Mawr 10 – Gorff 10

Mawr10-Gorff10

Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams. 

Dydd Iau 29 Gorffennaf 2010. Uwchmynydd, Mynydd Mawr, Ffynnon Mair.Tywydd ardderchog ar gyfer taith Judith i Ffynnon Mair a Mynydd Mawr ar ben draw Penrhyn Llyn gydfa golygfeydd ardderchog dros Ynys Enlli a gorffen hefo te bach “al fresco” yn Brynllwyd. Judith Thomas. (Cyf: DHW)

  Afternoon tea at Brynllwyd following the walk  Afternoon tea at Brynllwyd following the walk

Dydd Sul 25 Gorffennaf 2010. Moel Cynghorion i Foel Eilio o Lanberis. Robert Herve arweinodd y Clwb dros “Y Carousel” gan gychwyn o Lyn Llanberis.i fyny Moel Cynghorion, Foel Goch ac yn olaf dringo Moel Eilio gan orffen y daith gan ddathlu hefo diod o chocolate poeth a scones yn y caffi, Pen y Ceunant Isaf. Judith Thomas. (Cyf: DHW)

Y diwrnod yn canlyn ras Y Wyddfa arweinodd Rober Herve (Robert Pierre) yn  fedrus gan ddilyn yr un llwybr a’r rhedwyr ar ochr rheilffordd Tren y Wyddfa. Gellir gweld  y ddwy Foel ar draws y dyffryn ac,wedi cyrraedd Hanner Fordd, y caffi newydd ei ail agor, cael amser i gael ein gwynt atom cyn mynd i’r dde i gyfeiriad Llyn Du’r Arddu a disgyn i lawr i Cwm Brwynog ac yna i lwybr y Snowdon Ranger.

Starting off from the car park. Dafydd and Robert in the lead. At the end of Cwm Brwynog Nearly at journey's end.

Bron yn syth dyma droi i’r gorllewin ac i fyny yn serth tua 500 troedfedd a chyrraedd y copa cyntaf sef Moel Cynghorion (2211 troedfedd). Ymlaen i gyfeiriad y gorllewin ar hyd y grib hefo golygfeydd o chwareli Elidir Fawr i’r gogledd ddwyrain ac yna cyrraedd copa Foel Gron (2064 troedfedd) a disgyn i’r bwlch ac ar ol disgyn eto am 400 troedfedd, cyrraedd y copa olaf, Moel Eilio (2382 troedfedd) a dyma’r tywydd eithaf braf yn cymylu.

Yna mi oedd yn daith hawdd i lawr y rhiw yn ol i Lanberis a thrafod y gwahanol bellder wedi eu gofnodi gan y nifer G.P.S. ac wedi Tecwyn ei roddi ar ei gyfrifiadur y pellter oedd 11.4 milltir. Diwrnod ardderchog arall yn y bryniau hefo cwmni arbennig, pa well sydd i’w gael? Dafydd Williams. (Cyf: DHW)

Dydd Iau 15 Gorffennaf 2010. Cylchdaith Bedgelert.  Gwenda yn arwain yn fedrus, taith olygus o Feddgelert ac yn dychwelyd ar hyd ochr glannau r Afon Glaslyn ar y “Fisherman’s Path”. Judith Thomas. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 11Gorffennaf 2010. Y Ddwy Arran. Taith arbennig iawn yn cael ei arwain gan  Hugh a Noel o Gwm Cywarch i fyny ac ar hyd y grib i ben  Arran Fawddwy (bron yn 3000 troedfedd) gyda golyg feydd arswydus dros Eryri gyfan ac ymhellach. Judith Thomas. (Cyf: DHW).

Setting out from the car park at Blaencywarch Crossing the stream about halfway up the first ascent. The top of Aran Fawddwy.

Dydd Iau 1 Gorffenaf 2010. Cewri Americanaidd, Bianale Cymraeg Venice, Sierra Craig y Castell. Colin arweinodd 15 aelod ar daith ddiddorol o Benmaenpool. Mi welwyd gewri Redwood Americanaidd oedd mewn 150 mlynedd wedi tyfu 130 troedfedd (Maent yn medru byw am 4000 mlynedd). Mi aeth y daith a ni hefyd i weld y model gwaith Cymraeg yn yr Arddangosfa Venice Bianale. Mi oedd yna siap ddieithr neu estron cwt arno. Ymlaen wedyn drwy y Sierra Craig y Castell  cyn dychwelyd i Benmaenpool. Trwy gydol y daith cawsom ambell i gip o Aber ryfeddol y Mawddach. Mi oedd rhagolygon y tywydd wedi eu or ddweud a dim ond ychydig o law a gawsom. Ian Spencer.  (Cyf: DHW).

