Awst 21 – Gorff 22
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams.
Dydd Sul 24ain Orffenaf 2022. Tal-y-Fan. Gwynfor Jones arweiniodd barti o 10 ar y daith heddiw, i fyny Talyfan, a oedd wedi ei gohirio oherwydd y gwres wythnos diwethaf. Roedd y tymherau yn fwy derbyniol y tro hwn er iddi barhau i fod yn eithaf clos; osgoiwyd y bygythiad o law trwm a niwl ac roedd yna awelog dymunol. Cychwynnodd y daith o Rowen, pentre pert, yn Nyffryn Conwy. Aeth y ffordd i’r gogledd heibio gwersyll carafannau taclus a cylchu i fyny heibio Coed Mawr ble roedd yna gofadail teimladwy, wedi ri adnewyddu, i Wallace, ci hela ffyddlon a laddwyd yn ddamweiniol gan ei feistr tra yn gyrru modur. Roedd yna ddringo cyson drwy goed dymunol a llwybrau cae wedi eu marcio gan foncyffion tew gafaelgar o goed onnen hynafol yn ail dyfu yn egniol ac yn anymwybodol o’r canlyniadau? Ty draw i Tanrallt roedd y tirwedd yn dod yn fwy fwy agored a garw gyda golygfeydd braf i lawr i’r riban o’r Afon Conwy yn y dyffryn llydan islaw.. Dilynnodd y llwybr rhan o Ffordd y Pererinion i Enlli, yn cyrraedd bron 1000troedfedd o uchder a gweddillion yr eglwys anghysbell yn Llangelynin, y tlws bychan yma, a’r mwyafrif yn dyddio o’r 12ed ganrif ar Sylfaen o’r 6 ganrif, mewn defnydd yn achlysurol hyd heddiw, gyda nenfwd panelog hardd, testunnau Cymraeg o’r beibl wedi eu peintio uwchben yr allor a Chapel Dynion ar un ochr wedi ei neilltuo i’r Porthmyn. Roedd lle caeedig yr fynwent enfawr gyda’i ffynnon fedyddio yn fan heddychol i gael paned y boreu hwyr. Yna trodd y ffordd i’r gorllewin ar draws tirlun agored o grug, llus a chreigiau, dringo heibio gweddillion gaer Caer Bach i grib urddasol Talyfan. Daeth llwybr creigiog oedd ambell dro yn anodd a’r parti o’r diwedd i’r copa ychydig dros 2000troedfedd. Oddi yno roedd yna olygfeydd niwlog i gyfeiriad yr arfordir yn Llandudno ac Ynys Mon i’r gogledd ac i brif gopaon y Carneddau i’r gorllewin. Cymerwyd cinio mewn gwli cysgodol oddi isa i’r copa, yn edrych ar draws y gwastatir llydan corsog i’r llwybrau hynafol a’r pwll chwarel anferth fodern uwchben Penmaenmawr. Unwaith oddi ar y mynydd trwy’r bwlch rhwng Talyfan a Foel Lwyd, cyrhaeddwyd llwybr graean llawer rhwyddach, yn rhedeg yn syth i lawr i’r dwyrain drwy ardal o hen anheddfa ac o’r diwedd cysylltu a lon goediog serth i lawr i Rowen. Yno roedd y dafarn Ty Gwyn yn disgwyl i adfywio’r parti yn dilyn diwrnod pleserus yn cerdded y bryniau, taith oddeutu 7 milltir dros 5.5.awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 21ain Orffenaf 2022. Capel Salem-Dyffryn Artro. Yn dilyn y tymherau anarferol uchel diweddar, roedd heddiw yn gymharol oer mewn cymhariaeth, gyda haul aneglur, ni wnaeth y 14 cerddwr oedd yn bresennol, yn agos i Capel Salem, yn enwog oherwydd Curnow Vosper, brofi dim anhawster parcio a ddisgwylid. Roedd drysau’r capel yn agored yn caniatau i’r cerddwyr fynd i mewn a tynnu lluniau, mae yna gopi o’r llun enwog yn disgrifio Sian Ty’n Fawnog, gyda’r diafol yn y siol, ar y wal. Yn dilyn oddeutu canllath arall aeth y ffordd i gae ar y chwith ac ymlaen drwy dau gae ychwanegol am oddeutu 800 llath tan cyrraedd Y Fron. Yna i’r chwith a’r gogledd ar y Llwybr Ardudwy, ac yn fuan cyrraedd pont yn Pen-y-bont, pentref bach dymunol ble mwynhawyd coffi’r boreu. Cyrhaeddwyd ffordd fechan, ac mewn 60/70 llath roedd yna gamfa gerrig anodd a ddringwyd i gae ac o fewn 50 llath ychwanegol un arall, rywfaint yn haws i’w gorchfygu. Ymlaen i’r gogledd aeth y llwybr, a chyrraedd fferm Wern Gron, a chroesi ffordd fechan arall a chae oedd yn fwdlyd a chorsiog dros ben pan wnaethpwyd yr ymchwiliad cyntaf, ond nawr, diolch i’r drefn, yn galed fel craig. Ymlaen aeth y ffordd heibio adfeilion Blaidd Bwll, ystyried i fod yn gyn felin, a drwy wlad digynnwrf cyn cyrraedd fferm arall, Tyddyn Rhyddid, lle delfrydol ar gyfer cinio bywiog. Yna dyma ail ymuno a’r ffordd fechan ac ymlaen i’r gogledd am hanner milltir go dda cyn mynd i’r chwith a’r gorllewin ac yna 90% i’r chwith a’r de yn Tyddyn-du, y ty fferm wedi ei adael. Yna roedd hi ddim ond mater o ddilyn ffordd wedi ei cyn fabwysiadu, ac nawr yn drac mewn rhannau, am filltir go dda, gan fynd heibio Coed y Bachau a Gwern Einion. Cyrhaeddwyd y capel yn Pentre Gwynfryn a gan fynd i’r chwith, daeth y cerddwyr, ar ol 200 llath, yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith fwynhaol a diddorol, ychydig yn brin o 6 milltir dros 4 awr ar gyflymdra dderbynniol mewn amgylchoedd hardd. Dafydd Williams.
Dydd Sul 17eg Orffennaf 2022. Coedwig Beddgelert. Roedd rhybudd tywydd crasboeth anarferol gyda rhagolygon o dymheredd yn agos i 30C – heb os, yn arwydd o’r dyfodol a gorfod gohirio’r daith ar y rhaglen i fyny Talyfan ac yn ei lle fe aeth Gwynfor Jones a grwp bychan o gerddwyr penderfynol ar gylch i Goedwig Beddgelert ble roedd hi yn llai agored ac amryw o fannau cysgodol. Roedd hon yn dilyn rhwydwaith o draciau cyfarwydd ond eto yn ddryslyd o dan nenlen wyrdd cyson, nawr ac yn y man yn cynnig golygfeydd ardderchog o’r copau agosaf, ond yn osgoi dringfeydd difrifol. Anelodd y ffordd i’r de o’r prif faes parcio ger Pont Cae Gors, croesi’r hen bont pynfarch dros Afon Cwm Ddu. Daethom ar draws dau geffyl a,u marchog ger y man croesi’r Rheilffordd Ucheldir Cymru. Ymlaen aeth y trac heibio Hafod Ruffydd Isaf a Canol, Coed Mawr a Meillionen, gan fynd heibio’r “lodges” newydd, Maescampio Beddgelert o dan ofalaeth Gwyliau Coed. Yn Parc Ty’n Coed, trodd y ffordd i’r gorllewin heibio Beudy Ysgubor, yna i’r gogledd. Gwrthodwyd llwybr serth yn drngo i Cwm Mellionen ar ol prawf byr. Ar olygwedd ger Hafod Rufydd Uchaf dyma saib i syllu ar gopa gafaelgar Yr Aran, yn nghysgod mas Y Wyddfa ar draws y dyffryn. Er gwaethaf y gwres, yn ddiau yn cael ei oresgyn gan ymwelwyr awchus, fel arfer, tra roedd yna ddim ond ambell i eneidiau ecscentrig yn y Goedwig, yn cynnwys beiciwr cyflym. O’r diwedd daethpwyd o hyd i lwybr yn arwain i Llyn Llywelyn mewn amser am ginio croesawus gerllaw ei ddyfroedd claear llonydd, yn blyg islaw clogwyni Castell, Moel Lefn a Moel Hebog. Aeth gwres y prynhawn a’r parti ymhellach i’r gogledd, ymuno a’r ffordd o Bwlch y Ddwy Elor ac yn y diwedd disgyn yn gynnil i’r dwyrain yn ol i Pont Cae Gors. Profodd hon i fod yn siwrnai hawdd ei thrin a phleserus ac addas ar gyfer yr amodau, oddeutu 8 milltir a 1100 troedfedd o ddringo dros 4.5 awr. Roedd y dafarn yn Rhyd Ddu yn le ardderchog i fwynhau lluniaeth ar ol ymdrechion y dydd. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau 7ed Orffenaf 2022. Cyldaeth Harlech – Llanfair. Ni fedra hi ddim bod yn ddiwrnod gwell i ymchwilio gwastatir uchel Ardudwy uwchben Harlech – awyr glir a haul cynnes gyda awel ysgafn. Colin Higgs arweiniodd 20 cerddwr ar gylch llawn o ddiddordebau gweledol a hanesyddol. Cychwynnodd y daith o faes parcio ucha Bron y Graig, dringo ar lwybr eitha serth a chyrraedd caeau agored Ardudwy o gwmpas Rhyd Galed Uchaf. Oddi yno roedd yna olygfeydd syfrdanol i lawr i Harlech a’i gastell ac ar draws ehangder disglair Bae Tremadog i’r bwa hir o Lyn yn ymwytho allan i’r gorllewin. Roedd y llwybr yn mynd heibio ty Eric Jones, y dringwr chwedlonol lleol, a chyrraedd maes gwersylla yn Fferm Merthyr. Yna dilynnodd y ffordd yr hen drac o Fonllech Hir i’r gogledd ddwyrain i gyfeiriad y bryn ansafadwy Moel Goedog, yr ardal oll yn llawn o archaeoleg oes ddiweddar y meini, yn cynnwys hefyd dilyniant rhyfedd o feini sefyll. Mae’r rhostir agored yn y fan hyn yn cael ei hollti gan waliau cerrig-sych, tra bod caeau caeedig yn nodweddol o bentyrau o gerrig, efallai yn dilyn ymdrechion ffermwyr i glirio’r ddaear neu creiriau o anheddfannau cynt.
Ymhellach ymlaen, cylchodd y llwybr yn ddwyreiniol ac yn ddeheuol, gan fynd heibio cylch o gerrig bychan. Roedd yna aros hyfryd am ginio uwchben y ty fferm anial yn Rhyd yr Eirin wedi ei fframio i’r dwyrain gan gopaon arbennig a sgerbydau creigiog y Rhinogydd. Dal ymlaen wnaeth y llwybr ar hyd ffordd hir syth i gyfeiriad Harlech trwy y groesfford yn Rhiwgoch. Yma mae’r capel Baptist Albanaidd unig, Engedi, adeiladwyd yn 1834; yn cael ei alw yn lleol fel capel “bara a chaws”, gan fod y gynulleidfa mor wasgaredig roedd rhaid iddynt gael eu bwydo, oherwydd iddynt orfod teithio yn bell! Ar gyfer y rhan olaf aeth y fordd i’r gogledd ar lwybr gan basio yr hen Furiau Gwyddelog yn cynnwys cylchoedd cytiau o’r oes haearn. Roedd yna fwy o olygfeydd ardderchog o’r dre a’r tywodfryniau yn ymestyn i’r gogledd. Roedd hon yn daith gofiadwy oddeutu 7 milltir a 1000 troedfedd o ddringo dros 4.5 awr drwy dirlun arbennig. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Sul 3ydd Orffenaf 2022. Yr Arenig Fawr - Moel Llyfnant. Roedd yna ddwy daith yn darnguddio heddiw yn fynyddoedd yr Arenig i’r gorllewin o Bala. Gareth Hughes arweiniodd 8 o aelodau ar hynt A i fyny Arenig Fawr ac ymlaen i Moel Llyfnant, tra roedd Dafydd Williams yn arwain hynt B yn syth i fyny Moel Llyfnant. Yn fuan gwellodd pethau, gan i’r cymylau boreuol ac ychydig niwl ar y copau, glirio i ysbeidiau heulog, yn addas dros ben ar gyfer cerdded. Cychwynnodd y daith ger Pont Rhyd y Fen ger yr A4212 a throi i’r de orllewin ar hyd trac islaw Clogwyn Du. Yna dringodd y cerddwyr A mwy na 1000 troedfedd yn dilyn waliau yn syth i fyny i fwttres Craig yr Hyrddod wedi ei nodi gan garn onglog amlwg. . Oddi yno roedd hi yn ddringfa weddol rhwydd i gopa Arenig Fawr yn 2800 troedfedd. Roedd y loches gerrig yn le cysgodol i gael paned hwyr a chinio buan. Yn y fan hyn, hefyd yn cael ei adnabod fel Moel yr Eglwys, mae yna gofeb i’r 8 o awyrynnwyr Americanaidd a fu farw pan fu eu “Flying Fortress” wrthdaro a’r mynydd yn 1943; mae llun islaw yn dangos criw o 10. Yna dyma ‘r cyflwr gweledig yn gwella ac yn caniatau golygfeydd o’r prydweddau agos o’r tirlun: y talp bychan o Arenig Fach i’r gogledd, Llyn Celyn a Llyn Tegid i’r dwyrain a’r ddwy Aran i’r de. Yna disgynnodd y llwybr yn araf i’r de, chrymu i’r gorllewin ar draws tir corsiog o Ceunant Coch, a cholli 1000 troedfedd o uchder. Yna daeth dringo serth welltog a’r grwp i fyny yn ol i bron 2500 troedfedd ar y cripellau creigiog o Moel Llyfnant. Oddi yno cafwyd y golygfeydd goreu’r diwrnod yn estyn o’r Rhinogydd yn y gorllewin i fynyddoedd y Berwyn yn y dwyrain , ag o gylch y Gadair yn y de i’r copau Eryri yn y gogledd. Yn y fan hyn daeth y ddau grwp at ei gilydd i gael cinio hwyr ar lethrau gwelltog islaw’r copa, a dilyn eu gilydd i lawr i’r gogledd ar draciau trwy Annodd bwll, ty fferm cadarn ond nawr wedi ei adael. Yn Nant Ddu trodd y ffordd i’r dwyrain ar drac o’r cyn reilffordd Bala-Ffestiniog , a gauodd yn 1961 ac yn ddiweddar wedi ei wella ar gyfer cerddwyr gyda pontydd troed a chyfeiriadau. Roedd y daith A oddeutu 9 milltir gyda dringo o 2650 troedfedd dros 6.5 awr. Roedd hon yn ddiwrnod mwynhaol yn y dyffryn unig ond arbennig o swynol yr Arenigs, tirlun a’n enwog ysbrydolodd yr arlunyddion Augustus John a JD Innes mewn gwallgofrwydd i ddwy flynedd o arlunio yn nechrau’r 20 ganrif. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Cerddwyr B. I ddechrau aeth y cerddwyr B yr un ffordd a’r grwp A ond heb gyffwrdd a’r mynydd gan fynd yn syth ymlaen i’r gorllewin am oddeutu dwy filltir i fyny’r cwm rhwng Arenig Fawr ar y chwith a Moel Llyfnant ar y dde. Mae’r cwm yn eithaf cul ac roedd y llwybr yn gwasgu ar wylodion Areniig Fawr. Roedd y llwybr yn dringo yn araf ac roedd eisiau mynd 90% i’r dde ac ar draws y dyffryn i gyrraedd gwaelod Llyfnant. Yn y fan hyn, oherwydd camgymeriad, gwnaethpwyd y tro yn rhu fuan a’r canlyniad oedd i’r parti orfod croesi tir corsiog oedd wedi sychu ac yn sobr o anghyfforddus dan draed. Cyrhaeddwyd waelod Llyfnant yn y man anghywir ac fu rhaid i’r parti ddringo asgell orllewinnol serth y mynydd, oddeutu 60 y cant i gyrraedd y grib. Yn ffodus roedd y ffordd yn welltog ac yn ddi gerrig. Cafodd hwn ei gyflawni yn weddol gyfforddus gan 4 o’r grwp ac mi gyrraeddason y copa yr un pryd a’r cerddwyr A, tra roedd y 6 , ac yn sicr myfi, yr arweinydd yn ei chael hi yn sialens. Roedd un o fy nghyd gerddwyr, ac rwyf yn ddiolchgar iddo, wedi cymeryd fy sach cerdded hanner ffordd i fyny’r ddringfa oddeutu 700 troedfedd. Cyrhaeddodd y 6 “ddioddefyddion” ar y grib oddeutu 300 troedfedd yn brin o’r copa ar y llwybr i lawr y mynydd yn gwynebu’r dwyrain ble ym mhen amser ymunwyd a ni gan weddill y ddwy garfan a mwynhau cinio siaradus! Mae’r gweddil wedi ei gofnodi uwchben ac wrth edrych yn ol roedd y daith 7 milltir yma yn y bryniau wedi bod yn bleserus dros ben. Dafydd Williams.
Dydd Sul v 26ain Fehefin 2022. O amgylch Rhinog Fawr. Gohirwyd y daith i fyny Rhinog Fawr oherwydd tywydd cyfnewidiol, gyda rhagolygon o law trwm a gwyntoedd o 60 milltir yr awr ar gyfer heddiw. Penderfynodd 7 cerddwr rhyfygus i wynebu’r elfenau a chymeryd ffordd o amgylch y mynydd, yn hytrach na’i ddringo. Nid oeddem ar ben ein hunain achos i ni gyfarfod a tri grwp o fechgyn ifanc dewr yn gwneud taith 4 niwrnod o dan gynllun y “Duke of Edinburgh”. Cychwynnodd y daith o Lyn Cwm Bychan yn ben y dyffryn hudol, 5 milltir o hyd yn rhedeg o’r arfordir yn Llanbedr i’r Rhinogydd. , Roedd y rhan gyntaf, yn ddi drafferth, dringfa o 1000 troedfedd i fyny’r “Roman Steps”a Bwlch Tyddiad, ffordd pynfarch canoloesol gyda’i wreiddiau yn ddi amau yn mynd yn ol cyn hanes. Roedd hwn wedi ei gysgodi yn dda o’r gwyntoedd de-orllewinnol, ond nid o’r cawodydd cyson hyrddwyntol oedd yn gwneud y llwybr creigiog yn llithrig. Gan fynd heibio’r llwybr i fyny Rhinog Fawr, disgynnodd y parti rhywfaint i’rdwyrain i ardal goedwigaidd, llawer o’r coed nawr wedi eu clirio a chymeryd llwybr cylchdaith i’r rhaeadr yn Pistyll Gwyn ac aros am goffi’r boreu tamp. Yna arweiniodd y llwybr ‘r de-orllewin drwy geunant Bwlch Drws Arddudwy, yn gorwedd rhwng y pentyrrau o Rhinog Fawr a Rhinog Fach. Tra roedd y rhan cyntaf yn dilyn llwybr graeanog drwy’r coed, roedd yna ran yn y canol yn anoddach. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti Maes y Garnedd, ger Nantcol ac yn falch o aros am ginio yng nghysgod wal pan oedd toriad yn y glaw. Rhan y prynhawn oedd y caletaf, dringo i’r gogledd i’r rhostir di-gysgod i’r gorllewin o Rhinog Fawr. Roedd y llwybr yn y fan hyn yn cynnwys, yn bennaf, o lwybrau defaid aneglur, yn datblygu dim perthynas i’r llinell syth o’r hawl i gerdded ar y map. Roedd y glaw ysbeidiol a’r gwynt cernodol, nawr diolch byth tu cefn i ni ac yn rhoddi dim arwydd o ysgyfnhau. O’r diwedd dyma gyrraedd y llwybr mynydd yn disgyn, ac yn fuan yn gweu drwy’r grug a’r llus, gyda addawon o Gloyw Lyn, y llyn sgleiniog, ac mi ddaeth i’r golwg islaw. Oddi yno roedd ond cam fer yn ol i’r ceir yn disgwyl yn Cwm Bychan. Roedd hon yn daith anodd oddeutu 9.5 milltir a thros 3000 troedfedd o ddringo dros 7 awr. Gwnaeth yr amodau parhaol gwlyb a gwyntog y tir garw a chreigiog yn beryglus ac yn anoddach nac arfer. Roedd hi wedi bod yn beth doeth i beidio a chynnig y copa, ac yn amheus os i’r prawf llym gyfiawnhau yr teimlad o wrhydri o gwblhau y daith mewn y math amodau drwy’r Rhinogydd gogoneddus ond galon isel! Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Iau 23ain Fehefin 2022. Rhos on Sea: Little Orme - Rhos. Denodd diwrnod gogoneddus ganol haf 11 aelod i wneud siwrna hir i Llandudno ar gyfer newid golygfeydd. Miriam Heald arweiniodd linell o 4 milltir dros yr Orme Fach ac ar hyd blaen y mor yn Llandrillo yn Rhos yn ail ymweld a rhan o daith a wneuthpwyd 4 blynedd yn ol. Roedd y mwyafrif o’r ceir wedi ei parcio ar promenad Llandudno, yn golygu heic fer i fyny i fan cychwyn y llwybr gyferbyn a’r Premier Inn. Cymerodd y mwyafrif o’r parti y llwybr i’r de o’r Orme i fyny i oddeutu 330 troedfedd. Dringodd 3 yn uwch i’r gromen amlwg o graig garreg calch o gwmpas 460 troedfedd. Roedd yna olygfeydd ysblennydd dros mesuroniaeth drefnus Llandudno gyda’i ffryntiau ger y mor godidog wedi ei gau i’r gorllewin gan y blocyn anferth o’r Orme Fawr. Roedd bryniau Dyffryn Conwy yn ymestyn i’r de. Dros Bae Penrhyn, yn y tarth, gwelwyd twrbeini mawreddog, os dadleuol, o resi Gwynt y Mor yn troelli’n hamddenol i’r gogledd. Ymlaen aeth y llwybr i’r copa dros Creigiau Rhiwledyn, cyn gwau i lawr i’r ddwy lefel lydan, ar ol 50 mlynedd o chwarelyddiaeth carreg galch. Ymunodd y ddwy garfan ar gyfer cinio ger Trwyn y Fuwch ar y pentir, uwchben Porth Dyniewaid. Mae’r cilfach prydferth yma yn cael ei ddiogelu oherwydd y morloi llwyd sydd yn gyson yn rhywogaethu a torheulo yn y fan yma. Ymlaen aeth y daith i Llandrillo yn Rhos ar hyd y lan y mor caregog, a dringo i’r promenade ger y morglawdd a gorffen yn Blaen Rhos. Roedd yna gyfle i ymweld a’r eglwys fechan gerllaw, Sant Trillo, sant o’r 6ed ganrif adeiladodd ei gell yma a rhoddi yr enw cywir i Llandrillo yn Rhos. Yna rhoddwyd hufen ia i’r parti. Aeth rhai ymlaen ar hyd y promenad i weld mwy o olygfeydd hanesyddol lleol o ddiddordeb a chymeryd y bws yn ol i’r man cychwyn. Penderfynodd eraill i gerdded yn ol , yn rhoddi pellter o 7 milltir. Roedd hon yn daith bleserus ac hamddenol yn haul yr haf ar ran o’r arfordir na ymwelwyd yn aml gan y Clwb. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 19eg Fehefin 2022. Sarn Helen - Glyn Lledr. Unwiath eto roedd y wlad brydferth o amgylch Betws y Coed wedi denu cynulliad dda o 17 aelod, y tro hwn ar gyfer cylch dros y bont bren i,r de o’r pentref. Yn fuan newidiodd y tywydd o fod yn gymylog i heulog a chynhesu fel i’r dydd fynd ymlaen. Cychwynnodd y daith o Pont y Pair o’r 15ed ganrif, canolfan gwreiddiol yr anheddfa. Arweiniodd llwybr coediog ar hyd glan gogleddol yr Afon Llugwy, yn nodweddol am ddrysfa o wreiddiau arwynebol i,r diofal, i Miners Bridge. Yn wreiddiol roedd y bont droed cain yma, ardro dros yr afon a nawr wedi ei atgyweirio yn dilyn difrod storm, yn cael ei defnyddio gan weithwyr eisiau taith fyrach i’r pyllau plwm a sinc yn Coed Gwydir. Mae yn agos i’r lle croesi gwreiddiol o’r Llugwy adeiladwyd gan y Rhufeiniaid gan gymeryd Sarn Helen rhwng y caerau yn Caer Llugwy a Tomen y Mur. Nawr fe ddilynodd y daith y ffordd hynafol mwy na heb yn syth i’r de orllewin dros y grib goediog drwy y pentref chwarel afradlon o Rhiwddolion. Roedd yna arhosiad yma am goffi yng nghanol yr adfeilion. Wrth ddychwelyd allan i’r rhostir agored, roedd yna olygfeydd i’r de i gyfeiriad grib Penamnen. O’r diwedd disgynnodd y ffordd i ddyffryn yr Afon Lledr, croesi’r afon ger Plas Aeldroch ac heibio Llys Lledr, nawr yn ganolfan hamdden awyr agored.
Ymlaen i’r dwyrain aeth y daith ar lwybr coediog ar ochr y creigiau hudol, llynnau ac rhaeadrau’r afon. Roedd yn amser ciniawa mewn man cyfleus ger faes gwersylla cyn ail groesi’r afon a cherdded o dan y Bont Reilffordd ysblennydd, Pont Gethin, adeilad cerrig anferth 1076 troedfedd o hyd adeiladwyd yn 1879 mewn dyll “Scots Baronial” i gludo’r reilffordd Dyffryn Conwy. Yna dringodd y daith yn serth i’r gogledd drwy goed dymunol o dan reolaeth Adnoddau Cenedlaethol Cymru, ac yn y diwedd cyrraedd Llyn Elsie. Cronfa adeiladwyd yn 1914 ar gyfer Betws, fel a goffauwyd ar y cofgolofn yn y pen gogleddol o’r llyn. Oddi yno roedd golygfeydd pell o’r mynyddoedd, yn cynnwys Moel Siabod. Roedd y rhan olaf o’r llwybr yn gwaui i lawr yn serth ar ei ben i Betws gyda golygfeydd da o Ddyffrynb Llugwy islaw. Roedd hon yn daith ardderchog o 9 milltir a 1670 troedfedd o ddringo dros oddeutu 5 awr. Noel Davey.
Dydd Iau 9ed Fehefin 2022. Mynydd Rhiw. Yn dilyn gohirio taith y Sul diwethaf I’r Rhinogydd, parhau wnaeth effaith y tywydd gwael ar y cerdded gyda cylch niwlog a gwlyb o Fynydd Rhiw. Cyfarfu 25 o gerddwyr, o dan arweiniad Judith Thomas, o faes parcio Plas yn Rhiw. Cychwynnodd y daith ar Lwybr yr Arfordir, yn arwain drwy ardal goedog doreithiog wyrdd I gyfeiriad Penarfynydd. Yr amser hyn roedd hi yn sych gyda golygfeydd I lawr i’r hanner cylch o Porth Neigwl. Wedi cyrraedd y rhostir agored, cymerwyd llwybr I’r gogledd I fyny I bentref Rhiw, ar draws caeau I’r llwybr isaf drwy Conlon, a thros wal gyda camfa gris anodd. Yna dyma’r parti yn dringo I’r copa oddeutu 1000 troedfedd ar Fynydd Rhiw. Yn anffodus roedd yr niwl treiddiol yn cuddio’r panorama gwych oddi yno, yn cyfynu gweledydd I wal llai na 100 llathen I ffwrdd.
Roedd yn amser am ginio tamp mewn man cysgodol ychydig islaw. Ymddangosodd y polyn hysbysrwydd yn amhendant uwchben fel I’r parti ddisgyn I’r gogledd ddwyrain ar lwybrau amhendant I’r ffordd gul o amgylch y mynydd. Yma penderfynodd rhai o’r grwp gymeryd ffordd fer yn ol I’r cychwyn ar y ffordd. Ymlaen yn ddewr aeth y gweddill a throi I’r de ar hyd ochr dwyreiniol o’r mynydd heibio Capel Galltraeth. Yn enwog oherwydd dau frawd oedd yn byw cyfagos ac yn mynychu’r capel yn reolaidd, ond yn dilyn ffrae ni wnaethant siarad a’I gilydd wedyn, gan ddibynnu ar y gweinidog Baptist I drosglwyddo negesuau I’w gilydd. Ymlaen aeth y parti drwy weddillion o’r coed coniffer, llawer wedi ei dymchwel yn ddiweddar, fe aeth rhai I lawr I Ffynnon Saint, un o lawer o ffynhonnau sanctaidd ar ffordd y pererinion I Ynys Enlli. Mae gwirfoddolwyr Ardal o Harddwch Pwysig yn ddiweddar wedi gwneud gwaith atgyweirio ar y ffynnon a’r llwybr serth yn rhedeg I lawr I Ty’n y Parc. Dal ymlaen I’r de I Bryn y Ffynnon, archwiliodd y grwp y twlc mochyn canoloesol a bwthyn lliwgar traddodiadol o dan ofal Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Mae gan bwthyn arall gerllaw, deiliad gan cyn warden yr Ymddiriedolaeth, nawr gyda g ardd ysblennydd a gafodd edmygedd garw. Arweiniodd mwy o gamfeydd cerrig yn serth I lawr I’r arfordir yn Treheli ac yn ol ar hyd yr hen ffordd I Plas yn Rhiw. Er gwaethaf y tamprwydd a’r diffyg golygfeydd, roedd hon yn daith fwynhaol a chymdeithasol gyda llawer o ddiddordebau, pellder o bron 6 milltir dros 4.5 awr a dringo o 1250 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Mehefin 5ed 2022. Rhinog Fawr. Wedi'i ohirio oherwydd tywydd garw.
