithrig drwy goed ffawydd godidog ar ochr rhes o gefnlifoedd gafaelgar Rhaeadr Arthog. Roedd y rhan olaf yn ymdaith hawdd ar hyd rhan o Lwybr Mawddach. Gwnaeth y tywydd y daith hon yn sialens ac nid un am olygfeydd  ond ar y cyfan roedd pob un o’r cerddwyr i weld wedi mwynhau y diwrnod yn ymchwilio’r wlad braf yma. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 24ain Dachwedd. Tomen-y-Mur, Trawsfynydd. Cyfarfu 20 o aelodau yn y Ganolfan Prysor oddi mewn i’r tir ger Atomfa Trawsfynydd ar gyfer taith o 4.5 milltir gan fynd heibio Tomen y Mur a chael eu arwain gan Nick White. Roedd yn ddiwrnod braf a sych ac yn ddeiniadol i gerdded yn yr ardal ddymunol yma. i gychwyn aeth y daith ar lwybr hyfryd i’r de gydag ymyl y lan gogledd ddwyreiniol y Llyn, ac yn fuan aros am ginio wrth i ni gychwyn am hanner dydd. Ar ol  croesi yr A470 brysur, dringodd y llwybr yn araf i’r gogledd ar drac mwdlyd – hanes bron pob taith yr Hydref yma. Yn fuan daeth y mwnt adnabyddus Normanaidd, Tomen y Mur i’r golwg. Yna dyma’r cerddwyr, rhai yno am y tro cyntaf, yn treulio hanner awr i fynd o amgylch y safle ddiddorol a phwysig yma i weld gweddillion y caer Rhufeinig uchel noeth, gwyntog a mwyndirol yma. Mae’r safle nawr wedi ei wella oherwydd fod panelau yn egluro’r olion gweledig yn cynnwys gwrthglawddiau, amffitheatr,safle molchi, gwesty, maes pared ac olion yr Ffordd Rufeinig sef Sarn Helen. Yna dyma pawb yn dringo’r “domen” a chael golygfeydd ardderchog i lawr i Lyn Trawsfynydd a’r Rhinogydd yn y pellter cyn cymeryd y llwybr yn ol i lawr ac ar draws rhan o’r hen reilffordd Blaenau-Bala a heibio Capel Utica ar ochr y ffordd. Daeth y daith bleserus a chymdeithasol i ben gyda paned ac (i rai) cacen yn y caffi ardderchog gerllaw ac newydd ei adnewyddu. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul 19eg Dachwedd 2017. Ar draws Llyn. Judith Thomas arweiniodd griw o 14 dewr ar daith 11.2 milltir o arfordir i arfordir ar draws y Llyn o Tudweiliog i Abersoch. Roedd rhai ac atgofion o gaeau mwdlyd a camfeydd di ri y tro olaf i’r Rhodwyr wneud y daith yma yn 2004 ond 13 mlynedd yn ddiweraddach roedd yn amlwg fod pethau wedi gwaethygu. Llwybrau wedi eu rhwystro ac ordyfu, nifer fawr o’r camfeydd mewn cyflwr gwarthus, weiran bigog rhwystredig, bron dim arwyddion a mwd dros ein sodlau – diolch i Jean a Miriam am eu ymdrechion hefo teclynau tocio i glirio adran wael iawn fel rhan o’r paratoi ar gyfer y daith. Cychwynnodd y cerdded o Westy’r Llew yn Tudweiliog gan gymeryd ffordd fechan i’r de ddwyrain gyda ymyl Cefnamwlch ac yn fuan mynd i’r mwd ar draws caeau i Bryn Mawr a Trefaes ac o’r diwedd cyrraedd y ffordd ger Botwnnog. Roedd y daith wedi myn heibio Capel Salem . capel mewn cyflwr da, wedi ei restru, a’i adeiladu yn 1879 a nawr o dan ofolaeth y Chwaer Serafina. Yn y prynhawn dyma’r criw yn cyrraedd un daith gron newydd ei chreu a’i ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Arfordirol, ond roedd yn ddigalondig yn y man yma fod rhai camfeydd mewn cyflwr gwarthus. O Botwnnog aeth y llwybr heibio Trewen ac ar draws caeau i gyfeiriad twr amlwg yr eglwys fechan yn Llandegwning, croesi Saithbont ger Neigwl Ganol ac o’r diwedd cyrraedd y pentref deniadol Llangian. Roedd y rhan olaf yn croesi Bont Newydd hir dros yr afon Soch a dringo’n serth heibio’r gaer oes yr haearn Pen y Gaer, o ble roedd golygfeydd da y tu ol, yr afon yn ymdroelli ac wedi or lifo mewn manau o amgylch Porth Neigwl oddi tanom. Mi wnaeth y cerddwyr yn dda ac roeddent yn falch o gyrraedd pen y daith yn Abersoch gyda hanner awr wrth gefn cyn iddi nosi. Er gwaethaf yr anawsterau niferus roedd hon yn glamp o daith drwy ganoldir gwlad hardd Llyn oedd ar ei goreu ar ddiwrnod annisgwyl o heulog, sych, llonydd a mwyn. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau 9ed Tachwedd 2017. Glan y Wern - Afon y Glyn - Soar. Criw o 18 yn teithio ar lein y Cambrian o Bwllheli ac o’r gogledd, disgyn yn Ty Gwyn ger Talsarnau lle roedd 8 ychwanegol wedi dod hefo ceir. Mae’r siwrne golygfaol yma bob amser yn wibdaith boblogaidd , yn enwedig i bobl a trwydded bws sydd yn caniatau teithio am ddim dros fisoedd y gaeaf. Fred Foskett arweiniodd o’r stesion i fyny’r dyffryn coediog hardd Afon y Glyn. Y llwybr yna yn mynd i lawr ar hyd llwybr cob coediog i Pont y Glyn gan fynd heibio Glyn Cywarch, catrtref Yr Arglwydd Harlech. Roedd y llwybr i ddechrau yn mynd ar lan dwyreiniol yr afon gan godi yn araf a chyrraedd Llyn Tecwyn Isaf. Roedd y llyn tawel yma yn le hyfryd i giniawa yn haul yr Hydref. Dilynodd y llwybr yn ol ffordd wledig gul drwy Bryn Bwbach islaw Coed Garth Byr a Soar, yna troi i ffwrdd ar lwybr i lawr drwy’r Coed Du ar ochr orellewinol o’r Afon Glyn ac yn ol i Glan y Wern. Cyrhaeddodd y cerddwyr yn ol mewn digon o amser i ddal y tren 2.35 adref ar ol mwynhau yn arw taith 6.4 milltir mewn tywydd heulog yn yr ardal wledig hudol yma. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Sul Tachwedd 5ed 2017. Coed y Brenin.  Cafodd 11 cerddwr ddiwrnod da yn Coed y Brenin o dan arweiniad Noel Davey. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolygon, dim ond ychydig o gawodydd a digon o haul i oleuo’r coedwigoedd hydrefol  ar ol y stormydd diweddar. Cylch croes i’r cloc o 9.5 milltir yn dilyn o Ganllwyd yn y de gan ddilyn yn bennaf ffyrdd coedwigaidd llydan uwchben afonydd yn petruso drwy ddyfrynoedd tyfn.. Roedd y daith yn croesi afon Mawddach a dilyn glan yr afon  i’r gogledd heibio Ferndale i’r rhaeadr godidog Rhaeadr Mawddach a Pistyll Cain, y ddau mewn llawn lifeiriant ger aber y ddwy afon. Roedd y ty twrbein y cynllun hidro-electrig newydd ei gwblhau yn le ardderchog i gael paned. Mae olion ar y safle o hen gynllun hidro yn  ddechrau’r 20ed ganrif ac hefyd adfeilion y cyn fwynglawdd aur Gwynfynydd . Oddi yna roedd llwybr creigiog yn mynd a’r parti yn uchel uwchben Afon Gain, croesi’r afon ac i fyny yn uwch i 800/900 troedfedd ble roedd yna fwy o ologfeydd i gyfeiriad y Rhinogydd. Cymerwyd ginio mewn man agored Llwyn Du “Bloomeries” (Gwaith Pwdlo), gweddillion gwaith sercol canol oesol. Yna croesi y ffordd fawr yr A470 ger Gelli Goch a thrwy gaeau agored a man mwdlyd coedwigaidd. Roedd y ffordd yn ol ar hyd llwybr i’r de drwy goed conwydd yn gyfochrog a’r afon Eden ac mynd heibio y cyn Bengadlys Coedwigaeth Coed y Brenin sydd nawr yn weithdy arwyddion. Roedd yna arosiad am baned croesawus ger y trydydd raeadr gafaelgar Y Rhaeadr Ddu, ryw fymryn uwchben Ganllwyd ble mae yna  gyflwyniad yn cofnodi cerdd gan Thomas Grey (Yn y Lladin a’r Saesneg ond yn siomedig ddim yn y Gymraeg) yn coffau safle y coed prydferth yma. Roedd y tirwedd hawdd a’r cerdded hamddenol yn cadw’r Rhodwyr yn galonnog a siaradus drwy gydol y daith 5.5 drwy’r ardal mwynderus ardderchog yma, yn nodedig am ei golygfeydd a’i hanes diddorol. Noel Davey. (Cyf-DHW)

