Hanes y Clwb
Ym 1979 penderfynodd criw bach o ffrindiau oedd yn byw yn Llŷn ac yn cerdded yn yr ardal yn aml, drefnu rhaglen o deithiau rheolaidd iddynt eu hunain, ac unrhyw un arall hoffai ymuno efo nhw. Dyma gychwyn Rhodwyr Llŷn.
Trefnwyd teithiau bob yn ail Sul, yn Eryri fel arfer a hefyd ar brynhawaniau Iau gan fod rhai aelodau yn cadw busnesau ym Mhwllheli ac mai dyna pryd roedd diwrnod cau. Trefnodd pwyllgor raglen o deithiau amrywiol i gyfarfod gallu gwahanol pawb. Roedd dringo caled yn y mynyddoedd, cerdded mwy cymhedrol yn y bryniau a theithiau hawdd ar dir gwastad.
Cynyddodd poblogrwydd y grŵp yn gyson, gyda chyfuniad a siaradwyr Cymraeg a Saesneg, y Cymry yn barod iawn eu cymorth i unrhyw un oedd yn dysgu eu hiaith. Roedd nifer o bobl yn barod i drefnu teithiau ac ymchwilio posibiliadau newydd. Pan gynhaliwyd swper i ddathlu deg mlynedd er y sefydlu y clwb ym Mhlas Glyn-y-Weddw roedd yr aelodaeth wedi tyfu i tua hanner cant.
Weithiau mentrai rhai aelodau ymhellach i dreulio bwrw'r Suliau mewn hosteli ieuenctid i archwilio llefydd fel Ardal y Llynoedd, yr 'Yorkshire Dales', Ffordd Pennine a 'Coast to Coast' Wainright. Gwaith caled i gerddwyr profiaddol oedd rhain. Ers 1992 trefnir gwyliau blynyddol i bob gradd o gerddwyr mewn mannau mor bell oddi wrth ei gilydd â'r Alban a Chernyw yn aros mewn canolfanau gwyliau cyfforddus yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored. Fel arfer mae tair taith wahanol ar gael bob dydd a rhaglen gymdeithasol dda gyda'r nosau. Tyfodd y gwyliau yn hynod boblogaidd ac erbyn hyn mae tua hanner cant o gerddwyr yn mwynhau wythnos hwyliog o gwmniaeth.
Dros y blynyddoedd gweithiodd y grŵp i gynnal llwybrau troed lleol. Rhai blynyddoedd yn ôl rhoddwyd help i'r Warden Cefn Gwlad i sefydlu tri llwybr o arfordir i afordir ar draws Pen Llŷn, ac mae'r rhain yn ymddangos yn y rhaglen yn gyson. Mae'r Clwb yn gysylltiedig â'r Ramblers' Association, Cymdeithas Eryri â'r Ymgyrch dros Warchod Cymru Wledig.
O bryd i'w gilydd cynhaliwyd cyrsiau Cyfarwyddo'r ffordd a Chymorth cyntaf ar gyfer rhai am fod yn arweinwyr.
Yn 2009 cynhaliodd y Clwb ginio yng Nghricieth i ddathlu ei Jiwbili Arian pan ddaeth aelodau'r gorffennol a'r presennol ynghyd i gofio'r amseroedd dedwydd dreuliwyd ynghyd a'r cyfeillgarwch a ffurfiwyd dros y blynyddoedd. Mae gan Rhodwyr Llŷn heddiw dros gant o aelodau.
Harold and Rene Hayes