Awst 23 – Gorff 24
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams, a "(Cyf-GJ)" gan Gwynfor Jones.
Dydd Sul 29ain Orffennaf 2024. Morfa Conwy-Llandudno. Teithiodd dwsin o rodwyr i Gonwy ar ddiwrnod cynnes o haf i ddilyn taith linellol gywrain i Llandudno, wedi ei dyfeisio a’i arwain gan Kath Spencer. Cychwynnodd y daith o faes parcio brysur Morfa Conwy, ymylu’r ehangder llydan o Dywod Conwy ar hyd y Traeth. Tu draw i’r cwrs golff, arweiniodd y llwybr o amgylch y marina lliwgar, heibio Coed Bodlondeb ac yn fuan i olwg ardderchog o’r dref canoloesol wedi ei dominyddu gan wrthglawdd anferth Edward. I lawr yr hudol a brysur Stryd Giât Isaf, yna croesodd y parti yr afon lydan ar bont y ffordd. Gyda bont glodfawr haearn gyr tiwbaidd Stephenson, tad y syniad bocs traws, yn dal i gludo'r reilffordd i Caergybi wedi 170 mlynedd.
Ar draeth Deganwy parhaodd y daith i’r gogledd, throi i’r tir i Eglwys yr Holl Seintiau ble roedd y ficer yn hapus i adael i’r parti fwynhau ei cinio picnic ar y gwyrdd cysgodol tu allan i gyfeiliant o’r emynau Sul tu mewn! Nawr arweiniodd y ffordd i’r gogledd-ddwyrain ar draws gwlad ar nifer o gaeau dymunol a llwybrau coediog. Ar draws yr A470 yn Coed Gaer, rhedai’r llwybr yn agos i Llys Gloddaith, tŷ gwledig o darddiad yr 16G, nawr yn ran o’r ysgol breswyl annibynnol, Coleg Dewi Sant. Ar y tir uchel ger Llys Bodafon daeth ysgubiad enfawr o Bae Llandudno i’r golwg ar y Traeth Gogleddol ac roedd y cerddwyr yn fuan yn mysg y byngalos lan môr o Craigside. Parhaodd y daith ar hyd rhodfa’r mor sydd yn rhedeg i’r gorllewin am ddwy filltir rhwng y ddwy Gogarth wedi ei linelli gan res o westai a lletyai coeth, calon y teulu Mostyn, amcan cytgordio i’r dref. Roedd rhodfa’r mor a’r traeth graeanog yn heidio gyda ymwelwyr gwyliau yn mwynhau y tywydd haf anghynefin! Ger y pier hir roedd yna aros derbyniol am hufen ia ac ail lenwi dwr.
Yna daeth dringo serth ac anodd o’r Gogarth Fawr gan droedio gydochrog a’r reilffordd halio sydd ers 1902 wedi bod yn cludo ymwelwyr 680 troedfedd i’r copa. Oddi yno roedd golygfeydd gwych yn ôl i lawr i’r bae ag o’r goedwig o dyrbinau mawreddog prin yn symud yn y mor. Tu draw i’r cynnwrf masnachol ar y copa, roedd y llwybrau gwelltog llydan ar draws y cyfandir cerrig calchog yn hyfrydwch, ond yn fuan arweiniodd y llwybr yn serth i lawr ochr gorllewinol o’r Gogarth heibio i’r plastai “Millionaire’s Row” ac yn ôl i’r ceir yn disgwyl yn Traeth y Gorllewin i’n cludo yn ôl i Morfa Conwy.
Roedd hon yn daith anarferol a wahanol wnaeth ddiwrnod ardderchog o gerdded rhwydd o 13.5 milltir dros 7-8 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Gorffenaf 18 2024. Hafan y Môr. Roedd cynnig o daith “D” hawdd gwastad yn ddigon i ddenu 27 o rodwyr ar gyfer cylch o amgylch Hafan y Môr o dan arweiniad Jean Astles a Val Rowlinson. Roedd hi gan fwyaf yn gymylog, ond eithaf cynnes a llaith gyda glaw ysgafn yn y bore.
Cychwynnodd y daith o Gapel Bryn Bachau, adeiladwyd yn 1880 ond nawr wedi ei drosi i le gwyliau moethus. Cymerwyd yr hen ffordd cyn ddyddiau’r ffordd osgoi i’r gogledd-ddwyrain i Afon Wen, troi ar ôl oddeutu milltir ar Lwybr Arfordir Cymru i lawr drwy ardal orsennaidd o dan bont Rheilffordd y Cambrian i’r mor. Yma roedd y llwybr graean ardderchog yn arwain i’r de, gan ganiatáu golygfeydd da i gyfeiriad y Rhinogau yn union ar draws y bae ac yn fuan cyrraedd tir yr enfawr Barc Gwyliau Hafan y Mor.
Dechreuodd fel gwersyll hyfforddi lyngesol rhyfel a’i drawsffurfio i mewn i’r enwog Butlins Pwllheli o’r 50au cynnar. Fel roedd patrymau gwyliau yn newid ac yn dilyn difrod storm prynwyd gan y cwmni a ddaeth yn Bourne Leisure a’i ailddatblygu o’r 1990au i dir parc coediog wedi ei gysgodi yn dda ar gyfer oddeutu 2000 llety o garafanau statig a chyfleusterau hamdden yn cynnwys clwb golff, y prif gyfrannwr i waith lleol a’r economi. Mae cynllun newydd £13mn yn mynd ymlaen yn ychwanegu safleoedd, caffi lan y mor ac amddiffyniadau arfordirol.
Aeth y llwybr ymlaen ar hyd y traeth deniadol creigiog gan fynd heibio Porth Fechan i gyrraedd pentir anial a mwy datguddiadol, Penychain. Roedd hi yn amser cinio yn yr olygwedd yma ble mae nifer o arwyddion o safle drylliau rhyfel neu yn hwyrach ar gyfer cynnal lifft cadair a reilffordd model fach Camp Butlins.
Yna trodd y ffordd i’r gorllewin ar draws y traeth graeanog a drwy’r tywodfryniau tu ol, ac o’r diwedd troi i’r tir heibio tŷ ffermdy soled, Penychain; adeiladwyd hwn gan Stad Glynllifon yn nghanol yr 19G fel fferm fodel ac mae nawr wedi ei restru fel esiampl dda o’r math hynny. Arhosodd y parti am de ar bont y rheilffordd yn Arhosfan Penychain, oedd unwaith yn orsedd stwrllyd i wersyllwyr Butlins, ond dyma dreifar trên oedd yn pasio yn hwtio mewn syndod wrth weld y nifer oedd yno heddiw!
Yn fuan wedyn roedd y ffordd yn ôl yn y man cychwyn ger y fynedfa i Hafan ar yr A497 yn dilyn oddeutu 3 awr o agosrwydd a chymdeithasu dros 4.6 milltir o gerdded rhwydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Gorffennaf 14eg 2024. Aberffraw-Rhosneigr.Teithiodd grwp o 19 o rodwyr i Sir Fôn heddiw ar gyfer taith linellol o dan arweiniad Noel ar yr arfordir orllewinol o Aberffraw i Rhosneigr. Yn groes i’r tro diwethaf i’r Clwb gerdded yn y fan hyn 15 m lynedd yn ôl, roedd hi yn ddiwrnod dymunol a heulog gyda gwyntoedd ysgafn. Gan adael y ceir ar y tywodfryniau yn Tywyn Aberffraw, croesodd y daith y bynfarch 18G gul, a throi i’r de i lawr foryd brydferth y Ffraw.
Ymylodd y llwybr y pentref bychan bellach yn ddi nod, unwaith y prif lys o Dywysogion Gwynedd. Ar ôl oddeutu milltir arweiniodd y llwybr i’r gorllewin ar hyd olyniaeth o gilfachau creigiog wedi eu sur-gerfio gan yr un dramatig brith ddu STRATA a’r cribell ac ar yr arfordir gogleddol Llyn yn union ar draws y dwr. Canfodwyd dolffins ychydig o’r lan. Yn Trwyn y Wylfa trodd y ffordd i’r gogledd ac o’r diwedd cyrraedd bae lletach, Porth Cwyfan gyda’i eglwys fach wen drawiadol ar ynys, a’r fynedfa ar hyd sarn greigiog, myned yno dim ond a’r llanw allan, oedd yn cyd-ddigwydd heddiw. Cripianodd y parti drosodd ar gyfer arhosiad goffi’r bore, edmygu’r golygfeydd a manylion yr adeilad yn dyddio o’r 12G.
Nawr arweiniodd y ffordd i’r tir ar drac heibio’r Cylch Rasio Moduron Môn swnllyd, wedi ei sefydlu yma ers yr 1990au pan ymadawodd y fyddin ei safle magnelau yn Ty Croes. Yn ôl gerllaw y dyfroedd tyfn glas oddi ar arfordir ger Ynysoedd Duon, aeth y llwybr ymlaen i’r bae tyfnach o Porth Castell neu Cable Bay, yn atgof mae y fan hyn oedd man glanio o un o’r dolennau cebl dros Iwerydd cyntaf. Daeth dringfa i’r pentir amlwg o Mynydd Mawr, ar ei orau 110 troedfedd y man uchaf o’r diwrnod, a golygfeydd ardderchog tuag at fryniau gogledd Llyn. Y fan yma yw safle Barcloddiad y Gawres (“Llond barclod o’r Gawres”), un o’r mwyaf cyflawn a diddorol o siambrau claddu oes y cerrig mawr ar yr ynys, bedd fynedfa 5000 mlynedd oed, safle cerrig cerfio anghyffredin a tho crwn gwelltog amlwg, atgyweiriwyd yn dilyn cloddio yn 1950au. Roedd y fan hyn yn le addas ar gyfer cinio hwyr.
Yn Traeth Llydan roedd yr arfordir yn agor i fyny gyda estyniadau hirach o draethau gyda tywodfryniau yn gefn iddynt. Daeth y pentref gwyliau, braidd yn ddi siâp, Rhosneigr i’r golwg, ble mae gormodedd o dai ail gartrefi yn codi’r un fath o helynt nawr yn gyfarwydd yn Llyn. Roedd y ffordd yn ôl i’r dwyrain o’r pentref heibio Llyn Maelog, llyn pysgota corsenog deniadol, ac thrwy ddrysfa o lwybrau, ac o’r diwedd cyrraedd Ty Clwb Golff Môn. Roedd y man croesawgar yma yn darparu lluniaeth yn dilyn taith rhwydd a diddorol 8.5 milltir drwy dir arfordirol gyda golygfeydd braf. Noel Davey. (Cyf: DHW)
4ydd o Orffennaf 2024. Moel y Ci - Mynydd Llandygai. Ar ddiwrnod etholiad daeth dwsin o gerddwyr o dan arweiniad Noel Davey i Foel y Ci ger Tregarth. I gychwyn roedd hi yn gymylog ac eithaf oer yn y gwynt bywiog gorllewinol, ond cadwodd y glaw bygythiol draw. Aeth y daith drwy fferm Moel y Ci, un o’r ffermydd cymdeithasol cyntaf yr UD, bron 400 erw gyda chymysgedd o gynefinoedd yn cynnwys rhostir mynyddig eang. Mae nawr yn eiddo i gwmni o dirfeddianwyr lleol yn parhau i ddarparu buddiannau i’r gymdeithas leol, yn cynnwys tir gerddi, cyflogi mulod a siop fferm/caffi.
Aeth yr 1.5 milltir cyntaf ar lwybrau gwelltog gweddol rwydd a dringo yn gyson am tua 700 troedfedd i’r llwyfandir yn agos i gopa’r Foel. Daeth paned haeddiannol o goffi yng nghysgod wal, a golygfeydd braf i lawr tuag at Sling, gwastadoedd Arfon, y Fenai ac Ynys Môn. Yna trodd y ffordd i’r gorllewin drwy goed Parc y Bwlch, gan amgylchu ochr Moel y Ci. Ar yr ochrau De Orllewinol, roedd yna ddringo ychwanegol ar hyd Tynllidiart i fan uchel tua 1200 troedfedd yn Bwlch y Mawn, lle roedd golygfeydd ar draws y wlad tuag at Elidir Fawr a mynyddoedd y Carneddau. Daethpwyd o hyd i rywfaint o gysgod o’r cyflyrau oedd nawr yn aeafol, i gael cinio, drwy nythu ymysg eithin mewn llwyn o goed.
Daeth y prynhawn â thywydd mwy heulog a chyflyrau mwy cysgodol ym mhentref chwarel Mynydd Llandygai ar yr llwyfandir oddeutu 1000 troedfedd o uchder ar ochr de-ddwyrain y bryn. Mae’r pentref yn enwog gan fod dwy res o fythynnod chwarelwyr o’r 19G, adeiladwyd ar gyfer gweithwyr yn Chwarel y Penrhyn gerllaw, gyda darn hir cul un erw o hyd bob un, yn ddigon i fwydo’r teulu. Dilynwyd heol fach i lawr i weithdai llechi Felin Fawr, unwaith yn safle’r felin slab oedd yn llifio a hollti llechi’r Penrhyn oedd yn “toi y byd”. Roedd yr adeiladau nawr yn cartrefu nifer o weithgareddau masnachol.
Yna aeth y daith ar ran 2.5 milltir o Lon Las Ogwen, ffordd beicwyr 11 milltir o yn agos i Fangor i Ogwen. Mae’r “lon fach werdd” ragorol hon yn ffordd galed wastad ar hyd gwely cyn Reilffordd mesur cul Chwarel y Penrhyn, a agorwyd yn 1801 i gludo llechi wedi eu gorffen i Borth Penrhyn. Ers 2017 mae’r ffordd wedi ei throi drwy Dwnnel ysblennydd 250m Tregarth, rhan o gyn adran Bethesda o’r “London and North Western Railway”, agorwyd yn 1885, a gaeodd yn y diwedd i nwyddau, yn1963.
Daeth cerdded cyflym â’r criw yn ôl yn sydyn i fwynhau te yng nghaffi Moel y Ci. Roedd hon yn daith ddiddorol o ddwy hanner, cyfanswm o 7.5 milltir dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 30ain Fehefin 2024. Castell Penrhyn – Llanllechid – Llandygai. Heddiw roedd taith “B” arall wedi ei threfnu gan fod yna un “A” anodd ar y rhaglen. Fel y digwyddodd pethau cafodd honno ei gohirio ac o ganlyniad cyfarfu 10 aelod ar yr hen A55 ar gyrion Bangor o dan arweiniad Dafydd Williams. Roedd yn ddiwrnod braidd yn gymylog ac yn bygwth glaw ond ar wahân i’r hanner milltir cyntaf nid oedd angen cotiau glaw ond oedd yn oer ar adegau am yr amser o’r flwyddyn.
Roedd yr hanner cyntaf o’r daith i gyfeiriad y de ac or ôl croesi un o’r pontydd dros yr A55 newydd, yn gyson ar i fyny. Yna drwy’r coed heibio Tan-y-Marian a drwy fuarth fferm Plas Uchaf oedd i’w weld yn wag, cyn dod allan, ar ôl tua dwy filltir o gerdded ar ffordd wledig a chael paned. Yna aeth y ffordd i’r dwyrain am yn agos i hanner milltir nes cyrraedd Bronydd Isaf ble ymunodd y ffordd â Llwybr Gogledd Cymru i gyfeiriad y de. Cyrhaeddwyd gwaelodion Moel Wnion o ble roedd yna olygfeydd cymylog o’r Fenai a Sir Fôn. Trodd y llwybr gwelltog ychydig i’r de-orllewin am tua 5/6 can llath a chyrraedd man uchaf y diwrnod, 1100 troedfedd. Yna troi i’r gogledd ac am i lawr am y tro cyntaf cyn ymuno â thrac rhostirol yn arwain i adeilad sylweddol, braidd yn guddiedig gan goed, Bryn Hall, yn agos i hen chwarel ddi-enw. Tua 400 llath ymhellach ymlaen trodd y llwybr i’r chwith ac ar ôl 400 llath arall cyrraedd pentref deniadol Llanllechid.
Yna cael cinio yn nghanol cerrig beddi hynafol ym mynwent eglwys y plwyf sydd wedi cau ers peth amser, dim efallai y lle gorau!! Aeth rhan y daith y prynhawn i’r gorllewin ar lwybrau coediog hyfryd a ffyrdd gwledig bychain hyd nes cyrraedd yr A5 brysur. Roedd rhaid ei chroesi ddwy waith a gyda tipyn o anhawster oherwydd y traffig di-ddiwedd a hyn i gyd er mwyn 50 llath o bellter i Halfway Bridge. Yna aeth y ffordd i’r dde o’r tŷ ar lwybr gyda’r ffensys llechi, cyfarwydd bellach, ar y chwith, a hefyd afon Ogwen. Dringodd y parti oddi wrth yr afon drwy nifer o gaeau cyn cyrraedd Cochwillan, tŷ canoloesol gradd 1 o’r 15ed ganrif. Wedyn roedd Melin Cochwillan ble roedd pont droed ddeniadol yn croesi’r afon yn fan ddelfrydol am lun grwp. Yna fe aeth y llwybr o dan yr A55 newydd ac yn fuan cyrraedd mynedfa Castell Penrhyn gyda cysylltiadau agos i gaethweision a streic enwog 1904!
Yna croeswyd yr hen A55 a drwy bentref deniadol Llandygai a dilyn llwybr heibio eglwys y pentref ac i lawr ac ar draws yr hen A55 eto, o dan bont rheilffordd ac ar lwybr wedi gordyfu yn rhedeg yn gyfochrog â’r reilffordd. Oddi yno doedd hi ddim ond tua chwarter milltir, gan fynd heibio eglwys unig arall, yn ôl i’r ceir ar ôl taith 8.5 milltir ddymunol iawn, dros 5 awr. Dafydd Williams.
Dydd Iau 20ed Fehefin 2024. Maes Awyr Caernarfon - Fort Belan. Colin Higgs arweiniodd barti o 20 ar daith gron rwydd o Faes Awyr Caernarfon i Fort Belan ar ddiwrnod ganol haf braf a chynnes. Aeth y ffordd i’r gogledd ar y tywodfryniau ar y traeth gorllewinol o’r penrhyn yn ymestyn allan rhwng ceg y Fenai a Bae’r Foryd. Roedd un rhan yn arwain ar hyd y traeth lle roedd gro yn ei gwneud hi’n anodd, ond roedd yna olygfeydd anhygoel ar draws i Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn ar draeth Ynys Môn.
Wedi tua dwy filltir cyrhaeddodd y llwybr y man mwyaf gogleddol. Mae’r amddiffynfa hudol, Fort Belan, yma ar drwyn tywodlyd ble mae’r Fenai yn ei man culaf a’r llanw ar ei gryfa. Adeiladwyd tua 1775 gan Thomas Wynn, yn hwyrach yr Arglwydd Newborough, fel llety milwrol Sir Gaernarfon ac i ymateb i’r bygythiad gan Rhyfel Annibyniaeth America. Cafodd ei warchod eto mewn 20 mlynedd yn erbyn Napoleon. Mae’r ffort nawr yn cynnig gosodiadau gwyliau ac ambell i gyngerdd. Mae yn dal yn eiddo preifat ynghyd â tir a llwybrau cyfagos a’r tro hwn nid oedd yn bosib cael gweld y dryll mawr, gwrthgloddiau, y bont godi na nodweddion eraill o’r ffort. Roedd wal allanol yn lle cyfleus i’r parti eistedd yn yr haul am ginio, mwynhau y panorama ysblennydd o fynyddoedd gogledd Eryri yn edrych yn eithriadol o siarp yn awyr clir y diwrnod.
Dilynodd rhan y prynhawn y trac mynediad i’r de ar lwybr cyhoeddus ar gob yn ymylu ar Warchodfa Natur Leol y Foryd, ardal lydan o gorsydd halen, daearau llanw, tywod a mwd sydd yn ardaloedd porthi pwysig i adar gwylltion a rhydwyr cynefin a mudol, fel wiwelloedd, piod môr a cornchwiglod. Ger maes carafannau enfawr, ymunodd y llwybr â Llwybr Arfordirol Cymru, troi i’r de ddwyrain, cyn troi yn ôl i Faes Awyr Caernarfon. Roedd y fan hyn yn brysur gyda llawer o awyrennau bychain yn hedfan yn mwynhau yn yr awyr braf a chlir. Sut bynnag mae’r cyhoeddiad cadarnhaol diweddar o golled yr Ambiwlans Awyr yn sicr o fod yn fygythiad poenus i fodolaeth y Maes Awyr.
