Awst 22 – Gorff 23
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams.
Dydd Sul 30ain Orffenaf 2023. Cadair Idris. Taith gerdded Cadair Idris wedi ei gohirio
Dydd Iau 20ed Orffenaf 2023. Moel Bronmiod. Ar ddiwrnod teg a heulog cyfarfodd 24 o rodwyr o dan arweiniad Judith Thomas yn Llanaelhaearn ar gyfer taith yn Fryniau hyfryd Clynnog. Aeth y, ffordd o amgylch yr eglwys a drwy’r pentref, a chymeryd y lon fach wladol yn dringo i’r dwyrain drwy lonyddwch gwledig Cwm-coryn. Ar ôl 1.5 milltir, yn niwedd y ffordd, dringwyd trac i’r gogledd, yn arwain i ddringfa fer, ond serth o Foel Bronmiod. Mae’r copa arbennig yn arwahan i Fryniau Clynnog gyda uchder o 1365 troedfedd a hwn oedd y prif nod. Roedd ei fwlyn amlwg o glogwyni creigiog yn fan manteisiol ardderchog am ginio, yn caniatáu golygfeydd yn bell i’r de ar draws iseldiroedd Llyn i’r amlinell niwlog o fynyddoedd y Cambrian ar draws y bae.
Yna aeth y ffordd i lawr yn araf ar lethr gogleddol o’r mynydd, i gyfeiriad camfa garreg a stepiau, un o ddwy adeiladweithiau newydd a osodwyd yn ddiweddar o dan gynllun Ardal o Harddwch Naturiol Llyn i wella ac uno mwynder i gerddwyr yn y tirlun dramatig, wedi ei ddiogelu, ond nid yn ardal adnabyddus. Gwnaeth y gamfa yma ei gwaith fel y bwriadwyd, yn caniatáu croesiad hawdd o’r wal derfyn anodd chwe troedfedd sydd fel arall yn gwahanu’r Bryniau. Yn fuan roedd y parti yn medru cyrraedd y llwybr Cymunedol Arfordirol sydd yn croesi’r llwyfandir canolog gwelltog., yn rhedeg i’r gorllewin, dan y copa garw o Gyrn Ddu. Oddi yno roedd yna fwy o olygfeydd hardd i gyfeiriad Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Yn Fron Heulog ble mae dau dy fferm unig yn cael ei adnewyddu yn araf deg, trodd y ffordd i’r de, cylchdeithio o amgylch Maes y Cwm, ac ymlaen drwy buarth a chaeau Penllechog a chyrraedd y lon bost yn ôl yn Llanaelhaearn. Roedd pawb wedi mwynhau y daith ardderchog yma o amgylch 5.6 milltir o hyd a 1160 troedfedd o ddringo dros 4.25 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 16eg Orffenaf 2023. Llanfachreth-Coed y Brenin. Roedd taith y Sul yma yn gylch 10 milltir o Llanfachreth i Goed y Brenin a fwynhawyd gan griw detholedig o bump o dan arweiniad Hugh Evans. Diwrnod o gawodydd ysbeidiol o gymylau llawn hylif oedd hi ond yn hwyrach daeth yn sychach a heulog. Cychwynnodd y daith o’r pentref ucheldirol a diddorol o Llanfachreth oedd yn hanesyddol a chysylltiad a Stad Nannau, yn seiliedig ger y bryn amlwg, Moel Offrwm i’r de. Dilynwyd trac da i’r gogledd, dringo yn gyson i rostir o grug yn 1250 troedfedd. Roedd adran corslyd yn croesi Bwlch Gwyn rhwng bryniau Cerniau a Moel y Llan.
Roedd y llwybrau aneglur yn y fan hyn yn ei gwneud hi yn anodd. Mi oedd yn foddhad i gyrraedd ardal goediog a mwynhau coffi’r boreu ar glustogau anferth o fwsog llachar gwyrdd o dan y conau. Arweiniodd lwybr coed serth a mwdlyd i lawr i ardal haws a’r cyntaf o nifer o groesfeydd dros yr Afon Wen. Roedd asynau mewn man-ddaliad, tŷ coed a pwll bychan gyda hwyaid a gwyddau i’w gweld. Gerbron roedd yna lanerch coediog dymunol yn le ardderchog ar gyfer cinio yn ystod cyfnod sych. Nawr ymunodd y daith a rhan deheuol o Goed y Brenin, yn gynt Y Goedwig Foniaid, datblygwyd gan yr Awdurdod Goedwigaidd i blannu yn hanner cyntaf yr 20G, un o bedair coedwig y DU i gael ei ail enwi yn 1935 i ddathlu jiwbilî arian George V. Mae’r ardal nawr o dan reolaeth Adnoddau Naturiol Cymru fel ardal adloniant poblogaidd ar gyfer cerddwyr a beicwyr mynydd, ac yn darparu drysfa o lwybrau a thraciau yn troelli ar draws dirlun bryniog drwy’r coed a gerllaw sawl afon a nant. Yna mi gyfarfu ni a nifer o gerddwyr a beicwyr eraill am y tro cyntaf yn y diwrnod. Roedd gwaith coed presennol wedi cau rhai llwybrau, yn gorfodi gwyriad o’r cynllun cerdded gwreiddiol.
Roedd y ffordd a gymerwyd yn dilyn traciau gorllewinol a deheuol, yn ymylu bryniau bychan o Moel Dolfrwynog, Bryn Coch a Bryn Merllyn. Roedd yna gylchdaith fer i fyny Mynydd Penrhos i ddisgwylfa ardderchog yn uchel uwchben Ganllwyd, yn edrych ar draws Dyffryn Mawddach/Eden gyda’i ddyfnder coediog, a ffordd yr A470 brysur wedi’i fframio gan gopâu y Rhinogydd yn codi i’r gorllewin. Roedd cwpl o fryniau morgrug anferth heidiog wedi ei adeiladu o nodwyddau coniffer yn chwilfrydig yn y fan hyn. Roedd rhannau olaf y daith yn disgyn i groesi’r Afon Wen nawr yn agos i’r aber a’r Mawddach. Dilynodd ddringfa iga moga byr ond serth drwy’r coed derw a ffawydden, ac yn fuan cyrraedd y ffordd yn ôl i Llanfachreth. Roedd hon yn daith dda o 6 awr gyda dringo oddeutu 2000 troedfedd drwy’r wlad heddychol o dde Feirionnydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 2ail Orffenaf 2023. Cilan - Machroes. Mwynhaodd barti o 8 o dan arweiniad Debbie Lucas, gylchdaith ar Lwybr Arfordirol Cymru o amgylch Mynydd Cilan a Cim ger Abersoch. Roedd yn sych a chlir, ond roedd yna wynt bywiog orllewinol yn ei gwneud yn rhynllyd ar rannau agored o’r llwybr. Cychwynnodd y daith yn fuan o’r maes parcio ym Mhorth Neigwl, ble roedd gorewynwyr (surfers) yno yn barod i daclo’r tonnau gweddol fawr. Dilynwyd llwybr yn groes i’r cloc ar hyd y clogwyn tywodfryn isel uwchben y traeth heibio Ty’n Don ble roedd yna dwrbin gwynt yn cael ei adeiladu yn agos i’r llwybr. Yna roedd dringo i fyny i Mynydd Cilan ar lwybr tipyn yn serth gyda gamfa wedi torri eisiau sylw. Dilynnodd y ffordd y traciau gwyrdd llydan yn amgylchu dros y rhostir llwyfandirol yn agos i’r clogwynni a chyrraedd oddeutu 300 troedfedd yn y man uchaf. Wrth edrych yn ôl roedd yna olygfeydd ardderchog ar draws yr ysgubiant rhyfeddol pedair milltir o Borth Neigwl i Mynydd Rhiw a Garn Fadryn.
O’r diwedd trodd y llwybr i’r gogledd mewn amser i gael aros am goffi ger gweddillion o siambr gladdu oes y meini yn edrych dros y creigiau gafaelgar o bentir Trwyn Lech y Doll. Suddodd y rhan nesaf i lawr i groesiad ffrwd yn Muriau, dringo yn ol i fyny heibio gwrthglawdd caer oes yr haearn ac uwchben y clogwyni uchel Pared Mawr. Oddi yma roedd yna olygfeydd ysblennydd i lawr i’r bae tyfn o Porth Ceiriad a mynyddoedd Eryri tu draw. Aeth dringfa arall a’r daith i’r ucheldir gwyntog o Trwyn yr Wylfa. Arweiniodd trofa arall i lawr i Pistyll Cim ac yn ôl i fyny. Roedd cripell o gerrig yn rhoddi cysgod ar gyfer cinio yn edrych dros y goleudy yn St Tudwal Ynys Oellewinnol. Islaw roedd y mor garw yn pwyo’r creigiau duon ac yn chwyldroi i fewn ac allan o ogof dywyll. Roedd yna iot unig yn tacio’n ddewr i’r gwynt ond yn dilyn peth amser cafodd yr olygfa wych yma ei ymyrryd yn ddiaddurnus gan i bum jet ski gyrraedd a neidio yn swnllyd dros y tonnau, gwefr i’r marchogion ond nid i neb arall. O’r diwedd arweiniodd y llwybr i lawr am aros byr yn Machroes yn y pen deheuol o Porth Fawr. O’n amgylch ym mhobman roedd yna lawer o atgofion o’r mwynglawddiau metel 19G oedd yn bodoli yn y man yma.
Dilynnodd y trac syth gwastad o’r “Lon Haearn”, reilffordd ceffylau oedd unwaith yn cludo mwyn rhwng Sarn Bach a’r hen lanfa yn Penrhyn Du. Dilynnodd y rhan olaf trac y dyffryn drwy Fferm Ty Newydd ac ar draws caeau i’r fordd allannol ar hyd tywodfryniau Porth Neigwl. Roedd hon yn ddiwrnod wobrwyol ac yn llaes ac yn llac yn rhai o’r golygfeydd arfordirol goreu ar y cyfan o Lwybr Cymru, pellter o 10 milltir dros 6 awr yn cynnwys dringo tywyllodrus ysbeidiol o 2500 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 22 Fehefin 2023. Aber Ogwen – Abergwyngregyn. Kath Spencer arweiniodd 11 aelod o’r Clwb ar gylchdaith ddymunol o Aber Ogwen ar hyd yr arfordir i’r dwyrain o Fangor ac yn ol dros y bryniau tu cefn. Roedd y tywydd yn heulog a chynnes. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio bychan ar yr arfordir yn edrych dros yr olygfa drawiadol heulog o Traeth Lafan a llanw isel, ehangder helaeth o fwd a tywod, yn estyn i gyfeiriad Beaumaris ar lan Sir Fôn gyferbyn. Mae y fan hon yn Ardal Amddiffyniad Arbennig a Gwarchodfa Natur oherwydd ei fywyd gwyllt prin a’i ymestyniad a nifer o adar yn cael eu denu gan ei bysgod a’i anifeiliaid a chregyn.
Am oddeutu dwy filltir roedd Llwybr Arfordir Cymru yn glos a’r arfordir ac o’r diwedd dyma gyrraedd Morfa Aber, ble roedd yna aros am baned a chacen penblwydd o dan goeden onnen aeddfed ac yn dal i fod yn iach. Yna dilynwyd ffordd i’r tir o dan yr A55 a heibio St Bodfan, Abergwyngregyn, eglwys o’r 19 ganrif wedi ei chynllunio gan Pugin. Dringodd llwybr yn serth uwchben Crymlyn Oaks a chyrraedd gweundir tir agored, ryw fymryn yn brin o 1000 troedfedd o uchder islaw Moel Wnion, ar ymylon y Carneddau. Roedd y fan hyn yn le manteisiol i gael cinio, yn edrych i lawr ar y caeau gwyrdd ar wastadau’r arfordir a’r rhuo pell y trafnidiaeth ar yr A55 a’r olygfa o arfordir Môn tu draw.
Yn y prynhawn ymunodd y ffordd a Llwybr Gogledd Cymru, llwybr 60 milltir ucheldirol wedi ei esguluso braidd, o Prestatyn i Fangor. Roedd trac dirgrynus da yn croesi ardaloedd o ffridd, yn ymylu coed coniffer urddasol yn Nant Heilyn a Coed Ty’n yr Hendre. Yn Bronydd Isaf aeth heol fach fetel a’r parti i lawr yn serth drwy’r llanerchodd tyfn ac o’r diwedd croesi’r A55 a chaeau’r iseldiroedd yn ôl i’r arfordir. Roedd adran olaf ar hyd lan y mor yn torri drwy Gwigoedd Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwarchodfa Natur, cyfres o lagwns coediog yn agos i Aber yr Ogwen yn rhoddi cynefin gwerthfawr i adar. Mae hwn yn agos o dan waliau Castell Penrhyn ble mae cerddwyr yr arfordir yn fuan yn mynd i fwynhau llwybr newydd i Fangor. Roedd hon yn ddiwrnod mwynhaol mewn ardal weddol ddiarth, pellter o 8 milltir ac 1500 cant o ddringo dros 4.5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 18ed Fehefin 2023. Llanfairfechan – Drum. Roedd taith heddiw yn y Carneddau yn ail wneud un a wneuthpwyd yn Tachwedd diwethaf ar ddiwrnod o dywydd gwael. Y tro hwn Kath Spencer arweiniodd griw o 10. Roedd y tywydd i gychwyn yn addawol, yn gynnes gyda chyfnodau heulog a gwyntoedd ysgafn, ond cyrhaeddodd tywydd gwlyb erbyn y prynhawn. Cychwynnodd y daith o warchodfa natur hyfryd Nant y Coed yn niwedd Ffordd Valley, 500 can troedfedd uwchben Llanfairfechan.
Arweiniodd dringfa serth drwy gaeau i fyny i’r rhostir, Garreg Fawr, uchder oddeutu 1200 troedfedd. Oddi yno roedd yna y cyntaf o olygfeydd gwych y diwrnod, i lawr i wastadedd yr arfordir brysur ac ar draws i Bae Conwy, i Penmon ac Ynys Seiriol? ar y pen deheuol ddwyrain o Sir Fon. Parhaodd traciau llydan i’r de i gyfarfod a ffordd yr ucheldir hanesyddol yn rhedeg dwyrain-orllewin ar draws y llwyfandir rhwng llechweddau’r “ffridd” i’r gogledd a wylodion y Carneddau i’r de. Oddi yma cymerodd ddau o’r parti y ffordd mwyaf union i fyny Drum, tra cymerodd y prif grwp lwybr cwmpasog am filltir i’r dwyrain ar hyd yr hen Ffordd Rufeinig cyn gwneud tro i fyny ar gyfer llafurio’n hir i fyny grib Drosgl, heibio yr brig creigiog o Carnedd y Ddelw. O’r diwedd cydgyfeiriodd y ddau barti ar gopa Drum, 2500 troedfedd, mewn pryd i gael cinio a’i gilydd mewn cyflwrau llawer mwynach na’r tro cynt. Mae’r copa hefyd yn cael ei adnabod fel Carnedd Penybont Goch ac mae yn safle i garn oes efydd wedi ei diraddio yn dilyn ei ail adeiladu fel lloches i gerddwyr dros 40 mlynedd yn ôl.
Erbyn hyn roedd y golygfeydd dros y Carneddau ac i gyfeiriad Dyffryn Conwy yn dechrau mynd yn niwlog yn awgrymu disgynfa ar y trac i’r gogledd-orllewin, heibio gyrion o ferlynod Carneddau unigryw. Ger Blaen y Ddalfa fe wnaeth y mwyafrif o’r parti gylchdeithio dros y grib mwy i’r gorllewin wedi eu ffurfio gan y bryniau bychain o Pen Bryn-Du. Yr Orsedd a Foel Ganol. I fyny daeth cymylau mawr o niwl o Cwm Afon Anafon ac yn fuan dyma’r nefoedd y nagor gyda dilyw taranllyd, yn difody yr olygfa ac yn boddi’r cerddwyr. Yn ffodus dim ond amser byr roedd hyn yn bodoli a dilynwyd gan law ysgafn cynnes am y rhan fwyaf o weddill y daith. Roedd y pethau diddorol ar y ffordd allanol, a’r parti o’r diwedd yn ôl i Nant y Coed mewn pryd i osgoi mwy o gawodydd stormlyd. Roedd heddiw yn ddiwrnod egniol ond wobrywol o 10.7 milltir dros 6.5 awr gyda dringo cynyddol o 3100 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 8 Fehefin 2023, Cwm y Glo. Elsbeth Gwynne dywysodd 20 cerddwr ar daith bleserus a diddorolyn y bryniau uwchben Cwm y Glo. Disgleiriodd yr haul yn gynnes eto. Ar ol parcio yn safle cymunedol Menter Fachwen, yr aros cyntaf oedd i ddysgu o blac cofeb ynglŷn a ffrwydriad trychinebus yn 1869 o ddwy llond trol o “nitroglycerin”, (ar gyfer y chwarel lechi) yn drist, yn lladd chwech ac yn taflu sbwriel hanner milltir i ffwrdd.
Arweiniodd ffordd gul serth heibio tai pert i ran uchaf y pentref ac yna ar gymhlethdod o lwybrau yn llawn o dyfiant y gwanwyn, yn cysylltu y caeau bach waliog traddodiadol roedd y boblogaeth leol gynt yn dibynnu arnynt. Roedd y rhain yn nodweddu gatiau haearn tarddiadol yn dyddio o’r 19G, a hefyd nifer o ysgolion pren heb fod mewn cyflwr cystal. Ymlaen aeth y ffordd heibio Castell Bryn Bras, plasdy gwledig llywodraethol adeiladwyd yn y dull o gastell canoloesol, nawr yn guddiedig gan goed ac yn rhannol ddefnyddiol fel llety gwyliau. Yn uwch i fyny, arweiniodd y llwybr i rostir mynediad agored yn llawn o lus, grug a rhedyn ungoes treisiol. Roedd y map OS yn dangos tystiolaeth helaeth o anheddfa cyn hanesol yn y man hyn1000 o droedfeddi i fyny ar lechweddau Carreg Lefain.
Profodd y man aros am ginio i fod yn le ardderchog i weld yr olygfa eang wych, wastadoedd Arfon ac Ynys Môn yn estyn islaw. Roedd maes carafannau cuddedig a llyn llonydd yn agos. Yr unig amhariaeth oedd lein gerllaw o geblau uchel trosglwyddiad ar ben y peilonau saernïol anferth. Aeth y daith i lawr ar lwybrau drwy gaeau ac yna Bwlch, ac o’r diwedd ail ymuno a’r llwybr allanol yn ôl i Gwm y Glo. Roedd hon yn daith fwynhaol a llac, 4.5 milltir o hyd mewn oddeutu 4 awr, yn fwy anodd na’r disgrifiad gyda’r cyflymdra yn cael ei arafu gan y dringo serth, y niferoedd o gatiau a gamfeydd, a’r tyfiant trwchus ar hyd y llwybrau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 4ydd Fehefin 2023. Bethesda – Nant Ffrancon. Cyfarfu 15 o gerddwyr ym Mhethesda o dan arweiniad Annie i gerdded yn Nyffryn Nant Ffrancon ar ddiwrnod bendigedig eto mewn rhes hir o dywydd gwanwyn anghyffredin! Cychwynnodd y daith o “parcio a reidio” dros dro wedi ei drefnu gan fenter lleol i ysgafnhau gorlenwad yn Eryri.