Dydd Iau Hydref 26ain 2017. Nefyn-Y Gwylwyr-Pistyll. Cyfarfu 25 a o aelodau yn maes parcio Stryd y Plas yn Nefyn am daith 5 milltir bleserus i Pistyll o dan arweiniad Maureen Evans a Gwynfor Jones. Cychwynnodd y daith drwy ddringo cyson o  500 troedfedd gan fanteisio ar lwybrau wedi eu gwella yn ddiweddar i fyny’r bryniau amlwg Gwylwyr a Carreg Lefain – y diwethaf hefo’r enw priodol yn cael ei brofi’n gywir wrth i’r atsain ddod o’r creigiau. Roedd y tir agored dyrchafedig o amgylch y copau yn agor golygfeydd hardd o Nefyn a’r arfordir gogleddol islaw a golwg anarferol o “Yr Eifl” yn codi uwchben gwrthdro cymylog. Gwnaeth y llwybr gylch i lawr i’r arfordir yn Pistyll gan fynd heibio safle’r cyn westy, oedd unwaith yn ailgartref i’r teulu Godard, a chyrraedd yr eglwys pererinol St Beuno amser cinio. Mae y man tawel yma yn nodedig nid yn unig am yr adeilad hynafol  ond hefyd am y ffenest gwahanglwyfus ar gyfer anghenion ysbrydol y drefedigaeth gwahanglwyfus gerllaw yn y canol oesoedd a’r traddodiad parhaus o frwyn ar y llawr; mae’r fynwent hefyd yn adnabyddus fell lle gorffwys yr actor Rupert Davies(Maigret) a’i wraig. Dyma’r daith yn dychwelyd i Nefyn ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru, gan fynd heibio cyn chwarel a chroesi caeau mwdlyd dros ben. Roedd y pethau nodweddol ar ran derfynol y daith yn cynnwys llyn cymdeithasol a lle picnic a Ffynnon John Morgan wedi ei adnewyddu wyrach yn coffau dyn busnes o’r 19eg ganrif a buddiannau mewn llongau wedi ei adeiladu yn Nefyn. Er i’r diwrnod fod yn gymylog cadwodd y glaw draw tan y filltir ddiwethaf. Roedd hon yn daith bleserus a phwyllog yn caniatau amser i gloncian. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Sul Hydref 22ain 2017. Nantcol-Bwlch Drws Ardudwy, Cwm Bychan– Hugh Evans arweiniodd 7 cerddwr ar daith anodd o Cwm Bychan trwy Nantcol, pellter o bron i 10 milltir gyda dringo cynyddol oddeutu 3000 troedfedd. Roedd yn ddiwrnod cymysglyd o wynt a chawodyd ysbeidiol, cynffon y storm “Brian”. Oherwydd y dwr ar wyneb  y llwybrau creigiog roedd yn llithrig ac angen bod yn wyliadwrys yn gyson. Cychwynnodd y daith o Llyn Cwm Bychan yn ben y dyffryn cyfareddol sydd yn treiddio yn ddyfn i fynyddoedd gwyllt y Rhinogydd. Aeth y llwybr i’r de-orllewin gan ddringo’n gyson  i fyny’r slabiau “Stepiau Rhufeinig” drwy Bwlch Tryddiad, ffordd hen  a ddefnyddwyd ers beth bynag yr oes efydd drwy y canoloesoedd. Ar ol ennyd i gael coffi mewn man cysgodol dros y brig roedd yn  ollyngdod i fynd i lawr i’r llwybrau sychach a chysgodol drwy’r ardal goediog o’r Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinogau is law. Yna dyma’r llwybr yn troi i’r de orllewin am oddeutu 2-3 milltir drwy Bwlch Drws Ardudwy, dyffryn cul yn rhedeg rhwng copau Rhinog Fawr a Rhinog Fach cyn o’r diwedd disgyn i’r fferm anghysbell Maes y Garnedd yn Cwm Nantcol.  Mae’r ty hwn yn adnabyddus fel man geni John Jones oedd yn un a lofnodd gwarant yn dedfrydu y brenin Siarl 1af i farwolaeth. Yna roedd dringo cyson o dros 1000 troedfedd ar hyd llwybrau anodd yw gweld, ar draws ehangar llwm o rostir o grug. Roedd cyrraedd y wahanfa dwr oddeutu 1700 troedfedd yn rhoddi cyfle i weld golygfeydd heulog o Llyn i’r gorllewin a gwedd dywyll o’r creigiau garw o Gromen Harlech o amgylch. O’r diwedd dyma’r llwybr i lawr heibio y llyn unig Glowy Lyn ac ail ymuno a’r llwybr allanol yn arwain yn ol i Cwm Bychan. Er gwaethaf y cyflyrau anodd roedd hon yn ddiwrnod i’w chofio yn y mynyddoedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).