Roedd y caffi ardderchog yn lle addas i gael lluniaeth ar ddiwedd y daith ddymunol a chymdeithasol o tua 6 milltir ar dir gwastad dros 3.5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 16eg Fehefin 2024. Moel Meirch. Llyn Edno ar lwybrau. Heddiw mwynhaodd 7 cerddwr gylch gweddol ddirgel yn nghanol Eryri, gan gynnwys crib Moel Meirch a Llyn Gwynant. Dyfeiswyd y daith gan Hugh, ond Noel arweiniodd ar y diwrnod. Gwnaeth y tywydd heulog, clir y gorau o’r golygfeydd mynyddig ysblennydd.
Cychwynnodd y daith gerllaw Gelli Iago ar ffordd wledig, gul uwchben Bethania, cyfeirio i’r gogledd ddwyrain i fyny Cwm Llynedno ar lwybrau aneglur, yn aml yn greigiog a chorsiog. Roedd rhododendrons cochlas gwyllt yn eu gogoniant ar bob llaw. Arhoswyd am baned ar ôl tua dwy filltir mewn corlan ddefaid gerrig fawr, bron wedi amgylchynu gan nentydd egnïol. Wedi dringo cyson am tua 1200 troedfedd cyrhaeddwyd y grib islaw creigiau garw Moel Meirch.
Oddi yno trodd y ffordd i’r gogledd ar hyd llwybr cul ar ochr y grib ychydig o dan y copa, gan ddilyn ffens a’r hen derfyn sir ar uchder o tua 1800 troedfedd. Daeth hyn â golygfeydd braf i’r dwyrain ar draws gweunydd gwyllt i gyfeiriad crib y Cnicht, Ysgafell Wen, Arddu a chopa amlwg Moel Siabod o’n blaenau. Ger Cerrig Cochion roedd cysgod o’r gwynt oedd erbyn hyn yn fywiog, a lle addas ar gyfer cinio yn edrych dros y tirlun llydan gwag. Ar y Sul braf yma o Fehefin, dim ond dau gerddwr arall welsom i fyny yn y mynyddoedd, un yn nofiwr yn y gwyllt, er mor agos i lechweddau prysur Yr Wyddfa.
Wedi taith anodd i lawr daethom o’r diwedd i Fwlch y Rhediad tua 1250 troedfedd, ychydig islaw i Carnedd y Cribau, gyda trac yn dod o gyfeiriad Dolwyddelan ar groesffordd. Yma trodd y cyfeiriad i’r gorllewin, i lawr i Lyn Gwynant, oedd yn disgleirio yn yr haul. Roedd yna olygfeydd mawreddog o’r Wyddfa ymestyn o Yr Aran, Lliwedd, Gallt y Wenallt a Chrib Goch i’r gwastatir llydan o’r Glyderau ar draws y Dyffryn. Aeth y llwybr drwy ardal goediog gyda celli o onnen trist yn dangos difrod clwy.
Wedi croesi’r A498 i Ben y Gwryd dilynwyd ffordd wledig is i wersyll gwyliau ac ar hyd glan y llyn. Ymhen ychydig o gerdded ar hyd y ffordd bost daeth y cerddwyr i drac dymunol mwsoglyd yn mynd ymlaen drwy goedwig dywyll Nant Gwynant yn ôl i fyny ffordd Gelli Iago. Roedd hon yn daith foddhaol ac eithaf egnïol o tua 9 milltir, dros 7 awr gyda chyfanswm dringo o rhyw 2700 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 13 Fehefin 2024. Cae Amos. Cyfarfu 26 o aelodau a ffrindiau o’r clwb o dan arweiniad Kath Spencer a Judith Thomas yn Garn Dolbenmaen ar gyfer taith Goffa arbennig. Roedd hon er cof am Ian a Marian, dau aelod ffyddlon o’r Clwb a gollwyd yn drist y flwyddyn diwethaf. Roedd y ddau yn gerddwyr cyson a chadarn, yn arwain teithiau, dros gyfnod o flynyddoedd, yn gymeriadau cryf yn eu ffordd eu hunain ac yn ffrindiau i lawer yn y Clwb.
Roedd y tywydd yn wael, ond ddim mor ddrwg â’r rhagolygon gyda glaw ysgafn o awyr lwyd a gwyntoedd cymedrol. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r pentref (sy’n haeddu canmoliaeth am ei dŷ bach), ar hyd nifer o lwybrau waliog cul, dringo Bwlch y Bedol i gyfeiriad y gogledd ddwyrain rhwng Craig y Garn a Mynydd Graig Goch. Wedi cyrraedd y rhostir agored roedd y llwybr yn greigiog ac yn anodd mewn llefydd, gyda nifer o gamfeydd ystrywgar, ond roedd yna olygfeydd da dros gefn gwlad o amgylch.
Ar ben y pas, oddeutu 800 can troedfedd o uchder, daeth hen fwthyn unig Cae Amos i’r golwg yn nythu ar lwyfandir gwelltog uwchben Cwm Pennant. Prynwyd hwn yn y 1960au gan Glwb Mynydda Leeds, a’i wella, ac ers 2015 rheolwyd gan “Mountain Bothies Association”, cymdeithas sydd yn cynnal llochesau syml mewn mannau anghysbell o’r wlad er budd pawb sydd yn hoffi mannau gwyllt ac unig. Mae’r llwybrau corsiog i’w gyrraedd yn gyfarwydd i Rhodwyr Llyn. Croesawodd dau gerddwr oedd yn aros yno y rhai o’r parti oedd yn medru ciniawa tu mewn wrth y tân, tra roedd eraill yn iawn yn clwydo tu allan.
Ar ôl cinio dywedodd Dafydd ychydig o eiriau o’i atgofion hapus a thrist am Ian a Marian, a gorffen drwy adrodd y ddwy linell olaf o’r penillion adnabyddus gan Eifion Wyn “Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws? A bywyd hen fugail mor fyr?” Roedd y ffordd yn ôl ar drac haws o amgylch Braich Garw, ac o’r diwedd ymuno â’r ffordd wledig yn ôl i’r Garn.
Er gwaethaf y tamprwydd, roedd y daith fer hamddenol o 4 milltir i fan ffafriol yn ymddangos yn deyrnged briodol i hen ffrindiau. Gwnaethpwyd casgliad ar ran Dementia UK ar ddiwedd y daith. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 2 Fehefin 2024.
Cylch Criccieth-Pentrefelin (Taith C). Oherwydd fod yna daith “A” ar y rhaglen dyma Dafydd Williams a Jean Norton ar fyr rybydd yn gwirfoddoli i arwain taith arall “B” 8 milltir ar fore Mehefin bendigedig, gyda 3 aelod arall.
Cychwynnodd y grŵp o’r caffi adnabyddus, y Blue China ar lan y mor ac ar hyd y promenâd a thu ôl i’r tŷ bwyta poblogaidd Dylan’s a chymeryd y llwybr cyfochrog â’r rheilffordd i gyfeiriad Porthmadog. Dilynwyd hwn cyn belled â hen Orsaf Craigddu ble mae’r llwybr yn mynd i’r dde am ychydig ac yna i’r dwyrain ac ar i fyny heibio Penrhyn Farm. Roedd y tŷ fferm hwn wedi ei adael am rai blynyddoedd ond nawr wedi ei ailgodi yn daclus gyda stablau ceffylau wedi eu hychwanegu ato. Yna mynd heibio hen dy Tripp ar y chwith. Ar un amser roedd yna lwybr gyferbyn yn mynd i lawr yn serth ac mewn rhai mannau yn beryglus i’r tywod ac ogofau y Graigddu. Ychydig ymhellach ymlaen ymunodd y trac â ffordd Wern i’r Graigddu, mynd i’r chwith ac yn serth ar i fyny am oddeutu 300 llath nes cyrraedd eglwys Treflys.
Cymerwyd arhosiad o tua ugain munud ar gyfer coffi’r bore cyn dilyn y ffordd wladaidd i gyfeiriad bont Wern gyda arosiadau aml ar y ffordd droellog i osgoi ceir yn mynd i’r Traeth. Wedi cyrraedd Wern dyma groesi’r A497 brysur i gyfeiriad y Plas ac yn syth i’r chwith wedi mynd o dan y bont, ar lwybr dymunol ar i fyny i ddechrau. Troellodd hwn yn ddymunol drwy stad y Wern cyn dod allan ar ôl hanner milltir ar lwybr yn arwain o Benmorfa i Bentrefelin.
Cymerwyd cinio yn y cysgod ar “seddi “ cerrig ac yna i gyfeiriad Pentrefelin. Ar ei gyrion dyma alw yn nhŷ merch a chyd aelod oedd newydd gael clun newydd.
Gan ymuno â’r A497 mynd i’r dde yn senotaff y pentre i gyfeiriad Criccieth ac yna wedi mynd heibio Plas Gwyn, cartref nyrsio, i’r chwith i lawr dreif Ystumllyn. Mae’r plasty gwasgaredig Gradd11 hwn o’r 16G hwyr ac wedi ei ymestyn yn helaeth yn y 18G. Ymlaen i’r de i gyfeiriad y môr drwy dir y plas aeth y llwybr ac, ar ôl mynd drwy feudai amlwg, mynd drwy nifer o gaeau gwellt glas cyn cyrraedd y rheilffordd a’r llwybr allanol.
Yna dim ond pellter byr oedd i’r ceir ar y promenâd i gwblhau taith bleserus 8 milltir dros 4.5awr ar gyflymder hamddenol. Dafydd Williams.
Cwm Ceris, Maesglase, Maen Du & Craig Rhiw-erch (Taith A). Mwynhaodd ddwsin o rodwyr o dan arweiniad Adrian Thomas ddiwrnod arbennig yn cerdded y cylch gwych o Ddinas Mawddwy i Faesglase. Mae’r ardro godidog yma yn olygfa gyfarwydd i’r de o’r A470 yn dod i lawr o Fwlch Oerddrws. Nid oedd y Clwb wedi cerdded yma ers 15 mlynedd a’r amser hynny o gyfeiriad gwahanol o Aberllefenni drwy Waun Oer.
Roedd y diwrnod yn gynnes, sych a heulog gyda awel ddymunol dawel. Roedd y cyflwr gweledig yn gampus. Wrth adael y pentref y gamp gyntaf oedd croesi’r A470, yn brysur eithriadol heddiw gyda ras “Red Bull Hardline Mountain Bike” ar y llwybrau i’r gogledd. Yn fuan aeth llwybr coedwig â’r parti i ddringo yn gyson mewn cysgod adfywiol, a gadael y rhuo o’r ffordd bost islaw. Yn dilyn 500 troedfedd o ddringo daeth y llwybr allan ar waun agored, a dilyn ar hyd ochr Foel Dinas ar lwybr cul oedd yn aml yn anodd drwy eithin, grug, llus a rhedyn. Daeth y cwm dyfn rhewlifol o Faesglase i’r golwg yn llawn, yn ei ben wedi eu hymylu gan glogwyni serth wedi eu rhwygo gan ddwy raeadr.
Roedd arhosiad am baned yn rhoddi cyfle i fwynhau yr olygfa ar draws Cwm Cerist i Foel Benddin, ei ochrau crynion yn drawiadol gyda rhododendron piws. Roedd Glasgwm a copa pigog Aran Fawddwy yn codi tu cefn. Esmwythodd y llwybr i’r gorllewin yn Bwlch Siglen, ac yna dringo i’r gogledd uwchben waliau clogwynog Craig Maesglase. Roedd tarddiad dyfroedd Nant Maesglase gyda’i graig amlwg, prin uwchben y rhaeadrau mwyaf gogleddol yn fan ardderchog i gael cinio o amgylch 1700 troedfedd.
Yna roedd llwybr gwellt, gweddol rwydd, drwy fwy o lus yn codi i’r tri prif gopa gwelltog o Faesglase, Maen Du a Craig Rhiw erch, i gyd o amgylch 2200 troedfedd o uchder yn ffurfio gwastatir. Er ddim yn enwog yn eu hunain maent yn cynnig golygfa ar draws mynyddoedd canolbarth Cymru o Frig Cadair Idris, y ddwy Aran a’r ddwy Arenig gerllaw i ganol garw Eryri yn y gogledd, y Berwyn yn y dwyrain a’r bryniau glas diddiwedd yn y de.
Wedyn roedd disgyniad serth i lawr yr ochr ogleddol yn agos i ffens, ymylu Moel Cwm yr Eglwys ac o’r diwedd cyrraedd gwaelod y dyffryn yn Tyn y Celyn lle roedd gwraig fferm groesawgar yn ein cyfarch a chynnig dŵr ffres! Aethom ar draws yr A470 i lon wladol ddymunol a thrac coediog yn arwain yn ôl i Ddinas Mawddwy.
Roedd hon yn daith o’r radd uchaf mewn tirwedd ar ei orau, pellter o ryw 8-8.5 milltir a 3000 troedfedd o ddringo dros 6.5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW)
23ain Fai 2024. Faenol – Felinheli. Diwrnod tamp llwyd gyfarchodd barti o 18 o dan arweiniad Miriam Heald ar gyfer taith heddiw ond roedd yr awyr prudd a’r glaw man i weld yn acennu y gwyrddni llachar o’r coed a chaeau Parc Faenol y man cyfarfod. Yr ardal yma oedd trefgordd o “Maenol” esgobion Bangor tan y Diwygiad. Prynwyd gan y teulu Assheton-Smith o’r 18G, a’i wnaeth yn dilyn y Rhyfeloedd Napoleon, yn Barc Ceirw a cychwyn yr harbwr yn Port Dinorwig (Felinheli) ar gyfer y chwareli llechi enfawr Dinorwig yn Llanberis. Nawr mae’r tir a fferm y stad dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cychwynnodd y ffordd o’r ymyl gorllewinol i Barc Busnes Menai ac i lawr yn syth ar lwybrau mwdlyd yn arwain drwy Coed Vaynol sydd rywfaint yn wyllt ac wedi eu esgeuluso. Daeth hwn i adeilad coffa Gothig prudd ond gafaelgar adeiladwyd gan Henry Kennedy yn 1878, nawr wedi ei amdoi gan ywen afreolaidd ac o’r golwg bron gan goed eraill. Yna roedd aros am goffi ar nifer o fyrddau picnic gwladaidd. Ymunodd y ffordd a rhan o Lwybr Arfordirol Cymru ac ymlaen drwy Loches Penlan ble roedd cyn adeilad bychan y stad wedi ei amgylchu gan fynwent ryfedd o geir a wagenni a chreiriau eraill wedi eu afradloni! Cyrhaeddodd y llwybr traeth Menai yn yr hen Gwt Cwch, nawr yn dy preifat, a phorthladd bychan gyferbyn a Plas Newydd ar ochr Sir Fon. Aeth y daith ymlaen i’r de ar hyd y traeth gyfochrog a’r wal enfawr y Parc Ceirw, drwy ran hir o goed dymunol a chaeau yn cael eu pori gan ddefaid a’i wyn. O’r diwedd dyma gyrraedd y giât terfyn yn arwain i’r datblygiad tai diweddar, Watkin Jones, yn yr Felinheli.
Daeth taith diddorol ar ochr yr hen geiau a’r parti i’r caffi ‘Swellies’ ar gyfer cinio haeddiannol ar eu byrddau picnic. Fe aeth ffordd y prynhawn yn ôl ar y llwybr ar hyd y traeth ac ymlaen i ‘Bath Cottage’ ac yn syth yn ôl i’r man cychwyn heibo’r adeilad coffa. Er gwaethaf y tamp a’r tywyllwch, roedd hon yn daith fwynhaol a chymdeithasol o agos i bum milltir dros 4 awr dros dir gwastad rhwydd. Noel Davey. (Cyf:DHW).
19ed Mai 2024.
Llanfrothen. Taith B. Gan fod yna daith A egnïol ar y rhaglen mi wirfoddolodd Dafydd Williams a Jean Norton i arwain taith arall C. Cychwynnodd hon o’r caffi/siop yng nghanol pentref Garreg, Llanfrothen ar ddiwrnod braf eithriadol ac am yr ail Sul yn olynol nid oedd cwmwl yn unlle. Roedd yna chwe cerddwr yn bresennol a chychwyn i gyfeiriad Beddgelert ac yn fuan heibio’r senotaff unigryw y pentref ac yna “Y Ring”, tafarn boblogaidd am lawer o flynyddoedd. Yn flaenaf oherwydd y Cofid bu i’r dafarn gau ond diolch i ymdrechion y gymuned mi ail agorwyd yn ddiweddar.
Wedi mynd heibio’r “Ring” aeth y ffordd i’r dde i gyfeiriad Croesor, heibio Plas Brondanw, yn enwog oherwydd Clough Williams-Ellis, a dilynwyd hon am oddeutuy 400 llath cyn troiad i’r dde o 90% ac yna troiad bron llawn ar drac coedwigaedd yn arwain i’r gogledd yn gyfochrog a’r ffordd. Yna mi oedd dringo cyson heibio Garreg Fawr a Hafodty am oddeutu 1.25 milltir tan cyrraedd y ffordd yn arwain i’r dwyrain o Groesor i Maentwrog, ble arhoswyd am baned. Yna ail gychwyn i gyfeiriad Maentwrog gyda’r Moelwyni yn fygythiol uwch ben ac i’r de golygfeydd hardd o arfordir Bae Ceredigion, ac yn dilyn hanner milltir cymerwyd llwybr i’r dde. Arweiniodd hwn drwy ardal goedwigaidd braf a dyma giniawa ar greigiau a bonynau coed cyfleus ger Hendre Gwenllian.
Wedi mynd heibio Tyddyn Gwyn, ble mae tŷ fferm newydd wedi ei adeiladu yn ddiweddar, roedd hi yn foddhad i sylwi hefyd fod dwy gamfa newydd wedi ei adeiladu i gymeryd lle rhai anodd. Wedi cyrraedd Stad y Wern roedd rhaid croesi tri cae mawr tan cyrraedd Fferm y Wern a’r maenor hanesyddol o’r 16G. Ychydig ymhellach cymerwyd tro i’r dde ar lwybr garw ar i fyny drwy’r coed a chyrraedd yn ôl uwchben y pentref. Oddi yno roedd ond ychydig ar i fyny i gyrraedd Ffolineb Clough Williams-Ellis. Adeiladwyd hwn gan y dyn ei hun ar ddechrau’r Rhyfel Mawr (1914) gyda arian a gafodd gan ei gyd swyddogion yn y “Welsh Guards “, ar achlysur ei briodas. Yn syml mae hwn yn adeilad bychan cerrig tri llawr wedi ei amgylchu gan goed ac oddi yno roedd hi ddim ond pellter byr i ail ennill y ffordd allanol ac yn ôl at y ceir.
Roedd y daith ychydig dros 6 milltir dros 4 awr ar gyflymdra synhwyrol yn ôl y tymherau. Mawr oedd y siom pan i’r cerddwyr gael y caffi ar gau! Dafydd Williams.
Tyrrau Mawr. Taith A. Mae yn edrych fod y Clwb yn gwneud y daith ardderchog yma oddeutu pob pum mlynedd, dringo’r “tyrrau mawrion”, crib yn ymestyn i’r ochr forwrol o Cader Idris. Y tro hwn mi aeth yna ddwsin, yn cael eu arwain gan Sally Kettle a Debbie Lucas, i fyny’r ffordd serth, cul a throellog drwy’r coed o Arthog i’r man cychwyn yn Llynnau Cregennan, tipyn o gamp yn ei hun. Mae’r llynnau cyfareddol yma 800 troedfedd o uchel yn gyrchfan poblogaidd, yn enwedig ymysg pysgotwyr.
Roedd y diwrnod yn sych a heulog gyda’r awyr yn glir ac awel ysgafn. Cychwynnodd y daith i gyfeiriad y dwyrain ar hyd yr ochr gogleddol o’r llyn mwyaf, ac ymlaen heibio Nant y Gwyddail i ymuno a rhan fetel o’r hen drac ucheldir o’r Ffordd Ddu sydd yn arwain o’r arfordir i lawr i Ddolgellau. Ar ôl oddeutu milltir, trodd y parti i mewn i le caeedig waliog yn cael ei ddefnyddio fel corlan ddefaid. Yn dilyn aros am baned roedd yna ddringo serth i ymuno a’r Pony Path, trac ardderchog graean gyda stepiau cerrig sydd yn ffurfio y ffordd mwyaf poblogaidd i fyny Cader Idris. Yn dilyn hanner milltir trodd y parti i’r gorllewin ar hyd y grib yn Rhiw Gwredydd, dringo yn gyson heibio’r carneddau yn Carnedd Lwyd ac ar y twmpath gwelltog o Tyrrau Mawr ei hyn, 2230 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod.