Yn y cychwyn dilynodd y ffordd yr lan orllewinol o’r Afon Ogwen, croesi’r afon yn Ogwen Bank, ble mae cynllun hidro cymuned lleol. Arweiniodd dringfa fer drwy goedwig ddymunol Braichmelyn allan i ucheldir rostirol agored ar ochr dwyreiniol o’r dyffryn. Roedd yna olygfeydd hyfryd o glytwaith o gaeau gwyrdd wedi eu trefnu yn daclus gan ddefaid yn pori yn waelod gwastad y dyffryn. Roedd wal garw o Carnedd y Filiast a Mynydd Perfedd yn codi yn serth ar yr ochr gyferbyn y dyffryn. Roedd y fan hyn hefyd, yn fan manteisiol i weld y gweithfeydd anferth Chwarel y Penrhyn a gwylio’r tryciau yn llafurio i fyny traciau i lawnsio eu teithwyr dewr ar y “zipwire” chwedlonol ar draws ogofeydd y chwarel anferth. Aeth y parti ymlaen i fyny grib Cefn yr Orsedd, ac ymuno a’r grwp flaenol a chael paned hamddenol ger y corlannau oddeutu 1200 troedfedd. Oddi yma roedd yna olygfeydd ysblennydd crisialaidd clir i’r dwyrain o brif gopâu y Carneddau, yn cynnwys Carnedd Dafydd ac Yr Elen.
Yn dilyn disgynfa ysgafn croeswyd yr A5 brysur yn Ty Gwyn i lawr y dyffryn, ble roedd talp o graig ger Maes Caradoc yn le cyfleus i glwydo am ginio. Roedd rhan y prynhawn yn dilyn ffordd wledig yn ol ar y yr ochr orllewinol o’r cwm trwy Tai Newyddion, yn dilyn y Llwybr Llechi. Roedd rhan coediog yn agosáu at Bethesda yn rhoddi rywfaint o gysgod o haul tanbaid y prynhawn. Roedd hon yn daith hawdd a mwynhaol oddeutu 7 milltir mewn hyd mewn llai na pum awr gyda o amgylch 1500 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 25ain Fai 2023. Capel Garmon. Cychwynnodd ac mi orffennodd y daith gron heddiw ger y bont hardd, Waterloo, ym Metws-y-Coed gyda 15 yn cerdded. Bu i’r clwb wneud y daith yma ddiwethaf oddeutu 10 mlynedd yn ol ac heddiw roedd y tywydd yn ardderchog wrth iddynt ddringo llwybr hen serth, i’r chwith o’r Gwesty Ty Gwyn. Roedd pawb yn ddiolchgar i hwn fynd yn fwy gwastad ar ol tri hanner milltir gan fynd heibio Gelli Lennon a Pant y Pwll, cyn cyrraedd y pentref cyfareddol neilltuedig Capel Garmon.
Gwneuthpwyd daith o amgylch y pentref oedd yn datgelu yr holl angenrheidiau pentref iawn! Eglwys ac wyrach yn bwsicach, tafarn!! Y Ceffyl Gwyn. Yna aeth y ffordd i’r de ar hyd heol fach am hanner milltir a mynd heibio fferm, Maes-y-Garnedd, bron yn syth wedyn mae eisiau mynd i’r dde ac i lawr i fynedfa fferm Ty’n-y-coed cyn cyrraedd ar y chwith, y rhagorol Ystafell Gladdu Capel Garmon o’r oes efydd. Cymerwyd ginio yn yr haul cynnes ac roedd y man hyn yn le ardderchog i gael golygfeydd arbennig o griboedd y Glyderau a’r Carneddau.
Yna aeth y trac i’r chwith ac ymdroelli drwy’r gweirgloddiau yn llawn o flodau gwyllt lliwgar cyn ymuno a ffordd fferm yn mynd ar i lawr yn arwain i ffordd fechan darmac. Aeth hon ymlaen i lawr am oddeutu 300 llathen cyn cyrraedd a mynd i’r dde ar yr A5 brysur yn Rhaeadr Conwy. Wedi cerdded drwy’r maes parcio, yn y gornel, mae llwybr anodd gyda grisiau cerrig serth yn gyfochrog a’r A5. Yn dilyn pellter byr mi wellodd y llwybr mewn man ble roedd yr hen A5 yn rhedeg, sydd nawr yn goedwig, gyda ceunant tyfn i’r chwith. Ymhellach ymlaen mae’r llwybr yn lledu ac yn caniatáu golygfeydd o Foel Siabod i’r chwith a Dinas Mawr yn codi i’r dde ac yna cyrraedd mynedfa i Fairy Glen ac yn fuan yr A470. Mynd i’r chwith dros Pont Afanc ac i’r dde ar unwaith ar ffordd fechan sydd o fewn rhyw filltir yn cyrraedd yn ol i Fetws y Coed a’r man cychwyn, Pont Waterloo. Roedd hon yn daith eithaf heriol oddeutu 6 milltir dros 4 awr gyda dringo serth yn y dechrau. Dafydd Williams.
Dydd Sul 21ain Fai 2023. Maetwrog – Bryn Cader Faner. Hugh Evans arweiniodd barti o 8 cerddwr ar gylchdaith o Faentwrog i Bryn Cader Faner, gan gychwyn yn agos i Stesion Powerdy Maentwrog, ac ymweld a Nant Pasgan-mawr, Bryn Cader Faner a Llandecwyn. Roedd y tywydd yn ddelfrydol, yn heulog a chynnes gyda awel ysgafn. Aeth llwybr serth ond cadarn dan draed i fyny drwy’r haul amryliw yn y coed hynafol Coed Cae’n-y-coed yn Ceunant Llennyrch.
Gan ddod allan o’r goedwig a cherdded ymlaen i’r de ar dir weddol wastad, ar draws tir gwelltog a phori cwrs tan cyrraedd y ffos ddŵr sydd yn gwagio i Lyn Trawsfynydd. Yna cymerwyd arosfa’r bore yng nghynesrwydd yr haul yn edrych i’r gogledd ddwyrain ar hyd Ceunant Geifr. Yna ymlaen i’r de orllewin ar hyd Nant Ddu, heibio Nant Pasgan Mawr a Nant Pasgan Fach.
Aeth y rhan nesaf i fyny’n serth ar lwybr gwlyb mewn ambell le, ac ymuno a llwybr de orllewinnol ar lethrau isaf o Diffwys, Foel Penolau a Moel Ysgarfarnogod. Mewn llefydd roedd y llwybr hwn yn gorsog ac roedd rhaid gwneud gwyriad yma ac acw ond, diolch i’r tywydd sych diweddar, roedd modd mynd a chyrraedd carn Bryn Cader Faner erbyn cinio. Mae’r carn oes efydd yma yn 8.7 metr diamedr gyda 18 o bileri danheddog tenau yn ymwythio i fyny o’i amgylched. Yn ôl y sôn mae yn dyddio yn ôl i ddiwedd y trydydd filenium CC.
Ar ôl cinio, aeth y ffordd i’r gogledd orllewin heibio Y Gyrn a Caerwych i lawr i Llyn Tecwyn Isaf. Ar y ffordd roedd yna olygfeydd bendigedig dros Aber y Dwyryd a’r copau tu hwnt. Roedd yna ymweliad byr a’r eglwys yn Llandecwyn ac yn gyfle i ni ddadmer!! yna ymlaen ar hyd y lan gogledd orllewinol o Lyn Llandecwyn Uchaf drwy goedwig Coed Felenrhyd ac yn olaf i lawr trac yn sobr o anwastad drwy Coed Cae’n-y-coed yn ôl i’r ceir. Roedd y daith yma yn rhoddi amrywiad ardderchog o olygfeydd, coedwigoedd, coetir, rhostir, llynnau a mynyddoedd, a’r tywydd braf yn galluogi y cerddwyr i’w gweld. Pellter o 9.5 milltir gyda 2180 troedfedd o ddringo dros 5 awr 38 munud. Hugh Evans. (Cyf: DHW)
Dydd Iau 11 Fai 2023. Lôn Gwyrfai. Arweinwyd taith heddiw gan Dafydd Williams ar gyfer codi arian i alluogi’r Clwb wneud cyfraniad ariannol at gostau yr Eisteddfod Genedlaethol sydd yn cymeryd lle eleni yn yr ardal yma sef Pen Llyn. Ar bwrpas dewiswyd taith weddol fer a hawdd fel bod pawb yn medru dod, ac gyfarfu 27 ym Meddgelert. Ar ddiwrnod braf teithiodd y parti ar y bws i fyny i Rhyd Ddu a disgyn yn yr Orsedd Reilffordd a gwneud defnydd o’r cyfleusterau. Wrth egluro beth oedd i ddilyn, sef taith pum milltir ar y llwybr ardderchog, Lôn Gwyrfai yn ôl i Beddgelert, croesawodd Dafydd ein aelod fyddlon Jos Marien o Flanders, yn ôl i’n plith ac heb ei weld o’r blaen y flwyddyn hon. Mae’r llwybr yn bennaf yn rhedeg ar i lawr, ac yn dechrau ar y lan gogleddol o Lyn y Gadair o ble roedd yna olygfeydd ardderchog o’r copau cyfagos, i’r dwyrain, Yr Wyddfa, Yr Aran, Lliwedd a Moel Cynghorion ac uwch ein pennau i’r gorllewin, Grib Nantlle. Mae’r llwybr mwy na heb yn rhedeg gyda’r reilffordd ac mae yn bleser ei ,gerdded. Fe agorwyd oddeutu 12/15 mlynedd yn ôl pan gysylltwyd nifer o lwybrau a chreu rhai newydd pan oedd angen ac mae hefyd ar gyfer beicwyr a marchogaeth.
Cedwir gyflymdra cyson drwy’r ardal goediog ac mi groeswyd y reilffordd am y tro cyntaf yn Cae’r Gors, ac ymlaen i lawr i Hafod Ruffydd Isaf. Wedi tro o 90% i’r dde ac i fyny a chroesi’r rheilffordd unwaith eto cyn cyrraedd Hafod Ryffydd Uchaf ble mae dwy fainc yn caniatau golygfeydd gwych eto o’r copau i’r dwyrain. Arwahan i adran fer mae yr ail ran o’r daith ar i lawr gyda copa Moel Hebog yn uchel iawn uwchben i’r gogledd a Moel Lefn a Moel yr Ogof yn ymyl. Yn nesau at Beddgelert mae rhaid mynd heibio ty fferm, Cwm Cloch (o le mae’r enw yna yn tarddu tybed?) a chroesi ac ail groesi’r reilffordd dair gwaith cyn dyfod allan ar y ffordd Beddgelert-Rhyd Ddu a deithwyd arni ar y bws ynghynt. Oddi yno roedd dim ond oddeutu 200 llath i’r maes parcio. Aeth nifer o’r cerddwyr i gael te bach prynhawn yng Ngwesty Saracens Head cyfagos i orffen taith fwynhaol fer oedd yn caniatau digon o amser i gloncian bywiog. Casglwyd £360.00, swm taclus at yr achos! Dafydd Williams.
Dydd Sul 7ed Fai 2023. Fryniau’r Tarrenau. Gareth Hughes aeth a parti o 13 o rodwyr o Abergynolwyn i Fryniau’r Tarrenau, ardal unig a di-gerdded. 14 mlynedd yn ol wnaeth y Clwb y daith yma y tro diwethaf. Roedd yr addewid o niwl y boreu yn anghywir, y cymylau yn cilio ac yn newid i haul braf gyda awel ysgafn. Cychwynnodd y daith ar heol fach serth i’r de allan o’r pentref, ac yn fuan troi ar lwybr yn dringo i fyny y ceunant tyfn a chul, Nant Gwernol, hyfrydwch o ddŵr llithriedig yn ochrog a lannau mwsoglyd yn fyw a chlychau’r gog, blodau nadrodd a blodau eraill o ddechrau Mai. Aeth Nant Moelfre a’r parti yn uwch, cyrraedd llwybr coediog llydan a’i ddilyn am filltir ychwanegol ac ymylu i’r gorllewin drwy goedwig conifferaidd, peth wedi ei dorri lawr yn ddiweddar. Ychydig tu draw i Tarren Fach aeth y ffordd 300 troedfedd i fyny llwybr serth a chul i’r grib uwchben, ble roedd yna aros am de’r boreu, saib dderbyniol cyn pannu hir ar hyd llinell ffens 650 troedfedd i fyny llechwedd i gopa Tarren Hendre. Roedd y pig, llwyfandirol yr olwg, 2080 troedfedd, ei hun yn ddinod, ond roedd yna olygfeydd hyfryd i lawr i aber ddisgliriedig y Dyfi i’r de a chlogwyni o grib Cadair, yn dal dan gymylau i’r gogledd.
Dilynodd y daith ar hyd grib noeth, cylchio i’r dwyrain dros Foel y Geifr. Daethpwyd o hyd i fan gysgodol ar gyfer cinio yng nghanol y grug a’r llys. Archio o amgylch tro yn y goedwig, a gwnaethpwyd yr ail ddringfa i gopa greigiog falurys Tarren y Gesail, 2200 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod. Cerddodd rhai yn syth i fyny’r llethr serth 800 troedfedd i’w gyrraedd, tra cymerodd eraill ffordd hirach rhwyddach i gam o gam ar hyd trac beicio annisgwyl. Gwnaeth ddau o’r parti, wyrach yn gall, benderfynu gadael yr ail ddringfa, a dod o hyd i ddihangfa haws yn ôl. Eto roedd y golygfeydd o’r copa yn ysblennydd, bryniau gwyllt canolbarth Cymru yn ymestyn am byth i’r de a’r dwyrain tu draw i Machynlleth yn y dyffryn islaw. Daeth disgyn serth, poenus a gwelltog 1000 o droedfeddi mewn llai na milltir, a’r parti i lawr i nant ac ymyl coedwig ger gweddillion o Pont Laeron. Arweiniodd llwybr anodd o’r diwedd i weddillion chwarel Bryn Eglwys, nawr yn goedwig hafan heddychol, ond yn atgof o etifeddiaeth diwydiant 19G Abergynolwyn. Roedd y rhan olaf o’r daith yn dilyn trac rhwyddach, ail ymuno a’r heol fach o’r pentref. Roedd hon yn ddiwrnod egnïol ond ardderchog yn y bryniau tawel, prin o dan 10 milltir mewn 7 awr gyda 3450 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (cyf: DHW).
Dydd Iau Ebrill 27 2023. Cwm Pennant. Annie Andrew ddaeth i’r adwy yn y munud olaf i arwain taith yn nyffryn hudol Cwm Pennant. Cyfarfu 17 o rodwyr yn y maes parcio bychan yn Beudy’r Ddol ym mhen uchaf y dyffryn, yn dilyn rhannu ceir o’r eglwys yn y gyffordd waelod ar gyfer y ffordd gul a throelloch, pellter o 5 milltir drwy gatiau i’r cychwyn. Mi oedd yn ddiwrnod braidd yn gymylog ac mi gadwodd y glaw, oedd yn bygwth, i ffwrdd! Roedd y ffordd a gymerwyd yn dilyn rhif wyth yn switsio o naill ochr o darddiad yr afon Dwyfor. Roedd prif ddringo’r diwrnod yn y dechrau, 350 troedfedd i’r gogledd ddwyrain ar lwybr gwelltog serth a chorslyd i Cwm Trwsgl. Yn un o’r nifer o adeiladau sydd wedi oroesi o’r fenter aflwyddiannus, Chwarel y Prince of Wales, trodd y ffordd i’r de ar hyd trac o’r reilffordd aeth unwaith a’r llechi i lawr i Cwmystradllyn i’w felin ac yna i’r glanfeydd ym Mhorthmadog.
Aeth y ffordd i’r neilltu yn fuan ar lwybr rhostir yn arwain i gaeau o amgylch Tyddyn Mawr ble roedd yna aros am baned. Yna ymunodd y parti a’r ffordd gul ar ochr orllewinol y cwm gan ddilyn hon yn frysiog i’r de heibio Plas y Pennant. Ar draws Pont-y-Plas trodd y ffordd i’r gogledd eto ar y trac tarmac i fyny i Brithdir. Cafwyd ginio ymysg waliau hynafol a cherrig yn dwyn atgofion o hanes hir anheddfanol o’r cwm tawel yma yn ardyst gan weddillion llawer i lwyfannau tai, llefydd caeedig a chytiau Gwyddelod. Roedd yna gyfle i edmygu’r golygfeydd o’r copauon prudd yn esgyn 2000 troedfedd uwchben llinell o Foel Hebog, Moel yr Ogof a Moel Lefn i’r dwyrain a’r arc fawr o Grib Nantlle yn amgylchu y dyffryn i’r gorllewin a’r gogledd Aeth y daith ymlaen ar lwybrau llai amlwg, croesi rhan o rostir corslyd ac yna cymeryd ffordd gwrtais yn arwain yn ôl ar draws y dyffryn drwy gaeau gwyrdd yn cael eu pori gan ddefaid a’i wyn. Oddi yno roedd ond dau gam sydyn yn ôl i’r cychwyn ar y ffordd orllewinol. Roedd hon yn daith dda mewn ardal yn nodedig am ei brydferthwch tawel, dros oddeutu 6.5milltir a dringo o 1100 troedfedd mewn llai na 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 23ain Ebrill 2023. Capel Curig-Llyn Crafnant-Llyn Geirionydd. Ar ddiwrnod a drodd allan i fod yn sych a chlir Eryl Thomas arweiniodd ddwsin o gerddwyr ar gylch poblogaidd o’r llynnau, yn y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Capel Curig. Cychwynnodd y daith o arosfa Bryn y Glo ar yr A5, dringo 450 troedfedd ar lwybr serth coediog heibio Nyth Bran i lwyfandir mwy agored, yr un ffordd a gymerwyd ar daith dydd Iau ddiweddar. Aeth y ffordd o’r top i’r gorllewin ac yna i’r gogledd ar hyd lwybr rhwydd graeanllyd newydd ei wella ar hyd Nant y Geuallt islaw Crimpiau ac i mewn i Warchodfa Natur Glas Crafnant. Roedd yna aros am baned boreau ar fryncyn amlwg yn edrych i lawr y cwm cul coediog, Llyn Crafnant sawl can troedfedd islaw. Dilynodd y llwybr drac coedwigaidd ar y glan orllewinol o’r llyn ble mae obelisg yn coffau ei ddefnydd fel cronfa i Llanrwst. Mae cysylltiad ffordd yn y fan hyn o Conwy yn ei wneud yn fan pen wythnos poblogaidd.