Dydd Iau 12 Hydref 2017. O gwmpas Moelfre yn Ardudwy. Fred Foskett arweiniodd 13 aelod ar ar ei hoff daith  o amgylch y bryn wahaniaethol gonicol (ychydig yn fyr o 2000 treodfedd) Moelfre yn Ardudwy. Roedd yn ddiwrnod braf gyda gwynt ffres a chyfnodau heulog yn gwneud y gorau o’r tir gwyllt ddibobledig ac unig a’r golygfeydd ardderchog ar draws y bae i Penllyn. Cychwynnodd y daith o lecyn gwylio yn uchel uwchben Cwm Nantcol ac i gyrraedd yno roedd rhaid mynd ar hyd fordd gul hefo gatiau ac wedi ei amgau gan waliau cerrig sydd yn nodweddol o’r tirlun yma, mi oedd yn antur i gyrraedd yno! Aeth y daith yn groes i’r cloc, gan fynd heibio ffynnon feddyginiaethol adnabyddus ac olion mwyngloddio manganis. Roedd yn dilyn rhan o’r hen ffordd ac erbyn hyn yn drac corslwyd a oedd unwaith yn ffordd porthmyn ac yn mwy diweddar yn  rhan o ffordd y goets fawr rhwng Harlech a Llundain, cyn gwahanu dros Pont Scethin. Cafwyd cinio ar safle amlwg bychan wedi ei nodi gan garnedd yn agos i adfeilion Ty Newydd ar lethrau deheuol Moelfre, lle prysur fel arosfa yn ddyddiau’r goets yn y gorffennol. Yna ymlaen ar drac gwell i gyfeiriad argae Llyn Bodlyn ac yn fuan i’r gogledd, dringo dros grib gwelltog oddeutu 1400 troedfedd uwchben y mor gyda golygfeydd arbennig o’r Rhinogydd a Dyffryn Nantcol ac o’r diwedd ail ymuno a’r ffordd wreiddiol yn arwain i’r man cychwyn. Noel Davey. (Cyf:DHW).