Roedd yna olygfeydd gogoneddus i’r gogledd ar draws y Mawddach i Diffwys yn y Rhinogydd, tra roedd Bermo ei hun wedi ei amwisgo mewn strimyn cul gwyn o niwl mor oer, yn ymylu ar yr arfordir, yn gadael Pen Lleyn yn glir yn y pellter. Cymerodd un o’r cerddwyr ffordd serth y Cambrian Way yn y fan hyn yn syth i lawr i Hafodty Bach i fod adref mewn pryd i’r pêl droed. Yna daeth rhan blinedig, i lawr ac yna i fyny yn ôl i’r grib, aeth y prif gangen, ar dro hir agored o Graig y Llyn.
Cymerwyd cinio hwyr ar frigiad creigiog oedd yn caniatáu panorama rhyfeddol i’r de a’r dwyrain yn ôl i Pen y Gadair, i Fryniau ‘r Tarren ac i lawr Dyffryn Dysynni. Yn Twll yr Ogof roedd yna garn anrhrefnus yn uchel uwchben Llyn Cyri. Aeth yr hynt heibio’r goedwig yn Braich Ddu, disgyn Craig Cwm Llwyd yn gynnil ac o’r diwedd ailennill yr hen drac Ffordd Ddu. Arweiniodd hwn yn ôl i Lynau Cregennan, yn cynnig golygfeydd gafaelgar o’r llethrau creigiog a chlogwynau Tyrrau Mawr newydd ei ddringo. Roedd hon yn daith ardderchog iawn o 11.5 milltir gyda dringo cynyddol o 3200 troedfedd dros 7 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Sul Mai 5ed 2024. Cylchdaith Talsarnau. Cyfarfu deuddeg o gerddwyr o dan arweiniad Gwynfor Jones yn Talsarnau, ger Harlech, ar gyfer taith ddifyr yn fryniau Ardudwy. Roedd, o’r diwedd, yn ddiwrnod gwanwyn heulog a chynnes gyda gwyntoedd ysgafn. i gychwyn aeth y daith i lawr i’r arfordir yn Glastraeth ac i’r gogledd ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru (neu yn hytrach y trac cyfleus ar ei ochr) yn ymylu a ehangder gwyrdd o gors halen yn cael ei choesymgroesi gan rwydwaith o nentydd. Roedd yr ynys anghyfannedd ond preifat Ynys Gifftan gerllaw tu mewn i Aber y Dwyryd llydan, hygyrch gan lwybr cyhoeddus a llanw isel. Roedd cromennau lliwgar a’r meindyrau o Bortmeirion Clough yn disgleirio tu draw ar y lan pella.
Ger Bryn Glas croesodd y ffordd yr A496 yn Llandecwyn, a dringo 500 troedfedd i fyny Dyffryn sych gwelltog yn arwain i Lyn Tecwyn Uchaf, cronfa sydd yn bwydo cyfundrefn dwr Llyn. Y prif nodwedd yn y fan hyn yw’r rhes o beilonau anferth yn cyfeirio i gyfeiriad Trawsfynydd, yn atgof fod 10 o’r rhain yn is lawr ar draws yr aber i Minffordd yn cael eu symud ac yn dod a gwellhad gweledol anferth i’r tirlun, er am gost anferth. Yn dilyn aros am goffi ger y gronfa, roedd bryn cyfagos 700 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod, yn caniatáu golygfa wych ar draws y Dwyryd i lawr yr orynys. Arweiniodd trac i’r de i lawr i’r eglwys syml, St Tecwyn, mewn safle odidog, o ddechreuad hynafol ond wedi ei ail adeiladu yn yr 19G. Aeth heol fach ymlaen heibio Plas Llandecwyn, tŷ diddorol o’r 17G wedi ei restru, a chyrraedd y Llyn Llandecwyn Isaf atyniadol o dan y coed. Ymhellach ymlaen roedd yna lwybrau prydferth drwy’r hen goedwigoedd derwen hyfryd yn Ceunant Coch a Coed Garth Byr ar dan gyda dail llachar y gwanwyn a mwsog tew yn yr heulwen amryliw.
Profodd pentir agored i fod yn fan ardderchog i ginio gyda golygfeydd i’r pellter ar draws Bae Tremadog ac i’r de i gastell Harlech. Yna aeth y ffordd drwy bentref bach Soar, a disgyn drwy Black Wood i’r arfordir gwastad yn Glan y Wern. Oddi yno dilynwyd eto y Llwybr Arfordirol yn ôl i Talsarnau. Roedd hon yn ddiwrnod allan ardderchog, pellter o 8-9 milltir rhwydd dros 5-6 awr gyda 1700 troedfedd o ddringo, a’i gwblhau gyda lluniaeth yn dafarn y Ship Aground, Talsarnau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 25ain Ebrill 2024. Daith Peunod- Bontnewydd – Waunfawr. Cylch o Bontnewydd trwy Waunfawr o dan arweiniad Tecwyn Williams oedd taith heddiw. Ymunodd 18 aelod a’r daith. Roedd yn ddiwrnod sych o gymylau claer ac awel gymedrol. Cychwynnodd y grwp o arosfan ger Gipsy Wood, a chymryd ffordd wladol ddymunol i’r de ddwyrain. Mae hon yn ran o Ffordd Lôn Gwyrfai, ffordd hamdden amrywiol yn ymestyn i Beddgelert.
I ddechrau aeth y ffordd drwy dir fferm coediog moethus gyda rhai preswylfeydd hardd yma ac acw fel Bodwyn ac Castellmai. Ychydig ymhellach, Plas Glan yr Afon, tŷ yn wreiddiol o’r 17G ond nawr yn adfeilio, cyfres o ysguboriau a beudai lle rhoedd casgliad chwilfrydig o beunod gwyllt ysgrechlyd, yn torsythu o amgylch, gan arddangos eu hadenydd lliwgar a sefyll ar doeau ysguboriau o amgylch. Roedd y fan hyn hefyd yn wlad merlynnod: roedd y caeau oll bron yn ymestyn i Waunfawr i weld yn cael eu pori gan geffylau o bob maint a lliw. Aeth y llwybr drwy adeiladau sylweddol “Snowdonia Riding Stables” yn cynnig marchogaeth ceffylau a’r cyfle” i Weld Eryri o’r Cyfrwy”. Yna roedd adran o ffordd drwy bentref Waunfawr, croesi pont dros Afon Gwyrfai a heibio Tafarn Snowdonia Parc. Dringodd ffordd wledig goediog yn serth i’r gorllewin heibio Parc Dudley, gwarchodfa natur ar hen safle chwarel19G wedi ei wella yn ddiweddar gan blannu coed a llwybrau mynediad.
Roedd yna saib am ginio mewn man agored 700 troedfedd mewn ardal o gerrig hynafol, waliau a bythynnod cylchog gyda golygfeydd braf i lawr i wastadedd Arfon ac Ynys Môn. Roedd rhan y prynhawn yn gwneud ryw fath o ffigwr wyth, mynd ar draws caeau a drwy Ddyffryn coediog hyfryd Afon Gwyrfai. Roedd yna lwybrau rhwng waliau hyfryd yn y fan hon ymhlith llwyni fel parc cyhoeddus, o goed aeddfed a chlytiau rhyfeddol o flodau’r gwanwyn, clychau’r gog, llygad madfall, garlleg gwyllt, anemoni coed a briallu. Yn Fferm Dol Pandy cyrhaeddodd y ffordd gyrion Bontnewydd. Roedd y “Daith Peunod” yn ddiwrnod difyr dros ben o ryw 7 milltir dros 4.5 awr mewn gwlad hyfryd na ymwelir â hi yn aml. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ebrill 21ain 2024. Croesor - Moelwyn Bach. Adrian Thomas arweiniodd 9 o gerddwyr o Groesor ar gylch o’r Moelwynion. Cafwyd diwrnod sych gyda gwelediad da, ond ychydig o gymylau a llawer llai o wynt na wynebwyd yn ddiweddar. Cychwynnwyd ar y trac gwaelod dyffryn i fyny Cwm Croesor cyn cael pont droed dros yr Afon Croesor hanner ffordd i fyny’r Cwm i ddilyn llwybr cul at i fyny. Ar ddarn arbennig o drafferthus o leiaf cafwyd arwydd mawr i gadarnhau ein bod yn dilyn llwybr! Wedi rhyw filltir, a dringo rhyw 1000 troedfedd o dan lethrau sgri'r Cnicht cyrhaeddwyd Llyn Cwm y Foel am ein panad boreol.
Yma cafwyd golyga wych i lawr y dyffryn am Benrhyndeudraeth a draw i Benrhyn Llyn. Siâp U sydd i’r dyffryn yn nodwedd glasurol o’r rhewlif a’i creodd . Codwyd argae yma yn 1904 a’r gronfa wedyn yn cynhyrchu trydan. Daeth ei ddefnydd i ben yn y 1950 , a bu’r adeilad ble’r cynhyrchwyd y trydan ar lawr y dyffryn yn gwasanaethu aelodau’r Urdd fel Canolfan Blaen-cwm. Daeth y defnydd hwnnw i ben ac erbyn hyn mae cynllun hydro 500kW fwy modern wedi ei ail sefydlu ers 1999.
O’r fan honno dilyn tirwedd fwy anwastad heibio Llynnau Diffwys i olwg tirwedd chwarelyddol Rhosydd a’i domennydd gwastraff, gweddillion adeiladau’r chwarel a barics wasanaethodd y gloddfa sylweddol orwedda o dan y llwyfandir islaw’r Moelwyn.
Wedi ail ymuno ag un o’r criw a geisiodd lwybr haws i fyny’r dyffryn, aethpwyd ymlaen i fyny inclein garegog trwy’r tomenni cyn cyrraedd llwybr glaswelltog i fyny am gopa Moel-yr-Hydd. Oddi yma cafwyd golygfeydd gwych lawr i Tanygrisiau ac i gyfeiriad yr hen Chwarel Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Cafwyd peth cysgod ar lecyn creigiog islaw’r copa wrth dreulio’n cinio, a myfyrio ar gopaon y ddau Arenig a Chadair Idris i’r dwyrain a’r de.
Y llwybr lawr eto yn welltog i gychwyn nes cael llwybr chwarel ar hyd ysgwydd ddwyreiniol Moelwyn Mawr, heibio cefn Llyn Stwlan (y gronfa uchaf i’r gwaith Hydro yn Nhanygrisiau), ac yna i Fwlch Stwlan sef y bwlch rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach.
Oddi yno, llwybr caregog serth i gopa Moelwyn Bach sef uchafbwynt y dydd ar 2335 troedfedd. Eto golygfeydd gwych i bob cyfeiriad fel gwobr am yr ymdrech cyn dilyn yr ysgwydd hawdd laswelltog yn ôl i lon Tanybwlch a’r cam byr wedyn i bentref Croesor. Diwrnod bendigedig milltir mewn mymryn dros 8 awr a dringfa o 2600 i gyd. Noel Davey. (Cyf GJ).
Dydd Iau Ebrill 11ed 2024. Aber Ogwen. Kath Spencer arweiniodd 19 o rodwyr ar gylchdaith 6 milltir o Aber Ogwen. Roedd yn ddiwrnod dymunol, mwyn a heulog heb y gwyntoedd cryfion sydd wedi bod yn boen ar deithiau diweddar. Roedd y ffordd a fabwysiadwyd yn newid da i’r daith oedd ar y rhaglen oherwydd i’r adran fwriadol o Lwybr Arfordirol Cymru o amgylch Castell Penrhyn fod yn fwdlyd ddychrynllyd ac o bosib yn anodd mynd arno oherwydd y llanw uchel. Cychwynnodd y daith yn y maes parcio bychan ar lan Traeth Llafan, yn edrych ar draws i ffrynt lliwgar Biwmares ar Ynys Môn, twmpath Ynys Seiriol wrth ei ochr, ac yn bellach golygfa o’r Creigiau yn Llandudno. Cymerwyd y ffordd arfordirol i’r de heibio’r Goedwig Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, cynefin pwysig i’r adar gwylltion yn cynnwys morlynnoedd a thyfiant gyda mannau ymguddio.
Aeth y daith ar lwybr cae, heibio eglwys lom St Cross o ddiwedd y 19G, ac o gwmpas y rhan fwyaf yn ddiweddar o bentref Talybont. Ym Mhentrefelin aeth y llwybr o dan yr A55 swnllyd, ac arhoswyd am baned ger Felin Cochwillan yn uchel uwchben dyfroedd cyffrous yr Afon Ogwen. Ychydig ymhellach ymlaen trodd y daith i’r dwyrain ger llys nodedig Cochwillan: hwn yw’r tŷ gorffenedig canoloesol pwysicaf yn yr ardal yn dyddio o’r 15G a adeiladwyd gan William ap Gruffydd o Benrhyn (a frwydrodd dros Harri’r Vll yn Bosworth). Yna ymunodd y ffordd a rhan o Lwybr Gogledd Cymru. Daethpwyd o hyd i le hyfryd am ginio mewn glyn creigiog ar ochr nant goediog.
Yna dringodd y parti a mynd o amgylch Marianywinllan, llethr wedi ei phlannu â choed ffawydd. Roedd y coed a’r tai sylweddol gwasgaredig a’r adeiladau fferm yn atgoffa fod yr ardal hon yn eiddo i’r Teulu Pennant. Ym 1951 trosglwyddwyd 40,000 acer o’u stad fynyddig gan gynnwys Castell Penrhyn, i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy’r Gronfa Tir. Yn dilyn ail groesi’r A55, roedd y cerddwyr yn sydyn yn ôl ar yr heol fach i Aber Ogwen, wedi mwynhau taith bleserus, rwydd o tua 4 awr yng nghefn gwlad y gwanwyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ebrill 7ed 2024. Conwy i Abergwyngregyn. Roedd taith heddiw yn 16 milltir heriol o Conwy dros y bryniau i Abergwyngregyn. Cyfarfu parti o 12 o dan arweiniad Eryl Thomas yn Aber mewn pryd i ddal y bws 9.42 i ganol Conwy. Roedd tro drwy’r dref gyfareddol yma ac ar hyd y cei yn golygu saib anorfod am lun yn y “Tŷ lleiaf ym Mhrydain”. Yna dilynodd y ffordd lwybr oedd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, yna ymylu â choedwig Parc Bodlondeb a’r Marina, gyda golygfeydd hardd drosodd i Conwy, ac yna ymlaen o amgylch y pentir agored, y traeth a’r cwrs golff ym Morfa Conwy. Wrth gyfeirio i mewn i’r tir, roedd ardal fwy diwydiannol yn dod yn sŵn trafnidiaeth yr A55.
Paratôdd panad sydyn y grwp ar gyfer dringo serth 500 troedfedd i fyny ochr Mynydd y Dref i gyrraedd Alltwen a Bwlch Sychnant poblogaidd. Aeth y daith ymlaen ar draws y gwastatir agored i gyfeiriad Maen Esgob, yn cynnig golygfeydd ardderchog i lawr yr arfordir. Yn nawr y daeth nodwedd fwyaf heriol y dydd i’r amlwg: am yr oriau canlynol brwydrodd y parti i’r de orllewin i ddannedd tymhestloedd Storm Kathleen a’u chwythu yn ddi-baid gan hyrddiau o wynt uwch na 50 milltir yr awr. Roedd yn gyffrous ac yn llafurus, fel y cerddai y criw gan gylch-droi yn ansicr ar hyd y llwybrau gwelltog, yn ymdrechu i aros ar eu traed o dan yr ymosodiad. Cafodd un o’r parti godwm drom ond heb fod yn rhy ddifrifol ar wahân i doriad ar ei drwyn a chlais i’r hyder! Roedd cyfnodau heulog cynnes bob yn ail â chawodydd miniog byr, ond nid oeddent yn gwlychu.
Daethpwyd o hyd i le gweddol gysgodol ar gyfer cinio a gorffwys yng nghysgod wal ger Afon Gyrach. Yn y prynhawn daeth y daith at nifer o gofgolofnau defodol a chofebau claddu nodedig o’r oes efydd ar y llwyfandir. Y mwyaf enwog yw’r “Cylch Derwyddol”, cylch o gerrig mawr yn sefyll yn amlwg ar y gorwel uwchben y llwybr. Ger Cors Carneddau cymerwyd dargyfeiriad at gofeb 5 o awyrenwyr Americanaidd a’u ci masgot a gollodd eu bywydau pan fu damwain i awyren fomio (B24 Liberator bomber enwyd Bachelor’s Baby), yn 1944 ar ei ffordd o Sir Fôn i Norfolk. Yna dringodd y ffordd tua 1450 troedfedd i Glip yr Orsedd, y man uchaf y dydd. Mae hwn yn edrych dros Graiglwyd, folcano wedi diffodd sydd yn ymddangos dros Benmaenmawr. Dyma leoliad chwareli anferth sydd nawr yn cynhyrchu deunydd ffyrdd, ond yn parhau y traddodiad o chwarelyddiaeth gerrig yn dyddio yn ôl i amser cynhyrchu bwyelli yn Oes y Cerrig. O’r diwedd dyma’r daith i lawr yn cychwyn, igam-ogamu i’r arfordir yn Llanfairfechan ar lwybr coediog gweddol cysgodol heibio Fferm Henar.
Yn ôl yn nhawelwch cymharol y dre, roedd lluniaeth yng Nghaffi’r Beach Pafiliwn yn seibiant croesawus. Roedd 3-4 milltir olaf y daeth yn adran weddol rwydd er drwy rannau digysgod o Lwybr Arfordir yn ôl i Abergwyngregyn. Roedd yna fwy na digon o bethau/llefydd o ddiddordeb ar y daith hir ar draws llwyfandir hen a llawn golygfeydd diddorol. Nid oedd y tir yn arbennig o anodd, ond roedd y tywydd stormus yn ei gwneud hi yn 8 awr lafurus a chofiadwy. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau 28ain Fawrth 2024. Cwrt – Porth Meudwy – Porth Llanllawen. Er gwaethaf y rhagolygon, cyfarfu 14 aelod o dan arweiniad Annie Andrew a Jean Norton i lawr yn Llyn ar gyfer cylch arfordir i arfordir ar draws wddf yr orynys. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Cwrt. Roedd yr union ffordd drwy Borth Meudwy ar gau oherwydd niwed diweddar i’r grisiau i lawr i’r gilfach ar y Llwybr Arfordirol. Yn ei le dilynwyd wyriad i’r tir i’r arfordir gerllaw heibio Tir Glyn a Ty’n Lon. Roedd y caeau gwyrddion yn frith o famogai a’u wyn diweddar. Roedd yna aros ar gyfer coffi’r boreu ar ben y clogwyn yn goruwchwylio’r mor ewynnog ger Porth Cloch.
I ddechrau disgleiriodd yr haul, er roedd gwynt de ddwyreiniol heini yn ei gwneud hi deimlo yn oer ar adegau. Roedd yna olygfeydd yn y pellter o fynyddoedd Meirionnydd gyda’i copaon yn wyn o eira a bryniau agos Llyn. Yna cymerwyd lwybrau i’r gorllewin drwy gaeau mewn dolen yn ôl i Bodermid Isaf ac ar hyd ffordd wladaidd i gyfeiriad Uwchmynydd. Tu draw i Pennant cyrhaeddodd y llwybr yr arfordir gogleddol, ac ymuno a rhan o’r Llwybr Arfordirol yn Porth Llanllawen. Roedd y golygfeydd arfordirol gwyllt yn y fan hyn o glogwyni troellog gwelltog uwchben cilfachau creigiog a’r mor tymhestlog yn ysblennydd. Cafwyd anhawster ble roedd y llwybr mwdlyd yn troelli i fyny ac i lawr rhwng nentydd ffosyddlyd. Roedd pompren yn le addas i dynnu llun y grwp. Gan fynd ymlaen i’r gogledd heibio Ogof Coch roedd cysgod clawdd gwelltog yn le croesawus am ginio ac Wyau Pasg.