Roedd y ffordd nawr yn croesi’r gwahanfa ddŵr i Llyn Geirionydd yn y cwm nesaf, yn gwneud cylchdaith i’r pwll plwm “Klondyke”, a elwid oherwydd rhuthr aur tymor bur a sefydlwyd ar sôn celwyddog o ddarganfyddiad. Roedd y fan hyn yn fan cysgodlyd hyfryd am ginio wrth nant lithredig yn agos i adfeilion nodweddol adeiladau pyllau. Ym mhen y llyn islaw mae cofgolofn Taliesin yn coffau ble y tybied y ganwyd y bardd enwog o’r 6ed ganrif a ble cynhelwyd arwest, rhagflaenydd yn y 19eg ganrif o’r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd rhan y prynhawn yn ofalus fynd drwy wreiddiau coed dinoeth ar hyd llwybr heddychol yr ochr gorllewinol o Lyn Geirionydd. Am 3 o’r gloch ymyrrwyd yn fyr a’r heddwch gan y seiren prawf ffon symudol cenedlaethol, ond dim ond hanner y grwp dderbyniodd yr alwad! Dilynodd y ffordd yn ol draciau coediog llydan heibio Llyn Bychan, ac o’r diwedd ail ymuno a llwybr cynharach yn arwain i lawr yn ôl i Bryn Glo. Roedd yna olygfeydd hyfryd o fynyddoedd Eryri yn estyn o Foel Siabod i’r Glyderau a Pedol Yr Wyddfa. Roedd hon yn daith weddol hawdd yn y tirwedd difyr o’r llynnoedd o 10 milltir a 2000 troedfedd o ddringo dros 6 awr, siwrne bleserus dros ben. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Ebrill 12ed 2023. Bysgotfa Eisteddfa - Penmorfa. Roedd taith heddiw yn y wlad ddeniadol o amgylch Pentrefelin. Cyfarfu parti o 19 o dan arweiniad Jean Astles a Val Rowlinson yn Bysgotfa Eisteddfa. Roedd hi yn ddiwrnod braf a heulog ond eto yn rhynllyd yn y gwynt. Er mwyn osgoi rhai llwybrau mwdlyd neilltuol, roedd y rhan gyntaf o’r daith ar hyd yr A497 brysur i bentref Pentrefelin. Yna cymerwyd yr hen ffordd y porthmyn i’r gogledd ddwyrain, gan fynd heibio Llys Cynhaearn, tŷ hardd Celfyddyd a Chreft adeiladwyd fel rheithordy gan Clough Williams Ellis yn 1913.
Dilynnodd y ffordd y trac coediog heibio Y Boncyn, a throi i lwybr yn arwain i Maenordy Wern. Ty sylweddol gwladol yw hwn wedi ei drawsffurfio mewn dull Jacobean yn niwedd yr 19 ganrif i’r peiriannydd mwyngloddio llwyddiannus R.M. Greaves o’r chwarel lechi Llechwedd yn Blaenau Ffestiniog. Yn ddiweddarach roedd yn ysbyty rhyfel, ac yna yn gartref yr henoed ac nawr ar gyfer ymwelwyr. Arweiniodd y llwybrau i’r gogledd i bentref Penmorfa, unwaith y tir sych cyntaf y rheiny yn croesi’r traeth mwdlyd cyn iddo gael ei sychu er mwyn adeiladu Porthmadog a Thremadog. Roedd cyn faes chwarae’r ysgol, nawr wedi ei ddarparu a byrddau picnic, yn le ardderchog ac addas i gael cinio islaw clogwyni Craig y Gesail. Cymerwyd ddolen i fyny i’r pentref ar hyd rhan fer o’r cyn reilffordd adeiladwyd i ddod a llechi i lawr i geiau Porthmadog o’r chwareli yn Cwmystradllyn a Chwm Pennant. Ail ymunodd y llwybr yn ôl a ffordd y porthmyn gan fynd heibio’r eglwys ddiddorol St.Beuno.
Yn ôl yn Pentrefelin cymerodd y daith gylchdaith i’r de ar hyd yr hen sarn yn arwain i Ynyscynhaearn, wedi ei leoli ar gyn ynys yn Llyn Ystumllyn, nawr yn gaeau llawn dwr a chorsiog. Mae’r fynwent unig waliog yma yn cynnwys nifer o feddi cofiadwy. Arweiniodd y llwybr yn ôl o amgylch Moel y Gadair ac yn agos i’r ty Tuduraidd, Ystumllyn. Yn ôl yn Eisteddfa mwynhaodd rhai o’r cerddwyr luniaeth yn y caffi ardderchog yn dilyn taith o 5.5 milltir dros oddeutu 3 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Sul 9ed Ebrill 2023. Nantcol-Y Llethr-Rhinog Fach. Ar fore Sul y Pasg yn haul y bore bu i ddwsin o aelodau gyfarfod yng Nghwm Nantcol yng nghanol y Rhinogydd. Enwir yr ardal, a dau o’u gopaon ar sail yr hen ystyr i’r gair rhiniog sef ffrâm drws, y Rhinog Fawr a’r Rhinog fach saif y naill ochr a’r llall i Fwlch Drws Ardudwy.
Y bwriad oedd dringo Y Llethr a Rhinog Fach. O dan arweiniad Noel Davey cychwynnwyd ar lon gul yn arwain i ben Dwyreiniol y cwm. Wedi rhyw filltir, ger Graig Isa, roedd llwybr igam ogam yn arwain i’r De a’r Dwyrain am fil o droedfeddi fyny llethrau glaswelltog Moelyblithcwm. Ymlaen wedyn am hanner milltir dros rostir di-lwybr at gorlan sylweddol gynigiodd fan i rannu wyau Pasg gyda’n panad. A’r haul yn gwenu cafwyd golygfeydd gwych i lawr y cwm, gyda swmp mawr Moelfre yn flaendir, glannau Ardudwy wedyn a chip dros y bae o Benrhyn Llyn yn niwl y pellter.
Dilyn yn glos wedyn i wal gerrig i’r Gogledd Ddwyrain ddaeth a’r criw at y llwybr sydd yn arwain o gopa Diffwys i Gopa’r llethr. Dringfa fer, ond serth wedyn i gopa moel glaswelltog Diffwys. Hwn yw pwynt uchaf criw'r Rhinogydd, rhyw fymryn dros 2500 troedfedd. Does fawr ddim i nodi’r copa ond carnedd fechan fyddai yn hawdd iawn i’w methu.
Ymlaen eto i’r Gogledd ddwyrain at lwybr sydd wedi erydu’n ddrwg ac yn gostwng 500tr i’r bwlch ble ,mae dyfroedd llonydd tywyll Llyn Hywel yn gorwedd o dan dwmpathau mawr o greigiau a sgri sy’n ffurfio Rhinog Fach saif yn fygythiol uwchben. Wedi dilyn y llwybr anodd hwn yn ofalus bu’r esgyniad olaf yn 500 tr arall serth, creigiog ar droedleoedd anweledig ar brydiau, gyda thipyn o grafangu dros greigiau a hyn oll yng nghysgod un arall o’r waliau mawreddog sydd yn yr ardal.
Daeth y wobr wrth gyrraedd y copa. Cafwyd golygfeydd eang di-dor i bob cyfeiriad ar draws rhan ddeheuol Eryri o’r copa, a chyfle i fwynhau cinio hwyr gyda’r wal yn cysgodi rhag y gwynt cynyddol. Croesi i begwn gogleddol y copa i edmygu'r creigiau mâl ar lethrau Rhinog Fawr gyferbyn. Yna llwybr serth, cymharol hawdd dan draed yn arwain i’r De orllewin. Y daith yn ôl i’r ceir yn dilyn llwybrau garw drwy rug cyn ymuno a llwybr a hen dramffordd yn weddillion yr hen weithfeydd manganîs sydd yn yr ardal . Cynhyrchwyd rhyw 10,000 o dunelli o’r mwyn i’r diwydiant dur rhwng 1886 a 1894.
Gwaith hawdd wedyn oedd ail ymuno a’r llwybr allan, ar hyd y lon drwy’r cwm. Diwrnod yn llyncu cryn egni, ond taith werth chweil mewn tywydd braf ar Ŵyl Banc prysur, dro 9 milltir o hyd ac 3000 troedfedd o esgyniad dros ryw 7 awr. Noel Davey cyf GJ
Dydd Iau 30ain Fawrth 2023. Garn Boduan oedd y nod ar gyfer taith heddiw. Cyfarfu 14 o rodwyr o dan arweiniad Noel Davey ym maes parcio Stryd y Plas yn Nefyn. Roedd y tywydd yn iawn ond yn tueddi i fod yn gymylog a niwlog gyda gwynt ffres o’r de-orllewin. Roedd mwyafrif o’r dringo yn y filltir gyntaf, yn cychwyn gyda dringo cyson i fyny lon Y Fron, arwain i gaeau ac yna troi drwy ardal o gyn coed conwydd, nawr, ar y cyfan wedi eu ail blannu gyda collddail glasbren, ar wylodian y mynydd. Roedd trac coedwigaidd yn dal ymlaen i fyny a throi ar lwybr culach a mwy garw drwy grug a pinwydd gwasgaredig. Roedd yr 150 medr olaf o’r ffordd i’r copa yn ongli ar gylch i’r gogledd ar lwybr aneglur, a chroesi’r cerrig garw yn marcio’r man o’r fynedfa gogledd-ddwyrain drwy gwrthgloddiau o’r enwog caerfryn Oes yr Haearn sydd yn coroni’r Garn. Mae gweddillion o ryw 170 o gytiau cerrig crwn, tebyca yn cael ei meddu o gwmpas 650 CC a nawr gan fwyaf yn guddiedig gan dyfiant ar wasgar ac ar lwyfandir oddeutu 25 acer. Mae’r copa, 915 troedfedd, ei hun ar bwlyn o graig yn codi uwchben y llwyfandir yn gartref i garreg ymosodol “citadel”, tebyca o ddyddiau diweddarach. Wyrach i hyn fod yn gysylltiedig a’r chwedlonol ffigur 7ed ganrif, Buan a roddodd yr enw Boduan i’r lle, “Cartrefi Buan”. Roedd dwy loches gerrig adeiladwyd ar y copa, yn ddadleuol yn ymharu ar yr archaeoleg, yn rhoddi cysgod i gael paned ac i fwynhau y golygfeydd ysblennydd o’r tirwedd o amgylch, ond rywfaint yn fud heddiw ‘ma.
Yna cymerwyd lwybrau grug garw yn troelli ar draws y llwyfandir gyda cip olwg o gytiau cylch a chyrraedd y gweddillion o’r giât de-ddwyreiniol. Arweiniodd trac yn disgyn yn araf i lawr drwy ardal goedwigaidd ar y llechwedd deheuol o’r Garn, yn caniatáu lle cysgodol i gael cinio. Yn dilyn un tair rhan o filltir ar hyd y ffordd bost i gyfeiriad Y Ffor, cymerwyd lwybr i’r gogledd drwy Fferm Ty’n Mynydd. Mae hwn newydd ei ail agor gan gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’r uned AONB, yn adnewyddu ffordd gae dymunol yn ôl i Nefyn yn ymylu ar ochr ddwyreiniol o’r Garn. Roedd hon yn daith 4 milltir ddymunol dros oddeutu 3 awr, yn cyfuno dringfa weddol egnïol o un o fryniau trawiadol Llyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 26ain Fawrth 2023. Capel Curig - Cwm Tal-y-braich. Y cynllun heddiw oedd i ymweld a copauon y Glyderau, ond roedd y rhagolygon yn wael a chadarnhawyd gan y niwl isel pan i’r wyth cerddwr, arweinwyd gan Gareth Hughes, gyfarfod ger Penygwryd. Felly penderfynwyd i adael y copa ar gyfer diwrnod arall a chyfnewidiwyd ar fyr rybydd cylch isel o Capel Curig oedd gerllaw. Cychwynnodd y parti o’r Ganolfan Allanol Genedlaethol yn Plas y Brenin ar hyd y trac graean syth o hen ffordd bost A5 Telford i’r gogledd orllewin i gyfeiriad Caergybi drwy ddyffrynnoedd uchel Llugwy ac Ogwen. Yn dilyn ymdaith o gamu bras, trodd y ffordd i’r dwyrain ar draws yr A5 bresennol. Roedd aros am goffi gyda dwy bont gerrig “clapper” yn croesi’r Afon Llugwy. Gwnaethpwyd dringfa serth o Tal y Braich Uchaf, bwthyn nawr yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer ymwelwyr. Arweiniodd hwn i “leat”, sianel yn dod a dwr o darddiad y Llugwy i fwydo Llyn Cowlyd, y brif gronfa i safle hydro a ffynhonnell ddŵr i drefi’r arfordir.
Yna cymerodd y parti y ffordd wastad hawdd, yn ddiweddar wedi ei uwch raddio gyda lluosrif o gatiau, yn ochrog a’r dwr clir rhuthredig y “leat” fel iddi droi yn araf ar hyd yr amlinell 420m. Roedd y gwair truan dugoch o’r ardal rhostir llwm dim ond yn rhoddi porfa prin i ddiadell wasgaredig o ferlynnod Carneddau. Erbyn hyn roedd y niwl yn codi yn sydyn a’r haul yn ymddangos, yn caniatáu golygfeydd braf o’r bwa o fynyddoedd o amgylch ym mhobman, yn ymestyn o Foel Siabod dros Pen Llithrig y Wrach i’r creigiau garw o Tryfan a gwastatir Glyder yn y pellter. Dyma aros am ginio ar sbilffordd goncrit fodern yn mynd a’r Afon Bedol i’r de o Cwm Tal y Braich. Yn y gyffordd o’r llwybr yn parhau i Cowlyd, ger y garreg chwilfrydig naturiol cyfeiliornus o Moel Trichwmwd, trodd y ffordd i lawr i’r de ar draws tirwedd, gwlyb a mwdlyd mewn mannau, yn arwain o’r diwedd yn ôl i’r A5. Yn fuan fe aeth palmant cul ar hyd yr A5 brysur a’r parti yn ôl i’r pentref prydferth, Capel Curig. Roedd hon yn daith ddymunol ac eithaf rhwydd oddeutu 8.3 milltir gyda 1000 troedfedd o ddringo dros 5 awr a wnaeth y gorau o beth oedd i’w weld yn gynharach yn ddiwrnod ddiaddawol. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau Mawrth 23 2023. Cylchdaith Harlech - Llanfair-isaf. Hugh Evans arweiniodd barti o 8 o rodwyr ar gylch o Harlech. Roedd hon wedi ei ohirio o’r dydd Iau cynt oherwydd y rhagolygon gwaeli’r diwrnod hwnnw. Roedd tywydd heddiw lawer yn well, tamprwydd y bore gyda gwynt yn newid yn fuan i haul cynnes! Yn dilyn dadl ynglŷn a tal parcio, cychwynnodd y daith islaw’r castell, dringo’n serth ar stepiau a ffyrdd bychan troellog i rhan uchaf y dref. Yna arweiniodd ffordd i fyny i wastatir agored Ardudwy, a chyrraedd 500 troedfedd uwch ben y mor o fewn oddeutu milltir. Roedd yna aros haeddiannol am baned yn nghysgod wal, yn caniatáu golygfeydd tywyll, niwlog i lawr i’r dref ac ar draws Bae Tremadog i orynys Llyn, fel roedd cymylau glaw yn gwibio ar draws o’r de yn y gwynt ymwthiol. Ymlaen i’r de aeth y ffordd ar draws y gwastatir, yn arwain rhwng waliau cerrig llwydwyn nodweddiadol, yn atgoffa am y Peak District, llawer ohonynt yn dilyn y ffiniau cynhanesyddol gwreiddiol. Y rhain yw y ddilysnod o dirlun ffermio dianaf yn dyddio o’r Oes Haearn yn cynnwys grwpiau o gytiau, anheddau a llefydd caeedig adnabuwyd fel Muriau Gwyddelod neu “Irishmen’s Walls”. Ymhellach ymlaen mae Brwyn-Llynau yn enghraifft dda o hen annedd yn cael ei amddiffyn gan ddau gylch consentrig o bentyrrau a chloddiau.
Erbyn hyn roedd heulwen dangos golygfeydd cliriach o’r arfordir ym Mochras, aber orlifo’r Artro, a ruban o faes glanio Llanbedr, yn cael ei gyfrif fel maes gofod Cymru, i’w weld tu draw. Yna disgynnodd y parti yn raddol i gyfeiriad yr arfordir, aros am ginio ar dwmpath o wastraff llechi o’r brig a gweithfeydd dan ddaear o Ogofeydd Llechi Llanfair, oedd yn ôl yr hanes yn un o darddiadau hynaf byd llechi a nawr yn atyniad ymwelwyr. Crisgroesodd y llwybr y ffordd bost arfordirol, mynd heibio’r tŷ fferm trawiadol o’r 16eg ganrif, Llanfair Isaf. Roedd stepiau serth yn Allt y Môr, rhan o’r Llwybr Arfordirol yn mynd yn igam-ogam i lawr ar draws y rheilffordd ar yr estyniad gogoneddus o dywod wedi ei linellu gan dywynnau, yn ymestyn i foryd y Dwyryd dair milltir i’r gogledd. Roedd llanw isel yn caniatáu cyflymder ar draws yr ehangder gwastad yma! O’r diwedd aeth y ffordd i’r tir drwy’r tywynnau o amgylch Cwrs Golff Harlech. Roedd hyn yn rhoddi un o olygfeydd gorau’r dydd o Gastell ysblennydd Edward 1af o’r drydedd canrif ar ddeg, ddaeth ganrif yn ddiweddarach yn bencadlys gwrthryfel Owain Glyndwr. Roedd yn ddiwrnod pleserus ac amrywiol dros ben o 6 milltir dros 4 awr gyda 1000 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 12ed Fawrth 2023. Penmaenmawr - Cylch Derwydd. Cychwynnodd Annie Andrew a Jean Norton gyda grwp o 11 o Rodwyr ar daith o Benmaenmawr dros y rhostir ar lechweddau dwyreiniol o’r Carneddau. Yn dilyn pwl oer roedd y tywydd yn eithaf mwyn, 9-10C, gyda awelon deheuol oedd wedi gwasgaru’r eira trwm oddi ar y llethrau, gan adael lluwchfeydd lleol. Dechreuodd y daith drwy y rhan uchaf o’r dre, a chymerwyd llwybr serth hir i’r de heibio Fferm Graiglwyd. Roedd pocedi o eira gwlyb heb ei wasgaru ar y llwybr ac roedd y cylchdeithiau drwy’r grug yn ei gwneud hi yn anodd. Roedd rhaid cadw llygaid barcud am barti gyda cŵn yn hela llwynogod. Ar ôl oddeutu milltir a dringo 1000 troedfedd cyrhaeddwyd, o’r diwedd, tir mwy gwastad y llwyfandir. Roedd yna aros am baned haeddiannol ac i weld y golygfeydd ardderchog i lawr i’r dref ar yr arfordir, yn llechu rhwng pentiroedd Penmaen Mawr a Penmaen Bach; ar draws y bae roedd amlinellau o’r Orme Fawr ac Ynys Seiriol oddi ar Ynys Môn i’w gweld. Yna cymerodd y daith yr hen lwybr yn rhedeg dwyrain-orllewin, wedi ei adnewyddu fel adrannau o Lwybr Arfordirol Cymru, Y Llwybr Gogleddol Cymru a Llwybr y Pererinion. Cymerodd ddolen i’r gorllewin lwybr uwch i fyny i Clip y Gorsedd oddeutu 1300 troedfedd, troi yn ôl wrth gorlannau defaid llafurfawr i’r prif drac. Roedd merlynnod Carneddau ym mhobman ar ehangder mawr y rhostir agored. Roedd copâu’r Carneddau yn y cefndir wedi eu llinellu gyda’r haul ar eira yn olygfa hardd.