Dydd Iau Mai 26ain 2022. O amgylch Moelfre. Cyfarfu 8 cerddwr o dan arweiniad Dafydd Williams yn Cwm Nantcol yn Ardudwy, lle anial, ar gyfer cylchdaith hefo’r cloc o Moelfre, bryn amlwg 1900 troedfedd, ger y Rhinogydd. Yn anffodus roedd y diwrnod yn niwlog a rhynllyd yn y gwynt, oedd yn golygu nad oedd yr ardal anghysbell yma yn edrych ar ei goreu. Yn wir, nid oedd yna olwg o Moelfre ei hyn a dim ond ambell gip olwg o’r tirlun godidog gwyllt oedd yn arferol i’w weld. Ar brydiau nid oedd y ffordd cywir yn hawdd i’w dilyn ond drwy lwc nid oedd yn glawio. Cychwynnodd y daith o’r hen gapel/ysgol ym mhentref Nantcol a’i gyrraedd ar ffordd gul gwledig droelliog. Yn agos i’r man hyn mae y fferm unig Maes y Garnedd, yn enwog fel cartref i John Jones, seneddwr, brawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell ac un o’r llofnodwyr i’r awdurdod i dorri pen Charles 1. Roedd y ffordd yn dilyn trefn o draciau rhostirol a llwybrau garw, heibio corlannau defaid ac yn dilyn hen waliau ffermydd syth a gafaelgar. Roedd yr ardal i weld yn amddifad o fywyd arwahan i alwadau cwynfanus gan ddefaid ac wyn. Roedd yna aros am ginio yn nghysgod wal 1300 troedfedd o uchder ar ochr de-ddwyreiniol Moelfre. Yna mi ymunodd y llwybr a’r prif drac i Bont Scethin, unwaith yn ffordd brysur y goets fawr yn yr 18ed ganrif a ffordd y porthmyn rhwng Llundain a Harlech. Mae y rhan yma hefyd nawr yn rhan o’r llwybr Ffordd Taith Ardudwy, llwybr ardderchog 24 milltir ar draws yr ucheldir yma o Abermaw i Llandecwyn. Roedd y trac ar yr ochr gorllewinnol o’r mynydd yn mynd heibio’r ffynnon hynafol o Ffynnon Enddwyn, sydd ganddi yn ol yr hanes nerthoedd i iachau, ac mae’n ardal o fwyngloddiau fanganis. O’r diwedd dyma’r ffordd yn ymuno a rhan o ffordd darmac a disgyn i’r gymharol gwareiddiad o Nantcol. Roedd y daith o dan 6 milltir dros 4 awr gyda dringo o oddeutu 1300 troedfedd yn gyfle beth bynnag i gael awyr iach, ymarfer y corff a sgwrsio gyda cwmni da, er nid oedd lawer i’w weld! Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 22ain Fai 2022. Llanddona - Biwmaris. Roedd taith heddiw yn ail ymweld a rhan braf o Lwybr Arfordirol Ynys Mon o Llanddona i Biwmaris a fwynhawyd gan y Clwb ar yr 24ain Chwefror 2019. Tra i honno droi allan i fod yn ddiwrnod gaeaf heulog, cynnes anamserol, roedd taith heddiw mewn tywydd cymylog a gwyntog gyda glaw man parhaol, gyda dim ond ychydig o brofiad arfordirol. Pryn bynnag, roedd yr arwyddion pendant o ddiwedd gwanwyn ym mhobman ar hyd y llwybr yn gysur derbynniol. Yn dilyn cyfarfod yn Biwmaris cludwyd y criw, 9 rhodwyr yn cael eu arwain gan Gwynfor Jones, i’r man cychwyn ym mhentref Llanddona. Dilynnodd y ffordd lon serth i lawr i’r traeth, yna cymeryd llwybr deniadol i fyny yn ol, i gyfeiriad y dwyrain ar hyd y clogwyn ac ymylu Bwrdd Arthur, bryn amlwg carreg galch gyda copa gwastad, ac olion gynhanesyddol. Roedd yna olygfau niwlog o for llwydaidd, gyda nifer o longau mawr ar angor, yn disgwyl eu tro i ddocio yn Lerpwl. Cafwyd aros am baned mewn man agored hen chwarel ger Fedw Fawr, ardal o rhostir prin, rheolwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hwn yn ran o ddarn hir cul o 7 cilomedr o arfordir serth penodwyd yn Arfordir Gogleddol Penmon Man o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn nodedig am ei garreg galch daeareg ac nodweddau llysieuol ac adar. Mae mynediad i’r rhan helaeth o’r arfordir yn y fan yma yn anodd, yn rhannol oherwydd daearyddiaeth a’r gwrthynebiad gan rhai berchennogion tir.
Trodd y Llwybr Arfordirol i’r tir ar gyfer rhan hir drwy wlad ddymunol gyda nifer o dai moethus. Ymhellach ymlaen, dilynnodd y ffordd ymyl wal hen barc ar draws caeau agored, yn agos i safle’r chwareli carreg galch Parc Dinmor o ble daeth cerrig adeiladu ar gyfer llawer o adeiladau cenedlaethol yn cynnwys y ddwy bont Menai ac roeddent yn dal i gael eu gweithio yn yr 1960au. O’r diwedd cyrhaeddodd y parti Trwyn Du ar y pen dwyreiniol o’r ynys, yn awyddus am ginio hwyr yn gysgod pant ar y traeth carregog, yn edrych ar draws i’r goleudy ychydig o’r lan, ei gloch rhybydd yn ddistaw heddiw. Ychydig o’r lan cododd yr ynys fechan anghyfannedd Ynys Seiriol, adnabyddwyd yn arferol fel “Puffin Island” ar ol y nythfa adar sydd nawr yn adennill yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i ddifodi y llygod mawr a gyrhaeddodd trwy ddamwain. Yna trodd y ffordd yn siarp i’r gorllewin i ddilyn yr arfordir gogleddol o’r Fenai. Aeth hwn heibio nifer o adeildadau diddorol ac adfeilion sydd wedi oroesi o’r Abaty Augustinian yn Penmon. Ymhellach ymlaen, roedd ffatri wedi ei adael Saunders Roe yn dwyn cof o’r cychod awyr rhyfel adeiladwyd yno. Cadwodd y rhan olaf yn ol i Biwmaris i’r ffordd fawr oherwydd i amodau y llanw fod yn anaddas ar gyfer y ffordd arall ar y traeth. Gwnaeth y glaw parhaol hon yn lafurus ac eithaf hir ac roedd y parti yn ddiolchgar am y croeso a’r te cymdeithasgar a gawsant yn fawredd Gwesty’r Bulkeley. Er cael eu twyllo gan y tywydd o’r golygfeydd goreu, roedd hon yn daith ddiddorol a wobrwyol o 12 milltir a 1400 troedfedd o ddringo dros 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Mai 15ed 2022. Dolwyddelan - Ty Mawr Wybrnant. Roedd taith heddiw yn un ychwanegol, nid ar y rhaglen gwreiddiol. Eryl Thomas arweiniodd 4 aelod a 2 westai ar daith ddymunol mewn tywydd da o Dolwyddelan i Ty Mawr, Wbrnant ac yn ol. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r orsedd tren, a chymeryd llwybr coediog hyfryd i’r dwyrain gyda’r Afon Lledr, man o dderw amryliw, clychau’r gog a dwr rhuthiedig. Roedd y man yma yn mynd heibio’r gwesty Victorianaidd gyda twredi doniol yn Plas Aeldroch, nawr yn cael ei ddatblygu fel ystafelloedd gwyliau, y caffi yn anffodus wedi cau ar hyn o bryd. Yna daeth Plas Lledr, nawr yn ganolfan addysg awyr agored yn eiddo i Gyngor Dinas Salford. Tra n cael coffi ar lan yr afon cafodd y cerddwyr eu diddannu gan gampau criw o bobl ifanc gyda canws, yn synhwyrol wedi eu rhwymo mewn parau er mwyn sefydlogrwydd. Yna dyma’r ffordd ar i lawr yn serth ar lwybr cul yn ochrog a dyfroedd troelliog a pyllau llonydd drwy’r hafn hudol; lle anodd, llwybr pysgotwyr yn gwasgu’r clogwyn yr ochr draw i’r afon. Ymlaen aeth y daith drwy ardaloedd coedwigaidd wedi eu glanhau yn cael eu rheoli gan “CNC”, heibio tomeni o foncyffau toriedig yn sychu. Aeth ffordd arw a’r parti i fyny ar ddringfa serth hir ddeheuol i Cyfyng ac o’r diwedd i Ty Mawr Wybrnant.
Mae’r fan tawel yma yn enwog am y ty cerrig o’r 16eg ganrif a adeiladwyd ar safle llys hyn canoloesol, man geni yr Esgob William Morgan. Fel plentyn dawnus fe noddwyd gan yr Wyniaid o Gwydr a derbyn addysg da arweiniodd iddo fel esgob i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 ar orchymyn Elisabeth 1af, cam hanfodol yn achub yr iaith i Gymru. Roedd y ty, yn cael ei reoli gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar gau, ond mi wnaeth yr ardd, a’r afon wedi ei phontio’n gyfarfeddol, le da am bicnic. Yn y prynhawn roedd traciau coediog yn arwain i’r gorllewin i rhostir agored oddeutu 1200 troedfedd o uchel ger Foel Felen. Roedd hyn yn agor i fyny golygfeydd gwych gorllewinnol i’r mynyddoedd, gyda Moel Siabod yn y blaendir, a tu ol Pedol yr Wyddfa a copa amlwg Yr Aran, gyda cipolwg o’r Carneddau i’r gogledd. O’r diwedd cyrhaeddodd disgynfa rhwydd drwy goedwig wedi ei chlirio y tai darluniadol o’r “Stryd Fawr”, Pentre Bont, yn arwain i lawr yn ol i Stesion Dolwyddelan. Roedd hon yn daith B gymharol hawdd ar gyflymdra hamddenol o amgylch 7 milltir dros 6 awr a 1360 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Mai 12ed 2022. Waunfawr - Cefn Du. Roedd taith heddiw yn ail ymweld a’r ddolen gogleddol o daith hirach o Waunfawr, a fwynhaodd y Clwb ym mis Ionawr. Kath Spencer arweiniodd 14 o rodwyr ar y gylchdaith ddymunol dros Cefn Du ar ddiwrnod o gyfnodau heulog a chlir, ond o bryd i’w gilydd gwynt rhynllyd. Cychwynnodd y daith o Dafarn Snowdonia Parc, croesi’r Afon Gwyrfai ac ymlwybro drwy’r pentref ar rwydwaith o lwybrau diddorol . Trodd y llwybr ‘r de-ddwyrain trwy Pentre’r Waun ar draws caeau llonydd o ddyffryn yr afon. Roedd y tirlun mwyn gwyrdd, gyda amryw o goed a dail cynnar, defaid yn pori gyda wyn ac ychydig o ferlynod gyda ebolau, i gyd yn cyfrannu i’r difyrdod o wanwyn. Yna roedd dringo cyson i’r gogledd-ddwyrain heibio Garreg Fawr ac i mewn i’r coniffers o Donen Las ar lechweddau isaf o Foel Eilio. Roedd y goedwig dywyll yn y fan hon mewn llefydd wedi ei rhwygo gan bentyrrau o boncyffau moslyd wedi eu cwympo gan stormydd diweddar. Cylchodd y daith o amgylch drwy ardal mwy agored a thomenni llechi o amgylch Bwlch y Groes, dringo yn raddol ar lwybr i’r rhostir grug Cefn Du. Roedd yr arwydd copa 1450 troedfedd yn caniatau golygfeydd i bob cyfeiriad. Y canolbwynt i’r gogledd oedd y dref a chastell Caernarfon ac, tu draw i’r droelliedig Fenai, ysgubiad isel o Ynys Mon o’r goleudy yn Llanddwyn yn y gorllewin i Ynys Seiriol yn y dwyrain, gyda amlinell pell o fynydd Caergybi tu draw. Mi oedd yn amser cinio yn nghysgod adfail un o’r adeiladau yn gysylltedig ac anfoniad arloeswredig radio yma dros ganrif yn ol. Roedd y llwybr gorllewinnol i lawr yn ddidwyll, ymuno a ffordd gyfunedig o’r Llwybr Llechi, Llwybr y Pererinion a’r llwybr lleol enwid Hafod Oleu. Daeth hyn a golygfeydd ardderchog o Mynydd Mawr uwchben dyffryn Gwyrfai, ac hefyd yr mas o’r Wyddfa a’r copau cyfagos. Roedd hon yn daith fwynhaol oddeutu 6 milltir dros 4 awr yn cynnwys oddeutu 1350 o ddringo gweddol rhwydd. Noel Davey.
Dydd Sul 8 Fai 2022. Llanberis - Deiniolen. Kath Spencer arweiniodd dri ar ddeg ar gylchdaith i’r gogledd o Llanberis. Yn fuan cynhesu wnaeth y diwrnod sych a heulog gyda awel ysgafn. Cychwynnodd y daith o ymyl yr Amgueddfa Lechi a dringo i’r ysbyty chwarel arloesol adeiladwyd yn 1860, y ddwy yn arwydd hudol o etifeddiaeth diwydiannol hudol a pheryglon y gwaith yn chwarel lechi anferth Dinorwig oedd un amser yn dominyddu’r ardal. Dilynnodd y ffordd lwybrau i fyny drwy’r coedwigoedd hyfryd sydd yn gorchuddio’r llethrau serth i’r gogledd o’r llyn, nawr yn ran o Barc Gwledig Padarn. Heddiw roedd y rhain yn olygfa hyfryd o dderwenau gwyrdd ffres, clychau’r gog a waliau mwsoglyd. Ty draw i Fachwen a Clegyr croesoedd y llwybr i dirlun mwy agored a thoredig yn prydweddu cymysgedd anghyffredin o greigiau noeth a phinaclau, man addas i aros am goffi’r boreu. Parhaodd y daith i’r gogledd drwy Clwt y Bont gan ymylu’r dref nobl Deiniolen a chylchu o amgylch rhostir grug mwy agored a nodweddol. Y nod yn y fan hon oedd Moel Rhiwen, bryn noeth gyda chopa gwastad, 1300 troedfedd, man uchaf y dydd, yn caniatáu golygfeydd rhagorol, i’r gogledd i’r Fenai ac Ynys Môn, i’r dwyrain i ystlysau hir llwyd y Carneddau ac i’r de i dalpiau Yr Wyddfa a’r copau cyfagos. Yna cymerodd y parti ffordd gylchdeithiol o amgylch Parc Drysgol, llwyfandir rhostirol heb ei ddynodi, ac o’r diwedd troi yn ol i’r de i’r ffridd uwchben Deiniolen. Daeth hyn a chopau Elidir, Mynydd Perfedd a Carnedd y Filiast yn agosach i’r golwg, uwchben y twll enfawr o Chwarel y Penrhyn. Dilynnodd y rhan nesaf ddilyniant o adrannau ffyrdd a chroes-lwybrau i’r dwyrain o Deiniolen, ac o’r diwedd dringo yn ol dros y grib ger Dinorwig, heibio’r cyn ysgol, nawr yn gaffi, ac adennill y llwybrau drwy goedwigoedd y Parc. Oddi yma roedd yna olygfeydd braf o Llyn Padarn ac o chwarel Glyn Rhonwy gyferbyn, yn cynnwys sefydliad Siemens, yn parhau i fod yr unig gwmni ar y parc busnes yma sydd wedi ei hir sefydlu. Roedd yr bleserdaith hon yn un ddiwrnod llawn o 11 milltir a 2500 troedfedd o ddringo dros 7.5 awr, yn rhoddi amrywiaeth gwobrwyol o dirlun a golygfeydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 28ain Ebrill 2020. Cylchaith Llaniestyn. Miriam Heald arweiniodd griw o 17 o gerddwyr ar daith hawdd o 5 milltir drwy’r wlad hyfryd o amgylch Llaniestyn, un o’r ardaloedd tawelaf yn Llyn. Ar ddiwrnod dymunol diwedd Ebrill dangoswyd dosbarthiad o flodau’r gwanwyn ar yr ymylon ar eu goreu. Cychwynnodd y daith o Eglwys St. Iestyn agorwyd yn arbennig i ganiatau cerddwyr i weld yr adeilad eil ddwbl wych gyda rhan yn dyddio o’r 13 ganrif. Aeth y ffordd i’r gorllewin heibio’r Hen Reithordy a Glanrafon, a throi i’r de cyn ffordd Dinas a chyrraedd ffordd fach gul heibio Penrhyn a Rhos Goch. Aeth adran ddeniadol heibio Tyddyn Rhys. Roedd wal yn gyffordd y ffordd ger Bwlchgroesisaf yn le da i gael paned bore. Yna dringodd y daith yn raddol a throi i’r gogledd yn Penbodlas. Oddi yno roedd yna olygfa wych o amlygrwydd creigiog Garn Fadryn, yn codi yn ddramatig gan reoli canol yr orynys. Mae llawer o’r llwybrau lleol yn y fan yma yn ddiddefnydd oherwydd esgelustod, tyfiant, a’r ymarfer gan ffermwyr o godi ffensis trydan ar draws y llwybrau. Pryn bynnag prin cyn cyrraedd pentref Garn Fadryn, dilynwyd un o’r ychydig lwybrau sydd yn ddefnyddiol i lawr ar draws y caeau golygfaol yn ol i bentref Llaniestyn. Gorffenwyd ychydig o oriau pleserus gyda te derbyniol a chacen cartref wedi ei drefnu gan yr arweinydd yn neuadd y pentref. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ebrill 23 2022. Berwyns. Roedd hi yn ddiwrnod ardderchog i ymweld a’r Berwyns, heulog, sych, cras ac yn glir a gwynt dwyreiniol milan ar y copau. Mae y fan hon yn ardal fynyddig laswelltog criblyd ac anghysbell heb lawer o gerdded ynddi gyda grug corslyd ar y rhostir yn ochri ffiniau Dinbych a Phowys i’r dwyrain o Bala. Gareth Hughes hebryngodd criw o 11 cerddwr wedi eu gwasgu i thri car o Llanrhaeadr y Mochnant i fyny ffordd gul a dringo i dros 1000 o droedfeddi yn Cwm Maen Gwynedd. Yna cychwynnodd y daith i gyfeiriad y gogledd ddwyrain, dringo yn egniol i garn ar gopa Mynydd Tarw, yn barod am baned cynnar. Yna croesodd dringfa llai llafurus copau aneglur o Foel Wen a Tomle a chyrraedd brif grib Berwyn yn Bwlch Maen Gwynedd.
Mae yna lwybr yn rhedeg ar draws y Berwyns yn y fan hon a ddefnyddia pobl wydn lleol i gerdded yn gyson rhwng y trefi bychan o Lanfyllin a Llandrillo. Cymerodd y mwyafrif o’r parti gylchdaith ddolen i’r copa mwyaf gogleddol o Cadair Bronwen, tra dewisodd tri i beidio, a chymeryd cinio. Roedd yr adrannau hir o blanciau pren yn y fan hyn yn gwneud y teithio dros y tir sydd yn arferol yn gorslyd yn rhwydd, ond eleni diolch byth yn weddol sych yn dilyn y gwanwyn yma. Roedd y copa yn caniatau golygfeydd gorllewinnol ardderchog i Bala gyda’r Arenigs yn y cefndir a chopau yr Arans a’r Rhinogydd yn y pellter. I’r de a’r dwyrain bryniau gwyrdd a cribau ar wasgar ar draws canolbarth-Cymru cyn belled a gwel y llygaid, gyda bron dim arwydd o fodolaeth dynol. Yna dilynnodd y ffordd y llwybr ar y grib i’r de, a dringo i’r man uchaf 2730 troedfedd ar Cadair Berwyn. Roedd lloches cerrig, newydd ei adeiladu yn fan dderbynniol i gael cinio allan o’r gwynt oedd nawr yn gryf a rhynllyd. Ar gyrraedd Moel Sych ar y pen deheuol o’r grib roedd yna dro gweddol esmwyth i’r dwyrain i lawr y Cwm godidog creigiog ac o amgylch Llyn Lluncaws gyda’t enw hynod, yn ol chwedl Arthur mae’n debyg, yn gartref i “bysgodyn doeth”.
Yn y fan hon, un ffordd neu gilydd, dyma un o’r cerddwyr yn gwahanu o’r prif grwp, gan ohirio’r daith o awr wrth i ymdrechion niferus llwyddiannus fynd ymlaen i’w ddarganfod drwy alwadau ffon symudol ysbeidiol. Roedd y rhan olaf yn rhedeg i lawr yn araf i’r de-ddwyrain ar draws tir nodweddol gyda prydweddion braidd yn llwm o dirlun y Berwyns, llwybrau cuddiedig drwy fawn a corsiau o grug yn gyfochrog a ffensiau wifren syth di ddiwedd. Yn dilyn bryn di nod a’r enw Godor, roedd yn ollyngdod i gyrraedd i lawr i’r porfeydd mwynach gwyrdd yn y Cwm. Roedd hwn yn ddiwrnod cofiadwy yn cynnwys 11 milltir a 3570 troedfedd o ddringo dros 7.5 awr yn y tirlun heddychol a garw. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 14eg Ebrill. Dduallt. Tecwyn Williams arweiniodd 21 o gerddwyr ar gylchdaith ddiddorol wedi ei archwilio yn dda yn y bryniau coediog ar lan gogleddol yr Afon Dwyryd. Roedd yn ddiwrnod cymylog ond clir a mwyn. Cychwynnodd y daith o Dafarn yr Oakley, dringo yn serth i’r gogledd-ddwyrain heibio Coed Ty Coch a chyrraedd y Reilffordd Ffestiniog yn Coed y Bleidddiau. Mae ty gwreiddiol arolygydd y reilffordd, adeiladwyd oddeutu 1860, newydd gael ei atgyweirio gan yr “Landmark Trust” ar gyfer llety i ymwelwyr; dros y blynyddoedd mae wedi cael ei feddu gan hynodion a’r cyfansoddwr Granville Bantock a St John “Jack” Philby, yr Arabist a thad yr ysbiwyr enwog. Aeth y llwybr coedlyd ymlaen i’r dwyrain i Plas Dduallt, maenordy Tudoraidd anghyffredin a nodedig, atgywirwyd gan Cyrnol Campbell yn yr 1960au pan gafodd ei arosfa reilffordd ei hunan gerllaw. Ymhellach ymlaen cyrhaeddodd y daith stesion Dduallt mewn amser i ginio ar yr platform eang. Mae y fan hyn yn enwog am yr gwyriad troellog agorwyd yn 1968 i ganiatau trennau i ennill uchder pan orlifwyd trac yr hen reilffordd gan gynllun pwmpio storio hidro-electrig Tanygrisiau. Roedd y partis yn ffodus i weld injan stem odidog Merddin Emrys yn pwffian o amgylch y trac ymddolennaidd anarferol gyda naw cerbyd y tu ol iddi. Aeth llwybr y prynhawn am i lawr a chroesi nant ger Clogwyn y Geifr ac ymlaen drwy Warchodfa Coedydd Natur Cenedlaethol Maentwrog, un o’r chwech o’r gweddill a ddiogelwyd o hen goedwigoedd derw yn Meirionnydd. Roedd yna olygfeydd ardderchog i’w gweld drwy’r coed derw yn blaguro, i lawr i Dddyffryn Ffestiniog a’r bryniau ar draws. Ger y plasty sylweddol Bronturnor Mawr, dilynnodd y llwybr gwteri morgloddiau agored gyda’r afon, ac yn fuan dod a’r parti yn ol am luniaeth yn yr Oakley Arms yn dilyn taith braf oddeutu 4.5 milltir a 1200 cant o ddringo dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ebrill 10ed 2022. Morfa Mawddach - Ffordd Ddu. Diwrnod dymunol o heulwen niwlog a gwyntoedd ysgafn oedd y gosodiad i siwrnai bleserus yn y bryniau uwchben y Traeth deheuol o Aber Mawddach. Hugh Evans arweiniodd 7 cerddwr o stesion reilffordd Morfa Mawddach. Croesodd y daith Cors Arthog a dringo ar lwybr serth drwy’r goedwig hyfryd o ddyfryn Pant Einion a’r cyn chwarel Bryngwyn, yn uchel uwchben cyrchfan lan y mor Fairbourne. Ymunodd y fford a Llwybr Arfordirol Cymru i gyrraedd y Llyn Glas, pwll colled chwarel 40 troedfedd o ddyfnder a lenwid yn fwriadol yn 1901 i weithredu fel cynllun cronfa fethu i bentref Fairbourne. Mae yn le poblogaidd, ei bwll hudol nawr i’w weld orau o uwchben, ers i’r mynediad twnnel gael ei gau yn ddiweddar. Dringodd y daith yn gyson i fyny’r bryncyn agored i dros 1000 o droedfeddi, gan aros am goffi a chael cyfle i edmygu’r golygfeydd braf i gyfeiriad yr arc hir niwlog o orynys Llyn yn crymu ar draws Bae Ceredigion o Griccieth i Enlli. Ymhellach ymlaen tu draw i Cyfanedd Fawr ac islaw y llethrau serth o Craig Cwm Llwyd, ymunodd y fordd a’r Ffordd Ddu, hen ffordd uwchdirol yn cysylltu Dolgellau a Thywyn. Mae pwysigrwydd ei gynhanes yn cael ei ardystio gan y nifer o feini sefyll, cytiau gwyddelig a charneddau sydd yn frith yn yr ardal. Yn agos i’r gyffordd mae yna blac yn y wal yn cofnodi gwrthdrawiad “Flying Fortress” gyda’r colled enbyd o 20 criw a theithwyr Americanaidd ychydig wythnosau yn dilyn diwedd yr ail ryfel byd yn 1945. Daeth cinio a mwy o olygfeydd mynydd chwedlonol ar draws y Mawddach i Llawlech, Diffwys a’r Rhinogydd. Roedd y llethrau serth o Tyrrau Mawr, rhan o gadwyn y Gadair, yn dominyddu fel roedd y daith yn disgyn tuag at Llynnau Cregennan. Gan droi i’r gogledd, disgynnodd y llwybr drwy mwy o goed hyfryd, yn gyfochrog a’r rhaeadrau ysblennydd o Rhaeadrau Arthog. Cymerodd y rhan olaf lwybr gwastad yn gyfochrog a traeth y Fawddach, tu ol i ddatblygiad glan yr afon Solomon Andrews o blastai Victorianaidd yn Mawddach Crescent ac o amgylch y bryncyn coediog Fegla Fawr. Daeth trac mwdlyd yn rhoddi mynedfa i gynhaliaeth darpariaeth nawr yn atgyweirio y coed o’r hybarch bont lein Bermo, a’r parti yn ol i Morfa yn dilyn taith rhagorol o bron 10 milltir a 2000 troedfedd o esgyniad dros 5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 31 Mawrth 2022. Cylchdaith Porth Oer. Bu Megan Mentzoni yn arwain 17 o gerddwyr ar gylchdaith hyfryd o Borthor. Diwrnod heulog braf, ond gyda gwynt main o’r gogledd ddwyrain. Diolch byth byr oedd y gawod genllysg ond roedd yn dipyn o sioc wedi cyfnod o dywydd cynnes gwanwynol. Cychwynnwyd o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan anelu yn gyntaf i’r dwyrain o Fynydd Carreg, bryncyn lle bu’r garreg goch anarferol lled werthfawr iaspar yn cael ei gloddio yn nechrau’r ganrif ddiwethaf. Ar lwybrau gwledig (rhai wedi eu dynodi’n rhan o Daith y Pererinion) aethpwyd heibio Tŷ Fwg ac Ysgubor Bach cyn cyrraedd Capel Carmel. Dyma safle menter gymunedol, wedi ei ariannu yn rhannol dan gynllun AHNE Llyn, i adfer hen gapel Bedyddwyr 200 oed, ac i ail greu Siop y Plas fel caffi a chanolfan diwylliannol a chymdeithasol. Mae’r adeilad sinc trawiadol coch eisoes wedi ei agor.
Ymlaen aeth y llwybr i’r de orllewin trwy gaeau i gymuned Anelog, yna dilyn godre dwyreiniol y mynydd. Cafwyd adwy gysgodol gyda golygfa o’r môr i ddau gyfeiriad i fwynhau cinio.