Erbyn hyn roedd yr haul wedi diflannu a’r gyntaf o’r cawodydd addawyd wedi cyrraedd. Trodd llwybr rhwyddach yn ôl i’r dwyrain i’r tir islaw Mynydd Anelog, ble achosodd goresgyniad y rhodwyr anghyfarwydd tipyn o gynnwrf i ferlod Bod Isaf! Ger Ystolhelyg Bach ymunodd y ffordd a lon yn rhedeg i ddiwedd yr orynys, yn barod yn denu rywfaint o drafnidiaeth y Pasg, a gwnaethpwyd camau brysiog drwy’r glaw ysgafn yn ôl i Cwrt. Profodd hon i fod yn 4 awr ddiddorol a chymdeithasol gyda’r pellter ychydig yn brin o 6 milltir ac 1000 troedfedd o ddringo rhwydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 24ain Fawrth 2024. Craflwyn - Bethania. Mewn cyfnod o ddyddiau gwlyb a gwyntog daeth egwyl o dywydd teg â 14 cerddwr i Blas Craflwyn ger Beddgelert ar gyfer cylch yn ar waelodion y bryniau ar lethrau deheuol Yr Aran. Noel arweiniodd y grŵp gan fod yr arweinydd penodol yn dioddef o broblemau pen glin. Aeth y ffordd i gyfeiriad y cloc, dringo o faes parcio yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ar lwybrau serth drwy goed hyfryd Coed Craflwyn. Roedd y glaw di ddiwedd diweddar yn golygu fod y llwybrau creigiog yn llithrig, ond roedd rhaeadrau niferus Afon y Cwm yn llawn llifeiriant ac yn ymddangos yn wych.
Wedi tua milltir gwnaethpwyd cylchdaith fer i ddringo Dinas Emrys, bryn amlwg o tua 450 troedfedd yn llywodraethu Dyffryn Nant Gwynant. Mae’r bryn hyfryd hwn yn llawn o dystiolaeth hynafiaethol o anheddfa o’r 3ydd-4ydd ganrif a thŵr canoloesol o amser Llewelyn Fawr. Mae ei bwysigrwydd chwedlonol i Gymru yn y chwedl am Gwrtheyrn(Vortigern) ac Emrys a gollwng y dreigiau yn arwain i fuddugoliaeth y ddraig goch Gymraeg dros ddraig wen y Sacsoniaid. Aeth y daith ymlaen ar drac creigiog, a chroesi Cwm yr Hyrddod a dilyn i fyny i weddillion pwll copr o’r 19eg ganrif sef Hafod y Porth yn Cwm y Bleiddiaid. Mae enwau’r llefydd yn atgof mai defaid yn hytrach na chwareli sydd am ganrifoedd wedi bod yn brif gynhaliaeth bywoliaeth pobl leol. Roedd yna aros am goffi wrth argae disylw yn gwasanaethu’r tyrbin trydan dŵr yn Craflwyn yn bell islaw. Bu pwynt manteisiol dros 1000 troedfedd o uchder yn lle ardderchog am olygfeydd i lawr y cwm i gyfeiriad Beddgelert.
Arweiniodd camfa dros wal derfyn i lawr ar lwybrau a cherrig ar draws y tir glas corsiog agored drwy Bylchau Terfyn i ddyffryn mawreddog Cwm Llan, yn enwog am ei raeadr odidog a Llwybr Watkin yn troelli i gopa’r Wyddfa. Aeth y parti dros bont droed slab lechi beryglus ar draws yr afon, a dod o hyd i fan agored hwylus i gael cinio ar ochr y bryn coediog yn edrych tros y rhaeadr islaw Coed yr Allt. Yna mi oedd y daith i lawr yn rhwydd ar lwybrau gwyrdd llydan ac ar draws caeau Hafod y Llan. Roedd yna aros am goffi yng nghaffi croesawus Bethania cyn mynd y tair milltir olaf sydyn heibio Llyndy Isaf ac ar hyd y llwybr taclus gwastad ar yr lan deheuol o Lyn Dinas a mynd yn yr haul disglair i gyfeiriad Beddgelert a chromen Moel Hebog tu draw.
Yn Pwll Copr Sygyn croesodd y ffordd Afon Glaslyn a mynd ar llwybr ar ochr yr afon yn ôl i Blas Craflwyn, gyda chyfle i edrych ar yr arddangosfa wych a hanes lleol ac archaeoleg yn yr ysgubor. Roedd y diwrnod boddhaol yma dros bellter o 8 milltir, gyda 1700 troedfedd o ddringo dros fwy na 6 awr yn cynnwys amser i gael bwyd. Noel (Cyf: DHW).
Dydd Iau 14eg Fawrth 2024. Taith Criccieth ar ddydd y Cyfarfod Blynyddol. Cynhaliwyd y 44ain gyfarfod blynyddol yng Nghapel y Traeth Criccieth gyda 38 aelod yn bresennol. Rhoddodd Hugh Evans, y Cadeirydd, hanes o weithgareddau’r Clwb yn ystod y flwyddyn, tra i’r ysgrifennydd, Noel Davey, roddi adroddiad ar deithiau’r flwyddyn a’r rhaglen ar gyfer yr Gwanwyn/Haf 2024. Roedd y Trysorydd, Dafydd Williams, yn ymddeol ac mi gyflynwyd tocyn o diolchgarwch iddo am ei 30ain o wasanaeth i’r Clwb mewn sawl swydd. Cadarnhawyd a croesawyd Colin Higgs fel y Trysorydd newydd ac yn Aelod o’r Pwyllgor.
Y Daith: Yn dilyn cinio buan arweiniodd Dafydd Williams 22 o aelodau ar daith 4 milltir o amgylch Criccieth. Aeth y daith a’r parti i fyny heibio Eglwys Santes Catherine i gyfeiriad y cyn Gwrs Golff, a throi i’r gorllewin islaw Moel Ednyfed heibio Plas Mynydd Ednyfed, plasty gwych gyda tarddiad a’r 16eg ganrif, nawr yn darparu llety moethus i grwpiau. Dilynwyd rhan fer o Ffordd Caernarfon drwy Stad Ty’n Rhos ac ar hyd y lon gefn i gyfeiriad Llanystumdwy. Aeth hyn a’r daith heibio Bryn Awelon, nawr yn gartref mamaeth, adeiladwyd gan Lloyd George yn 1911 cyn iddo fod yn brif weinidog, ac yn hwyrach yn gartref i’w ferch, Megan, a ddaeth yr Aelod Seneddol fenywaidd gyntaf yng Nghymru.
Arweiniodd tro i’r chwith heibio Bron Eifion, tŷ godidog arall adeiladwyd yn yr 1880au gan y barwn llechi, John Greaves, ac nawr yn westy a man priodi. Dilynodd y rhan olaf estyniad o’r A497, heibio i’r ysgol newydd-sbon, bron wedi ei chwblhau, ac yna drwy ranbarth tai ger Y Dinas a’r Castell. Roedd hon yn daith rhwydd dros ddwy awr mewn tywydd braf wnaeth am unwaith osgoi y mwd tymhorol, ac hefyd rhoddi cyfleu da i’r aelodau sgwrsio. Gorffennodd 8 o’r parti yng nghaffi Tir a Mor i gael te. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Chwefror 29ain, 2024. Llanbedrog-Pwllheli. Ymunodd 20 o rodwyr ar daith linellol (yno ac yn ôl) rhwng Llanbedrog a Phwllheli o dan arweiniad Chris Evans. Roedd yn ddiwrnod clir, ond digon oer i annog cyflymdra rhesymol ar y llwybr gwastad sydd yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordirol Cymru. Cychwynnodd y daith o faes parcio yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn Llanbedrog a mynd ar hyd Lôn Nant Iago i lawr i’r traeth trwy’r coed. Mae’r gilfach dywodlyd boblogaidd yma yn gysgodol gan glogwyn coediog Tir Cwmwd, wedi ei goroni gan gerflun “Y Dyn Haearn”. Wedi rhai llathenni roedd rhes o risiau coed yn mynd i fyny i lwybr gwelltog ar hyd copa’r clogwyn ansefydlog cyn belled â phentir creigiog, Carreg y Defaid.
Y llwybr yma yw’r unig ran gweddol fwdlyd o’r daith. Ymunodd hwn a thrac rhwydd a fu unwaith yn rhan o’r dramffordd geffylau enwog, “Toast Rack”, a sefydlwyd gan y dyn busnes adnabyddus Solomon Andrews oddeutu 1900 i ddenu pobl i’r galeri celf a chaeau pleser Plas Glyn y Weddw. Caeodd y dramffordd yn 1927 yn dilyn storm, ond mae tram sydd wedi goroesi i’w weld tu allan i’r Plas presennol. Yn dilyn efallai y Chwefror gwlypaf wedi ei gofnodi, roedd llynnoedd mawr o ddŵr yn ymestyn i’r tir dros y caeau i Benrhos.
Gan droi ger bynglo diweddar, aeth rhan o’r llwybr ar hyd pen y tywodfryniau uwchben Traeth Crugan, yn rhoi golygfeydd o Bwllheli a’r arfordir tu draw. Ail ymunodd y ffordd â’r trac isaf ger gweddillion Tyddyn Callod, a heibio Camp Towyn, adeilad o amser y rhyfel, a ddefnyddiwyd wedyn fel canolfan awyr agored gan y Cyngor. Ymhellach ymlaen, aeth y trac drwy dir gwyrdd gaeau Cwrs Golff Pwllheli, a dod allan yn ymyl tai uchel a mawreddog Rhodfa’r Pen Gorllewinol.
Roedd y seddi cerrig mewn hanner cylch dros ffordd i hen Westy’r Pen Gorllewin yn lle cyfleus am ginio. Cymerodd y mwyafrif o’r parti yr un ffordd yn ôl i Llanbedrog, i gwblhau taith cymdeithasol ddifyr o tua 6.5 milltir dros yn agos i 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 25ain Chwefror 2024. Llandrillo-Bwlch Maen Gwynedd. Aeth y daith olaf ar raglen y gaeaf a 8 aelod o dan arweiniad Eryl Thomas i’r rhostir gwyllt o Fynyddoed y Berwyn. Roedd yn ddiwrnod oer, sych a chlir, ond yn niwlog ar y copa.
Cychwynnodd y daith o bentref bychan Llandrillo yn Edeirnion, yn nythu yn Nyffryn Hafren rhwng Bala a Corwen. Roedd yna ddringo cyson i’r de o’r pentref ar drac coediog i fyny Cefn-Pen-llety. O’r diwedd daeth hwn allan mewn gwlad agored, ble roedd llwybrau corslyd yn arwain ar draws tir gwelltog garw o Gwern Wynodi. Fel enillwyd uchder, yn fuan roedd y parti yng nghanol niwl. Creodd y disgyn yn y tymherau dirlun anghyffredin o ddail gwyn o grug a glaswellt wedi eu gwneud yn glefyddau byr main.
O’r diwedd cyrhaeddwyd crib gopa’r Berwyns yn Bwlch Maen Gwynedd, 2300 troedfedd o uchder. Roedd yna aros byr am ginio yn nghysgod bryncyn mawn. Penderfynwyd peidio a dal ymlaen i gopa Cadair Bronwen gerllaw, 300 troedfedd yn uwch, gan i’r cerddwyr, erbyn hyn, fod yn rynllyd iawn ac roedd y niwl yn rhwystro’r golygfeydd.
Aeth y ffordd i lawr ar lwybr haws ac i’r gogleddorllewin a dilyn llinell fens ar draws Trawsnant a Moel Pearce. Yn fuan dechreuodd yr haul i ailymddangos a daeth y tirlun yn ôl i’r golwg, yn caniatáu golygfeydd ehangach ar draws bryniau’r Berwyn, rhai o dan eira i’r gorllewin. Roedd yn wyriad byr oddi ar y llwybr i archwilio cylch cerrig amlwg o’r oes efydd mewn cyflwr arbennig ar gopa Moel Ty Uchaf. Mae’r adeiladwaith claddu anferth 12 medr mewn diamedr gyda 41 carreg a cistfaen yn y canol, yn adlewyrchu trigfannau lleol ardderchog o’r amser cynt. Y fan hyn i’w hefyd y safle o’r digwyddiad a elwyd yr “Welsh Roswell” ar 23ain Ionawr 1974, pan welwyd oleuon, byth heb eglurhad, yn hofran yn yr awyr ac ar ochr y mynydd. Roedd y lle manteisiol yma yn caniatáu golygfeydd rhagorol o Ddyffryn Dyfrdwy gyda’i caeau gwyrdd yn orlifo gan ddŵr ac yn ymestyn i olygfa llai croesawus o dwrbinau yn niweidio’r bryniau gyferbyn.
Aeth y rhan olaf o’r daith yn orllewinol ar hyd trac iseldir yn arwain yn ôl i Llandrillo. Roedd hon yn ddiwrnod allan da gyda cyflymdra sydyn, pellter o 8.5 milltir a dringo 2150 troedfedd dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Chwefror 15ed 2024. Llanbedr-Afon Artro-Afon Cwmnantcol. Cymerodd ugain o rodwyr yn cael eu harwain gan Hugh y trên cyntaf y bore ar lein y Cambrian i lawr i Lanbedr ar gyfer taith heddiw, gan gychwyn o Bwllheli, Abererch, Criccieth a Phorthmadog. Roedd hwn yn bleser na chafwyd ers rhai blynyddoedd oherwydd cofid, streiciau a gwaith peirianyddol. Roedd yn ddiwrnod braidd yn llaith a thywyll, ond yn gyfle da i gael sgwrs hamddenol, gyda bonws ychwanegol o reid am ddim oherwydd moesgarwch y consesiwn trwydded ar wyliau’r hanner tymor.
Wedi taith fer o stesion Llanbed i’r pentref, aeth y daith i’r gogledd-ddwyrain ar lon fach, heibio Penrallt ac o’r diwedd cyrraedd pentref bach Pentre Gwynfryn ar y ffordd i Gwm Bychan. Daeth tro i ffordd Nantcol â’r parti i Gapel Salem, yr anfarwolwyd ei du mewn yn llun adnabyddus S. C. Vosper o ferched mewn gwisgoedd Cymreig. Cafodd ei defnyddio gan yr Arglwydd Lever i werthu sebon drwy Brydain. Cymerwyd ffordd ucheldir ar draws caeau a chloddiau cain, ac i lawr i’r gweunydd gwair o Wersyll Nant Col, yn wag amser hyn o’r flwyddyn. Arweiniodd llwybr mwdlyd a chreigiog drwy goed derw Cefn Coed Cymmerau i fyny i’r rhostir gwastad.
Roedd yna saib ar gyfer cinio mewn llannerch ddymunol. Gerllaw roedd prif nodwedd y daith, Rhaeadr Nantcol: golygfa wych o ddŵr gwyn yn rhuo a rhuthro dros resi llydan o greigiau; lle poblogaidd bob amser ac yn brysur yn Chwefror hyd yn oed. Cylchodd y llwybr heibio rhaeadrau ysblennydd eraill a hafnau dyfn. Arweiniodd y ffordd yn ôl ar lwybrau esmwythach a ffyrdd bach drwy goedwigoedd braf Coed Aberartro.
Yn ôl yn Llanbedr roedd digon o amser i fwynhau lluniaeth yn Nhafarn Victoria cyn dal y trên, yn union ar amser, yn ôl i Lŷn. Roedd hwn yn ddiwrnod difyr yn y rhan brydferth yma o Ardudwy, braidd yn llwydaidd, ond yn fwyn gyda’r glaw addawyd wedi ei gyfyngu i ychydig o gawodydd ysgafn. Roedd y daith oddeutu 6 milltir dros 4 awr gyda oddeutu 1000 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Chwefror 11ed 2024. Y Garn 111. Nod heddiw oedd Y Garn, copa anghyfarwydd anghysbell o blith mynyddoedd y Rhinogydd, a elwir (gan y Clwb hwn beth bynnag) fel Garn 111. Cyfarfu 10 o rodwyr o dan arweiniad Gareth ac Eryl yn Ganllwyd ar y ffordd i Ddolgellau. Roedd hi gan fwyaf yn ddiwrnod cymylog gyda rhai ysbeidiau heulog ac ychydig o gawodydd ganol dydd.
Cychwynnodd y daith heibio’r Neuadd Gymunedol drawiadol ddu haearn rhychog, gan gymryd llwybr hyfryd i fyny i geunant Cwm Camlan drwy Warchodfa Goed Natur Genedlaethol Ganllwyd. Yr hen goed derw rhyfeddol yma yw’r safle cyfoethoga am fwsoglau a llysiau’r afu yng ngogledd orllewin Ewrop. Arweiniodd y llwybr drwy greigiau a choed wedi eu rhubanu yn ddewinol gan ddail rhedyn gwyrdd yn rhuo dwr yn rhedeg. Roedd yna aros i syllu ar olygfa hynod enwog Rhaeadr Ddu, mewn llifeiriant llawn yn dilyn y glaw diweddar. Yna cododd y ffordd ar draws Ffridd Bryn Melyn, a chyrraedd ardal mwy agored o ucheldir rhostirol. Yn y fan yma yn ymestyn i’r de o dan grib Craig y Cae, mae yna greiriau eang o fwyngloddiau aur Cefn Coch, yn gweithio yn bennaf yn yr G19 tan 1914.
Gan fynd i’r de o amgylch Bryn Bedwog, dilynwyd llwybr weithiau’n serth ond eithaf rhwydd ar hyd clawdd terfyn trawiadol yn dringo i’r gogledd-orllewin i’r copa, ychydig dros 2000troedfedd. Roedd lefel y cymylau yn ddigon uchel i roi golygfeydd i lawr i Ddolgellau, Aber y Mawddach, Llyn Trawsfynydd, ac hefyd Rhobell Fawr i’r dwyrain, roedd y copâu uwch o Cadair a’r Rhinogydd yn guddiedig yn y niwl. Roedd y tymheredd ar y copa yn agos iawn i'r rhewbwynt, ond roedd yna le cysgodol ar gyfer cinio yn union o dan y copa. Gwnaethpwyd cylch i’r dwyrain o’r copa, cyn ail ymuno â’r llwybr allanol gan ddal wrth yr clawdd terfyn yn ôl i lawr. Ymwahanodd y ffordd i’r dwyrain drwy ardal chwareli Berthlwyd, gan gymeryd llwybr coediog drwy Coed Berthlwyd. Mae’r ardal yma i gyd yn rhan o Stad Dolmelynllyn nawr yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y tŷ gwylaidd wedi ei ddatblygu gan William Maddocks (o Dremadog) tua 1800, ond yn hwyrach yn blasty Fictoriaidd mwy rhwysgfawr, ac yna yn westy.
Croesodd y rhan olaf o’r daith yr A470 a mynd ar y trac nobl coediog o Tyn y Groes drwy Goed y Brenin ar yr ochr ddwyreiniol o’r Afon Mawddach. Yna aeth pompren â’r parti yn ôl dros yr afon yn syth i’r maes parcio yn Ganllwyd. Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog o Chwefror ar lwybrau amrywiol, yn uno coedwigoedd, dŵr a golygfeydd mynyddig, dros 6.7 milltir a 2200 troedfedd o ddringo dros am oddeutu 5.5 awr. Noel Davey (Cyf. DHW).
Dydd Iau 1af Chwefror 2024. Aberdaron-Porth Ysgo. Daeth diwrnod sych a heulog 25 o rodwyr allan i Aberdaron i gerdded i Porth Ysgo, un o’r rhannau gorau a di son o Lwybr Arfordirol Cymru. Yn garedig Ann Jones ddaeth ymlaen i arwain ar fyr rybydd. Cychwynnodd y daith o faes parcio a chanolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Porth y Swnt yng nghanol y pentref, troi ar yr Llwybr Arfordirol yn yr hen felin, adeilad wedi ei restru sydd o dan brogram atgyweirio. Dilynodd y rhan gyntaf dyffryn cul Afon Daron drwy gaeau dymunol gwyrdd ar lwybrau sydd ar hyn o bryd yn eithriadol o fwdlyd. Ar y gyffordd gyda llwybr wedi ordyfu i Bodwrdda, aeth pompren a’r llwybr dros yr afon, ar draws caeau ac yn syth ar draws y ffordd o Rhiw yn Morfa. Arweiniodd mwy o lwybrau caeau drwy gatiau fochyn uwchlaw clogwyni Bae Aberdaron, sydd yn brysur erydu, i bentir garw Trwyn y Penrhyn.