Roedd y trac i’r dwyrain yn arwain drwy’r tirlun rhyfeddol coffaol Oes Efydd o garneddau cerrig, cylchau a twmpathau claddu. Y canolbwynt o’r cymhlethdod ffwythiant coll y gorffennol i’w beth a elwir yn Cylch Derwydd, cylch amlwg o gerrig enfawr uwchben y trac. Roedd man cysgodol ger nant, prin islaw, yn le addas i ginio. Roedd yr ardal yn brysur gyda cerddwyr eraill allan ar Sul teg. Ymlaen aeth ffordd y prynhawn heibio y garreg oddfog o Faen Crwn, yn cylchu i’r gogledd i’r grug a ‘r bryn conigol llusoglyd, Moel Lus. Yn fuan roedd llwybr graean llydan yn arwain i’r copa o ble roedd yna olygfa ardderchog i bob cyfeiriad. I’r dwyrain gwelwyd Castell Conwy tra i’r gorllewin roedd yna olygfa dda o derasau chwareli ithfaen Graiglwyd wedi eu cafnu o bentir Penmaen. Penderfynwyd peidio cylchu Y Foel ar Lwybr y Jiwbilî cul fel y bwriadau oherwydd y perygl oddi wrth amodau llithrig a gan fod y gwynt yn cryfhau. Roedd hi yn ollyngdod i gyrraedd Lon Mynydd a’r sefyllfa llonydd yn y dyffryn. Aeth y llwybr heibio maes carafannau a stad Graiglwyd, ac yn fuan cyrraedd ymylon y dref. Roedd hon yn daith gampus o ryw 7.5 milltir a 2300 troedfedd o ddringo ychydig yn fyr o 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 2ail Fawrth 2023. Cyfarfod Blynyddol a thaith gerdded 'O amchylch Cricieth. Cynhaliwyd y 43ain Cyfarfod Blynyddol o Rhodwyr Llyn yng Nghapel y Traeth, Cricieth ar yr 2ail o Fawrth 2023. Roedd 40 aelod yn bresennol. Ail etholwyd Hugh Evans, Noel Davey a Dafydd Williams fel Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd, pob un yn ei dro, ynghyd â 7 parhaol arall o aelodau’r pwyllgor.
Yn dilyn y cyfarfod a chinio, arweiniodd Dafydd Williams grwp o 25 ar daith fer 3.3 milltir o amgylch Cricieth. Aeth y daith i’r dwyrain ar hyd Rhodfa’r Mor cyn belled a tŷ bwyta Dylans, troi i’r tir ar draws y rheilffordd a’r ffordd bost. Yna dilynodd y ffordd Criccieth FP#11, lle mae llwybr yn rhedeg i’r gogledd i gyn Gwrs Golff Cricieth. Mae’r llwybr newydd gael ei adnewyddu, ar ôl dadlau hir ynglŷn â ffiniau croesi addas. Nawr mae yna ddwy gamfa dderw uchel wych dros waliau cerrig, ymadawiad o’r polisi arferol o ailosod camfeydd hefo gatiau mochyn, sydd yn fwy parhaus ac yn haws i gerddwyr, ond hwyrach yn llai coeth a llai addas ar gyfer croesi waliau. Mae’r llwybr nawr yn ddringfa fwyn, hawdd i fyny dyffryn isel Nant y Wyddan. Ger Gloddfa trodd y llwybr i’r gorllewin heibio’r hen dŷ golff. Yna dringodd y mwyafrif o’r parti y bryn gwelltog eithaf hawdd, adnabuwyd yn fawreddog fel Mynydd Ednyfed Fawr, i fwynhau’r olygfa ysblennydd 360 gradd o’r copa 450 troedfedd. Erbyn hyn roedd haul y prynhawn yn taflu golau llaethog dros y tirwedd, wedi ei fframio gan gopâu amlwg Eryri i’r gogledd ac iseldiroedd mwyn Eifionydd a bryniau Llŷn i’r gorllewin. Islaw i’r de roedd tref Criccieth yn cael ei rheoli gan ei chastell clodfawr a dyfroedd llewyrchus Bae Tremadog yn golchi yn ysgafn o’i chwmpas. Wrth ddisgyn heibio Ty Gwladol Ednyfed Fawr, ail ymunodd y parti gyda’r rhai oedd wedi cymeryd y ffordd haws o amgylch y bryn. Dilynodd y rhan nesaf y ffordd i’r de, ac yn fuan troi heibio Bryn Awelon i lawr y Lon Fêl bert. Yn Muriau trodd y daith drwy stadau tai taclus ac o dan bryncyn gwyrdd Dinas i gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn ger y Maes. Roedd hon yn rodfa dwy awr yn rhoddi digonedd o amser i ddal i fyny gyda’r rhai oedd ddim wedi bod yn cerdded am beth amser. Aeth amryw i’r caffis lleol i orffen siwrne bleserus. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 26ed Chwefror 2023. Arenig Fach. Ar gyfer taith heddiw (wedi ei ail drefnu o Chwefror 26) Arenig Fach oedd y deiliad, yn aml yn cael ei ddiystyru gan fod Arenig Fawr yn fwy poblogaidd. Roedd yn ddiwrnod cymylog ond sych, gyda niwl a gwyntoedd cryf ar y copa. Gareth Hughes arweiniodd dwsin aelod o’r Clwb. Cychwynnodd y daith o faes parcio Cae Garnedd ar lannau Llyn Tryweryn (neu Celyn), a chymryd y trac gyferbyn i fyny i fferm. Aeth y ffordd ymlaen drwy gât i ddringo i’r gogledd-orllewin ar draciau gwelltog ar draws rhostir grug Bryn Du, ac o’r diwedd dilyn llwybr serth a chul a gwasgu ar linell y ffens, yn arwain i’r postyn copa, 2260 troedfedd. Mae gweddillion o’r carn oes efydd ychydig lathenni i’r de, yn debyg wedi ei ladrata yn llwyr i adeiladu’r lloches ar y copa. Roedd yr amodau niwlog ar y copa yn cyfyngu’r golygfeydd, ond ychydig yn is roedd yn glir i’r gogledd o’r gweundir diffaith y Mignent, ehangder anferth o flanced o gors yn ymestyn tu draw i Afon Serw i Ysbyty Ifan yn darddiad yr Afon Conwy. I’r dwyrain roedd swmp braidd yn ddi-nod o mas Carnedd y Filiast yn codi i fyny ar draws dyffryn Afon Gelyn.
Gwnaethpwyd y daith i lawr ar barthau di lwybr o grug rhostir dros Creigiau Bleiddiau, nawr rhu anial i hyd yn oed y bleiddiau. Roedd cwt cerrig unig bychan conigol yn amlwg yn rhoddi cysgod hanfodol i fugeiliaid i lechu o’r tywydd mynyddig. Yna aeth y ffordd i ddyfroedd Llyn Arenig Fach yn cysgodi islaw clogwyni dwyreiniol oddeutu 1500 troedfedd. Roedd yna arhosiad byr am ginio yng nghanol creigiau cysgodol gerllaw. Dilynodd ffordd y prynhawn y glan dwyreiniol o’r llyn ar draws tir toredig gyda meini mawr gwasgaredig. Roedd awelon o wynt yn chwipio’r dwr i fyny ac yn cernodio a thaflu’r cerddwyr o amgylch wrth iddynt ymdrechu drwy’r grug. Gwnaeth cyfnod oerllyd siarp hi’n anodd. Roedd yn ollyngdod i ail ymuno a’r llwybr allanol cymharol hawdd a mwynhau golygfeydd heulog ar draws Llyn Tryweryn i Mynydd Nodol ar y lan gyferbyn. Roedd y daith prin 5 milltir dros 4 awr, ond dringo cynyddol oddeutu 2300 troedfedd ac amodau cerdded anodd ar rhai adrannau yn gwneud hi yn siwrnai eithaf egnïol, ond yn addas ar gyfer diwrnod o Chwefror. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 16eg Chwefror 2023. Cilan. Roedd taith heddiw ar Mynydd Cilan i’r de o Abersoch. Ann Jones arweiniodd criw o 21. Roedd hi bennaf yn ddiwrnod niwlog oedd yn rhwystro y golygfeydd gwych sydd yn nodweddol o’r pentir yma, ond mi oedd yn glir, sych a mwyn ac yn ddigon dymunol am siwrna gymdeithasol dda. Cychwynnodd y daith o damaid o dir garw wedi ei ddarparu yn faes parcio gan yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ger Tyddyn Twlc yn y rhan gogleddol o’r rhostir uchel rhyfeddol yn ffurfio Cilan, ardal o fynediad agored ac mwy o lwyfandir na mynydd. Aeth y ffordd ar y trac llydan gwelltog i’r ymyl gorllewinol , ymuno a’r Llwybr Arfordirol Cymru ger Trwyn y Ffosle a dilyn hwn i’r de, yn ddigon yn ôl o’r clogwyni, heibio’r arwydd a’r tanc dwr, Dwr Cymru ar uchder oddeutu 300 troedfedd, y man uchaf ar y pentir. Trodd y trac dirgrynu yn araf tua’r dwyrain, yna i’r gogledd ar draws gwelltglas a rhostir grug, ac o’r diwedd cyrraedd y clogwyni ysblennydd yn Trwyn Llech y Doll. Yn brin o’r llwybr yma mae yna arwydd syml, wedi cwympo, yn cyhoeddi safle siambr gladdu yn perthyn i oes ddiweddar y meini.
Yn dilyn disgyniad i bont droed dros nant a phistyll yn Muriau, dringodd y llwybr eto a myned heibio yn agos i dwmpethi sydd yn weddillion o gaer pentir oes yr haearn yn uchel uwchben y clogwyni serth Pared Mawr, yn y gornel orllewinol o Porth Ceiriad. Nawr daeth yr ysgub odidog o’r bae gwyllt gyda llinell o glogwyni i’r golwg. Yn dilyn disgyniad hir ar lwybr ffens ddwy ochrog ar ben y clogwyn erudog, cyrhaeddodd y parti y pentir gwelltog uwchben Porth Ceiriad, yn barod am ginio fel roedd yr haul, o’r diwedd, yn ymdrechu i dreiddio y niwl. Oddi yno roedd ffordd i’r tir yn arwain heibio Nant y Big, ar draws caeau ac yn ôl ar hyd heolau bychain I’r man cychwyn ar Cilan. Roedd hon yn daith ddymunol a rhwydd oddeutu 5 milltir. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 12 Chwefror 2023. Cylchtaith Mynydd Mawr, Anelog, & Porth Meudwy. Drwy newid i’r rhaglen gwreiddiol, Hugh Evans arweiniodd 17 o rodwyr ar gylchdaith arbennig ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru o Uwchmynydd yng ngogledd pell Llyn. Roedd y cyflyrau tywydd ar gyfer cerdded yn dda, yn glir a heulog, yn sych a mwyn gyda gwelededd da. Drwy gydol y diwrnod roedd yna olygfeydd arbennig o glogwyni wedi eu amgylchu gan y mor, grug a bryniau eithinog yn rhedeg i lawr i gaeau gwyrdd iseldiroedd Pen Llyn. Ymhellach draw, roedd amlinellau aneglur o Caergybi i’r gogledd a mynyddoedd y Cambrian yn ymestyn ymhell i’r de. Cychwynnodd y daith o’r ehangder gwyrdd islaw Mynydd Mawr, a dringo 200 troedfedd i’r copa ar gyfer golygfa dramatig o “Ddiwedd Tir” Cymru yn Braich y Pwll. Oddi yma roedd pinacl trawiadol Ynys Enlli yn codi cwpl o filltiroedd ar draws y swnt ewynnog. Yna dilynodd cyfeiriad y Llwybr Arfordirol i’r gogledd i fyny ac i lawr ar glogwynau yn uchel uwchben cilfachau, ogofau a rhaeadrau, heibio Pont Llanllawen ac ymylu Mynydd Anelog ar ochr y mor. Yn brin cyn cyrraedd Porth Orion cymerwyd llwybr cae i’r tir i Capel Carmel. Yn y man hyn mae y Siop Plas wedi ei adnewyddu yn alluog fel caffi cymdeithasol, gan gadw ei ffurf gwreiddiol o siten coch allanol, tra bod cwt du ychwanegol i agor yn fuan fel arddangosfa o hanes lleol. Mae yna gynlluniau i ail agor y tŷ capel fel llety i ymwelwyr, ac mewn amser y capel bach. Daeth llwybr cae mwdlyd a’r parti eto ar lethrau isaf Anelog, pryd roedd hi yn amser cinio gyda golygfeydd ardderchog o Aberdaron a’r ddwy ynysoedd o Ynys Gwylan; ac, bellach i’r gogledd, Rhiw gyda’i siâp morfil a creigiau garw Llwyd o Garn Fadryn.
Aeth llwybr y prynhawn heibio Cwrt ac i lawr i’r gilfach o Porth Meudwy, ble roedd fferi Ynys Enlli Colin a llongau eraill wedi eu tyny i fynu, yn disgwyl y tywydd braf ac ymelwyr. Roedd y stepiau serth yn dipyn o gamp mor fuan ar ôl cinio i fyny i’r llwybr gwych dirgrynu yn uchel uwchben Porth Cloch, Porth y Pistyll ac Hen Borth, ac o’r diwedd yn cyrraedd pentir mwyaf deheuol o Pen y Cil a Trwyn Bychestyn. Yn y fan hyn mae gwrthgloddiau yn tystio i anheddfa eang cynhanesiol. Cymerodd y rhan olaf y llwybr llai serth i’r dwyrain o Fynydd y Gwyddel, yn pasio uwchben safle Capel Santes Mair, yr alwad olaf ar y pererindod hanesyddol cyn y croesiad peryglus i Ynys Enlli ei hun. Roedd y daith hefyd yn fath o bererindod cofiadwy drwy’r tirwedd hudol, oddeutu 9 milltir ac 2300 troedfedd o ddringo mewn ychydig dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Iau 2ail Chwefror 2023. Capel Curig. Cyfarfu 16 o rodwyr yn Bryn y Glo ger Capel Curig ar gyfer cylch yn Nyffryn Llugwy. Annie Andrew gyda cymorth Jean Norton ddaeth i’r adwy, ar fyr rybudd, i arwain y daith. Roedd hi yn ddiwrnod chlir, heulog a mwyn ac yn gysgodol o’r gwynt awelog. Aeth y daith i fyny i’r gogledd o’r maes parcio ar lwybr serth coediog heibio Bryn Berthynau, ysgubor gerrig neilltuedig yn cael ei defnyddio fel cwt dringo gan Glwb Mynydda Gogledd Llundain. Wedi mynd heibio Nyth Bran cyrhaeddodd y daith gyfandir mwy agored oddeutu 900 troedfedd. Cymerwyd trac da graeanog i’r dwyrain drwy goedwig yn dolennu i’r gogledd ger Llyn Goddionduon. Roedd mannau clir yn caniatáu golygfeydd ardderchog o Moel Siabod a’r coedwigoedd yn ymestyn i Betws y Coed.
Ar ôl cwpl o filltiroedd cymerwyd llwybr golygfaol i lawr yn ôl i Ty Hyll. Yn ôl y sôn mae’r bwthyn cerrig hwn yn “Dy Unnos”, tŷ wedi ei adeiladu rhwng machlud haul a codiad haul oedd yn draddodiadol yn rhoddi hawl perchnogol i’r adeiladwr os fod mwg o’r simdde cyn y wawr. Mae nawr yn cael ei redeg gan Gymdeithas Eryri fel caffi gyda gardd gwarchod gwenyn. Gerllaw mae plasty coed mawreddog oedd cynt y Twr Addysg Awyr Agored yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion Wolverhampton. Ond ers 2022 yn eiddo i “Active Learning Group, cwmni arbenigo yn yr awyr agored. Ar draws un o bontydd Telford ar yr A5 , trodd y ffordd i’r gorllewin ar hyd yr Afon Lugwy ac ar hyd lon fach hyfryd, unwaith y brif lon goets fawr wreiddiol. Ar dro llydan o’r afon roedd cae agored yn safle 4 erw, Caer Llugwy, amddiffynfa Caer Rhufeinig adeiladwyd yn 90 ar ôl Crist, ond nid oes fawr i weld bellach. Cafwyd ginio mewn man dymunol ar lan yr afon ar dwmpathau mwsoglyd o dan hen goed derw. Roedd gwartheg blewog ucheldirol gyda cyrn dychrynllyd yn atyniad ychwanegol. Gwnaethpwyd cyflymdra da ar hyd y lon fach heibio Capel Tan y Garth a’r hen chwarel yn y pentre bach diddorol yn Pont Cyfyng. O’r bont pynfarch roedd dyfroedd y Llugwy yn cwympo drwy’r creigiau a’r hafnau, yn werth eu gweld ar ddiwedd y ffordd. Roedd hon yn daith arbennig mewn tirwedd braf newidiol, rhwydd arwahan i’r dringo yn y dechrau, pellter o 5.25 milltir dros 3 awr gyda 800 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Sul 29ain Ionawr 2023. Cylchdaith Eifionydd. Kath Spencer arweiniodd 16 o Rodwyr ar daith hir yn Eifionydd. Roedd hon yn dychwelyd i rannau o daith dydd Iau ddiweddar, ond mae bob amser yn bleser i ail ymweld a’r ardal hon o’r orynys. Roedd hi yn ddiwrnod mwyn, sych a llonydd, clir yn y bore, ond yn tueddu i gymylu yn hwyrach. Y peth amlycaf o’r ffordd oedd yr anochel fwd o dan draed yn y tymor hwn. Cychwynnodd y daith o bentref Llanystumdwy, ac i’r gorllewin ar hyd yr A487, troi i’r tir ger y fynwent ar lwybr heibio Glyn Dwyfach ac ar draws yr afon, ac yna drwy Ysgubor Hen i’r llwybr hyfryd yr Lon Goed. Cymerwyd hwn i’r de-orllewin am hanner milltir cyn troi i lawr heol fach i Fferm Afon Wen. Roedd dolennau ar draws caeau yn dilyn i’r arfordir yn Sŵn y Don gyda arhosiad am baned deg ar feini cyfleus o amgylch faes carafannau tymhorol wag. Y gred yw mae cae gerllaw yw safle odyn galch ble roedd carreg galch, wedi dod ei gludo ar long, yn cael ei brosesu i galch ac yna yn cael ei gario i fyny’r Lon Goed i ffrwythloni caeau mewndirol yn yr 19 ganrif. Yna dychwelwyd ar y Lon Goed o Afon Wen am oddeutu milltir. Arweiniodd llwybr i’r gogledd orllewin drwy Fferm Chwilog Fawr. Nodwedd yma yw llyn bach llonydd ble roedd y byrddau picnic a’r llwyfannau pysgota yn lefydd addas ar gyfer cinio.
Yna aeth heol wledig a’r parti yn ôl ger Fferm Plashen ac unwaith eto i’r Lon Goed i fwynhau ymlwybred arall drwy’r rhodfa braf o ffawydden yn dilyn i’r gogledd am filltir arall. Ger Maes Gwyn Uchaf, yn agos i’r croesiad o’r cyn reilffordd Afon Wen-Caernarfon, arweiniodd llwybr mwdlyd ac wedi or dyfu, i’r dwyrain i ffordd ddeheuol heibio Betws Bach, tŷ fferm arbennig canol 17eg ganrif wedi ei restru. Dilynodd y rhan olaf lwybr olygfaol gyda gamfeydd anodd yn ôl ar lan ac yn uchel uwchben yr Afon Dwyfach i gaeau llydan Gwynfryn. Mae’r Plas godidog wedi ei adael yn llechu o’r golwg yn y coed, yn disgwyl caniatâd i fflatiau gwyliau gael ei adeiladu oddi fewn i’w gloddiau. Oddi yno roedd hi yn ond cam byr heibio’r Fferm Wningod yn ôl i Llanystumdwy. Roedd hon yn daith hir a chymdeithasol ar dir hawdd oddeutu 11.5 milltir dros 6 awr, dewis synhwyrol ar gyfer diwrnod mwyn o Ionawr. Noel Davey.