Dydd Sul 8ed Hydref 2017. Llyn Tegid/Bala. Y cynllun gwreiddiol oedd i gerdded yr holl ffordd o amgylch Llyn Tegid fel gwnaeth Y Clwb oddeutu 10 mlynedd yn ol ond oherwydd i’r llwybr newydd fod yn hirach na’r disgwyl a’r dyddiau yn byrhau,fe wnaed berswad ar y Clwb, yn hun erbyn hyn ac wyrach yn gallach, i wneud dwy daith arwahan naill ochr i’r llyn. Heather Stanton arweiniodd 10 cerddwr ar daith 9 milltir o Bala i Llanuwchllyn ar yr ochr De Ddwyrain y llyn a Dafydd Williams arweiniodd 4 arall ar daith 7.5 milltir o Llanuwchllyn i Bala ar ochr Gogledd Orllewinol y llyn. Roedd y rhain yn deithiau delfrydol ar ddydd Sul sych a chlir yn mis Hydref.

Aeth y daith A i’r de allan o Bala gan ddringo yn serth drwy goedwigoedd dymunol Fridd Fach-ddeiliog a chyrraedd 1500 troedfedd uwchben y mor yn tir agored Mynydd Cefn-ddwy-graig ac Isafon. Oddi yno roedd golygfeydd ardderchog i’w cael o’r llyn islaw hefo dingis hwylio ymhobman ac ymhellach yr Arenigs gafaelgar. Yna cylch ucheldirol, rhan ohonno dan ddwr, yn arwain drwy ardal o goed conwydd, ac  arwyddion o ffermio yn y gorffennol i weld, cyn dilyn yr Afon Glyn  i lawr i gyfeiriad Llangower ar y llyn. Roedd safle coedog o argae hydro fechan  yn le cyfleus i gael cinio. Roedd cyfres o lwybrau yn cysylltu ffermydd a mwy o ddringfeydd yn mynd ar daith o amgylch llethrau gwaelod Cefn Gwyn, cyn o’r diwedd disgyn drwy gaeau braf i bentre Llanuwchllyn yn cysgodi yn y de o’r llyn. Yma roedd y llwybr yn mynd drwy’r orsedd derfyn o’r reilffordd oroesiedig y llyn. Yn anffodus nid oedd ar waith ar y Sul yma o hydref felly defnyddio’r car i ddychwelyd i’r Bala oedd rhaid. Roedd hon yn daith bleserus yn cynnig golygfeydd amrywiol, cylch eang o dir a dringo cynyddol o bron 2000 troedfedd. Noel Davey. (Cyf:DHW)

Taeth B:  Fel y mynegwyd uwchben cafodd  4 cerddwr o dan fy arweiniad i fwynhad garw wrth gerdded yn y rhan olygfaol yma o Ogledd Cymry hefo tref Bala yn llawn hanes a Llyn Tegid gerllaw ac ar y ddwy ochr caeau gwyrddlas yn codi yn enwedig ar yr ochr Ogledd Orllewinol i rostir a mynyddoedd. Ar ol gadael pentref Llanuwchllyn ac ar ol oddeutu 400 llath dyma ymdroelli ein ffordd ar hyd llwybrau ffermydd gan fynd heibio gweddillion Caer Rhufeinig a chyfarfod llefydd gwlyb dychrynllyd dan draed ac mi oedd hyn yn gyson drwy’r dydd. Roedd hen ol-gerbyd tractor yn fan cyfleus i gael cinio wedi ey amgylchu gan fwd a peth gwaeth! Bwrw’n mlaen dyma fynd heibio drwy oddeutu hanner milltir o gors lithrig ond roedd aml i gipolwg o’r llyn i’r de yn dderbyniol tan i ni gyrraedd maes carafanau a chael toriad byr. Ar ol hanner milltir ychwanegol dyma fynd i’r de a drwy goedwig nes cyrraedd  y ffordd oedd yn rhedeg ar ochr y llyn a’i dilyn am y filltir olaf ond aros yn caffi’r llyn am baned o de a sconsan. Yn ganol y dref cyfarfyddais ac aelod o’r Clwb, Jane, oedd wedi ymdrechu i ddringo Arenig Fawr hefo cyfaill ond wedi gorfod rhoi’r y ffidil yn y to oherwydd niwl a chymylau isel tra roeddem ni, ychydig o filltiroedd i’r de, wedi mwynhau diwrnod weddol sych a heulog. Wrth gyrraedd y maes parcio dyma ddarganfod fod y cerddwyr taith A wedi bod yn ol eu ceir a diflannu! Dafydd Williams.