Pigodd yr haul llachar arch naturiol, Ogof Ddeuddrws yma, un o lawer o nodweddau creigiog ac ogofeydd sydd yn rhestru y clogwyni trochiadol arfordirol. Mae’r llwybr yn rhedeg i’r gogledd-ddwyrain ar uchder oddeutu 200 troedfedd, yn rhoddi golygfeydd gwych o’r arfordir a’r mor yn estyn i gyfeiriad Penarfynydd. Mae’r stac yn y mor, Maen Gwenonwy, craig amlwg o fewn cyrraedd a’r llanw allan, gyda cysylltiad profoclyd a phentwr ymdreiglyd chwedlau Arthur drwy enw ei chwaer a safle yn Porth Cadlan gerllaw o’i frwydr olaf tyngedfennol, Brwydr Camlann. Ymhellach ymlaen, ger Cadlan Isaf, roedd rhythmig angyhyffredin yn bradychu safle o bwmp dwr hidrolig traddodiadol, ffordd syml o bwmpio dwr yn ddiddiwedd heb unrhyw bwer allanol arwahan i’r ffrwd uwchben.
Roedd ceffylau yn pori ar ben y clogwyn wedi troi rhan llydan o’r llwybr yn gors lafurus yn ymyl y fan hyn. O’r diwedd dyma’r parti yn cyrraedd cilfach hyfryd Porth Iago mewn hen bryd i ginio yn yr, erbyn hyn, haul cynnes. Disgynodd hanner y parti i’r traeth ar yr 150 step, yn ddiweddar wedi eu atgyweirio gyda cyfalafau “AONB”. Roedd y sbout hir o’r rhaeadr yn y fan hyn mewn llawn liferydd. Yna trodd y daith i’r tir i Fferm Ysgo, a chymeryd llwybrau caeau heibio Cadlan Uchaf ac un gamfa lletchwith i ffordd Rhiw a’i dilyn am 1.5 milltir yn ôl i Aberdaron. Roedd hon yn daith ardderchog o 6.5 milltir a 1450 troedfedd o ddringo dros bron 5 awr, eitha araf ac egniol oherwydd y tirwedd a’r aml gyflwrau mwdlyd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ionawr 28ain 2024. Beddgelert-Blaen Nanmor. Hugh Evans arweiniodd barti o 11 ar gylch ddiddorol yng nghanol Eryri. Roedd hi yn ddiwrnod tymhorol fwyn ac yn heulog. Cychwynnodd y daith o faes parcio Banc Colwyn ym Meddgelert, cyfeirio drwy’r pentref ac yna i’r de heibio Bedd Gelert ar draws caeau ar y glan orllewinnol o’r Glaslyn. Gan groesi i’r glan dwyreiniol dyma’r cerddwyr yn mynd yn ofalus ar hyd y man cerdded cul o’r “Fisherman’s Path” gwefreiddiol sydd yn arwain drwy Bwlch Aberglaslyn, wedi ei gau rhwng ddyfroedd gynddeiriog o’r afon tymhestlog islaw a’r creigiau fertigol o Craig y Llan uwchlaw. Yn ffodus roedd lefel yr afon wedi gostegu rywfaint oddiwrth lefelau y stormydd diweddar ac roedd y llwybr creigiog yn llai lithrig na ambell dro.
Yn Bont Aberglaslyn, yr hybarch bont i Bentre Nantmor, troiodd y ffordd i’r dwyrain a chyfeirio drwy’r dyffryn coediog tawel o Nanmor. Daethpwyd o hyd i le braf i gael cinio yn yr haul, nawr yn gynnes o dan goed derw mosslyd gyda swn esmwythol dwr rhededog. Ger y chwarel lechi Blaen Nanmor, ymunodd y llwybr a’r fordd wladol heibio Gelli Iago am oddeutu i hanner milltir. Yna dringodd llwybr uwchdir corsog yn araf i’r gogledd i oddeutu 600 troedfedd, gan fynd heibio’r amlygrwydd amlwg o Bryn Castell. Gerllaw, mae bwthyn unig Hafod Owen yn gofiadus fel cartref arloeswyr dringwyr creigiau.
Roedd y disgyn i Llyn Dinas yn anodd, ond yn caniatau golygfeydd braf o ystlysoedd mawreddog y Wyddfa gyferbyn a Llyn Dinas yn nythu yn nyffryn Nant Gwynant islaw. Erbyn hyn roedd hi yn tywyllu a gwneuthpwyd cyflymdra sydyn ar hyd ochr yr afon yn ol i Feddgelert, gan drechu y smotyn cyntaf o law. Roedd hon yn ddiwrnod ardderchog gyda chwmni da, cerdded oddeutu 9 milltir mewn 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 18ed Ionawr 2024. Cylch o Llanystumdwy. Cyfarfu 25 o gerddwyr ym maes parcio’r pentref ar gyfer cylchdaith fer “D” o dan arweiniad Dafydd Williams ar ddiwrnod rhewllyd a heulog. Gan fynd i’r dde o’r maes parcio, aeth y ffordd heibio i dafarn boblogaidd “Y Plu”, nawr yn feddiant y gymuned. Gyferbyn mae’r hen weithdy esgidiau, cartref bachgendod David Lloyd George, y prif weinidog yn ystod y rhyfel byd cyntaf ac yn syth wedyn Amgueddfa’r dewin. Cyn cyrraedd y bont dros yr Afon Dwyfor dyma fynd 90% i’r chwith ar hyd trac soled am oddeutu 200 llath cyn croesi’r A497 brysur, a dilyn dreif goncrid i Fferm Aberkin, fferm mewn cyflwr perffaith os oes yna un!
Aeth y llwybr ymlaen i’r arfordir ac yn gyfochrog a’r Afon Dwyfor i’w aber ac ymlaen. O’r man hyn roedd gan y cerddwyr olygfeydd rhyfeddol glir ar draws Bae Tremadog i Fynyddoedd y Rhinogydd ac i lawr ar hyd yr arfordir i Aberdyfi a thu draw. Yn dilyn toriad ar gyfer te/coffi ymlaen aeth y parti ar lwybr yr arfordir uwchben y traeth creigiog tan cyrraedd tŷ wedi ei adnewyddu, Cefn Castell. Ail adeiladwyd hwn oddeutu 10 mlynedd yn ôl yn dilyn, yn ôl yr hanes, taniad troseddol ac mae mewn peryg o lithro i’r mor. Yr amser hynny rhoddwyd uchafrif o 60 mlynedd cyn i hyn digwydd. Yna dyma fynd i’r gogledd ac i’r tir, i gychwyn, ar lwybr soled ond dirywiodd yn fuan gan i braidd o ddefaid fod wedi llechu arno gan ei wneud yn gors fwdlyd! Wedi mynd o dan rheilffordd Porthmadog-Pwllheli, cyrhaeddwyd yr A497 a’i chroesi i lwybr a mynd i’r gorllewin am 150 llath tan cyrraedd y dreif yn arwain i’r Gwesty Gwladaidd, Bron Eifion. Roedd y lle yma unwaith yn dy gwledig i Mr J.E. Greaves, ac yn ôl yr hanes yn berchennog un o chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Troiodd y llwybr ar i fyny i’r chwith cyn cyrraedd y gwesty ac ar ôl gorchfygu man gwlyb a mwdlyd tu allan i gyn fferm y stad cyrhaeddwyd cyn porthordy ar y ffordd fach Criccieth-Llanystumdwy.
Mwynhawyd cinio yn yr haul gyda’r cerrig siapus yn ffurfio mynedfa dreif y stad yn cael eu defnyddio ar gyfer eistedd a phwyso arnynt. Wedi throi eto i’r chwith dilynwyd y ffordd ddistaw cyn mynd heibio mynedfa’r dreif i “Ty Newydd”, tŷ nobl ble fu Lloyd George farw yn 1945. Pan yn 8 oed mi fues yn yr angladd gyda fy nhad! Prin cyn cyrraedd yn ôl yn y man cychwyn ac yn uchel uwchben yr Afon Dwyfor mae ei fedd ble cymerwyd lun o’r grwp. Tra roedd hon yn daith gymharol fer roedd hi yn berthnasol i amser y flwyddyn ac mi gafodd ei gwerthfawrogi gan y cerddwyr ar y diwrnod gaeafol bendigedig hwn. Dafydd Williams.
Dydd Sul 14eg Ionawr 2024. Bryniau Clynnog. Cyfarfu criw o 16 o dan arweiniad Noel yn Rock Cottage, Tanygraig, ger Trefor ar gyfer diwrnod yn Fryniau Clynnog. Roedd y rhan gyntaf yr un fath a dechrau taith ar hyd cyn dramffordd chwarel sydd newydd gael ei nodi gan wirfoddolwyr AONB/AHNE a’i chlirio o lwyni o redyn un goes, miareni ac eithin oedd wedi ei wneud bron yn amhosib i fynd heibio am rhai blynyddoedd. Mae’r llwybr yn dilyn yr amlinell 300-350 troedfedd ar draws llethrau gogleddol o Fryniau Clynnog yn bennaf ar dir mynediad agored ychydig islaw y gweithfeydd chwareli Lithfaen Gyrnddu a Tyddyn Hywel a weithiodd am bron i ganrif tan iddynt gau yn 1947. Mae rhai creiriau o’r gweithgarwch yma wedi oroesi. Er fod yna rhai mannau creigiog ac anwastad, mae’r llwybr nawr yn weddol haws ac yn caniatáu golygfeydd dyrchafedig hardd i lawr yr arfordir, Yr Eifl a’r bryniau cyfagos. Yna mae’r llwybr yn ymylu Ystymllech ar draws caeau, a dyfod allan ar yr A499 yn Pont y Felin ar ôl ryw 2.3 milltir.
Parhaodd y daith ar drac garw i’r cwm coediog hyfryd, Cwm Gwared yn ei geuffosi gan yr Afon Hen islaw llethr gogledd ddwyrain o Gyrn Goch. Mae hwn yn ardal o goetir preifat, unwaith yn berchen i stad Glynllifon ac nawr yn SSSI. Yna roedd aros am goffi o dan y coed ger yr afon. Yn y man yma cymerodd 4 o’r parti y ffordd “C” yn ôl ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru a redai gyda’r A499 a’r hen ffordd. Ymlaen aeth y gweddill o’r cerddwyr “A” i ben Cwm Gwared ar lwybr serth gyda nifer o nentydd yn llifo drwy goedwig tymheraidd a twmpathau mwsoglyd o goed saets. Arweiniodd giât fochyn i lethrau gwelltog Bwlch Mawr yn 800 troedfedd. Dilynwyd llwybrau defaid i’r gogledd yn gyntaf i ymuno a thrac brwnt a ddefnyddiwyd gan feiciau pedwar olwyn ffermwyr yn dod i fyny o’r ffordd geffylau Clynnog. Roedd hwn yn caniatáu codi weddol raddol heibio brigiadau creigiog i gamfa’r copa islaw’r arwydd yn 1669 troedfedd. Tan hyn roedd y dydd wedi bod yn gymedrol sych a thawel gyda rhai cyfnodau heulog, yn caniatáu yn raddol argraffol, olygfeydd i lawr i wastadoedd yr arfordir. Pryn bynnag, dyma cinio hwyr ar y copa yn cael ei ymyrryd yn anfoesgar gan niwl yn rowlio a dod a hyrddwynt o eirlaw a disgyn rhynllyd yn y tymherau.
Dyma ffoi ar frys i’r de drwy’r niwl dros y cyfandir agored gwelltog dibwys. Yn fuan gyda diolch cyrhaeddodd y parti gyflyrau cynhesaf a chliriach ar y Llwybr Arfordirol Cymunedol. Nawr roedd yna olygfeydd drwy’r coed o fryniau Pen y Gaer, Moel Bronmiod, Carnguwch a Tre’r Ceiri a cip olygfeydd o arfordir deheuol Llyn yn fflachio yn yr haul. Aeth y trac orllewinol a’r parti yn ôl drwy gorlannau gafaelgar ond mwdlyd, islaw llethrau Gyrn Goch a Gyrn Ddu, heibio Fron Heulog ac i lawr y trac chwarel “igam-ogamu” yn ôl i Rock Cottage. Profodd hon i fod yn daith wobrwyol ac egnïol o 9 milltir dros 6 awr gyda oddeutu 2250 troedfedd o ddringo ac yn cynnig rhestr sialens oherwydd y tywydd a’r tirlun. Noel Davey. (cyf: DHW).
Dydd Iau 4 Ionawr 2024. Wern Manor. Taith heddiw oedd cylch 4 milltir yn enghander hyfryd y wlad i’r gorllewin o Foel y Gest ger Porthmadog. Cafodd 20 aelod eu harwain gan Jean Astles mewn tywydd heulog a llonydd. Cychwynnodd y daith o’r tŷ trawiadol, Maenor Wern, adeiladwyd mewn dull Jacobean yn 1892 i RM Greaves, peiriannydd mwyngloddio o chwarel lechi Llechwedd. Yn ddiweddarach bu yn ysbyty filwrol, yna yn cartref nyrsio a nawr ar gael ar gyfer gwyliau i grwpiau mawr.
Wedi croesi’r A497 cymerodd y ffordd drac a llwybr i’r de islaw clogwyni Bron y Foel a Moel y Gest. Roedd yr haul gaeaf anghyfarwydd yn ddisglair. Roedd yna olygfeydd braf i’r gorllewin dros goed a chaeau i gyfeiriad yr arfordir a Chriccieth, yn cael ei reoli gan weddillion ei gastell amlwg. Yn y gyffordd gyda’r brif ffordd i fyny Moel y Gest cymerwyd llwybr sydd yn aml yn fwdlyd i’r gorllewin i Tyddyn Adi. Roedd hwn yn llwybr gymerwyd ar daith ddiweddar o Borth y Gest. Roedd y tŷ unig, Ty’n y Mynydd eto yn lle addas i gael cinio gyda golygfa ardderchog i gyfeiriad Ardudwy a’r Rhinogydd ar draws Bae Tremadog. Yna cylchodd llwybrau i’r gogledd dros gaeau hyfryd yn wynebu i gyfeiriad clogwynni Craig y Gesail uwchben Porthmadog.
Oddi yno cymerwyd y ffordd wladol gul yn mynd i Morfa Bychan yn ôl i Wern. Roedd hon yn daith bleserus ac eithaf hawdd o dros 3.5 awr gyda dim ond ychydig o ddringo ond peth mwd ac ychydig o gamfeydd lletchwith yn ei gwneud efallai yn anoddach na’r gradd “D” a gyhoeddwyd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 31 Ragfyr 2023. Mynytho-Garn Fadryn. Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn cyfarfu 9 o rodwyr yn Foel Gron, Mynytho am daith dderbyniol i wella yn dilyn dathlu’r Nadolig. Annie Andrew arweiniodd daith hudol (yno ac yn ôl) i Garn Fadryn , oddeutu 8.5 milltir mewn hyd. Yn groes i’r rhagolygon, profodd i fod yn ddiwrnod sych gyda cyfnodau hir o haul, ond yn wyntog iawn ar brydiau. Dilynwyd rhannau o Lwybr y Morwyr, y “Mariners Trail”, ar draws Llŷn, wedi ei seilio ar hen lwybrau a gymerwyd gan forwyr rhwng Nefyn a Llanbedrog /Abersoch. Cymerodd y daith y trac ar ochr orllewinol tir Comin Mynytho, gyda golygfeydd braf i gyfeiriad Sarn a Mynydd Rhiw.
Ar ôl mynd heibio Ffynnon Sarff, roedd llwybrau drwy gaeau a thrac yn arwain i lawr asgell goediog o Nant Saethon, heibio Pandy ac ar draws Afon Horon ger Pont Llidiard y Dwr (Inkermann Bridge), sydd yn coffau etifedd o deulu Stad Nanhoron a gollwyd yn Rhyfel Crimea. Dilynwyd hawl i gerdded newydd, yn cymryd lle yr un a lyncwyd gan Chwarel Nanhoron, i’r gogledd i Benbodlas ac o’r diwedd Garn Fadryn, y copa urddasol yn nghanol Llŷn. Aeth y parti i fyny’r llwybr serth, oedd yn eithaf prysur ar yr wŷl braf yma, yn eitha sydyn. Cyrhaeddwyd y llwyfandir llydan 1000 troedfedd, ble mae’r eithin yn cuddio gweddillion eang y cytiau crwn o oes yr haearn. Roedd y golygfeydd panoramig o’r copa 1200 troedfedd mor drawiadol ag erioed, ond roedd y gwynt cryf yn rhwystr i neb oedi.
Gan ddisgyn i’r bwlch, croesodd y ffordd i gopa llai Garn Bach ble roedd mwy o loches am ginio. Rhoddodd hyn y cyfle i fwynhau’r olygfa i lawr i Ffordd St.Tudwal a tro yr arfordir ym Mhorth Neigwl, gyda’r tir tu mewn wedi ei rannol guddio gan orlif o ddŵr. Nodwedd drawiadol newydd yn y tirlun agos islaw oedd yr estyniadau eang brown o wair eliffant. Mae’r cnwd newydd ar Stad Nanhoron yn tyfu 10-12 troedfedd o uchder ac mi gaiff ei dorri yn flynyddol am beth bynnag 20 mlynedd, i ddechrau i ddefnydd masnachol fel gwlâu i geffylau drwy Ogledd Cymru.
Yn Pen y Caerau roedd yna dro i’r gorllewin ar hyd trac gwelltog, yn ddiweddar y cynhaliwyd archwiliad cyfreithiol i gadarnhau ei statws fel llwybr cyhoeddus. Yna dyma’r ffordd yn ôl yn dychwelyd ar y ffordd allanol gan ddargyfeirio i groesi’r rhostir Comin Mynytho drwy y ffordd ganolig ac o’r diwedd dringo bryn serth ond bychan, Foel Gron, i flasu un olygfa olaf o’r arfordir a chefn gwlad. Roedd hon yn daith eitha rhwydd a phleserus o tua 5.5 awr, yn addas i’r amser o’r flwyddyn. Noel Davey. (cyf: DHW).
Dydd Iau 21ain Ragfyr 2023. Borth y Gest. Daeth yr amser cyn y Nadolig a 15 aelod , o dan arweiniad Noel, i Borth y Gest ar gyfer taith gyfarwydd yn yr ardal arfordirol ddeniadol yma. Roedd yn ddiwrnod o gymylau ysgafn ac mwyn gyda ambell gawod a chyfnodau heulog. Roedd y cymharol gysgod o’r gwyntoedd gogledd orllewin yn golygu fod yna ond ychydig o berygl o’r awelon 40 milltir yr awr a ragolygwyd! Cymerodd y daith y stepiau i fyny i’r ddisgwylfa ar ymyl y coed derw yn Parc y Borth 300 troedfedd uwchben y pentref darluniadol. Oddi yno roedd golygfeydd cymylog o Foel y Gest ac ar draws y bae i fryniau Ardudwy. Yna aeth y ffordd i lawr a chroesi Ffordd Morfa Bychan, a heibio ir lamas a’r merlod yn y ganolfan farchogaeth. Gan ddringo eto roedd yna aros am baned a mins peis tymhorol ar wal yr ardd o’r tŷ unig pinc, Ty’n y Mynydd, safle arall fanteisiol uwchben ardal hardd o rostir yr ucheldir islaw y Foel arw. Aeth y llwybr ymlaen dros dir mwdlyd gyda golygfeydd gwych i gyfeiriad Castell Criccieth a Llyn, a chyrraedd amgylchoedd aniben Man Carafannau a Fferm Tyddyn Adi. Oddi yno roedd trac yn arwain i lawr i ddrysfa gwasgarog o fyngalos a bynglos haf sydd yn cynnwys pentref arfordirol poblogaidd Morfa Bychan. Mae cynllun i ychwanegu bolyn cyfathrebu dadleuol 80 troedfedd o uchder 5G i ychwanegu i’r tirwedd trefol.