Dydd Iau 19 Ionawr 2023. Lôn Goed. Daeth diwrnod clir a heulog ac addewid am daith heb fryniau a parti o 32 i Fferm Afon Wen ar daith drwy dirwedd hyfryd Eifionydd. Nia Parry arweiniodd gyda cymorth gan Eryl Thomas. Y peth nodweddol cyntaf oedd tua dwy filltir ar hyd y Lôn Goed. Mae’r trac clodfawr gyda coed y ddwy ochr yn rhedeg i’r gogledd o Afon Wen i Hendre Cennin. Adeiladwyd yn yr ail ddegawd o’r 19 ganrif o dan gyfarwyddyd John Maugham stiward o Stad Talhenbont gerllaw i helpu cludo calch o’r odyn ar yr arfordir i ffrwythloni ffermydd mewndirol. Y rheswm am y coed oedd i helpu i sychu y tir. Lleihaodd y trafnidiaeth yn dilyn agor adran y rheilffordd o Fryncir yn 1867 ond mi gaewyd hwnw yn 1964 a’i datgysylltu yn toriadau Beeching, a gadael y reilffordd a rhai adeiladau i’w gweld ble mae yn croesi ac ardro ger Rhosgyll. Nawr mae’r Lon Goed yn rhoddi taith gerdded hyfryd unrhyw dymor. Heddiw trodd y ffordd i’r gorllewin ar hyd ffordd fach wledig ger Fferm Plashen. Aeth hon heibio safle y cyn stesion y reilffordd yn Gorsaf Llangybi, gan adael dim olion. Roedd yna arhosiad am ginio ger waliau cerrig yn Ty’n y Fron. Roedd eira ar do anferth uchel Moel Hebog yn disgleirio yn yr haul. Yna dilynwyd llwybr i’r de dros gaeau mwdlyd yn agos i darddiad yr Afon Wen, ac o’r diwedd dod allan ger y fynwent daclus yn Chwilog ble archwilwyd fedd y bardd Eifion Wyn(1867-1926). Ymlaen aeth y daith ar hyd y ffordd bost drwy’r pentref ac i lawr i’r arfordir yn Afon Wen. Oddi yno fe aeth yr arweinydd a’r parti ar draciau ffermydd preifat gan fynd heibio cyffordd o’r adran reilffordd a ddatgysylltwyd, ac, yn agos i Sŵn y Don, safle Gorsaf Afon Wen, y stesion ar y lein y Cambrian sydd nawr ar gau. Daeth y ffordd ar draws caeau agored llydan, yn nodweddu pyllau dwr, a’r parti yn ôl drwy buarth y fferm i’r ceir yn Fferm Afon Wen. Roedd hon yn daith bleserus a diddorol o 7.7 milltir dros 4.25 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Sul Ionawr 15ed 2023. Cnicht. Daeth dwsin ynghyd heddiw ar gyfer dringfa o Cnicht, ffefryn gan y Clwb, arweiniwyd gan Gareth Hughes. Nid oed y rhagolygon yn addawol gyda cymylau isel a niwl drwy’r dydd, ond nid oedd yn wlyb, oer, nac yn wyntog fel yr ofnwyd. Cychwynnodd y daith o bentref diddorol Croesor, unwaith yn denu pobl lenyddol. Arweiniodd ffordd serth I’r gogledd I lwybrau fwy creigiog yn dringo’r ystlys de orllewinol o’r mynydd. Cyrhaeddwyd llinell eira o amgylch 1800 troedfedd yn creu cyflyrau llithrig ond nid yn rhewllyd dan draed. Roedd y parti yn falch o gyrraedd y llwyfandir bychan a’r brigiad amlwg, ychydig is na’r copa, I orffwys a chael panad. Roedd y dringo I fyny’r 200 troedfedd olaf yn rhwydd. Yn anffodus, heddiw, roedd yna ddim golygfeydd I’w mwynhau. Yn dilyn arhosiad byr, ymlaen aeth y cerddwyr ar hyd crib am oddeutu milltir, gan fynd heibio Llyn y Biswail, a mwynhau y ffwdanai o eira yn gloywio’r tirlun fel oedd arwyddion o’r haul yn datblygu.
Yn y llyn mwyaf, Llyn yr Ader, roedd llwybr dros dir yn fwy corsiog yn mynd traws gwlad yn anelu I’r de-ddwyrain ar draws tirwedd a sgyrtio Llyn Cwm Corsiog. Yn dilyn llithro, sleidio a llethu ar y llwybrau gwlyb, o’r diwedd cyrhaeddodd y parti adfeilion gafaelgar Chwarel Lechi Rhosydd. Roedd wal oedd wedi goroesi o “farracks” y gweithwyr yn rhoddi cysgod ar gyfer cinio hwyr ond byr oherwydd I’r bysedd ddechrau rhewi yn y tymherau isel. Yna dringodd y ffordd dros grib uwchben Rhosydd, croesi’r gweddillion cadarn o Argae Cwm Croesor adeiladwyd I gyflenwi dwr I’r chwarel yn 1859. Arweiniodd hwn I lawr I Chwarel Croesor ble archwiliwyd twnnel yn arwain I gymhlethdod o dwneli drwy’r hen weithfeydd. Roedd yn ollyngdod I gyrraedd trac Croesor oedd yn cludo llechi o’r chwareli uwch I lawr I’r porthfeydd yn Porthmadog. O’r diwedd roedd yna olygfeydd niwlog o harddwch gwyrdd, dyffryn pedolaidd wedi ei ffinio, I’r gogledd gan lethrau cerrig serth Cnicht. Gwnaeth yr amodau oer a’r eira hon yn ymdrechgar, ond eto yn ddiwrnod gaeafol wobrwyol yn y bryniau, pellter o 7.3 milltir, oddeutu 2400 o ddringo dros 5-6 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau Ionawr 5ed 2023. Nefyn -- Pistyll. Annie Andrew a Jean Norton dywysodd 16 o rodwyr ar gylch o Nefyn. Roedd hi yn ddiwrnod llwyd, yn fwyn, gyda glaw ysgafn achlysurol. Cychwynnodd y daith o faes parcio Stryd y Plas, ac i fyny yn serth i gyfeiriad Mynydd Nefyn. Ar gyfer700 troedfedd o uchder parhaodd lon fach i’r gogledd ddwyrain ac yna lon werdd i fyny i Chwarel Moel Dywyrch, un o’r hanner dwsin o chwareli bychain ar y llethrau yn y fan hyn yn cynhyrchu setts ithfaen ar gyfer strydoedd Lloegr rhwng yr 1830’s a 1930. Heddiw maent yn amlwg gan eu cymysgedd o wastraff anferth o gerrig llwyd. Roedd gweddillion adeilad chwarel fric yn le cyfleus ar gyfer paned gyda golygfeydd da ond niwlog dros dref a chilfachau Nefyn a’r orynys hir cul o Borth Dinllaen tu draw. Roedd cripellau creigiog Gwylwyr a Carreglefain yn coroni’r llethrau wedi eu cuddio a rhedyn ungoes yn union i’r gogledd.
Yna dyma llwybr cul yn arwain i lawr i’r ffordd wledig ar hyd Bwlch Gwynt. Wrth ddod allan i’r ffordd Nefyn-Pistyll aeth y cerddwyr heibio’r capel hanesyddol Capel Bethania, adnabwyd hefyd fel Capel Tom Nefyn Williams er cof am y bardd a phregethwr; mae nawr yn cael ei adnewyddu fel ty haf yn dilyn y gymuned, yn drist, yn colli ei ymdrech i’w brynu. Yna trodd y ffordd i gyfeiriad yr arfordir i ddilyn Llwybr Arfordirol Cymru yn ol i Nefyn. Roedd yna aros am ginio ar waliau y pwll pysgod mynychaidd sydd yn llechu mewn pant coediog nesaf i’r eglwys fechan hynod St Beuno, a sylfaenwyd yma yn yr 6ed ganrif. Ymhellach ymlaen aeth y ffordd heibio’r datblygiad gwyliau dadleuol, Nature’s Point, adeiladwyd ar safle gwesty Plas Pistyll a ddymchwelwyd, a chyn gartref i’r teuly Goddard (yn enwog am metel polish). Roedd y rhannau olaf o’r Llwybr Arfordirol yn gwasgu gwylodion y chwareli ac yn caniatau golygfeydd da dros y mor. Profodd hon i fod yn daith hynaws o amgylch 5.5milltir, gyda dringo o 1300 troedfedd dros oddeutu 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 1af Ionawr 2023. Bryniau Clynnog. Cyfarfu parti o 14 ben bore ar gyfer taith Diwrnod y Flwyddyn Newydd ar Fryniau Clynnog. Noel Davey arweiniodd. Roedd hi yn ddiwrnod clir o gyfnodau braf gyda dim ond un gawod drom, yn eithaf mwyn gyda gwynt de-orllewin awelog. Cychwynnodd y daith yn fywiog o faes parcio’r eglwys yn Llanaelhaearn. Cymerwyd y lon wledig i’r dwyrain am oddeutu 1.5 milltir i fyny Cwm Coryn. Yn niwedd y ffordd darmac cymerwyd trac a dringo drwy dir mynediad agored i gopa Moel Bronmiod , 1367 troedfedd. Yna roedd aros am baned y bore yn nghysgod y brigied amlwg sydd yn coroni’r copa. Roedd yna olygfeydd gwych yn yr haul llaethog ar draws i Pen y Gaer ac iseldiroedd Eifionydd yn ymestyn i’r mor.
Ymlaen aeth y daith i gamfa newydd ei gosod gyda chymorth gan yr AONB, i groesi wal ffin yn y fan i’r basn rhostir, gwyllt corslyd i’r dwyrain.. Yn dilyn disgyniad heibio’r corlannau defaid, dilynwyd trac i’r gogledd, ac o’r diwedd dros Clipiau i’r trac canolog yn rhedeg yn ddwyrain-orllewinol ar draws gwastatir agored Clynnog. Mae gweddillion o argae pridd canoloesol cynnar adnabuwyd fel Clawdd Seri yn croesi yn y fan hyn, unwaith o bosib yn nodi ffin tiroedd mynachaidd. Nodwedd anghyffredin arall yn croesi’r trac yw corlan ddefaid caeedig hir waliog. Yn ei phen gorllewinol trodd y ffordd i ddringo yn gyson 500 troedfedd i fyny ysgwydd o gopa dwyreiniol Gyrn Ddu – gwaith caled a wnaethpwyd yn fwy llafurus gan gawod siarp fer o law brathog yn chwythu yn y gwynt. Roedd y parti yn falch o gyrraedd cysgod wal ar y top, a chroesawu’r haul yn ôl erbyn amser cinio.
Ar ôl croesi’r wal gyda peth anhawster, dilynwyd y llwybr ar draws llwyfandir uchel i waelod prif gopa Gyrn Ddu, 1620 troedfedd. Mae hwn wedi ei goroni gan dwr di-lwybr enfawr o greigiau du garw igneaidd. Penderfynwyd peidio gwneud y can troedfedd anodd y tro hwn oherwydd y cyflwr llithrig peryglus yn dilyn y glaw. Gan sgyrtio i’r de dilynwyd y ffordd lwybr troellog i lawr i’r trac canolog yn Fron Goch. Roedd yna olygfeydd syfrdanol o’r arfordir gogleddol, Trefor, yr Eifl, a chefn gwlad pell Llyn. Aeth y rhan olaf drwy draciau llawn dwr caeau i Maes y Cwm, ac ail ymuno a ffordd Cwm Coryn yn ôl i’r man cychwyn. Roedd hwn yn ddiwrnod da ar gyfer taith weddol gymedrol o 7.1 milltir a thros 2000 troedfedd o ddringo mewn 5 awr. Bendithiwyd y daith gan haul ac eglurder oedd yn dangos yr ardal wledig arbennig yma yn ei gwisg aeafol orau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 22ain Ragfyr 2022. Borth-y-Gest. Tecwyn Williams arweiniodd barti o 17 ar gylchdaith hamddenol cyn y Nadolig o’r pentref prydferth, Borth y Gest. Roedd yn ddiwrnod niwlog a thamp, ond yn fwyn. Arweiniodd rhesiad serth o stepiau i fyny o’r pentref rhwng tai i le gwylio (dim golygfeydd heddiw) ble yn garedig fu i’r arweinydd gyflawni phawb hefo mince pies a mulled wine-dechrau da i’r daith.
Ymlaen aeth y llwybr drwy’r goedlan gymunedol, Parc y Porth, gan ddisgyn i Ffordd Morfa Bychan. Ar ol chwarter milltir, dilynwyd llwybr coediog arall i’r de heibio Carreg Wen i mewn i gymhlethdod o Greenacre Haven, maes carafannau ar godiad ac wedi ei gynllunio yn dda. Arweiniodd yna lwybr, wedi ei guddio tu ôl i lodge A24, i lawr i dy’r Clwb Golff Porthmadog. Croesodd y daith y cwrs a sgyrtio rhai tai mawrion ar gyrion pentref Morfa Bychan ac yna dilyn ffordd heibio rhesi o garafanau statig i Lan Mor Morfa. Yna taith ar draws ehangder llydan o dwyni a swnd, yn anarferol yn amddifad o gerbydau ymwelwyr, yn ddistaw ar y diwrnod o aeaf yma arwahan i’r rhuo dwl yn y pellder o’r tonnau bron o’r golwg ar ymyl sianel foryd y Glaslyn.
Roedd hi yn amser i ginio ymysg creigiau ysgithrog islaw Ynys Cyngar. Wedi ei enwi ar ol sant cynnar, adnabwyd y Penrhyn hwn yn benaf am y Cwt Pwdr, nawr yn dy gwyliau wedi ei adnewyddu, ble roedd powdr gwn ar gyfer y pyllau llechi un amser yn cael ei dadlwytho i osgoi y perygl o ffrwydradau ddamweiniol yn Harbwr Porthmadog. Oddi yma dilynnodd y ffordd Lwybr Arfordirol Cymru, ffordd ddarluniadol yn gwasgu y cilfachau swndlyd o’r mor foryd. Dringodd stepiau serth a llwybrau cul drwy draenennau du wedi eu addurno gyda deilennau gen y coed gwyrdd llachar. Gwneuthpwyd teithiau o gwmpas i olygweddau ger Carreg Samson, o oes yr ia, a cilfach tyfn yn nodweddu bwa craig naturiol. Tu draw i Pen y Banc daeth tai tal y peilotau yn Borth i’r golwg yn fuan yn dilyn taith mwyaf mwynhaol ar gyflymdra llaes ac yn llac o 4.6 milltir dros 3-4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 18 Rhagfyr 2022. Yr Eifl. Wedi'i ohirio oherwydd tywydd garw.
Dydd Iau 8 Rhagfyr 2022. Llwybrau Y Ffôr. Cyfarfu 26 o gerddwyr yn maes parcio Hufenfa De Arfon (gyda chaniatâd caredig y cwmni) i gymryd rhan mewn taith gynigwyd gan Megan Mentzoni ar hyd llwybrau’r Ffôr. Yn anffodus daliodd Megan yr aflwydd Cofid rhai wythnosau cynt a mawr oedd ei diolch i Kath Spencer, Annie Andrew a Jean Norton am eu gwaith diwyd yn cadarnhau manylion y daith.
Wedi croesi’r bont gul dros Yr Erch, aethom am y gogledd gyferbyn i fynedfa’r Hufenfa gan anelu am Penarth Uchaf i gychwyn yna ar hyd llwybr hyfryd coediog ddaeth a ni allan o dan dy canoloesol hwyr Plas Du. Fe’i codwyd gan deulu oedd yn hawlio bod yn ddisgynyddion i Collwyn ap Tangno Arglwydd Eifionydd Ardudwy a rhan o Lyn yn yr 11eg ganrif. Yn anffodus yn oes y Tuduriaid cafodd y teulu hi’n anodd gollwng gafael ar yr Hen Ffydd pan drowyd y wlad yn Brotestannaidd gan Harri’r 8fed. Er iddo fod yn Uchel Siryf carcharwyd Thomas Owen yng Nghastell Caernarfon am gyfnod am wrthod mynychu gwasanaethau'r eglwys newydd. Aeth ei frawd Hugh ymhellach. Yn dilyn cael ei gysylltu â chynllwyn i gipio coron Elizabeth I barnodd mai doeth treulio gweddill ei oes yn alltud yn Antwerp ble y credir iddo barhau i gynllwynio a hyd yn oed bod a’i fys yng nghynllwyn Guto Ffowc.
Ymlaen aeth y daith ar y lon am Bencaenewydd , gan droi fyny ger y capel, drwy gaeau i ymuno a’r lon i Sardis. Troi wedyn i’r chwith am Tan y Bryn ar hyd lôn fferm i gychwyn yna ymlwybro i’r gorllewin drwy gaeau gwlyb. Daethpwyd ar draws rhimyn cul o goedlan a gorfod croesi pont lithrig o foncyffion i gael i’r goedlan, a phont debyg i gael allan ohono. Cam bach wedyn oedd i’n lle cinio hyfryd ar lan deheuol Llyn Glasfryn. Mae’n debyg fod hwn yn fan nodir fel un da i adarwyr, a credwn y cafwyd cip o wyddau gwyllt ym mhen draw’r llyn.
Wedi cinio, ymlaen i gyrraedd y lon i Glasfryn ei hun, ond troi i’r De yn ôl am y lon, yna throi i’r chwith i gerdded trwy bentref Pencaenewydd. Mae’n gymysgedd o dai hen a newydd , ac er nad oes siop bellach mae'r capel yn hwb cymunedol pwysig.
Maes o law cyrhaeddwyd yn ôl i Plas Du a dilyn y llwybr yn ôl wedyn am y ceir gan nodi'r datblygiad diweddaraf yn safle ‘r Hufenfa. Taith ddifyr o ryw 5 1/2 milltir o dan awyr lwyd, ond heb law i’n poeni, er bod brath yn yr awel i’n rhybuddio o’r hyn oedd i ddod dros y dyddiau nesaf. Gwynfor Jones.
Dydd Sul 4ydd Ragfyr 2022.Cwm Pennant- Cae Amos & Cwm Ciprwth. Ar gyfer 16 o rodwyr Eryl Thomas arweiniodd y daith yn y dyffryn cyfareddol o Gwm Pennant ac ar odre Garnedd Goch gyda Mynydd Graig Goch uwchben. Roedd yn ddiwrnod o gymylau ysgafn gyda ysbeidiau heulog, yn sych gyda gwynt oer o’r dwyrain roedd yn gwneud iddi deimlo ei bod yn rhewi. Cychwynnodd y daith o font gatiog gyda pwll afon yn agos i ben y Cwm. Roedd llwybr eithaf serth yn dringo drwy goed heibio ceuffordd pwll a chorlannau defaid, yn dychwelyd ar weundir o amgylch 750 troedfedd o uchder. Yn y fan hon yn ymyl Ceunant Ciprwth mae yna oroesiad nodedig o olwyn ddwr haearn fawr yn gwasanaethu pwll copr yn yr ail hanner o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Adnewyddwyd y creiriau rhai blynyddoedd yn ol, yn cynnwys yr olwyn 25 troedfedd mewn diamedr o Gernyw a chydymaith gwialen bren flat mecaniaeth oedd yn pwmpio dwr o siafft a throi ger troelli.