Wedi cinio tramwywyd darn creigiog o arfordir heibio Porthorion, Dinas fawr a Dinas Bach. Roedd y môr tymhestlog yn drawiadol o wyrddlas gyda chysgodion tywyllach wrth i’r cymalu uwchben wibio heibio. Cafwyd ambell gip o’r eira ar gopaon Eryri, cyn troi heibio Carreg y Trai i gryman llydan bae Porthor. Ychydig o ymwelwyr ar ddiwrnod fel hyn a dim son am chwiban y tywod. Cafodd nifer o’r criw gysgod a chroeso yng nghaffi’r traeth wedi taith wych. Noel Davey. (Cyf GJ)
Dydd Sul Mawrth 27ain 2022. Coedwig Gwydir o Lanrwst. Heddiw cafodd y Clwb y cyfle i ail ymuno a Pharc Coed Gwydir ble roedd yna daith ond ychydig wythnosau yn ol. Mae’r ardal ucheldirol golygfaol o goed a hen weithfeydd mwyngloddiau yn cymeryd ei enw oddiwrth yr hen Stad Gwydir, sefydlwyd gan deulu nerthol o Gastell Gwydir yn yr 16ganrif. Mae nawr yn cael ei rheoli gan Adnoddau Cenedlaethol Cymru fel parc difyrrwch ac fel coedwig cynhyrchu fel rhan o Goedwigoedd Cenedlaethol Cymru. Y tro hwn roedd y cylch o Llanrwst, yn canolbwyntio ar gogledd y Parc, tra roedd y daith gynt o Fetws y Coed i’r de. Annie Andrew a Jean Norton arweiniodd dwsin o rodwyr ar gylchdaith o 8.5 milltir ar ddiwrnod braf a heulog arall, i fod yn un o’r diwrnodiau diwethaf o’r tywydd bendigedig o’r gwanwyn cynnar.
Cychwynnodd y daith o’r maes parcio ger yr bwyafeydd teg o’r Bont Fawr, ymylu’r dolau orlifo o’r Afon Conwy i’r dwyrain o Castell Gwydir. O’r diwedd cyrhaeddodd dringfa gyson drwy goedwigoedd Coed Carreg y Gwalch, y man deheuol o Llyn y Parc mewn amser i gael coffi’r boreu. Oddi yno trodd y ffordd i’r gorllewin drwy gymhlethdod nodweddol o lwybrau a troedffyrdd, gan fynd heibio’r Ganolfan Ymchwil Awyr Agored yn Nant Bwlch yr Haearn yn gyfagos i Llyn Sarnau. i’r gogledd roedd dyfroedd llonydd Llyn Glangors yn le braf i gael cinio. O’r man uchel yma, oddeutu 1000 troedfedd, roedd yna olygfeydd rhagorol i’r gorllewin i gyfeiriad Moel Siabod, Yr Wyddfa a’r Glyderau yn cynnwys pinaclau ysblennydd Tryfan.
Ymylodd y ffordd yn y prynhawn ymyl gogledd-orllewin o’r goedwig drwy ardal hudol o glogwynni wedi eu naddu, hen weithfeydd chwareli, coed mosslyd a chymhethdod o binwyddenau ac ywenau wedi eu dymchwel gan y stormydd diweddar. Mae pentrefan Llanrhychwyn, yn agos i Trefriw, yn nodedig am ei hen eglwys adeiladwyd gan Llywelyn Fawr oedd gan lety hela gerllaw. Oddi yno disgynodd y llwybr i Ddyffryn Conwy drwy gaeau a choed gyda nentydd creigiog yn plethu drwyddynt.. Yn y diwedd mi ail ymunodd y llwybr a’r waunydd dymunol ger yr afon yn arwain yn ol i Llanrwst. Roedd hon yn siwrnai ardderchog o 5 awr o gerdded weddol hawdd gyda dringo o ryw 1600 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 17eg Fawrth 2022. Talysarn-Fron-Nantlle. Meri Evans arweiniodd 21 aelod o’r Clwb ar daith ddiddorol drwy’r chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle. Cliriodd y tywydd cymylog a’r glaw oedd yn bygwth i gyfnodau heulog erbyn amser cinio. Cychwynnodd y ffordd yn Talysarn, dringo yn eithaf serth o gwmpas 500 troedfedd i fyny trac a drwy lwybrau waliog nodweddiadol a chaeau bychain i Cilgwyn. Yna dilynwyd ffordd fynediad wastad i’r dwyrain yn caniatau golygfeydd da i lawr i’r cwm a’r llynoedd chwarel gerllaw. Ymylodd y ffordd ymyl deheuol o’r safle tir gwastraff oedd yn gweithredu o 1974 i 2009 yn y twll mawr a greuwyd gan y cyn chwarel Cilgwyn. Mae’r safle a chaead arno ac erbyn hyn yn ehangder o dwmpathau brown a pheipiau siap neidr yn mynd a’r dwr, wedi ei datlwytho, i offeriant triniaeth trwytholchi gerllaw.
Aeth y ffordd ymlaen ar draws rhostir yn frith o byllau shaftau allan o ddefnydd, yn dyfod allan i’r tai gwasgaredig o’r pentre ucheldirol, Y Fron, a gelwid yn lleol hefyd fel Cesarea ar ol y capel nawr wedi ei ddymchwel. Unwaith yn gymuned chwarel brysur, mae nawr yn fwy o ganolfan i gerddwyr. Caewyd ysgol y pentref yn 2015, ond mae hon wedi ei throi gyda cyfalaf gan Llywodraeth Cymru a’r Loteri i Ganolfan Ganolog ardderchog yn orffenedig gyda caffi, siop, ty bocs ac ystafell gwrdd. Cylchoedd y ffordd i’r de islaw ac yna ymddangosodd yn y niwl y Mynydd Mawr swmpus ac heibio pyllau a thomeni chwarel Pen yr Orsedd, agorwyd yn 1816 a’r chwarel leol olaf i gau yn 1979.
Daeth disgyn graddol drwy ardal goediog a bugeiliol ac olygfa o wyn bywiog y gwanwyn! Daeth y llwybr i lawr i Blas Trigonos Baladeulyn ym mhentref Nantlle, nawr yn encil ysbrydol a grwpiau gwyliau yn chwilio am amgylchfyd heddychol. Yna dyma rhan olaf y daith yn ymylu’r ymyl ddeheuol o’r enwog Lyn Chwarel Dorothea. Mae’i ddyfnderau tywyll nawr yn fan boblogaidd i ddeifwyr scuba. Roedd unwaith yn un o chwech o byllau chwarel, y dyfna yn 106 meder yn is na’r gwyneb. Mae’r gweddillion gafaelgar o adeiladau’r chwarel o gwmpas ym mhobman, rhai wedi oroesi yn dda, yn cynnwys peiriandy gyda’r peiriant pelydryn Cornish olaf i gael ei adeiladu yno ond wedi ei ddisodli gan bwmpiau trydan yn 1951. Roedd hon yn daith fwynhaol ac eithaf hawdd o 6.3 milltir dros oddeutu 4 awr. Noel Davey. (cyf:DHW).
Dydd Sul 13eg Fawrth 2022. Tanygrisiau, Cwmorthin, Foel Ddu, Moel-yr-hydd, Stwlan. Gwnaeth griw o 11 cerddwr, yn cael ei tywys gan Noel Davey, gylch o Tanygrisiau i fyny yr hen chwareli llechi i Cwmorthin, Rhosydd ac i wastatir y Moelwyn. Profodd y tywydd i fod yn well na’r rhagolygon gwael o gawodydd ac awelon o wynt o 40-50 m.y.a. Yn dilyn dringo serth drwy lonydd rhwng tai i Dolrhedyn, ymunodd y ffordd a’r trac llechi llydan yn arwain heibio Craig yr Wrysgan 500 troedfedd i fyny i Llyn Cwmorthin yn mynd gyda nant lydan yn llifo’n chwyrn i lawr drwy greigiau a dwfr gwyllt. Ar ôl milltir lefelodd y llwybr ble roedd adfeilion o fythynod Tai Llyn, yn ei anterth yn cael eu meddiannu gan ryw 30 o deuluoedd gweithwyr, yn sefyll uwchben y llyn yng nghanol tomenni gwastraff Chwarel Cwmorthin. Mae rhan helaeth o’r gweithfeydd o’r Chwarel fawr Victorianaidd ysblennydd yma dan ddaear, chwaraele i’r ymchwilwyr difyrrwch yr oes bresennol! Uwchben ar y ddaear troellodd llwybr y llyn soeglyd drwy’r cwm tywyll wedi ei wasgaru gyda cyfoeth o greiriau chwarel diddorol, yn cynnwys Capel y Gorlan, Stablau Rhosydd a mwy o fythynod gweithwyr.
Yn ben y dyffryn arhosodd y parti ar gyfer paned cynnar o dan pinwyddennau yn cysgodi gweddillion o Blas Cwmorthin, adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer rheolwr pwll Rhosydd. Dilynwyd dringfa o 400 troedfedd i fyny Bwlch Cwmorthin heibio rhaeadrau nodedig, i chwarel anghysbell Rhosydd, ble roedd gweddillion o wersylloedd gweithwyr a nifer o siediau trin llechi yma ac acw ar y man gwastad. Yna arweiniodd tair llechwedd greigiog wedi eu tyllu gan dyrrau ceblau trwm, 300 chan troedfedd yn serth i fyny i lwyfandir Moelwyn, oddeutu 1800 troedfedd yn uwch. Aeth y ffordd heibio twnel tywyll diferol yn caniatau mynediad i’r 14 llawr o weithfeydd dan ddaearol sydd yn rhedeg oddeutu 700 meder i’r pyllau agored anferth o’r Tyllau Deheuol a Gorllewinnol. Roedd yna gylchdaith wyntog raddol i ddringo Foel Ddu a chael golygfa dda yn ol i lawr i Cwm Orthin a Rhosydd, ac yna croesi cyfrwy i Moel yr Hudd, 2130 troedfedd, y man ucha’r diwrnod. Dyma hyrddwynt ffyrnig yn gorfodi gwisgo mwy o ger glaw ar frys, ond yn fuan dyma haul yn cymeryd lle y niwl ar y copa ac yn caniatau mwy o olygfeydd gwych i lawr i Blaenau a Thrawsfynydd. Yna dyma amodau gwyntog a gwlyb yn ffynnu fel dilynodd y daith y llwybr cul gwastad i’r de-orllewin oddi dan Craig Ysgafn, yn edrych i lawr i’r dyfroedd gwyntdroelliog o Llyn Stwlan.
Roedd adfail tywyll yn le addas i gael cinio mymryn yn is na Bwlch Stwlan. Yna roedd disgyn cyflym i’r haul a chronfa Stwlan sydd wedi ffurfio’r argae uchaf i orsaf bwmpio stordy bwer Tanygrisiau ers 1963. Yn hytrach na’r troion tuag yn ol o’r ffordd fynediad arferol, cymerodd y daith y ffordd mwy union, gan suddo 900 troedfedd i lawr i Tanygrisiau gan fynd ar dri llechwedd serth gwelltog oedd unwaith yn cysylltu pyllau’r Moelwyn a’r Rheilffordd Ffestiniog islaw. Taith 7 milltir ddiddorol gwobrwyol ond ar brydiau yn lafurus gyda 2350 troedfedd o ddringo dros 5 awr yn gorffen gyda coffi yn y caffi ger y llyn croesawus. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 10 Fawrth 2022. Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'i daith gerdded. Cynhaliwyd y 42ain cyfarfod blynyddol o Rhodwyr Llyn yn Capel y Traeth, Criccieth ar y 10ed Fawrth 2022. Roedd 39 aelod yn bresennol. Roedd Dafydd Williams, y Cadeiryd gweithredol yn sefyll i lawr, yn dilyn gweithredu am y rhan fwyaf o’r pla covid. Etholwyd Hugh Evans yn unfrydol fel y Cadeirydd newydd.
Yn dilyn y cyfarfod a chinio, arweiniodd Dafydd Williams griw o 24 ar daith fer o 3.5 nmilltir o amgylch Criccieth. Yn bennaf roedd hon yn ddigwyddiad gymdeithasol ac yn gyfle i gysylltu a lawer o ffrindiau o’r Clwb oedd heb gael cyfle i ddod ar deithiau diweddar. Roedd y tywydd yn fwyn a chymylog gyda ryw arwydd o law. Aeth y daith ar draws y Maes, heibio Gwesty’r Llew ac yna i’r gorllewin ar draws llwybr cae ac ymylu yr ochr gogleddol o’r dref cyn belled a’r ffordd fach gyfareddol, Lon Fel. Yna dilynwyd y ffordd syth o Pen y Bryn i’r gorllewin am bron i filltir i gyfeiriad Llanystumdwy. Aeth trac gwyrdd llydan a’r parti i’r de heibio Cae Llo Brith i lawr ac ar hyd yr A497. Aeth y rhan olaf i lawr i’r mor ger Cefn Castell a chymeryd y Llwybr Arfordirol drwy Muriau, heibio’r ffryntiau lliwgar o’r plastai glan y mor ar y promenad Pen Gorllewinnol, islaw gwrthgloddiau unigryw o’r castell. Diweddwyd y daith ddwy awr ddymunol gan aros am ddiodydd poeth a hufen ia yn gaffi poblogaidd Cadwaladers yn uchel uwchben y tonau. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 6ed Fawrth 2022. Betws a'r Llynnoedd. Arweiniodd Gwynfor Jones daith o brydferthwch a bwrlwm Betws y Coed ar hyd rhai o’r llu o lwybrau a lonydd drwy Goedwig Gwydir, uwchlaw cartref hynafol teulu’r Wynniaid. Mae olion gweithfeydd cloddio o’r 19eg ganrif yn frith drwy’r ardal a llawer o’i lynnoedd wedi eu codi neu ehangu i wasanaethu’r diwydiant byr hoedlog hwnnw.
Cafwyd diwrnod braf a heulog ar y cyfan ond ‘roedd yr awel yn brathu yng nghysgodion y coed neu ambell gwmwl. O Bont y Pair, dringfa gyson ar lwybr drwy’r goedwig i Lyn y Parc bron 700m uwchlaw’r môr. Wedi dringfa gyntaf a chaletaf y daith mwynhawyd panad haeddiannol ger yr argae ar ben deheuol y llyn. Cyn dechrau tynnu tanwydd heidro-garbon o’r ddaear dwr oedd y ffordd hwylusaf i yrru peiriannau a gwasanaethu cloddfa blwm a zinc Aberllyn islaw oedd dan sylw yma.
Dringfa fwy graddol i’r gogledd wedyn ar lon y goedwig hyd ochr dwyreiniol y llyn hir hwn gan gael ambell gip o’r llyn wrth esgyn. Heibio ambell i hen adeilad a chysylltiad â’r chwarel cyn cyrraedd olion sylweddol cloddfa Hafna ger nant Uchaf i gael cinio cynnar ar waelod yr allt ble codwyd yr adeiladau bron fel grisiau i fyny’r llethr. Bu melin, tŷ toddi a simdde fawr yma a’r olion dal yn dangos mawredd yr adeiladwaith yn glir. Er hynny prin iawn fu’r elw ddaeth i’r buddsoddwyr fel mewn cymaint o weithfeydd tebyg.
Ymlaen heibio mwy o adfeilion gweithfeydd llai, twneli a siafftiau mewn capiau concrid er diogelwch, yr oll o’r dreftadaeth ddiwydiannol yn raddol ymdoddi i dirlun hardd a thawel o goed bytholwyrdd, nentydd a gorlifiadau byrlymus a llynnoedd llonydd.
Cylchu wedyn lawr i Fwlch yr Haearn a Llyn Sarnau yna yn ôl i’r gogledd am lyn Glangors a godwyd i wasanaethu cloddfa Pandora gerllaw. Yma daethpwyd at dir mwy agored tua 1000tr uwch y môr gerllaw tŷ Castell y Gwynt gyda golygfeydd eang o’r mynyddoedd o’n cwmpas.
Troi’n ôl i’r de wedyn lawr am Betws drwy’r goedwig gan fwynhau heulwen y prynhawn yn ysbeidiol. Gyda rhu trafnidiaeth pnawn Sul yr A5 yn y dyffryn islaw gwyddom fod y pentref yn agosáu at roi terfyn ar daith weddol hamddenol o ryw 9.3 milltir dros oddeutu 6 awr. Noel Davey. (Cyf GJ)
Dydd Iau 3ydd Fawrth 2022. Cychdaith Llanystumdwy. Cylch oedd taith heddiw gyda Kath Spencer yn arwain drwy gefn gwlad i’r gogledd a’r gorllewin o Llanystumdwy. Marw allan yn fuan wnaeth y glaw man, gyda cymylau a tywydd mwyn yn dilyn am y gweddill o’r dydd. Arweiniodd y daith drwy’r pentref, gan fynd ar ffordd fach goediog i’r gorllewin a chroesi’r Afon Dwyfach. Roedd y ffordd yn y man hyn wedi ei rhwystro gan goeden wedi cwympo, canlyniad y tywydd stormlyd diweddar. Roedd y cyn blasty crand, Plas Gwynfryn, wedi ei adael yn dilyn tan, ers 40 mlynedd yn ol, ar y dde, yn guddiedig gan gylchoedd o goed; mae’r adeilad castellog, adeiladwyd yn 1876, wedi ei restru, unwaith yn gartref i’r AS Ellis Nannney, orchfygwyd gan Lloyd George. Yna mi fuodd yn westy, tra mae gan y perchennog newydd gynlluniau i’w newid yn fflatiau gwyliau. Mae Plas Talhenbont gerllaw, maenor o’r 16 ganrif, nawr yn le i gynnal priodasau. Parhaodd y daith i’r Lon Goed, llwybr coediog hardd chwe milltir adeiladwyd yn yr 18 ganrif i gefnogi ffermydd mewndirol Eifionydd. Dilynnodd y llwybr adran fer i’r de heibio Hidiart ac yn gwneud dolen i’r gorllewin drwy Chwilog Fawr, gan aros am baned boreuol ger llyn pysgota bychan ger y fferm llwyddiannus a pharc carafannau, Wernol. Ail ymunwyd a’r Lon Goed am estyniad o filltir i’r gogledd o Fferm Plashen cyn belled a Maes Gwyn Uchaf, ble mae’r cyn rheilffordd Afon Wen-Caernarfon yn torri ar draws. Yn dilyn cinio mewn llannerch, trodd y daith i’r de, ail groesi’r Afon Dwyfach lifeiriol gyflym ar bont bren ac ymylu yn uchel uwchben yr afon drwy garlleg gwyllt. Daeth gamfeydd lletchwith a’r parti i gaeau llydan Fferm Gwynfryn ac yn fuan yn ol ar yr heolydd bychain i Llanystumdwy heibio’r Fferm Gwningod. Cafodd yr 16 o gerddwyr daith dda gymdeithasol oddeutu 7.5 milltir dros 4 awr ar dirwedd gan amlaf yn wastad a heb effaith arnynt gan yr hollbresennol fwd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Sul Chwefror 27ain 2022. Beddgelert - Mynydd y Dyniewyd - Cwm Bychan - Glaslyn. Cafwyd taith wych o Feddgelert o dan arweiniad Annie Andrew ar ddiwrnod heulog gyda gwyntiodd cymedrol. O’r pentre’ dringwyd yn syth i fyny clogwyni Craig y Llan ar lwybr serth caregog i’r dwyrain o’r pentref, llwybr oedd yn profi gallu sgrialu'r aelodau ar adegau. Felly cafwyd esgyniad pur sydyn a golygfeydd gwych yn ôl i gyfeiriad Beddgelert. Llwybr anwastad wedyn i fyny i gyrraedd yr olygfan nesaf sef copa Mynydd Sygun rhyw 1000 tr uwch y môr. Wedi dringfa lled heriol cafwyd oedi i fwynhau panad haeddiannol. Aeth y daith ymlaen wedyn dros dirwedd uchel a thoredig i gyrraedd Bwlch y Sygun a Grib Ddu. Gwelwyd arwyddion yma o hen dwneli mewn i’r mynydd a cherrig oren yn gysylltiedig â mwynglawdd copr Sygun. Dilynwyd llwybr arall ddigon heriol i’r de-ddwyrain i gopa Moel Dyniewyd, 135o tr y copa uchaf yn y cylch. Dyma ail ymweliad y clwb i’r copa hwn yn y misoedd diweddar, ac fel y tro cynt cafwyd diwrnod clir a golygfeydd eang o’r mynyddoedd i bob cyfeiriad. I lawr wedyn i chwilio am beth cysgod i fwyta’n cinio ymunwyd a’r llwybr graddol i lawr Cwm Bychan. Yn 1927 codwyd rhes o beilonau i ddal y cebl fyddai am sbel yn cario’r mwynglawdd i lawr i Nanmor i’w brosesu. Yn Nanmor, troi i’r Gogledd wnaethom gan ddychwelyd ar hyd y llwybr pysgotwyr enwog ar lan dwyreiniol yr afon Glaslyn. Mae’r gwely’r afon wedi creu hafn ddofn a serth a’r llwybr ar adegau yn gul iawn. Roedd gweld y dŵr gwyrddlas tywyll yn byrlymu rhwng y creigiau yn hyfrydwch. Er bod gofyn gofal ar y llwybr caregog ac anwastad yn frith o wreiddiau coed ar adegau o leiaf yr oedd y wyneb yn sych a gyda gofal cafwyd yn ôl i’r pentref heb anhap. Yn hytrach na chroesi prif bont y pentref aethpwyd heibio gorsaf Rheilffordd Eryri i fan cychwyn Lon Gwyrfai ac yna troi nôl am y lon ac yn ôl i’r maes parcio. Taith gyffrous ac amrywiol drwy galon Eryri gan dramwyo rhwng 7 ac wyth milltir mewn rhyw 6 awr. Noel Davey (cyf GJ)
Dydd Iau 24ain Chwefror 2022. Dinas Dinlle - Fort Belan. Cyfarfu 33 o gerddwyr, record i’r cyfnod Cofid 19, ger Dinas Dinlle ar gyfer cylchdaith, o dan arweiniad Derek Cosslett, o amgylch yr orynys i’r gorllewin o’r Foryd. Roedd yn ddiwrnod clir a sych, ond roedd y gwynt awelog 40 m.y.a. yn teimlo’n rhewllyd. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio ger yr maes awyr ar hyd y lan y mor tywodlyd llydan ac yn hawdd mynd ato ar llanw allan. Roedd yna olygfeydd disglair o Niwbwrch a Llanddwyn ar draws y culfor ewynnog. Wedi dringo yn ol ar y tywodfrynniau, cyrhaeddodd y parti Fort Belan ar flaen y tir yn ymwthio allan i’r Fenai, breuddwyd pob plentyn, yn gyflawn gyda gwrthglawdd drylliau mawr, tyrrau gwylwyr, clawdd gwelltog a phont godi. Adeiladwyd yn 1775 gan yr Arglwydd Niwbwrch cyntaf yn wersyll i filisia Sir Gaernarfon yn bosib i wynebu bygythiadau gan y Rhyfel Annibyniaeth Americanaidd ac yna Napoleon, ni ddigwyddodd y naill na’r llall. Nawr mae yn cynnwys bythynod gwyliau a neuadd fechan wych ar gyfer cyngherddau. Yn dilyn edrych o amgylch y gaer, y tir gwyrdd ar flaen y gaer roedd yr hen adeiladau o’r porthladd cyfagos yn fan cysgodol i gael picnic gyda Caernarfon yn y cefndir, y Fenai ac Ynys Mon. Yn y prynhawn dilynnodd y daith glan y Foryd ar yr ochr ddwyreiniol o’r orynys, yn caniatau golygfeydd ardderchog ar draws y gefnlu natur wedi ei ffurfio gan y bae i gopaon y Carneddau a amlinellau tywyll o Foel Eilio, Crib Nantlle a’r Eifl. Milltir ymhellach ymlaen trodd y ffordd i’r gorllewin ar ffordd darmac heibio maes carafannau Morfa Lodge a maes awyr Caernarfon, yn dawel ar y diwrnod gwyntog yma! Arhosodd rhai yno, yn teimlo effaith y tywydd, am baned derbyniol yn y caffi. Roedd hon yn daith iachus ar dir gwastad ychydig yn fyr o 6 milltir dros 3.5 awr ar ddiwrnod oer ysblennydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 20ed Chwefror 2020. O Amgylch Gyrn Goch a Gyrn Ddu. Roedd wyth o’r un ar ddeg gwreiddiol yn bresennol yn Rock Cottage ger Trefor ar gyfer taith ym Mryniau Clynnog , am ryw reswm yn awyddus i wynebu’r tywydd ar ddiwrnod gyda rhagolygon digalon am wyntoedd dros 50 yr awr a glaw trwm. Penderfynwyd peidio a dringo copaon Gyrn Ddu a Gyrn Goch a chyfnewid ar fyr rybydd taith llai mentrus yn ol yr amodau. Dringodd y parti ar y trac igam-ogam llydan i fyny i lwyfandir Clynnog o amgylch 900 troedfedd o uchder ac yna dilyn llwybr Arfordir Cymunedol i’r dwyrain heibio adfeilion Pen y Bwlch a Fron Heulog sydd wedi eu hanner atgyweirio. Roedd yna wyntoedd awelog yn dilyn o’r de-orllewin, ond ddim yn agos cyn gryfed a’r disgwyl; Roedd yr amodau yn ffres a bywiog, i ddechrau, yn sych a thymherau yn fwyn. Roedd y cymylau ysgafn yn cuddio’r golygfeydd ardderchog oddi yno i’r de, dros iseldiroedd Llyn. Roedd yna aros am goffi yng nghysgod corlan wedi ei chynnal yn dda ar ochr adran o drac waliog porthmon. O amgylch 1200 troedfedd trodd y fordd i’r gogledd ar draws rhostir, ymylu’r llechweddau gorllewinnol o Bwlch Mawr a cyfeirio tuag at y corlannau cymhleth ger Corsyddalfa. Oddi yno roedd yna olygfeydd i mewn ac allan o’r niwl o Gyrn Goch uwchben. Daeth disgynfa byr a’r parti i gat fochyn yn arwain i’r coed derw dymunol yn yn Planhigfa Cwm Gwared. Dyma lwybr mwdlyd yn ochrog a llysiau’r eryr yn dilyn dyfroedd brysiog yr Afon Hen i lawr y dyffryn, tra gwnaeth lle agored mewn coedwig yn le cyfleus i aros am ginio. Aeth llwybr drwy’r coniffers heibio ty fferm cerrig gafaelgar cyn cyrraedd y briffordd A499. Ger Pont y Felin ym mhentref Gyrn Goch trod y llwybr i ffwrdd drwy ardal coediog arall, a chroesi’r Afon Hen ar bont droed wedi ei difrodi. O’r diwedd ail ymunodd hwn a’r briffordd yn y pen arall o’r pentref, yn galluogi’r cerddwyr fynd ar gyflymdra cyflym yn ol i’r man cychwyn, ar hyd yr hen ffordd a llwybr beicio. Erbyn hyn roedd hi wedi dechrau glawio a’r gwynt yn fwy awelog. Diolch i’r drefn ail ymunodd y parti a’i ceir prin cyn dilyw angerddol ddechrau yn dilyn taith wobrwyol o ryw 6.5 awr dros 4.5 awr.Mae copaon Clynnog yn disgwyl am ymweliad diwrnod arall! Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 17eg Chwefror 2022. Cylchdaith Ynys. Cyfarfu barti o 15 aelod yn Glan y Wern ger Talsarnau ar gyfer taith ddymunol o dan arweiniad Tecwyn Williams, yn yr iseldiroedd yn estyn i’r gorllewin i’r Traeth Mawr ar foryd y Ddwyryd. Roedd hon yn ailadrodd taith cyffelyb gan y Clwb oddeutu tair mlynedd yn ol. Roedd yn ddiwrnod o gyfnodau heulog a gwyntoedd ysgafn, wedi ei gwasgu rhwng stormydd Dudley a Eunice. Cychwynnodd y daith ar draws yr A496 ar hyd argae mwdlyd i bentref Ynys, yn wreiddiol yn ynys ac yn ganolfan adeiladu cychod cyn i’r ardal gael ei ddisbyddu ar gyfer ffermio yn ddechrau’r 19ganrif. Adeiladwyd yn hwyrach, stordy, Ty Gwyn Mawr, adeilad cerrig gwych. Yna dilynnodd y ffordd glan y Traeth heibio Cerrig y Ro ac ymuno a’r Llwybr Arfordirol yn y ty mawr, Clogwyn Melyn. Roedd yr ysgrifennwr, Richard Hughes , yn byw yn ymyl y fan hyn. Roedd yna olygfa odidog ar draws y dyfroedd i’r cromenau a’r pigwrnau lliwgar yn Portmeirion. Atyniad arall ger Glan y Morfa oedd cynifer o ferlynod bychan del. Ymhellach ymlaen aeth y daith heibio cyn safle tir lenwi’r Cyngor yn Ffridd Rasus, nawr yn ganolfan ailgylchu, compost a gweddillion gwastraff. Cymerwyd ginio yn eistedd ar feini cyfleus yn gyfagos. Dringodd ffordd y prynhawn yn araf ar hyd ochrau Ogof Foel, gan fynd heibio ty fferm nobl, Ty Cerrig. Y man olaf o ddiddordeb oedd yr eglwys wedi ei chynnal yn dda, Llanfihangel y Traethau, adeilad Victorianaidd ar safle ynys lawer cynt o’r 12ed Ganrif, fel yr ardystwyd gan arysgrifen Lladin ar garreg yn sefyll yn yr fynwent dan gysgod yr ywen. Yma roedd yna nifer o feddi o ddiddordeb yn cynnwys bedd y 5ed Arglwydd Harlech, mae cartref y teulu yn Glyn Cywarch gerllaw. Roedd hon yn ychydig oriau fwynhaol o 5.7 milltir o gerdded hamddenol. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 10ed Chwefror 2022. Cylchdaith Llanbedrog - Wern. Judith Thomas arweiniodd daith chwe milltir ddymunol yn Llanbedrog ,ac yn dilyn 3 yn tynnu’n ôl, 26 gychwynnodd o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger y traeth. I ddechrau fe aeth y ffordd ar I fyny ac o amgylch yr hen ran o’r pentref cyn croesi’r ffordd bost Pwllheli I Abersoch ac I lwybr yn mynd I’r gogledd. Yn fuan fe groesodd hwn ffordd Mynytho, ac I’r gogledd-orllewin ar ôl mynd heibio ysgol y pentref ar y chwith yn arwain I’r wlad. Roedd yn ddiwrnod ardderchog I gerdded gyda haul achlysurol ac ambell I gyfnod rhynllyd ond yn sych. Ger Bryniau dyma’r cyfeiriad yn ail ddechrau I’r gogledd a mynd drwy blasdy deniadol Wern Fawr ar ben uchaf y ddolen wyth. Golyga hyn fynd heibio Penrhynydyn, Pont Rhyd Berion, CefnLlanfair, a chwblhau cylch o Coed Cefn Llanfair, yn cynnwys ardal sylweddol o goed, ar hyd llwybrau braf a rhan ar ffordd fach wledig. Gyda’r ddolen wedi ei chyflawni fe aeth y ffordd I’r de-ddwyrain heibio Penarwel Mon nes I ni gyrraedd safle carafanau Crugan ar yr A499, a’i chroesi. Yna fe aeth y llwybr I ac ar hyd y clogwyn i gyfeiriad Llanbedrog ac ar gyfer y 3/400 llathen olaf ar hyd y traeth I gwblhau taith fwynhaol ar gyflymdra hamddenol. Aeth mwyafrif o’r cerddwyr I gaffi Plas Glyn y Weddw gerllaw I fanteisio ar y danteithion oedd ar gael! Dafydd Williams.