Dydd Sul 27 Fehefin 2010. Moel y Gyrafolen. Tecwyn arweinodd daith ardderchog a mwynhaol o 10 milltir o Forglawdd Maentwrog ger Trawsfynydd.  Mi ddringwyd nifer copa isel yn ardal gogleddol y Rhinogydd. Mi oedd y rhain yn cynnwys Moel Criafalon, Diffwys, Foel Penolau a Moel Ysgyfarnogod ac mi oedd rhaid  y 10 aelod ymgiprys hefyd. Dychwelyd heibio’r carnedd anghysbell crwn, Bryn Cader Faner. Mi oedd yn ddiwrnod cynnes eto er fod yna wynt ar y copau. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Maentwrog Dam Dafydd' new nurse Looking down on the power station

Dydd Sul 13 Fehefin 2010. Mynydd y Dref (Conway Mountain) a Foel Lys.  Rhagolygon y tywydd yn gaddo ambell gawod  yn y boreu a cawodydd cyson i ddilyn. A felly buo hi. Y canlyniad oedd gwisgo a tynu dillad glaw yn gyson. Deg aelod yn cael eu tywys gan wr a gwraig, Cleaton (arweinydd) a Mary (yn y canol) ar daith arbennig siap wyth a’r golygfeydd yn odidog. Yn gwneud argraff oedd y golygfeydd dros Conwy i gyfeiriad Llandudno, Ynys Seiriol a Sir Fon ac hefyd Llwybr y Jubilee.

Soon after setting off View over Conway and the river Conway. A brief halt after a tough climb. Castle in the background.

Erbyn amser cinio r’oeddym yn ol y y maes parcio a glaw man trwm a hanner ffordd ar ein taith. Tybed fuasa y temtasiwn i fyrhau y daith yn ormod? Dim peryg!  Ymlaen a ni. Gwnaetrh Cleaton un ymdrech olaf i’n denu oddi ar y llwybr pan ini fynd heibio tafarn “The Fairy Glen” “Yn awr yn paratoi bwyd cartref a chwrw da”. Toeddem ddim yn cael ein temptio. Hufen Ia oeddem eisiau ac mi oedd hwnnw i’w gael yn ol yn y maes parcio. Mewn 15 munud, diwedd y daith a hufen ia!Ardderchog. Hugh Evans. (Cyf: DHW).

Dydd iu 3 Fehefin 2010. Cylchdaith Sant Seriol Llangoed/Penmon.  Mary Williams arweinodd 26 aelod ar daith hyfryd o Langoed yn Mon i Drwyn Penmon a chael golwg o Ynys   ? a’r Goleudy. Dychwelyd heibio Abaty Augustine a chael golwg ar yr hen eglwys hardd, y colomendy a gweddillion o’r Abaty ei hun. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 30 Fai 2010. Mynyddoedd y Berwyn, Cwm Maen Gwynedd. Ar ddydd Sul y 30 Fai Ian Spencer arweinodd griw o 9 cerddwr o Gwm Maen Gwynedd ar mynyddoedd y Berwyn. Ar ddiwrnod braf ond hefo gwynt oer a chryf gwneuthon daith bedol ar y grib o amgylch y cwm yn cynnwys saith copa. Y rhai mwyaf amlwg oedd Cadair Bronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych. Oddi ar y grib gwelsom mynyddoedd Gogledd Cymru a’r Plumlumons. Diwrnod da yn y mynyddoedd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

All ready  Taking a breather  Quite a view  Last tea  break

Dydd Sul 16 Fai 2010.Dyffryn Dysynni, Taith Castell y Bere.   Diwrnod arbennig i gerdded. Haul a gwynt oer. Cychwyn i’r de o faes parcio y Castell, galw yn Capel Mary Jones (methu a gweld yr arddangosfa oherwydd na toedd yna ddim golau), cip olwg ar gofeb Mary Jones cyn nelu am y gorllewin ar ochr yr afon Dysynni. Cinio ysgafn ar y gyfordd Y ar Yr Allt; i ohirio’r ansicrwydd.

Ready for the first ascent  Birds' Rock / Craig yr Aderyn  Pressure beginning to tell.  Finally the top of Birds' Rock. For some the effort was too much.

Dewis   troi i’r dde ac mi oedd y dewis cywir, t’oeddem ni ddim wedi troedio y llwybr yma pan yn gwneud y darpar daith. Disgyn yn araf tan inni gyrraedd y rhan olaf. Yna lonc di lonc i’r dwyrain ar hyd yr afon i waelod Craig y Deryn. Mi oedd car Dafydd yn yr arosfan ac yn loches demtasiynol! Yr oll a wnaethpwyd oedd gadael ain bagiau yn y car ac ymlaen!

Mi oedd y golygfeydd o’r copa yn werth ein ymdrechion i gyrraedd ac yn dal i sefyll. Cyrraedd yn ol i gar Dafydd yn diffygiol, cawsom arbed 2 filltir o gerdded ar y ffordd yn ol i Gastell Bere gan i Dafydd (Trefnydd ac Arweinydd) ein cludo at ein ceir. Piti na wnaethom hyn ar y darpar daith! Hugh Evans. (Cyf:DHW).