Dydd Iau 28ai Fedi 2017. Rowen i Pen y Gaer. Cyfarfu 14 aelod yn Rowen am daith bleserus yn Nyffryn Conwy a mwynhau y dychweliad i dywydd cynnes a heulog. Roedd y daith bron 6 milltir wedi ei pharatoi yn drwyadl gan yr arweinyddion Jean Norton a Miriam Heald. Aeth y daith i’r de o’r pentref drwy dir pori a chroesi’r Afon Roe a chael cinio yn yr haul gan ddefnyddio byrddau picnic eiddo’r dafarn “Y Bwl” yn Llanbedr-y-Cennin. Yna dyma ddringo 500 troedfedd ar lethrau gwaelod(Ochr Gaer) o Pen y Gaer, safle caer helaeth oes yr haearn  a carneddau oes efydd (Am fynd i’r copa ar ddiwrnod arall). Oddi yno roedd golygfeydd ardderchog ar draws Dyffyn Conwy. Yna aeth y daith drwy erddi Cae Asaph ar ol cael caniatad y perchenog, Peter Barnes, ble roedd rhestr diddorol o gerfluniau yn y gerddi coediog. Roedd y ffordd yn ol drwy fwy o gaeau coediog, heolau bychain ac ochrau afonydd a heibio tai gwledig braf. Daeth y prynhawn i ben drwy gael te sylweddol gyda sgons yng Ngerddi Dwr Conwy gerllaw. Noel Davey. (Cyf:DHW)

Dydd Sul 24ain Fedi 2017. Bermo i Tai Cynhaeaf. Dafydd Williams arweiniodd griw o 10 hefo cymorth Nick White ar daith linellol o Bermo i Bontddu, pellter o 9.3 milltir yn cynnwys dringo cynyddol o 2000 troedfedd. Aeth y daith yn serth i fyny o Bermo heibio Cell-fechan, Craig y Gigfran a gweddillion eang pyllau manganis ac o’r diwedd cyrraedd Bwlch y Llan  oddeutu 1100 troedfedd. Mi oedd yn sych am ryw awr neu ddwy, yn caniatau golygfeydd niwlog o Aber y Mawddach wych i gyfeiriad Cader Idris ac ar draws i Llyn; yna dyma law man yn dechrau am gweddill y diwrnod gan gyfyngu gwelededd a gwneud y cerdded ar lwybrau gwlyb a llithrig yn anodd. Yna aeth y daith ymlaen ac yn uwch ar lethrau  Llawlech , heibio yr ychydig gerrig sydd ar ol o gylch oes edda Cerrig Arthur a carreg filltir hynafol gyda arysgrifen edwinol yn dynodi cyffordd o’r hen ffordd goets o Harlech a Talybont yn dilyn i lawr o Bwlch y Rhiwgyr. Ymhellach ymlaen, dringodd y llwybr eto i ddilyn hen dramffordd oedd yn gwasanaethu rhan o bwll aur y Clogau ac o’r diwedd disgyn drwy goed gwlybion safle natur i’r ffordd fawr ble roedd ein ceir yn ein disgwyl. Roedd hon y bedwared daith wlyb yn olynol i’r clwb ond ar y llaw arall mi oedd y cymwysterau mwyn a thawel yn ei gwneud yn ddiwrnod o gerdded ardderchog ac i goroni y cwbl dyma fwynhau te haelionus a derbyniol yn dy Anne a Nick gerllaw. Noel Davey.  (Cyf:DHW)

Dydd Iau 14 Fedi 2017. Llyn Tecwyn Isaf - Bryn Cader Faner. Cyfarfu pedwar ar bymtheg o aelodau yn Llyn Tecwyn Isaf am daith hyfryd 5.5 milltir i fyny Bryn Cader Faner o dan arweiniad Dafydd Williams. Diwrnod oedd hi gyda cawodydd trymion a gaeafol ond  cyfnodau heulog yn creu golygfeydd ardderchog. Cychwyn o lan y llyn a dringo yn gyson oddeutu 1000 troedfedd, i gychwyn ar ffordd wledig gul (ble syrthiodd coeden yn llawn eiddew yn frawychus i’r llawr wrth i ni fynd heibio), ymlaen trwy Caerwych a chyrraedd rhostir corslyd. Uchafbwynt y daith oedd y carnedd crwn oes efydd o Bryn Cader Faner yn enwog am ei osodiad dramatig a’i  gylch o slabiau onglog anarferol yn creu yr enw “Coron o Ddrain”. Roedd y fan yma yn le addas i gael cinio a chael golygfeydd o’r  Moelwyni. Roedd y ffordd i lawr yn mynd ger Y Gyrn a heibio olion eraill o gytiau gwyddelig a golygfeydd ysblennydd o aber Y Dwyryd, Portmeirion, Moel y Gest, mynyddoedd Penllyn yn diflannu i’r Mor Gwyddelig ac yn olaf amlinell o Gastell Harlech. Roedd hon yn daith egniol am ddydd Iau, yn wlyb iawn dan droed ac uwchben  ond roedd y golygfeydd ardderchog a’r cwmni yn gwneud y cwbl yn bleser. Noel Davey.  (Cyf:DHW)

