Awst 18 – Gorff 19
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams.
Dydd Sul 28ain Gorffenaf 2019.
Roedd yna ddwy daith heddiw. Defeiswyd taith “B” ar fyr rybudd gyda Gwynfor Jones yn arwain.
Taith A. Aberdaron - Rhiw. Roedd y daith yn ol y rhestr i ddringo Yr Elen yn y Carneddau o Fethesda. Pryn bynnag yng ngolau y tywydd gwlyb a’r rhagolygon o niwl mynydd cynigiodd yr arweinydd, Roy Milnes, ddewis arall a mynd i orllewin Llyn ble roedd rhagolygon am dywydd gwell. Dewisiodd 6 y cynnig yma gyda ryw amheuath, ond roedd yn ddewis cywir wrth iddynt fwynhau 14 milltir o daith gyda tywydd gogoneddus ar yr arfordir o Aberdaron i Rhiw ac yn ol mewn 8 awr o bron i dywydd haul parhaol. Dechreuodd y daith hefo coffi yn yr haul yng nghartref Roy yn edrych dros Bae Aberdaron. Y lle aros nesaf oedd i archwilio’r hen felin yn y pentref sydd yn dyddio o’r 17 ganrif ac yn gweithio tan y 1930gau; mae’r adeilad yn adfeilio ond mae rhai o’r hen beiriannau yno ac mae yna gynllwyn cymunedol i adfer y felin fel amgueddfa waith. Yna ymlaen i Lwybr yr Arfordir sydd yn dilyn i fyny’r Afon Daron am gyfnod cyn troi a dilyn y clogwyn agored am sawl milltir diddorol yn uchel uwchben cilfachau a baeau a dwr glas gloyw. Roedd yna aros eto i archwilio “Hydram”, gweddillion peirianyddiaeth yn dyddio o’r oes Victorianaidd, yn dal i weithio; mae hwn yn morthwylio, yn pwmpio dwr o ffynnon ar ochr y bryn i ddigoni anghenion ychydig o ffermydd uwchben, gan ddefnyddio cynllun syml ac ymarferol wedi ei seilio ar bwysa dwr yn unig heb dim angen o danwydd na pwer. Y tu draw i’r mwyngloddiau manganis uwchben Porth Ysgo, dyma’r parti o’r diwedd yn dringo i ben draw Mynydd Penarfynydd, lle ardderchog i gael cinio gyda golygfeydd i’r pellter i lawr i Ynys Enlli ac ar draws i Cilan a’r mynyddoedd yn y cymylau tu draw. Yna fe aeth y daith ar i lawr i Plas yn Rhiw am de a hufen ia. Aeth y daith yn ol ar draws caeau yn agos i bentref Rhiw, ail ymuno a llwybr yr arfordir yn Porth Ysgo a chaniatau mwy o olygfeydd ysblennydd yn haul cynnes y prynhawn hwyr gyda awel bleserus. Yn hytrach na troi i’r tir disgynnodd y parti i’r pen dwyreiniol o Bae Aberdaron ar lwybr peryglus bron wedi diflannu oherwydd cwymp y clogwyn ac erydiad a cherdded yn ol ar hyd y traeth graeanllyd i’r pentref. Roedd hon yn daith bleserus dros ben ac yn egniol gyda dringo o dros 2500 troedfedd. Mi brofodd i fod yn ddiwrnod cofiadwy ar un o rannau hyfrytaf o’r Llwybr Arfordirol mewn tywydd perffaith , mae’r Elen wedi ei arbed ar gyfer diwrnod arall a gwell tywydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith B. Moel y Ci. Mentrodd 7 cerddwr B i bentref Pentir i daclo copa weddol isel Moel y Ci. Ar ddiwrnod tamp ac yn ddiweddarach yn niwlog aeth, y cerddwyr i fyny drwy bentref bach Rhyd y Groes a mynd oddi ar y tarmac i Ffordd y Llannerch (yn llythrennol y ffordd agored mewn coedwig) arweiniodd ni ddim yn ddiddisgwyl drwy’r goedwig gyda’r bwriad o amgylchu yr ochr orllewinnol o’r Foel. Hyd yn oed ar lefel isel roedd y cloddiau cerrig yn amlwg ond wrth i ni ennill uchder daethant yn mwy amlwg fel roedd y coed yn gorffen.
Wedi cyflawni bron i hanner cylch perfaith o amgylch y Foel ac ar ol aros byr i gael coffi daeth yr amser i fynd ymlaen i’r gogledd i gyrraedd y copa. Dilynnodd y parti lwybr amlwg drwy’r grug trwchus ar y llethrau ac roedd ambell i rwystr yn gwneud dim i arafu’r symud ymlaen i’r copa.
Ar yr ymchwiliad roedd yr arweinydd ac anogwr y daith Dafydd Williams wedi mwynhau golygfeydd ar draws i Ynys Mon, i’r dwyrain/de ddwyrain i’r Carneddau, i’r gogledd i Elidir Fawr a Carnedd y Filiast ac i’r de orllewin i Foel Eilio a’i chymdogion i gyfeiriad Y Wyddfa. Yn anffodus heddiw ni wnaeth y llenni agor i ni weld y rhyfeddodau hyn.
Er hynny, yn eu blaen aeth y criw yn llawn o asbri i’r man ble cafwyd coffi ynghynt. Yna aeth y llwybr ar draws camfa bren simsan a llithrig ac yna mynd i’r de ar hyd wal gerrig sylweddol. Roedd rhaid croesi’r wal yma dros gamfa gerrig drwsgl ac mi drechwyd gyda gofal. Ymlaen gyda’r wal nawr ar y dde, i ffordd fechan rhwng Mynydd Llandegai a Deiniolen a’i dilyn am chwarter milltir cyn cyrraedd llwybr-llygad a mynd i gae a chael cinio. Ar ol cinio roedd yna fwy o lwybrau a ochrau cerrig yn eu arwain yn ol am amser byr i ffordd darmac ar gyrion Deiniolen (gwelwyd cipolwg o’r pentref drwy’ niwl). Yna dyma ddringo o’r tarmac a dilyn drwy fwy o lechweddau yn dew o grug (hefo llus yma ac acw i ginio!) a chyrraedd y bwlch ochr isa i Moel Rhiwen. Yna ar i lawr i gyfeiriad Rhiwlas gan fynd heibio’r bwthyn adfail a’r enw, Maes Meddygon (Cae’r Doctor?). Cafodd rhai cerddwyr y Clwb beth amser yn ol eu dychryn yno pan yn ciniawa, wrth i goeden fawr ddisgyn yn eu hymyl yn y gwynt cryf, felly dim oedi ond ymlaen ac i lawr i’r gogledd o bentref Rhiwlas. Aethant heibio amdroad eglwys ddeiniadol yng nghanol bythynod i gyn chwarelwyr ac yna disgyn i gwblhau’r ddolen uwchben Rhyd y Groes ac yn ol i’r ceir ar ol taith oddeutu 6.7 milltir. Roed stop am luniaeth yn ty bwyta Ty Mawr, yn ddiweddglo ardderchog i ddiwrnod llwyddiannus gyda sawl un yn mynegi dychweliad ar ddiwrnod a dywydd gwell. Gwynfor Jones. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 18ed Gorffennaf 2019. Llanfachreth. Nick White arweiniodd 28 aelod o’r clwb o bentref Llanfachreth ar daith 5.7 milltir o amgylch y bryn a’r enw chwilfrydig, Moel Offrwm i’r gogledd o Ddolgellau. Mae’r ardal yma yn nwylo Stad Nannau, unwaith yn gartref i ‘r teulu pwerus Vaughan; roedd y ffordd yn arwain allan o’r pentref yn mynd o dan fwa, Y Garreg Fawr, wedi ei adeiladu gan weithwyr y stad ac wedi ei enwi felly oherwydd y capan 18 tunnell, wedi ei gludo o’r Stepiau Rhufeinig; ymhellach ymlaen aeth y daith uwchben y ty hanesyddol Nannau, erbyn hyn yn wag ac wedi ei esguluso. Parhaodd y daith i’r de-orllewin ar hyd trac dymunol llydan a gwelltog o dan goed ac yna yn sharp i’r dwyrain a dringo yn gymedrol i oddeutu 800 troedfedd ar ochr bryn Moel Offrwm. Gadawyd y dringo i’r copa ble mae caer oes yr haearn, 1329 troedfedd am ddiwrnod arall, ac fe aeth y daith ymlaen o amgylch y Foel yr un cyfeiriad a’r cloc. Mae’r llwybr yma newydd ei uwchraddio gan y Parc Cenedlaethol ac mae yn rhoddi golygfeydd agored rhyfeddol o’r traciau uwchben, yw cymharu i’r Precipice Walks cyfagos. Cafwyd egwyl am ginio ger Coed Ffridd Eog ar y gornel gogledd-ddwyreiniol, yn caniatau golygfa wych dros fforest Coed y Brenin ac i gyfeiriad y Rhinogydd. Ymhellach ymlaen roedd yna olygfa cyffelyb i gyfeiriad Dolgellau a Cader Idris. Aeth llwybr coediog ar ochr orllewinnol o’r bryn a’r parti uwchben Fferm Nannau ac i lawr i faes parcio Coed y Groes. Oddi yno dyma ail ymuno a’r llwybr allanol ac yn ol i Llanfachreth. Arhosodd y mwyafrif i gael te yn caffi Llyn Trawsfynydd ar eu ffordd gartref i Llyn ar ol y daith bleserus yma yn yr haul. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 14eg Gorffennaf 2019. Llyn Geirionydd ac Eglwys Llanrhychwyn. Cyfarfu 13 o gerddwyr yn Trefriw am daith braf o dan arweiniad Dafydd Williams yn y bryniau uwchben Dyffryn Conwy. Dringodd y daith i fyny llwybrau golygfaol drwy’r pentref heibio Rhaeadr y Tylwyth Teg a chroesi’r Afon Cadnant; roedd yr afon yn hanesyddol fel blaen pwer dwr ar gyfer nifer o ddiwidiannau lleol yn cynnwys melin wlan sydd yn dal i gynhyrchu cynnyrch wedi eu gweu. Dringodd y llwybr yn gyson ar lwybr coediog tuag at 1000 troedfedd o amgylch Coed y Gwmannog a Grinllwm ar yr ochr ddeheuol o’r cwm, yn caniatau golygfeydd hardd o lethrau trwchus coediog a’r olygfa tu draw. Arosodd y cerddwyr i gael golwg ar yr eglwys unig a diddorol, Llanrhychwyn, sydd o bryd yw gilydd yn hawlio i fod yr eglwys hynaf yn Gymru, hefo lleoliad y 6ed ganrif gyda rhannau o’r adeilad presennol o 1200 hefo cysylltiadau a Llewelyn Fawr. Ymhellach ymlaen roedd yna dystiolaeth o fwyngloddio eang plwm/sinc, yn bennaf adfeilion gafaelgar o’r felin Klondyke oedd yn prosesu mwyn oedd yn cael cael ei gario gan dramffordd a rhaffau awyr o’r pwll Pandora; dim ond am amser byr roedd hyn yn mynd ymlaen ac yn ddi-fudd o gwmpas 1900 ac fe oedd y sefyllfa yma yn ran o dwyll enwog mwyngloddio a roddodd ym mhen amser enw i’r felin. Aeth y daith ymlaen i ben deheuol o’r llyn cul milltir o hyd, Llyn Geirionydd, llyn teilwng o boblogaidd (yr unig un yn Eryri yn caniatau cychod pwer), a’i gyrraedd ar ffordd gul ar ei lan ddeheuol. Dilynodd y daith lwybr garw drwy’r coed ar y lan orllewinol dawelach, ac o’r diwedd cyrraedd cofgolofn Taliesin ym mhen y llyn, yn coffau, yn ol yr hanes, man geni y bardd yn y 6ed ganrif. Roedd y dychweliad yn dilyn ochr orllewinnol Dyffryn Crafnant, yn rhannol ar lwybrau ar hyd glan yr afon. Taith bleserus oddeutu 7.5 milltir o hyd drwy ardal hardd a gorffen gyda lluniaeth yn Caffi Melin Trefriw. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau Gorffenaf 4ydd 2019. Mynydd Rhiw. Ar y daith heddiw ar Fynydd Rhiw roedd yn hyfrydwch cael croesawu 20 ffrind o Rodwyr Rother o East Sussex oedd yma am wythnos o gerdded o dan arweiniad medrus Wil, brodor o Drawsfynydd. Mi wnaeth Lis Williams orchwyl ddewr i ymdopi a torf o gyfanswm o 43 cerddwr, ac fe aeth mwyafrif ohonynt i’w thy ar ddiwedd y daith am baned o de dderbyniol. Roedd yn ddiwrnod teg o haf gyda gwynt ysgafn a golygfeydd syfrdanol, i’r dwyrain, ar draws Porth Neigwl, yr holl ffordd i fyny Llyn i Eryri a Mynyddoedd Wicklow yn y pellter. Cychwynnodd y daith o fan anodd i ddod o hyd iddo, tir Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn agos i gopa’r mynydd ond fe wnaeth pawb ei gyrraedd yn y diwedd. Cyrhaeddwyd y copa 1000 troedfedd yn fuan trwy y ffatri bwelli or Oes Ddiweddar Y Meini a charneddau or oes efydd. Yna roedd disgyn araf i bentref Rhiw heibio’r stesion radar y Weinidogaeth Amddiffyniad(MoD) yn Clip y Gylfinhir. Daeth cyfnod ar ffyrdd gwledig a’r cerddwyr yn cyrraedd yr eglwys syml ac anghysbell, Llanfaelrhys ac i lawr i’r cilfach ddifyr, Porth Ysgo. Fe wnaeth rhai fentro yr 150 cam i gael cinio tawel ar y traeth. Aeth y ffordd ymlaen heibio olion pyllau manganis, yn dal i gael eu gweithio tan ddiwedd yr ail ryfel byd i greu arfau. Ymhellach ymlaen gwnaeth rhai ddringo i gopa Mynydd Penarfynydd er mwyn cael mwy o olygfeydd cyn ymlwybro yn ol eto ar fwy o lonydd bach cul drwy’r pentref ac ar ochr dwyreiniol o Fynydd Rhiw. Roedd hon yn daith gofiadwy oddeutu 7 milltir ac hefyd yn gyfle da i ddod i adnabod rhai o’n cyd gerddwyr o Lloegr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul Mehefin 30ain. Llanddona i Traeth Lligwy. Heddiw roedd yna drip i Sir Fon ar gyfer taith ardderchog llinellol oddeutu 12 milltir. Gwynfor Jones arweiniodd barti o 10 ar hyd rhan hardd o’r Llwybr Arfordirol o Llanddona i Traeth Lligwy. Mae y rhan yma o’r Ardal o Brydferthwch Naturiol Mon yn cynnwys llawer o olygfeydd arfordirol bendigedig, traethau tywodlyd llydan yn frith o adar y mor, llwybrau coediog, dauareg chwilfrydig a hanes morwrol diddorol, yn cael eu ymharu mewn rhai llefydd gan ormodedd o garafanau. Newidiodd y cymylau boreuol a’r gwynt oerllyd i fod yn glir, sych a heulog, gwell cyflusterau cerdded na’r tywydd poeth diweddar. Cychwynnodd y daith ym mhentref Llanddona, ac i lawr (trwy lwc) ar ffordd serth gyda llethredd o 1 mewn 3 i’r bae ysblennydd Traeth Coch yn ymestyn 500 troedfedd islaw. Roedd cyflyrau’r llanw yn caniatau ffordd union ar draws yr ehangder eang o swnd oddeutu 2 filltir, ac ail ennill y tir ar draws ardal cors halen nodweddiadol. Dyna aros ar bont fechan am baned y boreu ac yna mynd ar lwybr ar draws dylifiad ffrwd fwdlyd ar yr ochr orllewinol o’r bae. Yna dyma’r cerddwyr yn mynd i’r gogledd i gyfeiriad tref Benllech gan wrthsefyll y temtasiwn i ymweld a’r Ship Inn boblogaidd. Yn y fan hon mae’r traeth yn cael ei dominyddu gan graig galchfaen sgwar anferth, Castell Mawr, yn ol yr hanes yn safle i gaer oes yr haearn, ac yn bosib unwaith yn chwarel, ond nawr yn warchodfa amddiffynol i adar y mor nythu. Ymhellach ymlaen, roedd y bae llai, Traeth Bychan, yn le braf i gael cinio. Roedd y Kinmel Arms yn y pentref darluniadol, Moelfre, yn caniatau aros eto derbyniol i dori syched oedd wedi cynyddu dros sawl awr o gerdded. Aeth y llwybr heibio safle’r bad achub a’r RNLI Newydd gafaelgar a’r ddau fan ei rhagflaenydd, awgrym o’r peryglon ar yr arfordir hwn. Aeth y rhan olaf o’r daith ar hyd traeth agored creigiog gyda nifer o gerig coffa a gosodiadau celf yn coffau llongddrylliad trychinebus y Royal Charter yn 1859 a’r mor achub dewr Dic Evans can mlynedd yn hwyrach. O’r diwedd cyrhaeddodd y cerddwyr basddwr twodlyd traeth Lligwy, wedi mwynhau diwrnod ardderchog o gerdded amrywiol a hwylus dros 6-7 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 20ed Fehefin 2019. Treborth & Faenol. Roedd yna gynulliad dda o 25 o rodwyr am daith linellol yn cael ei harwain gan Meri Evans ar hyd yr Llwybr Arfodirol o Fangor i’r Felinheli drwy Treborth a’r Faenol. Roedd hon yn daith fwynhaol yn yr haul, ac yn gwneud y goreu o’r tirlun hyfryd ar ochr y Fenai gyda gymaint o hanes diddorol. Cyfarfu y parti yn y Felinheli a chymeryd drosodd bws rhif 5C i’r man cychwyn, prin tu draw i Ysbyty Gwynedd yn Penrhosgarnedd. Dilynwyd llwybr i’r arfordir drwy ardal ddinesig a gwarchodfa Eithinog, hafan o gaeau a choedwigoedd, nawr o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Yna fe aeth y ffordd i’r gorllewin gyda pen o Bont Telford, i mewn i’r coedwigoedd anadnabyddus ond ardderchog, Gerddi Llysieuol Treborth, nawr yn ran o Brifysgol Bangor. Yma mae olion o’r gerddi a luniodd Joseph Paxton fel rhan o gyrchfan twristaidd Victorianaidd a fu yn aflwyddiannus; mae yno rhai coed hardd yn cynnwys derwen Lucombe ( croesad rhwng derw Twrci a Cork). Mae’r Llwybr Arfordirol yn croesi o dan Bont Britannia, ac yn caniatau golwg nodedig o’r sarniaeth o’r pier ar ochr y Fenai, y man cinio, a chyfle i gael cipolwg ar y llewod nawr yn sgwlcan yn y llwyni ar ochr y rheilffordd. Mae gweddill o’r adeiladwaith gwreiddiol o bont tiwbaidd Robert Stephenson 1850 yn cael ei arddangos gerllaw, wedi ei arbed o’r tan yn 1970 a ddinistrodd yr rhan uchaf o’r adeilad arweinodd at ychwanegiad o’r ffordd uwchben. Yna fe ymunodd y llwybr estyniad hir o goed hyfryd a chaeau yn ffurfio rhan o Parc y Faenol yn gwynebu’r Fenai; roedd y meinciau pren uchel a’r llefydd gwylio yn caniatau golygfeydd hyfryd o’r culfor garw a Plas Newydd gyferbyn. Parhaodd y llwybr i’r giat terfyn yn arwain i mewn i’r Felinheli sydd o’r diwedd wedi cael ei agor i’r cyhoedd yn dilyn sialens cyfreithiol hir i wahardd y ffordd oedd cynt wedi ei rhwystro. Aeth y rhan olaf o’r daith heibio’r glanfaodd diddorol o’r hen Port Dinorwic, nawr wedi ei trawsffurfio gan y datblygiad diweddar o dai ger lan y mor. Roedd y lluniaeth yn Dafarn Garddfon yn ddiweddglo dymunol i’r daith bleserus o oddeutu 5.5 milltir. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 16ed 2019. Moelwynion. Judith Thomas arweiniodd 8 o rodwyr ar daith i fyny’r Moelwyns gan gychwyn o Croesor. Wedi gadael y maes parcio aethant ar y llethr deheuol serth o dyffryn Croesor yn swn y gog, ac wedi cyrraedd y chwarel, sydd bellach wedi ei chau, dyma fwynhau egwyl dderbyniol a chael paned. Roedd chwarel Croesor ar agor o 1850 i 1878 ac yn cau am y tro olaf yn 1930 pan fu dirywiad mewn cynhyrchiad. Yna fe aeth y cerddwyr i fyny Moelwyn Mawr yn serth a chyrraedd y copa 2400 troedfedd mewn niwl trwchusl a gwynt cryf.