Dydd Sul 6 Chwefror. Aberdaron – Porth Oer. Arweiniodd Hugh Evans 14 o gerddwyr ar gylchdaith arfordirol ym mhen draw Llyn. Cafwyd tywydd sych gyda chyfnodau heulog hir, ond ‘roedd, ond roedd gwyntoedd cryf gogledd gorllewinol yn hyrddio efallai i 40mya yn gwneud iddi deimlo yn oer ar adegau.
Cychwynnwyd o faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron, gan anelu i’r De ar hyd y llwybr Arfordir ar ben y clogwyni heibio Porth Simdde. Mwynhawyd golygfa hynod drawiadol o’r bae stormus ac Ynysoedd Gwylanod yn fawr. Grisiau serth wedyn i lawr i Borth Meudwy, hafan i gychod pysgota ac, pan fo’r tywydd yn caniatáu i dripiau i Ynys Enlli.
Gadawyd y glannau am sbel a throi am fferm Cwrt a’i adeiladau yn dyddio yn ol o leiaf 200 mlynedd, ac ymlaen am Fferm Pwlldefaid cartref y bardd Sion Ifan o’r 17eg ganrif ac wrth gwrs sylfaenwyr y siop ddillad fu unwaith yn enwog ym Mhwllheli.
Daeth arfordir Gogleddol y Penrhyn i’r golwg wrth i’r criw ddilyn cylch o gwmpas Mynydd Anelog gan godi at ryw 500tr uwch y môr. O hyn ymlaen daeth llawn rym y gwynt yn amlwg wrth iddi geisio cipio eu hetiau, ac ambell i sbectol hyd yn oed, oddi ar griw oedd erbyn hyn yn ymdebygu i griw o feddwon gymaint oedd eu brwydr yn erbyn yr elfennau. Er mor wefreiddiol oedd gweld y môr yn grochan berw o donnau diflino yn bwrw yn erbyn y creigiau hynafol roedd yn rhyddhad cyrraedd cysgod cymharol Porth Oer erbyn amser cinio.
Dychwelwyd ar hyd llwybr Cymunedau Arfordirol drwy gaeau ar draws y penrhyn. Aethpwyd heibio Mynydd Ystum, lleoliad caer cyn-hanesyddol Castell Odo. Llethr fwdlyd wedyn yn ein harwain at yr Afon Daron a’i dilyn yn ôl i’r pentref gan basio’r hen felin sydd yn awr yn cael ei hadfer. Taith foddhaol iawn o ryw 9 milltir mewn mymryn dros 5 awr. Noel Davey (cyf GJ).
Dydd Iau 3 Chwefror 2022. Llyn Trawsfynydd - Toman y Mur. Heddiw arweiniodd Dafydd Williams 15 aelod ar daith bleserus a diddorol yn ardal Trawsfynydd. Roedd yna gyfnodau heulog oedd yn tarddu ar oerni’r gwynt bywiog. Cychwynnodd y daith o gaffi’r llyn (yn anffodus ar gau ar y diwrnod) ger yr stesion bwer. Aeth llwybr prydferth coediog a’r parti i’r de yn agos i lan y llyn. Dros yr A470 brysur dringodd y daith yn araf ar lwybrau mwdlyd drwy gaeau coediog, dros y trac o’r cyn reilffordd Bala, ac ar y rhostir llwmach gwyntog i’r dwyrain. Daeth y twmpath amlwg o Domen y Mur i’r golwg yn fuan. Mae’r enw yn tarddu o enw Normanaidd y castell pridd adeiladwyd dros yr wrthglawdd o’r gaer Rufeinig yn dyddio o 78 Ar Ol Crist ac mewn defnydd hwyrach 60 mlynedd tan i’r Rhufeiniad encilio o ddiffeithwch Gogledd Cymru. Mae yn nodweddol yn yr Mabinogion fel Mur y Castell. Gwnaeth mwyafrif y parti y ddringfa fwdlyd fer i ben y Domen i fwynhau yr olygfa ardderchog yn yr heulwen o’r bryniau niwlog o amgylch ac i gyfeiriad y llyn, wedi ei atalnodi gan y waliau llwyd anfad o’r stesion bwer. I hynafiaethyddion, mae’r amrywiaeth a’r orffenedigrwydd o’r gwrthgloddia amgylchfaodd ac adeiladau cynorthwyol ar draws nifer o erwau yn ei gwneud yn un o’r safleoedd Rhufeinig mwyaf diddorol yn Brydain. Er i hyn fod yn llai amlwg i un o’r bobl, mae’r safle nawr wedi eu dogfenu gan bordiau hysbysrwydd. Yn dilyn golwg fer roedd yn amser cinio ar y lon fach gerllaw amlinell ansicr o’r amphitheatre ble unwaith roedd milwyr Rhufeinig yn ymarfer eu sgiliau milwrol. Yna arweiniodd y daith yn ol i’r gorllewin, a chroesi’r ffordd fawr yn Utica, ar hyd llwybrau heibio Ty Gwyn drwy’r coed i’r gogledd a gorllewin o’r stesion bwer. Rhoddwyd dewis o 2.5 milltir ychwanegol er mwyn ymweld a’r argae mawreddog dros yr afon Prysor yn nghornel gogledd-orllewin o Lyn Trawsfynydd. Adeiladwyd hwn yn wreiddiol ar gyfer bwydo’r stesion hidro-power yn Maentwrog, yn dal i weithredu ar ol bron i ganrif. Ailadeiladwyd y dam yn yr 1990’s er mwyn ehangu’r gronfa i ddwr oeri’r cyfleustra niwclar. Roedd hon yn gylch gampus oddeutu 8.5 milltir dros 5 awr. Noel Davey.
Dydd Sul 30 Ionawr 2022.Ucheldiroedd uwchlaw Tremadog/Mynydd Gorllwyn/Aberdunant. Cyfarfu grwp o 18 o rodwyr ym Mhorthmadog ar gyfer taith yn y bryniau uwchben Tremadog, o dan arwainiad Noel Davey. Roedd yn ddiwrnod cymharol glir a mwyn trwy’r dydd. Roedd y filltir gyntaf gyflym yn dilyn y palmant syth a gwastad o’r cyn Reilffordd Gorseddau-Porthmadog adeiladwyd yn 1872 i wasanaethu’r chwareli yn Cwm Pennant a Chwmystradllyn. Yr ochr draw i Sgwar Farchnad ddifyr Madock yn Tremadoc trodd y ffordd i’r gogledd-ddwyrain, a dringo’r adran serthaf o’r daith heibio Tan yr Allt, drwy goed ac ar draws ffrwd i gyrraedd ardal y llwyfandir yn Pant Ifan. Mae’r hen dy fferm nawr yn dy clwb ar gyfer y dringwyr creigiau sydd yn gyson daclo’r esgyniadau o’r clogwyini gerllaw. Parhaodd trac haws a ffordd gul heibio Hendre Hywel a Capel Horeb, i’r gogledd, ac ar ol aros am banad, ymuno a thrac mynediad concrit ar draws gwair garw a rhos i’r fferm unig Gorllwynuchaf. Trodd y parti i’r gorllewin ar ol oddeutu milltir i mewn i’r tir agored, dringo’n araf a chyrraedd y bwa o dir bryniog adnabwyd fel Mynydd Gorllwyn. Ger Bwlch y Rhiwiau, un o nifer o gopfeydd bychan 1100 troedfedd, y safle yn olygwedd wyntog ar draws Aber y Glaslyn i’r de a’r copfaoydd aneglur niwlog o Moel Ddu a Moel Hebog i’r gogledd. Yna traciau garw ac weithiau corslyd yn parhau i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r diwedd cyrraedd Tai Cochion, grwp unig o adeiladau fferm wedi eu adnewyddu lle cysgodol da i aros am ginio. Oddi yno roedd disgyn cyson heibio ty fferm adfail i lwybr dymunol ond yn llawn pren mwyarduon drwy Coed Gorllwyn a Choed Aberdunant, yn uchel uwchben cwm Glaslyn a’r ffordd i Feddgelert. O’r diwedd arweiniodd hwn i’r drysfa o lefydd aros Parc Gwyliau Plas Aberdunant, lle anferth, yn fan lletygar gyda cysgod naturiol o dan y coed. Oddi yno roedd ond cam fer ar y ffordd i lawr i bentref Prenteg ac yna cam sydyn ar dir gwastad, 3 milltir i’r de-orllewin ar draws caeau ac ar ochr y Rheilffordd Ucheldir Cymru, yn ol i Borthmadog. Roedd hon yn ddiwrnod da gyda cerdded cymharol hawdd mewn ardal hardd ucheldirol ddiarth a phellter oddeutu 9-10 milltir dros 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 27ain Ionawr 2022. Cylchdaith Caernarfon. Daeth diwrnod heulog yn dilyn nifer o rhai tywyll a 24 aelod ar gylchdaith hyfryd o amgylch Caernarfon o dan arweiniad Kath Spencer. Cychwynnodd y daith o dir parc Coed Helen a dilyn y ffordd gul adnabwyd fel Traeth yr Aber dros Pont yr Aber. Mae’r bont droed ar draws y Seiont, yn caniatau mynediad i longau hwylbreniog i’r glanfaoedd llechi i fyny’r afon, oedd unwaith yn safle fferi. Yna aeth y daith i mewn i’r hen dref drwy’r waliau godidog canoloesol o dan bentwr anferth y Castell ac i mewn i Stryd y Jel, heibio’r cyn jel a cwrt y sir a swyddfeydd cyngor mwy diweddar. Ymhellach ymlaen dyma bont droed ar osgo ar draws yr hafn gwarthus a greuwyd gan y Ffordd Gymorth Fewnol 1980au yn dilyn i’r strydoedd distawach dyrchafedig i’r dwyrain. Mae yr ardal yma yn cael ei ddylanwadu gan y bryn uchel creigiog 200 troedfedd o Ben Twthill, yn briodol yn tarddu o’r gair Eingl-Sais am “bryn gwilio”. Gwnaeth y mwyafrif y ddringfa fer am goffi a’r olygfa eang rhyfeddol dros y dref a’r Fenai. Aeth y daith ymlaen heibio mwy o safleoedd pwysig o’r canolfan hanesyddol yn cynnwys y Maes mawr a’r orsedd fodern newydd ei agor ar gyfer y Rheilfford Ucheldir Cymru. Yna dilynwyd llwybr dymunol yn dyblu fel ffordd feicio i’r de, yn ochrog a’r rheilffordd, ac ail groesi’r afon. Arweiniodd lwybrau caeau drwy siediau gafaelgar Fferm Hendy ac heibio Tyddyn Alice. Dyna seibiant ar dwmpath creigiog yn rhoddi cyfle i fwynhau cinio hamddenol siarad da, a’r ffrwythlon dirwedd rholedig gwyrdd bugeiliol a choed yma ac acw. Arweiniodd fwy o lwybrau cae trwy Fferm Plas a Beudy y Chain allan ar Y Foryd am y tro olaf, ar hyd y ffordd wrth ochr dyfroedd disglair y Fenai. Roedd yn caniatau golygfa braf o dirwedd Ynys Mon gyferbyn ac un o’r golygfeydd goreu o’r Castell wrth nesau at Caernarfon. Roedd hon yn daith mwyaf mwynhaol, diddorol a chyfnewidiol o 5.6 milltir dros oddeutu 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 23ain Ionawr 2022. Cylchdaith Waunfawr. Kath Spencer arweiniodd 15 aelod ar daith gylch wyth o Waunfawr. Roedd yn ddiwrnod cymylog, sych a thawel gyda gwelededd cymedrol, eithaf tywydd cerdded. Cychwynnodd y daith o Dafarn Parc Eryri yn Waunfawr. Cymerodd yr adran gyntaf lwybrau cul ddeniadol drwy’r pentref, y cyntaf o dri ymweliad yn ystod y diwrnod, gan fynd heibio ty gyda milodfa o anifeiliaid yn cynnwys un mochyn, tipyn o gymeriad, gyda nifer o ferlynod yn pori y caeau o amgylch. Dilynwyd llwybr coediog i’r de-ddwyrain, a throi i’r gogledd-ddwyrain trwy Garreg Fawr a myned i mewn i’r goedwig gonifferaidd breifat Donen Las. Roedd y fan yma yn olygfa anhygoel o foncyffion mwsoglyd a gwreiddiau, llawer ohonynt wei eu dymchwel gan stormydd y gorffennol, lle anrhefnus mewn brith draphlith. Yn dilyn aros byr am goffi, cyrhaeddodd y parti y chwareli o amgylch Bwlch y Groes wrth droed y llwybr i fyny Moel Eilio yn y niwl uwchben. Y nod heddiw oedd copa haws 1450 troedfedd ar y rhostir i’r gogledd, Cefn Du. Roedd yr arloeswr radio Guglielmo Marconi wedi agor yr orsedd drosglwyddo gyntaf yn ymyl y fan hyn yn 1913. Mae gwedillion o’r adeiladau bric yn dal i’w gweld. Roedd yr cyfleustra yn hanfodol yn y Rhyfel Byd cyntaf, yn galluogi cysylltu a’r Unol Deleithiau, Awstralia a llongau yn y Gogledd Iwerydd. Aeth llwybr i’r gorllewin, oedd yn ymuno a’r Llwybr Llechi, a’r parti I lawr yn ol i Waunfawr gyda arhosiad am ginio yn y caeau waliog ger Hafod Oleu yn edrych dros ddyffryn coediog o’r Afon Gwyrfai. Yn y prynhawn dilynwyd ail gylch ar ochr orllewinnol y cwm, dringo llwybr cyfarddefol serth drwy Parc Dudley, gwarchodfa natur leol ar safle hen chwarel ithfaen. Tu draw i weddillion ofer adeiladau yn Ty’n y Graig, roedd copa 1100 troedfedd Moel Smythio yn caniatau golygfeydd i’r pellter tuag at Caernarfon, y Fenai, Ynys Llanddwyn a’r Eifl. Roedd y dychweliad yn ymylu coedwig ger Hafod Ruffydd, gerllaw y grymus swmpus Fynydd Mawr, a disgyn i Betws Garmon drwy faes carafannau Bryn Gloch, ac yn olaf ail ymuno a’r llwybr allanol i Waunfawr. Roedd hon yn daith dda, egniol mewn tirlun diddorol o 11 milltir dros 6.5 awr gyda dringo cynyddol oddeutu 2200 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 20 Ionawr 2022. Abererch - Hafan y Mor. Cychwynnodd y daith o faes parcio Glan y Mor/Stesion Abererch gyda Megan Mentzoni yn arwain 25 aelod gan dorri’r record am deithiau Covid-19! Roedd y tywydd yn sych gyda rywfaint o haul a’r tymherau ychydig uwchben y rhewbwynt, diwrnod ardderchog ar gyfer cerdded, a’r nifer yn bresennol yn dweud y cyfan. Aeth y daith i’r gogledd a chroesi’r reilffordd a’r lon bost, yr A497, yn y cylchdro a throi yn union i’r dde ac i’r dwyrain ar yr hen ffordd a’i dilyn am oddeutu milltir nes cyrraedd gwersyll gwyliau Hafan. Yn y fan yma dyma ail groesi’r A497 a chymeryd y ffordd i stesion Penychain i’r de a thros y cwrs golff nes cyrraedd trwyn Pen-uchain. Roedd y man braf yma yn le addas i gael cinio gyda’r codiad tir yn rhoddi cysgod oddiwrth y gwynt rhynllyd ac yn caniatau golygfeydd ardderchog o Orynys Llyn i’r gorllewin, Yr Eifl i’r gogledd ac Eryri i’r dwyrain pell. Yna dyma fynd am ryw ddau gan llath ar hyd yr tywodfrunia cyn mynd drwy giat gyfleus yn caniatau i ni gyrraedd y traeth ac ymlaen i gyfeiriad Pwllheli ac ar ol oddeutu milltir, ail gyrraedd y maes parcio. Nid hyn oedd diwedd y daith gan fod Megan wedi trefnu i ni ymweld a’r eglwys ddiddorol Sant Cawrdaf yn Abererch gyda tafleni esbonio. Taith 5.5 milltir ddelfrydol ar gyfer yr amser o’r flwyddyn ac yn addas i bawb. Dafydd Williams.
Sul 16 Ionawr 2022 Cae’r Gors - Rhyd-ddu. Ar fore gwlyb o Ionawr denodd Dafydd Williams 10 o gyd-deithwyr i barcio ar ochr Lon Gwyrfai nepell o Cae’r Gors ychydig i’r de o bentref Rhyd-ddu. Gyda glaw cyson balch iawn oedd y cerddwyr o gael tir cadarn o dan droed ar ddechrau’r daith. Ac wedi croesi’r brif lon A4085, trwy dir a fuodd yn dra gwlyb os nad corsiog, cafwyd fod y Parc Cenedlaethol wedi creu gwyneb caled yr holl ffordd heibio Ffridd Uchaf ac ymlaen i gyfarfod ac un o brif lwybrau Wyddfa. Troi lawr am Rhyd-ddu oedd ein bwriad, ond er y glaw a chymylau isel roedd sawl parti ar eu ffordd i fyny am y copa
i lawr felly, eto ar lwybr caled gyda gwyneb ddigon llyfn i ddenu grŵp o feicwyr, yr holl ffordd i bentref Rhyd-Ddu. Paned yn y gysgodfan yng Ngorsaf Rheilffordd Eryri yna mentro ar y lon bost drwy’r pentref, troi heibio tafarn y Cwellyn am Nantlle nes cyrraedd culfan a chychwyn yn ôl ar Lon Gwyrfai dros y Sarn arferol wyntog i gyfeiriad Llyn y Gadair. Oedi i ddarllen soned T H Parri Williams i’r llyn, a’i addasiad Saesneg, ac ymlaen wedyn i gyfeiriad y ceir.
Ond nid cylch byr felly oedd ar feddwl ein harweinydd, buan iawn y gadawyd Lôn Gwyrfai a dilyn rhai o’r llwybrau lluosog y mae cerddwyr a beicwyr yn eu rhannu drwy Goedwig Beddgelert. I fyny am Moelfryn ac oedi am ginio yng Nghwm Du. I lawr wedyn i gyfeiriad Llyn Llywelyn, a’r glaw yn dechrau cilio wrth i’r cymylau ysgafnhau. Cyn cyrraedd y llyn cafwyd cip o heulwen yn goleuo copa Yr Aran drwy’r coed. Erbyn cyrraedd y llyn bron nad oedd yr haul yn torri trwodd a’r olygfa am Yr Aran yn creu lluniau clir, er nad oedd copa’r Wyddfa ei hun yn y golwg.
i lawr wedyn ar hyd lonydd y goedwig, dros bont hynafol (a rhestredig) Rhyd-Ceffylau ac yn ol am y ceir i gwblhau taith bleserus iawn o ryw 9 milltir. Gwynfor Jones.