Dydd Sul 10 Fedi 2017. Cylchdaeth Penmachno. Ar ddydd Sul glawog Tecwyn Williams arweiniodd 10 aelod ar daith 7 milltir yn ardal  anghysbell Bro Machno, ardal newydd i’r Clwb – ers sawl blwyddyn beth bynnag. Cychwyn o’r pentref diddorol Penmachno ac yn bennaf dilyn llwybrau llydan a ffyrdd gwledig yn Cwm Penmachno a Cwm yr afon Glasgwm. Dechreuodd y daith mewn dolen i’r dwyrain heibio Hafod Dwyryd, ty o’r 16/17 ganrif ac yna croesi i’r gorllewin o Afon Machno. Yna dyma ddringo oddeutu 1000 troedfedd o amgylch troed Moel Pen-y-Bryn drwy Coed Parc Gwyryd mudiad hamdden ardderchog o dan ofalaeth “National Resource Wales” ar gyfer cerddwyr, marchogwyr a beicwyr mynydd. Dewiswyd lloches cyfleus Y Parc  i gysgodi a  chael cinio buan cyn disgyn i cwm Glasgwm a dilyn yr afon yn ol i Penmachno. Uchafbwynt y daith oedd arhosiad allan o’r glaw am goffi a chacen yn gaffi croesawys Plas Glasgwm. Mae hwn yn dy hanesyddol wedi ei restru, o ganol yr 16eg ganrif gan John Wynne, mab John Wynn ap Maredudd o Gwydr ac yn y diwedd yn ddisgynydd o’r Tywysogion Cymraeg. Er gwaethaf y glaw a’r gwynt roedd pawb wedi mwynhau’r daith gall yma ar gyfer y tywydd. Efallai cawn ddychwelyd i’r cwm deniadol yma ar ddiwrnod brafiach. Noel Davey.  (Cyf:DHW)

Dydd Iau 31ain Awst 2017. Cronfa Tanygrisiau. Tecwyn Williams arweiniodd 27 aelod ar daith ardderchog gan wneud cylch o Tanygrisiau. i ddechrau gwnaethpwyd cylch i’r gogledd a’r dwyrain o dan y stepiau ysgithllyd gafaelgar sydd wyrach yn gyfrifol am enw’r pentref, ac yna drwy rwydwaith o lwybrau diddorol gan fynd heibio man geni y diweddar adnabyddus Gwyn Thomas , ysgolhaig, bardd a llenor. Roedd y glaw di ddiwedd am y ddwy awr gyntaf yn cadarnhau enw drwg Blaenaiu Ffestiniog ond ar ol cinio gwlyb yn ymyl tomen dyna’r tywydd yn gwella a’r haul yn ymddangos ar gyfer yr ail hanner o’r daith. Roedd hyn yn golygu cylch yn groes i’r clock ar lwybrau drwy’r rhedyn ungoes a grug o amgylch Cronfa Tanygrisiau (Llyn Ystradau) sydd nawr yn ffurfio’r gronfa isa i’r cynllun hidro-electrig Ffestiniog. Ynghyd a’r cynllun mwy yn Dinorwic mae hwn yn ran bwysig o’r Grid Cenedlaethol gan gynhyrchu electrig ychwanegol ar gyfer amseroedd prysur; roedd yr argae anferth Llyn Stwlan, y storfa uchaf, yn ymddangos uwchben. Roedd y llwybr ar yr ochr orllewinol yn croesi Reilffordd Ffestiniog, yn brysur oherwydd trenau stem ymwelwyr, yn dilyn drwy weddillion Pwll Moelwyn ac heibio’r orsedd pwer ei hun ar y ffordd yn ol. Roedd gweddillion hen argae yn y de o’r llyn yn fan hwylus i aros a chael te yn yr haul, y mwyafrif wedyn yn mynd i Caffi’r Llyn ardderchog am fwy o gynhaliaeth ar ddiwedd y daith. Roedd cyflwr gwlyb a llithrig y tirwedd ac hefyd ambell i fan serth a chreigiog yn gorfodi gofal pendant ac roedd rhaid bod yn bwyllog ar y daith 4.5 milltir bleserus yma. Noel Davey.  (Cyf:DHW)