Dydd Sul 2 Fai 2010.  Chwech aelod gyrhaeddodd ar gyfer y daith 9 milltir o Bae Trearddur i Barc Gwledig Breakwater Holyhead a chael eu harwain gan Noel Davey a John Enser. Mi oedd y nifer braidd yn isel oherwydd fod amryw o’r aelodau i ffwrdd ar wyliau blynyddol y Clwb.. Mi oedd yr amodau yn berffaith, yn heulog er fod yr awel braidd yn oer. Tynnu lluniau yn South Stack ble gawsom ginio. Robert Herve. (Cyf:DHW).

Lunch-time at South Stack Lunch-time at South Stack

Dydd Gwener 30 Ebrill – Dydd Gwener 7 Fai 2010. Newfield Hall, Malhamdale yn Broydd Efrog. Mi oedd gwyliau’r Clwb y flwyddyn yma yn H.F.Holidays Country House, Newfield Hall, Malhamdale. Broydd Efrog. Mi oedd yna griw o 37 yn cynnwys 5 ffrind newydd o’r gogledd ddwyrain ac mi oedd yn llwyddiannus dros ben. Mi gyfrannodd y tywydd  ardderchog at y llwyddiant heblaw am gawod stormllyd o genllys ddioddefoedd y dosbarth A ar gopa Great Whernside.

Pen-y-ghent  Malhamcove Janet's Foss   Malhamcove

Pob dydd mi oedd tair taith wedi eu paratoi hefo dau arweinydd ar gyfer pob taith. Mae diolch mawr yn ddyledus i’r arweinwyr yn enwedig i Lil Parker wnaeth arwain pob taith “C”. Rhoddodd y  cerddwyr “A” gynnig ar daith fer ond anodd a gorfod crafangu i fyny Gordale Scar, Great Whernside a Pen y Ghent yn ystod yr wythnos. 

Mi sefodd Mary Williams yn y bwlch yn absenoldeb Cath Tebbitt a gofalu am yr adloniant gyda’r nos. Diolch i bawb  a drefnodd y “Quizees” ac i Joan “Parsley” a wnaeth unwaith eto ofalu a threfnu y Dawnsio. Mi oedd yn cael ei ganmol gan y rhai a gymerodd ran! Llywyddodd y Cadeirydd gyda urddas.

Mae’r gwyliau y flwyddyn nesaf yn Dovedale yn Sir Derby yn y Peak District. Toes dim ond lle i 43. Ian Spencer. Trefnydd. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 18 Ebrill 2010.   Gareth Hughes arweinodd yn fedrus griw o 10 ar daith anodd o Cwm Mynachj i fyny Llethr ac yna Diffwys a dychwelyd heibio Llyn y Bi. Mi oedd y tywydd yn berffaith, pawb yn dychwelyd hefo teimlad o fod wedi cyflawni camp. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 22 Ebrill 2010.  Fred Foskett arweinodd 33 aelod ar daith hyfryd o Lanbedr o amgylch Cwm Bychan a Chwm Nantcol gan ymweld a Chapel Salem i weld y darlun enwog o’r “Welsh Lady”. Dychwelyd i Landanwg ar ol cael te a chacenni gan Roberta  Foskett. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Iau 8 Ebrill 2010.  Arwel Davies arweinodd griw o 39 cerddwr i fyny’r  Wyddfa gan ddefnyddio llwybr” The Snowdon Ranger”. Mi oedd hwn yn ddiwrnod arbennig gan ei fod yn benblwydd Arwel yn 80 oed ac mi gyflawnodd y gamp yn hyderus. Mi oedd y tywydd yn garedig gyda golygfeydd godidog o Eryri gyfan! Yn enwedig wrth fod yr eira wedi culio oddi ar y copfeydd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

The group in the car park at the start Victory on reaching the top Celebratory champagne at the end of the walk

Dydd Iau 25 Fawrth 2010.  Emyr a Rhian Jones arweinodd daith i fyny’r Great Orme ar ddiwrnod braf, cynnes a heulog. Mi oedd y 22 aelod yn unfrydol ei bod yn daith arbennig a mwynfaus. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Dydd Sul 21 Fawrth 2010.  Dafydd Williams arweinodd 10 cerddwr ar gylchdaith o Benygroes. Cerdded ar hyd ffyrdd cul, ar draws caeau ac ar ochr y bryniau ar ddiwrnod llwyd a glyb. Er hyn mi oedd y daith 10 milltir wedi ei mwynhau gan bawb. Ian Spencer. (Cyf: DHW).

Cylchdaeth Nebo Circular Cylchdaeth Nebo Circular Cylchdaeth Nebo Circular