Dydd Iau 13 Ionawr 2022. Beddgelert- Dinas Emrys. Annie Andrew arweiniodd 21 o rodwyr – y record i’r teithiau Covid hyd yn hyn – ar daith fwynhaol o Feddgelert i Dinas Emrys. Newidiodd niwl y boreu i gyfnodau heulog yn fuan, yn creu amodau da ar gyfer cerdded a golygfeydd hyfryd. Cychwynnodd y daith, drwy, erbyn hyn, ganol distaw Beddgelert ar draws afonydd Colwyd a Glaslyn, a dilyn y lon fach balmantaidd yn arwain i’r dwyrain heibio gweirgloddau dymunol i’r de o’r Glaslyn cyn belled a Plas Craflwyn, ty gwladaidd Victorianaidd yn feddiant yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ond nawr ar les i’r “HF Holidays”, fel gwesty i letya grwpiau cerdded. Nawr dyma’r llwybr yn dechrau dringo ar lwybr cae yn y bryniau i’r gogledd o Craflwyn, ac yn fuan mynd i’r dde ar lwybr coediog hyfryd gan amgylchu ac i fyny i’r safle bryniog, Dinas Emrys, prif nod y diwrnod. Mae’r bryn creigiog yma ychydig dros 400 troedfedd o uchel yn ymwthio allan i ddyffryn Glaslyn ac yn caniatau golygfeydd ardderchog o Lyn Dinas ac i gyfeiriad Beddgelert, oedd ar eu goreu ar y diwrnod clir heulog yma. Mae y prif bwysigrwydd y safle, pryn bynnag, yn ei archaeoleg a chysylltiad gyda un o chwedlau sylfaenol o’r genedl a’r Ddraig Goch Gymraeg. Mae hyn yn adrodd hanes chwedlonol am yr arweinydd Prydeinig o’r 5ed ganrif, Vortigen (Gwrtheyrn) a adeiladodd gaer yma a’r bachgen ifanc Emrys – yn amrywiol yn cael ei ddisgrifio fel Myrddyn (Merlin) neu Ambrosius (mab Ymerodraethwr Rhufeinig). Rhagfynegodd Emrys y frwydr rhwng dwy ddraig a ddeffrodd mewn pwll islaw y safle a orffennodd gyda’r ddraig goch o’r genedl Brydeinig yn y diwedd yn gyrru allan y ddraig wen. Mae rhai o’r gwrthgloddiau o’r gaer wreiddiol i’w gweld gyda gweddillion o’r twr canoloesol. Disgwyliodd rhai o’r cerddwyr islaw wrth fod rhan terfynol y llwybr anodd, yn llithrig. Ar y ffordd yn ol i lawr arhosodd y parti am ginio mewn man hudol lle mae’r rhaeadr Afon y Cwm yn disgyn i bwll grisial clir yng nghysgod hen waliau cerrig a derwenau. Mae’r llwybr yn y fan hyn yn croesi’r ffrwd ar bont gerrig gloncioch hardd. Cymerwyd cylchdaith ar lwybr coediog gwyllt drwy gyn dir Craflwyn. Nodwedd nodedig yma oedd sedd “draig “anferth cymhleth, mae’n debyg wedi ei cherfio o ddarn soled o fonyn coeden wedi disgyn. Dychwelodd y rhan olaf y llwybr allanol ar hyd y Glaslyn yn ol i Feddgelert. Roedd hon yn daith ddiddorol a llaesuol o ryw 5.5. milltir yn rhoddi cyfle i bawb gael blas ar yr tirwedd syfrdanol o’r rhan yma o Eryri ar ddiwrnod braf yn y gaeaf. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 9ed Ionawr, 2022. Penrhyndeudraeth-Rhyd-Llyn Mair. Roedd yna gynulliad da o 17 ar gyfer y daith gron braf yma o Benrhyndeudraeth gyda Annie Andrew yn arwain. Er fod y tywydd yn gymylog roedd hi yn ddiwrnod eithaf clir ac ni wnaeth y bygythiad cynnar o law fateroli. Cychwynnodd y daith o brif faes parcio tref Penrhyndeudraeth, dringo yn eithaf serth ar lwybrau trefol a stepiau i’r groesfan Reilffordd Ffestiniog dros yr A4085. Roedd y llwyni yn blodeuo’n gynnar a’r cennin pedr allan ar y llethr yn gwynebu’r de yn awgrym fod y gwanwyn yn dychwelyd yn fuan. Yna roedd y llwybr i Rhyd yn dilyn y ffordd a gymerwyd ar daith yn ganol mis Tachwedd. Roedd trac metel agored yn rhedeg i’r gogledd-ddwyrain yn agos i’r reilffordd cyn belled a Rhiw Goch. Aeth hwn ymlaen fel trac daearol drwy’r coed pinwydd tywyll dirgelaidd gan fynd heibio rhai weddillion o’r hen fwyngloddiau, Bwlch y Plwm yn Pen yr Allt. Agorodd adran mwy corsiog olygfeydd o Moelwyn Bach yn ymddangos uwchben a chyrraedd pentref bach Rhyd. Fe aeth y daith i ffordd Garreg am beth amser gan fynd heibio gwedd gochlyd Moel y Llys. Yn Bwlch y Maen roedd yna droad i’r de ar drac yn disgyn i Llyn Hafod y Llyn. Yma gadawodd y parti ffordd y daith mis Tachwedd, a chyfeirio i stesion Tan y Bwlch ble roedd y bont platfform yn rhoddi cyfle i gael llun grwp go dda. Arweiniodd llwybr coediog golygfaol i lawr i Llyn Mair. Mae y lle poblogaidd yma, wedi ei ymweld gan y Clwb ond ychydig ddyddiau ynghynt, yn le ardderchog i gael cinio yn goruchwylio y dyfroedd llonydd tywyll y llyn. Trodd rhan y prynhawn i’r gorllewin ar draciau yn cylchu Y Gysgfa a Hafod y Mynydd, yn uchel uwchben y reilffordd ac yn caniatau golygfeydd rhagorol o aber y Ddwyryd islaw yn bwydo i’r mor yn Traeth Bach ac Ynys Gifftan. Yna dyma’r llwybr yn ail ymuno a’r ffordd yn ol i Penrhyn. Roedd hwn yn ddiwrnod campus o rodio drwy ardal hardd ac amrywiol, yn cynnwys cerdded cymhedrol rwydd ar draciau sych, 9 milltir a 1565 troedfedd o ddringo cynyddol dros oddeutu 5.5 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd lau 6ed Ionawr 2022. Cylchdaith Oakley Arms. Mentrodd saith aelod o'r clwb o dan arweiniad Tecwyn Williams ar y daith heddiw gyda rhai amheuon yn dilyn y drochfa wythnos yn ol a rhagolygon tywydd gwael eto. P'run bynnag roedd hi yn ddiwrnod sychach na'r disgwyl gydag ond ychydig o gawodydd ysgafn a hyd yn oed mymryn o haul. Cychwynnodd y daith bleserus yma yn nyffryn hardd Ffestiniog a'r bryniau coediog i'r gogledd, o'r Oakley Arms ger Maentwrog, yn ail wneud yr un a wnaethpwyd bedair blynedd yn ol. Mae hanes a thirlun yr ardal hardd ynghlwm gyda stad Tan y Bwlch, a ddatblygwyd gan deuluoedd lleol ariannog o'r 17eg ganrif a chyrraedd ei anterth o dan deulu'r Oakleys yn y 19eg ganrif ar sail cyfoeth llechi. Y bwriad gwreiddiol oedd i ddilyn yr argaeau uwch adeiladwyd gan yr Oakleys ar hyd glan ogleddol o'r Afon Dwyryd ddolennog i wella tir ffermio, ond roedd gorlifo yn golygu nad oedd hyn yn bosibl heddiw, ac yn golygu llwybr llygad yn ol ar hyd yr A487. Yna dyma'r daith yn dringo'r dreif a thrwy erddi o'r plasty gafaelgar, Plas Tan y Bwlch, sydd nawr yn ganolfan astudio amgylcheddau o dan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd yna aros am baned ar y teras crand yn edrych dros y dyffryn. Yna dilynwyd llwybrau drwy dir coediog braf y plas, heibio safle Victorianaidd cynllun hidro- electrig nawr wedi ei atgyfodi gan Awdurdod y Parc. Arweiniodd rhain i’r Llyn Mair hudolus, llyn artiffisial adeiladwyd gan Mary Oakley. Roedd byrddau picnic ar y lan ogleddol yn lle hwylus i gael cinio. Yna arweiniodd y trac coediog o dan adran wedi ei dwnelu o'r Reilffordd Ffestiniog o gwmpas Y Garnedd. i ddiweddu dilynwyd llwybr coediog serth i lawr i'r Oakley Arms drwy Coed Ty Coch. Roedd hon yn wibdaith bleserus o ychydig dros 4 milltir mewn 3 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 2 Ionawr 2022. Cylchdaith Criccieth. Roedd y daith gyntaf 2022 o Griccieth, Eryl Thomas arweiniodd ddwsin o gerddwyr yn awyddus i fod allan yn dilyn y miri tymhorol. Diwrnod cymylog gyda rhai cyfnodau clir oedd hi, yn parhau yn ddidymhorol o gynnes allan o’r gwynt ac roedd y cerddwyr yn ffodus i osgoi ychydig o gawodydd gwyntog yn y boreu. Cychwynnodd y daith o faes parcio Cwrs Golff Criccieth sydd nawr wedi cau, cwrteisi y perchenogion newydd. Aeth y daith i’r gogledd ar draws caeau gwlyb o’r hen gwrs a chyrraedd y ffordd fach wledig yn rhedeg ddwyrain-gorllewin heibio Braich y Saint i’r B4411. Toc heibio Fferm Gell, dyma gylch ar draciau mwdlyd yn cael eu gwneud drwy feysydd carafannau yn Tyddyn Morthwyl a Thyddyn Cethin, ac ail gyrraedd y ffordd fawr yn Bont Rhydybenllig. Yna dilynnodd y daith y llwybr coediog hyfryd i’r de ar hyd glan dwyreiniol o’r Afon Dwyfor. Er i’r rhan yma fod yn anodd oherwydd y llwybr mwdlyd a gwreiddiau coed, roedd gweld a chlywed dyfroedd yr afon yn ei llawn lifeiriant ymysg lluniau ysgerbwdol o goed derw’r gaeaf yn hyfryd. Yn Llanystumdwy torodd y parti ar draws yr A497 heibio Aberkin i Lwybr Atfordirol Cymru. Ac yna’r ffordd yn ail ymuno a glannau’r Dwyfor, yn dal i lifo’n gyflym ond yn llydan ac agored fel mae’r afon yn dod o hyd i’r ffordd allan i’r mor drwy dir tywodlyd. Roedd llwybr yr arfordir yn wyntog a ffres, ac yn dangos arwyddion o erydiad y gaeaf ac hefyd gwaith atgyweirio diweddar. Yn fuan daeth annedau lliwgar y Pen Gorllewinnol o Griccieth i’r fei, gyda’r castell unigryw uwchben. Trodd y ffordd i’r tir yn Cefn Castell, safle hen fwthyn wedi ei losgi ac wedi ei ail adeiladu fel ciwb gwyn o gynllyn dadleuol diweddar. Roedd y llwybrau yn arwain i Muriau ar gyrion Criccieth, yn parhau mewn cyflwr da yn dilyn gwaith gwirfoddoli ychydig flynyddoedd yn ol. Roedd hi nawr yn amser i gael cinio mewn safle prysur gan wneud defnydd o wal gyfleus yn y gyffordd a’r A497. Yna dilynnodd y daith y Lon Fel brydferth i’r gogledd, yn dilyn i’r gafaelgar 16eg ganrif dy, Mynydd Ednyfed Fawr, cyn westy, nawr yn cael ei ddefnyddio fel llety hunain arlwyaeth grwpiau moethus. I ddiweddu roedd yna ddringo Mynydd Ednyfed 450 troedfedd o uchel, yr unig ddringo nodweddol o’r dydd. Ychydig o wybodaith archaeologaidd am y bryn bychan amlwg yma sydd ond yn ol yr hanes roedd yna fryngaer ryw dro. Daeth haul llwyd i’r golwg fel roedd y parti yn cyrraedd y copa mewn pryd i edmygu’r golygfeydd ardderchog o dref Griccieth, y castell a’r mor garw tu draw. Roedd hon yn daith dda, ar gyflymdra dderhynniol oddeutu 7.5 milltir dros 4 awr, yn ddelfrydol ar gyfer yr amser o’r flwyddyn. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 30ain Ragfyr 2021. Moel Goedog. Roedd heddiw y trydydd tro ers i’r Covid ddechrau i aelodau y Clwb fynd i Fferm Merthyr yn uchel yn y bryniau uwchben Harlech i gerdded o amgylch Moel Goedog. Fel ac o’r blaen y nod oedd i ddringo’r Foel i edrych ar y cylchoedd cerrig ond eto achubwyd y blaen gan dywydd gwaeth a bodlonwyd dwsin o gerddwyr, yn cael eu harwain gan Dafydd Williams, drwy wneud cylch eithaf fywiog o 5.5 milltir o amgylch godre’r bryn. Cymerodd hon gyfeiriad yn ol y cloc ar hyd ystlys gogleddol o’r bryn, gan ymylu Llyn y Fedw a dychwelyd ar hyd rhan o Daith Ardudwy i’r dwyrain. Y tro hwn roedd y glaw yn ddidostur am y dair awr o’r daith ac roedd y niwl isel yn rhwystro hydnod cip olwg o’r golygfeydd rhyfeddol sydd i’w mwynhau ar ddiwrnod clir. Y cwbl oedd i weld oedd y cotiau glaw o’ch blaen a’r gwair soeglyd a thraciau llawn dwr wnaeth y parti ostegu drwyddynt. Er gwaethaf y ddrochfa, roedd hi yn fwyn ac roedd y parti i weld yn crosawu y siawns o fod allan yn yr awyr iach ar gyfer ymarfer a clonc. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 26ain Ragfyr 2021. Moel y Gest. Ar ddiwrnod Sant Steffan llwyddodd grwp o 4 i ddianc oddiwrth rhialtwch teuluol am ychydig oriau ar gyfer taith i fyny Moel y Gest o dan arweiniaid Noel Davey. Roedd yn ddiwrnod lled dda i gerdded, yn dyner gyda cyfnodau heulog llwydaidd ac ambell i gawod ysgafn. Cychwynnodd y parti o’r maes parcio enfawr yn Lidl, Porthmadog a dringo’r llwybr coediog i’r bwlch islaw crib Moel y Gest. Gan fod cyflwr gwlyb wedi gwneud y llwybrau creigiog yn llithrig, penderfynwyd peidio cymeryd ffordd y grib. Yn ei le, dilynwyd y llwybr ymlaen i lawr heibio safle maes carafanau Tyddyn Llwyn a Saethon ac ar hyd ffordd Morfa Bychan i’r fferm “llama”. Yna gwneuthpwyd ddringfa araf ond cyson ar dracs a llwybrau yn union i brif gopa Moel y Gest, oddeutu 850 troedfedd o uchder. Yno dyma’r cerddwyr yn cyfarfod ffrindiau a teulu a mwynhau cinio hefo mince pies, gan aros wrth bostyn copa oddi mewn i weddillion o’r lloc amddiffynnol o’r oes haearn sydd i’w gael yma. Roedd yna banorama heulog a llachar i’r de dros aber Afon Glaslyn ac i gyfeiriad Criccieth ac Eifionydd. Dyma tarth codi yn dechrau amdoi’r golygfeydd i gyfeiriad Porthmadog ar yr ochr gogleddol. Roedd rhan y prynhawn yn dychwelyd y rhan fwyaf o ffordd y boreu er i’r llwybrau i lawr fod yn fwy anodd. Gan fod amser yn mynd yn brin, penderfynwyd cwtogi y daith a gadael allan y cylchoedd oedd wedi eu trefnu heibio Ty’n y Mynydd a Borth y Gest. Gwnaeth tri o’r cerddwyr pryn bynnag gylchdaith fer drwy goedwig braf Parc y Borth. Ail ymunwyd a’r ceir ar ol taith adfywiol ac egniol o 6 milltir dros 4.5 awr. Roedd y daith hon yn ardderchog ar ol y gwledda y diwrnod cynt ac roedd y parti yn barod am fwy o mince pies. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 19eg Ragfyr 2021. Bethania-Moel Dyniewyd-Llyn Dinas. Diwrnod ysblennydd o aeaf – haul disglair, clir a llonydd - cefndir perffaith ar gyfer taith yng nghanol Eryri. Gareth Hughes arweiniodd pedwar o gerddwyr ar gylch gyda’r cloc yn y wlad bryniog i’r de o Nant Gwynant. Cychwynnodd y daith o Bethania a dringo’r ffordd wledig i gyfeiriad Gelli Iago. Yn fuan roedd y rhew rhynllyd yn y dyffryn cysgodol wedi rhoddi lle i haul cynnes. Ar ol milltir trodd y ffordd i’r de-orllewin ar hyd trac syth i gyfeiriad Bryn Castell. Roedd gamfa doredig yn ddigon o rwystr i ddringo’r bryn conigal dirgel, ond fe aeth y daith ymlaen dros dri copa sylweddol o rhwng 1000 a 1300 o uchder: Mynydd Llyndy, un copa di enw a Moel Dyniewyd, yr uchaf o’r diwrnod. Nid oedd yn eglur paham fod yr isaf yn “fynydd”, yr uchaf yn “foel” a’r llall yn ddim byd o gwbl! Roedd y llwybr cysylltu yn croesi tirlun o dir anghyffredin a toredig, clytwaith cymhleth o fryniau bychan yn codi o dwmpathau ac yn aml glaswelltir corsiog gyda corlannau defaid niferus. Roedd yr olygfeydd yn wych wedi eu hyrwyddo gan y cysgodion yn cael eu bwrw gan y golau isel disglair. Roedd mynyddoedd gogledd Eryri yn esgyn o’n amgylch i awyr ddisglair glas, eu llechweddau yn dapestri rhyfeddol o wedd oren, brown a cochlyd. Roedd y llwybr, gan amlaf yn dilyn llinell ffens, weithiau yn garegog, garw ac yn anodd, ond yn Grib Ddu mi ymunodd a’r llwybr mwy sefydledig o Aberglaslyn a Cwm bychan. Cymerwyd ginio ar y groesfford yn y man hyn, wrth rhai o’r tomenni crewyd gan bwll copr Sygun. Yna disgynnodd y parti y llwybr a’r stepiau serth, wedi ei wella, i lawr i Llyn Dinas. Roedd yr olygfa rhwng y coed yn ysblennydd, y gwyneb digyffro yn rhoddi adlewyrchiad drych perffaith o ochrau’r bryniau uwchben. Dilynnodd y filltir olaf lwybr hawdd ar hyd ochr deheuol y llyn. Roedd hon yn daith ardderchog ar gyflymdra da o chwe milltir dros oddeutu pedair awr, i’r dim ar gyfer un o’r diwrnodiau byra’r flwyddyn. Roedd coffi yn caffi Gwynant yn groesawys wedyn. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau Rhagfyr 16eg 2021. Abersoch i Porth Ceiriad. Meri Evans arweiniodd 13 o rodwyr ar daith fwynhaol o Abersoch i Borth Ceiriad ar hyd un o adrannau goreu o Lwybr Arfordir Cymru yn Llyn. Tra yn gymylog, sych ac yn gwrthdymerol fwyn, tywydd da i gerdded. Cychwynnodd y daith o’r prif faes parcio lan y mor a chroesi ehangder llydan o Borth Fawr i’r man distawaf o’r traeth yn Machroes. Oddi yno dilynnodd y ffordd y Lon Haearn, trac yr hen dramffordd oedd unwaith yn cysylltu 10 o fwyngloddiau plwm ac arian i’r porthfa yn Penrhyn Du. Yna arweiniodd Llwybr yr Arfordir ar hyd dop y clogwyn odidog, cylchu o amgylch Fferm Cim, heibio’r ddwy ynys St. Tudwals ac yn caniatau golygfa o’r mor yn gwrthdaro ar y creigiau islaw a’r amlinell tywyll o’r mynyddoedd yn archio ar draws y bae, yn estyn o’r Wyddfa i Cader Idris. O’r diwedd daeth dringfa o Wylfa Head a golwg hardd o’r bae tyfn clogwynaidd, Porth Ceiriog, yn gwynebu’r de i gyfeiriad arfordir Ceredigion a Phenfro yn y pellter. Cymerwyd ginio ar y glaswellt uwchben y bae. Dilynnodd y ffordd yn ol yn y prynhawn, lwybrau caeau i’r tir heibo Nant y Big gyda’i feysydd carafanau a newydd ei adwenyddu Corn Farm. Roedd yna olygfeydd oddi yma i lawr yr orynys i Porth Neigwl, Rhiw ac Ynys Enlli. Yn Bwllch Tocyn cymerodd y cerddwyr yr heol fach serth, chul a choediog yn syth i lawr ochr y bryn ac yn caniatau cip olygfa o bentref ar wasgar Abersoch, bryniau Mynytho a Garn Fadryn uwchben. Daeth dolen fer yn ol drwy Machroes ac o’r diwedd fe ddaeth y parti ar draws y cwrs golff yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith ddymunol a chymdeithasol oddeutu 6 milltir dros 4 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 9ed Ragfyr 2021. Criccieth - Pentrefelin. Cyfarfu 10 aelod ar rhodfa Criccieth gerbron y siop de, y Blue China, ar foreu a ddechreuodd yn sych ond a ddirywiodd yn gyflym. Aeth y daith i’r gorllewin ac ar i fyny heibio’r siop enwog hufen ia, Cadwaladrs, y Castell unigryw ac yna ar hyd rhodfa’r gorllewinnol a chyrraedd llwybr yr arfordir pan ddechreuodd lawio. Wedi cyrraedd y cyn dy fferm, Cefn Castell, nawr wedi ei adnewyddu yn llwyr a sydd wedi ei nodweddu yn ddiweddar ar y teledu yn y rhaglen “I’m a celebrity get me out of here” a pheth amser yn ol ar raglen teledu arall “Grand Designs”. Cymerwyd y trac i’r gogledd ac i’r A487, y ffordd o Gricieth i Pwllheli gan ddod allan wrth y “lodge” isaf o hen stad Bron Eifion. Yma dyma fynd i’r chwith am oddeutu canllath ac i’r dde i fyny’r dreif i’r maenordy nawr yn westy prysur. Cyn cyrraedd y gwesty fe aeth y llwybt cyhoeddus i’r chwith a dilyn hanner milltir gwlyb a mwdlyd cyrraedd y lon uchaf o Llanystumdwy i Griccieth. Wedi mynd i’r dde ac ar ol oddeutu hanner milltir dyma gyrraedd, Bryn Awelon, cyn gartref Dame Margaret Lloyd George, adeiladwyd iddi gan ei gwr David Lloyd George, y prif weinidog yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Aeth y daith ymlaen i lawr Rhes Arvonia a chroesi’r B4411, y ffordd o Griccieth i Gaernarfon ac ar ol gorchfygu ffordd drol fwdlyd a dau gae, cyrraedd Plas Mynydd Ednyfed. Yn dilyn mynd i’r chwith roedd yna ddewis i unrhyw ddringo Mynbydd Ednyfed neu cerdded oddeutu ei odre, ond oherwydd fod y tywydd anffafriol yn parhau cymerwyd y diwethaf ac ymuno gyda’r ffordd fechan yn arwain i’r hen gwrs golff Criccieth. Yna i fyny drwy’r hen gwrs a gaeodd yn 2017 a chyrraedd fordd fechan arall yn arwain i fferm Braich y Saint ble mae y ty fferm canoloesol yn sefyll ar ffordd y pererinion i Enlli. I lawr y rhiw a hanner milltir ymhellach cymerwyd llwybr ar y dde yn arwain i dy sylweddol, Eisteddfa,tan yn ddiweddar disgynyddion Lloyd George oedd yn byw ynddo, yna cyrraedd y briffordd Porthmadog i Griccieth yr A487. Yn y fan honno mynd i’r dde am 200 llath ble dewisodd tri cerddwr gario ymlaen ar y llwybr troed yn gyfochrog a’r ffordd bost i Griccieth oherwydd fod y glaw wedi bod yn barhaol ac roedd un ohonynt wedi anghofio ei chot law!. Roedd y llwybr ar y chwith yn arwain i Ystumllyn, ty arall hynafol, ble yn ol yr hanes yn yr 18ed ganrif roedd yna gaethwas a elwyd “Jac Black” yn gweini, ond yn yr amser diweddar mwy goleuedig cyfeirwyd ato fel ”Jac Stumllyn”. O Ystumllyn dim ond pymtheg munud o gerdded drwy gaeau oedd hi cyn cyrraedd y rheilffordd Porthmadog/Criccieth ac i’r dde am 400 llath, dau gerddwr ar y llwybr a’r gwedill ar y lan y mor caregog cyn cyrraedd yr caffi/ty bwyta enwog, Dylans, gyda 200 llath ar hyd y rhodfa yn dilyn yn ol i’r man cychwyn. Nid oedd hwn yn ddiwrnod i fwynhau yr golygfeydd rhyfeddol sydd yn arferol ar gael. Fe wnaeth y daith oddeutu saith milltir fynd heibo nifer o fannau hanesyddol ac yr oedd y sgyrsiau yn llifo. Roedd y cerddwyr pryn bynnag yn falch o gyrraedd eu ceir, a chychwyn am adref heb oedi, a rhoddi heibio eu dillad gwlyb. Dafydd Williams.
Dydd Sul 5ed Ragfyr 2021. Mawddach - Llyn Gwernan. Cyfarfu 9 aelod o’r clwb yn Dolgellau ar gyfer cylchdaith 10.5 milltir o dan arweiniad Hugh Evans ar hyd y Mawddach a drwy ‘r wlad fryniog a choediog o dan Cader Idris. Cychwynnodd y grwp o’r maes parcio Cefn Marian Mawr ar draws y maes rugby ac heibio’r cylch cerrig wedi ei greu ar gyfer yr Eisteddfod 1949. Yna, dyma’r daith yn ymuno a’r trywydd Mawddach ardderchog, llwybr gwastad a chyflym amrywiol ei ddefnydd yn dilyn trac y cyn reilffordd Abermaw-Dolgellau a fu gau gan Beeching ym 1965. I ddechrau fe aeth y ffordd ar draws ac yna rhedeg yn agos i’r Afon Wnion olygfaol, ac yn fuan cyrraedd adran gyda coed bob ochr yn rhedeg ar hyd aber eang yr Afon Mawddach, gyda golygfeydd gwych ar draws i’r bryniau ar yr ochr ogleddol o’r dyffryn. Roedd yna aros am banad yn agos i’r dafarn ger yr afon George lll yn Penmaenpool, yn agos i’r hen bont doll bren yn dyddio o 1879. Ar ol tair milltir aeth y ffordd i fyny i goed braf Abergwynant, nawr yn cael ei rheoli gan y Parc Cenedlaethol sydd raddol yn adnewyddu coed cynhenid dail llydan? I gymeryd lle y coniffers blanwyd yn 1965. Gwneuthpwyd cylchdaith fer i olygwedd ysblennydd yn edrych yn syth i lawr yr aber i Abermaw. Yna roedd llwybr coedwigaidd dymunol i’r de-ddwyrain yn gyd ochrog a dyfroedd byrlymus Afon Gwynant, gan fynd heibio gweddillion odyn galch oedd unwaith yn cynhyrchu calch i daenu ar gaeau lleol. Ymhellach ymlaen tu draw i’r Llety Ieuenctid Frenhinol, wedi ei sefydlu mewn ceunant dyfn ger Islawr Dref, roedd yna adran serth yn dringo i oddeutu 600 troedfedd o uchder.Yn agos i’r copa roedd arosiad am ginio mewn man hardd ymhlith hen waliau cerrig, yn edrych ar draws coed a caeau bychan gwyrdd i gyfeiriad Pared y Cefn Hir garw, uwchben Llynnau Cregennan. Yna trodd y ffordd i’r gogledd ddwyrain ar hyd ffordd wledig hir, rhan o’r hen Ffordd Ddu, gan fynd heibio gwesty fechan oedd unwaith yn adnabyddus ar lan Lyn Gwernan heddychol.Roedd rhan olaf o’r daith yn mynd oddi ar y ffordd ac yn dilyn llwybrau caeau agored. Yma roedd golygfeydd rhwng y coed, y goreuon o’r diwrnod, i gyfeiriad copau y Rhinogydd a’r Arans. Dyma trac deiliog yn mynd i lawr i Ddolgellau yn rhoddi golygfa eglur o’r strydoedd cul ac adeiladau cerrig cadarn llwyd o’r dref hanesyddol wych yma. Roedd hon yn daith hir dda gyda dringfeydd cymedrol, yn cymeryd ychydig dros 5 awr, diwrnod campus allan yn yr ardal wledig ffrwythlon amrywiol o dde Feirionnydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 2il Rhagfyr 2021 Nefyn i Pistyll. Daeth 16 o gerddwyr ynghyd yn maes parcio Stryd y Plas am daith gyfarwydd i Pistyll ac yn ôl.
Cychwynnodd y daith ar Lwybr yr Arfordir , heibio Ffynnon enwyd ar ol John Morgan , gan nodi nad yw eto yn glir pwy oedd y gwron. Gan fod y Llwybr Arfordir yn dilyn yr hen Lwybr Pererinion mewn rhai mannau gall fod y ffynnon yn bur hen.
Gan mae’r bwriad oedd dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir, a gyda thywydd tawelach ac awyr cliriach na’r dyddiau cynt gadawyd y llwybr Arfordirol gan droi i fyny at gopaon y Gwylwyr a Charreg Lefain. Gyda hanes morwrol Nefyn gall fod y Gwylwyr yn le i’r teuluoedd gadw llygad am gychod yn dychwelyd. Gobeithio nad yw’r enw Carreg Lefain yn arwydd fod anwyliaid rhai teuluoedd heb ddychwelyd yn ol y disgwyl.
Mae’r llwybr yma yn weddol serth ond cafwyd sawl cyfle i fwynhau’r olygfa yn ol dros Nefyn a Phorthdinllaen, a dros banad yn eistedd ar y cerrig oedd yn weddillion hen fwthyn . Er na fentrwyd i’r copaon y tro hwn, wrth gyrraedd rhan uchaf y daith cafwyd golygfeydd i’r dwyrain wedyn at Yr Eifl, Yr Wyddfa, Moel Hebog a’r Moelwynion.
I lawr wedyn i gyfeiriad Bwlch y Gwynt (heb fod yn rhy wyllt heddiw) a gweithio ein ffordd lawr i’r lôn rhwng Nefyn a Llanaelhaearn gan ei chroesi yn ofalus ac ail ymuno a’r llwybr arfordir Mae yn pasio trwy nifer o gaeau a heibio’r tai gwyliau a godwyd ar ac o gwmpas adfeilion gwesty Plas Pistyll cyn cyrraedd yr Eglwys.
Gyda mymryn o haul ar ein cefnau dewisodd yr aelodau fwynhau eu cinio tu allan.
Mae’n debyg y codwyd yr eglwys wreiddiol fel lle tawel i Sant Beuno fyfyrio . Erbyn y 15fed ganrif roedd adeilad gerrig wedi ei chodi. Ymddengys fod y wal ogleddol yn ddi-ffenest yn wreiddiol gan fod y gwyntoedd o’r môr yn bur egr. Nid oedd y diffyg golau yn cael ei gyfrif yn broblem gan y rhai oedd a gofal am y gwaith adeiladu ar y sail fod y gynulleidfa yn anllythrennog. Yn ddiweddarach agorwyd un ffenest gul i’r gwahangleifion gael gweld y gwasanaeth heb beryglu iechyd yr addolwyr eraill.
Dychwelwyd i Nefyn ar hyd llwybr yr arfordir trwy’r caeau, yna croesi'r lon a dilyn ymlaen trwy goetiroedd, a thros hen inclein chwarel, i ddychwelyd yn ol yn ddiogel i Nefyn ar derfyn taith hamddenol o ryw 5 milltir. Gwynfor Jones.