Daeth y Beach Road hir a’r parti i’r ardal llydan o dywod a thywodfryniau yn y Graig Ddu am gerdded bywiog ar hyd y traeth cyn belled ac Ynys Cyngar. Mae’r pentir creigiog bychan yma yn coffau sant cynnar ac yn nodweddu Cwt Powdwr ble roedd ffrwydron oedd wedi eu cludo mewn llong ar gyfer y chwareli llechi yn cael eu gwarchod yn ddiogel. Profodd y cilfach islaw i fod yn le dymunol, allan o’r gwynt, ar gyfer cinio. Ymylodd y llwybr lawntiau Cwrs Golff Porthmadog ac ymuno a’r adran goediog braf o Lwybr Arfordirol Cymru yn glynu i’r clogwyni uwchben cilfachau tywodlyd ar hyd Aber y Glaslyn. Roedd cylchdaith fer i Carreg Samson, rhewlifol ansefydlog, yn caniatáu golygfa braf o’r arfordir. Oddi yno nid oedd ond pellter byr drwy Gwarchodfa Natur Pen y Banc yn ôl i Borth, y bae bychan prydferth ar ei orau fel roedd llanw uchel yn nesáu. Roedd hon yn daith dda am yr amser o’r flwyddyn o amgylch 5.5 milltir mewn hyd a 800 can troedfedd o ddringo dros 4 awr gyda terfyniad cymeradwy yn gaffi Seaview croesawus y pentref. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 17ag Ragfyr 2023. Cylch yn Eifionydd. Heddiw Kath Spencer arweiniodd 16 aelod ar gylchdaith drwy dirwedd adnabyddus Eifionydd. Roedd yn ddiwrnod llwyd, cymylog gyda teimlad o leithdar a digon gwyntog ar yr arfordir, ond yn sych a mwyn. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r pentref yn Llanystumdwy, ac arwain drwy’r pentref heibio Amgueddfa Lloyd George a, gyferbyn, Capel Moriah trawiadol Clough William Ellis, nawr yn cael ei atgyweirio yn ofalus fel cartref gan ei berchennog newydd. Gan droi i’r gogledd oddi ar yr A497 ger y fynwent, arweiniodd lwybr i Glyn Dwyfach a chroesi’r afon rhuthredig gyflym ar bont droed sigledig. Parhaodd lwybr mwdlyd drwy Ysgubor Hen ac ymuno a’r trac enwog Y Lon Goed, yn arwain i’r de i bentref Afon Wen. Roedd yna aros am baned bore hefo bara brith ger y bont lein yn agos i’r arfordir. Oddi yno dilynodd y daith Lwybr Arfordirol Cymru i’r gorllewin gan wasgu’r traeth creigiog, heddiw yn cael ei bwyo gan foroedd garw llwyd yn yr awelon gwyntog. Ymylodd y ffordd Park Gwyliau Hafan y Mor, nawr yn anturiaeth anferth, wedi cychwyn fel camp gwyliau Butlin’s, yn cynnig carafannau a bynglos di ri. Mae cynllun ymestyniad mawr yn mynd ymlaen, yn cynnwys amddiffyn yr arfordir a tŷ bwyta newydd, ar hyn o bryd yn mynd a’r llwybr drwy safle adeiladu mwdlyd. Tu draw i Porth Fechan troiodd y daith o amgylch y pentir agored o Penychain, a mynd i’r tir i ardal mwy cysgodol o gwrs golff yr Hafan.
Roedd y platfform enfawr gwag yn stesion Penychain yn le cysgodol ar gyfer cinio. Yna dilynodd yr hynt ran o’r hen ffordd A497 i’r gorllewin heibio Fferm Llymgwyn, ac yna cymryd y ffordd fach i’r tir ar hyd y ffin o Broom Hall, tŷ gafaelgar o’r 18ed ganrif hwyr o fewn tir parc eang, unwaith y stad fwyaf yn Eifionydd. Ymhellach ymlaen a mwy gweladwy mae Penarth Fawr, tŷ pwysig canoloesol yn dyddio o’r 15G. Yna roedd llwybr yn mynd ar draws y caeau i Penrhyn Bach, ail ymuno a’r ffordd yr holl ffordd drwy Chwilog ac o’r diwedd adennill y rhan allanol o’r Lon Goed. Dilynwyd hon i’r gogledd ddwyrain am oddeutu milltir, troi ar ffordd wledig hardd, ail groesi’r Dwyfach ac arwain heibio tir coediog ffrwythlon Blas Talhenbont a Cabin Wood, ac yn fuan yn ôl i Llanystumdwy. Roedd hon yn daith arall dda gyflym chymdeithasgar ar dir gwastad y rhan fwyaf, o gwmpas 13 milltir o hyd dros mwy na 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 3 Rhagfyr 3023. A’r Aber Ogwen-Porth Penrhyn-Moel y Ci. Cyfarfu dwsin o dan arweiniad Noel yn Aber Ogwen ar yr arfordir i’r dwyrain o Fangor ar gyfer cylch a gyhoeddwyd fel “A” am bellter (11 milltir), ond “B” ar ran tirwedd (gan fwyaf yn wastad ac wedi ei phalmantu). Gwrthodwyd yn gyfan gwbl y cynnig o daith fyrrach drwy Llandegai. Tra roedd yr haul yn brin mi arhosodd mwy neu lai yn ddiwrnod sych a llonydd gyda tymherau o 4-6C. I ddechrau aeth y daith i’r gorllewin ar hyd y traeth. Yng ngheg yr Afon Ogwen ymunodd y llwybr a’r ffordd swyddogol ar adran newydd o Lwybr Arfordirol Cymru ac ymylu 2 filltir o amgylch Castell Penrhyn. Mae hyn wedi cymryd blynyddoedd lawer i agor, ond mae nawr yn daith goediog ddymunol ar wyneb graean da, arwahan i adran o chwarter milltir o gyflyrau mwdlyd dychrynllyd, yn disgwyl datrysiad. I mewn i’r tir ar draws caeau gwyrdd roedd yna gip olygion o’r tyrrau a’r gwrthgloddiau o’r castell newydd Normanaidd adeiladwyd yn 1840 gan y Teulu Pennant gyda’r elw o lechi Penrhyn a phlanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Drwy’r coed roedd yna olygfeydd braf i’r gogledd ar draws traethau Llanfair i Ynys Môn a maint tywyll o Ynys Seiriol a’r Orme Fawr. Yn dod allan yn Porth Penrhyn, dilynodd y ffordd y Lon Las Ogwen nawr yn ffordd fwynderol wedi ei phalmantu i gerddwyr a beicwyr yn rhedeg i’r de ar drac y cyn Reilffordd Penrhyn yn cludo llechi o Chwarel y Penrhyn i’r porthfa. Roedd yna wyriad byr ar hyd yr A5 yn y cychwyn gan fod dwy bont yn cael eu ail adeiladu. Fel arall, roedd y ffordd yn cynnig cerdded cyflym ar hyd yr Afon Cegin drwy goedwigoedd atyniadol gyda dail aur yn oedi ar rhai o’r ffawyddenau. Roedd teimlad gwladaidd i’r ffordd er gwaethaf pasio ymylon dinesig o Fangor. Roedd cylchdaith ar draws yr afon yn le dymunol i aros am goffi. Aeth y trac ymlaen o dan y bont reilffordd dywodfaen anferth yn cludo’r Reilffordd Caergybi, is safle goncrid o dan yr A55 swnllyd a phont droed werdd drawiadol dros yr A4244.
Ar ol 6 milltir, trodd y ffordd i ffwrdd i Fferm Moel y Ci, un o’r ffermydd gymunedol gyntaf yn yr D.E. yn cynnig amrywiaeth o fwynderau cyhoeddus yn cynnwys caeau gerddi a chaffi ardderchog ble roedd byrddau picnic i’r cerddwyr a choffi ffres i ginio. Aeth rhan y prynhawn ymlaen ar y Lon Las drwy Tregarth a’r Twnnel Pendinas (Tynal Tywyll), twnnel reilffordd 297 llath gafaelgar adeiladwyd yn 1884 fel rhan o’r lein LNER o Fethesda i Fangor ar gyfer llechi a theithwyr. Caeodd yn 1961, ond ail agorwyd fel rhan o’r Lon Las yn 2017. Yn Pont Coetmor croesodd y ffordd yr Afon Ogwen a dringo yn ôl ar risiau i gymryd heol fach dyniadol uwchben yr afon. Daeth hon allan ar yr A5 brysur yn Halfway Bridge, a chroesi gyferbyn i lwybr cae drwy Cochwillan. Yn bentref Talybont, dilynodd y llwybr ffordd gynharach o’r Llwybr Arfordirol Cymru ar draws caeau, yn fuan cyrraedd y ffordd yn ôl i Aber Ogwen. Er gwaethaf y pellter, roedd hon yn daith rwydd dros o amgylch 5 awr yn cynnwys arosiadau, yn ei gwneud yn un o deithiau cyflymaf y Clwb erioed! Roedd yn addas i amser o’r flwyddyn ac yn caniatáu cyfle i gloncian, i lawer prif bwrpas y peth!! Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 23ain Dachwedd 2023. Cwmystradllyn. Arweiniodd Colin Higgs 19 o rodwyr ar daith ffigur 8 ar draws gwastatir uchel anghysbell Cwmystradllyn. Roedd y tywydd ran fwyaf yn gymylog ond arhosodd yn sych, tra roedd niwl yn glynu i Moel Hebog a copâu uchel eraill i’r gogledd a’r dwyrain. Cychwynnodd y daith o’r argae y llyn sydd yn paratoi llawer o gyflenwad dwr Penllyn. Roedd lefelau y llyn yn ôl i lefelau uchel yn dilyn y glaw diweddar. Cymerwyd lwybr llawn dwr i’r de i Ynys Wen drwy waelodion Moel Ddu. Parhaodd trac i Cae yr Eithin Tew, throi i’r gorllewin trwy Maes y Llech, ac o’r diwedd cyrraedd y ffordd gul yn dod o’r A487. Dilynwyd ffordd droellog a chulach eto yn ôl i’r dwyrain o Cefn Coch Isaf. Edmygwyd bwthyn traddodiadol bychan wedi ei adnewyddu yn Ty Newydd ger Llyn Du.
Roedd llogell o dwmpethi cerrig a waliau cerrig yn le addas i giniawa ac yn caniatáu amser i astudio’r rhesi o fryniau diddorol oedd yn goruchwylio Porthmadog ac yn rhedeg i lawr o Moel Ddu. Roedd yna arwyddion o amgylch o anheddfeydd yn cynnwys cerrig yn sefyll, cytiau Gwyddelig a hen gartrefi yn cael eu disgrifio ar yr OS map. Yn ôl yn Ynys Wen cymerwyd ail ddolen ar drac Wen drwy Ereinig i adfeilion Melin Lechi Ynyspandy wrth yr Afon Henwy. Mae’r adeilad 3-llawr debyg i Abaty godidog yma, yn symbal o atgofion o’r mentro uchelgeisiol yn y diwydiant llechi a’i aml fethiant masnachol!: Prin deg mlynedd fu’r felin ar waith yn yr 19g cyn i’r gyfagos Chwarel Gorseddfa adeiladwyd ar ei chyfer gau, mynd yn fethiant ariannol oherwydd ansawdd sâl y lechan. Dilynodd y ffordd yn ôl, yr hen reilffordd yn cysylltu’r chwarel a’r felin, a throi lawr i’r argae’r llyn yn Tyddyn Mawr. Roedd hon yn daith bleserus ar dir weddol wastad o gwmpas 600-700 troedfedd o uchder mewn tirwedd distaw gwelltog agored yn nodweddu creiriau diddorol cynhanesol ac archaeology diwydiannol. Pellter o 6 milltir dros bron 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 19eg Dachwedd 2023. Coed Cae Fali – Rhyd – Llyn Mair – Tan y Bwlch. Arweiniodd rhagolwg wael ar gyfer y tywydd yn y mynyddoedd i newid ar fyr rybydd i daith fwy cysgodol yn Nyffryn Maentwrog. Hugh Evans arweiniodd 13 ar y cylch hon o’r arhosfan yn Coed Cae Fali ar yr A487. Profodd hyn i fod yn benderfyniad doeth gan i’r ffordd a ddewiswyd fod yn gysgodol o’r awelon o wynt cryf a ragolygwyd ac cyfyngwyd y glaw ysgafn i’r ddwy awr gyntaf. Arhosodd mwyafrif o weddill y dydd yn dywyll a chymylog ond sych a mwyn. Cymerwyd trac serth drwy goedwig hydrefol i fyny i’r Reilffordd Ffestiniog, byth ymhell o’n ffordd y heddiw. Dilynwyd i’r gorllewin ar lwybrau troelliedig, ac i lawr ble mae’r lein yn croesi ceunant Afon Cae Fali ar glawdd anferth adeiladwaith. Yna ymunodd y ffordd a’r llwybr yn dod i fyny o Rhiw Goch a Penrhyn, cyfeirio i’r gogledd-ddwyrain trwy Pen yr Allt a drwy goedwigoedd coniffer gwlyb wedi eu plannu o amgylch y cyn byllau plwm. Arweiniodd hyn allan i dir gwelltog corslyd mwy agored, ac o’r diwedd cyrraedd y pentref bychan o Rhyd ar y ffordd B o Garreg. Oddi yma cymerwyd ddolen i’r gogledd ar draws y rhannau uchel o Afon Rhyd ger Ty’n y Ddol. Cyrhaeddwyd uchder o 600 can troedfedd ger Ogof Llechwyn ble ymunodd y daith a’r ffordd fynyddig o Croesor a disgyn ar hyd bwlch y coed i’r de-ddwyrain i gyfeiriad Maentwrog.
Aeth llwybr a’r parti i lawr i Orsedd Tan y Bwlch oedd, er ar gau heddiw, yn le cyfleus i gael cinio hwyr gan ddefnyddio’r byrddau a chadeiriau. Dilynodd ffordd y prynhawn y llwybrau coedwigoedd yn troelli lawr heibio dwr llonydd Llyn Hafod y Llyn a’r safleoedd picnic anial o amgylch Llyn Mair hudol. Aeth rhwydwaith cwmpasog ymlaen drwy Plas Halt uwchben Tan y Bwlch, ac o’r diwedd dringo i fan manteisiol uchel ger Y Gysgfa. Yn cyd-ddigwydd gyda’r awyr yn clirio a saethau o haul, rhoddodd hyn y golygfeydd gorau y dydd i lawr ar hyd yr Afon Dwyryd heibio’r ceiau llechi i bont Briwat, ac allan i’r foryd llydan yn cael ei rheoli gan Ynys Giftan a chors halen Glastraeth. Yna disgynnodd y daith yn gyson drwy goedwig gan fynd heibio cronfa/llyn (di enw) cyfareddol ac ail ymuno a’r ffordd gwreiddiol. Gwnaeth y daith heddiw y gorau o’r tywydd, gan gadw fan fwyaf i’r llwybrau coedwigoedd cysgodol mewn man hydrefol hyfryd distaw a cherdded oddeutu 9 milltir mewn 5.25 awr gyda 1700 o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Iau 9 Dachwedd 2023. Pentir Llanbedrog. Roedd yna gynulliad da o 27 ar gyfer taith ar Pentir Llanbedrog (Tir Cwmwd) o dan arweiniad Meri Evans. Diwrnod o gyfnodau heulog, gwyntoedd cryf a chawodydd ysbeidiol byr, yn cynnwys hyrddwynt o genllysg. Caeth cychwyn y daith ei bywiogi gan bresenoldeb Gerallt Pennant a’i ddyn camera i wneud byr damaid ar gyfer rhaglen gyda’r nos o “Heno” ar S4C ar ran Rhodwyr Llyn yn cadw’r dros 65au (ac rhai ieuengach) yn heini. Yn dilyn cyfarfyddiadau byr a rywfaint o ffilmio, cychwynnodd y parti ar hyd Traeth Castellmarch. Adnabyddir y traeth hardd, hir a llydan yn well fel y Warren ar ôl y Parc Gwyliau a’i garafanau “perffaith” yn y tywodfryniau o’i amgylch.
Ar ôl oddeutu milltir roedd yna aros am goffi’r boreu ger traeth “Quarry”, ble mae gweddillion glanfa yn parhau o ble roedd “setts” o’r chwarel leol yn cael eu cludo tan ar ôl yr ail ryfel byd. Arweiniodd ffordd fach y traeth i’r tir ac i risiau brwnt a serth yn dringo 200 troedfedd i ben pentir Tir Cwmwd, llwyfandir rhyfeddol gwyllt o eithin a grug. Dilynwyd llwybr arfordirol gwlyb, mwdlyd a gwyntog iawn drwy’r eithin o amgylch ymyl y pentir, yn caniatáu golygfeydd braf ar draws i St. Tudwal’s. O’r diwedd arweiniodd hwn i’r dyn haearn (iron man) cerflun yn goruchwylio Llanbedrog a’r oriel gelf yn Plas Glyn y Weddw, nawr yn ymffrostio ei gaffi newydd siâp cragen! Cymerwyd llwybr cul yn arwain i’r copa o’r pentir, 436 troedfedd, mewn amser am ginio yn yr haul gyda golygfeydd gwych eang o’r bryniau a’r mor o’n amgylch. Yna dilyn trac heibio Mount Pleasant a ffyrdd bychain i’r traeth Warren eto a taith sydyn yn ôl i’r man cychwyn yn Trwyn y Fach. Er gwaethaf y cawodydd achlysurol roedd hon yn daith fwynhaol o ryw 6 milltir dros 4.25 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 5 Dachwedd 2023. Yr Ysgwrn. Roedd taith heddiw yn cylchu’r Ysgwrn, ger Trawsfynydd. Y fan hyn oedd cartref Hedd Wyn, y bardd ifanc Cymraeg enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917. Fe laddwyd mewn brwydr yn Ffrainc cyn y seremoni, felly bu’r Gadair wag, nawr yn cael ei chadw yn yr amgueddfa coffa yn Yr Ysgwrn, ei gwisgo mewn du a’i adnabod wedyn fel y “Y Gadair Ddu”. Dafydd Williams arweiniodd grwp o 17 ar ddiwrnod o gyfnodau heulog a chawodydd, ddim mor gynnes a’r diwrnod Orffennaf pan wnaethpwyd y daith y tro diwethaf yn 2021, ond yn ddigon dymunol. I gychwyn arweiniodd y cylch i’r gogledd a’r gorllewin, a throi i’r de yn Bryn Goleu ar hyd heol fach gul a oedd unwaith y brif ffordd i Ddolgellau, yn dilyn yn glos i’r Sarn Helen, y ffordd adeiladwyd gan y Rhufeiniaid dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd arhosiad am baned ger Capel Penstryd. Profodd chwilio byr am ddwy odyn teils Rhufeinig o dan twmpathau eithin gerllaw yn ofer.
Yna trodd y ffordd i’r gogledd-ddwyrain i’r tir agored glaswelltog cynt wedi ei ddefnyddio gan yr Weinidogaeth Amddiffyn fel lle i ymarfer saethu. Arweiniodd trac i fyny i Llyn Gelli-gain, cronfa fechan, ble mae rhybudd Dwr Cymru yn rhybuddio nofwyr digywilydd o’r nifer beryglon yn cynnwys peryg o ddŵr sglyfaethus yn achosi “leptospirosis”. Daeth dringo pellach a’r parti i fyny bryn bychan, 1550 troedfedd, y man uchaf yn yr ardal, sydd yn cael ei adnabod ar yr mapiau OS fel Craiglaseithin. Fan hyn oedd y lle am ginio. Roedd yna olygfeydd hyfryd i gyfeiriad y de ac i’r dwyrain i gyfeiriad yr Arenig. Roedd y lliwiau oren a brown o’r tirlun gweundirol wedi eu sur-gerfio gan saethau o olau haul llachar yn eilio gyda cysgodion dyfn y cymylau. Roedd y diweddglo yn arwain yn ôl i lawr ar lwybrau corslyd ar draws Ffrîdd Wen a Ffrîdd Ddû, ac o’r diwedd ail ennill y tirlun mwyn o gaeau o amgylch Yr Ysgwrn. Roedd hon yn daith hamddenol a chydnaws o 6.5 milltir ac oddeutu 1200 troedfedd o ddringo yn parhau 5.25 awr. Noel Davey.
Dydd Sul 22ain Hydref 2023. Moel Wnion-Moel Faban. Yn dilyn tywydd dychrynllyd storm Babet, cawsom heddiw ein anrhydeddu gyda tywydd sych a heulog gyda teimlad cras a cyflwr gweledig da. Cyfarfu 15 o rodwyr yn yr arhosfan ochr ffordd ger Talybont ar gyfer taith yn cael ei arwain gan Annie yn y bryniau ar ochr gogledd-orllewinol yr Carneddau. Croesodd y llwybr yr A55 a dringo ar ochr Marian y Winllan, a throi i’r dwyrain heibio Plas Uchaf i gyfeiriad Bronydd Isaf, o amgylch 1000 troedfedd o uchder. Roedd y coed conau yn y fan yma wedi eu torri’n sylweddol, yn caniatáu golygfeydd amrywiol i lawr i dir yr arfordir ac ar draws gwastadau basddwr o’r Traeth Llafan i Ynys Môn. Ar ôl cwpl o filltiroedd croesodd y llwybr o dan y ceblau grym trydan uchel a dechrau dringo ochrau gwelltog Moel Wnion. Ger adeilad adfail roedd yna aros am baned ac i werthfawrogi’r olygfa eang. Daeth dringo ychwanegol egnïol a’r parti, yn barod am ginio, i’r copa, yn 1900 troedfedd, y man uchaf o’r diwrnod.