Ar ol arhosiad byr, i lawr yr aethant gan ddefnyddio y llwybr i Craigysgafn a mwynhau cinio mewn man cysgodol gyda ambell i gip olwg o Lyn Stwlan drwy’r niwl. Oherwydd y gwynt cryf a diffyg gweld dyma benderfynnu i adael copa Moelwyn Bach tan ddiwrnod arall. Yna dyma ddechrau disgynfa diddorol i gysgod y coed a chyrraedd Caffi Croesor a phawb yn mwynhau’r lluniaeth. Diolch i Judith am arwain taith arbennig mewn tywydd garw. Jean Norton. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 6ed Fehefin 2019. Garndolbenmaen. Ymunodd 19 o rodwyr ar gyfer taith bleserus o dan arweiniad Kath Spencer o Garndolbenmaen. Yn dilyn cychwyniad rhynllyd gyda bygythiad o law dyma hi yn troi yn braf a heulog. Aeth y parti i’r gogledd-ddwyrain, dringo ffordd wledig ac yna llwybrau diddorol yn ymlwybro i fyny’r bryn a drwy ddryswch nodweddiadol o gaeau waliog bychan. Wedi cyrraedd 700troedfedd torodd y trac drwy Bwlch y Bedol, gyda ymyl Craig y Garn ac i mewn i rostir agored tu hwnt. Wedi croesi pont dros ffrwd yn llifo’n gyflym dyma gyrraedd Cae Amos ac aros am baned y boreu. Mae’r hen ffermdy yma wedi ei ddefnyddio ers blynyddoedd fel bwthyn i ddringwyr ac yn awr wedi ei atgyweirio gan yr “Mountain Bothies Association”, ar gyfer lloches i gerddwyr gyda cyflesturai sylfaenol yn cynnwys 10 gwely gwersyll. Yna fe aeth y daith i lawr i Cwm Pennant yn Bryn Wern, a chymeryd rhan o’r ffordd heibio eglwys Llanfihangel y Pennant. Prin tu draw i Plas Hendre dilynwyd trac serth i fyny i chwareli Hendre-ddu. Roedd y chwareli yn eu anterth yn yr 1860au pan datblygwyd pwll mawr, llechwedd a melin; mae gwersyll y gweithwyr a gweddillion adeiladau chwarel wedi oroesi. Oddi yno, wrth gael cinio, roedd yna olygfeydd hyfryd i’r cwm ac ar draws i uchelderau urddasol Foel Hebog a Grib Nantlle. Yn y prynhawn dilynwyd llwybrau aneglur drwy blanhigfa ifanc o dderw, collen a bedwen ac ar draws rhan anodd o dwmpathau gwair yn arwain o’r diwedd yn ol i Bwlch y Bedol. Roedd ffordd wahanol yn ol yn caniatau panorama ardderchog o’r bryniau ac arfordir gorynys Llyn. Roedd hon yn daith diddorol a wahanol oddeutu 6.5 milltir dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 2 Fehefin 2019. Porth Oer - Aberdaron. Roy Milnes arweiniodd 10 o gerddwyr ar daith fwynhaol o 9 milltir ar Lwybr yr Arfordir o Porth Oer i Aberdaron. Cychwynnodd y daith o faes parcio gwlyb a gwyntog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a cerdded oddeutu dau gan llath i lawr i’r “Whistling Sands” a phenderfynnu cael coffi yng nghysgod y caffi lan y mor a disgwyl ychydig amser oherwydd y tywydd gwlyb. Yna dechreuodd pethau wella ac erbyn amser cinio roedd yr haul allan yn union yn ol y rhagolygon. Dilynnodd y daith y llwybr iga moga rhyfeddol i lawr arfordir gogledd orllewin Llyn, gan wasgu o dan y clogwyni isel a llawer i gilfach creigiog bychan. Ar ol mynd gydag ymyl Mynydd Anelog a heibio Porth Llanllawen, o’r diwedd cyrhaeddodd y llwybr y man uchaf o Mynydd Mawr 550 troedfedd, ac edrych i gyfeiriad copa Ynys Enlli a oedd yn ymddangos ar draws y sownd tyfn a glas ond yn ewynnog yn y gwynt cryf o’r de-orllewin. Cymerwyd ginio mewn man cysgodol ar ochr dde o’r mynydd oedd yn caniatau golygfeydd braf i fyny’r orynys. Dilynnodd taith y prynhawn arfordir y de a’r de ddwyrain yn yr haul braf. Gan ddisgyn bob yn gam croesodd y llwybr lwyfandir gwyrdd taclus wedi ei bori, yn ymestyn i bentir bychan a chreigiog, Trwyn Maen Maelyn. Roedd amlinell o adfeilion Capel y Santas Fair yw gweld yn glir, ac hefyd Ffynnon Mair islaw ar y creigiau, y ddau yn atgof o bwysigrwydd y fan yma i bererinion canol oesol pan yn cychwyn am Enlli. Yna croesodd y cerddwyr man mwy agored gyda golygfeydd o bentiroedd creigiog Mynydd Gwyddel, Mynydd Bychestyn a Pen y Cil, i swn sgrechian brain goesgoch uwchben. Yna roedd golygfa wych arall yn cynnwys blodau’r gwanwyn, bysedd y cwn, pys llygod, blodau melyn a melyn yr eithin, llygaid y dydd mawr gwyn a pig y deryn ar lefydd creigiog. Arweiniodd y llwybr cysgodol uchel i’r gogledd trwy gilfachau mordwyol fel Porth Meudwy ac o’r diwedd daeth Aberdaron i’r golwg gyda calon yr hen bentre islaw, yn nythu ar fae eang gyda tyfiant yr 20ed ganrif y tu ol. i ddiweddu roedd yr arweinudd wedi paratoi te derbyniol yn ei gartref cyn cludo’r cerddwyr yn ol i’w ceir yn dilyn diwrnod arbennig ac hamddenol ar yr arfordir. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau Mai 23ain 2019. Cylchdaith Talsarn. Ar ddiwrnod o haul cynnes ond braidd yn niwlog, Tecwyn Williams arweiniodd 23 aelod ar daith gron ddymunol 5 milltir o amgylch Talysarn yn Dyffryn Nantlle. Roedd hon yn daith amrywiol a diddorol, yn cynnwys llwybrau caeau golygfaol a ymchwil o greiriau o rai o’r lawer o’r pyllau chwarel sydd wedi gorlifo a’r adeiladau sydd wedi goroesi o’r diwydiant llechi lleol. Y man cyntaf oedd chwarel Dorothea, oedd yn bodoli o 1820 i 1970 a gafodd ei enwi ar ol gwraig y perchonog cyntaf. Mae’r prif bwll enfawr nawr yn cynnwys llyn dwfn a gafaelgar sydd yn denu deifiwyr. Roedd gorlifo yn broblem taerlud yno ac roedd rhaid pwmpio yn gyson, ac yn y diwedd yn dibynnu ar un o’r diwethaf o’r “Cornish Beam Engines” i gael ei gosod yn y wlad. Daliodd y daith ymlaen i’r de ar draws Afon Llyfni. Heibio chwarel Conwy a Plas Dorothea a adeiladwyd yn 1860, ond nawr wedi ei droi i lety gwyliau. Roedd yr ardal uwch yma ar odre’r bryniau o dan Grib Nantlle y man o’r chwarel Tan yr Allt oedd ar waith yn bennaf rhwng 1830 a 1913, er roedd rywfaint o waith yn hwyrach ac mae olion adfywio presennol. Roedd y gweithfeydd chwarel yn le addas i gael cinio gyda golygfeydd braf ar draws y dyffryn i bentref Talysarn a lan y Fenai tu draw. Aeth y ffordd heibio gwersyll chwarel wedi ei newid i gartref modern gyda gardd ffrynt hyfryd; ac ymhellach ymlaen , Capel Tanrallt nawr wedi ei newid i ganolfan sbort awyr agored. Dilynwyd llwybrau ar draws nifer o gaeau deniadol yn llawn o flodau gwyllt ac wedi eu amgylchu gan wrychoedd yn llawn o flodau’r ddraenen wen. Ar ol brwydr hefo ffens trydan fyw a gwartheg nerfus gyda lloi, croesodd y parti yn ol dros y Llyfni a chymeryd llwybr(Newydd ei wella gan wirfoddolwyr o grwp Arfon} ar ochr yr afon yn ol i Dalysarn. Gorffenwyd y daith bleserus yma hefo lluniaeth yn caffi Pant Du. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul Mai 19ed 2019. Cnicht via Llynnau Myllt & Llynnau Cwn (A) & Cylchdaith yr Arddu (B). Roedd yna ddwy daith heddiw, y ddwy yn cychwyn o Gelli Iago yn nyffryn Nantmor. Richard Hirst arweiniodd barti o 11 ar daith gron o 7 milltir yn cynnwys Cnicht a llynau cyfagos, tra roedd Dafydd Williams yn mynd a 6 o gerddwyr ar daith mwy cymedrol yr un pellter i gyfeiriad Croesor ac yn ol drwy goedwig Coed Cae Dafydd. Mi oedd yn ddiwrnod dymunol ac mi arhosodd yn sych er gwaethaf y cymylau duon,
Taith 'A'. i gychwyn fe aeth y ddwy daith i’r de ddwyrain o dan Castell i fyny dyffryn cul gyda nant, gan fynd heibio’r ty fferm o’r 17eg ganrif Gelli Iago, nawr wedi ei adnewyddu fel Canolfan Mynydda Nantmor. Yna ymwahanodd y daith anodd yn Bwlch y Battel, a dringo i fyny i’r ddau lyn hudolus, Llynau Cerrig y Myllt, sydd mewn basn anghysbell a chreigiog gyda rhostir llus, ac yn loches dros dro i Wyddau Canada. Yn dilyn coffi yn y lle anial yma disgynnodd y parti i lyn di-enw a chymeryd ffordd iga moga ger ysgafellau gwelltog ac ar ran fer o gerrig rhydd, i fyny ysgwydd orllewinol Cnicht. Gelwir y copa clasur hwn weithiau yn y Mattehorn Cymraeg – oherwydd ei siap pyramid, ond yn ffodus ddim oherwydd ei fod yn anodd i’w ddringo. Cafwyd ginio ar y copa o 2370troedfedd ac roedd y fan honno yn caniatau golygfeydd ysbrydoledig o’r waliau uchel ar Moelwyn Mawr gyferbyn a’r gwyrdd ffrwythlon o ddyffryn Croeso ymhell o danom i aber y Glaslyn yn y pellter. Yna ymlaen aeth y daith ar hyd y grib i’r gogledd ddwyrain, a dod i ffwrdd oddi arni ger Foel Boethwell wrth Llyn yr Adar ac yna mynd ar draws porfa gorsiog a heibio Cyrniau i’r tri pwll cysylltiedig yn ffurfio Llynnau’r Cwn. Roedd y rhan olaf o’r daith yn mynd i’r gorllewin, disgyn yn araf heibio Llyn Lagi a dod i lwybr oedd yn y diwedd yn ail gysylltu a’r ffordd wledig gul yn Llwynyrhwch .Profodd hon i fod yn daith wobrwyol ac yn ddiwrnod egniol yn cyfuno tir mynyddig braf, llynnau pysgota tawel a golygfeydd dramatig, gyda galwadau cyson gan y gwcw. Roedd yr aros olaf o’r dydd yn dderbyniol yn y caffi cymunedol cyfagos yn Bethania. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith 'B'. Dewis o daith arall oedd hon i’r daith A yn cael ei harwain gan Richard Hirst i ddringo Cnicht gyda dau lyn. Daeth 17 cerddwr ynghyd ac aeth 10 hefo Richard a 5 hefo fi ar y daith B. Roedd y ddwy daith yn cychwyn o’r unman sef ochr y ffordd ger Gelli Iago a tra fod arolygon y tywydd yn ansicr a glaw yn y gwynt, aros yn sych wnaeth hi drwy gydol y dydd. Cychwynnodd y ddau barti ar gyflymdra bywiog i gyfeiriad y de ddwyrain tuag at Cnicht, ac yn fuan mynd heibio’r hen ffermdy Gelli Iago, nawr yr Ganolfan Fynydda Nantmor, a dringo’r llwybr serth gyda’r cerddwyr A yn fuan yn cael blaen ar y B’s ac yn diflannu dros y grib gyda Castell yn uchel i’r chwith. Yn dilyn yr hanner milltir cyntaf roedd y llwybr yn fwy gwastad er yn gyson ar i fyny tan inni gyrraedd llyn bach di-enw ble cafwyd te deg ar ei lan. Y fan yma oedd y man uchaf o’r dydd, 1260 troedfedd, ac yn fuan dyma gychwyn am i lawr i’r de gyda golygfeydd eang o Fae Ceredigion yn y pellter, ac ar drac amlwg yr holl ffordd i lawr ac o fewn tua hanner milltir i bentref Croesor ar y chwith a copa tywyll a garw Yr Arddu yn uchel ar y dde. Yn y fan yma dyma fynd yn siarp i’r dde i gyfeiriad y gorllewin ac eto ar i lawr ar drac garw ac ar ol tua milltir dyma gyrraedd ffordd Nantmor yn Bwlchgwernog. Yna dyma ddilyn y ffordd am oddeutu hanner milltir tan cyrraedd y troiad i’r dde ac i gyfeiriad y gogledd ac i mewn i’r goedwig ac aros i gael cinio ymysg nifer o fonau coed. O’r fan hyn ymlaen am oddeutu dwy filltir aeth y llwybr i’r gogledd ddwyrain, i gychwyn i fyny drwy’r goedwig dywyll, Coed Cae Dafydd ac yna heibio nifer o fythynod unig i gyd mewn cyflwr gwael ac angen eu atgyweirio, tan i ni gyrraedd y ffordd, chwarter milltir yn fyr o’r man cychwyn. Roedd hon yn daith foddhaol o 7.5 milltir ar gyflymdra cyson ac yn diweddu gyda paned o de/coffi a chacen yn yr hen gapel cyfagos ac nawr yn gaffi arbennig yn Nant Gwynant. Dafydd Williams.