Dydd Sul 28ain Dachwedd 2021. Cwm Llefrith, Moel yr Ogof, Moel Lefn, Cwm Pennant. Roedd taith heddiw yn Cwm Pennant ar y grib sydd yn llunio ei ochr dywreiniol. Eryl Thomas arweiniodd grwp o 9 yn cychwyn o Fferm Cwrt Isaf. Dringodd y ffordd yn gyson 1150 troedfedd i fyny Cwm Llefrith i Bwlch Meillionen, gan ddilyn yn agos i’r ffrwd ac i’w thariad. Pasiodd y llwybr weddilliono mwynglawdd copr Moel Hebog, un o lawer o anturiaethau mentrus Eryri y 19eg ganrif ble roedd disgwyliad yn rhagori ar reality o ansawdd sal a incwm isel. Roedd yna aros yn y fan hyn am banad o ble roedd golygfeydd hyfryd i lawr i’r unig a heddychol Gwm Pennant. Dilynodd dringfa fer ond serth i gopa Moel yr Ogof, wedi ei enwi o’r agos, ond yr ogof anodd i ddod o hyd iddi, ble yn ol yr hanes, fu Owain Glyndwr yn cuddio o’r milwyr saesnig. Roedd y copa o 2150 troedfedd yn caniatau golygfeydd gwych i’r gorllewin i gyfeiriad Grib Nantlle ac i lawr i Lyn; ac i’r dwyrain rhai o gopau Eryri gyda eira ysgafn arnynt. Tan hyn roedd y tywydd wedi bod yn oer, ond yn sych, yn glir ac yn gymedrol dawel. Sut bynnag daeth y grib tu hwnt a dros Moel Lefn a dinoethiad i wyntoedd gogleddol cryfach a rhynllyd ac, yn fuan ar ol cinio sydyn yn gymharol gysgod ger Bwlch Sais, daeth hyrddwyntoedd o law ac eirlaw ymosodol. Fe wnaeth hyn y ddisgynfa yn anodd ar lwybrau creigiog yn fwy llithrig a pheryglus nac arfer. Felly roedd hi yn ollyngdod i adenill tir is ac mwy gwastad yn Bwlch Cwm Trwsgl ac i sychu mewn sefyllfaodd tawelach. Pasiodd y ffordd y pwll tyfn yn Chwarel y Dywysoges ac ymhellach ymlaen y lefelau o resi eang o hen waithfeydd, llethrau ac adeiladau gwersyll yn bodoli yn y mwyaf, ond hefyd byrhoedlog Chwarel Tywysog Cymru. Yn is i lawr roedd yr waliau cerrig a’r pontiau o’r felin naddu unig yn olygfa yn dwyn cof o amseroed cynt! Oddi yno dilynodd y ffordd y trac o’r hen dramffordd sydd yn amlinellu yn araf i lawr y dyffryn, oedd unwaith yn mynd a’r llechi gorffonedig ger Cwmsytradllyn i’r glanfaoedd ym Mhorthmadog. Aeth y filltir olaf o’r daith ar lwybr cae a heol fach ymhellach i’r gorllewin trwy Brithdir ac yn diweddu drwy ddringo llwybr bryn byr yn ol i Cwrt Isaf. Roedd hwn yn ddiwrnod da, y tro cyntaf i’r clwb brofi amodau mynyddig gaeafol y flwyddyn hon, dros 7 milltir a 2600 troedfedd o ddringo dros bron i 6 awr. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 25ain Dachwedd 2021. Towyn Farm - Llwybr yr Arfordir Cwmistir . Judith Thomas arweiniodd 10 cerddwr ar daith 6-7 milltir ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru o Fferm Towyn ger Tudweiliog i’r gogledd i Cwmistir. I ddechrau roedd y tywydd yn glir a heulog, ond oer oherwydd y gwynt gogleddol bywiog o’r tir, tra roedd cymylau stormlyd wedi cyrraedd erbyn cinio. I gychwyn cymerodd y daith ffordd i’r tir am oddeutu milltir ar hyd ffordd wladol a thrac, ac ymuno a llwybr yr arfordir ger Pant Gwyn. Yna dilynnodd y llwybr yn agos ar hyd clogwyni isel, i fyny ac i lawr dros olyniaeth o gilfachau hyfryd creigiog bychain, fawr ddim ohonynt wedi eu enwi ar y map OS. Roedd y rhain yn rhoddi golygfa wych o hen greigiau gwyrdd a llwyd yn cael eu cernodi yn ddiddiwedd gan donau yn gwrthdaro a rhuo, gyda ewyn trwchus gwyn yn torri allan mewn cawodydd yn y gwynt. Roedd y tir pori gwyrdd ar ben y clogwyn yn aml yn cyferbynnu gyda’r hesg hydrefol oren ar y traeth. Roedd yna olygfeydd hardd yn y pellder o’r Eifl ac arfordir Ynys Mon, ac hefyd y curnol pigyrnaidd amlwg Garn Fadryn gerllaw. Ychydig tu draw i brydwedd fwa naturiol, daeth y parti i gwpl o gilfachau wedi eu meddiannu gan griw o oddeutu 20 morloi llwyd. Roedd y teirw enfawr yn gorwedd ar y tywod ar y traeth, yn llonydd fel creigiau enfawr, tra roedd aelodau ifancach o’r teulu yn deifio i mewn ac allan o’r dwr. Wedi ,mynd o amgylch Penrhyn Cwmistir, cymerodd y ffordd gylchdaith fer i’r tir ar hyd traciau heibio Bryn Gwydd. Daeth hyn yn ol i gilfach ddymunol oedd yn le cysgodol i gal cinio a difyrrwch gan sawl sigl-i-gwt a llymarch ddaliwyr. Dilynodd y parti lwybr yr arfordir yr holl ffordd yn ol yn y prynhawn, a mwynhau golwg swyngwsgol a swn y mor. Roedd y llwybr ar y cyfan wedi ei gynnal yn dda a dim ond ychydig o fwd gyda rhannau o fordiau cerdded cyfleus. Oddeutu milltir o gartref, fel roedd pentref Tudweiliog yn dod i’r golwg, dyma un o nifer o hyrddwyntoedd fygythiol, “Pembrokeshire Dangler” fel y gelwid, yn gwibio i lawr y Mor Gwyddeleg yn ffrwydro ac yn rhoddi i’r parti wlychfa siarp i orffen mewn steil ychydig o oriau gwobrwyol ac adnewyddus allan yn yr awyr iach. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 21ain Dachwedd 2021. Foel Offrwm a Llwybr Cynwch. Cyfarfu grwp o 14 o aelodau’r clwb yn agos i ddiwedd yr hen bont yn Llanelltyd ar gyfer taith yn cael ei harwain gan Noel Davey yn y tirwedd ucheldir braf oedd unwaith yn ffurfio y tir parc o’r hen Stad Nannau. Roedd yn ddiwrnod sych a heulog, gyda’r gwynt o’r gogledd. i gychwyn aeth y ffordd ar yr heol fach i’r dwyrain, yn caniatau cipolygon o adfeilion hynafol Abaty Cymer, cyn gwneud dringfa rhwydd drwy lwybrau caeau i fyny i Llyn Cynwch, llyn pysgota tawel a chronfa i Ddolgellau yn 700-800 troedfedd, yr uchder gyffredin am weddill y daith. Roedd yna aros am ddiodydd poeth ar y creigiau ar yr ochr orllewinnol o’r llyn ble roedd yr haul yn cynhesu rywfaint ar aer rhynllyd y boreu. Yn ddiwedd y llyn cymerodd y parti lwybr graean trefnus yn cysylltu i’r maes parcio ymwelwyr prysur yn Saithgroesffordd ar ffordd Abergeirw. Yna roedd cylch drampan o 2.5 milltir o amgylch Moel Offrwm ar lwybr campus a gwastad, un o ddwy ddolen olygfaol boblogaidd a baratowyd yn wreiddiol i ymwelwyr gan Stad Nannau a’u mabwysiadu gan y Parc Cenedlaethol. Gwnaeth y mwyafrif o’r parti gylchdaith ar yr ochr gogleddol o’r Foel i ddringo 500 troedfedd ar lwybr serth i’r copa, y man uchaf o’r diwrnod. Yn y man hyn mae gweddillion o gaer oes haearn ddiddorol ac yn hwyrach yn dwr arwydd. Roedd hwn yn caniatau golygfeydd rhyfeddol 360 gradd banaramic, yn cynnwys Yr Arans i’r dwyrain, y grib hir Cadair Idris yn agos i’r de, Abermawddach a’r Rhinogydd i’r gorllewin a mynyddoedd pell Eryri i’r gogledd. Daeth y gwynt sionc a’r parti i lawr yn fuan i ddod o hyd i le cysgodol am ginio ar ochr nant ar ymyl Coed Pant Ebolion. Ymlaen o amgylch y Foel aeth y llwybr, yn caniatau golygfeydd ar draws i Ddolgellau a’r argraffiadol, ond nawr wedi ei esgeuluso, Plas Nannau, yn chwith ei weld o’i gymharu a’i bwysigrwydd yn yr 18 a’r 19 ganrif pan oedd y teulu Vaughan bwerus yn berchenogion o’r stad. Drwy ddychwelyd i’r llwybr ddolen yn ol i Llyn Cynwch, cymeroedd y daith y ddolen o lwybr Cynwch. Roedd y ffordd enwog yma yn amliellu o amgylch ar ysgafell gul am oddeutu dwy filltir, yn uchel i fyny ar y bryn serth yn ystlysu y dyffryn wedi ei lunio gan y rhan uchaf o Afon Mawddach. Nid oedd hyn mor frawychus a hyny gan fod y llwybr yn wastad ac wedi ei gynllunio yn dda; Gwnaethpwyd y gamp gan yr holl barti yn cynnwys rhai yn dueddol i bendro. Roedd y cerddwyr yn medru mwynhau y golygfeydd ysblennydd, yn syllu yn ofalus i lawr yr ochr o gerrig rhydd a llechweddau rhedyn i ddyfroedd llewyrchaol o’r afon yn ymdroelli drwy’r caeau gwyrdd ffrwythlon dyffrynol ymhell islaw, ger bron yr A470 brysur. Troiodd y ffordd i ffwrdd yn Foel Faner yn y de o adran tarren, gan gymeryd llwybr aneglur a’i gamosod dros dro drwy dir mynediad agored. Yn fuan ymunodd hwn a thrac llydan gwyrdd hawddd yn disgyn i lon fach yn ol i’r man cychwyn. Oddeutu 10.5 milltir o hyd oedd y daith gyda 2000 troedfedd o ddringo dros ryw 6 awr. Roedd y tywydd da yn help i wneud y goreu o’r tirwedd ddeniadol a diddorol a’r golygfeydd braf. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 18ed Dachwedd 2021. Cylchdaith Garreg Llanfrothen. Cyfarfu mwy na dwsin aelod yn Garreg-Llanfrothen am daith 6 milltir hyfryd yn y rhan o wlad yn codi i’r dwyrain o Gwm Croesor. Roedd hi eto yn ddiwrnod hydrefol sych a mwyn, gan fwyaf yn gymylog, ond yn cynnig golygfeydd braf miwtanaidd o’r cochddu a’r aur o’r coed a’r rhedyn ar hyd y llethrau. Oherwydd fod parcio yn ganol y pentref yn Siop y Garreg yn brin cychwynnodd y daith o’r Brondanw Arms cyfagos, a elwir yn lleol fel “Y Ring”, ble unwaith roedd cychod yn anghori, cyn i’r Traeth Mawr gael ei sychu. Aeth y ffordd i fyny i gyfeiriad Croesor, gan basio y ty hanesyddol a’r gerddi anarferol yn Plas Brondanw, cartref treftadol a chread Clough Williams Ellis, nawr yn gartref i oriel gelf a chaffi haf. Trodd y llwybr a dringo yn gyson am oddeutu milltir drwy goed hyfryd, gan basio y ty Garreg Fawr. O amgylch uchder o 800 troedfedd roedd yna aros am baned haeddiannol ger Pen yr Allt, ar y cyffordd hefo’r ffordd ucheldir gul o Groesor i Tan y Bwlch. Yna aeth y fordd i’r de, gan basio’r dyfodiad i fyny ysgwydd orllewinnol Moelwyn Bach. Yn Ogof Llechwyn cymerwyd lwybr dymunol drwy gae a thrwy Ty’n Ddol, yn agos i Rhyd a ffordd taith dydd Sul diwethaf. Yna dyma lwybrau mwy agored yn mynd i’r gorllewin heibio Hendre Gwenllian a Tyddyn Gwyn. Roedd yna aros am ginio wrth droed bryn bychan amlwg Moel Dinas gyda olion prin o gaer o’r oes haearn. Ymhellach ymlaen ymylodd y llwybr ty cerrig argraffiadol o’r 18ed ganrif Wern. Y pleser olaf o’r disgyniad oedd ymweld a “Park” Brondanw sydd wedi ei esgeuluso, yn nodweddi twr anarferol a chastell ffug, anrheg priodas i Clough gan ei gyd swyddogion yn y Welsh Guards yn 1915. Mi wnaeth rhai ddringo y stepiau peryglus i gael golygfeydd rhyfeddol o’i dop. Yn is i lawr mae cofgolofn yn cofnodi tan yn Brondanw yn 1955. Ar ddiwedd y daith, aeth rhai ymlaen heibio’r twr cofeb rhyfel gwahanol yn Garreg i’r Caffi Gegin ardderchog, rhan o Fenter Llanfrothen. Roedd hon yn daith amrywiol a gwobrwyol dros oddeutu 4 awr a phawb wedi ei mwynhau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 14eg Dachwedd 2021. Cylchdaith Rhyd. Dafydd Williams arweiniodd 14 cerddwr ar y diath gron heddiw trwy Rhyd mewn tywydd teg hydrefol, llonydd a digon chlir. Yn dilyn peth anrhefn ynglyn a pwy un o’r nifer o arosfannau ar yr A487. I gychwyn, aeth y daith i’r de o’r ffordd ar hen heol fach ddymunol, unwaith y brif ffordd rhwng Maentwrog a Phenrhyndeudraeth, yn dilyn drwy ddyffryn coediog braf. Tu draw i Bryn Dwyryd, aeth y ffordd ar lwybr coediog ar draws yr A487, drwy wersyll Blaen Cefn ac i ben tref Penrhyn. Yna roedd aros o ddau funud ar gyfer Dydd y Cofio ac yna aros arall am baned ar olygwedd wrth ochr croesfan Rheilffordd Ffestiniog. Trodd y fordd i’rgogledd-ddwyrain gan ddilyn drac metelaidd yn amlinellu ar draws ochr y bryn yn caniatau golygfeydd i’r de ar draws Penrhyn i gyfeiriad mynyddoedd y Rhinogydd. Tu draw i Rhiw Goch cymerwyd trac drwy goedwig werdd lachar mwsoglyd, cynt yn ardal mwyngloddio plwm Bwlch y Plwm. Daeth ardal agored ar draws caeau corslyd a’r parti i ffordd B a’r llond dwrn o fythynod, pentref Rhyd. Yma cafodd y parti ddewis i barhau ymlaen ar y ffordd, ond cymerodd chwech gylchdaith fer olygfaol i’r gogledd yn golygu croesi cors corsenllyd. Tu draw i Bwlch y Maen, roedd bonynau coed wedi eu gadael gan gliriad coedwigaedd yn le addas ar gyfer cinio. Yna roedd trac yn troelli drwy goed ac yn disgyn yn serth i ddyfroedd llonydd Llyn Hafod y Llyn. Dringodd llwybr heibio man uchaf Y Gysgfa, yn dod a golygfa i lawr ar draws aber y Dwyryd, yn cynnwys yr hen ceiau llechi a chroesfan newydd Briwet. I derfynnu arweiniodd llwybr coediog dymunol i lawr ar draws Rheilffordd Ffestiniog i’r ffordd bost a’r arhosfannau yn Coed Cae Fali. Roedd hon yn daith 6.8 milltir dda, yn cynnwys dringo rhwydd a chyfanswm oddeutu 1400 troedfedd, drwy gefngwlad, yn ddisglair gyda gwar yr Hydref. Noel Davey. (Cyf:DHW)
Dydd Iau 11ed Dachwedd 2021. Cylchdaith Llanbedrog. Miriam Heald arweiniodd 17 o aelodau ar gylch o Lanbedrog. Er gwaethaf glaw yn fuan yn y boreu fe arhosodd yn ddiwrnod sych, er yn gymylog am weddill y daith. Cynhaliwyd ddau funud o dawelwch am 11 o’r gloch i goffau diwedd y Rhyfel Byd cyntaf ac i gofio y dynion a’r merched a laddwyd yn gwasanaethu eu gwlad yn y rhyfeloedd dilynol. Cychwynnodd y daith o’r maes parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol a i’r traeth ac i fyny’r stepiau i’r llwybr arfordirol ac yna ar draws y cae i Faes Carafanau Crugan. Cymerwyd cinio wrth y fynedfa i Wern Fawr. Yna fe aeth y ffordd i’r chwith ar draws dau gae i Lon Pin ac i’r chwith eto i gymeryd y llwybrau yn ol i Lanbedrog, heibio Maes Carafanau Wern Newydd. Ar ddiwedd y daith mwynhaodd rhai o’r cerddwyr goffi a sgons yn Plas Glyn y Weddw. Roedd hon yn daith fer bleserus. Miriam Heald. (Cyf:DHW).
Dydd Sul Tachwedd 7ed, 2021. Cymoedd Ffestiniog a Rhaeadrau. Daeth diwrnod clir a heulog hydrefol a 14 cerddwr i Llan Ffestiniog ar daith arbennig yn cael ei harwain gan Eryl Thomas drwy’r tirlun arbennig o ddyffrynnoedd afonig, rhaeadrau a choedwigoedd yn estyn i fyny i Blaenau. Yr arhosiad cyntaf oedd golygfedd wych o’r wlad o amgylch o dwmpath uwchben yr eglwys lleol a’r fynwent. Yna cerddodd y parti i’r de i weld Rhaeadr Cynfal, y cyntaf o dri rhaeadr wych a ymwelwyd yn ystod y diwrnod oedd yn orlifo. Gan fynd yn ol arweiniodd y ffordd drwy dref Ffestiniog ac i’r gogledd ar hyd amrywaith o draciau a llwybrau dymunol, yn cynnwys torlannau ffawfydden yr holl ffordd a chenllifoedd yr Afon Teigl , ger Cae’r Blaidd yn corddi. Ar ben Cwm Bowydd, prin islaw ymyl Blaenau, aeth y ffordd i’r gorllewin dros estyniad o rostir gyda creigiau’r Moelwynion tu ol a gwrthgloddiau Argae Stwlan. Wedi croesi’r A496 ger ffatri blastig Rehau, cerddodd y parti drwy’r hen bentref chwarel ddiddorol Tanygrisiau yn barod am ginio ar yr maes gwyrdd ar ben storfa Tanygrisiau. Yn y prynhawn dilynnodd y daith yr ochr orllewinnol o’r llyn, myned heibio’r stesion hidro storio bwmpio pwer, y cyntaf i’w adeiladu yn y DU. Achosodd adeiladu’r offeiriant a’r gronfa rhwng 1956 a 1963 i lifeirio trac y Reilffordd Ffestiniog ac oedd rhaid adeiladu twnnel newydd a “gwyriad” troellog yn stesion Dduallt a adeiladswyd 1965-77 i gyfaddasu y newid yn lefel y trac. Gwnaeth y cerddwyr eu gwyriad oddi ar y ffordd i edrych ar yr beirianyddiaeth rheilffordd hynod yma, gyda cofeb ddaearyddiaeth leol gerllaw. Oddi yno roedd disgyn drwy goedwigoedd pinwydden islaw Clogwyn y Geifr yn arwain lawr i Warchodfa Genedlaethol Natur Coed Cymerau, yn cynnwys dau argau ysblennydd ar yr Afon Goedog. Aeth y rhan olaf o’r daith ar y ffin wair i lawr rhan o’r briffordd, ar hyd llwybr yn ddwfn yn y goedwig drwy Coed Pengwern ac yn olaf, fel roedd y cyfnos yn agosau, dyma “bigiad hegar” o ddringo 400 troedfedd yn ol i fyny’r bryn i Llan Ffestiniog. Roedd hon yn ddiwrnod bleserus a diddorol dros ben, allan am dros 7 awr yn cynnwys oddeutu 2350 troedfedd o ddringo cynyddol, y mwyafrif yn weddol haws – cyfle da i ymchwilio’r ardal gydd arbennig yma o gefn gwlad Gwynedd. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Tachwedd 4ydd 2021. Taith o Nefyn heddiw i fyny i ac o gwmpas Garn Boduan. Dyma ail adrodd y cyntaf o’r teithiau gynhaliodd y Clwb wrth i’r cyfnod clo gwreiddiol ddod i ben. Y tro hwn cafwyd 13 ar y daith o gymharu â 5 ar y daith gyntaf. Diolch i Noel am arwain y ddwy.
Bu’r tywydd fymryn llai caredig na’r rhagolygon, gyda chawodydd ysgafn rhwng ysbeidiau heulog ond bygythiad gwag oedd y cymylau mwy bygythiol welwyd yn ystod y dydd. Wedi cychwyn o faes parcio Stryd y Plas, dringwyd Stryd y Fron gan droi trwy goedlan gonifferaidd ifanc ac yna rhai mwy aeddfed yn uwch i fyny ar lethrau Gogledd Dwyreiniol y Garn. Wedi cyrraedd y cyfuchlin 750m cafwyd llwybr garw yn troi fyny trwy rug a chreigiau nes daeth gweddillion mynedfa Gogledd Dwyreiniol yr hen fryngaer i’r golwg. Mae’n llenwi tua 30 cyfer o gwmpas y copa, a dyma’r fryngaer fwyaf yn Llŷn mae’n debyg.
Anelwyd yn gyntaf i’r prif gopa tua 950 tr uwch y môr sydd yn Gaer ynddo’i hun bron. Cafwyd cysgod dros ginio mewn dwy gysgodfan garreg. Yn anffodus rhai modern yw'r rhain yn tynnu fymryn oddi ar gofnod archeolegol yr heneb. Beth bynnag am hynny cafwyd golygfeydd gwych am Garn Fadryn i’r gorllewin, dros drwyn main Porth Dinllaen i’r gogledd a lawr hyd yn oed at Enlli. I’r De a’r Dwyrain gwelwyd Bae Ceredigion a Mynyddoedd Elennydd tu hwnt.
Wrth ymadael a’r copa cafwyd cip o rai o’r cylchoedd cerrig, esiamplau yn unig o thua 170 adeilad sydd erbyn heddiw i raddau helaeth wedi eu gorchuddio gan dyfiant grug, rhedyn a hyd yn oed coed. Gadawyd y copa drwy’r porth de dwyreiniol a dilyn llwybr lawr i’r lôn rhwng Boduan a’r Ffôr. Croesi’r A497 wedyn a dilyn llwybrau gwledig , cyn ymuno a llwybr y Morwyr heibio Carreg Lwyd a thŷ Penhyddgan. Gyda chymorth sawl pont droed llwyddwyd i groesi tir gwlyb ar gyrion Cors Geirch, cyn croesi’r A497 eilwaith a nôl trwy’r dyffryn yn ein harwain i dref Nefyn i gwblhau taith fer ond eithaf heriol (5.5 milltir ond esgyniad o dros 1000 o droedfeddi). Noel Davey. Cyf GJ
Dydd Sul 31ain Hydref, 2021. Cylchdaith Sarn. Roedd taith heddiw yn un wlyb arall gyda cawodydd parhaol, a gwynt cryf yn cynnyddu ac rhai cyfnodau heulog yn y boreu. Ann Jones arweiniodd 14 cerddwr, yn cynnwys dau aelod newydd, ar gylch o 8.5 milltir gyda Sarn Meylllteyrn yn ganolfan. O ganlyniad i’r glaw a’r llifogydd yn y dyddiau diwethaf, yn ddoeth iawn mi gadwodd y ffordd i heolau bychain a thraciau, gan fod y mwyafrif o lwybrau o dan ddwr ac yn fwdlyd iawn. Yn y cychwyn roedd y daith yn dringo’r ffordd yn arwain i’r de allan o’r pentref, gan fynd heibio safleoedd nifer o hen felinau dwr. Yna aeth y daith i’r gogledd orllewin a chyrraedd pentre Bryncroes ble mae Ffynnon Fair, newydd ei adnewyddu gan AONB, oedd tebyca yn un o’r arhosiadau olaf ar ffordd y pererinion i Ynys Enlli. Yna croesodd y parti yr B4413 a chymeryd trac mwdlyd heibio Pencraig Fawr i ardal o gaeau mawr agored o dir pori doreithiog ar gyfer gwartheg godro Stad Cefn Amwlch. Mae’r cyn wrychoedd a chaeau bychain nawr wedi eu disodli gan ffensis trydan. Dilynnodd y ffordd gyfres o draciau fferm llydan graeanog wedi eu datblygu i gael yr heidiau i’r man awyr agored canolog ac fecanyddol odro a tanciau storio perthnasol sydd yn rhan o’r anturiaeth fodern yma. Rhoddodd y bryncyn bychan Foel Mellteyrn olygfa amlwg wyntog o’r basn tir fferm ffrwythlon yn ymestyn i’r de i Sarn a Mynydd Rhiw. i’r gogledd roedd coed Mynydd Cefn Amwlch yn cuddio adeiladau’r 18 ganrif y Plas ei hun. Ymhellach ymlaen roedd yna aros derbynniol am ginio mewn adeilad fferm soled oedd yn gysgod o’r tywydd gwlyb a gwyntog oedd yn brysur ddirywio. Dilynnodd y rhannau olaf o’r daith hen drac wrychlyd a heol fach i’r de drwy Trefaes, throi i’r gorllewin a mynd a’r parti heibio twrbin gwynt amlwg Crugeran a sied amlwg werdd ffowls, yn ol i lawr i bentref Sarn, yn nythu yn nyffryn uchaf o’r Afon Soch. Roedd y cerdded yn gymharol rhwydd, yn caniatau digon o amser i gloncian, ond roedd cyflymdra da wedi bod, yn y fan fwyaf, ar arwynebau palmantaidd oedd, gyda dringo cynyddol o bron 1700 troedfedd, yn golygu iddi fod yn daith egniol dros 4.5 awr. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau 28ain Hydref 2021. Coed-y-Brenin. Nick White arweiniodd 7 aelod o Tyn y Groes, i’r de o Ganllwyd, ar gylch hamddennol o 4.9 milltir, yn cynnwys cymysgfa o ffyrdd metellaidd, llwybrau graeanog a llwybrau coedwigaidd. Roedd rhagolygon y tywydd yn frawychus, ond dioddefoedd y parti ddim ond gwlychfa ysgafn o ganlyniad i un neu ddwy o gawodydd ysgafn o dan gysgod y coed a adawodd y gwynt cryf ond cynnes i ffwrdd. Er iddi fod yn gymylog a thamp roedd y tirlun o goniffers gwyrdd tywyll a dail aur yr Hydref, nentydd gwyllt, a’r llwybrau tamp mosslyd yn creu trefn dosbarthiad hyfryd o liwiau mud. Roedd y llwynni disglair o goed fawydd yn neilltuol, yn olygfa ogoneddus. Aeth y daith i’r de ar lwybr ar ochr yr afon gerllaw y dyfroedd rhuadwy yr Afon Fawddach. Roedd ford anunion yn rhoddi cyfle i orwedd yn ol a syllu ar yr “Douglas Firs” anferth yn esgyn yn bensyfrdanol uwchben. Mae y rhain nawr yn agosau at fod yn 100 oed; mae’r un uchaf yn 168 troedfedd yn cael ei phenodi fel phencamper o goeden. Roedd Llam yr Ewig yn fan cysgodol dymunol i giniawa gerllaw Bont Wen. Ymhellach ymlaen roedd “Gerddi’r Goedwig” yn cynnwys coed o bob man yn y byd, yn gyflawn a “audio trail”. Roedd llwybr i’r dwyrain yn mynd heibio gweddillion o’r pwll copr Glasdir oedd ar fynd yn yr ail hanner o’r bedwerydd ganrif ar bymtheg, yn cynhyrchu copr ac aur. Prynwyd y pwll yn 1896 gan y Brodyr Elmore a aeth ymlaen i fod y cyntaf yn y byd i ddatblygu proses masnachol i ddefnyddio olew i wahanu mwyn. Yna mi ymunodd y llwybr a ffordd fach wledig, gan fynd i’r gogledd heibio Capel y Ffrwd a gardd hyfryd gerllaw. Dilynnodd y ffordd yn ol un o’r llwybrau beicio creigiog mynyddig, ac yn ffodus ddim yn cyfarfod ac un beic! Profodd hon i fod yn daith hawdd, tair awr amrywiol a ddymunol, heb fawr o effaith gan y tywydd, yn cynnwys ambell i ddringo eithaf serth gyda cyfanswm o ddringo o 730 troedfedd. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul Hydref 24 2021. Garndolbenmaen. Dim ond 5 cerddwr gyfarfodd yn Garn Dolbenmaen – roedd tri wedi canslo ynghynt ac fe benderfynodd dau o’r pump ddisgyn allan oherwydd y tywydd gwlyb. Felly roedd pump! Yn ddewr, Kath Spencer arweiniodd y daith oddeutu 9.5 milltir ar daith yn cynnwys dwy ddolen gyda’r phwysbwynt yn Cae Amos. Roedd yn ddiwrnod o gymylau isel a chawodydd ysbeidiol, ond yn wedol gynnes. Cychwynnodd y daith i’r gogledd ar hyd llwybrau cloddiog atyniadol a dringo yn gyson trwy Llidiart Mawr a 750 troedfedd o uchder heibio Gors Graianog, a chyrraedd tir agored ar wastatir uchel yn gorwedd o dan crynswth Graig Goch. Yna dyma’r daith yn ymylu i’r dwyrain drwy dirlun trawiadol, symffoni (neu wyrach yn alarnad ar y diwrnod tywyll yma) o waliau llwyd, rhedyn ungoes a llwybrau gwyrdd corsog. O’r diwedd cyrhaeddodd hwn yr hen ffermdy wedi ei atgyweirio, Cae Amos, nawr yn loches croesawys a “bothy”. Roedd wedi ei feddiannu gan fechgyn o Coventry, ond mi wnaeth y parti fedru cysgodi yn y cyntedd a chael cinio buan. Yn y prynhawn dyma ddilyn cyfeiriadau aneglur i’r gogledd-ddwyrain, gan basio adfail anial Llwyn y Betws a’r cyn chwarel, Chwarel y Plas. Roedd rhai rhannau yn cynnwys bustachu ar draws gors nodweddiadol twmpathlyd, mae yr ardal yn enwog am hyn! Roedd yn ollyngdod i ddod i lawr o’r tirlun diffaith yma i’r caeau gwyrddion a’r “gwarddeiriad” o Cwm Pennant yn Gilfach. Dyma fynd yn fywiog i’r de am 1.5 milltir ar hyd ffordd y dyffryn hyd nes i’r parti gyrraedd i troiad i fyny trac yn Pont Gyfyng ac yna ar lwybr gweundir eglur yn ol i Cae Amos. Oddi yno rhedodd y llwybr drwy y Bwlch y Bedol o amgylch troed Craig y Garn ac yna, fel i’r llwybr ddisgyn, o’r diwedd dyma’r haul yn ymddangos am yr hanner awr olaf o’r daith, ac yn caniatau golygfeydd cyntaf o’r dydd i lawr yr orynys. Roedd y tywydd a chyflwr rhai o’r llwybrau yn gwneud hon yn heic anodd dros 5.5 awr gyda 1650 troedfedd o ddringo, ond er hynny roedd y grwp bychan wedi cael mwynhad garw o’r daith egniol yn y tywydd garw. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau Hydref 21ain 2021. Cylchdaith Glasfryn. Kath Spencer arweiniodd 13 cerddwr ar gylchdaith o 6.5 miltir o barc antur Glasfryn yng nghanol Llyn. Roedd yn ddiwrnod o gyfnodau haul ond mi oedd gwynt oer o’r gogledd. Cychwynnodd y daith i’r dwyrain heibio llyn a ddefnyddwyd i “wakeboarding”, a fferm Glasfryn. Roedd rhannau o ffyrdd bychain wladol yn mynd i gyfeiriad y de-ddwyrain i Bencaenewydd ac yna i’r de i Pont y Felin. Yn fuan ar ol troi i’r gorllewin ar hyd llwybr coediog dymunol, dyma aros am baned yn ymyl gweddillion darluniadol o dy fferm yng nghysgod coed ffaweddyn. Dal ymlaen wnaeth y ffordd heibio’r ffatri “Lady Jam” ac ar draws yr A499 ar hyd adran syth o’r ffordd i bentref Llwyndyrys. Yn ymyl Fferm Llwyndyrys mae yna fferm newydd solar wedi ei chwblhau yn ddiweddar, mae hon wedi ei chysgodi gan goed a gwrychoedd. Ymhellach ymlaen, roedd yna gip olwg ar Trallwyn Hall gafaelgar, sydd wedi ei amgylchu gan gaeau stad heb ddim hawlia mynedfa i’r cyhoedd. Yna cymerwyd trac metel i’r gogledd heibio ffermydd Penfras Isaf a Penfras Uchaf. Dal ymlaen wnaeth y llwybr ar draws cae a’r Afon Erch i’r eglwys fechan Carnguwch, ar safle amlwg uwchben y dyffryn. Roedd yna arhosiad am ginio yn y man tawel yma gyda golygfeydd pell o’r mor a’r mynyddoedd gyda Mynydd Carnguwch yn codi yn serth i’r gogledd. Dilynnodd adran y prynhawn lwybrau drwy ambell i gae corslyd i’r dwyrain heibio Coed y Garth yn ol i’r ffordd fawr yn agos i Parc Glasfryn. Ar y fordd roedd cip olwg o garreg hynafol yn sefyll yng nghornel cae. Profodd hon i fod yn daith fwynhaol o 4 awr, y rhan fwyaf ar y gwastad. Arhosodd rhai o’r cerddwyr am baned wedyn yn caffi Glasfryn. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Hydref 17eg 2021. Rowen – Pen-y-gaer. Cyfarfu 11 aelod ym mhentref delfrydol Rowen yn Nyffryn Conwy. Annie Andrew arweiniodd gylch wedi ei ymchwilio yn dda oddeutu 7 milltir. Roedd y tywydd ar y cychwyn yn gymylog, ond fe arhosodd yn sych gyda’r ysbeidiau haul yn cynyddu fel i’r dydd fwrw mlaen. Dyma bont bren gul dros yr Afon Roe yn arwain y daith i’r de, gan groesi porfeydd gwyrdd a choediog. Roed y daith yn nodweddol oherwydd y nifer a’r amrywiaeth o gamfeydd, oll mewn cyflwr da! Dringodd y llwybr yn araf gan gymeryd llwybr i fyny i gyfeiriad gwylodion gorllewinnol o’r Carneddau. Newidiodd y caeau a’r gwrychoedd mwynderol i dirlun caletach o gloddiau cerrig ardderchog a rhostir o grug. Aeth y fordd heibio’r dwyrain o Penygadair ac yna i fyny copa bychan amlwg, Pen y Gaer. Yma mae gwedillion o fryngaer ddwy waliog amddyffynnol gref a nifer o gytiau crwn, yn dyddio o 300 Cyn Crist (CC) i 100 Oed Crist (OC). Roedd yna olygfeydd gwych o’r copa 1300 troedfedd, yn edrych i’r gogledd i lawr y dyffryn llydan i dref Conwy a’r mor yn Llandudno; i’r de y gwrthgloddiau creigiog o fynyddoedd Carneddau yn ymddangos drwy’r niwl, tra roedd llinell o beilons yn marcio’r hen ffordd i fyny heibio Talyfan drwy Bwlch y Ddeufaen. Daethpwyd o hyd i fan cysgodol islaw’r copa i gael cinio. Yn y prynhawn aeth y daith yn ol o amgylch sgarp serth gogleddol Pen y Gaer, a disgyn drwy’r goedwig o goed derw gwych yn Ochr Gaer. Yna aeth llwybrau lleol ar yr iseldir a’r parti yn ol i Rowen drwy goedwigoedd hyfryd yn ffurfio Gwarchodfa Cenedlaethol Natur o Coed Gorswen, yn anarferol am ei phlanhigion ar bridd alcaliaidd sydd yn brin yn yr ardal yma. Roedd rhai creigiau llithrig a mannau mwdlyd yn y fan hyn yr unig rhan o’r daith ble roedd y cerdded tipyn yn anodd. Roedd hon yn ddiwrnod allan arbennig mewn ardal ddiarth i’r Clwb. Derbyniwyd lluniaeth derbyniol yn Dafarn Ty Gwyn, Rowen cyn y siwrne hir adref i Lyn. Noel Davey. (Cyf: DHW)
Dydd Iau Hydref 14ed. Goed Niwbwrch a Llanddwyn. Jean Norton ac Annie Andrew arweiniodd 13 o Rodwyr Llyn Ramblers ar gylchdaith boblogaidd drwy Goed Niwbwrch i Llanddwyn, mentr cyntaf y Clwb allan o Gwynedd ers i’r Covid19 gychwyn. Mae’r Goedwig yn cael ei rheoli gan Adnoddau Naturiol Cymru fel Gwarchodfa Naturiol Cenedlaethol. Cafodd ei phlannu hefo Pinwyddennau Corsican rhwng 1947 ac 1965 i ddarparu coed ac i sefydlu’r tywodfryniau oedd yn symud. Mae yn le ardderchog i gerdded fel roedd y nifer oedd o gwmpas ar y gynifer o draciau yn tystio ar ddiwrnod cymylog ond yn bleserus i gerdded. Cychwynnodd y parti o’r maes parcio i’r gogledd o bentref Niwbwrch, mynd i’r De orllewin am oddeutu 3 milltir, troi yn Towen i Tir Forgan ac yna heibio Crochan Llanddwyn, ac o’r diwedd cyrraedd Traeth Ro Bach. Yma mae nodweddiadau rhanddaearegol diddorol o dwmpathau o gerrig gyda clustogau lafas wedi eu ffurfio gan weithgaredd tan-for folcanic 500mn o flynyddoed yn ol. Y tro olaf i’r Clwb fod yma roedd gwyntoedd cryfion yn chwipio’r swnd wedi gyrru’r cerddwyr yn ol, ond heddiw roedd hi yn ddigon tawel a’r llanw yn ddigon isel i gerdded ar draws y Traeth i ynys swynol Llanddwyn. Mae’r ynys yn adnabyddus yn flaenaf am ei chwedl St Dwynwen 5ed Ganrif, gwarcheidwad sant cariadon, cywerth i’r St. Valentine’s Saesneg. Mae hi yn cael ei choffau gan garreg anferth wedi ei adeiladu ar gyfer jiwbili diemwnt y Frenhines Victoria yn 1897. Mae gan yr ynys ddau oleudy olygfaol, y Twr Mawr a Twr Bach ac hefyd rhes o fythynod peilot traddodiadol a adfeilion capel. Yn dilyn cinio ar y Traeth roedd gan y parti amser byr i edrych o amgylch yr ynys, a mwynhau yr olygfa rhyfeddol ar draws y Fenai i’r ysgubiad o’r mynyddoedd ar y traeth gyferbyn, yn ymestyn o Carnedd Llewelyn heibio’r Eifl i Ynys Enlli. Aeth y ffordd yn ol ar draws y traeth ar yr ochr gogleddol o’r ynys gul ac yna ail ymuno a’r goedwig, a chymeryd trac mwy gorllewinnol yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith 8 milltir ardderchog ar dir gwastad, wedi ei chyflawni ar gyflymdra eitha cyflym. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 10ed Hydref 2021. Rhinogydd Gogleddol. Mwynhaodd parti o 14 o gerddwyr, yn cael eu arwain gan Gareth Hughes daith bleserus heddiw yn yr Rhinogydd Gogleddol. Yn dilyn rhif o deithiau Suliau sal o ran tywydd, roedd heddiw yn glir, sych a heulog gyda gwynt ysgafn ac awyr glir. Roedd y dringo i’r man cychwyn yn dipyn o antur yn ei hun gyda’r parti wedi eu gwasgu i bedwar car i yrru i ben draw ffordd serth a chul oddeutu 800 troedfedd uwchben Esingrug gerllaw Harlech. i gychwyn roedd y daith yn dilyn hen draciau , rhai adrannau yn dyddio’n ol i oes efydd ac yna yn yr 18ed ganrif yn ffordd i’r goets fawr, ac yn olaf, Llwybr Cerdded Ardudwy. Dilynnodd y prif lwybr, drac wedi ei gynllunio yn dilyn i 4 o ryw 40 mwyngloddiau manganis yn bodoli yn dir uchel Ardudwy yn bennaf o’r 1880au i’r 1920au i wasanaethu’r diwydiant dur a diwydiannau eraill. Dringodd y llwybr y trac oddeutu 1000 o droedfedd ar lethr eitha cyson a rhwydd, gan fynd rhwng y llynnau Llyn Eiddew Bach a Llyn Eiddew Mawr. Aeth ymlaen drwy dirwedd trawiadol o flociau toredig o gerrig, cyrraedd dyfroedd oerllyd Llyn Du, troiodd y fordd i’r gogledd ar lwybr cul ond weddol wastad yn dilyn i’r ddringfa byr welltog o Foel Ysgafarnogod, ychydig yn uwch na 2000troedfedd, y man uchaf yn yr ardal. Roedd y golygfeydd eang o’r copa , i’r gogledd i gyfeiriad Eryri, i’r dwyrain i gyfeiriad yr Arenigau a’r Aranau, a’r gorllewin i gyfeiriad y fraich hir o Lyn yn ymwythio allan i Bae Ceredigion. Oddi yno roedd ond taith fer i’r slabiau anferthd fertigol o Foel Penolau, yn cynnwys dwy floc fynyddig anferth wedi eu hollti gan gwli (gully)tyfn. Roedd ymgiprysio yn caniatau y mwyafrif o’r parti i gyrraedd palmantau’r copa cyn ymuno a’r gweddill am ginio wrth droed y mynydd. Roedd ffordd draws gwlad yn y prynhawn yn disgyn i’r gogledd orllewin i Llyn Dywarchen, yn nodweddi gerllaw y rhyfeddod hynod o ffrwd yn diflannu o dan ddaear ac yn ail ymddangos i lawr y cwm. Yn fuan daeth cerrig ymwythiol Bryn Cader Faner i’r golwg yn y pellter. Roedd hon yr ail dro yn ddiweddar i’r clwb ymweld a’r cylch claddu unigryw oes efydd, ond roedd yn edrych yn arbennig o drawiadol yn heulwen y dydd. Arweiniodd y rhan olaf yn ol ar hyd y trac hynafol. Roedd hon yn daith ardderchog oddeutu 7 milltir a 1700 troedfedd o ddringo, digon hawdd ar gyfer cerddwyr amrywiol. Noel Davey. (Cyf:DHW).
Dydd Iau Hydref 7ed 2021. Ardal Abersoch & Mynytho. Meri Evans arweiniodd criw o 14 aelod ar gylch ddymunol o lwybrau dryslyd diddorol a lonydd bychain o amgylch Mynytho, yn cynwys rhannau o Lwybr y Morwyr newydd rhwng Abersoch/Llanbedrog a Nefyn. Roedd y tywydd yn gymylog gyda peth glaw ysgafn, yn eitha cynnes ond yn siomedig ar gyfer golygfeydd, Cychwynnodd y daith o’r gilfach ger y Warren ar yr A499, gan gymeryd llwybr newydd ei wella heibio Haulfryn , yn awr, Maes Carafanau Gwel y Mor, a dolennu trwy Y Fras a Gadlys, safle o hen lloc. Yna arweiniodd y ffordd i gyfeiriad y Foel Fawr, ond torri i’r gorllewin i gyfeiriad Nanhoron, Porth Neigwl a Mynydd Rhiw. gorllewin ar draws caeau yn Caer Towyn dros sawl camfa lletchwith. Arweiniodd hyn ymlaen ar hyd yr ymyl gogleddol ac yna i’r de ar draws ganol Comin Mynytho. Oddi yma roedd yna olygfeydd niwlog i gyfeiriad Nanhoron, Porth Neigwl a Mynydd Rhiw. Roedd byrddau picnic a toiledau yn gysur ar gyfer cinio wrth droed y bryn crwn amlwg o Foel Gron. Yna dyma’r llwybr yn arwain i lawr heibio Wellington i mewn i “Nant Fawr” ar lwybr arall newydd ei wella. Dringodd llwybr mwdlyd heibio Muriau ac i lawr heibio Castellmarch, ty o’r 17eg cynnar a adeiladwyd ar gyfer Sir William Jones, barnwr o’r cyfnod. Gwnaeth troiad i’r chwith ar hyd yr A499 a ni yn ol i’r cychwyn. Er gwaethaf y amodau gwlyb a niwlog, roedd y daith 5 milltir yma yn rhoddi siawns i gloncian gyda ffrindiau cerdded hen a newydd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Hydref 3ydd 2021. Foel Fras-Moel Penamnen. Roedd rhagolygon y tywydd heddiw ar gyfer y daith fynyddig o Flaenau Ffestiniog i Foel Penamnen yn wlyb a gwyntog, bron iawn yn arwain i gyfnewid i daith arall lefel is. Yn sicr roedd yna wynt cryf ond roedd y glaw wedi ei gyfyngu i gawodydd byrion ysbeidiol ymysg a chyfnodau heulog, tra roedd yr awyr yn glir yn gyson. Hugh Evans arweiniodd 8 cerddwr gan gychwyn o brif faes parcio’r dref a dringo yn serth ar lwybrau a thraciau yn ochrog a gweithfeydd o’r cynchwareli llechi, Diphwys-Casson’ i fyny i Llyn y Drum Boeth oddeutu 1500 troedfedd. Roedd hyn yn agor i fyny, cyfandir agored llydan o laswelltir anwastad a tir corsog yn ymestyn i grib arbennig Penamnen. Dal ymlaen wnaeth y llwybr heibio Llyn Bowydd a Llyn Newydd, dwy o sawl gronfa a adeiladwyd ar gyfer gwaith chwarel. Yn Cwt y Bugail aeth y ffordd i’r gogledd gan ddilyn ffens corslyd digon anodd, ac o’r diwedd cyrraedd y grib a chopa disylw Foel Fras. Oddi yno roedd yna olygfeydd i’r gogledd i gyfeiriad Moel Siabod ac i lawr y dyffryn i gyfeiriad Dolwyddelan, yn lawer mwy agored yn dilyn dymchwel y coedfeydd coniffers. Ymlaen aeth y parti gyda’r gwynt yn cryfhau a chyrraedd copa Moel Penamnen ychydig dros 2000 troedfedd. Roedd offeryn llaw mesur nerth gwynt yn cadarnhau gwthfeydd dros 50 milltir yr awr, yn beryglus agos i sgarp serth gorllewinnol y mynydd. Roedd y golygfeydd o’n cwmpas yn ogoneddus, ond nid oedd hyn yn amser i oedi a dyma ddod o hyd i le mwy cysgodol i gael cinio ar y llwybr i’r gogledd. Yna roedd disgynfa serth ar wellt twmpathlyd i Lynnau Barslwyd unig. Dyma’r fordd yn ymuno a nifer o lwybrau chwarel i lawr i gyfeiriad Pyllau Llechi Llechwedd, yn awr wedi ei fyddsoddi yn drwm mewn twristiaith antur. Oherwydd y gwynt roedd y “zipwires” uwchben yn llonydd ond roedd y beicwyr niferus yn llithro’n frawychus i lawr y rhwydwaith pwrpasol o lwybrau. Daeth y disgyniad a mwy o olygfeydd rhagorol o’r tomeni chwarel anferth yn amgau tref Blaenau, tra roedd amlinell ddramatig y Moelwyns yn ymddangos uwchben. Roedd hon yn daith wobrwyol, iachus a phleserus dros 7 milltir gyda dringo o 2350 troedfedd. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 26ain Fedi 2021. Moel Goedog-Bryn Cader Faner. Cyfarfu 11 cerddwr o dan arweiniad Dafydd Williams ar ochr ffordd anghysbell gyferbyn a’r mynediad i Fferm Merthyr, yn uchel ar Gyfandir Ardudwy uwchben Harlech. Gwnaeth y clwb y daith yma oddeutu blwyddyn yn ol, ond roedd y tywydd ar y ddwy dro yn niwlog gyda glaw man, yn gwahardd y golygfeydd hardd fuasa ar gael. Ond mae’r ardal yn frith o archaeoleg yr Oes Efydd ac yn caniatau canolbwyntio cyson ar y daith. Y tro hwn gwnaethpwyd cylch cyfeiriad y cloc o Moel Goedog, yn groes i’r tro olaf. Ni fentrwyd i gopa Moel Goedog ar un o’r teithiau oherwydd y tywydd. Aeth y ffordd i’r gogledd-ddwyrain heibio cerrig yn sefyll a chylchau a charneddau. Cododd y cymylau am gyfnod yn rhoddi gologfeydd hyfryd o iseldiroedd heulog Ardudwy, yn estyn ar draws i Ynys Giftan, Port Meirion ac Aber y Dwyryd. Ar ol tua dwy filtir, ymunodd y llwybr a Llwybr Ardudwy, gan ddilyn y llwybr cyn hanesol oedd yn dal i fod y prif ffordd ar draws Ardudwy tan i’r iseldiiroedd gael ei disbyddu yn yr 19eg ganrif. Ar ol oddeutu dwy filltir arall, prif nod y daith, daeth cerrig ysblennydd ongliog Bryn Cader Faner i’r golwg yn amlwg uwchben y tirwedd o amgylch. Mae y cylch carn ogoneddus tair mil mlynedd oed – “Coron o Ddrain” - yma yn oroesiad rhyfeddol er iddo gael ei ddefnyddio fel targed ymarfer yn yr ail ryfel byd. Yn dilyn cinio a lluniau yn y man unig yma, yn ol ar hyd y llwybr, gan gadw ar Llwybr Ardudwy i’r de o Moel Goedog, gan fynd heibio y ddau lyn Eiddew. O dro i dro roedd yna olygfeydd heulog braf o’r clogwynni garw ar Ysgafarnogod a’r slabiau anferth uwchben Cwm Bychan. Er gwaethaf y tywydd siomedig, roedd hon yn daith fwynhaol a haws o 8 milltir drwy dirlun hudolus. Mae Moel Godog yn dal i ddisgwyl! Noel Davey. (Cyf; DHW)
Dydd Iau Medi 23ain.Taith Gerdded Goffa Lil - Mynytho. Trefnwyd y daith heddiw yn Mynytho er cof am Lil Parker a farwodd yn wanwyn 2020 pan oedd rheolau’r Covid ond yn caniatau rhif isel i fynd i angladdau. Roedd Lil a’i diweddar wr Walt yn aelodau fyddlon o’r Clwb ers ei ddyddiau cynnar. Roedd Lil yn gymeriad ddigyffelyb ac mae colled ar ei hol. Yn ystod y daith mewn ardal roedd Lil yn hoff neilltuol ohonni rhoddodd Dafydd Williams deyrnged priodol er cof amdani. Roedd 17 aelod o’r clwb ar y daith oedd wedi ei dyfeisio a’i arwain gan Jean Norton ac Annie Andrew. Ar ol y cerdded cyfarfu 20 aelod yn Plas Glyn y Weddw am luniaeth ac i rannu atgofion.
Roedd yn ddiwrnod dymunol heulog yn gwneud y goreu o’r golygfeydd i lawr i St Tudwal ac ar draws Bae Ceredigion. Roedd y daith yn cynnwys cylch yn groes i’r cloc, gan ddefnyddio rhan o’r rhwydwaith cymhleth o lwybrau amrwyiol a ffyrdd yn Mynytho. Roedd yna aros am baned ar y pen o Clawdd Mawr oedd yn un o hoff lwybrau Lil a lle addas i Dafydd wneud ei anerchiad. Ymhellach ymlaen roedd toriad am ginio mewn cae heulog ger Ty Hir. Arwahan i ddwy gamfa lletchwith, roedd y daith yn haws ac wedi ei chymryd ar gyflymdra gymdeithasgar a hamddenol, o oddeutu 3.5 milltir dros 3 awr. Siwrnai ddymunol fuasai Lil wedi ei mwynhau. Noel Davey. (Cyf; DHW)
Dydd Sul 19ed Medi 2021. Pedol Marchlyn gan gynnwys Elidir Fawr. Cyfarfu wyth cerddwr o dan arweiniad Noel Davey, yn uchel uwchben Deiniolen i gerdded y Bedol Marchllyn. Roedd y glaw cynnar a niwl trwchus y boreu yn cadarnhau y rhagolygon mynyddig ond diolch i’r drefn mi sychodd i fyny a daeth yr haul allan ar ol oddeutu dwy awr. Cychwynnodd y daith gan ddringo yn araf ar y ffordd asffalt sydd yn ymdroelli i fyny at yr argae Marchllyn Mawr y gronfa uchaf ar gyfer cynllun pwmpio storfa hidro-electric, a adnabwyd fel Mynydd Electrig (Mynydd Gwefru). Pan mae angen pwer ar gyfer amseroedd prysur mae y dwr wedi ei storio dros 2000 troedfedd uwchben y mor yn cael ei yrru i lawr i Llyn Peris 1300 troedfedd islaw drwy durnbeinau wedi ei claddu yn ddyfn yn yr hen chwareli llechi ar odre Elidir Fawr. Mae dwr yn cael ei bwmpio yn ol i fyny i Marchlyn Mawr gan ddefnyddio pwer rhad amser di alw. Cafodd y cynllun ei adeiladu rhwng 1974 ac 1984 ac ar y pryd hwn oedd y cynllun adeiladaeth mwyaf yn yr DU. Troiodd y daith ger y llyn lleiaf yn Marchlyn Mawr i wneud y ddringfa 1000 o droedfeddi i fyny ysgwydd hir welltog i’r cyfandir llydan yn ffurfio Elidir Fach. O’r diwedd ymddangosodd y copa disylw o’r niwl wedi ei nodi gan faner Owain Glyndwr (sydd newydd gymeryd lle y Ddraig Goch oedd wedi ei rhacsio gan y gwynt). Yna roedd seibiant ar gyfer te/coffi cyn mynd ar afael a’r llwybr cerrig man serth i gopa anweledig Elidir Fawr, 3000 troedfedd o uchder. O’r diwedd wrth i’r parti ysgarmesu oddi ar y copa, a dilyn y llwybr cul ar hyd grib Bwlch Marchlyn, dyma’r niwl yn araf godi ac yn caniatau ambell olwg syfrdfanol o’r tirlun. i’r gogledd roedd yna ostwngfeydd serth i ddyfroedd glas Marchlyn Mawr ymhell islaw. Roedd yr ehangderau troelliog gwyrdd o Foel Goch ac Y Garn i’r de yn gefndir i ginio ger Bwlch y Brecan. Yna dyma fynd ar lwybr gogleddol ar lethrau gwelltog Mynydd Perfedd ac ymlaen ar draws cyfandir llydan arall i gopa creigiog mwy gafaelgar Carnedd y Filiast. Mae’r ddau gopa yn ddiweddar wedi cael llochesau cerrig newydd. Oddi yno roedd yna ddisgyniad weddol di drafferth drwy’r grug i ffordd argae Marchlyn, yn arwain y parti yn fuan yn ol i’r man cychwyn. Roedd hon yn daith fynydd wobreuol oddeutu 6 milltir o hyd a 2350 troedfedd o ddringo. Roedd y gwellhad yn y tywydd yn ystod y dydd yn caniatau golygfeydd ar y rhan olaf o’r daith. Noel Davey. (Cyf; DHW).
Dydd Iau Medi 16eg 2021. Cylchdaith Trefor. Daeth deg cerddwr i draeth Trefor ar fore o ha’bach Mihangel am daith o dan arweiniad Gwynfor o gwmpas llethrau isaf Yr Eifl. Cychwynwyd ar y llwybr arfordir heibio’r lanfa anferth godwyd i bwrpas y chwarel uwchben ond sydd nawr yn gysgodfan i gychod bychan ac yn lwyfan i ambell bysgotwr gwialen.
Mae’r llwybr y dilyn glan y mor am gyfnod byr. Cafwyd golygfa glir o dri copa’r mynydd, Garn Fôr, Garn Ganol a Thre Ceiri, a cafwyd trafodaeth am ystyr gwreiddiol yr enw Yr Eifl. Mae’n debyg y gall fod yn fynydd gyda dau fwlch, neu yn ynymdebygu i fforch gyda 3 pig. Y naill syniad fel y llall yn hollol addas fel disgrifiad.
Ymlaen wedyn i i ddringfa cyntaf y dydd, un fechan i ben gallt fôr Trwyn y Tâl, yna’n ymlaen ar hyd pen y clogwyni gan gadw yn barchus bell o’r dibyn. O dan fythynnod gwyliau “West End” mentrwyd lawr i’r traeth. Cafwyd cadeiriau o garreg i fwynhau’r banad, er i ddau aelod fediannu gweddillion hen gwch rhwyfo i’r pwrpas.
O’r traeth, mond un ffordd sydd i fynd sef at i fyny. Yn raddol i gychwyn, at y cyfryw fythynnod yna heibio Plas yr Eifl, adeilad newydd yr olwg godwyd wedi tan dinistriol rai blynyddoedd yn ôl.
Mae llwybr yr arfordir wedyn yn cychwyn ar darmac lawr at y pentre ond wedi pasio o dan bont mae yn troi yn sydyn nol at i fyny. Cafwyd golwg sydyn ar wely’r tramffordd yna dros gaeau cyn cychwyn ar brif ddringfa’r diwrnod.
Er i hwn gychwyn ar y lon darmac o Drefor i Llanaelhaearn, cadw at y llwybr arfordir wnaethom a ‘r amodau dan draed yn dirywio. Wedi esgyn dros 500 troedfedd mewn llai na milltir, a chymeryd bron awr i wneud hynny, daethom at fwthyn adfeiliedig ychydig yn uwch na Cae’r Hafoty gan oedi yna am ginio haeddiannol. Mae’r clwb wedi ciniawa yma yn y gorffennol a chafwyd pleser mawr o’r golygfeydd eang o’r pentref, heibio copaon Penllechog, Gyrn Ddu a Gyrn Goch, y tir gwastad islaw ar yr arfordir a rhan helaeth o Fôn.
Dringfa fer wedyn i gyfeiriad Bwlch yr Eifl cyn gadael llwybr yr Arfordir. Yna am y dwyrain am sbel islaw godre’r Garn Ganol gan gyrraedd y lôn o Drefor i Lanaelhaearn o dan fast cyfathrebu.
Rhaid oedd cadw at y lon darmac lawr i’r pentref ymhellach na’r bwriad gwreiddiol gan y canfyddwyd tarw mewn cae ger Elernion wrth baratoi’r daith. Felly heibio Hendre Fawr, a roddodd ei enw i’r ardal wledig cyn i’r pentref newydd gael ei enwi ar ol Rheolwr y Chwarel roddodd fodolaeth iddi. Ger crochendy Cwm cafwyd llwybr i’r pentref yn dilyn nant fechan cyn pasio heibio’r strydoedd oedd yn leoliad y gyfres “Minafon” ddarlledwyd yn nyddiau cynnar S4C. Ymlaen trtwy’r pentref wedyn i orffen taith fer ond heriol ar brydiau. Gwynfor Jones.