Dydd Sul Awst 27ain 2017. Cnicht-gelli Iago. Ar ddiwrnod heulog Gwyl y Banc bu i 27 o aelodau a ffrindiau gyfarfod yn Croesor ar gyfer dwy daith yn yr ardal boblogaidd yma. 18 aeth ar y daith A i fyny Cnicht o dan arweinyddiaeth Roy Milnes gyda  Dafydd a Tecwyn yn arwain y 9 arall ar daith B fyrach gan osgoi y mynydd a’r mannau mwyaf corslyd.

i ddechrau roedd y ddwy garfan yn dilyn yr un llwybr i’r gogledd am oddeutu milltir. Yna dyma’r grwp A  yn cychwyn i ddringo Cnicht a chyrraedd y garreg amlwg a thir gwastad oddeutu 300 troedfedd islaw y copa a chael coffi. Roedd y dringo anodd  terfynol yn cyd fynd hefo’r ras flynyddol o Croesor i’r copa ac yn ol. Yn ffodus roedd o gwmpas  y 60 rhedwr heini a gafaelgar yn medru osgoi mynd yn gymysg hefo’r cerddwyr arafach! O’r copa 2300 troedfedd aeth y daith i’r gogledd ddwyrian ar hyd y grib ac yn caniatau golygfeydd ysblennydd ar y ddwy ochr, i gyfeiriad y Moelwyni, copau gogledd Eryri a’r creigiau o grug cochlas cymysglyd uwchben Croesor. Ger Llyn yr Adar aeth y cerddwyr i lawr i’r gogledd ar lwybr is raddol ac ar draws tir corsiog di ddiwedd heibio’r llyn a Llyn Llagi hefo cefndir o glogwyn serth a rhaeadr hir a throelliog. Cael cinio mewn man ddelfrydol yn edrych ar Y Wyddfa a’r Glyderau. O’r diwedd dyma’r cerddwyr yn cyrraedd tir sych ar y ffordd ger Gelli Iago ond roedd y rhyddhad yn fyr wrth i’r llwybr fynd yn ol i’r de a dringo yn serth 750 troedfedd heibio bryn amlwg yn dwyn yr enw Castell. Yna mwy o dir corsiog ond diolch byth fe aeth y llwybr i’r dde o’r llwybr ar y map, oedd drwy ganol llyn di enw, ac ail ymuno a’r llwybr allanol. Daeth y daith ddifyr hon o rhyw 9 milltir i ben gyda rhai o’r cerddwyr yn mynd am baned i Gaffi Cymdeithasol Croesor. Noel Davey.  (Cyf: DHW).

Er i’r ysgrifennydd gyfeirio at y daith B fod yn “daith haws 7 milltir”, dyma fy nysgrifiad i a’i harweiniodd gyda fy nghyfaill Tecwyn Williams. Fel y cyfeirir uwchben roedd y teithiau i ddechrau yn dilyn yr un ffordd i’r gogledd ac ar ol gwahanu aeth y daith B ymlaen i’r gogledd dros dir gwlyb iawn gan fynd i’r ochr chwith o lyn di enw ac ar y map, mae’r llwybr yn mynd drwy ei ganol, gyda creigiau annymunol Yr Arddu yn uchel uwchben. Yna i lawr ar lwybr anodd ar y pen gliniau i Gelli Iago a chael cinio ger hen olwyn ddwr ddiddorol ac yng nghysgod ty fferm wedi ei addasu yn lety ar gyfer cerddwyr/dringwyr. Roedd Blaen Nanmor ar y ffordd gerllaw a dyma fynd i’r chwith, i’r de, ac i gyfeiriad Nanmor ond yn fuan dros gamfa ar y dde a chadw i’r de, ac ymlaen chyfochrog a’r ffordd ar lwybr mwdlyd iawn mewn mannau.  Ar ol agos i filltir dyma gyrraedd Coed Caeddafydd ac ar i lawr ac yna, unwaith eto cyrraedd y fordd fechan a mynd i’r chwith heibio Bwlchgwernog ac i fyny’n serth ar hen ffordd/trac oedd, yn ol yr hanes, yn ffordd bwysig yn mynd o Feddgelert i Dolgellau yn nyddiau y Goets Fawr. Y rhan yma, pan oedd pawb wedi blino, oedd yn anodd wrth inni fynd i fyny ac i lawr ond i fyny rhan amla a chyrraedd Croesor a mwynhau paned o de a bara brith yn y caffi ar ol disgwyl peth amser oherwydd presennoldeb ymwelwyr Gwyl y Banc! Dim yn daith hawdd medd y cerddwyr ond fel mwyafrif o’r teithiau mi oedd yn bleserus. Dafydd Williams. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 15 Awst 2017. Aberffraw, Porth Cwyfan, Llangwyfanisaf. John Enser arweiniodd 22 o aelodau ar daith hyfryd o 5.3 milltir o Aberffraw yn y de orllewin o Ynys Mon. Roedd yn ddiwrnod braf a chlir ond roedd y  gwynt yn fain! Cychwyn drwy groesi’r bont wych o’r 18ed ganrif ar gyrion y pentref a dilyn y llwybr arfordirol i’r de ar hyd yr Afon Ffraw a chyrraedd y mor yn Porth Lleidio. Oddi yno aeth y llwybr heibio nifer o fae creigiog ysblennydd yn adnabyddus am eu daeareg cyn Cambrian. Yn dilyn cinio ar y traeth dyma ymweld a’r eglwys fechan hynod wyn galchog ar y traeth yn Porth Cwyfan, “eglwys y mor”, un o’r eglwysi cerrig hynaf ar Yr Ynys o’r 12ed ganrif ac wedi ei lleoli yn arbennig ar bentir Cribinau a’i chyrraedd ar sarn ar lanw isel. Yna i’r tir heibio’r hen gamp Ty Croes, lle rasio ceir bellach, ac ar draws caeau yn ol i Aberffraw. Daeth y daith bleserus i ben gan gael te cymdeithasol  yn Caffi Llys Llewelyn yn dwyn atgofion fod Aberffraw wedi bod yn gwrt brenhinol blaenaf i Dywysogion Gwynedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).