Dydd Sul Mai 12ed 2019. Manod Mawr. Daeth dychweliad i dywydd cynnes heulog a 15 o gerddwyr ar daith dda i fyny ac o gylch copa go ddiarth Manod Mawr. O dan arweiniad Tecwyn Williams a cychwyn o’r maes parcio bychan Cae Clyd ger pentref Manod, aeth y parti i’r de-ddwyrain ac yna‘r gogledd-ddwyrain a dringo caeau garw i Llyn y Manod. Yna dilynwyid llwybr o safon amheus i fyny i 1700 troedfedd, ac ar ol aros am goffi roedd yna ddringo serth yn union i’r copa oddeutu 450 troedfedd yn uwch. Oddi yno roedd yna olygfeydd ysblennydd yn ymestyn o Ynys Enlli i’r Berwyns, gyda nifer o gopfeydd canolog Eryri yn y blaendir. Aeth y daith ymlaen ar lwybrau dirgel, ar draws llwyfandir cymharol wastad, a disgyn i’r chwarel ar waith, Cwt y Bugail ble cafwyd ginio ger llyn glas yn gwynebu’r ogof sydd yn enwog oherwydd iddo fod y fan storwyd trysorau o’r Galeri Cenedlaethol amser y rhyfel. Oherwydd nad oedd yna waith yn y chwarel ar y Sul roedd y parti yn gallu dringo i’r gorllewin ar y trac caled dan draed heibio Llyn Pysgod a’r cloddiad anferth yn dyddio o’r 1840au ond erbyn hyn wedi ei adael; roedd y disgyniad ar lethr cymharol hawdd yn enwog oherwydd ei enw o “ceir gwyllt” gan y chwarelwyr, math o declyn llithro oedd yn eistedd ar un o’r cledrau. O’r diwedd dyma’r daith yn ail gyrraedd Llyn y Manod a’r llwybr yn ol. Dewisiodd dau o’r parti ddringo y cyfagos Manod Bach, dringo hawdd o’r de drwy’r llus ond yn anoddach i fynd i lawr o’r gogledd drwy greigiau garw, y grug a’r prenau mwyar duon. Yna fe aeth y mwyafrif o’r cerddwyr i Dafarn yr Oakley ym Maentwrog i ddiffodd ei syched ar ol diwrnod pleserus yn yr haul, cerdded hamddenol am oddeutu chwe milltir a 1500-2000troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Thursday May 9ed 2019. Cylchdaeth Porthmadog. Colin Higgs ar ei ymddangosiad cyntaf arweiniodd 15 o gerddwyr ar lwybrau o amgylch Porthmadog. Cychwynnodd y daith o faes parcio Lidl a mynd ar hen lwybr yn gyffochrog a’r reilffordd a tu ol i’r Travelodge. Yna croesi’r reilffordd i gaeau a thrwy Fferm Pensyflog a dod allan ar lwybr oedd unwaith yn rhan o’r tramffordd adeiladwyd yn 1872 yn cysylltu Porthmadog a chwarel lechi Cwmstradllyn. Oddi yno aeth y llwybr drwy dir Ysbyty Alltwen i goedwig gyda draenen wen yn ei lawn ogoniant, lle dymunol i gael coffi cyn mynd ymlaen i Blasdy’r Wern. Datblygwyd y stad gan Morris Johns yn 16eg ganrif pan planwyd y gerddi a’r perllannau, wedyn mynd drwy ddwylo sawl un yn cynnwys y teulu pwerus Y Wyniad a’r Greaves, perchonogion y chwareli. Defnyddwyd fel Ysby yn y ddwy rhyfel byd ac am flynyddoedd fel cartref mamaeth cyn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymwelwyr. Yna dyma’r ffordd yn mynd a’r parti ar draws yr A497 ac i fyny ar lwybr i Bron y Foel, yn ol yr hanes yn gartref i Hywel ap Gruffydd, cwnstabl nodedig o Gastell Criccieth a ymladdodd yn y Frwydr Poitiers yn 1356. Roedd y llwybr yma , unwaith yn rhan o’r ffordd bost i Caergybi, ac yn le ardderchog i gael cinio yn erdrych dros yr aber. Ar ol mynd heibio’r fferm hefo lamas ac anifeiliaid eraill, aeth y daith i mewn i goed Parc y Borth a chyrraedd pentre Borth y Gest. Oddi yno dyma gychwyn yn ol i Porthmadog gan fynd heibio sawl iard gychod a’r harbwr hardd, yn barod am luniaeth croesawus ar ol taith oddeutu 6 milltir mewn tywydd teg. Jean Norton. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 25ain Ebrill 2019. Cylch o Nefyn. Taith fer a rhwydd oedd hi heddiw, cylch o Nefyn o dan arweiniad Miriam Heald, cychwynnodd 27 cerddwr o’r maes parcio tu ol i Ty Doctor ac yna troi am i lawr ar y llwybr arfordirol hefo gwyneb caled a golygfeydd ardderchog, sydd yn mynd ar y clogwyni uwchben Porth Nefyn. Safodd y parti ar drwyn Penrhyn Nefyn i edmygu’r golygfeydd hardd ar draws y bae i gyfeiriad Porth Dinllaen ac Yr Eifl. Roedd glaw y boreu wedi diflannu a’r tywydd yn sych gyda chyfnodau braf yn datblygu. Yna dyma’r ffordd yn mynd i’r tir yn yr adran ble mae erydiad a thir lithriad wedi gorfodi gwyriad, gan fynd heibio nifer o dai crand wedi eu gwahanu y mwyafrif ohonynt bellach yn dai haf. Cymerwyd ginio ar lan pwll hwyaid gerbron Lon Penrallt. Mae y fan braf a thaclus yma wedi ei ddatblygu fel menter prifet ond wedi ei wneud ar gael yn feddylgar i’r cyhoedd. Daeth llwybr yn cysylltu a Lon Ty’n Pwll a’r parti yn ol yn fuan ar ol rhodiad ddymunol oddeutu 2.3 milltir. Wedi dweud hyny, uwchafbwynt y daith oedd cael mynd o amgylch y “micro-brewery” Cwrw Llyn cyfagoes sydd newydd ei agor, ble ymunodd y mwyafrif o’r parti a thri aelod arall o’r Clwb oedd yn ein disgwyl yn y “tap room”. Diweddodd adolygiad diddorol o hanes a gweithredau’r anturiaeth leol yma gyda cyfle i samplu rhestr o’r “craft beers” ardderchog sydd yn cael eu cynhyrchu yno. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 21ain Ebrill 2019. Moel Hebog, (Gradd 'A') & Moel Ddu (Gradd'B'). Daeth Sul y Pasg, tywydd arbennig a 24 o gerddwyr yn cyfarfod yn Llyn Cwmystradllyn ar gyfer dwy daith, taith gradd 'A' i fyny Moel Hebog yn cael ei harwain gan Noel Davey a taith gardd 'B' i fyny Moel Ddu gan Dafydd Williams.
Gradd 'A'. 16 cerddwr gychwynnodd ar y daith “A” o argae Cwmystradllyn ac mynd i’r gogledd ar hyd trac uwchben y llyn i gyfeiriad Chwarel Gorseddau troi heibio’r “pentref colledig” a adeiladwyd yn nghanol yr 19 ganrif ar gyfer gweithwyr y chwarel. Yna roedd dringo cyson i fyny’r ysgwydd hir gwelltog ar yr ochr de-orllewinol o Foel Hebog. Roedd hyn yn ddigon anodd a chaled, ac ar ol oddeutu dwy awr cyrhaeddodd y parti y copa 2600 troedfedd a chael eu gwobrwyo gan y golygfeydd gwych ond braidd yn niwlog i bob cyfeiriad ac ymlacio gyda paned deg hwyr a Wyau Pasg yn y gwyntoedd ysgafn. Oddi yno fe aeth y 13 cerddwr oedd ar ol i lawr yr ochr gogleddol serth i Bwlch Meillionen, dringo eto drwy hafn eitha cul i fyny at greigiau Moel yr Ogof, rywle uwchben yr ogof oedd yn ol yr hanes yn loches i Owain Glyndwr. Roedd y man cinio yn y fan yma yn caniatau golygfa eang a gwych i gyfeiriad Yr Wyddfa ac amryw o gopfeydd eraill Eryri. Yna aeth y llwybr i’r gogledd i gyfeiriad Moel Lefn drwy Bwlch Sais i ben draw’r grib ac i lawr yn serth i Bwlch Cwm Trwsgl. Daeth hyn a’r parti drwy weddillion gafaelgar o’r Chwarel Tywysog Cymry (y Prince of Wales), menter arall obeithiol agorodd yn 1873 a gauodd yn 1886. Ar ol ymdrechion mynyddig y boreu, roedd yn ryddhad i ddilyn olion gwastad, yr hen reilffordd y chwarel, 6 milltir yr holl ffordd drwy’r dyffryn tawel, Cwm Pennant. Ar ol mwynhau mwy o Wyau’r Pasg yn Cwm Llefrith, cyrhaeddodd y parti yn ol yn Cwmstradllyn oddeutu 5.30 ble roedd y caffi yn Tyddyn Mawr, yn garedig, wedi aros ar agor i ofalu am ein anghenion sychedig yn dilyn y diwrnod poeth a hir. Roedd hon yn daith egniol ond chofiadwy o 10 milltir gyda dringo cynyddol o bron i 3000 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Gradd 'B'. i gymharu a’r daith “A” heddiw roedd hon yn daith weddol fer o 6 milltir i fyny ac i lawr Moel Ddu o Cwm Stradllyn, mi gychwynom gyda 8 cerddwr a gorffen a 6. Roedd yn dwym iawn ac ystyried fod y tymherau ychydig ddiwrnodiau yn gynt oddeutu ddim ond 5-8 gradd uwchben rhewbwynt.
O’r maes parcio dyma groesi wal y gronfa ac mynd i’r dde, y gorllewin drwy gaeau gyda adeiladau’r bwrdd dwr ar y dde ac yn fuan dyma gyrraedd Ynys-wen ac yna mynd i’r chwith a’r de ac ymuno a ffordd drol ardderchog a dringo yn serth. Wedi mynd drwy tair giat a chyrraedd uchder oddeutu 1000 o droedfeddi dyma adael y trac a mynd i’r mynydd a dilyn trac serthach oedd yn anoddach i ddilyn ac yna dod i ben. Yn y fan yma dyma aros i edmygu y golygfeydd tu cefn i’r gorllewin ac o’n blaenau i’r dwyrain. Oddi yma roedd yna ddim ond yn agos i 500 llath i ddringo ble cawsom doriad arall i ail enill ein gwynt. Yna dim ond amlinellu oddeutu 500 llath nes cyrraedd copa Moel Ddu (1800+ troedfedd) ac edmygu y golygfeydd godidog i bob cyfeiriad cyn cael cinio yng nghysgod wal yn agos i gamfa’r copa.
Yna cychwyn ar i lawr yn serth dros dir creigiog ac anodd a thrwy dair Ffridd, Ffridd Fach, Fawr ac Isaf ac roeddem yn falch o gyrraedd pen y cwm a safle Chwarel Gorseddau sydd wedi cau ers llawer dydd. Agorodd hon yn 1809 ond ddim am gyfnod byr iawn, 1854-57 oedd hi yn cynyrchu ac mi gauodd yn ddisymwth (Cewch fwy o wybodaeth ar y We). Dyma osgoi gweddillion gafaelgar yr hen chwarel drwy gadw ar lwybr yn agos i Lyn Cwmstradllyn ac yna roedd yna ddim ond milltir go dda tan inni gyrraedd caffi Tyddyn Mawr a mwynhau te/coffi a cacennau blasus. Cafodd y caffi hysbys diweddar yn Y Ffynnon ac medraf eich sicrhau ei bod hi yn werth ymweld a’r Tyddyn. Dafydd Williams.
Dydd Iau Ebrill 11ed 2019. Penrhyndeudraeth i Maentwrog. Roedd yna daith linellol heddiw oddeutu 6 milltir o Penrhyndeudraeth i Maentwrog yn cael ei harwain eto gan Jean Norton ac Annie Andrew. Ugain yn cyfarfod ger Tafarn yr Oakley a chael eu cludo gan bedwar car i ddechrau’r daith yn Penrhyn. Cychwynnodd y daith gan ddringo 500 troedfedd i fyny stepiau uwchben y dref. Oddi yno dilynodd y llwybr draciau a llwybrau weddol wastad drwy’r wlad braf yn uchel uwchben yr ochr gogleddol o Ddyffryn Ffestiniog. Roedd y rhan gyntaf yn dilyn yn agos i’r Reilffordd Ffestiniog yn caniatau golygfeydd braf ar draws y Dwyryd i gyfeiriad y Rhinogydd ac i lawr i Porthmadog a’r mor. Yn fuan ar ol Rhiw Goch aeth y ffordd i’r gogledd orllewin i mewn i goedwig ddymunol ac yn agos i’r hen byllau yn Bwlch y Plwm ac o’r diwedd cyrraedd pentre Rhyd, yn nythu islaw uchelderau’r Moelwyni. Yna aeth y llwybr i’r de ddywreiniol ar draws caeau corslyd drwy Bwlch y Maen a disgyn i Llyn Hafod y Llyn, un o’r cronfeydd oedd unwaith yn rhoddi dwr i Stad Tan y Bwlch. Roedd dwr gloyw y llyn, ble roedd dau Glagwydd Canada yn mordeitio, yn le heddychol am ginio hwyr yn yr haul. Y lle nesaf oedd stesion Tan y Bwlch, ble roedd y parti yn ffodus i gyfarfod a dwy hen beiriant stem o’r Rheilffordd Ffestiog yn dal i fynd ar ol dwy ganrif. Aeth y rhan olaf o amgylch y Llyn Mair hardd, yn adnabyddus oherwydd teithiau diweddar. Roedd gerddi croesawus Tafarn yr Oakley yn le ardderchog i ddiweddu gyda coffi a diodydd oer. Roedd hon yn daith fwynhaol ar ddiwrnod heulog o wanwyn. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 7 Ebrill 2019. Capelulo. Mentrodd 16 aelod o’r Clwb ar hyd arfordir y gogledd ar daith gron ardderchog 8 milltir yn y bryniau uwchben Dwygyfylchi a chael eu harwain gan Jean Norton ac Annie Andrew. Roedd yn ddiwrnod dymunol gyda’r haul niwlog yn gyflym gynhesu’r tymherau rhynllyd. Cychwynnodd y daith o’r Bwlch Sychnant dramatig ac o amgylch y bryn amlwg Alltwen a disgyn oddeutu 300 troedfedd ar lwybr gwelltog serth drwy Coed Pendyffryn i Capelulo. Yna dyma aros i gael coffi’r boreu yn y parc bychan braf Y Glyn ar lan yr Afon Gyrach lle mae yna gerflyn pren gwych o’r meudwy sanctaidd o’r 6ed ganrif Ulo a roddodd ei new i’r pentref. Yna ymunodd y llwybr a Llwybt Arfordirol Cymru, dringo dwy ran o dair o’r ffordd i fyny Foel Lus i Llwybr y Jiwbili yn coffau Jiwbili Aur y Frenhines Victoria; mae y llwybr cul gwastad hwn yn ymylu ochr y bryn serth ac yn caniatau golygfeydd eang i lawr i’r arfordir ac ar draws y mor gyda nifer o longau i gyfeiriad Ynys Mon, golygfa digyffro ond am y rhuo swnllyd yr A55 yn y pellter. Oddi yno dilynodd y ffordd draciau llydan gwelltog sydd yn croesymgroesi grug yr ucheldir rhwng bryniau amlwg llwm. Wrth gyffordd ger Ty’n y Ffrith gwneuthpwyd gylchdaith a dringo ar draws Ffridd Wanc i uchder o 1350 troedfedd i weld man y cylch cerrig gafaelgar a godidog, adnabwyd fel Cylch Derwydd ond mewn gwirionedd mae wedi goroesi ers oes y meini a beth bynnag 4000 mlynedd yn ol. Hwn yw un o’r prydweddau gorau o’r archaeoleg o’r hen drac ucheldirol, yn mwy diweddar yn fordd i’r porthmyn, yn rhedeg rhwng ucheldir Tal y Fan a sgarp arfordirol Penmaenmawr. Yna fe aeth y daith yn ol i gyfeiriad y gogledd ddwyrain dros Waen Gyrach, heibio Maen Esgob ac i mewn i Warchodfa Natur Sychnant. Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog yn cynnwys taith oddeutu 8 milltir a dringo o 2000 troedfedd a chael ei chwblhau gyda lluniaeth yn y dafarn Fairy Glen yn Capelulo. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 28ain Fawrth 2019. Penmaenpool - Taith Dibyn Newydd. Nick White arweiniodd 24 o gerddwyr ar daith 5 milltir gron ardderchog o Penmaenpool ar hyd y “New Precipce Walk”. Roedd y tywydd heulog yn ymddangos Aber Mawddach ar ei orau drwy gydol y dydd. Cychwynnodd y daith gan groesi’r afon ar y bont doll yn dyddio o 1879 – 20 ceiniog y pen yn cael ei ariannu gan ein arweinydd caredig. Yna roedd dringo cyson o 800 troedfedd drwy goedwigoedd Galltyrheddwch, ac o’r diwedd cyrraedd llethrau Foel Ispri ac yn cael ein gwobrwyo hefo golygfeydd syfrdanol i lawr i’r Mawddach ddisgleiriog yn y dyfnder, yn ymdroelli i’r gorllewin i’r bont yn Bermo oddeutu 8 milltir i ffwrdd. Roedd hyn yn arwydd i ni gael cinio haeddiannol. Roedd yr adran nesaf yn glasurol “New Precipice Walk” yn sgyrtio ochr y bryn noeth ar lefel trac gwastad, y cyn dramffordd ar gyfer mwynglawdd aur y Foel. Mae rhan o hwn wedi ei addasu yn lwybr i gadeiriau anabl gyda un cledran sydd wedi goroesi yn amddiffynfa yn erbyn trychineb. Er mae dim ond hanner milltir o hyd, roedd y daith yn arddangos mwy o olygfeydd ardderchog cyn belled a Cadair Idris a’r Arans. Wedi aros yn weddillion ty’r cyn reolwr, disgynnodd y parti ar lwybr serth drwy’r coed, heibio Llyn Tan y Graig (cronfa), i lawr i bentref Llanelltyd. Yma dyma groesi’r A470 brysur, a chymeryd yr hen ffordd Bermo-Dolgellau yn ol dros y Mawddach gyda’r hen bont gerrig yn agos i weddillion Abaty Cymmer o’r 12 ganrif. Roedd y rhan olaf yn gerddediad sydyn yn dilyn rhan o’r Llwybr Mawddach gwastad sydd yn dilyn y cyn reilffordd Bermo-Dolgellau-Ruabon a gauwyd gan doriadau Beeching yn 1965. Daeth y diwrnod pleserus hwn i ben gyda lluniaeth yn y dafarn George 111 Penmaenpool sydd newydd ei atgyweirio. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 24ain Fawrth 2019. Yr Eifl & Tre'r Ceiri. Fe ddaeth diwrnod clir disglair a heulog a 17 aelod o’r clwb ar daith fywiog i fyny’r Eifl a Tre Ceiri. Cychwynnodd y daith o arhosfa uwchben Llanaelhaearn, a mynd yn groes i’r cloc o amgylch y mynydd ar hyd llwybrau ar gaeau weddol wastad a golygfeydd ardderchog i lawr i Trefor a Bryniau Clynnog gyferbyn. Wedi cyrraedd Llwybr Arfordirol Cymry yn ymylu Chwarel yr Eifl, fe aeth y parti i’r De Orllewin i fyny’r trac serth yn arwain i Bwlch yr Eifl uwchben Nant Gwrtheyrn, dargyfeirio ar yr ochr Orllewinnol o’r mynydd i gymeryd y llwybr serth i gopa’r Eifl, uchder oddeutu 1860 troedfedd. Roedd y creigiau islaw’r copa yn fan gwych i gael cinio yn yr haul a chysgod o’r gwynt rhynllyd, ac yn caniatau golygfa eang ar draws Eifionydd, i lawr yr orynys ac i gyfeiriad Eryri a Mynyddoedd y Cambrian ar draws y bae. Gerllaw roedd modd gweld gwerthgloddiau cerrig dwbl gafaelgar, mewn rhai llefydd yn dair meter o uchder, yn amgylchu’r gaer oes yr haearn rhyfeddol Tre Ceiri. Y fan honno oedd y nod nesaf, a’i gyrraedd ar lwybr creigiog anodd i lawr drwy’r grug ac yna i lawr eto ychydig drwy fynedfa waliog wlyb, yr agoriad gogleddol i’r safle lwyfandirol hanesyddol 2.5 ha ble mae waliau 150 o gytiau crwn yn goroesi. Yna i ddiwedu i lawr i drwyn creigiog yn y pen dwyreiniol i’r safle, ac oddi yno roedd yna fwy o olygfeydd rhagorol i fyny arfordir Arfon ac ar draws i Caergybi. Yna roedd hi ddim ond cam neu ddwy drwy’r fynedfa orllewinol i lawr y mynydd yn ol i’r ceir, ac i rai o’r parti ymweld a’r caffi yn Nant Gwrtheyrn. Roedd hon yn daith arrdderchog oddeutu 6 milltir a dringo cynyddol o dros 2000 o droedfeddi dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dyd Iau 14eg Fawrth 2019. Trawsfynydd - Tomen y Mur. Nick White arweiniodd 27 o Rodwyr ar daith ychydig yn brin o dair milltir o Trawsfynydd i Tomen y Mur ac yn ol. Roedd y nifer o gerddwyr yn dyst i boblogrwydd teithiau byr hawdd o’r math yma, diweddu gyda coffi a chacen yn y caffi wrth y Llyn, y man cychwyn y cerdded. Aeth y daith yn syth ar draws yr A470 i fyny llwybr mwdlyd ac o dan bont i’r cyn reilffordd Traws-Blaenau oedd nawr yn afon ac mewn llif. Yna dyma’r parti yn cyrraedd man hudol o’r “Glawgoedwig Celtaidd”? goroesiad nodedig o goed derw gwyw a meini mawr dramatig, i gyd wedi eu gwisgo mewn carped gwyrdd llachar o fwsogl trwchus. Ymhellach ymlaen dyma ddod o hyd i le addas i gael cinio o dan fwy o goed a chael rywfaint o gysgod or gwynt rhynllyd. Arweinioodd dwy gamfa i heol fach a mynediad i’r fan hanesyddol Tomen-y-Mur. Yma mae llawer o weddillion diddorol o Gaer Rhufeinig roedd unwaith yn cartefu i oddeutu 400-500 o filwyr ac yn ran o rwydwaith o gaerau a ffyrdd yn rheoli symudiad drwy Eryri yn yr ail ganrif ar ol Crist. Yn y Mabinogion, Mur Castell yw hwn, cwrt Llew Llaw Gyffes. Roedd yr Normaniad hefyd yma, adeiladu mwnt sydd yn dal yn amlwg ac yn rhoddi safbwynt gwyntog dros llyn Traws a’r wlad o amgylch i hanner y criw a chwythodd i fyny’r 50 troedfedd i ben y bryn dynol gwyntog. Roedd y llwybr yn ol heibio Capel Utica, ar draws caeau ac yn dilyn nentydd, yn rhanol ar hyd Ffordd Rhufeinig. Roedd hon yn daith ddymunol ar ddiwrnod gwyntog ond sych a chlir. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 10ed Fawrth 2019. Llwyngwril. Roedd yna ddwy daith heddiw, y ddwy yn cychwyn o bentre Llwyngwril, ar yr arfordir i’r de o Fairbourne. Roedd hyn yn llenwi bwlch yn brofiad cerdded y Clwb yn ddiweddar, yn ymchwilio y bryniau yn ffurfio yr ochr orllewinol o grib hir Cadair. Hugh Evans arweiniodd 11 aelod ar y daith “A” 10.5 milltir oedd ar y rhaglen; penderfynodd y Cadeirydd i wneud y cyfan o’r daith “A” ond mi gychwynodd o flaen y gweddill tan i ‘r naw arall o dan arweiniad Dafydd Williams ei ddal i fyny ar y daith “B” fyrach ar lwybrau cyffelyb, ond yn osgoi y filltir gyntaf allan o’r pentref; roedd hyn yn arbed dringo yn serth oddeutu 600 troedfedd ac yn fanteisiol iawn. Aeth y daith heibio caer fechan o oes yr haearn, Castell y Gaer, ac yn caniatau golygfeydd gwych o’r arfordir, ac yna i’r dwyrain i’r tir a chroesi tir agored ar fryniau gwelltog a llethrau mwyn ar y nifer o lwybrau amlwg. Aeth y daith drwy ddyffryn cul ar ochr yr Afon Dyffryn, ar draws ardal goedwigaidd ac o’r diwedd, yn agos i Braich Ddu ymuno a’r Ffordd Ddu. Mae’r hen drac yn rhedeg islaw crib Cadair o’r gorllewin o Ddolgellau trwy Llynnau Cregennan ac i lawr yr arfordir yn frith o weddillion gyn hanesyddol diddorol sef meini unigol, carneddau a chytiau gwyddelig. Rywbeth mwy diweddar yw plac er cof am ugain o awyrennwyr Americanaidd a laddwyd mewn gwrthdariad awyren, “Flying Fortress” yn mis Mehefin 1945. Mae rhan o’r llwybr nawr yn ran o Lwybr Arfordirol Cymru. Roedd y tywydd heulog clir yn caniatau golygfeydd gwych ar draws y Mawddach i Abermaw ac ar draws y mor i amlinellau o Benllyn yn y pellter cyn belled a Ynys Enlli. Roedd y rhan yma o’r daith yn gorfodi’r cerddwyr i wynebu’r gwyntoedd gorllewinol cryfion ac roedd un gwth o wynt milain a ffyrnig dros 50 milltir yr awr, ond diolch byth cilio yn fuan wnaeth y cenllys a’r eirlaw. Roedd y parti yn falch o gyrraedd lloches Llwyngwril ar ol oddeutu pum awr o gerdded caled drwy dirlun braf. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dewisiad arall taith B oedd hon i’r daith A, 10.5 milltir a 1669 troedfedd o ddringo oedd ar y rhaglen ac yn cael ei arwain gan Hugh Evans. Roedd rhagolygon y tywydd yn wael ac yn addo gwyntoedd o 57 m.y,a, ddim yn addawol oherwydd roedd y daith o 8.5 miltir yn gyfochrog i’r arfordir gerllaw, gyda’r bedair filltir cyntaf yn mynd i’r gogledd ddwyrain ac yna i’r de orllewin yn yr ail hanner fel petai.
Yn glyfar roedd Hugh yn crybwyll i’r 1.2 milltir cyntaf o’r daith B, gael ei gwneud gyda ceir. Roedd hyn yn arbed i’r cerddwyr B 600 troedfedd o ddringo serth ac hefyd gadael allan triongl 1.5 milltir yn y rhan mwyaf gogleddol.
Yn y maes parcio yn Llwyngwril roedd yna 12 cerddwr A ac mi gafodd 9 B eu cludo i ben y bryn mewn dau gar yn cael eu gyrru gan ddau gerddwr A garedig. Roedd y Cadeirydd yn fwriado;l wedi cyrraedd oddeutu 30 munud cyn y prif barti oherwydd ei fod yn benderfynnol i gerdded i fyny’r allt serth 600 troedfedd ac fe ymunodd a ni’r cerddwyr B yn fuan ar ol i ni gychwyn i gyfeiriad y de. i ddechrau roeddem ar y tarmac ond yn fuan dyma ddringo dros dwy gamfa a chroesi caeau brwynllyd a chyrraedd trac waliog yn arwain i’r dwyrain ond yn araf yn mynd i’r gogledd ddwyrain a heibio corlanau fel roedd y llwybr yn mynd ar i fyny ac o’r diwedd cyrraedd coedwig ar ein chwith a chael cinio yn gysgod y coed. Drwy’r boreu roedd yr haul yn disgleirio ond roedd y gwynt yn cryfhau o’r de orllewin i’n cefnau.
Yn dilyn cinio dyma ddau o’r cerddwyr yn penderfynu dilyn y trac oddeutu milltir ymhellach er mwyn cyrraedd plac yn cofnodi lle disgynnodd awyren “Flying Fortress” yn 1945 pan laddwyd yn drychinebus 20 o awyrennwyr Americanaidd, a hyny ar ol i’r rhyfel yn Ewrop ddod i ben. Aeth y gweddill i lawr i’r gorllewin ar draciau coedwigaidd gwlyb a rhychog am oddeutu hanner milltir a chyrraedd ffordd darmac agored, rhan o Lwybr Arfordirol Cymru, a mynd i gyfeiriad y de ac i ddannedd y gwynt cryf dychrynllyd. Yna am i lawr a dyma y ddau o “ddefaid coll” yn ail ymuno a ni a dyma gynnal cyflymdra da ond, o fewn cyfnod byr dyma’r haul yn diflannu ac yn ei le awyr ddu fygythiol a cenllys yn disgyn. Yn ffodus roeddem yn agosau at Llwyngwril a dyma lwyddo i gyrraedd ein ceir heb wlychu yn ormodol.
Roeddem wedi rhagweld y buasai y cerddwyr A yn ein dal ond ni welsom arwydd ohonynt, ac fe ddeallasom yn hwyrach eu bod peth pellter tu ol i ni. Gwasgarodd y cerddwyr B yn fuan i wahanol gyfeiriadau ond mi fu i bedwar ohonom fwynhau paned o de/coffi a chacen yn y caffi croesawgar wrth Llyn Trawsfynydd. Dafydd Williams. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 28ain Chwefror 2019. Cylchdaeth Criccieth. Cynhaliwyd y 40ed gyfarfod blynyddol Rhodwyr Llyn yn Capel y Traeth, Criccieth. Roedd yna gynulleidfa dda o 37 aelod. Oherwydd meistroldeb y Cadeirydd roedd yn gyfarfod llwydiannus a bur yn caniatau amser i daith fer oddeutu 4 milltir o dan arweiniad Dafydd Williams. Roedd yn ddiwrnod tamp a niwlog, ond dal yn fwyn, a chadw draw wnaeth y glaw. Aeth y ffordd i’r gogledd o’r Stryd Fawr, i’r gorllewin drwy gaeau ac yna i fyny y ffordd waliog gul Lon Fel. Yn Pen y Bryn dyna’r parti yn dilyn adran syth hir o’r ffordd wladaidd heibio Bron Eifion ac aros am ginio cynnar ar y ffordd. Yna fe aeth y daith mewn cylch i gyfeiriad yr arfordir ar lwybrau a thraciau, oedd yn fwdlyd mewn ambell fan, heibio Ynysgain, Canolfan Breswyl “Girl Guides” Cymru, ac ar hyd llwybr dymunol a adnabwyd yn lleol fel “Lovers Lane”, roedd aelodau’r Clwb wedi ei glirio mis diwethaf fel rhan o ymdrech wirfoddol. Roedd hyn wedi dod a’r cerddwyr yn ol i’r arfordir yn Cefn Castell, y ty “grand design” ddadleuol sydd yn gwahanu opiniwn pobl leol. Oddi yno dim ond dau gam ar hyd Y Dryll ar Lwybr yr Arfordir oedd hi yn ol i’r dref ac yr arhosiad olaf yn Cadwalladers am luniaeth. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 24ain Chwefror 2019. Llanddona i Biwmaris. Ar ddiwrnod o dymherau uchel, mi oedd yn record am fis Chwefror yng Nghymru, Gwynfor Jones arweiniodd 16 aelod ar daith wych ar hyd adran 12 milltir o Lwybr Arfordirol Mon o Llanddona i Biwmaris. Casglodd y parti yn Biwmaris ac ar ol peth trafferth oherwydd gwyriadau cyrraeddasant y man cychwyn. O Llanddona fe aeth y daith i lawr yn serth i’r arfordir o le roedd golygfeydd gwych ar draws ehangder eang o Red Wharf Bay ac yn y pellter carreg galch enfawr Castell Mawr a thref Benllech. Yna roedd disgyn i adran hyfryd o lwybr y clogwyn, a chyrraedd Fedw Fawr, ardal fawnog o dan reolaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ymestyn ar hyd yr arfordir oherwydd ei ddaearegol unigryw, llysieuol a bywyd gwyllt nodweddol. Yna fe aeth y ffordd i’r tir, heibio Gwarchodfa Natur Marioandyrys, drwy wlad ffrwythlon, gyda tai hardd ac un o’r melin gwyntoedd gwyn traddodiadol i’r ynys. Ymhellach ymlaen croesodd y llwybr Parc Pentir, ardal nodweddol o waliau gwelltog, heibio y chwareli carreg galch, Parc Dinmor o ble naddwyd “Marmor Penmon” i adeiladu sawl adeiladwaith enwog, yn cynnwys y ddwy bont dros y Fenai a Neuadd y Dref Birmingham. Yna disgynnodd y parti i’r goleudy i Trwyn Du. Safbwynt poblogaidd ar flaen dwyreiniol yr ynys. Mwynhawyd cinio hwyr ar y traeth gyda Ynys Seiriol wrth law a’r Orme Llandudno yn y pellter a swn unigryw cloch y goleudy dwy waith pob munud ar y dydd anarferol o dawel yma. Yna daeth casgliad o adeiladau hanesyddol ar benrhyn Penmon, yn cynnwys gweddillion abaty Augustinian, eglwys fynachlog, ffynnon hynafol a cholomendy mawr cerrig a adeiladwyd gan y teulu Bulkeley ar ol iddynt gymeryd gofal o’r safle yn dilyn diddymiad y mynachlogau . Roedd y rhan olaf fwyaf ar y ffordd, gan fod adrannau helaeth o’r llwybr arfordirol o dan ddwr oherwydd y llanw uchel. Roedd niwl tusw ar y Fenai ac yn creu rhwystyr dramatig i’r Carneddau yn esgyn yn uchel ar yr ochr arall. Wedi cyrraedd Biwmaris mi fu rhai o’r parti yn mwynhau lluniaeth hamddenol yng Ngwesty’r Bulkeley, tra roedd y gyrrwyr eto yn gwynebu y gwyriadau ffyrdd lleol i adennill eu ceir o Llanddona. Roedd hon yn ddiwrnod arbennig ar arfordir Mon, yn gofiadwy oherwydd y tywydd eithriadol o gynnes a heulog am yr amser o’r flwyddyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 14 Chwefror2019. Coed Hafod y Llyn. Roedd fel petai yn ddiwrnod cyntaf o’r gwanwyn – ar ddiwrnod Falentein?- Nick White arweiniodd 21 aelod ar daith rhygyngus ymhlith y coed a dwr Coed Hafod y Llyn. Cychwynnodd y daith o Orsedd Tan y Bwlch, disgyn i Llyn Mair a chymeryd llwybr o amgylch yr hanner gorllewinol o’r llyn hudol yma. Yna aeth y daith i fyny, croesi’r Reilffordd Ffestiniog ac mewn cylch i Llyn Hafod y Llan, llyn bychan fel nyth yn y coed, un o amryw a ddagtblygwyd fel cronfa i wasanaethu Teulu’r Oakley, Stad Tan y Bwlch yn anterth y chwarei llechi. Roedd y byrddau picnic yn y fan yma yn le dymunol i gael cinio hamddenol. Yna roedd hi ond taith gymarol fer yn ol ar draws y fordd i’r man cychwyn. Drwy gydol y daith hawdd yma roedd heulwen glir a thymheredd mwyn yn dangos y coed mwsoglyd amryliw are eu goreu gyda cip olygfeydd profoclyd o’r Moelwyni yn codi’n serth tu draw. Ar ol y daith fe aeth y mwyafrif o’r parti am luniaeth i’r Gwesty’r Oakley croesawgar gerllaw. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 10 Chwefror 2019.
Roedd yna ddwy daith heddiw, y ddwy yn cychwyn o faes parcio Joe Brown yn Capel Curig. Hugh Evans arweiniodd barti o 6 ar daith dda hir, o amgylch y llynnoedd a choedwigoedd o Goed Gwydir, tra roedd Dafydd Williams yn arwain 9 ar daith haws drwy Dyffryn Llugwy. Nid oedd y cenllys ar yr amser cychwyn yn addo yn dda, ond yn fuan dyma hi yn gwella i fod yn ddiwrnod dymunol gyda cyfnodau hir o haul a dim golwg, fel ddywedodd y rhagolygon, o’r gwyntoedd cryfion. (Cyf-DHW).
Daith 'A': Llyn Crafnant & Llyn Greirionydd. Aeth y daith “A” i gyfeiriad y dwyrain ar draws yr A5 gan ddringo heibio Clogwyn Mawr, yna i’r gogledd oddi tan clogwyni Crimpiau ar hyd Nant y Geuallt i mewn i Gronfa Genedlaethol Natur Cwm Glas Crafnant. Ar ol oedi am baned y boreu, aeth y ffordd i mewn i ehangder Coed Gwydir, gyda golygfeydd yn bell i lawr hyd hudol Llyn Crafnant i gyfeiriad Dyffryn Conwy ble mae ffordd yn gwneud y fan yma yn le poblogaidd ar gyfer adloniant. Dilynodd y llwybr lan gogleddol o’r llyn gan gyrraedd colofn yn y pen dwyreiniol, yn cofnodi ei rodd yn 1896 i tref Llanrwst fel tarddiad dwr. Yna dringodd y parti heibio hen byllau plwm, mynd o amgylch Mynydd Deulyn ac aros am ginio wrth ffrwd gysgodol, cyn mynd ar i lawr i Llyn Geirionydd, llyn deiniadol arall yn sefyll mewn cwm, tyfn a chul. Mae Cofgolofn Taliesin yma yn coffau y gred mae y fan yma oedd cartref y bardd o’r 6ed ganrif; wedyn cychwynnodd y bardd o’r 19eg ganrif Gwilym Cowlyn arwest yma, rhyw fath o gystadleudd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Ymlaen yn wyliadyrus ar hyd y glan gogleddol dros rwydwaith ar lawr o wreiddiau coed llithrig, dringo eto heibio Llyn Bychan ac yna dilyn llwybrau llydan coedwigaidd yn ol i lawr i Capel Curig gyda golygfeydd ardderchog o’n blaenau o gopau gwyn y Carneddau, Moel Siabod a Lliwedd. Roedd hon yn ddiwrnod arbennig mewn gwlad hyfryd, yn cynnwys oddeutu 10 milltir dros 5 awr a dringo oddeutu 1700 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Daith 'B': Capel Curig i Ty Hyll. Dewisiad arall oedd hon i daith “A” 9.5 milltir mwy mentrus Hugh, yn cychwyn o’r un man sef y maes parcio tu ol i siop gelfi awyr agored Joe Brown ar y gyffordd o’r A4086 a’r A5 yn Capel Curig. Wedi cyrraedd ein cyrchfan dyma ddioddef cawod drom o genllys ond yn ffodus dyna ddiwedd arni ar ol deg munud a gweddill y dydd yn eithaf sych ond yn rhynllyd. 15 o gerddwyr ddaeth, 6 ohonynt yn mynd ar daith “A” Hugh ac 8 ohonynt ar y “B” hefo fi. i gychwyn aeth y daith i’r gogledd ar ffordd y goets fawr, yr hen A5, ac ar ol yn agos 200 llath yn siarp i’r chwith a’r gorllewin ar drac fferm annymunol yn gwynebu Moel Siabod, ac ar ol yn agos i hanner milltir dyfod allan a chroesi’r A4086 a mynd i lawr heibio talcen y ganolfan chwareuon awyr agored Plas y Brenin. Yna dyma groesi’r bont bren yn y man ddeheuol o Lynnau Mymbyr a chyrraedd ffordd goedwigaidd a mynd i’r de ar hyd ochr yr afon am oddeutu milltir, a chyrraedd y bont hardd Pont Cyfyng gyda dwr terfyglus yr Afon Llugwy oddi tanom. Roedd yr A5 bresennol dros y bont ond i’r dde yr aethom ar yr hen ffordd gan fynd heibio man amddiffynfa rhufeinig, Caer Llugwy, tan i ni gyrraedd Ty Hyll (ty un nos), ble y cawsom ginio, eto yn ymyl yr A5 swnllyd. Gan fynd heibio ochr dde i’r hen fwthyn aethom i fyny’r ffordd darmac serth am oddeutu 800 llath cyn mynd i’r chwith ac i’r gogledd ar ffordd goedwigaidd ac yn fuan ei gadael i ddilyn llwybr gyda’r wal ar ein chwith. Roedd y ffordd am yr 1.5/2 filltir nesaf i fyny ac i lawr drwy’r goedwig ar lwybrau garw, gwlyb a llithrig ac o’r diwedd dyma gael cinio hwyr wedi i ni ddyfod allan o’r goedwig. Roedd y man yma yn caniatau golygfeydd eang o’n cwmpas gyda copauon y mynyddoedd yn wyn o eira, Moel Siabod yn agos ar y chwith a’r Wyddfa ac eraill i’r gogledd. Oddi yno i gyflawni’r 7.5 milltir dim ond yn agos i filltir oedd yna i ddiweddu y daith a hyny ar lwybr newydd ei adnewyddu gyda graean a cherrig siapus. Yna dyma fynd gerllaw i’r Caffi Siabod prysur a chroesawus a mwynhau te/choffi a chacen. Roedd hon yn daith fywiog ac wedi ei mwynhau gan y cerddwyr oll. Dafydd Williams.