Yn dilyn aros i edmygu y fframwaith hwn, parhaodd y daith i ddringo ar draws rhostir gwelltog yn gyfochrog a waliau cerrig a cripellau creigiog a chyrraedd crib ar Graig Lwyd ar uchder oddeutu 1200 troedfedd. Oddi yma roedd yna olygfeydd gwych o Grib Nantlle a bryniau Llyn. Roedd shafftiau heulog yn dangos y golygfeydd mynyddig o amgylch a mor Bae Tremadog i’r de. Yna dewiswyd trac i’r de gan osgoi yn ofalus y tir eang corslyd. Aeth hwn heibio adfail Llwyn y Betws ac ysgubor fechan newydd ei adnewyddu i’w defnyddio fel lloches. Roedd y lloches fynyddig fawr, wedi ei chynnal yn dda gerllaw, Cae Amos yn gysgod cysurus croesawgar ar gyfer cinio. Dilynnodd llwybrau a thraciau’r prynhawn, yn rhannol drwy goed ar yr ochr orllewinnol o Gwm Pennant, gan fynd heibio Pont y Plas a Plas Pennant yn agos i man cychwyn yr Afon Dwyfor. Dilynnodd y ffordd ymlaen a chroesi nentydd yn Ford Gilfach ac Ford Ciprwth, gan fuan gyrraedd y man cychwyn yn dilyn taith oddeutu 6 milltir dros oddeutu 5 awr. Roedd hon yn siwrnai ardderchog a chymedrol, yn addas ar gyfer dydd Sul gaeafol. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 24ain Dachwedd 2022. Mynydd Rhiw. Ail adrodd y daith wneuthpwyd mewn tywydd garw mis Tachwedd y llynedd oedd y daith wych hon. Roedd rhagolygon y tywydd eto yn wael a brofwyd yn yr hanner awr cyntaf gan ymosodiad o law trwm, cenllys, tarannau a chorwynt. Yn rhyfeddol dyma’r sefyllfa yn gwella i awyr clir, haul a tywydd sych am weddill y daith yn cyfiawnhau yr hyder annisgwyl o’r dwsin a ddyfalbarhaodd yn cael eu harwain gan Judith Thomas. Roedd y llwybr allannol i’r de o Plas yn Rhiw drwy goed a rhostir agored, yn rhoddi cipolwgfeydd drwy’r glaw a’r gwynt o donnau ewynog yn pwyo clogwyni bregus Porth Neigwl ymhell islaw. Erbyn i’r parti gyrraedd pentref Rhiw a dringo trwy Conion i gopa Mynydd Rhiw, roedd yr panorama rhyfeddol o’r man manteisiol uchel o 1000 troedfedd, wedi agored ar draws y cyfan o Penllyn. Roedd yn dal i fod yn wyntog, felly disgynnodd y parti heibio’r polyn hysbysrwydd a’r safle ansafadwy o’r ffatri bwyellau am ginio ar yr ystlys mwyaf cysgodol a dwyreiniol o’r mynydd. Oddi yno roedd yna olygfeydd hyfryd ar draws y basn o gaeau gwyrdd yn ymestyn o Sarn i Botwnnog, gyda llinell o fryniau tu ol yn estyn o Garn Fadryn i Mynytho. Ymlaen aeth y fford i’r de heibio adfeilion Capel Galltraeth drwy ardaloedd cyn goediog, a chyrraedd y bythynnod traddodiadol o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw Bryn y Ffynnon, un gyda gardd yn edrych yn berffaith yn Dachwedd hwyr. Aeth gamfeydd stepiau cerrig a llwybr mwdlyd a serth a’r parti i lawr i’r arfordir yn Treheli o ble roedd hi ddim ond cam neu ddwy ar hyd yr hen ffordd yn ol i Plas yn Rhiw. Roedd y parti yn ddiolchgar o fedru mwynhau y daith ardderchog yma oddeutu 5.5 milltir dros 3.5 awr mewn tywydd am y rhan fwyaf yn annisgwyl o deg. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 20ed Dachwedd 2022. Llan Ffestiniog a Llyn Trawsfynydd. Hugh Evans arweiniodd ddwsin o gerddwyr ar daith dda rhwng Llan Ffestiniog a Llyn Trawsfynydd. Diwrnod hydrefol oedd hi o gyfnodau clir ac ysbeidiau o gawodydd ysgafn am awr neu ddwy. Cychwynnodd y daith o’r adnabyddus Dafarn Pengwern yn Llan, i’r de-orllewin i lawr llwybr mwdlyd serth i mewn i’r ceunant creigiog o Geunant Cynfal. Mae hon yn un o nifer o ddyffrynoedd coediog ysblennydd yn cludo afonydd chwildroiol i lawr i Aber y Dwyryd, gyda’i gilydd yn rhan o amrywiaeth cyfoethog o’r Gronfa Genedlaethol Natur Dderwennol Goediog Meirionydd o dan reolaeth Adnoddau Naturiol Cymru. Dringodd y llwybr yn ol i fyny ar draws caeau dymunol, gan aros am baned deg mewn man prydferth ger yr Afon Llechrwd. Roedd yna ruthr cyflym ar draws y corneli prysur o’r A487 i lwybr yn arwain drwy erddi ffrynt o res o fythynod i bentref Gellilydan. Ar ol oddeutu milltir ar draws mwy o wlad agored, yn ddiweddar wedi ei glirio o goed coniffer, cyrhaeddodd y parti Ceunant Llennyrch, a dilyn llwybr hyfryd drwy goedwig hynafol yn uchel uwchben Afon Prysor ble mae hi yn taranu dros Rhaeadr Ddu. Ymlaen i’r de aeth y llwybrau coediog i lan Llyn Trawsfynydd ac heibio’r pwerdy niwclar anferth, nawr sawl degawd i mewn i’r proses diddiwedd o’i gau. Roedd lan y llyn yn le ddeniadol ond braidd yn damp ar gyfer cinio hwyr gyda golygfeydd niwlog ar draws y dyfroedd i’r bryniau o amgylch. Nawr dyma’r ffordd yn troi yn ol i’r gogledd, ar draws y ffordd bost ac o dan yr hen gangen reilffordd o Blaenau. Dilynnodd llwybr hyfryd drwy goed mwsoglyd, ac ymlaen heibio gweddillion o’r Gaer Rufeinig yn Tomen y Mur a’r bryn amlwg o’r mwnt Normanaidd. Oherwydd gwellhad yn y tywydd a’r tir uchel o weundir roedd yna olygfeydd heulog o’r Moelwynion a Blaenau ac i’r gorllewin i fryniau Llyn. Roedd yna gyfle arall i sawru y Cwm Cynfal ogoneddus yn cynnwys cylchdaith fer i syllu ar ddyfroedd rhaeadr Cynfal yn drochiadu yn ei lawn lifeiriant. Daeth dringo rhwydd a’r parti yn ol i Ffestiniog ychydig cyn machlud haul yn dilyn taith wedi ei amseru yn ofalus oddeutu 10 milltir ac 1750 troedfedd o ddringo dros mwy na chwe awr. Roedd hon yn ddiwrnod wobrwyol o gerdded cymedrol a hawdd mewn gwlad hyfryd. Noel Davey.
Dydd Iau 10ed Dachwedd 2022. Coed y Brenin. Cyfarfu 19 o rodwyr, yn cynnwys rhai gwynebau nas gwelid am amser, yn Ganllwyd ar gyfer cylch o 6 milltir yn Coed y Brenin yn cael eu harwain gan Noel Davey, yn sefyll i mewn dros Nick White oedd yn anhwylys. Roedd hi yn ddiwrnod tywyll, ond mi wnaeth aros yn deg a llonydd yng nghysgod y dyffrynnoedd coediog, er gwaethaf rhagolygon o 90% o law trwy’r dydd ac awelon o 40 milltir yr awr. Trodd y daith wrth neuadd y pentref ddu wych, newydd ei atgyweirio, dringo’r heol fach drwy’r coed derwen gyfochrog a’r cenllifoedd o’r Afon Camlan. Arweiniodd hyn i’r ymddangosiad ysblennydd fawreddog o’r Rhaeadr Ddu, trobwll rhyfeddol o ddwr yn gwrthdaro yn dilyn y glaw diweddar. Wrth y man gwylio yn edrych dros y rhaeadr mae yna blac edwinol yn cofnodi pennill yn clodfori o Ode Alcaic Thomas Gray (Yn Lladin a Saesneg, ond nid yn y Gymraeg). Ymlaen aeth y daith gan ddringo yn araf a dilyn trac hir llydan i’r gogledd am oddeutu dwy filltir, drwy’r goedwig ar yr ochr orllewinnol o ddyffryn Eden. O’r diwedd arweiniodd hwn i lawr ac ar draws yr A470 brysur a throi ar yr ochr ddwyreiniol o’r dyffryn i’r gogledd o’r hen bont o Bont Dol-gefeiliau (gwelwyd llwybr mwy uniongyrchol yn mynd o dan y ffordd rhy hwyr i’w ddefnyddio). Cymerodd hanner y parti eu cinio ar y bont tra mwynhauodd eraill eu lluniaeth yn y Ganolfan Ymelwyr ardderchog.
Roedd ffordd y prynhawn yn dilyn trac rhwydd, olygfaol i’r de yn agos i lan dwyreiniol o’r Eden. Trodd y rhan olaf i’r dwyrain i groesi y Mawddach uchaf yn Cae’n y Coed cyn ail groesi yr afon yn is i lawr ty draw i’w aber a’r Eden ger Ganllwyd. Gwyliodd y parti yn y fan hon grwp o ganwyr yn ddewr yn brwydo’r dwr gwyn rhuthredig. Roedd y lliwiau hydrefol yn hyfrydwch, yn enwedig yr ffawydden euraidd a’r fedwen a’r rhedyn ungoes llwytgoch. Profodd hon yn daith ddymunol ar draciau rhwydd dros 3-4 awr, yn caniatau digon o gyfleuodd i siarad mewn amgylchoedd hardd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 6 Dachwedd 2022. Llanfairfechan-Drum. Mentrodd y daith heddiw i ardal ogledd ddwyreiniol o fynyddoedd y Carneddau. Annie Andrews arweiniodd, ar fyr rybydd, griw o 8 ar ddiwrnod o dywydd diflas. Cychwynnodd y daith o faes parcio bychan Gwarchodfa Natur Nant y Coed goediog ym mhen uchaf Ffordd Valley, 500 troedfedd ucwchben Llanfairfechan. Dilynwyd llwybr cae heibio Fferm Hengae, dringo ar draciau llydan gwyrdd i’r llwyfandir rhostir agored Garreg Fawr oddeutu 1200 troedfedd o uchder. Ar ol 2 filltir arweiniodd hyn i’r hen drac yn rhedeg i’r dwyrain trwy Bwlch y Deufain i Ddyffryn Conwy, ffordd a ddefnyddwid ers oes ddiweddar y meini, unwaith yn Ffordd Rufeinig, nawr y Llwybr Gogledd Cymru ac yn gwarchod linell mwy nac amlwg o beilonau grym trydan uchel. Roedd yna ddewis llwybr yn y fan hyn yn dibynnu ar yr awydd i ddringo a mentro’r tywydd. Aeth dau o’r parti i’r gorllewin ac arwain eu hunain i lawr yr Afon Anafon i Ddyffryn Aber a llwybr yr arfordir yn ol i Llanfairfechan. * Aeth y gweddill o’r parti i’r dwyrain a chyfeirio oddeutu milltir ymhellach ar hyd yr hen drac ac yna gwneud tro i’r de i ddringo ysgwydd hir o Drosgl, heibio creigiau Carnedd y Ddelw ac o’r diwedd chyrraedd copa Drum (Crib, a elwid hefyd fel Carnedd Penyborth Goch) dros uchder o 2500 troedfedd. Roedd hon yn ddringfa hir a chadarn ar lwybr eitha rhwydd.
Sut bynnag dyma’r tywydd braf yr ddwy awr gyntaf yn newid i ysbeidiau o hyrddwynt a chawodydd siarp a phigog. Roedd y parti yn ddiolchgar o gyrraedd fymryn o gysgod yn yr hen garnedd ar y copa am ginio brysiog gyda bysydd rhewllyd. Pryn bynnag roedd y cyflwr gweledig yn dda ac roedd y golygfeydd yn ysblennydd i lawr i’r Afon Conwy ac ar draws y Carneddau. Dilynnodd y fordd i lawr drac ardderchog i gyfeiriad y gogledd orllewin a throi i fynd ar lwybr garw i ddringo tri arall o fryniau digymeriad, Pen Bryn-du, Yr Orsedd ac Foel Ganol. Roedd y rhain yn tipyn o fraw seicolegol, ond roedd y tri yn gorfodi dringfa o ddim ond 100 troedfedda gyda’u gilydd roeddent yn creu crib, ac yn creu golygfeydd ardderchog dros y dyffryn tyfn Anafon gyda’i lyn a’i afonig neidrllyd ac arianllyd a’r llwyfandir lletach i’r gogledd ddwyrain yn ymestyn o Talyfan i’r bryniau uwchben Penmaenmawr. Roedd y rhosydd yn y fan hyn wedi eu dotio gyda grwpiau o ferlod gwyllt Carneddau, yn edrych yn union mor rynllyd a soeglyd a’r cerddwyr. O’r diwedd dyma’r llwybr yn ail ymuno a’r ffordd allan, fel oedd enfysiau ac awyr las yn tori drwodd, yn caniatau golygfa braf o’r gwastadedd arfordirol ac Ynys Mon, yn edrych ar draws y Lafan Sands a’r Fenai, i gyfeiriad gorynys Penmon atalnodi’r gan ei oleudy ac Ynys Seiriol. Ar ol oddeutu 6 awr, ryw 10 milltir ac 3500 troedfedd o ddringo, roedd y parti yn falch o gyrraedd yn ol i Nant y Coed wedi mwynhau diwrnod gwlyb ac egniol yn y bryniau. Noel Davey. (Cyf:DHW).
*Do mi droesom i’r gorllewin a dilyn Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru i lawr tan i ni gyrraedd Bont Newydd, ble mae LlAGC yn mynd i’r de i gyfeiriad Abergwynbgregyn. Yna dyma ddilyn y ffordd i’r Gogledd Orllewin gyfochrog ac Afon Aber i gyfeiriad Abergwyngregin. Beth a ddaethant ar ei draws ond Caffi Hen Felin. Dyma feddwl am ein cydgerddwyr yn brwydro i fyny i gyfeiriad Drum drwy’r gwynt rhewllyd a’r glaw a phenderfynnu mynd i mewn am baned cynnes o goffi! Braf iawn a chynnes. Pryn bynnag nid oedd oedi i fod achos roedd cinio yn galw. Aethum o dan yr A55 a dros y reilffordd Bangor-Llanfairfechan a chyrraedd Llwybr Arfordirol Cymru tu draw. Cymerwyd cinio mewn man cysgodol oddi ar y llwybr yn edrych allan dros y Fenai i Sir Fon a Ynys Seiriol. Dyma droi oddi ar y llwybr arfordirol yn Llanfairfechan gan fynd i’r De Ddwyrain dwy’r dref, dilyn ffyrdd a llwybrau, gan amlaf ar hyd ochr Afon Llanfairfechan, tan i ni gyrraedd yn ol i’r maes parcio yn Nant y Coed. Ail ymunodd y prif barti a ni oddeutu 25 munud yn hwyrach. Roedd hon yn daith ardderchog a gadwodd ni draw o’r tywydd gwaethaf. Hugh Evans. (Cyf:DHW).
Dydd Iau Hydref 27ain 2022. Cylchdaith Penrhyndeudraeth. Denodd y daith boblogaidd a ddiddorol yma, o amgylch Penrhyndeudraeth, 33 o gerddwyr o dan arweiniad Tecwyn Williams. Roedd yn ddiwrnod cymylog ar y cyfan ond yn deg a chynnes. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn nghanol y dref, a chymeryd llwybr i’r de ddwyrain drwy stad ddwydiannol fechan, ar draws yr A487 a heibio Hafod y Wern. Daeth hyn a’r rhodwyr i’r ardal adnabwyd fel Gwaith Powdr, yn gynt Cookes Explosives Cyfyngedig, ac am 130 mlynedd, asgwrn cefn economaidd Penrhyn, yn cyflogi hyd at 500 o weithwyr. Ers i’r gwaith gau yn 1995, mae wedi bod yn Warchodfa Natur Cenedlaethol, ardal ddymunol o goetir gyda rhwydwaith o lwybrau yn cysylltu y nifer creiriau hudolaidd o’i etifeddiaeth ddiwydiannol fel cynhyrchydd o arfau rhyfel a ffrwydrau mwyngloddiau yn enwedig nitrogliserin fel rhan o ICI. Roedd lleoliad anghysbell y warchodfa, dyffrynnoedd serth a brigau creigiog yn rhoddi rhyw amddiffyniad o’r peryglon ffrwydredig.
Mae y rhan gogleddol yn fwy agored, yn caniatau golygfeydd ardderchog o Aber y Ddwyryd a’r bryniau tu cefn. Roedd yna safle braf i ginio ger llyn bychan ychydig i’r de o’r pendil sefydliad chwilfrydig a gynllunwyd i brofi nerth ffrwydiadau. Yna cymerodd y llwybr y ffordd i’r gorllewin ar hyd y Dwyryd ac ar draws rheilffordd y Cambrian i ehangder llydan o gorsydd forydllyd. Mae y rhain yn cael eu dominyddu gan y peilonau anferth yn cario llinellau trosglwyddiad uchel, nawr yn nghanol cynllun drud i’w rhoddi hwy o dan y ddaear ac ail greu yr harddwch weledol o’r tirlun unigryw hyn o Barc Cenedlaethol Eryri. Yna cymerwyd lwybrau gogleddol yn ol i ganol Penrhyn, ail groesi y rheilffordd a’r lon bost, a gorchfygu nifer o gamfeydd, proses araf oherwydd y nifer ar y daith. Aeth y ffordd drwy Penybryn, gan fynd heibio rhai tai diddorol, yn cynnwys un wedi ei addurno gan lu o fwncis! Dringo llwybrau cul coediog i Penybwlch, a chroesi’r Rheilffordd Ffestiniog ac yn rhoi golygfeydd da o waelod y dref. Roedd hon yn daith ardderchog o 5 milltir dros 4.5 awr ar gyflymdra llac ac yn rhoddi digon o amser i gymdeithasu a mwynhau y llaweroedd a gwahanol bwyntiau diddorol, golygfaol a hanesyddol yn y dref fechan unigryw yma. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 23ain Hydref 2022. Carnedd y Cribau. Cyfarfu 14 aelod o’r clwb yn fuan yn y boreu yn Pen y Gwryd a chael eu harwain gan Dafydd Williams yn y bryniau a’r rhostir i’r de o amgylch Carnedd y Cribau. Yn ffodus roedd yna le i barcio er iddi fod yn hanner tymor yn Lloegr. Roedd y rhagolygon am y boreu yn wael, ond fe wnaethom osgoi y glaw arwahan i un neu ddwy o gawodydd byrion; roedd y golygfeydd cymylog yn aml yn dramatig, gwyntoedd ysgafn a gweledydd da. Aeth y daith i’r de-ddwyrain o’r Gwersyll Rhufeinig, croesi rhostir eang oedd yn wlyb iawn ar ambell i lwybr. Nid ar chwarae bach y gelwid yr ardal hon fel “Tir y Mil o Gorsydd”. Roedd ffrwd Nant y Llys yn llawn lifeirio ond yn hawdd i’w chroesi. Amser coffi gwnaeth hanner y parti gylchdaith fer i ddringo copa creigiog cyfagos o Cefn y Cerrig. Ymlaen aeth y llwybr dros Clogwyn Bwlch y Maen a Bwlch Rhiw y Maen, ac yna dringo yn yhwanegol a chyrraedd y grib greigiog o Carnedd y Cibau uwchafbwynt y dydd o 1820 troedfedd. Am lawer o’r ffordd dilynnodd y llwybvr yn agos i lein ffin y sir rhwng Gwynedd a Chonwy.