Nawr roedd yna banorama ogoneddus o fynyddoedd y Carneddau i’r de, o Llwytmor a’r Berau, uwchben dyffryn Aber, heibio Drosgl a Gyrn Wigau, i Sarn Elen a Carnedd Dafydd. Roedd y cyfan o Ynys Môn wedi ei ymledu i’r gogledd gyda cip olwg o fryniau Ynys Manaw tu draw a’r gwe bwganllyd o’r twrbeini gwynt oddi ar yr arfordir, yn dyrfa i’r gogledd-ddwyrain. Ymlaen aeth y ffordd i’r de ar draws basn llydan welltog wedi ei ddotio gan ferlynnod Carneddau ac ambell gerddwr. Y targed nesaf oedd pig amlwg creigiog o Gyrn (1776 troedfedd), ei ochr gogleddol wedi ei wasgu gan gorlan ddefaid fawr gymhleth gellog yn dyddio beth bynnag i’r 18ed ganrif ond mewn cyflwr da. Ar draws y gwter ddofn o Bwlch ym Mhwll-le yn edrych tros Rachub a Bethesda, Moel Faban (1340 troedfedd) oedd yr olaf o gopaon y diwrnod. Mae hwn wedi ei goroni gan garn fynwent gymhleth oes efydd yn tystio i batrwm yr ardal o anheddfeydd.
Oddi yno o’r diwedd trodd y daith yn ôl tuag adref, gan gymeryd trac gweundirol gan ymylu i’r gogledd-ddwyrain ar draws ochrau is o’r bryniau. Aeth hyn heibio adfeilion amlwg chwarel lechi yn Bryn Hall, gan groesi’r ffordd allanol ac i lawr heol fach serth gul ar ochr cenllif coediog. Daeth pont arall dros yr A55 ger y fferm hanesyddol o Ty’n yr Hendre a’r cerddwyr, blinedig erbyn hyn, i’r man cychwyn. Roedd y daith egnïol ardderchog yma yn waelodion y Carneddau oddeutu 10.6 milltir gyda 2850 troedfedd o ddringo dros 6.75 awr. Noel Davey.
Dydd Iau Hydref 11ed 2023. Bryncir – Mynydd Cennin. Ymunodd oddeutu dau ddwsin o aelodau ar daith o dan arweiniad Kath Mair o Bryncir. Roedd yn ddiwrnod tawel a heulog a digon cynnes yn yr haul. Cychwynnodd y grwp i’r gogledd-orllewin ar y Lon Eifion syth a gwastad, ffordd darmac sawl pwrpas beicwyr (dim beicwyr heddiw!) dilyn rhan o’r cyn reilffordd Afon Wen-Caernarfon. Ar ôl oddeutu milltir, ger Derwyn Fawr, trodd y daith i’r gorllewin ar lwybrau caeau, heibio tyrrau ymrithiol twrbeini gwynt a phileri trosglwyddiad uchel, rhan o’r peirannau angenrheidiol diweddar hyll wedi eu gwasgu i’r coridor cul rhwng tirluniau gwarchod Eryri i’r dwyrain ac ardal o harddwch naturiol Llyn i’r gorllewin. Yma cyfarfu’r grwp y cyntaf o nifer o rwystrau ar y daith, y rhan fwyaf oherwydd gatiau fferm, naill ai wedi eu cloi, neu ddim yn caniatáu mynedfa i’r llwybrau cyhoeddus sydd yn ddiddefnydd! Er i hyn arafu pethau, nid oeddynt yn fawr o sialens i’r grwp.
Yna dringodd y ffordd y bryn anhysbys o’r Foel lle roedd y copa gwylaidd, 715 troedfedd, yn le ardderchog am olygfaoedd dros goffi i gyfeiriad Moel Hebog a Graig Goch yn y pen deheuol o Grib Nantlle. Yn Bwlch Derwin dilynwyd ffordd wladol i’r de heibio coedwig conifferaidd o dan reolaeth. Cyfarfu a cell o fadarch coch brawychus yn blodeuo o dan sbriws grwydredig ar ochr y ffordd. Yna roedd dringfa o lechweddau Mynydd Cennin gyda’r enw uchelgeisiol, 860 troedfedd, y man uchaf o’r daith. Roedd yn amser cinio ar y meini mawr ar wasgar o amgylch y polyn copa. Oddi yno roedd panorama 360 gradd ardderchog yn estyn i’r de ar hyd arfordir y mor disglair o Moel y Gest i Cilan ac i’r gorllewin i’r copâu dirgel o Fryniau Clynnog. Ymhellach i’r de cyrhaeddodd y llwybr Hendre Cennin, y pen ucha o’r Lon Goed, sydd yn ymestyn 6 milltir i lawr i Arfordir Eifionydd yn Afon Wen. Dilynwyd y llwybr coediog hardd yma am oddeutu hanner milltir cyn mynd i’r dwyrain ar ffordd wladaidd ddymunol yn arwain i Bryncir heibio Plas Llecheiddior. Roedd hon yn daith fwynhaol gymdeithasol mewn rhan ddiarth o’r wlad, pellter oddeutu 7 milltir a dringo 1300 troedfedd dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 8ed Hydref 2023. Talybont/Dyffryn Conwy. Daeth diwrnod di-dymhorol cynnes clir a grwp o 11 o rodwyr i bentref Talybont yn Dyffryn Conwy am daith braf, o dan arweiniad Eryl Thomas, wrth draed y Carneddau. Gyrrodd gydymaith o geir rhannog i fyny i ddiwedd ffordd serth a chul, ffordd wlad, yn arwain i’r dyffryn ucheldirol llydan, safle Llyn Eigiau, uchder o 1200 troedfedd. Roedd yn syndod i gael y lle eisioes yn llawn o gerbydau, yn profi ei gyfleustra fel mynedfa o’r dwyrain. Cychwynnodd y daith i’r gogledd ar draws basn gwelltog llydan wedi ei ymylu gan fryniau allanol o’r Carneddau Dwyreiniol a pharhau i’r gogledd i Pant Griafolen. Mae twnnel yn y fan hyn yn mynd a dwr i’r de i’r system gronfa Eigiau. Roedd yna aros am goffi’r boreu ger y tŷ pwmp diweddar, rhan o’r cynllun hidro-electrig bychan. Yna dilynodd y ffordd yr amlinell de-orllewin uwchben y Pant gan osgoi y tir corslyd pan yn bosibl. O’r diwedd arweiniodd hwn i safle unig y tŷ gwarchod mynyddig, Dulyn, yn ben y cwm. Roedd y lloches cerrig yma mewn cyflwr da, yn amlwg yn le bywiog, gan sylwi ar y rhif o boteli gweigion! Roedd yn le ardderchog i giniawa, gan dorheulo ar y creigiau cyfagos yn wres anarferol o awel yn chwythu yn union o’r Sahara.
Daeth dringfa fer a’r parti i fyny i ddyfroedd tywyll Cronfa Dulyn wedi ei amgau yn ddramatig gan glogwyni llwyd o Craig y Dulyn. Ychydig i’r de cyrhaeddodd y llwybr y ddwy gronfa Melynllyn. Roedd y man hyn yn safle i chwarel lechi a weithiodd am oddeutu 40 mlynedd o’r 1860au yn gweithio gwythïen cerrig hogi. Mae y ddwy gronfa nawr yn ran o gynllun hidro-electrig Dolgarrog. Yn y fan hyn fe welwyd pâr o Farcut-coch. Yna fe drodd y daith yn ôl i’r gogledd-ddwyrain a dilyn llwybr ar hyd yr Clogwyn Maldy o amgylch 2000 troedfedd o uchel. Daeth hyn a golygfeydd bendigedig o’r bryniau a golygfa bell o Ddyffryn Conwy a’r goedwig wen o dwrbeini gwynt Gwynt y Mor yn troi yn araf ar yr arfordir. Ar gyrraedd y gorlan ddefaid manwl islaw Clogwynyreryr cymerwyd llwybr garw ar draws man orlifo dyffryn Eigiau cyn belled a weddillion o’r argae cerrig ¾ milltir o hyd adeiladwyd yn 1911 i gyflenwi dwr i bweru y gwaith alwminiwm yn Dolgarrog yn y dyffryn islaw, arweiniodd gwaith isradd i’r argae ymrwygo yn drychinebus yn 1925 a boddi’r pentref gan achosi colled trychinebus o 16 o fywydau. Arweinodd trac graean gwastad yn ymyl i’r fan lle torrodd yr argae yn union yn ôl i’r man parcio. Roedd hon yn daith weddol hawdd, oddeutu 8 milltir ac 1700 troedfedd o ddringo ar dirlun agored, tir diarth i’r Clwb. Cyfrannodd y tywydd mwyn annisgwyl i fwynhad y diwrnod. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 27 Fedi 2023. Edern-Porth Dinllaen. Roedd hon y gyntaf o 5 taith gradd D ar raglen gaeaf y Clwb, o dan arweiniad Megan Mentzoni ar ddiwrnod dwl ond wnaeth y glaw bygythiol ddim dod tan yn hwyrach. Cyfarfu 15 aelod wrth ochr capel yn Edern oedd unwaith o dan weinidogaeth y gweinidog adnabyddus, Tom Nefyn Williams. Yn drist mae nawr wedi cau a’i werthu ac yn ôl yr hanes yn cael ei drosi yn fflatiau. O’r man parcio aeth y ffordd yn ôl i’r brif ffordd, i’r dde am gyfnod byr a chymeryd trac i’r gogledd yn arwain i gaeau ac o’r diwedd i Gwrs Golff Nefyn. Cymerwyd llwybr ar draws y cwrs, gan ymharu ar nifer o golffars, a chyrraedd cwt gwyliwr y glannau yn Porth Dinllaen, ar drwyn yr orynys. Mae y fan hyn yn adnabyddus i sawl o’r aelodau oherwydd eu bod yn wirfoddolwyr yn y cwt gwylio, yr arweinydd yn un ohonynt.
Yna, i lawr y llwybr i safle’r Bad Achub Nefyn ble cymerwyd ginio yn dilyn cip olwg ar y Bad ei hun yn yr adeilad. Dilynwyd llwybr anwastad a chreigiog ar waelod y clogwyn am oddeutu 300 llath, oedd diolch byth, yn gorffen yn dafarn y Traeth Coch, oedd yn llawn o bobl a bron gymaint o gwn. O gefn y dafarn dim ond pellter byr ar lwybr concrit oedd hi yn ôl i’r cwrs golff, ail ymuno a’r ffordd allanol, ac i’r tŷ golff a’r maes parcio. Cymerwyd llwybr tu ôl i’r tŷ golff i’r gorllewin yn arwain i lwybrau caeau, roedd gwartheg gwrw, cas yr olwg, yn un cae a dyma gadw yn glir ohonynt. Yn fuan cyrhaeddwyd pen gogleddol Edern a daeth cerddediad hamddenol drwy’r pentref a’r parti yn ôl i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith 4 milltir ardderchog dros 3 awr a phawb wedi ei mwynhau. Dafydd Williams.
Dydd Iau 14 Fedi 2023. Betws y Coed. Cylchdaith oedd hi heddiw o dan arweiniad Dafydd Williams yn y pen uchaf olygfaol o Ddyffryn Conwy, yn dilyn ag ail groesi y brif afon a’i isafonydd. Cyfarfu 15 o rodwyr yn Pont y Pair yn dref Betws y Coed sydd bob amser yn brysur a llawn o deithwyr. Roedd yn ddiwrnod dymunol gyda cymylau ysgafn, cyfnodau heulog, chynnes a sych. Yn gyntaf aeth y ffordd dros yr Afon Llugwy a drwy’r dref ar hyd yr A5, a throi a mynd ar hyd ffordd fechan yn rhedeg i’r de drwy goed dymunol i Beaver Bridge sydd yn mynd a’r A470 ar draws yr Afon Conway.
Yna dilynwyd trac heibio y lle a elwyd Fairy Glen, lle prydferth enwog ers amser Victorianaidd, adnabwyd yn Gymraeg fel Ffos Noddyn (Chasm Ditch) yn cyfeirio at y dyfnant dramatig ble mae’r Afon Lledr yn ymuno a’r Conwy. Arweiniodd llwybr serth a choediog i lawr yn agos i’r afon ac yna i fyny i gaffi Conway Falls, gwaith Clough Williams Ellis, ble roedd yna aros am goffi’r boreu. Mae cyrraedd Rhaeadr Y Graig Lwyd (Conwy Falls) ysblennydd, drwy dir y caffi ymhlith coedwig hynafol cynhenid gyda llawer o lwybrau oedd eisiau mwy o amser i’w chwilio nag oedd gennym heddiw. Yn ffodus roedd cynllyn hidro-electrig anferth awgrymwyd yn 2016 wedi ei wrthod oherwydd pryderon amgylchodd.
Ymhellach ymlaen trodd y daith ar yr B4406 ac ail groesi’r Conway dros y Bont Newydd ble y rhedir mewn hafn ddramatig cul a chreigiog; Roedd canwyr dewr yn y proses o ymdrechu croesi. Roedd tro i’r dde ar lon wledig yn mynd a’r cerddwyr heibio Melin Wlan Penmachno adeiladwyd yn yr 1830au ble roedd brethyn wedi ei weu mewn ffermydd lleol yn cael ei brosesu. Roedd mwy o raeadrau ardderchog i’w gweld ar Afon Machno yn Pont y Pandy. Roedd yno bont gul hyfryd siap bwa yn hanner guddiedig yn y gwyllt a enwyd fel Bont Rufeinig ond mwyaf tebyg pont pynfarch (packhorse) canoloesol yw hi. Roedd Pont ar Ledr yn un lle ychwanegol braf i fwynhau golygfa afonaidd dros ginio cyn dychwelyd i Betws ar y ffordd wreiddiol. Aeth rhai o’r parti i gaffi Gwesty’r Royal Oak am luniaeth. Roedd hon yn daith rhwydd, y rhan fwyaf ar lonydd bach palmantaidd gyda golygfeydd braf, pellter o 7 milltir dros oddeutu 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 10ed Fedi 2023. Clip, Moel Ysgyfarnogod a Foel Penolau. Ar y daith gyntaf o’r rhaglen newydd Adrian Thomas arweiniodd grwp o 6 ar gylch egnïol ar draws y gwastatir creigiog rhyfeddol o’r Rhinogydd Gogleddol. Roedd yn ddiwrnod cynnes a braidd yn gymylog gyda ambell dropyn o law wnaeth ddim datblygu.
Dilynwyd ffordd yr un cyfeiriad a’r cloc o yn agos i Cefn Clawdd i’r gogledd o Lyn Trawsfynydd. Roedd hyn yn golygu cerdded caled i gychwyn o 1.5 milltir ar lwybr aneglur ar draws cors arswydus Crawcwellt a ddaliodd un cerddwr i fyny at ei clyn. Yna dringodd llwybr creigiog yn gyson i Clip, y copa mwyaf deheuol o’r gwastatir. Oddi yno estynnodd yr olygfa gyntaf o’r diwrnod ar draws Cwm Bychan i Rhinog Fawr a lawr i amlinell niwlog o Lyn i Enlli. Nesa croesodd y ffordd Bwlch Gwilym a dros Craig Ddrwg, olyniaeth o waliau serth o gribellau nodweddol wedi ei toi gan blatfformau o slabiau llyfn o graeanau Cambrian llwyd a cherrig mwdlyd. Roedd rhain yn ffynhonnau pwysig i’r mwyngloddiau manganîs lleol yn y Rhinogydd. Ar y map mae y mwyafrif o’r nodweddion yma yn cael eu dynodi fel “pile of stones”.
Roedd y llyn bychan, Llyn Corn- ystwc yn le cysgodol i gael cinio. Ymlaen i’r gogledd, ac o’r diwedd dringodd y llwybr y copa gwyrddach o Foel Ysgafarnogod, ble mae arwydd ar y copa yn nodi y man uchaf o’r grib , o amgylch 2,000 troedfedd. Mae cafn yn gwahanu y fan hyn oddiwrth y bwlyn creigiog ychydig yn is yn ffurfio Foel Penolau. Roedd y copâu yma yn creu panorama ardderchog o aber y Glaslyn a Portmeirion, ac yn y cefndir copâu yn ymestyn o’r Eifl drwy ganol Eryri i’r Arenigs yn y dwyrain.
Roedd y disgyn yn weddol rhwydd, yn fuan cyrraedd trac graean aeth a’r parti yn ôl i lawr i dir gwastad yn ymestyn i Llyn Trawsfynydd. Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog yn y tirlun unigryw diarth yma yn de Eryri. Dim ond dau gwpl arall a welwyd yn taclo ei sialens drwy’r dydd. Mi gymerodd 6.5 awr i wneud y daith o 7 milltir gyda cyfanswm o 2450 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 31ain Awst 2023. Tudweiliog. Roedd y daith olaf ar raglen yr haf yn gylch pum milltir o Dudweiliog o dan arweiniad Ruth Williams. Unwaith eto roedd y tywydd yn well na’r rhagolygon gyda glaw mân yn yr awr gyntaf ond yn newid yn fuan i dywydd braf gyda haul niwlog. Roedd yna oedi yn y dechrau i alluogi hanner carafán statig anferth gael ei thynnu o’r arosfan i’r de o Dudweiliog ble roedd y cerddwyr eisiau parcio. Cychwynnodd y daith i’r dde ar ffordd, fwy neu lai yn dilyn un o’r 18 Llwybr Cymunedol Arfordirol a sefydlwyd yng Ngwynedd pan agorwyd Llwybr Arfordirol Cymru oddeutu 10 mlynedd yn ôl.
Arweiniodd hwn drwy gaeau a ffyrdd bychain i’r arfordir ym Mhorth Ychain, ac yna troi i’r gogledd-ddwyrain i ddilyn yr arfordir am ryw 2 filltir. Mae’r adran yma o’r llwybr yn hyfryd ar hyd clogwyni isel uwchben rhes o gilfachau bychain. Mae creigiau garw hynod hynafol yn ffurfio patrymau cymhleth o liwiau trawiadol a rhychiadau yn ymwthio allan i’r mor clir llonydd. Gwelwyd morlo unig ymhlith y creigiau. Mewn llawer o lefydd mae’r clogwyni yn agored i erydiad a chripian pridd, yn creu terasau rhychiog ar y llethrau gwair serth. Mae banciau o bridd wedi eu hadeiladu uwchben, mae’n debyg mewn ymgais i rwystro erydiad; mae’r llwybr dros rigolau afonydd yn tueddu i fod yn fwdlyd a serth. Mae’r tir, rhan o stad Cefnamwlch, yn gyffredinol yn wastad ac yn caniatáu golygfeydd i bellteroedd y tir a gogledd Llyn, yn enwedig Yr Eifl a Garn Fadryn. Allan i’r mor roedd amlinell mynydd Caergybi i’w weld er yn aneglur. Yn fuan daeth pentir Porth Ysgaden i’r gplwg gyda’i dirnod, sef yr unig wal ar ôl o fwthyn o’r 18ed ganrif. Câi ei ddefnyddio gan swyddog tollty i edrych am smyglwyr gan weithiau efallai gyd weithio â hwy! Mae gan Porth Ysgaden le caeëdig o waliau cerrig ar gyfer taclau cychod pysgota a photiau cimwch. Cafodd ei atgyweirio yn ddiweddar gyda arian AHNE. Mae nawr yn lle distaw, ond roedd unwaith yn fynedfa bwysig ar gyfer masnach leol, yn ffeirio penwaig am lo wedi ei fewnforio, gwrtaith a nwyddau. Roedd cilfach agos dlws Porth Lydan yn hyfryd ar gyfer cinio.