Dydd Iau 31 Ionawr 2019. Llyn Llywelyn, Coedwig Beddgelert. Roedd y daith heddiw yn gylch oddeutu 4.5 milltir drwy Goedwig Beddgelert, a 700 hectar o ardal o goedwigaeth yn cael ei reoli gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mary Evans arweiniodd 25 o aelodau ar daith ymlaciol ar hyd rhwydwaith o draciau dan eira. Roedd yn agos i rewbwynt ond sych hefo’r haul o dro i dro i’w weld drwy y cymylau. Cychwynnodd y daith ger Pont Cae Gors ar y ffordd rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu i gyfeiriad Moelfryn. i ddechrau roedd yn llithrig ac yn beryglus oherwydd y rhew, ond yn fuan mi newidiodd i eira oedd yn haws i gerdded arno. Aeth y daith i’r de yn Parc Cae Cra (lle mae llwybr yn arwain i fyny Bwlch y Ddwy Elor), ac yn fuan cyrraedd Llyn Llywelyn. Roedd y llyn delfrydol yma yn le ardderchog i gael cinio, ei ddyfroedd tawel rhewllyd yn gyferbyniad hudol hefo’r pinwydd gwyrdd o amgylch y lan a’r cefndir o’r eira ar gopau Y Gyrn, Castell a Moel Lefn. Roedd y rhan olaf o’r daith i’r dwyrain ar hyd Afon Hafod Ruffydd Isaf, gan groesi’r Reilffordd Ucheldirol Cymru ac yna mynd i’r gogledd dros hen bont y goets fawr. Roedd hon yn daith gymdeithasol bleserus o ryw dair awr, ond roedd y parti yn falch o gyrraedd yn ol i’r ceir cyn i fwy o eira a ddisgwylid gyrraedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 27ain Ionawr 2019. Llanystumdwy. Kath Spencer arweiniodd ddwsin o aelodau ar daith gron fywiog 12 milltir ar lwybrau dymunol a mannau dirgel Eifionydd a chychwyn o Llanystumdwy. Roedd yn ddiwrnod clir a sych a cyfnodau heulog, ond roedd hefyd ambell i chwa o wynt 50 milltir yr awr a’r teimlad fod y tymherau yn is na’r rhewbwynt. Cychwynnodd y daith i’r gorllewin drwy’r pentref, mynd i’r gogledd yn Bont Fechan ar drac, drwy gaeau hefo wyn cynnar, ar draws yr Afon Dwyfach ac heibio y ty hardd bychan gwledig Ysgubor Hen, wedi ei adeiladu oddeutu 1700. Diolch i’r drefn fod y mwd bythol ar y rhan yma wedi sychu rywfaint ers i’r Clwb wneud y daith y tro diwethaf. Yna fe aeth y daith i’r de-orllewin gan ddilyn rhan o’r rodfa 6 milltir ardderchog y Lon Goed i lawr i Afon Wen. Mae y llwybr lleol anhysbys yma yn werth ei chael i gerddwyr, wedi ei adeiladu i gysylltu ffermydd i’r arfordir gan John Maughan oedd yn asiant i Stad Talhenbont yn ddechjrau’r 19 ganrif. Aeth y daith ymlaen ar Lwybr yr Arfordir o amgylch y cyn gamp morwrol yr ail ryfel byd, wedyn yn wersyll Butlins, a nawr yn Barc Gwyliau Hafan, un o’r meusydd carafanau mwyaf, cyflogwyr a buddsoddwyr gwyliau, yn Gogledd Cymru. Yna roedd egwyl fer am goffi mewn man cysgodol cyfleus ger Porth Fechan ac yna ar frys o amgylch y pentir di gysgod, yn cynnig golygfeydd ardderchog o’r mor a’r arfordir, i’r tir ar draws y cwrs golff. Cymerwyd lwybr drwy Bryn Bachau, lleoliad un o ffermydd solar mwyaf Dwyfor sydd, pan mae’r haul yn disgleirio yn cynhyrchu egni y gellir ei adnewyddu, bron o’r golwg. Yn Chwilog roedd cysgod maes chwarae’r ysgol yn le cyfleus ar gyfer cinio. Yna fe ddaeth rhan o ffordd ddymunol a llwybr drwy gae a heibio’r llyn pysgota yn Chwilog Fawr a’r daith yn ol yn fuan i’r Lon Goed , a mynd am hanner milltir i’r gogledd cyn ail ymuno a’r ffordd allanol yn ol i Llanystumdwy. Tir rhwydd a tywydd teg os yn rhynllyd yn caniatau cyflymdra da drwy gydol y daith ardderchog yma yn mis Ionawr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 17eg Ionawr 2019. Ynys Talsarnau. Daeth diwrnod cras gyda haul disglair a casgliad o 23 o gerddwyr o dan arweiniad Tecwyn Williams ar daith hyfryd o amgylch Ynys, ger Harlech. Cychwynnodd y daith yn Ty Gwyn Mawr a elwid hefyd yn “Y Warws”, ystordy o ganol yr 19 ganrif i storio yd i gael ei gludo ar draws y Traeth Mawr. Aeth y daith i’r gorllewin i gyfeiriad y lan, ac yn cynnig golygfeydd gwych ar draws y Traeth i’r pentref cymysglyd lliwgar, Port Meirion gyferbyn gyda arfordir Penllyn i gyd yn ymestyn i’r pellter; tu cefn, bwa o gopau Eryri yn wyn o eira, ac yn ganolog Yr Wyddfa, yn edrych yn odidog yn yr haul llachar. Wedi mynd heibio ty mawr wrth Clogwyn Melyn, ymunodd y daith a rhan o Lwybr Arfordirol Cymru, sgyrtio ehangder llydan agored o dir wedi ei sychu a gwastadau y llanw. Cymerwyd cinio islaw bryn bychan Ogof Foel. Wedi mynd heibio’r cyn safle llenwi tir yn Fridd Rasus, erbyn hyn yn safle ail gylchu, aeth y ffordd i’r gogledd drwy gaeau gyda mwy o olygfeydd braf i gyfeiriad bryniau Ardudwy. Tua ddiwed y daith dyma oedi yn yr Egwlys ddiddorol Llanfihangel-y-Traethau. Wedi ei ail adeiladu yn 1873, roedd yr eglwys wreiddiol wedi ei adeiladu ar ynys lanw greigiog yn y 12ed ganrif ac dim yn cysylltu a’r tir mawr tan i’r mor encilio yn y Canol Oesau; mae carreg yn y fynwent gyda cyflwyniad mewn Lladin yn dweud ei fod yn fedd Wleder, sylfaenydd yr eglwys yn amser Owain Gwynedd. Mae beddi mwy diweddar yn cynnwys y diplomydd Arglwydd Harlech a’r awdur Richard Hughes. Gorffenwyd y daith bleserus oddeutu 4.5 milltir hefo te yn y caffi Cadw newydd ardderchog yn y ganolfan ymelwyr Castell Harlech. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 13eg Ionawr 2019. Cwm Bowydd / Llwybr Llechi Cwm Cynfal. Roedd y daith heddiw yn ymchwilio ardal hyfryd o ddyffrynoedd afonydd tyfn a rhaeadrau yn Dyffryn Ffestiniog. Roedd y tywydd yn gymylog, ond yn fwyn, gyda rhai ysbeidiau o law man a gwynt, yn well o lawer na’r tro olaf i’r Clwb ymuno a’r ardal pan iddi fwrw yn ddibaid. Noel Davey arweiniodd 19 aelod ar daith ychydig o dan 10 milltir. i gychwyn mentrodd y daith i’r de o Llan Ffestiniog mewn dolen i lawr i’r hafn tyfn Ceunant Cynfal gan ymweld a’r rhaeadr gafaelgar. Yna i’r gogledd orllewin i lawr i Rhyd y Sarn ac ar draws yr A496 mewn amser i gael coffi mewn llwyn braf yn agos i gyflifiad o’r Afon Goedol ac Afon Teigl. Oddi yno roedd dringo cyson drwy’r coed Clogwyn y Geifr nes cyrraedd rhostir agored yn ochri rhan o Reilffordd Ffestiniog. Cafodd hon ei ail gyweirio ac ail adeiladu dros 50 mlynedd yn ol pan gafodd cynllun storio a phwmpio Tanygrisiau ei chodi. Ymhellach ymlaen aeth y daith gydag ymyl cronfa wedi ei ddatblygu ar gyfer y cynllun a dyma aros am ginio ar ei lan. Aeth rhan y prynhawn a’r daith i’r dwyrain i lawr i Cwm Bowydd, a heibio Llys Derfel sydd o bosib yn safle cwrt o’r 6ed ganrif ac ar y pryd mae yno gloddio hynafiaethol. Parhau i’r de wnaeth y daith ar hyd Cwm Goedol drwy Coed Cymerau, yn cynnwys ardaloedd o dan reolaeth y Woodland Trust ac y Warchodfa Natur Cenedlaethol o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, tirlun arbennig o lwybrau coedwigaidd, dwr gwyllt ysblennydd a rhaeadrau, a hafan i blanhigion ardal “Celtic rainforest” a bywyd gwyllt amrywiol yn cynnwys y dwrgi. Wedi ail gyrraedd Rhyd y Sarn, dilynnodd y llwybr ran o’r Teigl a clasur o bigiad yn y cynffon i ddringo yn oI i LlanFfestiniog gyda dim ond hanner awr ar ol cyn machlyd yr haul. Roedd hon yn daith wobrwyol ond yn dywyllodrus o egniol, yn cynnwys dringo cynyddol oddeutu 2350 troedfedd o fewn cylch o godiad gwylaidd o 100-700 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 3ydd Ionawr 2019. Cylchdaith Penygroes. Kath Spencer arweiniodd 24 o gerddwyr ar daith ddiddorol yn cychwyn o safle Inigo Jones ger y Groeslon. Roedd hi yn ddiwrnod sych a llonydd, rywfaint yn oerach na’r tywydd diweddar a methodd yr haul a addewidwyd ymddangos drwy’r cymylau ysgafn. i gychwyn fe aeth y parti i’r gogledd ar hyd Lon Eifion, y trac beicio cenedlaethol yn dilyn yr hen reilffordd o Afon Wen i Gaernarfon a geuodd ym 1964, croesi’r A487 a sgyrtio i’r de o bentref Groeslon, yna fe aeth y daith drwy dir unigryw ucheldir Arfon a ddaeth i fodolaeth yn niwedd yr 18ed a’r 19eg ganrif gan weithwyr o’r chwareli lechi mawreddog. Mae hyn yn nodweddol gan glytwaith trwchus o gaeau bychain waliog a bythynod, gyda rhif niferus o lwybrau cymleth oedd unwaith yn cysylltu cartrefi’r gweithwyr a safle’r chwareli ble mae mynediad yn nodweddiadol drwy gatiau haearn cul wedi eu diogelu. Mae rhai o’r caeau a’r llwybrau nawr wedi eu gadael ac ordyfu, yn creu gwaith anodd cyn y daith o dorri’r ordyfiant a gofalu am y nifer weiran bigog rhwystredig. Aeth y ffordd i’r de heibio’r goedwig wlyb a mwsoglyd Gwinllan Tyddyn, nawr yn eiddo i Coed Cadw (The Woodland Trust). Roedd yna olygyfeydd da i lawr i’r Fenai ac ar draws i Ynys Mon. Ar ol cinio ger Llwyndy Bach a’r fynwent, fe aeth y daith i’r dwyrain ac i’r de o Penygroes drwy gwinllan Pant Du, ac o’r diwedd ail ymuno a Lon Eifion i gyrraedd yn ol i Inigo Jones ar garlam a chael lluniaeth yn y caffi. Roedd hon yn siwrna bleserus o bron 7 milltir o hyd yn bennaf ar dir gwastad. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 10ed Ragfyr 2018. Llwybr y Morwyr. Roedd yna gasgliad da o 21 o Rodwyr, o bosib yn awyddus i ymadael a effaith or fwyta dros wyliau’r Nadolig. Judith arweiniodd daith linellol o Lanbedrog i Nefyn, am y tro cyntaf i’r Clwb ar y Llwybr Morwyr ardderchog sydd yn lwybr newydd ei gwblhau 10 milltir ar draws Llyn ac yn cysylltu y ddau arfordir, gyda fforch i Abersoch. Mae’r ffordd sydd wedi ei arwyddo, yn bennaf yn dilyn llwybrau caniataol oedd yn bodoli ond mae’r mwyafrif o’r hen gamfeydd wedi eu newid am gatiau, ac ambell i lwybr cwrtais a phlanciau pren mewn adrannau corslyd ger Cors Geirch. Ar y cyfan roedd yn ddiwrnod cymylog hefo niwl i gychwyn ond arwahan i hyn roedd yn ddiwrnod mwyn, llonydd a sych gyda golygfeydd da, os rywfaint yn dywyll, ar draws yr orynys. Cychwynodd y ffordd i’r gorllewin, croesi’r A499 yn yr hafn rhwng dwy gaer ger Llanbedrog ac yna dringo heibio Bodwrog a Henllys i Foel Fawr a chyrraedd Comin Mynytho. Daeth adran newydd o’r llwybr a’r parti i lawr i Pont Llidiard-y-Dwr dros yr Afon Horon ble cafwyd egwyl am goffi. Yna dyma ddringo drwy gaeau oedd yn cymeryd lle yr hen lwybr a gollwyd i Chwarel Nanhoron, a chyrraedd croesffordd yn Penbodlas ac ymlaen i’r ucheldir agored 750 troedfedd uwchben y mor rhwng copfeydd Garn Fadryn a Garn Bach, lle ardderchog am bicnic. Oddi yno roedd y rhan helaeth o’r ffordd ar i lawr neu ar dir gwastad i gyfeiriad y gogledd ddwyrain. Yn syth wedi mynd heibio cyn Gastell Madryn, dilynodd y llwybr Nant y Gledrydd a charreg barhaol, a llwybrau cyhoeddus drwy goedwig hyfryd. Croesodd yr adrannau olaf drwy dir o’r ty diddorol o’r 16eg ganrif Penhyddygan ac ar hyd glyn i’r gorllewin o Garn Boduan, heibio y tir ble cynhaliodd Edward 1 ei dwrneimant yn 1284, ac o’r diwedd cyrraedd Stryd y Plas, Nefyn. Roedd hon yn daith ardderchog ar dir newydd sydd yn debygol o fod yn rhan dra boblogaidd o rwydwaith llwybrau Llyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau Rhagfyr 20ed 2018. Cwm Prysor. Roedd y daith heddiw yn cael ei arwain gan Tecwyn Williams yn Cwm Prysor a dilyn rhan o’r hen reilffordd rhwng Bala a Ffestiniog. Roedd parti o 17 wedi casglu yn pen y dyffryn ger Blaen y Cwm ac, ar ol peth oedi oherwydd damwain ffordd yn Llyn ac amser i drefnu ceir yn y naill ben, mynd i’r gorllewin ar daith linethol o 6 milltir i Trawsfynydd. Roedd y diwrnod yn gymylog ond yn dyner a sych. Adeiladwyd y rheilffordd yn 1882 ac wedi cau yn 1960 pan or lifodd argau Llyn Celyn. Mae yn beirianyddiaeth nodedig, yn dilyn ar hyd silffoedd wedi eu creu gan ddynion(ddynoliaeth?) gyda toriadau, cloddiau a pontydd a chyrraedd bron 1300 troedfedd uwchben y mor ar y rhan yma. Mae hwn nawr yn lwybr swyddogol ac yn caniatau golygfeydd ardderchog o’r dyffrynnoedd a’r bryniau gerllaw ac yn cynnwys tir gwastad bron i gyd, gan amrywio o wair i gerrig man a dwr tros ein sodlau a mwd mewn llefydd ac mewn mannau nentydd bychain yn llifo o’r clogwynau uwch ben. Yn fuan croesodd y rhodwyr y bont reilffordd ardderchog 500 can troedfedd o hyd hefo tro ac yn pontio’n raslon dros yr Afon Prysor yn uchel uwchben y dyffryn. Nesaf daeth bryn creigiog amlwg naturiol a chraig gyda twmpath caregog ar ei ben, hyn oll nawr sydd yn weddill o Gastell Prysor, castell cynnar Cymraeg o le ysgrifennodd Edward 1af lythyr ei fod yn fyw yn 1284. Oddeutu hanner ffordd dyma aros am ginio mewn llwyn mwsoglyd o goed. Wedi croesi’r Afon Llafar fe aeth y llwybr i’r gogledd ac i ffwrdd o’r hen reilffordd i ddilyn lon a drwy gaeau i’r pentref bach nesaf i fynwent Traws, terfyn y daith. Roedd hon yn daith bleserus a hawdd mewn ardal unig a diddorol, yn berffaith ar gyfer un o ddyddiau byraf y flwyddyn. Yna cafwyd paned ardderchog yn y caffi cymunedol ger y llyn. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul Rhagfyr 16eg 2018. Cwm Lledr. Roedd taith heddiw yng Nghwm Lledr hyfryd ychydig filltiroedd o Fetws y Coed ac i’r dwyrain o Ddolwyddelan. Roedd storm Deirdre y noson cynt wedi meddalu i fod yn ddiwrnod clir, tawel a sych. Tecwyn Williams arweiniodd 11 o rodwyr, gan gychwyn o Plas Penaeldroch (ar ben y dwr gwyllt) gyda’i dwr rhyfeddol a’i enw addas ar ben glan de yr afon yn Pont y Pant. Aeth y llwybr i’r gogledd ac yna i’r dwyrain, a dringo yn gyson heibio Rhiw Goch, croesi dyffrynoedd cul afonig i Cwm Celyn a Cwm Dreiniog ac i grombil eang Coed Gwydir. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti y de o Lyn Elsi (wedi ei ymweld ar daith cynt yn y tymor o ochr Betws y Coed) a gwneud cylch o’r llyn olygfaol ar lwybr da. Yna aros am gino wrth y gofgolofn yn coffau seflydu’r gronfa drwy foesgarwch Yr Arglwydd Ancaster tua chan mlynedd yn ol. Roedd y safle amlwg yma, 850 troedfedd uwchben y mor, yn caniatau golygfeydd ardderchog i gyfeiriad Moel Siabod a gogledd Eryri ac ar draws y llyn i gyfeiriad crib Penamnen. Yna fe aeth y llwybr i lawr eto i Craig Lledr drwy goedwig dywyll a mwsoglyd, cyrraedd Pont Gethin y bont wych Victorianaidd, gwaith maen wedi ei adeiladu yn y dull unigryw albanaidd, yn cludo rheilffordd Dyffryn Conwy o Llandudno i Blaenau ar draws yr Afon Lledr. Dilynodd y rhan olaf o’r daith, glan deheuol o’r rhan ysblennydd o’r afon, wedi ei naddu gan nifer o rhaeadrau, golygfa wych yn dilyn y glaw diweddar. O’r diwedd, ar ol mynd heibio Plas Lledr, erbyn hyn yn ganolfan ymarfer awyr agored yn berchnogaeth Cyngor Salford, dyma ail gyrraedd Plas Penaeldroch, mewn pryd cyn i’r glaw ddechrau am weddill y diwrnod. Roedd y caffi yn y Plas yn cynnig lletygarwch croeawgar ar ol taith arbennig o 7 milltir. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 2ail Rhagfyr 2018. Cylchdaith Criccieth. Gwynfor Jones arweiniodd griw o 13 o gerddwyr ar gylchdaith ardderchog drwy gefngwlad hyfryd Criccieth. Mi oedd yn fwyn ac yn ddiwrnod cymylog, ond cadw draw wnaeth y glaw bygythiol trwy’r dydd. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r Gorllewin a dilyn y Llwybr Arfordirol i’r de ar hyd ffrynt Criccieth ac ar hyd ochr y rheilfford. Yn Rhiwfor Fawr fe aeth y parti i’r gogledd ar lwybr mewndirol heibio y ty gafaelgar Ystumllyn yn tarddu o’r 16eg ganrif, dringo i’r gogledd heibio’r gwersyll a llynnau pysgota yn Eisteddfa, ac o’r diwedd cyrraedd Braich y Saint, ty arall o’r 16eg ganrif. Roedd y man yma bron 500 troedfedd uwchben yr arfordir ac yn caniatau golygfeydd da o dref Griccieth a’r castell islaw ac yn le ardderchog am baned deg. Daeth cyflymdre sydyn ar hyd rhan o’r ffordd ucheldir a’r parti yn cyrraedd yn fuan y gromlech hardd ac adnabyddus Ystumcegid Isaf. Ar ol cinio yn nghanol y cerrig amgylchuol aeth y llwybr i lawr i’r Afon Dwyfor, mewn llawn lifeiriant heddiw, a dilyn y llwybr dymunol ar ochr yr afon i Pont Rhyd y Benllig, ac yna ar hyd y ffordd hir syth heibio Plas Trefan. Mynd i’r chwith drwy Ty Newydd, hen dy hardd arall, oedd unwaith yn gartref i David Lloyd George a nawr yn Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol. Ail ymunodd y rhan olaf hefo’r Llwybr Arfordirol, gan fynd heibio y “Ty Dadleuol” Cefn Castell ar drwyn clogweini wedi erydu, ac yn arwain yn ol a heibio’r Dryll i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith bleserus o bron 10 milltir, yn rhoddi amrywiaith eang ac amodau cerdded rhwydd, yn ddelfrydol ar gyfer diwrnod sych ym mis Rhagfyr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 6ed Ragfyr 2018. Lon Gwyrfai. Gwynfor Jones ddaeth i’r adwy i arwain taith ar Lon Gwyrfai o Rhyd Ddu i Beddgelert ar ddiwrnod o law ysgafn di ddiwedd a niwlog ond mwyn. Cyfarfu parti o 9 yn Beddgelert a defnyddio eu tocynnau bws i gyrraedd y man cychwyn o’r llwybr poblogaidd, wedi ei adeiladu a’i nodi yn dda hefo arian Ewropead. Aeth y rhan gyntau gyda ymyl Llyn y Gader, lle gwyntog di gysgod, ond roedd y rhan fwyaf o’r daith yn arwain drwy fannau cysgodol o Goedwig Beddgelert. Roedd yr hen bont y Goets Fawr ger Hafod Ruffydd Isaf yn le addas mwsoglyd i gael cinio ar ochr y cenllif tymhestlog Afon Cwm Du. Roedd yr amodau gwlyb a niwlog yn golygu na toedd yn ddiwrnod i sefyllian, dim yn caniatau hyd yn oed gip olwg o’r golygfeydd cyfagos o wahanol fannau. Aeth y daith ymlaen drwy wersyll Coedwig Beddgelert ble erbyn hyn mae lletyau coed taclus ble roedd gynt tenti a mannau gosod i ymwelwyr. Aeth y rhan olaf heibio Cwm Cloch, ty fferm o’r 17eg-18ed ganrif yn wreiddiol ac oedd un amser yn ran o Briordy lleol. Roedd Caffi’r Hebog yn le croesawus ar gyfer lluniaeth i’r parti cyn y siwrne gartref. Er gwaethaf y tywydd roedd hon yn daith ardderchog o bum milltir, yn caniatau cyflymdra cymedrol ar y llwybrau hawdd a’r disgyn araf. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 22ain Dachwedd 2018. Parc Glynllifon. Roedd yna gynulliad gafaelgar o 36 cerddwr a 5 ci ar gyfer taith ymlaciol o dan arweiniad Miriam Heald yn Parc Glynllifon. Tra roedd y Plas ei hun, cartref treftadol Yr Arglwydd Newborough, ar gau ar gyfer atgyweiriad fel gwesty gan eu perchonogion newydd, mae y tir helaeth yn dal l gael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd, ac maent wedi darparu rhwydwaith o lwybrau codi a gostwng hefo digonedd o ddiddordeb ar gyfer teithiau da er iddi fod ond dwy filltir. Roedd diwrnod arall o haul llachar yn cynyddu y mwynhad. Ymlwybrodd y llwybr drwy goed y parc ble roedd rhestr eang o goed eang, heibio ffynhonnellau, ogofeydd, adeiladau ffolineb, cerflunniau a mynwent i anifeiliad hoff gyda Capel y Cwn. Roedd pethau nodweddol yn cynnwys gosodiadau celf yn y streic y Penrhyn 1900-1903, a’r Cilmyn Droed Ddu, cerflyn coed ar bolyn totem yn dathlu traddodiad a tarddiad teulu’r stad mewn figwr hanner chwedlonol o’r nawfed ganrif. Roedd “amphitheatre” yn le da i gael cinio ar ol adloniant heb baratoi o gan morwr ac adroddiad o gerdd, yn atgoffa y cerddwyr (ar ol WH Davies) fod y fan yma yn le da i “aros a syllu”. Terfynwyd yr eitem cymdeithasol yma hefo te hamddenol yn y “Black Cat caffi” a rhoddi cyfle i siarad ac aelodau sydd yn well ganddynt deithiau byr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 18ed Dachwedd 2018. Godre Cadair Idris. Nick White arweiniodd barti o 15 ar daith hyfryd ar odre Cadair Idris. Roedd yn ddiwrnod odidog heulog, ond gwynt oer dwyreiniol. Cychwynnodd y daith ym maes parcio Ty Nant i’r de orllewin o Ddolgellau, a dringo y rhan gyntaf o’r “Pony Path”, un o’r prif lwybrau i fyny Cadair Idris. Wedi cyrraedd oddeutu 1000 troedfedd fe aeth y daith i’r dwyrain, ond dal i ddringo’n gyson dros dir eitha garw, ac or diwedd cyrraedd Llyn y Gadair, ei ddwr rhynllyd yr olwg yn nythu o dan gwrthglawdd serth a llwyd Cyfryw a Penygadair. Roedd yr uchder o 1850 troedfedd y man uchaf o’r diwrnod ac yn caniatau golygfeydd ar draws y dyffryn islaw wedi ei hyrwyddo gan y golau hyfrydol rhyfeddol. Erbyn hyn roedd y gwynt yn chwythu 50 milltir yr awr, yn ddigon i godi dau neu dri oddi ar eu traed. Cafwyd ginio mewn man cymharol gysgodol ond dal yn oer yn grib y mynydd. Ar ol ymylu a’r llyn, ymunodd y llwybr a rhan isaf o’r “Fox’s Path”, llwybr anodd i fyny Cadair Idris. Oherwydd y llwybr annymunol, gwyntoedd cryfion a dwy nant i’w croesi roedd y disgyn heibio Llyn Gafr yn eitha o sialens. Ta waeth roedd y parti wedi cyrraedd tir haws, at Llyn Gwernan ble roedd y gwesty/ty tafarn ar agor ar gyfer ymlacio a lluniaeth. Daeth llwybr dymunol, ar ochr y llyn, drwy’r coed ac ar draws caeau, a’r cerddwyr yn fuan yn ol i Ty Nant. Er yn daith fer oddeutu 5 milltir, y dringo o 2100 troedfedd a’r gwyntoedd cryfion yn gwneud yn daith eithaf egniol a gobrwyol. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 8ed Dachwedd 2018. Carreg-Mynydd Anelog. Ar ddiwrnod cymylog a gwlyb cyfarfu 18 cerddwr yn Carreg Plas yng ngorllewin Llyn am daith sionc a gron o dan arweiniad Ann Jones. Cerddodd y parti i lawr i’r arfordir gerllaw ger weddillion hen weithfeydd y graig goch unigryw o’r enw jasper. Yna dilynodd y llwybr ran o Lwybr Arfordirol Cymru, yn wag heddiw arwahan i ddefaid yn pori, i’r dde am gwpl o filltiroedd heibio’r ddwy ynys, Dinas Fawr a Dinas Bach a’r gilfach Porth Orion, ac o’r diwedd dringo’n araf heibio Mount Pleasant i gopa Mynydd Anelog oddeutu 600 troedfedd. Er waethaf y tywydd roedd yna olygfeydd da o’r arfordir creigiog a’r tonnau swnllyd tra o Anelog agorodd olygfa eang i gyfeiriad Ynys Enlli, Aberdaron ac ar draws y caeau isel i Mynydd Rhiiw. Roedd yna arosiad am ginio mewn man cysgodol o dan y bryn gerllaw gweithdy gofaint cywrain lleol a dosbarthiad o waith haearn unigryw. Yna fe aeth y llwybr yn ol i’r gogledd a dilyn llwybrau drwy’r caeau. Roedd hon yn daith dderbyniol yn y rhan hyfryd o’r orynys, ond roedd y parti, erbyn hyn yn wlyb domen, yn falch o gyrraedd yn ol yn Carreg. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 4ydd Dachwedd 2018. Rhinogydd Gogleddol. Roedd yna gynulliad da o 14 cerddwr yn yr hen chwareli anghysbell ger Cefn Clawdd yn ben y ffordd gul i’r gorllewin o Trawsfynydd am daith gampus i mewnj i’r Rhinogydd Gogleddol, o dan arweiniad Roy Milnes. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolygon, yn fwyn a llonydd, y cymylau llwyd isel yn aros yn sych am y rhan helaeth o’r diwrnod ac yn caniatau golygfeydd prin dros y wlad gerllaw. Mae’r ardal yma yn nodedig am ei chreigiau pensaerniol rhyfedd a chymleth, slabiau cymysglyd a blociau yn gymysg hefo cripellau nodweddiadol yn ddisgrifedig ar y map fel ”tocynnau o gerrig”. Dringodd y llwybr yn gyson i’r gogledd orllewin i’r mannau uchaf o Foel Penolau a Moel Ysgyfarnogod oddeutu 2000 troedfedd ac yna troi i’r de heibio Llyn Du, lle da i gael cinio. Er yn dechnegol yn grib mi oedd yna nifer o esgyniadau a disgyniadau byr ond dyrys a’r creigiau yn llithrig. Wedi ymylu y Graig Ddrwg gyda’r enw bygythiol, cyrhaeddodd y parti Bwlch Gwilym ac oherwydd i’r daith fod yn aradeg dyma benderfynu anghofio am fynd i fyny Clip ar ben draw’r grib, a disgyn yn serth i groesi lled helaeth o dir corslyd o amgylch Afon Crawcwellt yn ol i’r ceir. Roedd hon yn daith dwyllodrus egniol a phleserus o dros chwe milltir gyda dringo cynyddol oddeutu 1800 troedfedd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 25ain Hydref 2018. Betws y Coed - Llyn Elsi. Maureen Evans arweiniodd barti o 22 ar daith ddymunol yn y bryniau coediog prydferth i’r de o Betws y Coed. Roedd yn ddiwrnod hydrefol tawel a sych hefo cymylau ysgafn. Cychwynodd y daith o’r hen Pont y Pair yng nghanol y pentref gwyliau prysur yma, gan gymeryd y llwybr poblogaidd olygfaol ar lan ogleddol o’r Afon Llugwy cyn belled a “Miner’s Bridge”, oedd unwaith yn cael ei defnyddio gan weithwyr yn y chwareli a pyllau plwm yn Coed Gwydir. Ar ol croesi’r bont a’r A5 dilynodd y ffordd lwybrau a traciau drwy goedwigoedd mwsoglyd, dringo yn araf heibio pyllau a gweithfeydd chwarel i 800 can troedfedd, ac o’r diwedd cyrraedd cofgolofn ar lannau Llyn Elsi yn coffau ei agoriad fel cronfa tref yn 1914. Roedd y fan yma yn le ardderchog i gael cinio ac yn rhoddi cyfle i edrych ar olygfeydd eang o’r llyn a’r lliwiau hydrefol hardd. Yna gwnaethpwyd cylch o’r llyn cyn dychwelyd ar Lwybr Jubilee, roedd hwn yn serth mewn ambell i fan ac yn arwain drwy ardaloedd coedwigaedd newydd eu clirio. Roedd hon yn wibdaith bleserus oddeutu 5.5 milltir o hyd, mewn ardal wledig ddeniadol. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 21ain Hydref 2018. Rhyd Ddu - Beddgelert. Cyfarfu 16 aelod yn Rhyd Ddu ar gyfer taith 8 – 10 milltir linellol i Beddgelert o dan arweiniad Dafydd Williams. Roedd y tywydd yn fwyn ond yn wlyb gyda cymylau isel a niwl oedd yn rwystr i olygfeydd am y rhan helaeth o’r diwrnod. Aeth y parti i gyfeiriad y dwyrain ar lwybr Rhyd Ddu i fyny’r Wyddfa ac yn fuan fforchio ar lwybr oedd yn dringo’n gyson i Bwlch Cwm Llan, oddeutu 1650 troedfedd. Yna cael toriad am goffi ymhlith pyllau dwr, a thomenau ac olion o’r chwarel lechi Hafod y Llan yn dyddio o ganol yr 19eg ganrif. Dewisiodd pedwar cerddwr mentrus neu wirion, wneud cylchdaith o’r Bwlch i gopa Yr Arran (2450 troedfedd) yn union i’r de, a dychwelyd yr un ffordd. Ychydig iawn a welson arwahan i’r sialens o’r llwybr serth a llithrig dan draed. Aeth y prif barti ar y llwybr, newydd ei wella, i lawr i afon Cwm Llan ac o’r diwedd ymuno a Llwybr Watkin y Wyddfa ac aros am ginio wrth Craig Gladstone. Cymerodd y mynyddwyr ddi ginio lwybr cyffelyb gan ymuno ac adran wastad o’r hen dramffordd chwarel a mynd heibio rhaeadr wych Cwm Llan. Ailymunodd y ddwy garfan yn y caffi cymunedol dibynadwy yn Bethania, cyn cerdded yn hamddenol yn ol i Feddgelert ar ochr glan ddeheuol o Lyn Dinas. Yna o’r diwedd dyma haul y prynhawn yn dangos golygfeydd gogoneddus y tirwedd o amgylch. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Mair Edlington
Ar ddydd Sul 14 Hydref ymunodd rhai aelodau o Rhodwyr Llyn a John Edlington, ei deulu a ffrindiau yn Rhiw Goch i gofio Mair. Cerddodd y parti i fyny mewn haul braf y prynhawn i safle uchel uwchben Rhiw Goch yn edrych dros Penrhyndeudraeth ac Aber y Dwyryd, a chael seremoni anffurfiol i wasgaru gweddillion Mair yn y fan yr oedd yn ei garu. Dilynwyd gyda lluniaeth ym Mwthyn Fferm Rhiw Goch. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 11ed Hydref 2018. Llaniestyn - Garn Fadryn. Roedd y daith heddiw yn un wlyb iawn gyda glaw trwm am gyfnod o dair awr, siomedig ar ol yr Haf bach Mihangel y diwrnod cynt. Er gwaethaf y tywydd garw arweiniodd Miriam Heald yn ddewr 25 aelod allan o Llaniestyn ar grwydr o bum milltir a chymeryd y llwybr newydd ei wella i’r gogledd heibio Ty’n Rhos a Gwaen Rhiniog Fawr i bentref Garnfadryn. Yr amcan gwreiddiol oedd y Garn ei hun, ond wrth i hwn ddiflannu yn y niwl roedd yna neb yn fodlon mentro’r dringo ac mi benderfynwyd yn hytrach i gerdded o amgylch y mynydd. Roedd hyn yn golygu croesi’r bwlch di gysgod rhwng Garn Fadryn a Garn Bach i’r gogledd ddwyrain ac edrych am lwybr di arwydd rhwng gatiau newydd cerddwyr wedi ei gosod ar gyfer rhan o Lwybr y Llongwyr. Yna fe aeth y daith mewn cylch i’r gogledd orllewin, gan ymylu ochrau Coed Garn Fadryn ble diolch i’r drefn mae’r tyfiant wedi ei dorri. Cafwyd ginio gwlyb iawn gan ymdrechu i gysgodi o dan goed diferol mewn adfail hen fwthyn. Oddi yno roedd yn daith rhwydd ar hyd y llwybr gwastad a’r ffordd, ar yr ochr gorllewinol o’r Garn ac yna i lawr yn ol i Llaniestyn ar y llwybr allanol. Roedd yn ollyngdod i fynd dan do i neuadd y pentref gan i Miriam a Tony drefnu, yn feddylgar iawn, iddi fod ar agor, i ni gael newid o’r dillad cerdded gwlyb a chael te a chacennau amrywiol; yn gyflym iawn gwellhodd ein ysbryd ar ol tipyn o brawf. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Taith A Dydd Sul 7ed Hydref.