Roedd yna ddisgyn graddol ger Bwlch Maen Pig a Clogwyn Pwll Budr i Bwlch y Rhediad yn gwahanu dyffrynnodd Nant Gwynant a Edno/Lledr. Fan hyn oedd y lle am ginio, yn caniatau amser i fwynhau y golygfeydd rhyfeddol o’r lliwiau mydanllyd hydrefol; yr oren disglair, melyn a cochddu o’r rhostir gwelltog, y llwytgoch oddiwrth y rhedyn ungoes oedd yn marw ar ochrau’r bryniau a’r gwyrdd fyth newidiol ar y copauon cymylog o amgylch ym mhobman. Yn dilyn cinio aeth y mwyafrif o’r parti ar gylchdaith lethol i ymweld safle yr awyren Aer Lingus a gwympodd ar noson Ionawr 10ed 1952 a’r golled drist 0 23 oedd ar ei bwrdd. Mae’r man diffaeth yma wedi ei nodi gan garreg goffa ac un goeden helygen unig. Yna , yn nghynesddrwydd y prynhawn, aethpwyd ar lwybr garw a llithrig i lawr i Ddyffryn Gwynant, gan fyned drwy lwyni o goed onnen yrgerbwdol, yn drist wedi ei difrodi gan glwy. Aeth y rhan olaf o’r daith ar draws y fordd bost, ac i lawr i waelod y cwm ac yna dringo’n raddol i fyny trac hir gyda Hafod Rhistl a Gwastadanas yn ol i Penygwryd. Roedd cyflwr y ddaear yn gwneud hon yn daith eithaf hir ac egniol, ond roedd hi yn ddiwrnod gofiadwy yn nghanol Eryri, yn golygu oddeutu 7 milltir dros 7 awr a dringo cynyddol o 2000 o droedfeddi. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 23 Hydref 2022. Dolwyddelan-Cwm Penamnen- Castell. Dafydd Williams arweiniodd griw o 17 o aelodau ar gylch ardderchog o Dolwyddelan. Roedd yn ddiwrnod heulog disglair o Hydref gyda awyr las ac awel ysgafn. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r stesion a dilyn y Sarn Helen, ffordd Rufeinig yn rhedeg i’r de i fyny dyffryn Cwm Penamnen. Roedd y ffordd unwaith yn brif gysylltiad rhwng y caerau Rhufeinig o Caerhun yn dyffryn Conwy a Tomen y Mur ger Trawsfynydd, ond mae unrhyw olion wedi ei claddu mewn hanes a tharmac diweddar! Roedd hwn yn adran rhwydd a dymunol rhwng bryniau serth yn drwchus o goed yn codi i faint o Y Ro Wen i’r dwyrain a Chlogwyn Benar i’r gorllewin. Ymylodd y ffordd heibio gweddillion Tai Penamnen sydd wedi ei cloddio, cartref Meredydd ap Ieuan yn yr 15 ganrif, cyndad o’r teulu Wynn pwerus a lywodraethodd dyffryn Conwy yn y canrifoedd oedd i ddilyn. Yn Tan y Bwlch roedd yna ddringfa serth o 700 troedfedd i fyny llwybr ar ochr y bryn i’r gorllewin drwy ardal goediog wedi ei glirio a chyrraedd Pen y Benar. Roedd y dringo yn rhoddi y statws gradd C+ i’r daith a’i gwneuthur yn araf gyda digon arhosiad i gymeryd gwynt.
Roedd y rhostir gwelltog ar y copa yn caniatau lle addas am ginio derbyniol, ac hefyd caniatau golygfeydd agored o dalpau o’r Wyddfa a chribau crychlyd siarp o Grib Goch, Crib y Ddysgl a Lliwedd, yn pelydru o’r brif gopa. Tu draw, roedd rhan o grwp o fynyddoed y Glyderau i’w gweld. Roedd y ffordd i lawr yn rhwyddach, yn mynd i mewn i ran o goedwig hyfryd yn gyrhaeddiadon isel o’r Afon Hafod-llan, cyn iddi ymuno a Afon Lledr. Ar draws yr A470 roedd ffordd wledig yn mynd a’r cerddwyr heibio stesion Pont Rhufeinig, dros y reilffordd ac i fyny heibio Pen y Rhiw. Arweiniodd trac yn ol ac i lawr yn araf , a dod i olwg y twr sgwar anferth o Gastell Dolwyddelan. Adeiladwyd y castell gwych cynhenid yma ar ddiwedd y 12ed ganrif gan tad Llywelyn Fawr. Roedd ei sefyllfa llywodraethol yn Nyffryn Lledr yn ei wneud yn un o brif amddiffynfeydd y tywysog. Roedd cwymp Dolwyddelan i Edward 1 yn 1283 ar gyfartaledd yn cael ei dderbyn fel diwedd y gwrthsafiad i’r brenin Saesneg. Mae heddiw yn fan manteisiol heddychlon gyda golygfeydd rhagorol o’r dyffryn a llechweddau Moel Siabod ychydig i’r gogledd. Oddi yno roedd hi ddim ond cam fer ar hyd y lon bost, gan fynd heibio yr eglwys 500 oed ar safle sylfaenwyd gan St Gwyddelan (y gwyddel bychan) ar ei ol ef yr enwid y pentref. Roedd y tywydd da yn cyfrannu yn arw at y daith fwynhaol o 6 milltir dros agos i 5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 9 Hydref 2022. Bae Trearddur - Pontrhydybont. Ymgyrch heddiw oedd i Ynys Cybi/Holy Island ym mhellter gogledd/orllewinnol pell o Sir Fon i gerdded rhan o’r Llwybr Arfordirol o Bae Trearddur i Rhoscolyn. Arweinwyd 17 aelod gan Gwynfor Jones. Roedd y tywydd yn gymylog, rhan amlaf yn deg ac eitha cynnes, ond yn wyntog iawn. Daeth y parti o hyd i barcio ar ochr y ffordd ger y traeth, gan arbed y tal drud a ofynwyd amdano ym maes parcio cyhoeddus Trearddur. Arweiniodd y ffordd i’r de yn agos i’r lan uwchben Porth Diana gan fynd heibio cynifer o ail gartrefi gwyn yma ac acw ar y tirlun o glogweini di gysgod, cymysgfa o frigiadau gwyn a thir gwelltog. Y peth mwyaf prydweddol oedd y rhuo tharanllyd o’r tonnau yn curo’r creigiau a'r ewyn gwyn yn chwyrlio yn yr awyr. Gyrrwyd hwn gan awelon o wynt cyffrous 40 milltir yr awr yn chwythu o’r de ar lan y mor. Tu draw i faes carafannau enfawr yn Porth y Garan, croesodd y llwybr ehangder o dir gwyllt gyda golygfeydd syfrdanol o ddwy fwya greigiog naturiol, Bwya Du a Bwya Gwyn. Am eiliad yn y fan hon mi welwyd forlo. Yn dilyn Porth Saint, aeth y llwybr o amgylch Pentir Rhoscolyn a dod ar draws Ffynnon Santes Gwenfaen, nodwedd o garreg hynafol a enwid ar ol sant o’r 6ed ganrif o Ynys Manaw. Yn ol yr hanes roedd offrwm o ddwy graean wen a daflwyd i’r ffynnon yn sicr o wella clefyddadau’r meddwl.
Nodwedd arall yma oedd Stesion Gwylwyr y Glannau trefnus a gyflenwyd gan wirfoddolwyr yn gysylltiedig a’r un yn Porth Dinllaen. Roedd y fan hyn yn caniatau golygfa rhagorol yr holl ffordd i lawr y bwa o arfordir gogleddol Llyn, o’r Eifl i Mynydd Mawr. Ychydig i’r de mae gwiledydd amlwg coelcerth Rhoscolyn yn sefyll ar Ynys Gwylanod, unwaith yn loches i forwyr yn dilyn llongddrylliad yn bustachu yn y cregiau bradwrus. Disgynnodd y llwybr i’r traeth yn Borthwen, gan fynd heibio amryw cilfach creigiog hyd nes cyrraedd Traeth Lydan/Silver Bay. Roedd y man hyn yn le lletygar i gael cinio gyda byrddau picnic a thy bach! Ar draws y dwr roedd yna olygfa ddramatig o amlinell dywyll o Grib Nantlle a braslun aneglur o fynyddoedd y Carneddau. Roedd hi yn ollyngdod i ddianc o’r gwynt cernodol wrth i’r llwybr fynd i’r tir. Dal i ddilyn Llwybr yr Arfordir wnaeth y llwybr ble mae’n cylchdeithio yn bell i’r gogledd gan nad oes croesfan uniongyrchol yn y fan hyn i fynd ymlaen i lawr yr arfordir. Ymylodd y ffordd ac ardal goediog ac yna cymeryd llwybr cwrtais tymhorol cyfyngedig drwy stad Bodior, wedi ei wella yn arw gan wirfoddolwyr y “Silver Slashers”. Daeth hwn allan ar ffordd a ddilynwyd i’r gogledd i Pontrhydybont, yna i’r gorllewin ac yn fuan yn ol i Trearddur. Roedd hon yn daith braf o 10 milltir ar hyd arfordir bywiog a chymeryd ychydig dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau 29 ain Fedi 2022. Llyn Gwynant. Cyfarfu 22 o Rodwyr yn Bethania ar gyfer cylch o ddyffryn hardd Nant Gwynant yng nghanol Eryri o dan arweiniaeth Annie Andrew a Jean Norton. Yn dilyn ambell i gawod cynnar roedd hi yn ddiwrnod o gyfnodau heulog, ac yn gymharol gynnes erbyn y prynhawn. Aeth y daith i gyfeiriad croes i’r cloc, a dringo ar gyflymdra da oddeutu 400 troedfedd i fyny ffordd wledig gyfochrog ac Afon Llynedno. Yn Hafodydd Brythion , trodd y cyfeiriad ar drac i’r gogledd-ddwyrain drwy goedwig gonifferaidd fwsoglyd a rhan wedi ei esgeluso. Yn dilyn croesi ffrwd anodd oedd yn orlifo, oherwydd y glaw diweddar, daeth y llwybr allan i dirlun mwy agored a gweu ei ffordd i lawr i Llyn Gwynant yn y dyffryn islaw. Yn fuan roedd yn amser cinio mewn man tawel yn yr haul ar lan gogleddol y llyn, yn edrych i lawr siten o ddŵr di gyffrous hir cul, wedi ei ymylu rhwng ochr y bryniau serth ar bob llaw. Roedd rhan y prynhawn yn gorchfygu maenau mawr a gwreiddiau ar hyd llwybr yn y coed i fyny i’r golygle chwedlonol o Penmaeth Brith, bwtres o graig amlwg yn ymwthio allan 200 troedfedd uwchben y llyn. O’r diwedd arweiniodd y llwybr i lawr i’r meysydd waliog dymunol o Hafod y Llan, y prif fferm o 4000 acer, stad yn eiddo gan bedwar genhedlaeth ar ddeg o’r teulu Williams, ond wedi eu chymeryd drosodd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 25 mlynedd yn ôl. Yn ôl yn Bethania yn dilyn taith ardderchog a hwyliog dros 6 milltir a 1000 troedfedd o ddringo dros 5 awr, mwynhaodd y mwyafrif o’r parti luniaeth yn y caffi lleol. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 25ain Fedi 2022. Rhobell Fawr. Roedd taith heddiw i Rhobell Fawr, pig a ddringwyd ddiwethaf gan y Clwb pum mlynedd yn ol, Gareth Hughes arweiniodd cynulliad dda o 17 o gerddwyr. Roedd y diwrnod gan fwyaf yn gymylog, ond yn braf gyda awyr glir. Cychwynnodd y daith o’r pentref del Llanfachreth, wedi ei dylanwadu dros y canrifoedd gan reolaeth Stad Nannau. Cymerwyd llwybr gwyrdd i’r gogledd o’r pentref, gan fynd heibio nifer o ffermdai cadarn. Arweiniodd hwn i Bwlch Goriwared oddeutu 1400 troedfedd uwchben y mor o ble roedd llwybr rhwydd yn dringo yn gyson i gopa Rhobell Fawr, 2430 troedfedd. Roedd y copa yn caniatau golygfa ardderchog o’r cyfan o rhestrau mynyddoedd cyfagos - yr Aran, Arenig, Rhinogydd a Cader Idris – ac hefyd golygfa i lawr yr Aber Mawddach llydan i’r mor. Cafwyd cinio, gyda mwy o olygfeydd da, yn nghysgod wal tipyn o ffordd islaw y copa. Roedd llwybr serth a chreigiog yn gwneud y disgyn yr ystlys de ddeheuol yn anodd hyd nes cyrraedd trac da chymharol wastad yn rhedeg i’r de orllewin. Roedd hwn yn ymylu ardal goedwigaidd ac yn mynd heibio ardal o hen weithfeydd mwyngloddio, efallai am aur, ar lethrau Moel Cors y Garnedd. Roedd y lliwiau edwinol o grug y rhostir a’r eithin yn foddhad. O’r diwedd cyrhaeddodd y llwybr y caeau coediog cyfoethog tynerach yn y dyffryn uwchdirol o amgylch Llanfachreth. Roedd hon yn daith ardderchog chymhedrol ac eithaf hawdd i fyny ac o amgylch y pig anghysbell yma, yn golygu oddeutu 10 milltir a 2200 troedfedd o ddringo dros 6 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau 15ed Fedi 2022. Waunfawr. Kath Spencer arweiniodd 14 o rodwyr ar daith o Waunfawr yn Cwm Gwyrfai. Roedd hon y ddolen orllewinol o daith Sul hirach a wnaethpwyd yn Ionawr 2022. Roedd rhan fwyaf y diwrnod yn gymylog gyda ambell gyfnod heulog, gyda chawod o bryd i’w gilydd. Cychwynnodd y parti o Dafarn Parc Eryri , Waunfawr, a dringo yn eithaf serth oddeutu 500 troedfedd i fyny llwybr creigiog drwy goedwig ddymunol, y rhan mwyaf egnïol o’r diwrnod. Roedd hyn yn ymylu ar Barc Dudley, gwarchodfa natur leol wedi ei led esgeuluso ar safle cyn chwarel ithfaen. Daeth y llwybr allan i rostir agored o grug ac eithin lliwgar, mynd heibio adfeilion anheddfan wedi ei adael yn Ty’n y Graig. Roedd yna ddringo cymedrol pellach i gopa gwylaidd o Foel Smytho oddeutu 1125 troedfedd o uchder. Aros am goffi yn y fan hyn, a chael eu tarfu gan gawod sydyn, ond yn caniatáu golygfeydd da dros Arfon i gyfeiriad amlinellau amlwg o Caergybi yn y gogledd orllewin o Ynys Môn, Yr Eifl a Bryniau Clynnog, yn rhoddi arwydd o Lyn yn y gorllewin. Moel Eilio ac ystlys orllewinol o’r Wyddfa tu ôl yn amlwg ar draws dyffryn Gwyrfai. Yna croesodd y llwybr y gwastatir uchel i’r de, ymylu y goedwig gonwydd o amgylch Hafod y Wern i’r dwyrain a’r tomeni llechi eang ar ochrau Moel Tryfan i’r gorllewin. Dyma lwybr yn mynd am i lawr islaw bwtresi uchel Mynydd Mawr, a disgyn i bentref Betws Garmon. Roedd llwyn o goed derw yn fan hyfryd ar gyfer cinio hwyr ar ochr y dyfroedd gwyllt o’r Afon Gwyrfai. Wedi croesi’r afon ar bompren, aeth y daith ymlaen drwy’r safle carafannau drefnus Bryn Gloch ac ymylu fynwent yr eglwys fach Fictorianaidd, Santes Garmon. Roedd yr adran olaf yn croesi dolau afon ddymunol a chyrraedd llwybrau lleol diddorol drwy bentref Waunfawr. Profodd hon i fod yn daith ddifyr a llac o ryw 5-6 milltir yn ychydig dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 11 Fedi 2022. Moel Hebog. Nod heddiw oedd Moel Hebog, y pigyn crwn amlwg yn llywodraethu Bae Tremadog pan y gwelwyd o lannau deheuol o Lyn. Noel Davey arweiniodd grwp oedd wedi cynyddu i 13 erbyn boreau’r daith. Roedd hi yn braf gyda addewid o law yn hwyrach, felly cychwynnodd y parti ar gyflymder da o Lyn Cwmystradllyn, a chyfeirio heibio “Y Pentre Colledig”, gweddillion o’r fenter di ddim Victorianaidd i chwarelyddiaeth lechi anfuddiol. Yn dilyn dringo cyson hir o asgell yr ysgwydd de-orllewinol o Hebog dyma gyrraedd y copa tipyn o dan ddwy awr mewn amser am goffi. Roedd y golygfeydd yn ardderchog , yn edrych i lawr i aber y Glaslyn a Phorthmadog, ac ar draws i Grib Nantlle a nifer o gopâu’n eraill yn nghanol Eryri. Daeth disgyn byr serth ar lwybrau gwelltog a chreigiog a’r criw i Fwlch Meillionnen a cnap trawiadol o Foel yr Ogof i’r amlygrwydd, yn dilyn i drafodaeth o ble yn union oedd man yr ogof ansafadwy, ble roedd Glyndwr yn cuddio. Yn dilyn cinio cynnar roedd yna ddewis ffordd yn ol i Gwmstradllyn o amgylch gwylodion Moel Hebog: unai y ffordd haws drwy Cwm Pennant neu i’r dwyrain drwy Cwm Meillionen a Cwm Oeddwr, y ffordd anodd yn cymeryd beth bynnag cwpl o oriau ychwanegol a mwy o ddringo. Roedd y parti wedi ei rhannu, ond oherwydd disgwyliad glaw penderfynwyd ar y cyntaf. Aeth llwybr troellog, o hyd i’w gilydd yn gorsog, i lawr Cwm Llefrith heibio gweddillion o fwynglawdd copr Moel Hebog, ac o’r diwedd croesi pompren i ymuno a cyn drac y reilffordd byrhoedlog lled cul adeiladwyd yn yr 1870au i gludo llechi o’r chwareli yn ben Cwm Pennant i lawr i’r glanfaoedd ym Mhorthmadog. Mae hyn nawr yn rhoddi ffordd gerdded gwastad drwy’r dyffryn hyfryd, er fod yna un neu ddau o fannau anodd ble mae pontydd wedi diflannu. Roedd y daith oddeutu 7.5 milltir gyda 2000 troedfedd o ddringo dros 5.5 milltir, yn caniatáu amser am goffi a chacen yng ngardd caffi cymwynasgar Ty Mawr fel roedd glaw man y prynhawn yn cyrraedd. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Sul 4ydd Fedi 2022. Aran Fawddwy. Roedd taith heddiw ar draws Y Ddwy Aran yn enghraifft o fod yn lwcus ar y trydydd cynnig ar ôl i ddwy ymgais gynt gael ei gohirio oherwydd tywydd mynyddig gwael. Ond mi roedd hi yn werth y disgwyl ac mor ffodus oedd y gang o chwech a wnaeth y daith; roedd yna gyfnodau heulog clir bron drwy’r dydd ac awyr clir arbennig, yn caniatáu golygfeydd aruthrol o beth edrychai fel mynyddoedd hanner Cymru. Gareth Hughes arweiniodd y daith, ond cymerodd eraill eu tro ble roedd y llwybrau yn hawdd i’w dilyn. Cychwynnodd y ffordd o Blaencywarch ym mhen y Cwm Cywarch hudol, dyffryn anghysbell o’r golwg yn y bryniau gwyrdd uchel. Roedd y rhan gyntaf yn ddringo tipyn yn serth o 1000 troedfedd drwy’r rhedyn un goes a’r grug yn ochri ar nant plymiedig. Daeth hyn a’r parti i le agored noeth gwelltog a’r llwyfandir yn aml yn gorslyd. Daeth y mas mawreddog creigiog o Aran Fawddwy i’r golwg, ond yn dal i fod oddeutu 2 filltir i ffwrdd, ond o’r diwedd dyma gyrraedd y copa, ychydig yn brin o 3000 troedfedd.