Ymlaen aeth y daith heibio Porth Ysglaig lle mae gwersyll carafannau teithio tymhorol. Yn Towyn aeth y ffordd yn ôl i’r tir heibio safle carafannau statig mawr a chaffi Cwt Tatws sydd newydd gael ei ail-wneud. Arweiniodd hyn yn ôl i bentref Tudweiliog, dychwelyd i’r man cychwyn drwy lwybrau caeau ger yr ysgol. Roedd hon yn daith rwydd a difyr yn parhau tua 3 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 27 Awst 2023. Yr Eifl. Cyfarfu 9 o rodwyr yn Trefor ar gyfer dringfa o’r Eifl o dan arweiniad Annie Andrews. Roedd yn ddiwrnod cymylog gyda rhagolygon o 50% am law. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r harbwr a chylchu i’r gorllewin ar hyd glan mor Trwyn y Tal ar Lwybr Arfordirol Cymru, heibio’r pier a ynysaig Ynys Bach ac Ynys Fawr. Roedd y mor yn llwyd ac ewynnog yn y gwynt awelog gogledd-orllewin. Roedd yr olygfa yn fwy yn cael ei dominyddu gan y cloddiadau anferth o Chwarel yr Eifl, sylfaen economi Trefor o 1850 i ‘r 1960au, fel cynhyrchydd o sets ithfaen ar gyfer palmantau dinesig a cherrig llyfn i’r gem curling. Nawr mae adeilad gwasgu anferth diberchen yn sefyll yn uchel ar y clogwyni naddllyd fel ryw gastell canol oesol – yn wir mae na sôn iddo sefyll yn ddiweddar fel rhan o osodiad i ffilmio’r cynhyrchiad nesaf o “House of the Dragon”!!
Nesaf dyma lusgiad hir i fyny i ben Bwlch yr Eifl o amgylch 1000 troedfedd gyda arhosiad croesawus am baned wrth droed o beth sydd ar ôl yn dilyn chwarelyddiaeth o Garn Fôr, y lleiaf o grwp yr Eifl. Ymlaen aeth y dringo ar lwybr serth creigiog i’r brif gopa (Garn Ganol) yn 1850 troedfedd. Roedd y golygfeydd ar hyd arfordir Arfon, ar draws i Caergybi ac i’r de i Port Dinllaen yn diflannu fel i’r parti gyrraedd y niwl yn llecian ar draws y copa. Roedd yr can troedfedd olaf ar draws meini cwymplyd mawr. Ar arwydd y copa roedd yna amser am lun grwp sydyn ac i ystyried, nid am y tro cyntaf, ystyr yr arwydd fetel annealladwy “4AG”.
Roedd y llwybr i lawr drwy’r grug a’r llys yn anodd oherwydd fod y creigiau wedi eu gwneud yn llithrig gan y tamprwydd. Yn fuan pryn bynnag, ar y toriad ar draws y top corslyd daeth gwrthgloddiau trawiadol o’r bryngaer oes yr haearn o Tre’r Ceiri i’r golwg. Mae’r ddau gylch o waliau, i fyny i 10 troedfedd o uchder, yn ymgau oddeutu 150 o dai crwn cerrig, llawer ohonynt yn dal gyda waliau yn dair troedfedd o uchel. Arweinodd y llwybr i fyny i’r safle drwy fynediad cul ar yr ochr De-Orllewinol. Mae’r copa hir cul wedi ei goroni gan garn enfawr crwn yn gorchuddio amlosgiad claddu Oes Efydd Cynnar sydd cyn dyddiau’r amddiffyniadau. Daethpwyd o hyd i le addas am ginio ychydig yn is na’r fan hyn.
Daeth y gwasgariad cyntaf o law a’r gwisgo rhagofalu o wisgoedd ger glaw, ond ni arweiniodd hyn i lawer. Cylchoedd y ffordd allan o’r gaer drwy’r fynedfa i lawr i’r B4417 yn rhedeg o Llanaelhaearn i Llithfaen. Oddi yno roedd llwybrau hawddach ar draws caeau a ffyrdd bach yn ymylu ochr serth yr ochr dwyreiniol o Yr Eifl, gan fynd heibio polyn ffon symudol yn Gallt y Ceiliog ac o’r diwedd yn ôl i bentref Trefor. Er gwaethaf rhagolygon y tywydd, profodd hon i fod yn ddiwrnod egnïol a mwynhaol yn y bryniau hyfryd yma, pellter o 7.5 milltir a 2500 troedfedd o ddringo dros 6.25awr. Noel Davey. (cyf: DHW).
Dydd Sul 27ain Awst 2023. O amgylch gwaelodion Yr Eifl a Thre Ceiri. Dewis arall oedd hon i’r brif daith oedd yn mynd i gopâu y ddwy sef Yr Eifl a Tre Ceiri. Cyfarfu 8 aelod yn yr ail arhosfan ar y dde ar y ffordd B4417 yn arwain o Llanaelhaearn i Llithfaen. Roedd y tywydd yn oerllyd a thamp gyda niwl yn amgylchu’r copâu. O ganlyniad dyma Dafydd Williams, yr arweinydd, oedd wedi dringo’r Wyddfa 3 niwrnod ynghynt, yn penderfynu i gwtogi hyd y daith oherwydd i rhagolygon y tywydd addo iddi ddirywio yn y prynhawn pan i’r cerddwyr fod dim ond pellter byr o gopa Tre Ceiri.
Dechreuodd y daith gan gymeryd y llwybr i’r gogledd o’r arhosfan a chroesi dau gae yn cael eu pori gan wartheg yn cynnwys tarw, wnaeth trwy drugaredd, gadw draw! Mae’r llwybr wedi ei wella o ganlyniad i bolion gyda topiau coch gael eu defnyddio, ac yn y trydydd cae mae’r llwybr llithrig yn mynd i lawr yn serth ac o ganlyniad dyma’r arweinydd, ac beth bynnag un arall yn penderfynu mynd i lawr ar eu pen olau! Yna cymerwyd ffordd fach gul i’r gorllewin am hanner milltir cyn mynd i’r chwith ar lwybr i’r de-orllewin yn cyfeirio at linell o bileri yn rhedeg o Trefor i Bwlch yr Eifl. Roedd helynt cyn cyfarfod a llwybr Trefor, gan i’r cyn lwybr fod wedi ei gau ac roedd y gylchdaith ar i fyny drwy redyn trwchus at ein hysgwyddau ac, o’r diwedd, ymuno a’r llwybr cywir. Oddi yno roeddi ond pellter byr ond serth i fyny i Bwlch yr Eifl ble gawsom ginio.
Milltir fer yn ychwanegol oedd yna i Mount Pleasant ble roedd car wedi ei adael i gludo’r gyrwyr yn ôl i’r cychwyn. Penderfynodd dau o’r cerddwyr i orffen y daith wreiddiol ac, ar ôl bod mewn rhywfaint o niwl, roeddent wedi ei chwblhau yn ddiogel. Er gwaethaf yr amodau niwlog oedd yn cuddio’r golygfeydd gwych sydd yn arferol i’w gweld yn y tirlun hardd yma, roedd hon yn daith 4 milltir fwynhaol dros 4 awr. Dafydd Williams.
Dydd Iau 24ain Awst 2023. Yr Wyddfa. Pythefnos a dau ddiwrnod yn dilyn ei benblwydd yn 87, gwnaeth Dafydd Williams ei bererindod blynyddol i fyny Yr Wyddfa ar Lwybr y Snowdon Ranger, yng nghwmni 12 aelod arall o’r Clwb. Roedd yn ddiwrnod clir a sych, er i gymylau ymdroi dros y copa tan yn fuan yn y prynhawn. Yn cychwyn o’r maes parcio yn Llyn Cwellyn, gwneuthpwyd cyflymdra da ar y llwybr graean hawdd dros y ddwy filltir gyntaf, heibio gyffordd o’r llwybr newydd ei wella i lawr i Llanberis trwy Bwlch Maesgwm. Roedd yna aros am baned y boreu yn Bwlch Cwm Brwynog uwchben cronfa Llyn Ffynnon y Gwas, oddeutu hanner ffordd mewn pellter.
Arafu wnaeth y symud dros y 1500 troedfedd nesaf o ddringo serthach ar lwybr mwy creigiog ac erydlyd dros Clogwyn Du’r Arddu. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti y llwybr cyffordd ger Rheilffordd y Wyddfa, 3200 troeddfed o uchel ac nawr yn symud i’r niwl ac yn ymuno a’r torfeydd yn dod i fyny o Lanberis a Penypass. Roedd y gorlan ar y top, wedi ei chwyddo gan i’r reilffordd a’r caffi ail agor yn Mai ar ôl bod ar gau am 3.5 mlynedd, oherwydd Covid a gofalaeth, yn ei gwneud hi yn anodd ac yn annymunol ar yr adran olaf i’r copa. Yn dilyn 4 awr o ddringo roedd hi nawr yn rhynllyd ac yn hen amser i aros am ginio mewn man cysgodol ymysg y dorf yn ymdrechu i wasgu i’r caffi chwyddedig neu arose eu cyfle i dynnu llun ar y copa niwlog. Pryn bynnag, yn fuan wedyn dyma’r niwl yn dechrau codi, yn caniatáu golygfeydd gwych o Grib Goch a stepiau troelledig y Pyg Path. Yn dilyn prysurdeb buddugolaethus y copa roedd hi yn ryddhad i ail ennill cymharol heddwch y Llwybr Ranger.
Roedd y disgyn 3 awr yn brofiad ogoneddus yn ystod prynhawn disglair heulog o loywder brawychus, yn caniatáu amser i fwynhau mawredd y tirlun; Cylchodd y llwybr i lawr ac i mewn i Cwm Clogwyn, gyda’i lynnau gleision niferus ac wedi ei gau i mewn gan glogwyni garw Bwlch Main a Llechog; Llyn Padarn ac iseldiroedd Arfon ac Môn yn ymestyn allan o danodd i’r gogledd; cododd wal o gopâu gyferbyn i’r gorllewin, o Moel Hebog i Mynydd Mawr, yn esgyn dros lethrau gwyrdd y “Carousel” i Moel Eilio; tra ar draws y mor yn Llyn bell roedd yn bosib gwneud allan amlinell lewyrchus Mynydd Cilan ac ynysoedd St. Tudwal’s. Diwrnod llwyddiannus, mwy na 8 milltir a 3250 troedfedd o ddringo dros 8 awr, a dathliad gyda lluniaeth yn y Cwellyn Arms. Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Sul Awst 20 2023. Cadair Idris. Pum mlynedd yn ôl ddringodd y Clwb Cader diwethaf ar ddiwrnod gwlyb iawn, ac wedi ail drefnu y flwyddyn hon roedd yn rhaid ei gohirio oherwydd tywydd stormlyd tair wythnos yn ôl. Dyma lwc ar y trydydd cynnig, roedd y tywydd ar y mynydd yn well o lawer gyda digon o haul a golygfeydd, er gwaethaf rhagolygon ansicr. Naw, o dan arweiniad Noel wnaeth y, siwrne i Minffordd ar gyfer y daith o ochr de-ddwyrain y mynydd. Roedd y rhan cyntaf yn cynnwys dringo serth ar stepiau drwy’r ceunant coediog o Nant Gadair, mewn llawn lifeiriant yn dilyn glaw diweddar. Yna ar ôl oddeutu hanner milltir, uchder o 1000 troedfedd, gwastadodd y llwybr creigiog rywfaint ar dir mwy agored ac ymylu i’r gorllewin i’r Llyn Cau prudd, wedi ei gau i mewn gan fwa mawr o glogwyni yn ffurfio’r talp anferth Y Gader, golygfa arbennig a enwogwyd gan Richard Wilson, tad yr peintwyr lluniau o’r wlad, o’r 18ed ganrif.
Yna aros am baned y boreu ar fan uchel uwchben y llyn, 1700 troedfedd. Ymlaen yn serth aeth y llwybr heibio carnau, gan fynd heibio Craig Cau Amarch gyda golygfeydd rhagorol i’r de i lawr i Talyllyn. Daeth Graig Cau a cholled blin o uchder uwchben yr disgynfeydd serth i lawr Bwlch Cau. O’r diwedd ymunodd y llwybr a’r Llwybr Pony prysurach yn dod i fyny o Dolgellau a chyrraedd carn y copa o Penygadair, ychydig yn brin o 3000 troedfedd (893m), ar ôl oddeutu 3 awr o ddringo o Minffordd. Yr amser hyn roedd yna niwl yn dal i guddio’r copâu, yn cwtogi’r golygfeydd, ond roedd gwyntoedd y De Orllewin ddigon cynnes i alluogi cinio ar greigiau gerllaw heb orfod gwneud defnydd o’r cwt lloches sylweddol gerllaw. Dyma ddafad unig flêr yn trwyno’r grwp wedi ei thrywanu gan y tameidiau bwyd ar gael. Daeth yr haul allan yn fuan wedyn, yn rhoddi golygfeydd ysblennydd ar y daith dwyreiniol ar hyd grib y llwyfandir gwelltog llydan i Mynydd Moel. Roedd y dref fechan Dolgellau yn nythu o dan i’r gogledd, y Mawddach yn sarffu i’r gorllewin i bont y lein yn Bermo, wedi eu amgylchu gan fynyddoedd y Rhinogydd. i’r de a’r dwyrain, yr tarrenau rhestrus o fynyddoedd y Cambrian yn estyn yn wych ar draws canolbarth Cymru.
Er mwyn osgoi y ddisgynfa union droelliog i lawr y llwybr erydlyd o gerrig man (diolch byth nawr yn araf, yn cael ei balmantu a stepiau), gwneuthpwyd cylchdaith fer i’r dwyrain ar lwybrau defaid aneglur drwy grug a llys. Roedd hyn yn adennill y prif lwybr i lawr drwy’r Warchodfa Natur Cenedlaethol, ac adennill y ffordd allannol yn Pont Nant Cadair. Roedd hon yn ddiwrnod egniol ond wobrwyol ar un o’r copâu deheuol mawr yn Eryri, 7 milltir mewn hyd ond 3700 troedfedd o ddringo cynhyddol mewn ychydig dros 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Awst 17 2023. Parc Glynllifon. Ar fyr rybudd Megan ddaeth i’r adwy i arwain parti o 10 ar daith hawdd yn Parc Glynllifon mewn haul cynnes. Mae’r Plas enfawr, cartref hynafol yr Arglwydd Newborough, nawr ar gau ac yn gyson dadfeilio tra’n disgwyl i’r perchennog newydd benderfynu sut i’w ail ddatblygu. Mae’r Coleg Amaethyddol yn rheoli fferm y stad a hefyd yn defnyddio rhai o’r adeiladau, ond mae’r gerddi hanesyddol a’r tir hamdden oedd gynt wedi eu rhestru yn cael eu rheoli gan Gyngor Gwynedd fel Parc Gwladol ac yn agored i’r cyhoedd. Yn dilyn cyfnod o esgeulustod mae rhain yn awr yn cael eu hadfywio. Maent yn cynnwys coedwigoedd gyda dewis eang o goed ardderchog, ffynhonnau gwneud, rhaeadrau, ffolinebau a cherfluniau wedi eu cysylltu gan rwydwaith o lwybrau cysgodol, yn cynnwys digon o bethau diddorol ar gyfer taith dda. Ymdrodd y cerddwyr i archwilio nodweddion neilltuol, yn cynnwys mynwent anifeiliaid anwes gyda cell meudwy (Capel y Cŵn) a sefydliadau fel Gwerin y Gwaith yn coffau Clo y Penrhyn yn 1900-1903. Roedd yr amffitheatr gyfarddefol gyda pontydd o yw o’i blaen yn rhoi man heulog ar gyfer cinio yn yr haul, tra roedd well gan eraill y byrddau picnic o dan y coed. Ar y ffordd yn ôl roedd yna gylchdeithiau i weld y pwll bach cychod yn y Felin Blant, a Coed y Teras, grwp o bileri derw wedi eu cerfio yn adrodd y stori Cilmyn Droed-ddu, hynafiad chwedlonol teulu Glynllifon. Mwynhawyd te croesawgar yn Caffi’r Gath Ddu i orffen taith fer ddymunol a chymdeithasol oddeutu 2.5 milltir dros yr un faint o oriau. Noel Davey. (Cyl: DHW).
Dydd Sul 13 Awst 2023. Lôn Goed. Dafydd Williams arweiniodd 21ain o rodwyr ar daith i fyny ac i lawr y Lon Goed yr heol adnabyddus yn Eifionydd a enwid ar ôl y derwynod a’r ffawyddenau sydd yn amlinellu y ddwy ochr dros bellter oddeutu 5 milltir. Adeiladwyd y trac yn yr 1820au rhwng Afonwen ar yr arfordir, ac yn rhedeg i’r gogledd i Hendre Cennin, yn bennaf i gludo calch a mawn i ffrwythloni caeau mewndirol yn Llyn. Enwogwyd gan R. Williams Parry yn ei farddoniaeth “Eifionydd” sydd yn clodfori yr harddwch a’r “hedd perffaith” o’r Lon Goed. Roed hon yn ddewis addas o daith ar ddiwedd wythnos Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, gan i’r gadair Eisteddfodol gael ei cherfio o dderwen 200 oed o’r Lon Goed achubwyd yn Tyddyn Heilyn ar ôl iddi ddisgyn yn Storm Darwin yn 2014. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio bychan ar ochr lon gefn Chwilog, ac yn gyntaf mynd i lawr i Afonwen, y man cychwyn cywir. Mae mannau oedd gynt yn fwdlyd nawr wedi ei ail graeanu yn daclus i wella’r mynediad. Gwnaethpwyd cyflymdra da drwy gydol y dydd mewn tywydd sych a heulog gyda arosfeydd ar gyfer coffi a chinio. Roedd y cerdded yn rhwydd gyda cyflyrau sych dan draed a chodiad graddol bron yn anweladwy, cyfanswm oddeutu 630 troedfedd dros yr holl daith, yn caniatáu cyfle ar gyfer ymddiddanu. Roedd y Lon Goed yn edrych yn hyfryd yn ei fantell haf o ddail gwyrddlas, yn ffrwythlon yn dilyn y glaw diweddar. Cerddwyd yr hyd oddeutu 10 milltir mewn ychydig dros 5 awr fwynhaol. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 3 Awst 2023 Llyn Padarn. Diwrnod cymylog ond braf aeth a 14 o rodwyr i Llanberis ar gyfer cylch o Llyn Padarn o dan arweiniad Annie Andrew a Jean Norton. Cychwynnodd y daith o’r Amgueddfa Lechi, yn gyntaf mynd i weld y Castell Dolbadarn gadarn, yn sefyll yn fawreddog (er gwaethaf ymosodiad fandalaidd diweddar) ar yr culdir rhwng Llyn Padarn a Llyn Peris. Tebyca fe adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn yr 12ed ganrif i warchod Bwlch Llanberis. Yna dilynnodd y ffordd ar hyd ochr deheuol y llyn gan fynd heibio’r Ganolfan Fynydd Drydan i Ymwelwyr yn nawr yn anffodus wedi cau, a fydd yn fuan yn dychwelyd i dir glaswellt.
Ymlaen aeth y ffordd fetel a drwy dwnnel i Pen y Llyn, ble roedd yr hen bont yn caniatáu golwg ardderchog, wedi ei enwogi gan artistiaid fel Turner, yr holl ffordd i lawr y llyn i’r castell o dan copa’r Wyddfa a drwy Coed y Clegyr i Fachwenr y bryn o dan copa’r Wyddfa. Yna trodd y ffordd ar hyd yr ochr gogleddol gan ddringo yn serth i fyny ffordd fach goediog drwy Coed y Clegyr i Fachwen. Roedd yma ychydig o fythynnod taclus modern gyda golygfeydd braf drwy’r coed i lawr i’r llyn ac i’r mynyddoedd tu draw. Ar ôl milltir, cymerwyd llwybr i lawr drwy goedwig dderw braf. Roedd yna aros am ginio mewn llannerch hudol yn ochrog a nant lithriedig creigiog yn groesedig gan bont rydlyd. Roedd llwybr serth a chreigiog ar hyd top y clogwyn coediog, Alltwen, 300 troedfedd uwchben y llyn, o’r diwedd yn arwain i lawr i’r Hen Ysbyty Chwarel. Mae hon nawr yn ganolfan ymwelwyr dda iawn yn esbonio yn glir y driniaeth feddygol i chwarelwyr niweidiog yn yr 19eg ganrif, yn aml yn erchyll ond o flaen ei amser.
Ymlaen aeth y daith i lawr i’r ganolfan o etifeddiaeth lechi yn Gilfach Ddu, heibio’r pwll glas tyfn, Chwarel Vivian, man deifio adnabyddus, ac ar draws cledrau’r Reilffordd Llyn Llanberis ble mae peirannau stem bychain yn pwffian ymwelwyr 2-3 milltir i fyny ac i lawr y lan gogleddol. Roedd hon yn daith atyniadol a diddorol o amgylch 6 milltir dros 4.5 awr yn y man ddenuol, hollol haeddiannol boblogaidd o’r Parc Cenedlaethol. Noel Davey. (Cyf: DHW).