Afon Dwyryd. Heddiw roedd yna ddwy daith yn y bryniau coediog hyfryd y naill ochr i’r afon Dwyryd. Hugh Evans arweiniodd 9 aelod ar gylch oddeutu 12 milltir, gan amlaf yn dilyn llwybrau wedi ei noddi gan Gronfa Cymmunedol Arfordirol, a chynt yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru. Jean Norton arweiniodd 10 aelod ar daith haws oddeutu 10 milltir. Roedd yn ddiwrnod braf, yr oerni cynnar yn newid i gyfnodau heulog dymunol, er roedd yna wynt bywiog yn hwyrach yn y dydd. Dringodd y ddau barti i fyny llwybr serth yn gogledd y dref ac yna cymeryd ffordd gul i fferm Rhiw Goch. Yn y man yma fe aeth y cerddwyr A i’r dde ar y llwybr oedd yn parhau ar ochr Reilffordd Ffestiniog. Yn fuan roedd cyfle i wylio un o’r trenau yn pwffian i fyny’r llethr a swn y trenau i’w clywed yn hwtio yn y pellter drwy gydol y dydd. Aeth y daith ymlaen i’r dwyrain drwy’r coed, aros ger gronfa fechan am goffi, mynd heibio ymyl Llyn Mair ac yn glos heibio Plas Tanybwlch. Yna i lawr heibio’r Oakley Arms i groesi’r Dwyryd i bentref Maentwrog. Roedd hyn i gyd yn greadigaeth gafaelgar gan deulu’r Oakley a wnaeth eu arian ac ennill ei awdurdod o chwareli llechi Blaenau yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Yna dyma ddringo i fyny i 550 troedfedd uwchben y dyffryn a chyrraedd llwyfandir agored o gwmpas Pen y Foel. Ar ol cael cinio yng nghysgod bwthyn adfail fe aeth y daith yn ol i lawr dyffryn tyfn yr Afon Prysor drwy hen goedwigoedd coed pinwydd uchel o Warchodfa Natur Cenedlaethol Ceunant Llennyrch gerllaw. Mae gorsaf hidro-electrig Maentwrog yng ngwaelod y dyffryn yn cael dwr drwy ddwy beipen o Lyn Trawsfynydd ac yn dal i fodoli ar ol naw deg o flynyddoedd. Dringo eto yn dilyn drwy Coed Felinrhyd, rhan o’r “Celtic rainforest” ac yn ymddangos yn y Mabinogion fel y fan i’r Brenin Pryderi o Ddyfed gael ei gladdu. Yna dyma’r parti yn mynd gyda ymyl Llyn Tecwyn Uchaf, o ble mae dwr Llyn yn dod, ac o’r diwedd mynd i lawr dyffryn cul gyda peilonau ar bob llaw a chroesi y bont Briwet newydd i Penrhyndeudraeth. Roedd hon yn daith bleserus iawn ar lwybrau rhwydd a sych gyda dringo cymedrol dros bellder da a golygfeydd braf dros Aber y Dwyryd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Penrhyndeudraeth - Rhyd
Trefnwyd taith arall B a chael ein harwain gan Jean Norton sydd yn ffynnu ar achlysuron fel hyn. Casglodd 19 aelod yn y prif faes parcio yn Penrhyndeudraeth a rhannu i 9 a 10 cerddwr A a B y naill yn ei dro. Ar ol y llun arferol dyma’r cerddwyr A yn cychwyn gan fras gamu i fynny’r ffordd tra roedd y cerddwyr B mwy arafach yn ei dilyn, ac ar ol oddeutu hanner milltir dringo’r llwybr stepiau weddol serth a chyrraedd Penrhyndeudraeth Uchaf. Yna fe aeth y daith ar ochr y Reilffordd Ffestiniog cyn mynd i’r goedwig a dilyn y llwybr am oddeutu milltir cyn cyrraedd y fford darmac ar gyrion Rhyd. Yn y fan yma fe aethom i’r chwith a gwneud hanner cylch o’r pentref, ail ymuno a’r ffordd ar yr ochr dwyreiniol ac ail ymuno a’r goedwig yn Bwlch-y-maen ble cawsom baned o de/coffi. Ymlaen i gyfeiriad y dwyrain a dyma gyrraedd Orsedd Tan-y-Bwlch fel roedd y tren yn cyrraedd a dyma un o aelodau y Clwb, gwas ystafell fwyta ar y tren, yn dod i lawr yn ei het galed er mwyn i ni dynnu ei lun. i lawr wedyn i Llyn Mair oedd gerllaw a mwynhau cinio gan eistedd ar y byrddau picnic cyfleus wrth y llyn. Oddi yno fe aeth y daith i’r gorllewin a chroesi’r reilffordd ac ymdroelli i fyny’r bryn ac ar adegau cawsom olygfeydd syfrdanol o Aber y Dwyryd gyda Castell Harlech yn y pellter. Cyn cyrraedd Hafod-y-mynydd mynd heibio man uchaf y dydd ychydig is na 600 troedfedd ond wrth gwrs mi oeddem wedi cychwyn bron o lan y mor. Hanner milltir yn bellach a dyma ail ymuno a’r llwybr allanol ac yn ol i’r maes parcio a deallt wedyn, i ni gyrraedd 20 munud o flaen y cerddwyr A. Roedd y tywydd braf wedi cyfrannu at wneud y daith yn brofiad pleserus i’r cyfan o’r cerddwyr. Dafydd Williams.
Dydd Iau 27ain Fedi 2018. Bwlch Sychnant. Cyfarfu 22 aelod yn maes parcio Echo Rock ar Bwlch Sychnant gyda dau aelod yn mynd i le anghywir gerllaw. Arweiniodd Jean Norton i gyfeiriad y de a dringo yn gyson yn yr ardal bryniog ymdonniog yma o Penmaenmawr gyda llawer o awyrddion o drigolion o’r Oesoedd Canol. O’r diwedd cyrraedd pont bren yn croesi’r Afon Gyrach ac mynd i’r gogledd orllewin a chyrraedd Mountain Lane ac aros i gael cinio. Roedd yn ddiwrnod arbennig i gerdded gyda awel dderbynniol a cyfnodau heulog wrth i ni fynd i’r gogledd a chyrraedd Llwybr y Jiwbili yn gwynebu’r gorllewin ac edrych dros ben Penmaenmawr ac i gyfeiriad Sir Fon ac yn bell i’r mor roedd mannau y cychod yn mynd i mewn ac allan o’r Afon Mersi. Nid yw Llwybr y Jiwbili yn le i neb sydd yn dioddef o bendro ac fe oedd yn rhaid i un cerddwr gael ei harwain ac fe wnaeth yn wyrthiol. Yna dyma ddilyn Llwybr Arfordirol Cymru i’r dwyrain a chyrraedd y pentref Capelulo ble yn anffodus roedd y dafarn Fairy Glen ar gau ond roedd cyfle i’r cerddwyr wneud defnydd o’r byrddau picnic tu allan. Oddi yma roedd llwybr eithaf serth yn mynd i’r dwyrain ac yn ochrog a’r ffordd yn ol i’r maes parcio. Roedd y cyfan o’r cerddwyr wedi mwynhau y daith hyfryd yma. Dafydd Williams.
Dydd Sul Medi 23ain 2018.
Carnedd Ugain. Richard Hirst arweiniodd grwp fechan o 5 cerddwr A penderfynol o Pont y Gromlech i fyny Garnedd Ugain. Ar ol nifer o ddyddiau Sul gwlyb roedd o’r diwedd yn ddiwrnod gweddus, er gwaethaf y gwynt oer hefo cyfnodau heulog, gwelededd da, a dim ond ychydig o gawodydd byrion. Dringodd y daith yn serth dros dir creigiog hefo llwybrau yn brin i’r de a’r de orllewin drwy Cwm Glas Mawr ar ochr yr Afon Gennog. Dyma arhosiad am goffi ar ochr Llyn Glas, ac roedd y dwr yn edrych braidd yn dywyll ac annymunol. Yna roedd dringo eto i Cwm Uchaf, o ble roedd golygfeydd trawiadol o’r Grib Goch uwchben. O’r diwedd dyma gyrraedd y grib yn Bwlch Coch ar ol dringo oddeutu 2000 troedfedd dros 2 filltir o Cwm Nant Peris ymhell odanom. Yn y fan yma aeth y daith i’r gorllewin ar hyd y grib, a chymeryd llwybr pendant ond agored ar hyd ochr deheuol o Garnedd Ugain, gan osgoi llwybr anoddach ar Crib y Ddysgl yn uwch i fyny. Yn y diwedd roedd yna ddringo annymunol o 500 troedfedd dros gerrig rhyddion i gopa Garnedd Ugain, oddeutu 3500 troedfedd dim ond 60 troedfedd yn is na’r Wyddfa. Ar ol pedair awr roedd y parti yn fwy na pharod am ginio hwyr, mwynhau y golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad; roedd copa agos Y Wyddfa i mewn ac allan o’r cymylau, a canoedd o ymwelwyr i’w gweld, llawer ohonynt wedi eu cludo gan y tren oedd i’w gweld a’i chlywed yn pwffian i fyny ac i lawr o Lanberis. Wrth adael y copa gorfod i’r parti ddioddef ymosodiad o gawod ffyrnig o genllys, ond wedyn roedd y daith i lawr ar lwybr y Pyg Track, erbyn hyn yn weddol ddistaw, a disgyniad eithaf rhwydd ar dir gwelltog o Bwlch y Moch yn ol i Pont y Gromlech. Roedd y diwrnod cyfan yn golygu 3650 troedfedd o ddringo dros 7 milltir a 7 awr. Profodd hon i fod yn daith egniol ond wobrwyol, yn ymchwilio ardal mynydd hyfryd a thawel yn ganol Eryri, er hyny ddim yn adnabyddus ac nid yn cael ei ymweld ryw lawer. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Moel Cynghorion. Roedd rhaid cael taith arall y diwrnod yma oherwydd i’r daith A fod yn anodd. Trefnwyd un ar fyr rybudd ac fe arweiniodd Dafydd Williams saith aelod o faes parcio y Snowdon Ranger, y maes parcio arferol i ddringo’r Wyddfa ond nid heddiw. Roedd yn ddiwrnod hydrefol godidog hefo fawr o gerddwyr eraill yw gweld ar y cychwyn, gan yn fuan fynd heibio Llwyn Onn ac i fyny’r zig zags cyn cyrraedd Bwlch Cwm Brwynog yn edrych dros Gronfa Llyn Ffynnon-y-gwas. Yna aros am ryw funud neu ddau cyn mynd i’r gogledd a dringo yn serth am bellter byr a chyrraedd gamfa ar y gorwel ond dim yn ei chroesi ond mynd yn siarp i’r gorllewin. Ar ol oddeutu can llath mynd i’r gogledd eto a dechrau dringo’r llethr gwelltog serth Clogwyn Llechwedd Llo a chyrraedd ein nod, copa Moel Cynghorion, dim ond 2211 troedfedd, rhai ohonom ar ol chwythu garw. Yna aros i adennill ein gwynt a esbonio ar yr olygfa eang o’n cwmpas a thra roedd hi ddim yn holloll glir roedd y goleu yn ein swyno. Roedd y gwaith caled wedi ei gyflawni ac fel roeddem yn cerdded y grib gweddol wastad roeddem yn dal i fwynhau y golygfeydd cyn disgyn i’r groesffordd o lwybrau yn Bwlch Maengwyn a chael cinio hwyr. Yna i’r de a dilyn y llwybr newydd ei gwblhau, gwellhad garw ar yr hen lwybr gwelltog cyfochrog a chyrraedd y llwybr allanol o ble roedd o ddim ond tro haws yn ol i’r maes parcio. Roedd hon yn daith weddol fer ond yn foddhaol dros ben 5.5 milltir gyda digon o amser i fwynhau y golygfeydd bendigedig a rhoi’r byd yn ei le. Dafydd Williams.
Dydd Iau 13eg Fedi 2018. Pentir Llanbedrog. Roedd yna gynulliad da o 33 am daith hyfryd o Llanbedrog yn cael ei harwain gan Jean Norton ac Annie Andrew. Roedd yn ddiwrnod teg a heulog gyda gwynt bywiog oedd yn creu golygfeydd ardderchog o’r arfordir a’r wlad. Cychwynnodd y daith i’r tir, dringo o faes parcio’r traeth heibio Tremvan Hall cyn belled a’r ysgol yn pentref Llanbedrog ac yna dilyn heibio Wern Newydd a Henllys i fyny i’r safbwynt rhyfeddol Foel Fawr; adnabwyd hwn hefyd fel Foel Felin Wynt neu Foel Twr ac yn mwy poblogaidd fel y “Jampot”, yn cyfeirio i’r hen dwr oedd unwaith yn felin yd ac yn le gwylio yn ystod y rhyfeloedd Napeolonic – lle aredderchog i gael cinio. Yna dilynnodd y daith rhan o ddechrau ac ar draws Llyn y “Sailor’s Path” a chroesi i’r de ddwyrain heibio Bodwrog a drwy ardd Erw. Ar ol croesi’r A499, dilynnodd y ffordd fechan i fyny i gopa Mynydd Tir y Cwmwd, heibio Mount Pleasant a dilyn llwybr yr arfordir o amgylch ymyl y pentir oedd yn ddarlun o gochlas ac aur diwedd haf o’r grug a’r eithin. Aeth y daith heibio’r rhan a barddywid gan y tan diweddar. O’r diwedd dyma’r parti yn cyrraedd y safbwynt o’r cerflun unigryw “Iron Man”, cyn disgyn ar hyd llwybrau ardderchog y Winllan i Plas Glyn y Weddw ble arhosodd amryw am baned. Roedd yn ddiwrnod dymunol, ond cael ei ymharru gan yr olwg aml a siomedig o’r twrbin gwynt anferth yn Bodfel: cafodd hwn ei adeiladu 5 mlynedd ar ol iddo gael ei ganiatau gan arolygwr allanol er gwaethaf gwrthwynebiad cyffredinol lleol. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 9ed Fedi 2018.