Roedd yr olygfa eang o’r copa yn syfrdanol, yn ymestyn o’r Carneddau yn y gogledd i’r Bannau Brycheiniog yn y de ac o fryniau Llyn a Phenfro ar draws Bae Ceredigion i fryniau Clwyd ac Amwythig i’r dwyrain. Yn agosach roedd proffil miniog y Rhinogydd a chrib Cader a’r Arenig yn amlwg. Yn dilyn cinio roedd yn ddau o’r gloch, yn gadael digon o amser i wneud y dychweliad dwy awr i gopa Aran Benllyn ar hyd llwybr eithaf anodd ar y grib i’r gogledd, gan fynd heibio carn gwyliedydd diweddar ger Erw y Ddafad Ddu. Roedd y copa hwn yn caniatáu golwg barcud o Llyn Tegid a Bala ymhell islaw. Daethpwyd ar draws ychydig o gerddwyr oedd wedi dringo o Llanuwchllyn, roedd i weld mae dim ond ni a hwy oedd ar y mynydd. Roedd y dychweliad yn sgyrtio ffens o amgylch Aran Fawddwy, ac o’r diwedd dyma gyrraedd y llwybr gwelltog hawdd i lawr ac ar draws Drysgol gan fynd heibio’r carn unig yn coffau y golled drist o achubwr mynydd a laddwyd gan fellten dros 60 mlynedd yn ôl. Rhoddodd aros am baned gyfle i syllu ar yr ysbrydoligeuthus arswydus ganllawiau o’r sgarp dwyreiniol o’r Arans, yn esgyn uwchben dyfroedd Creiglyn Dyfi, y prif darddiad o’r Afon Dyfi. Roedd y rhan olaf yn ddisgynfa raddol o 2000 troedfedd i lawr llwybr cul yn uchel ar ochr y bryn uwchben y dyffryn hir a tyfn, Hengwm. Roedd y parti yn falch o gyrraedd yn ôl i’w ceir yn Cwm Cywarch ar gyfer y siwrne hir yn ôl i Llyn yn dilyn diwrnod bythgofiadwy yn y mynyddoedd, pellter o dros 10 milltir a 4100 troedfedd o ddringo dros 8.5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 1af Fedi 2022.Porth Ysgo - Penarfynydd. Ail wneud cylch o Porth Ysgo a gymerodd le mewn niwl trwchus ym mis Mehefin y llynedd oedd hon. Y tro hwn tywynnodd yr haul yn caniatau yr 14 cerddwr, yn cael eu harwain gan Judith Thomas i olygfeydd godidog dros yr arfodir a chefn gwlad o’r rhan yma o Orllewin Llyn. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio yn y cae yn Porth Ysgo, ble nawr mae caban gyda peiriant coffi. Arweiniodd y llwybr i lawr heibio’r hen byllau manganis, yn rhoddi cip olygfeydd profoclyd o’r dwr glas tyfn a’r arfordir yn estyn heibio y graig o Maen Gwenonwy i Ynys Enlli. Roedd y sychder wedi diraddio y rhaeadr i ddiferynnu, ond roedd y gilfach greigiog yn hyfrydwch, yn werth weil disgyn y rhes o risiau hir i lawr a gymerodd hanner y parti, tra roedd y gweddill yn ymlacio uwchben. Achubodd lwybr i’r tir ar draws caeau wartheg a camfeydd lletchwith, a dod a’r parti i’r pentir o Penarfynydd oedd wedi ei orchuddio yn ei dapestri dymorol o eithin aur a grug porffor. Cafwyd ginio ar y pen creigiog gwyllt yn edrych ar draws i Cilan ac arfordir y Cambrian yn ymestyn i lawr i Benfro. Y pleser olaf o’r daith oedd ymweliad a’r eglwys fechan, plaen a syml a pherffaith, sef Llanfaelrhys. Yn dilyn taith oddeutu 5 milltir aeth y mwyafrif o’r parti ymlaen i Plas yn Rhiw am de. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 28ain Awst 2022. Dinas Emrys-Cwm Llan / Llwybr Isaf Watkin. Ar Wyl y Banc Awst cynnes a heulog Dafydd Williams arweiniodd 10 o gerddwyr ar gylch o Craflwyn ger Beddgelert. Yn ffodus, roedd y parti yn ddigon buan i ddod o hyd i le i barcio er gwaethaf yr ofnau fod tyrfaoedd yn mynd i oresgyn yr ardal boblogaidd yma o Eryri. Dilynwyd llwybr yn groes i’r cloc, gan groesi’r Afon Glaslyn yn mwynglawdd copr Sygun ac yna cymeryd y llwybr hyfryd ar y glan deheuol o Lyn Dinas. Arddangosodd y llyn ei ddrych wyneb llonydd hardd arferol, gan daflu yn ol y llethrau coediog ar y naill ochr gan ddenu gwersyllwyr di ofal a nofiwyr. Aeth y grwp yn sydyn ar y llwybr gwastad hawdd, gan fynd heibio fferm Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llyndy Isaf ac yn fuan cyrraedd y pen prysur o Lwybr Watkin y Wyddfa yn Bethania. Rhanwyd y llwybr i fyny drwy’r coedlys heibio Castell gyda’r torfaoedd, y mwyafrif yn mynd cyn belled a’r rhaeadr godidog Cwm Llan. Roedd yna olygfeydd ardderchog o Lliwedd a Gallt y Wenallt yn union uwchben ac, ymhellach i ffwrdd, pig amlwg Moel Siabod.
Wrth yr hen wyriad chwarel yn union o dan y rhaeadr, trodd y ffordd i’r de-orllewin ar lwybr distawach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dringodd hwn yn araf i uchder oddeutu 1200 troedfedd yn Bwlchau Terfyn cyn disgyn ar ran creigiog anoddach cyn belled ar hen weithfeydd pwll yn Cwm Bleiddiad. Roedd adfail gafaelgar yn fan addas ar gyfer cinio. Aeth llwybr arall a’r cerddwyr i lawr heibio Hafod y Porth ar gyfer cylchdaith i’r bryn bychan o Dinas Emrys wedi ei rwymo yn ei flanced o goetir doreithiog. Roedd hwn yn golygu dringfa greigiog i’r copa yn 450 troedfedd o ble roedd yna olygfa goediog o ddyffryn Nantgwynant i gyfeiriad Beddgelert a’r talp o Foel Hebog yn union tu cefn i’r pentref. Mae’r bryn yn dangos rhai olion aneglur o “gastell” Vortigern o’r 5ed ganrif ond mae ei brif arwyddocad yn gorwedd yn y chwedl o Gymru ble ddeffrodd Emrys y dreigiau yn cysgu islaw i ymladd, yn dilyn i’r fuddugoliaeth o’r Ddraig Goch (Gymraeg) dros y ddraig Wen (Saesneg). Yna roedd disgyn cymharol fyr yn ol i Craflwyn, gan fynd heibio sedd ddraig rhyfeddol cerfiog a’r pwll hudol coediog a’r rhaeadr yn Afon y Cwm. Yma dihangodd dau o’r cerddwyr ar gyfer nofio yn y gwyllt i fyny’r afon. Yn dilyn y cyfle i archwilio y cyflwyniad lliwgar gan CADW o’r chwedl leol ac hanes Craflwyn, mi fentrodd hanner y parti i Beddgelert brysur i dorri syched yn dilyn diwrnod cynnyddol glos. Roedd hon yn siwrna fwynhaol a chymharol rwydd oddeutun 7.5 milltir a 1200 troedfedd o ddringo dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 14eg Awst 2022. Moel Druman - Yr Arddu. Hugh Evans arweiniodd griw o 11 cerddwr ar gylchdaith bedol ardderchog o’r mynyddoedd i’r gorllewin o Ddolwyddelan ymestyniad o’r Moelwynion yn cau i mewn man cychwyn yr Afon Lledr. Roedd hi yn ddiwrnod arall mewn rhestr o ddyddiau heulog poeth rhyfeddol gyda’r tymherau yn yr 20au C uchel ac awyr clir campus. Cychwynnodd y ffordd oddeutu 600 troedfedd yn agos i ben dyffryn anghysbell tu draw i Bont y Rhufeiniad gyda dringfa gymedrol i gyfeiriad y de. Yn dilyn tua milltir croesodd rheilffordd Dyffryn Conwy y trac ac yn fuan diflannu i mewn i dwnnel 2.5 milltir adeiladwyd yn yr 1870au ar gyfer mwyngloddiau llechi Blaenau Ffestiniog. Roedd yna aros am goffi yn nghysgod twred uwchben un o’r siafftiau awyr dyfn. Cylchoedd y ffordd Mynydd Dyrnogydd, dilyn y trac gwastad o gyn dramffordd chwarel a myned heibio yn agos i’r ffordd fawr dros Bwlch y Gorddinan/Crimea Pass ar uchder o 1200 troedfedd. Yna roedd dringo serth dros Iwerddon a thynnu i fyny hir a chwyslyd i gopa Allt Fawr, yn 2290 troedfedd y man uchaf o’r diwrnod. Roedd y parti yn fwy na pharod am ginio hwyr ar y copa, mwynhau awel adfywiol oedd yn digolledu’r prinder cysgod. Roedd yna olygfeydd gwych i’r de oddi yno i lawr i Blaenau a tu hwnt i Drawsfynydd a mynyddoedd Meirionydd. Yn y pellter roedd rhannau o Lyn yn ymwthio allan fel iddynt fod yn nofio yn yr awyr. Gyda egni wedi ei ail gyrchu ymlaen aeth y grwp, nawr yn cylchu i’r gorllewin, yna i’r gogledd, a mynd heibio yn hytrach na dros Moel Druman a gwneud ein ffordd heibio llynnoedd bychain ar draws Ysgafell Wen a llwybrau creigiog dros grib hir Yr Arddu. Roedd copa miniog Cnicht a’r ffordd ar draws i Rhosydd yn y gorllewin. Nawr roedd pentwr anferth Yr Wyddfa yn fwy dominyddu’r olygfa, i weld mor agos, ond ei dorfeydd heidiog yn fyd i ffwrdd o heddwch a distawrwydd taith heddiw, heb weld yr un enaid trwy’r dydd. O’r diwedd disgynnodd y llwybr i gyfeiriad ardal goediog ar ochrau Moel Siabod, ymuno a thrac heibio Coed Mawr i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith wobrwyol, flinedig ac egnïol ar y diwrnod cynnes yma, ei hyd o 10 milltir gyda oddeutu 2650 troedfedd o ddringo dros 7.5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 7ed Awst 2022. Esgyniad Dathlu Yr Wyddfa. Taith arbennig heddiw. Daeth 18 ohonom at ein gilydd i ddringo’r Wyddfa ar drothwy pen-blwydd Dafydd Williams yn 86 oed. Cychwyn ar Lwybr Cwellyn ar ddiwrnod perffaith i fynydda gyda heulwen cynnes trwy’r dydd awel ysgafn a golygfeydd bendigedig i werthfawrogi mawredd y dirwedd arbennig hon. Hawdd deall atyniad y mynydd i’r torfeydd sydd yn ei droedio ac er ei brysurdeb sylwedd y mynydd a bery yn y cof pob tro.
Wedi dechrau yn fuan o lan Llyn Cwellyn er mwyn sicrhau lle parcio bu’r ddwy filltir gyntaf yn ddringfa lled gymedrol ac olion amlwg o welliannau i’r llwybr i’n hatgoffa o’r gwaith sydd ei angen i’w gynnal. Oedi am banad ym Mwlch Cwm Brwynog gan edrych lawr ar Lyn Ffynnon y Gwas. Erbyn hynny roeddem bron hanner ffordd i fyny o ran pellter, ond dim ond draean o’r ffordd o ran uchder felly tipyn mwy serth oedd rhan nesaf y daith, a’r llwybr caregog i fyny Clogwyn Ddu’r Arddu sbel yn anoddach ar y traed. Wedi rhyw deirawr daethpwyd at Bwlch Glas gan groesi’r rheilffordd. Distaw oedd hon gan fod gwaith atgyweirio yn parhau ond wrth gyfarfod a thri o’r prif lwybrau eraill roedd y dyrfa o gyd-gerddwyr yn amlhau yn sylweddol. Un ymdrech olaf wedyn i’r copa ar 3650 troedfedd. Er nad oedd y ciw i gael tynnu eich llun ar y copa ddim mor hir ac y bu ar adegau penderfyniad ein criw oedd hepgor y ddefod honno a chael fymryn o gysgod y bwyty i fwynhau tamaid o ginio wrth ryfeddu ar y golygfeydd dros lethrau serth i lawr i Gwm Llan a llwybr Watkin. Roedd ambell wylan o gwmpas yn gwylio am gyfle ond fwy difyr rhywsut oedd gwylio hofrennydd yn codi person o greigiau yn agos i gopa Lliwedd. Ni wyddom eto ai hyfforddi oedd y criw ynteu ymateb i wir argyfwng ond rhyfeddol oedd yr hyn ellir ei gyflawni dros eich cyd-ddyn. Fel sy’n digwydd yn aml roedd y daith lawr bron iawn yn ymddangos yn hirach a mwy blinderus ar goesau oedd wedi gwanio wedi’r ddringfa ond nawr yn gorfod ymarfer cyhyrau gwahanol . Balch iawn oeddem o gael cyrraedd yn ddiogel yn ôl i’r ceir wedi dros 7 awr ar y mynydd gan deithio dros wyth milltir ac esgyn 3100 troedfedd. Wedi llongyfarch Dafydd ar ei gamp cafwyd cyfle haeddiannol i dorri syched yn nhafarn Cwellyn i orffen y diwrnod. Noel Davey (Cyf GJ)
Dydd Iau 4ydd Awst 2022. Dwy Bont dros y Fenai. Tecwyn Williams arweiniodd barti o 26 ar grwydr hudolaidd ar hyd glannau’r Fenai rhwng y ddwy bont dros y culfor. Roedd hon yn daith hawdd oddeutu 4 milltir yn llawn o ddiddordebau hanesyddol a gweledol. Cychwynnodd y cerddwyr o faes parcio anferth marchnad Pringles yn Llanfair PG, ac yn dilyn llun o’r grwp o dan yr enw enwog, anghynanadwy a enillfawr wedi ei fawrygu ar stesion y reilffordd. I ddechrau dilynnodd y llwybr ran o’r A5, gan fynd heibio un o dai toll Telford, ac yn ddiweraddach yn gartref i’r Women’s Institute cyntaf yn Brydain. Aeth llwybr i lawr i bentref bach Pwllfanogl ar lan mor Y Fenai, heibio Min y Mor, y ty del ble roedd Kyffin Williams yn byw am y 30 mlynedd olaf o’i fywyd. Roedd llwybr coediog i’r dwyrain, rhan o Lwybr Arfordirol Cymru, yn dilyn yr arfordir, cyrraedd Cof Golofn Nelson, yn rhannol yn gymoth morwrol, adeiladwyd gan y Llangesydd Paget o Plas Llanfair gerllaw. Gan fynd i’r tir drwy fynwent Santes Fair, y man aros nesaf oedd i weld yn agos dau o’r “llewod tewion” yn gwylio’r fynedfa i Bont Britannia enwog Stevenson. Tra mae’r corfluniaethau yma yn guddiedig o’r ffordd ddec fodern daranllyd uwchben ychwanegwyd ar ol tan 1970, mae cip olwg i gael gan deithwyr y reilffordd o’r dec gwreiddiol islaw. Dilynnodd y rhan nesaf lwybr arall hyfryd coediog drwy Coed Mor, wedi ei wneud yn rhwyddach gan fordiau llydan. Roedd hyn yn cynnig nifer cyfle i weld ar draws y Swellies i ynys, Ynys Gored Goch, enwid ar ol cored bysgota yr unfed ganrif a’r bymtheg, a’r lan mor toreithiog a choediog Gwynedd tu hwnt. Daethpwyd o hyd i fan agored darluniadol i gael cinio yn yr haul, yn rhoddi golygfa eang rhyfeddol o’r ddwy, y Bont Britannia a’r un hun, yr adeiladwaith yn fwy ysblennydd a gosdeiddig ar bont grog Telford. Daeth rhan byr dyrchafedig ar hyd yr A5 a’r parti i lawr ar draws y sarn i Ynys yr Eglwys yn nodedig oherwydd ei eglwys fechan Sant Tysilio o’r 13 ganrif a’r fynwent fawr, ble mae’r bardd Cynan wedi ei gladdu. Roedd disgwylfa gerllaw’r Cofeb Rhyfel yn cynnig mwy o olygfeydd braf i’r gorllewin. Nesaf daeth Promenad y Belgiad , adeiladwyd gan ffoaduriad y Rhyfel Byd cyntaf mewn gwerthfawrogiad o’r croeso twym galon lleol. O’r diwedd daeth uchafbwynt y daith o dan adeiladwaith esgyniog o’r piler gogleddol o’r bont grog arloeswraidd, y rhychwant hira yn y byd yr amser ei adeiladwyd yn yr 1820au. Yn dilyn ymlwybrauad cymdeithasol dros gyfnod oddeutu 4 awr fe aeth y mwyafrif o’r parti yn ol ar gyfer brigbori a lluniaeth yn Pringles. Dewisiodd 8 i ddychwe;yd trwy gerdded ag ail fwynhau’r daith ar gyflymdra buan. Noel Davey. (Cyf: DHW).