Dydd Sul Awst 13 2017. Moel Siabod. Cychwynnodd 11 aelod o Pwllheli  a chyfarfod yn Bryn Glo ger Capel Curig a chael taith arbennig i fyny’r mynydd amlwg Moel Siabod (y moel siapus?) Roedd y tywydd yn glir gyda cyfnodau  heulog a gwyntoedd ysgafn, i’r dim ar gyfer y mynydd egniol hwn yn cael eu harwain gan Roy Milnes. i gychwyn roedd y daith yn croesi Afon Llugwy ar draws yr hen Bont Cyfyng gan fynd uwchben y rhaeadrau gafaelgar. Yna ymlaen i’r de ar hyd llwybr gweundir gwastad a throi i’r gorllewin drwy Coed Clogwyn Llwyd. Yna dyma ddechrau dringo cyson ar lwybrau garw a corslyd drwy’r grug a llys, gyda arhosiad dymunol am goffi, i’r cwm ble mae Llyn y Foel o ghwmpas 1650 troedfedd. Dyma’r dringo o ddifri yn dechrau, i fyny Daear Du oddeutu 1000 troedfedd, crib serth yn llawn o greigiau anhrenfys yn llawn o bob math o dyllau yn awgrymu fod hanes folcanic daearegol i’r ardal. Cael cinio hwyr ochr isa i’r copa 2850 troedfedd oedd y wobr  a golygfeydd rhagorol i’r de ar draws Dyffryn Llugwy i Dolwyddelan  a Penamnen ac ymhellach tuag at yr Arenigs ac yr holl fynydoedd i’r de a’r dwyrain. Dychwelyd ar y grib yn mynd i’r gogledd ddwyrain gan roddi golygfeydd rhyfeddol o Eryri, Tryfan, y Glyderau a’r Carneddau. Cadwodd y criw mor uchel a phosib dros y creigiau o slabiau anferth a achosodd tipyn o boen i’r gliniau, ac o’r diwedd mynd i lawr ar lwybr anodd creigiog a gwellt glas i ail ymuno a’r man cychwyn ger Pont Cyfyng. Diwrnod ardderchog gan gerdded  7.5 milltir dros 7 awr a gorffen hefo paned haeddianol yn caffi Bryn Glo. Noel Davey. (Cyf: DHW)

Dydd Iau 3ydd Awst 2017. Nefyn. Miriam Heald arweiniodd criw o 22 aelod ar daith arfordirol gron o Nefyn i Borthdinllaen, pellter oddeutu 7 milltir. Roedd y tywydd gan amlaf yn glir a heulog arwahan i un cawod fer. i ddechrau aeth y cerddwyr i’r dwyrain ar lwybrau heb lawer o ddefnydd iddynt cyn troi i’r gorllewin  ac ymuno a’r  prif lwybr arfordirol wedi ei wella yn arw. Seibiant byr am baned gan edrych dros Bae Nefyn a manteisio ar y tywydd braf a gwerthfawrogi yr golygfeydd syfrdanol cyn dal ymlaen ar hyd y traeth i Forfa Nefyn a chael cinio tu allan i dafarn Ty Coch a gwylio’r ymwelwyr yn mwynhau eu hunain yn y mor a’r traeth. Yna dyma barhau trwy fynd o amgylch y pentir i Bae y Bad Achub ac ymweld a gorsaf weddol newydd Y Bad Achub a llawer yn sbonio ar gyflwr perffaith y gwch. Yna ymlaen ar draws y pentir i gyfeiriad Gorsedd Gwylio Glannau Porthdinllaen a chael gwahoddiad i fynd i mewn a dysgu ychydig am y gwaith fel rhan o’r Mudiad Chwilio ac Achub .  Roedd yna wynt oer erbyn hyn felly ymlaen ar frys ar hyd y llwybr drwy’r Cwrs Golff  a chael arosiad arall yn Caffi Porthdinllaen, newydd ei adnewyddu, a chael dewis o de, coffi neu hufen ia blasus. Ymlaen i ddiweddu ar hyd Llwybr yr Arfordir i Nefyn a phawb wedi mwynhau. Miriam Heald. (Cyf: DHW)