Dydd Sul 12ed Fedi 2021. Cylchdaith Mynydd Carnguwch. Cyfarfu 10 o rodwyr yn Mount Pleasant am daith foddhaol o dan arweiniad Kath Spencer. Roedd y tywydd braidd yn gymylog, ond yn gynnes, gyda haul niwlog yn y prynhawn, ac yn wyrthiol arhosodd yn sych er y rhagolygon o law am yr mwyafrif o’r diwrnod. I ddechrau fe aeth y daith i gyfeiriad y de-ddwyrain tuag at Caergribin ar hyd traciau llydan wrth odre’r Eifl. Yna dyma ffordd wledig yn cylchu yr ochr gorllewinnol o Fynydd Carnguwch, yn caniatau dringo weddol hawdd o’r gornel de-ddwyrain y copa, hwn yn aml yn anghof, nawr yn fwy adnabyddus i’r Clwb gan fod hon y trydydd esgyniad yn y misoedd diweddar. Roedd y basn o’r carn mawr yn le amlwg i aros am baned y boreu ac i syllu ar y golygfeydd syfrdanol o Eifionydd islaw yn estyn o Abersoch i Nefyn a Phorthmadog. Wedi dod i lawr, dilynnodd y parti lwybrau caeau toreithiog, yn cael eu goleuo gan had coch llachar o ddraenan wen a cordinen. Dyma ddiadell o wartheg gyda tarw a lloi, yn ffodus, yn caniatau i’r grwp fynd heibio heb lawer o helynt. Arweiniodd ffordd droelliog i’r eglwys fechan, Carnguwch, wedi ei seilio ar Lan hynafol wedi ei briodoli i St. Beuno neu yn bosib ryw St Cuwch ddi nod. Mae yr adeilad nawr mewn cyflwr da o dan ofal “ffrindiau” lleol. Roedd y man uchel a thawel yma yn le bendigedig i gael picnic. Dal ymlaen i’r de wnaeth y daith ar draws yr Afon Erch, drwy Penfras Uchaf i Llwyndyrys, troi i’r gorllewin ar hyd ffordd wledig ddymunol. Yna dyma draciau yn torri ar draws heibio fferm Plas Newydd a Melin Carnguwch i’r gilffordd yn mynd i’r gorllewin i Moel Gwynys. Dilynnodd y rhan olaf o’r daith drac i’r gogledd gyda Ffridd, croesi fford Pistyll yn Tan y Bwlch, ac yn ol ar draws y cyfandir gwelltog i Mount Pleasant. Roedd hon yn rodfa bum awr hyfryd drwy dirwedd gwledig braf, gyda 1800 troedfedd o ddringo. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 9ed Fedi 2021. Rhostryfan-Moel Tryfan-Moel Smytho. Heddiw arweiniodd Meri Evans 10 aelod am yr ail dro y daith boblogaidd a wneuthpwyd ar y 6ed Fai 2021. Roedd yn ddiwrnod o gymylau ysgafn a chyfnodau heulog, yn rhydd o wlaw bygythiol, yn caniatau golygfeydd da o fynyddoedd Eryri a glannau’r Fenai yn cynnwys Castell Caernarfon. Cewch ddisgrifiad manylach o dan y daith wreiddiol. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 5ed Fedi 2021. Cylchdaith Dinas Bangor. Cyfarfu 10 aelod mewn tywydd heulog ar draeth Hirael ym Mangor ar gyfer taith ddiddorol o amgylch cefn gwlad y ddinas. Yn garedig Gareth Hughes gymerodd drosodd fel arweinydd oddiwrth Dafydd Williams oedd yn anffodus wedi dioddef anaf i’w asenau ar yr ymchwiliad. Aeth y daith yn groes i’r cloc, i lawr i’r porthladd yn Porth Penrhyn oedd unwaith wedi cludo’r llechi oedd wedi toi y byd (roofed the world). Dilynnodd y ffordd y Lon Las Ogwen, yn gynt y drac o’r reilffordd Chwarel Penrhyn, nawr yn ffordd bleserus werdd, aml bwrpas. Ar ol oddeutu 1.5 milltir, yn syth ar ol mynd heibio Stad Diwydiannol Llandygai, aeth y daith i’r gorllewin ar ffordd fach yn dilyn y caeau dros Ffridd Carw. Roedd yr arhosiad am goffi yn caniatau golygfeydd da tuag at Elidir Fawr a’r copau cyfagos. Ger Caerhun, aeth y ffordd i’r gogledd orllewin ar hyd llwybrau coediog heibio Perfeddgoed, ac o’r diwedd dod allan i ardal fasnachol brysur tra wahanol yn cynnwys metel scrap a busnesau defnydd ffyrdd ac un o ardaloedd manwerthu mwyaf Bangor. Ar ol croesi y brif ffordd yn ddiogel dringodd y parti lwybr gwledig oedd yn sydyn yn syndod o ddistaw, i Penrhos Garnedd a’r Ysbyty, ac aros ar y ffordd, mewn caeau am ginio, eto yn caniatau golygfeydd hardd o’r mynyddoedd. Gan fod y cyn lwybr drwy dir Treborth Hall nawr ar gau, roedd rhaid cymeryd llwybr llygad ar hyd yr A487 brysur, gan fynd heibio pen bont wych Telford, Pont Grog Menai. Yna roedd llwybrau coediog uwchben y brif ffordd yn cadw’r parti i ffwrdd oddiwrth yr trafnidiaeth. Disgynnodd y ffordd i lan y Fenai lachar, gan fynd heibio cylch o Gerrig yr Orsedd yn dyddio o’r Eisteddfod Genedlaethol 1971. Roedd yna olygfeydd diddorol ar draws i Ynys Mon a’r pier, wedi ai adeiladu dros ganrif yn ol a’r ail hiraf yn Gymru. Oddi yno dim ond cam fer oedd hi yn ol i’r maes parcio. Roedd hon yn daith hawdd a hamddenol o oddeutu 8 milltir gyda dim ond dringo cymedrol; ond byth ymhell o brysurdeb dinesig ac roedd yn cynnig digon o bethau o ddiddordeb, mannau gwladol distaw a chip olygfeydd o’r ddinas. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 2il Medi 2021. Porthmadog-Penmorfa-Wern-Borth y Gest. Dim adroddiad na ffotograffau ar hyn o bryd (06/09/21).
Dydd Sul 29ain Awst 2021. Bryniau Rhiw. Ar gyfer Gwyl y Banc roedd Jane Logan wedi paratoi taith ddyrys ardderchog dros gopfeydd ac uchafbwyntiau o Fynydd Rhiw. Yn anffodus roedd Jane yn anhwylys ar y diwrnod ac Noel Davey arweiniodd 7 o rodwyr y tro hwn. Yn y dechrau roedd hi yn gymylog ond fe oleuodd erbyn cinio ac roedd yna olygfeydd da ond braidd yn niwlog. Cychwynnodd y daith o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Plas yn Rhiw, cymeryd y rhan newydd o Lwybr yr Arfordir i’r de-orllewin drwy goedwig a chyraedd y pentir agored Mynydd y Graig tu draw. Yna roedd dringfa i bigyn amlwg o greigiau garw o Creigia Gwineu ble roedd yna fryngaer yn uchel uwchben pentref Rhiw.Ymlaen aeth y llwybrau drwy’r grug a’r rhedyn ungoes i Graig Fawr ble mae gwedillion o le gwylio amser rhyfel uwch ben Porth Neigwl. Ail ymunwyd a Llwybr yr Arfordir i ddringo i ben Mynydd Penarfynydd ac allan i bentir creigiog Trwyn Talfarach, lle addas i gael coffi’r boreu, cyfle i edrych ar olygfeydd hyfryd o’r arforditr i lawr i Maen Gwenonwy ac Ynys Enlli. Arhosodd y parti unwaith eto i fwynhau hufen ia a cacenau (brownies) yn ciosg y caffi wedi ei sefydlu gan fobl anturiaethus Fferm Penarfynydd. Ymlaen aeth y ffordd gyda hen weithfeydd manganis i lawr i’r cilfach hyfryd, Porth Osgo, y rhaeadr uwchben wedi ei leihau ar ol sychderf yr haf. Roedd yna aros arall yn yr eglwys fach unig Llanfaelrhys, yn nodweddol oherwydd cysylltiad R.S.Thomas a beddi y chwiorydd Keating o Plas yn Rhiw. Aeth llwybrau drwy gaeau a’r cerddwyr yn ol i bentref Rhiw a dringo heibio Conion ar frigiad conigol anarferol Clip y Gylfinhir yn gyfagos i fan yr orsedd tracio radar yr MOD. Roedd yr uchder o 800 yn caniatau golygfeydd godidog i’w gwerthfawogi wrth gael cinio hwyr. Y copa olaf, 1000 troedfedd ac yr uchaf o’r diwrnod oedd Mynydd Rhiw ei hun. Roedd y rhostir agored llydan yn gymysgfa o grug llachar ac eithin mewn porffor ac aur, a chael ei chroesymgroesi gan draciau hynafol, yn olygfa godidog. Roedd y disgynfa araf heibio carneddau oes efydd a’r man ansafadwy o’r ffatri bwyeill y meini yn rhoddi mwy o olygfeydd rhyfeddol dros ganol Llyn, i gyfeiriad Garn Fadryn, draethau prysur Abersoch a Nefyn a bras niwlog o fynyddoedd Eryri a’r Cambrian draw yn y pellter. Roedd rhan olaf y daith yn arwain i lawr heibio Ffynnon Saint, sydd newydd ei atgyweirio a drwy draciau coedwigoedd wedi ei dymchwel yn ddiweddar, i Treheli. Dilynwyd y llwybr olaf gyda te haeddiannol yn Plas yn Rhiw. Roedd hon yn ddiwrnod hir ond gwobrwyol dros 10.5 milltir a dringo o 2250 troedfedd mewn 6-7 awr yn ymchwilio tirwedd hudol o ddiddordeb hanesyddol. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 26ain Awst 2021 – Godre’r Wyddfa a Choedwig Beddgelert. Ar ddiwrnod braf o haf cyfarfu 13 aelod yn Cae’r Gors ger Rhyd Ddu gyda Dafydd Williams yn arwain. O’r safle parcio aeth y grwp yn ol i’r ffordd fawr, Beddgelert-Rhyd Ddu gerllaw a’i chroesi i’r llwybr caniataol sydd yn cychwyn o’r man hyn, ac i fyny’r bryn i gyfeiriad y fferm, Ffridd Uchaf, ac ymuno a llwybr sydd, yn uwch i fyny ac yn ynuno a’r prif lwybr Rhydd Ddu-Wyddfa. Y tro olaf i’r ysgrifennwr gerdded y llwybr caniataol roedd y gwylodion, yn wlyb a mwdlyd ac yn awr mae yna lwybr troed ardderchog gyda ffensis yn cael eu codi mewn mannau.
Wedi cyrraedd llwybr y Wyddfa dyma fynd i’r chwith ac i lawr i Rhyd Ddu ac wrth iddi fod yn gynnar i ginio dyma gael arosiad ar gyfer te/coffi ar blatfform yr Rheilffordd Gorllewinnol yr Ucheldir ble cafodd yr meinciau a’r llefydd chwech eu gwerthfawrogi yn arw! Oddi yno roedd yna olygfeydd gwerth eu gweld i bob cyfeiriad yn cynnwys Grib Nantlle i’r gorllewin ac Y Wyddfa, Yr Arran a’r mynyddoedd cyfagos i’r dwyrain.
Yna dyma groesi’r brif ffordd, Beddgelert-Caernarfon, i ymuno a llwybr arall ardderchog, Lon Gwyrfai, cewch ei dilyn am bum milltir i Beddgelert ond heddiw ar ol oddeutu dwy filltir dyma ymdroelli ar lwybrau coedwigaedd eraill i Llyn Llewelyn, llyn artiffisial oedd efallai unwaith yn rhoddi dwr i dai cyfagos. O’r llyn dim ond oddeutu milltir roedd hi yn ol i’r ceir ac oherwydd iddi fod yn eitha llaith roedd y 7+milltir yn ddigon gan y mwyafrif o’r aelodau. Dafydd Williams.
Sul 22ain Awst 2021. Yr Eifl-Tre'r Ceiri. Ymgasglodd 10 aelod yn y maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn gyda’r bwriad o ddringo ben bore i ben Tre Ceiri a’r Eifl ac yna lawr am y glannau o dan arweiniad Judith Thomas. Ond gyda chymylau isel a niwl yn gorchuddio’r copaon penderfynwyd mai doeth fyddai gwneud yr ail ran o’r daith gyntaf.
I lawr felly ar y lon i’r Nant a buan iawn y daeth gwyrddni’r hafn i’r golwg wrth i’r cerddwyr ddilyn neidr serth y lon darmac i’r pentref hynod islaw. Heibio tawelwch boreol y caffi ac i lawr am y traeth cyn dilyn llwybr yr arfordir i’r chwith gan ddringo yn gyson drwy ambell goedlan dderw i Gallt y Bwlch am orffwys a lluniaeth cynta’r bore. Troi yn ôl am y ceir wedyn dros y llwyfandir led wastad yn arwain at y maes parcio i ail asesu’r sefyllfa.
Nid yw yn anodd i’r Rhodwyr berswadio eu hunain fod y tywydd yn codi felly ymlaen wedyn i anelu at fryngaer Tre Ceiri. Dilyn llwybr lled raddol heibio Caergribin, gan basio’r fan ble gwasgarwyd llwch dau o aelodau sylfaenol y Clwb ac ymlaen am y copa. Gyda waliau amddiffynnol a chytiau cerrig crwn bu yn amlwg yn fangre o gryn brysurdeb yn yr oes haearn ond pasio heibio mae bodau dynol bellach gan oedi fymryn, os ydynt yn ffodus, i edmygu’r olygfa. Ac am unwaith cafodd ein hagwedd obeithiol ar y gwaelod ei wobrwyo a mwynhawyd golygfeydd gwych o bentref Trefor a’r arfordir i gyfeiriad Arfon wrth fwyta’n cinio
Erbyn hyn ‘roedd Copa’r Garn Ganol hefyd yn dod i’r golwg felly ymlaen a ni i’r Gogledd i fwynhau dringfa drwy’r grug a’r meini gwenithfaen, nes cyrraedd y copa a chael synnu ar ddyfnder glas y môr ymhell islaw.
O’r copa, llwybr ddigon anodd i’r Gogledd a gymerwyd yn gofyn peth pwyll hwnt ac yma dros ambell ddarn caregog cyn cyrraedd Bwlch yr Eifl a’r lon yn arwain yn ôl i’r maes parcio. Taith ychydig dros 7milltir gan esgyn 2250 i gyd dros 6.5 awr. Noel Davey. (Cyf: GJ)
Dydd Iau 19eg Awst 2021. Garndolbenmaen. Er gwaethaf y glaw a’r niwl cychwynnodd Kath Mair ac un ar ddeg aelod o’r maes parcio ar daith i fynd a hwy i gefngwlad Garndolobenmaen.
I gychwyn aeth y daith i’r gogledd-orllewin ar heolau bychain wedi eu tarmacio a llwybrau gwelltog heibio Bryn-glas a chyrraedd tir agored islaw Ty’r-mynydd. Yna gan fynd i’r gogledd-ddwyrain croesodd y cerddwyr tir twmpathlyd garw gwlyb a chyrraedd rhostir agored. Gan fynd i’r dwyrain aethant dros mwy o dir corsiog a garw gan gadw i wal gerrig ar y dde, ac aros am doriad coffi tamp cyn ailddechrau ymlwybro ymlaen. Erbyn hyn roedd y niwl wedi twchu ond ddim wedi lleihau ysbryd y parti ac roedd tair milltir wedi ei cerdded.
Aeth y grwp ymlaen, ymhellach i’r niwl, pan ddealltodd yr arweinydd iddi fethu trac croes i fynd i’r dde i gyrraedd y bwthyn Cae Amos erbyn cinio. Yn fuan iawn ail gychwynnodd ar y ffordd cywir ar ol cael cymorth gan i’r niwl godi a ryw lygedyn o haul ymddangos. O uchder o 780 troedfedd roedd yna olygfeydd ardderchog i gyfeiriad llethrau Graig-lwyd a Mynydd Graig Goch. Roedd Cae Amos yn le dymunol i gael cinio croesawys ac mi gafodd nifer o’r cerddwyr ei brechdanau ar gadeiriau plastig tu allan i’r adeilad cerrig.
Yn dilyn cinio roedd yna ddwy filltir a hanner ychwanegol, cerdded i’r de-orllewin yn ol i’r maes parcio. Unwaith eto roedd y tir yn dilyn traciau garw a gwlyb cyn mynd heibio Craig y Garn i’r chwith ac ymlaen i lawr heolydd distaw bychain. Oddi yno roedd yna olygfeydd bendigedig i bellter ymdonaidd Llyn. Cyrhaerodd y cerddwyr yn ol yn ei ceir yn wlyb ond dal yn galonnog. Kath Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 15ed Awst 2021. Moelwyni-teithiau cerdded A & B. Roedd y teithiau heddiw ar y grwp o fynydddoedd y godidog y Moelwyni. Roedd rhagolygon y tywydd yn wael ac ni chafon ein siomi, cymylau isel a niwl a glaw ysbeidiol drwy’r dydd, heb ddim golwg o’r haul na’r golygfeydd ysblennydd sydd i’w gweld ar ddyddiau gwell. Er hyny cyfarfu yn Croesor, dwsin o aelodau, efallai yn ymddangos yn fwy obeithiol nac yn syhwyrol, ble roedd yna yn anarferol, ddigon o le i barcio oherwydd y tywydd. Holltodd y cerddwyr yn ddwy ran: Noel Davey yn arwain y mwyafrif ar daith yn cyrraedd brig y brif gopau tra roedd Hugh Evans yn arwain cwmni cynyddol (yn ddoeth efallai) yn esgeluso y dringo serthaf a’r mannau anoddaf. Cychwynnodd y ddwy garfan a’i gilydd, dringo yn gyson 1000 o droedfeddi i fyny dyffryn Croesor ar yr hen drac i Chwarel Croesor. Yno roedd arhosiad am goffi ac i ail drefnu. Gwahanodd y ddau grwp ond yn ddamweiniol cyfarfuasant ddwy waith wedyn. Mi ddringodd y ddwy garfan i gopa eitha hawdd Moel yr Hudd, o wahanol gyfeiriad, gan gymeryd ffyrdd wahanol ar draws y llwyfandir dyrchafedig drwy’r tirwedd hudol o gyn domenau chwarel, pyllau ac adeiladau, yn edrych yn fwy dirgel yn y niwl. Yna dringfa o 700 troedfedd i fyny Moelwyn Mawr ac yna dilyn llethr o’r de-orllewin i gyrraedd y man ucha o’r diwrnod 2550 troedfedd. Gan fod y copa i’w weld yn le digroeso i aros am ginio, dyma’r cerddwyr yn ymdrechu i’e de ar draws gwddf garw Graig Ysgafn, hanner milltir o lwybrau creigiog, llithrig ac brigiadau garw. Yn y cyfamser cymerodd y grwp B y llwybr osgoi yn is i lawr, gan amlinellu uwchben argae Stwlan. Daeth y ddau grwp at ei gilydd i gael cinio yng nghystod Bwlch Stwlan. Yna cymerodd y grwp B y ffordd braidd yn gorslyd cwm Pant Mawr i lawr i ffordd Tan y Bwlch, tra roedd y cerddwyr A yn cyflawni ei trydydd ddringfa o’r dydd ar lwybr serth ond weddol hawdd i gopa Moelwyn Bach. Oddi yno roedd yr ysgwydd De-Orllewinnol yn caniatau disgynfa gwelltog hawdd. O 1300 troedfedd roedd y ddwy garfan yn cael boddhad fel i’r panorama dros Aber Dwyryd, llifdir y Glaslyn, gyda Port a Chriccieth yn bellach, o’r diwedd ddod i’n golwg o dan y cymylau. Oddi yno roedd yn gam rhwydd yn ol i Groesor ble roedd coffi a chacenau yn ein disgwyl yn y caffi ar ol 5.5 awr yn y bryniau soglyd, 7-8 milltir a thros 3000 troedfedd o esgyniad. Roedd y diwrnod yn tipyn o brawf ac roedd pawb yn heuddu medal am eu parhad ond mi oedd yna deimlad o orchest a chymhelliad i sawru eto, ond ar ddiwrnod sych yn sicrhau golygfeydd. Noel Davey.
Dydd Iau Awst 12fed 2021. Cwmystradllyn. Amodau'r tywydd: sych a heulog gydag awel gymedrol. Ar ôl croesi camfa, roedd y caeau cychwynnol o laswellt gyda rhedyn cyn dod ar drac fferm ger fferm Ynys Wen. Parhaodd y daith ar hyd y trac cyn dod yn ffordd fetel ger Melin Lechi Ynyspandy. Yma aethon ni i mewn i'r felin i edrych ar y strwythur, sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac i fwynhau egwyl goffi. Darparodd Colin ddosbarthiad gwybodaeth yn rhoi hanes y chwarel a'r felin. O'r felin lechi dilynodd y daith gerdded y trac gwreiddiol yn ôl, a ddefnyddiwyd i fynd â llechi o'r chwarel i'r felin, sef cefn gwlad gwastad trwy gaeau trwy gwpl o gamfeydd, pont droed a rhodfa o goed pinwydd. Yn y pen draw, daeth y trac ar y ffordd gul gan anelu tuag at fferm a chaffi Tyddyn-mawr. Gan barhau yn syth heibio Tyddyn-mawr, gyda'r ffordd darmac yn troi i'r dde tuag at yr argae, daeth y llwybr wedyn yn drac llydan gan anelu tuag at y chwarel. Ar ôl tua ¾ milltir ac yn agos at rai hen fythynnod cerrig (Tal-y-llyn), gwnaed troad i'r chwith i fyny llwybr ar oleddf tuag at hen bentref Treforys cymerwyd cinio ymhlith hen waliau'r pentref.
Ar ôl cinio parhaodd y daith ar wastadedd gwastad trwy'r adfeilion a, chan fod yr hen drac ychydig yn fwdlyd ac yn wlyb, roedd yn rhaid cymryd cwrs igam-ogam cyn y gellir dod o hyd i ran sychach o'r llwybr. Yna, er nad oedd y trac yn rhy wahanol, dilynodd gwrs ar i lawr trwy redyn, ar draws hen bont droed garreg cyn ail-ymuno â'r prif drac tua ¾ milltir ymlaen o'r man y gwnaethom ei adael. Parhaodd y daith ar hyd y trac gwastad hwn ac ymlaen i Chwarel Gorseddau ei hun, lle cymerodd y grŵp ychydig o amser i archwilio a gweld y gweithfeydd a'r adeiladau. O'r fan hon, aeth y daith yn ôl ar hyd y trac cyn belled â'r bythynnod cerrig, Tal-y-llyn, lle'r oeddem wedi gadael y trac tuag at Treforys yn wreiddiol, ond y tro hwn troi i'r chwith trwy'r hen adeiladau. Fe darodd y grŵp ar ongl 45 gradd yn fras, ar draws dau gae ac anelu tuag at y gornel isaf lle camwyd giât isel drosodd. Ar y pwynt hwn, ymunwyd â'r llwybr isaf sy'n cylchdroi'r llyn. Er nad oedd yn hollol wahanol, aeth y llwybr hwn trwy gaeau yn taro ar ongl i fyny i gyrraedd giât y tu ôl i ystafelloedd te Tyddyn-mawr lle roedd mwyafrif y grŵp yn mwynhau te prynhawn a chacennau. Roedd yn ymddangos bod pawb yn mwynhau'r daith ac roeddem wedi'n bendithio â thywydd cerdded perffaith. Colin Higgs. (Cyf: Google Translate)
Dydd Sul 8ed Awst 2021. Mynytho - Garn Fadryn. Jean Norton ac Annie Andrew arweiniodd 14 aelod ar daith 10 milltir ardderchog o Fynytho i Garnfadryn ac yn ol. Mi oedd yn fore cymylog gyda gwynt gorllewinnol bywiog,a dim ond awgrym o law. Newidiodd hyn i haul cynnes yn y prynhawn. Cychwynnodd y ffordd o faes parcio Foel Gron, gan gylchu y bryn conigol ac yna dilyn y llwybr ar hyd ochr gorllewinnol o Gomin Mynytho. Oddi yno roedd golygfeydd ar draws Nanhoron i gyfeiriad Mynydd Rhiw a Porth Neigwl. Roedd y Comin yn ffrwythlon gyda grug porffor a thyfiant gwyrdd llachar ar ol y glaw diweddar. Dilynnodd yr adran nesaf ran o’r llwybr newydd, Llwybr Morwyr, sydd yn croesi Llyn o Abersoch i Nefyn. Arweiniodd y llwybr ar draws caeau, heibio Pandy ac i lawr ar draws hafn o Afon Nanhoron ger y bont ffordd, Pont Llidiart Nanhoron, hefyd yn cael ei galw yn Pont Inkerman, yn coffau marwolaeth y bachgen 22ain oedd yn etifedd i Stad Nanhoron, yn y Rhyfel Crimea. Aeth y llwybr ymlaen i’r gogledd uwchben Chwarel Nanhoron a throi yn Penbodlas i Pen y Caerau. Daeth dringo garw dros dir agored a’r parti i gopa Garn Bach, bron yn 1000 troedfedd. Yna fe aeth y parti i lawr ar draws y bwlch wahanllyd ac arwahan i dri, dringo yn haws i gopa Garn Fadryn a mwynhau golygfeydd cylch llawn panoramic dros ganol Llyn, tra yn ciniawa ar yr ochr gysgodol o’r safbwynt manteisiol yma. Croesodd ran y prynhawn glaswelltir agored i’r ffermydd Caerau, ac o’r diwedd ymuno a’r ffordd wladol gul yn rhedeg i’r de yn ol i Fynytho. Aeth hyn a’r parti heibio’r pentwr creigiog o Carn Saethon (ynys (tir agored heb yr hawl i fynd yna) a’r bryn gwelltog, Carneddol (heb hawl i gerdded o gwbl). Roedd yna aros i edmygu’r eglwys unig fechan, Llanfihangel Bachellaeth, nawr wedi ei throi i gartref preifat, ac hefyd siawns i gael gwared o ddillad oherwydd fod yr haul yn cynhesu. Daeth Mynytho i’r golwg yn fuan, gan agor golygfa coediog i lawr i faeau disglair Abersoch a St. Tudwal, gyda pentyrau o longau pleser. Roedd hon yn daith hyfryd ar gyflymdra llac gymdeithasol dros saith awr. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Iau Awst 5ed. Cronfa Ddŵr Tanygrisiau. Tecwyn Williams arweiniodd y daith ddiddorol siap rhif wyth o 5 milltir mewn hyd, o amgylch Tanygrisiau. Ar y pryd o dan gyfyngiadau Covid 19 roedd yna 14 o gerddwyr, hanner y rhif oedd ar yr un daith 4 mlynedd yn ol. Roedd rhan o’r daith yn wlyb y ddwy waith – wrth gwrs, mae’r pentref yn rhan o Blaenau Ffestiniog yn y diwedd – ond heddiw roedd hanner cyntaf y daith yn sych tra y tro diwethaf yr ail hanner oedd. Roedd ddolen y boreu yn ymchwilio pentref Tanygrisiau, hen bentref mwyngloddio traddodiadol gyda strydoedd cul ble mae cefnau tai yn gwasgu’r clogweini serth. (o dan y stepiau fel mae’r enw’n crybwyll). Mae rhai o’r cartrefi wedi eu gwella ac yn goleuo’r pentref. Mae’r trigolion wedi ychwanegu nodyn ffraeth, fel casgliad trawiadol o hen geir trwm ar betrol Americanaidd ac arddangosfa o ddiarebion bychan gardd a creiriau. Mae gan Tanygrisiau hefyd hawliau ddiwylliannol fel cyn gartref i’r bardd a’r ysgolhaig Gwyn Tomas, yr cyflwynwyr addysgwyr Silyn a Mary Roberts, ac yr enwog Meredith Evans o Driawd y Buarth, y cyfan yn cael sylw ar y daith. Yn dilyn cinio ar fyrddau picnic cyfleus, dyma ddolen y prynhawn yn mynd ar lwybrau creigiog drwy’r grug a’r rhedyn, heibio adeilad hidro-electrig Ffestiniog ac o amgylch llyn Tanygrisau sydd nawr yn ffurfio’r gronfa isa ar gyfer y cynllun pwmpio storio . Croesodd y cerddwyr y Rheilffordd Ffestiniog pum gwaith ar y daith a mi gawsant eu gwobrwyo wrth gael golwg ar yr injan stem, Lloyd George yn tynnu llond tren hir o ymwelwyr ar un o’r mannau croesi. Ger y pen deheuol o’r llyn fe aeth y ffordd gyda’r cyn Chwarel Moelwyn a’r cyn argau Llyn Ystradau, y gronfa flaenorol pan adeiladwyd yr Gwaith pwer yn ddechrau’r 1960au. Mwynhaodd rhai o’r parti de yn Caffi’r Llyn yn dilyn taith bleserus o bedair awr mewn tirwedd braf naturiol wedi ei orchuddio gan yr etifeddiaeth hudol ddiwydiannol. Noel Davey. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 1af Awst 2021. Mynydd Mawr. Mynydd Mawr oedd y nod heddiw, y copa ardderchog o bryd i’w gilydd yn cael ei adnabod fel Mynydd Eliffant, i’r gorllewin o’r Wyddfa. Casglodd 10 aelod o dan afrweiniad Eryl Thomas yn Drws y Coed yn Dyffryn Nantlle am daith ardderchog o ryw 8-9 milltir dros 6 awr. Roedd y cymylau ysgafn a’r cyfnodau heulog yn fuddiol ar gyfer cerdded. Cychwynnodd y daith yn y capel a gymerodd le un cynt yn cael ei goffau dros y ffordd a ddifrodwyd yn 1892 gan faen fawr a gwympodd o Clogwyn y Barcut uwchben. Dilynnodd y ffordd rannau o’r Llwybr Llechi gyda sawl awgrym o draddodiad chwareli a hanes mwyngloddio’r ardal, yn atseiniol gan mae dim ond ychydig ddyddiau wedi’r llwyddiant o holl dirlun lechi Gwynedd gael ei benodi’n Safle Trefdadaeth y Byd. Dringodd y llwybr amlwg yn gyson o oddeutu 500 troedfedd o fferm Drws y Coed, ymuno a’r brif lwybr o Rhyd Ddu ar ymyl Coed Beddgelert. Wedi cyrraedd Foel Rudd ymylodd y daith a chlogwyni Craig y Bera, gyda ambell gip olwg ar yr dyffryn nawr ymhell islaw wrth draed ymyl y mynydd serth. Yna daeth dringo eitha rhwydd dros lechweddau gwelltog, a’r parti i gopa Mynydd Mawr, 2300 troedfedd. Roedd yna olygfeydd ysblennydd o’r copa i bob cyfeiriad, y cymylau yn ymharu ond ychydig, yn cynnwys copau canolog Eryri, iseldiroedd Arfon ac Ynys Mon a bryniau Llyn. Roedd man cysgodol yn loches oddiwrth awel oeraidd ac yn le addas i gael cinio buan. Aeth y disgyniad ar yr ysgwydd welltog ar yr ochr ogledd-orllewinnol o’r mynydd, uwchben Craig Cwm Du. Roedd hyn yn caniatau golygfa dda o weithfeydd chwarel wedi ei ail gychwyn ar Foel Tryfan a’r pentyrau o hen domennau a phyllau o amgylch pentre Y Fron. Aeth y daith heibio Llyn Ffynhonnau, chroesi’r llus, grug a thir gwelltog corsiog, di gysgod o Dir Comin Uwchgwyrfai, ardal chynhanesol anhenfaol a llen werin. Roedd y rhannau olaf yn gymysgfa diddorol o weddillion chwarel a mwy o dir gwelltog a thirwedd coediog. Profodd hon i fod yn ddiwrnod ardderchog mewn gwlad rhagorol, gyda dringo da heb rannau anodd. Noel Davey. (Cyf-DHW)