Cader Idris. Hon oedd y pedwaredd Sul yn olynnol i gael ei ymharu gan dywydd gwlyb. Roedd y rhagolygon o law man yn or obeithiol oherwydd cafwyd glaw trwm am y rhan fwyaf o’r boreu. Cyfarfu 15 cerddwr ym maes parcio y Parc Cenedlaethol Minffordd ar yr ochr de ddwyreiniol o Gader Idris. Dewisiodd 8 i wneud y daith llawn i’r copa yn ol y rhaglen, tra penderfynodd y saith arall fynd ar daith haws cyn belled a Llyn Cau. Cychwynnodd y ddau grwp a’i gilydd gan ddringo 600 troedfedd yn serth ar risiau yng nghanol coed gwyrddlas a dwr rhuthredig Nant Cadair. Daeth dringo ychwanegol ond haws o oddeutu 500 troedfedd a’r daith i ymyl Llyn Cau yn cysgodi yn yr arc enfawr o gadwyn y Gader yn ymddangos yn y niwl uwchben. Ar ol aros am goffi (Nid yn ddiwrnod i nofio’n wyllt), ymlwybrodd y tim A ymlaen i fyny heibio Craig Cwm Amarch ac ar hyd Craig Cau, wedi eu amddifadu o unrhyw olygfeydd arwahan i'r llwybr gwlyb creigiog o dan draed. O’r diwedd ar ol 3 awr o ddringo mewn tywydd gwlyb a gwynt cynyddol, dyma’r parti yn honcian i gopa Penygadair 2930 troedfedd, ac yn ddiolchgar mynd i'r cwt lloches orlawn i gael cinio hwyr a chael cysgod o’r tywydd garw. Wedi adfywio a sychu rywfaint, dyma’r cerddwyr yn mynd i'r dwyrain ar hyd y grib welltog weddol wastad a llydan, yn dilyn yn agos i'r sgarp gogleddol, am oddeutu 1.5 milltir. O’r diwedd yn go agos i dri o’r gloch y prynhawn dyma’r haul yn dechrau ymddangos drwy’r gwyll ac yn caniatau golygfeydd gwych i gyfeiriad dywreiniol o grib y Gadair ac ymhellach i lawr i gyfeiriad Talyllyn. Ni ddefnyddiwyd y llwybr arferol serth a chreigiog o Mynydd Moel i lawr. Yn hytrach dyma fynd ar lwybr haws, mwy cysgodol ond hirach, gan ddilyn llwybrau defaid drwy’r grug a’r llus uwchben Nant Caenewydd. Yna roedd y llwybr yn ail ymuno a’r rhan wedi ei balmantu a chroesi Nant Cadair ar y bont lechi newydd am y disgyniad olaf. Ar ol 6.5 milltir a dringo cynyddol o 3500 troedfedd, tipyn o gamp yn y tywydd garw, cafodd y parti foddhad wrth dderbyn paned o de a chacen chymeradwyol yn y caffi ardderchog Ty Te Cadair cyn iddo gau. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Llyn Cau. Ymdrechodd y saith cerddwr B i fyny y tu ol i’r cerddwyr A cyn belled a Llyn Cau ac ar ol amser byr i gael cinio yng nghysgod craig fawr gyfleus dyma fynd yn ol a mwynhau lluniaeth yn y caffi cyfleus. Y prif gof sydd gennyf yw mor serth oedd y grisiau am y 600 troedfedd cyntaf ac mor wlyb mae modd bod ar ol dwy awr a hanner mewn glaw trwm, roedd pocedi fy nghot glaw yn hanner llawn o ddwr glaw! Dafydd Williams. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 30ain Awst 2018. Pen y Gaer. Ail adrodd rhan o daith dydd Sul yn Cwm Coryn gafodd ei byrhau y flwyddyn diwethaf oherwydd niwl a glaw oedd hon. Y tro hwn roedd yr haul yn disgleirio ac yn ei gwneud yn daith i’w mwynhau i 25 o aelodau a ffrindiau yn cael eu harwain gan Sue Woolley, yn y tywydd cerdded ardderchog yn yr ardal hyfryd yma ar gyrion Bryniau Clynnog. Dringodd y ffordd i’r dwyrain o’r maes parcio newydd yn Llanaelhaearn i fyny’r ffordd fechan sydd yn arwain i’r cwm. Yna fe aeth y llwybr wal gwastad i’r dwyrain ar ffordd i anifail, wrth droed Moel Bronmiod ar uchder oddeutu 700 troedfedd, ac yn cynnig golygfeydd godidog i’r de ar draws Eifionydd i gyfeiriad yr arfordir a Mynyddoed y Cambrian pell. Ochr draw i adfailion Cwm Cilio, fe aeth y llwybr i’r gogledd-ddwyrain ar draws tir garw corsiog i droed y bryn amlwg conigol, Pen y Gaer. Yma dyma’r parti yn hollti yn dri rhan: un yn dewis aros i lawr, a chael cinio yn weddillion enfawr cutiau o oes yr haearn, un arall yn dringo’n serth i’r copa ac eraill yn cymeryd llwybr haws, mwy cylchog tu cefn i’r bryn. Yn agos i’r copa fe aeth y dringwyr drwy dir oddi amgylch y gaer fawr oes yr haearn ar ben y bryn drwy’r walia gwrthglawdd arbennig dyblyg. Cyfarfod am ginio ar y copa yn agos i 1300 troedfedd gan osgoi haidiau o forgrug hedegog a mwynhau y panorama i bob cyfeiriad, yn cynnwys mynyddoedd Eryri a ehangder llydan o’r Bryniau Clynnog yn ymestyn i’r gogledd. Aeth y ffordd yn ol yr un ffordd ac yn rhoddi cyfle arall i’r parti i gloncian a mwynhau y golygfeydd rhagorol i gyfeiriad Tre’r Ceiri a Carnguwch ac hefyd y tirlun amaethyddol cynhanesyddol anghyffredin o gaeau terasog a waliog ar y llethrau islaw. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 26ain Awst 2018. Beddgelert i Nant Gwynant. Ar fore’r daith gyntaf ar y rhaglen newydd – Gwyl Sul y Banc – dyma law trwm yn ol y rhagolygon. Mi fu gyfarfu wyth person, yn cynnwys yr arweinydd Dafydd Williams, a phenderfynu ar y pryd yma i anghofio’r daith ar y rhaglen. oedd ar fynyddoedd y Berwyn, a gwneud taith fyrach agosach ar dir isel o Beddgelert i Nant Gwynant ar hyd y glan deheuol o Lyn Dinas. Gwneuthpwyd taith gron gyflym rwydd 7.25 milltir ar y llwybr ardderchog gyda’r atuniad ychwanegol o luniaeth yn y caffi cymdeithasol poblogaidd hanner ffordd yn Bethania. Oherwydd y cyflusterau dudew a niwlog nid oedd y golygfeydd hardd o’r llyn a’r mynyddoedd cyfagos ar ei goreu, ond fe wnaeth y daith ddod a ymarfer croesawus ar ddydd Sul gwlyb ac yn caniatau i’r parti gyrraedd adref yn anarferol o fuan ar gyfer gweithgareddau gwyliau eraill fel roedd yr awyr yn gloywi yn y prynhawn. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 16eg Awst 2018. Daith y Clogwyn. Canlynodd 14 aelod Nick White ar daith fer ond fywiog ar Daith y Clogwyn uwchben yr afon Mawddach. Roedd y tywydd yn edrych yn fygythiol ar ol cychwyn yn heulog, ond dyma pethau’n gwella wrth i’r glaw fynd heibio yn gyflym. Roedd y golygfeydd yn arbennig o’r safle sydd yn sicr o fod yn un o’r teithiau hawsaf a mwyaf ysblennydd yn Eryri. Cafwyd ginio ar bentir yn edrych dros Aber y Mawddach gyda golygfeydd ardderchog o Cader Idris a’r aber i lawr i Abermo. Roedd y daith yn ol i’r ceir ar hyd glannau Llyn Cynwch, y gronfa i Ddolgellau. Roedd y dwr yn isel fel ac y bu ers peth amser ond roedd y daith ar hyd y llwybr drwy’r coed yn arddunol. Yn fuan roeddem yn ol yn y maes parcio ar gyfer y siwrne yn ol i’r orynys. Nick White. (Cyf-DHW)
Wal Hadrian. 18ed i 27ain Mehefin 2018.
Bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ol dyma’r ymerawdwr Hadrian, mewn munud gwan, yn rhoddi gorchymyn fod rhaid adeiladu wal o arfordir i arfordir ar draws gwddf gogledd Lloegr. Erbyn heddiw mae gweddillion o’r adeiladwaith hynod yma wedi goroesi fel taith arbennig 84 milltir i gerddwyr a phobl yn hoff o olygfeydd a hanes. Ym mis Mehefin penderfynodd 4 aelod o’r Rhodwyr i gerdded o’r dwyrain i’r gorllewin ar daith sydd erbyn hyn yn un o’r Teithiau Cenedlaethol mwyaf poblogaidd.
Yn briodol iawn dyma gychwyn o Wallsend. Roedd y diwrnod cyntaf yn 16 milltir ar y tarmac, yn boenus ar wadnau’r traed, ond mi brofodd i fod yn daith ymchwil annisgwyl hudol o’r Afon Tyne, yn mynd a ni drwy Newcastle hefo’i saith pont ardderchog ac heibio cymysgfa anghyffredin o hen ddiwydiant a datblygiadau modern. Yn y canol roedd yna aros croesawus am baned o goffi yn y felin grawn Baltic, wedi ei throi yn oriel celf. Roedd yn ryddhad i gyrraedd y pentref gwledig Wylam, cartref plentyndod yr peiriannydd enwog, George Stephenson, ac ein man aros dros nos.
Y diwrnod canlynol daeth y daith gyntaf ar i fyny, i bentref Heddon-on-the-Wall a’r wobr oedd y golwg cyntaf o ddarn go fawr o’r Wal. Yn ystod y diwrnodiau canlynol mi ddysgom na nid ond wal yn unig oedd yr adeiladwaith ond cyfansawdd o beirianyddiaeth, yn cynnwys ffos yn gwynebu’r gogledd, yna y Wal ei hun, yna ffordd filwrol, nawr yr B6318 brysur, ac yn olaf amddiffyniad llydan o waith pridd a elwid “vallum” i’r de. Roedd y Wal yn cael ei amddiffyn gan gestyllfilltir sgwar rheolaidd a dau dwred llai, neu mannau gwylio pob milltir, tra oddeutu pob pum milltir roedd yna wersyll mawr yn gartref i sawl cant o filwyr; mae gweddillion sylweddol o dri o’r rhain yn oroesi yn Chesters, Housesteads a Vindolanda. Mae’r darganfyddiadau hynod yn yr amgueddfa yn Vindolanda yn dod a’r gweddillion yn ddisglair fyw, yn enwedig y tabledi ysgrifennu yn cofnodi hanes bywyd milwr ar y ffin.
Daeth y 3-5 ddiwrnod a ni i man uchaf o’r daith gan gyrraedd 1100 troedfedd ar y cefn rhwng Northumberland a Cumbria. Y rhan yma yn haeddiannol yw’r mwyaf poblogaidd o’r daith. Mae rhannau parhaol o’r Wal fel neidr yn mynd i fyny ac i lawr y clogwyni serth a’r tarrenau disgynedig yn creu rhwystr grymys i’r gogledd yn cael ei adlewyrchu yn yr enwau: Sewingshield Craggs, Cuddy Craggs, Cat Stairs, Steel Rigg, a Sycamore Gap.
Yn y fan hyn mae’r ffordd yn pasio drwy dirlun gyda golygfeydd agored a phell i gyfeiriad y Goedwig Kielder a’r ffin a’r Alban, porthladd i dywyllwch a bron yn amddifad o boblogaith, atgof o pan i’r Rhufeiniad adael mi fu ardal y ffin yn ddigyfraith ac yn ffiwdal cyson. Daeth y Wal yn chwarel anferth i adeiladu cestyll, mynachdai a chadarnhau tai. Mi achubwyd yn yr 19eg ganrif pan fu John Clayton ddechrau ymgais i ddiogelu a chyhoeddi y gweddill. Atgof arall o’i ran fel ardal frwydro oedd y man unig ble trechodd y Sais St Oswald, y Celt Cadwallon yn y Frwydr o Heavenfield yn 633 Ar Ol Crist.
Oddi yma roedd yn bennaf ar i lawr drwy wlad hyfryd bugeilgerdd gyda ochr yr Afon Eden ac o’r diwedd dod i Ddinas Caerliwelydd, cyfle croesawgar i gyflenwi angenrheidiau. Nid oedd arwydd o’r Wal erbyn hyn, efallai oherwydd i’r adran yma gael ei adeiladu gyda pridd yn hytrach na cherrig. Ar y llwybr, mewn caffi yn penttref Walton, dyma gyfarfod yn annisgwyl a phedwar cyfaill o Bwllheli oedd yn cychwyn i gerdded y Wal mewn cyfeiriad croes i ni – byd bach iawn!
Roedd y rhan olaf yn dilyn ffordd syth ddi ddiwedd ar hyd ffordd di gysgod ar ochr y Solway Firth, y ffin hefo’r Alban. Oherwydd y gwres tanboeth, hwn oedd yr adran mwyaf blin ac roedd yn ollyngdod i gyrraedd anheddfa unig Bowness-on-Solway yn geg y foryd, ble roedd y llwybr yn dod i ben. Yr unig beth ar ol oedd dathlu ac mi gafodd ei harwyddo gyda botel o prosecco yn y dafarn leol, y Kings Arms.
Profodd hon i fod yn wyliau byth gofiadwy pan oedd pobpeth i weld wedi mynd yn dda – cwmni hynaws, cerdded egniol, ond dim rhy egniol. Tywydd da ar gyfer cerdded arwahan am y gwres ar y ddau ddiwrnod olaf, a fawr o law, yn ddieithriad croeso cynnes yn y tafarndai, y llefydd gwely a brecwast a’r caffis, safon da o lefydd aros, a trefniadau cludo perffaith. Roedd y cyfanswm gafaelgar dros 100 milltir dros 8 diwrnod, yn caniatau am gylchdeithiau i’r mannau Gwely a Brecwast, tafarnau a llefydd hanesyddol. Ble nesaf? Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 12ed Awst 2018.
Tyrrau Mawr. Roedd dwy daith yn cychwyn o Lynnoedd Cregennan, 8 o gerddwyr yn ymuno a’r daith A oddeutu 11 milltir a chael ei arwain gan Hugh Evans dros Tyrrau Mawr ac aeth 4 ar daith fyrach a’i arwain gan Nick White. Cylchodd y daith hir i’r gogledd a’r dwyrain o amgylch y llyn gorllewinnol, ble roedd dau nofiwr gwyllt y boreu, ac yna i lawr i ddilyn y ffordd i’r dwyrain ar hyd y cwm am oddeutu milltir. Yna dechreuoedd y dringo cyson ac ymuno a’r llwybr poblogaidd ac mewn cyflwr ardderchog, y Pony Path i fyny Cader Idris cyn belled a’r grib yn Rhiw Gwredydd. Yma dyma fynd i’r gorllewin gan ddringo’n gyson i Carnedd Llwyd a twmpath gwelltog o Tyrrau Mawrei hun, 2200 troedfedd, man uchaf y dydd. Roedd y boreu yn sych a chlir hefo cyfnodau heulog ac yn caniatau golygfeydd braf ar draws y Mawddach ac i lawr i Abermaw i’r gogledd ac i lawr i Ddyffryn Dysynni i’r de. Pryn bynnag dyma niwl a chymylau yn cyrraedd am oddeutu 1.30, a dod a cawodydd hir, gwynt bywiog a chuddio’r golygfeydd am awr neu ddwy ac yn anffodus ddim yn caniatau hyd yn oed cipolwg o’r olygfa o’r grib hir Craig y Llyn. Cafodd cinio i ohirio tan i’r rhan olaf o’r dringo gael ei gyflawni ac yr oedd modd dod o hyd i gysgod o dan brig o gerrig. Aeth y llwybr ymlaen heibio Twll yr Ogof a’r goedwig Braich Ddu, ac o’r diwedd mynd yn siarp i’r gogledd-ddwyrain i lawr ar trac o’r Ffordd Ddu, rhan o’r hen lwybr o Llanegryn i Dolgellau yn nodedig gan nifer o gerrig meini o’r oes efydd. Yna, o’r diwedd cododd y cymylau a’r niwl ac rhoddi golygfa o’r cwm yn cynnwys clogwyni gafaelgar Tyrrau Mawr o’r gwaelod, er wnaeth hyn ddim atal y parti ryw ffordd wahanu oddiwrth yr arweinnydd i wneud cylchdaith o’r ffordd fwriadol. Er gwaethaf y tywydd siomedig roedd yn ddiwrnod ardderchog o gerdded yn yr ardal hardd yma o Feirionnydd. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Llynnau Cregennan a Pared y Cefn Hir. Tri aelod ymunodd a Nick White am daith saith milltir yn cychwyn o faes parcio Llynnoedd Cregennan, yn ddi os un o’r meysydd parcio mwyaf prydferth o ran lleoliad yn Gymru. Mewn tywydd bygythiol dyma gychwyn drwy ddringo i fyny Pared y Cefn Hir. Roedd y tywydd yn ddigon clir i ganiatau golygfeydd rhyfeddol oddi ar y copa, ac yna dilyn gan gerdded ar hyd y grib a drwy hen gaer ac i lawr i adfeilion capel yn Islawrdref. Cafwyd ginio yn y fynwent, yn caniatau golwg ar garreg goffa Gwynfor Evans. Yna ymlaen heibio Llety’r Ieuenctid Kings a drwy Ddyfryn ddeiniadol Gwynant i fyny i Ffordd Cader, ble yn anffodus dyma hi yn glawio yn drwm iawn. Yn ffodus wnaeth y glaw trwm ddim parhau yn hir, a’r daith drwy Nant y Gwyrddail ac ar draws y caeau yn ol i Cregennan, ddim mor gorslyd ac yn y gorffennol. Yn dilyn ymweliad cyflym a cwt y cwch ar yr ail lyn, dyma gerdded yn hamddenol yn ol i’r maes parcio. Nick White. (Cyf-DHW).
Dydd Mercher 8ed Awst 2018. Copa'r Wyddfa. Mae’n amlwg fod traddodiad blynyddol wedi dechrau yn y Clwb pan gyfarfu 18 aelod a ffrindiau yn maes parcio y Snowdon Ranger i gydymdeithio a Dafydd Williams ar daith heb ei threfnu i fyny’r Wyddfa ar achlysur ei ben blwydd yn 82 oed, a chyrraedd y copa 4 milltir i ffwrdd mewn 3-4 awr. Tra fod oddeutu y filltir gyntaf o Lwybr y Ranger (y zigzags) wedi eu gwella hefo cerrig man, mae’r llwybr creigiog i fyny’r mynydd yn anodd a diddrugaredd i ddweud y lleiaf. Ar ol aros gyda’r dorf i dynnu llun ar y copa roedd rhaid gwthio i mewn i’r café prysur i gael cinio. Roedd y tywydd yn well na’r rhagolygon, aros yn sych, ond yn gymylog ar y ffordd i fyny hefo niwl trwchus uwchben 2750 troedfedd; ond amser cinio dyma’r cymylau yn dechrau codi ac yn canitau golygfeydd aruthrol ar draws y tirlun o ogledd orllewin Gwynedd ac Ynys Mon ac yr oedd modd eu mwynhau yn hamddenol ar y fordd i lawr yn haul y prynhawn. Dilynwyd gyda lluniaeth derbynniol i ddathlu yn cartref Catherine a Dafydd. Llongyfarchiadau i Dafydd am daith arall lwyddiannus i fyny’r Wyddfa. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 2ail Awst 2018. Afonydd Ardudwy. Roedd taith heddiw oddeutu 6 milltir yn ymchwilio afonydd a dyffrynoedd coedwigog Artro a Nantcol yn Ardudwy. Cyfarfu 14 cerddwr ger stesion Llanbedr a chymeryd llwybr yn cychwyn ger pont y pentref a cylchu i’r gogledd heibio’r Gofeb Rhyfel a’r ty sylweddol Penrallt; roedd hyn yn arwain i lawr i’r ffordd yn Pentre Gwynfryn a’i dilyn sawl canllath cyn belled a Capel Salem, wedi ei anfawroli yn llun adnabyddus S.C.Vosper o ferched mewn gwisgoedd Cymraeg a’i ddefnyddio gan Lord Lever i werthu sebon drwy Brydain Fawr. Yna cymerwyd lwybr uwchdirol ar draws gaeau a waliau gwych ac i lawr i’r gwersyll prysur yn Nantcol. Yna dilyn llwybr cylchlythyr diddorol drwy Coed Cefn Cymerau i fyny ar y rhostir llwyfandirol agored a chyrraedd rhesau creigiau ysblennydd rhaeadr Nantcol, lle addas i gael cini. Yna dyma lwybr yr afon yn dychwelyd y parti yn ol i lawr gan fynd heibio rhaeadr gafaelgar arall. Aeth y llwybr dychwelyd mewn cylch ar hyd lwybrau coedwigaedd mwsoglyd drwy Coed Cadw’s Coed Aberartro gyda golygfeydd i lawr i ddwr yr afon islaw. Roedd y Dafarn Victoria yn Llanbedr yn le addas i fwynhau te a choffi i orffen taith bleserus mewn tywydd braf a chynnes a chymylau ysgafn. Noel Davey. (Cyf-DHW)