Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams.
Dydd Sul 31 Gorffenaf 2016. Cylchdaeth Llangybi. Kath Spencer arwainodd 12 cerddwr ar ddiwrnod ardderchog ar draws tir anghyfarwydd a hyfryd Llyn. Cychwynodd y daith 12 milltir, o Llangybi i gyfeiriad y gogledd, yn bennaf ar ffyrdd bach dymunol ac yna mynd i’r gorllewim drwy fferm Tyddyn Mawr ar hyd llwybr hen i Cwm Coryn, ardal yn llawn archaeoleg gyda golygfeydd hardd ar draws yr orynys i’r arfordir a Bae Ceredigion. Gwneuthpwyd cylchdeithiau i ddringo dau gopa conigol ar ymyl Bryniau Clynnog, Pen y Gaer, man caer oes haearn, a Moel Bronmiod. Yna dychwelyd ar draws tir corsiog ar lwybrau wedi eu esgeuluso ac, o’r diwedd, mynd gyda ymyl Garn Bentyrch a chyrraedd adfail ardderchog Ffynnon Cybi. Mi oedd pawb wedi mwynhau y diwrnod hir, sych, a heulog. Noel Davey.
Dydd Iau 21 Orffenaf 2016. Ardal ogwmpas Pwllheli. Cynulliad da o 25 cerddwr ar daith bleserus o 4.8 milltir yn y wlad tu hwnt i Pwllheli ac yn cael ei harwain gan Miriam Heald. Cymeryd lle ar y munud olaf i’r daith linellol ar y rhaglen oherwydd fod rhwystrau heb eu datrys. Mi oedd y daith yn cychwyn o faes parcio Pen Mount, heibio Cob Pen Lon i’r West End gyda ymyl y Cwrs Golff ac i’r tir heibio Penmaen a chyrraedd man cinio deniadol hefo golygfeydd da o gefn gwlad. Yna heibio Ffynnon Felin Fach a Gwynfryn i Benrallt a Denio gan ddisgyn i’r dre ger Bro Cynan ac Asda. Tra i’r llwybr yma gael ei lanhau yn ddiweddar mi oedd yn siomedig i ddod ar draws cymaint o sbwriel eto. Taith bleserus yn yr haul ac yn gorffen yn caffi Plas Heli. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 17 o Orffenaf 2106. Carnedd Gwenllian via Drum. Roy Milne arwainodd 9 cerddwr ar ddiwrnod rhagorol ar y Carneddau Gogleddol, gan gerdded 13 milltir a dringo cyfanswm 0 3500 troedfedd wrth i’r tywydd heulog gynhesu. Mi gychwynodd yr ymgyrch o faes parcio Bont Newydd i’r gogledd o Abergwyngregyn gan ddringo yn serth ar lon fechan a LLwybr Gogledd Cymru i fyny Drum. Mi oedd y llwybr yn dal ymlaen i’r man uchaf y diwrnod, uwchben 3000 troedfedd at Foel Fras a Carnedd Gwenllian. Cael cinio yn gysgod clawdd, allan o’r gwynt bywiog ac yn rhoddi golygfeydd gwych i gyfeiriad bryniau Clwyd, Berwyn ar Amwythig. Yna croesi’r gwastatir gan fynd heibio creigiau garw Yr Aryg, Bera Bach a Bera Mawr gan roddi golygfeydd di ri i gyfeiriad y Carneddau deheuol, Mon ac efallai Ynys Manaw. Yna disgyn gyda Dyffryn Afon Gam a heibio’r “Abe Falls” ysblennydd yn pelydru yn haul hwyr y prynhawn. Diwrnod egniol bleserus yn crynhoi hefo te crand yn Aber Falls Café, caffi newydd ei agor yn y pentref. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 7 Orffenaf 2016. Cylchdeth Rhyd. Mae y daith yma yn sicr o ennill gwobr am y daith wlypaf y flwyddyn, yn cael ei arwain gan Dafydd Williams a 15 o rodwyr cadarn yn dilyn drwy y coed hyfryd rhwng y Dwyryd a phentref Rhyd. Cychwyn o arhosfan ger yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog, croesi Rheilffordd Ffestiniog a dringo trwy Rhiw Goch heibio hen byllau i Rhyd a dychwelyd heibio Hafod y Llyn drwy Coed Llyn y Garnedd i lawr i Coed Cae Fali. Er gwaethaf y glaw di ddiwedd mi oedd y teithwyr mewn hwyliau da ac wedi mwynhau cerdded drwy y goedwig wlyb a thamp. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 3 Orffenaf 2016. Glyderau. Judith Thomas arwainodd 11 aelod ar daith wedi ei ymchwilio yn drylyw, i’r Glyderau. Oddeutu 7 milltir o bellter a 2800 troedfedd o esgyniad ar ol cychwyn o “Ogwen cottage”, pasio Llyn Idwal ac yna dringo yn egniol drwy Devil’s Kitchen (Twll Du) i ben y Glyder Fawr (3300 troedfedd) a chael cinio wrth gysgodi o’r gwynt bywiog. Yna croesi y creigiau anarferol (moonscape) ar wastatir uchel y Glyderau, mynd gyda ymyl uchelbwyntiau Castell y Gwynt a Glyder Fach ac yn ol yr arfer pawb yn dringo y Gwyliwr (Cantilever) nodedig tu hwnt. Y disgyniad yn dilyn y Miner’r Track ble ’roedd geifr gwyllt, yna amgylchu ar draws Bwlch Tryfan ac i lawr Cwm Bochlyd i Ogwen, mewn pryd am baned a hufen ia. Y tywydd yn heulog a’r awyr yn glir trwy gydol y dydd ac mi oedd y diwrnod llwyddiannus yma yn datgelu gologfeydd ardderchog o gopfaoedd cyfagos Eryri ac ymhellach i Fon a canolbarth Cymru. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 23ain Mehefin 2016. Dolwyddelan. arwainodd John Enser 20 aelod oedd yn cynnwys aelod newydd, ar ddiwrnod braf, ar daith o 6 milltir medrwch ei disgrifio fel Taith Castell Dolwyddelan. Parcio ger Eglwys St. Gwyddelan mi gerddasom i ffwrdd o gannol y pentref, croesi y bont lein ac ar ol tua 50 llath cymeryd llwybr ar y dde a’i ddilyn am oddeutu milltir cyn dyfod allan ar yr A470. Ar ol croesi’r ffordd dyma ddilyn ffordd tarmac heibio’r orsaf lein, Roman Bridge a chyrraedd fferm ac ymlaen a chroesi’r afon ble cafwyd cinio yn yr haul cynnes. Yna i’r chwith o hen domen lechi a chyrraedd y ffordd yn agos i ben Cwm Blaenau Dolwyddelan. Yna yn ol i gyfeiriad Dolwyddelan ar y tarmac am oddeutu milltir ac wedi cyrraedd fferm arall mynd i’r chwith a dilyn y llwybr tan i’r castell ddod i’r golwg. Mi fu i fwyafrif y cerddwyr fwynhau ymweld a un o’r Cestyll Cymreig ble, yn ddadleuol, ganwyd Llewelyn Fawr. Oddi yno mae y llwybr i lawr yr allt i’r A470 ac yna ei dilyn yn ol i’r cychwyn. Taith bleserus dros ben wedi ei harwain yn fedrus gan ein Ysgrifennydd teilwng! Dafydd Williams. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 19eg Mehefin 2016. Amlwch i Llandulas. Arwainodd John Enser daith o 9 milltir o Traeth Dulas i Amlwch. Wyth aelod ac un gwestai yn mwynhau y daith arfordirol ac yn gweld trefedigaeth o forloi yn Porth Helygan ac yn aros am ginio mewn man hyfryd ger Porth Eilian. Ar ol cinio dyma’r gwynt a’r glaw trwm yn eu gwneud yn anodd ond eto cael mwynhad wrth gael munud neu ddau ger Ffynnon Eilian ble mae Ffrindiau Llwybr yr Arfordir Sir Fon wedi gosod mainc. John Enser. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 9ed Mehefin 2016. Great Orme, Llandudno. 18 aelod o’r Clwb yn dychwelyd i hen ffefryn o daith ar y “Great Orme” yn Llandudno. Yn y dyll draddodiadol o deithiau dydd Iau mi oedd yn dechrau a gorffen mewn caffi! Mi oedd y llwybr a ddewiswyd yn dringo yn serth o’r “West Shore”, yn mynd mewn cylch i’r dwyrain o amgylch y copa a chael cinio ger Eglwys St. Tudno, cyn mynd i lawr heibio’r man scio a gerddi’r Happy Valley, cyfanswm o 5.6 milltir mewn pedair awr. Yr haul cynnes cynnar yn troi yn damp a niwlog ac yn cyfyngu ar y gologfeydd a’r gwres ac ar ol cawodydd ysgafn i ddechrau r’ oedd y rhan fwyaf o’r daith yn sych. Siwrna bleserus dros ben. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 5ed Mehefin 2016. Moel Ysgafarnogod a Foel Penolau. Ar ddiwrnod oedd yn debygol i fod un o’r cynhesaf o’r flwyddyn arwainodd Hugh Evans 9 aelod ar daith ardderchog ar draws grib Moel Ysgafarnogod. Mi oedd y daith o 9.5 milltir yn cychwyn o ffordd fechan i’r gorllewin o Trawsfynydd ac yn dringo yn weddol serth oddeutu 1000 troedfedd cyn cyrraedd y ddau gopa sef Ysgafarnogod a Foel Penolau o ble cafwyd gologfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad; cael cinio mewn man braf nesa i ‘r llyn bychan, Llyn Du; Yna, y daith yn disgyn i’r gorllewin heibio hen chwareli i’r llwybr oes efydd a gweddillion rhyfeddol o gylch Bryn Cader Faner cyn gorffen gan wneud cylch anodd ger Moel Gyrafolen. Drwy gydol y dydd r’ oedd pawb yn rhyfeddu wrth weld yr pensaerniaeth daearegol hynodyn yn y rhan ddiarth yma o Eryri, yn cynnwys slabiau enfawr a blociau o gerrig yn debyg i ryw hen adfail hynod. Mi oedd yr haul yn anghyfarwydd o boeth gyda tipyn o awel ysgafn a’r tir garw yn creu diwrnod llafurus ond eto i’w fwynhau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 26ain Mai 2016. Dyffryn Ardudwy. Nick White arwainodd criw o 18 aelod yn hamddenol mewn cylch o 3.5 milltir o draeth Benar ar gyrion Dyffryn Ardudwy ar ddiwrnod haulog. Cafwyd ginio yn fynwent eglwys leol ddi ddefnydd ac yna taith drwy strydoed cefn i gae gwlyb yn llawn tegerianau gwyllt (orchids). Ar ol mynd heibio diwedd y man glanio yr awyrle (lle dyfodol i borthle gofod!) cerdded drwy pentref ymwelwyr a tywynau tywod i’r traeth(noeth lymwyr) ac aros i gael te (yn ein dillad!). Judith yn mentro drochi ei thraed yn y mor ac yna taith fer ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Cymru ar y traeth oedd yn arwain yn ol i’r maes parcio. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 22 Mai 2016. Y Berwyn. 7 cerddwr yn cael eu arwain gan Noel Davey yn mwynhau diwrnod da ond egniol ar fynyddoedd y Berwyn, y tro cyntaf i’r Clwb ymweld a’r ardal yma ers tua pum mlynedd. R’oedd y daith oddeutu 12.5 milltir mewn hyd ac yn cymeryd dros 7.5 awr ac yn cychwyn o bentref Llandrillo a mynd yn gyson i fyny trac y porthmyn i’r dwyrain i Pen Bwlch Llandrillo gan glywed ambell swn y gwcw, a chyrraedd 1500 troedfedd ar ol 4 milltir. Cael coffi haeddianol ger golofn beiciwr y “Wayfarer”. Oddi yno y daith yn troi i’r dde ar ben brif grib Berwyn, yn cyrraedd Cadair Bronwen erbyn amser cinio a chyfarfod a’r unig gerddwr arall ar y diwrnod. Ymlaen i’r lle uchaf ar Cadair Berwyn (2700 troedfedd) cyn mynd i lawr llwybr gwelltog gwlyb Foel Fawr a chroesi dwy ffrwd lydan heb fod, trwy lwc, mewn llif ar ol y glaw diweddar ac yna dychwelyd i Llandrillo trwy ddyffryn coediog Cwm Pennant. Wnaeth y tywydd tamp yn y bore na cawodydd y prynhawn ddim ymharu ar ddiwrnod cymharol glir yn rhoddi golygfeydd o Eryri a canolbarth Cymru ac hefyd ochrau mynyddoedd y Berwyn eu hunain. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 12ed Mai 2016. Cylchdaith Parc Glasfryn. Yn haul cynnes y gwanwyn, Kath Spencer arwainodd 21 cerddwr ar daith hamddenol 5.5 milltir o Parc Glasfryn. Mi oedd y llwybr cymhleth, gwladol a dymunol yn cynnwys cyfres o ddolenau ar draciau caeau i’r gorllewin o’r A499, heibio Trallwyn Hall a chyn belled a gwylodion llethrau Mynydd Carnguwch. Cafwyd cinio yn fynwent eglwys anghysbell, St Beiuno ochr uchaf i Penfras Uchaf. Yn dilyn y daith bleserus yma aeth nifer o’r cerddwyr i gaffi a’r siop fferm yn Glasfryn. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul yr 8 Fai 2016. Cylchdaith Llanlechid. A’r tywydd yn heulog ar daith is raddol B, cafodd 14 eu denu ar daith amrywiol a fleserus yn cael eu arwain gan Dafydd Williams. Y daith yn cychwyn ger Talybont, croesi dros yr A55 ac yn dringo ar hyd rhannau o Lwybr Gogledd Cymru, ar draws tir agored i uchder o 1000 o droedfeddi ac o dan Moel Wnion. Mi oedd yna ologfeydd hardd o’r mynyddoedd ond yn cael eu sarnu gan y “pylons”. Y llwybr yn disgyn i Ddyffryn Ogwen heibio y chwarel ddiddorol, chwarel lechi y Bryn, ble cafwyd cinio ac yna i bentref tawel Llanllechid. Dychwelyd ar lwybrau pleserus heibio Coed Cochwillan yn for o glychau’r gog. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 28 Ebrill 2016. Llanbedrog - Dyn Haearn. Arweiniodd Judith Thomas daith 5 milltir dau hanner o Lanbedrog. Cychwynodd 24 aelod o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dringo i’r Dyn Haearn heibio llwybrau ardderchog Winllan. Yna o amgylch clogwyn Tir Cwmwd a dioddef tywydd oer, gwlyb a gwyntog ac i lawr y llwybr cul heibio Bolmynydd. Dyma’r mwyafrif doeth yn penderfynu ymweld a’r lle bwyd yn Plas Glyn y Wedw. Criw o 7 caletach yn mynd ymlaen ac mi fu i’r glaw ddiweddu. Ymlaen heibio Wern Newydd, Crugan a traeth Llanbedrog a chael cinio ar y ffordd i orffen taith adfywiol braidd yn wlyb. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 24 Ebrill 2016. Crib Nantlle - gorllewin i ddwyrain. Arweiniodd Roy Milne 8 cerddwr o’r Gorllewin i’r Dwyrain ar hyd y cyfan o grib wych Nantlle, un o’r teithiau gorau yn Eryri. Dechreuodd y daith hefo dringfa serth o Lyn Cwm Dulyn a chyrraed grib Mynydd Graig Goch ac yna heibio Garnedd Goch i’r man uchaf ar Graig Cwm Silyn.Tywydd ychydig yn niwlog ond yn sych ar y rhan yma yn gwella i fod yn glir ac yn caniatau golygfeydd godidog o glogwyni Tal y Mignedd a Mynydd Drws y Coed. Cael cinio a the mewn manau gwylio cysgodol ac o gyrraedd y gwynt oer parhaol o’r gogledd ddwyrain. i ddiweddu mynd i lawr yr ochr serth, welltog dwyreiniol grib Y Garn i Rhyd Ddu, cyfanswm o 8.3 milltir ac wedi dringo oddeutu 3700 troedfedd. Mi oedd y daith egniol hon wedi ei harwain yn fedrus ac yn creu diwrnod cofiadwy ar y bryniau. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 14 Ebrill 2016. Llwybr Mawddach. 21 aelod wnaeth y siwrna hir i Ddolgellau ar gyfer taith 6.25 milltir yn cael ei harwain gan Nick White. Yn cychwyn o Ddolgellau mi oedd y ddwy filltir gyntaf yn wastad ar hyd Llwybr Mawddach i Penmaenpool ble cafwyd lluniaeth. Yna dyma ddringo yn egniol i Maes Angharad a chael cinio ar fryncyn cyfleus a chael cwmpeini cath farm gyfeillgar. Yn ffodus mi arhosodd y tywydd yn led dda a dyma’r criw yn dymuno “Penblwydd Hapus” i Nick yn y dyll arferol. Yn dilyn cafwyd taith oedd yn fwdlyd iawn ar brydiau drwy wlad hyfryd i Graig a Rhydwen cyn i ni ddisgyn i Ddolgellau gyda golygfeydd ardderchog dros y dref. Gorffen gyda sgons hufen a the/coffi yn y Caffi adnabyddus T H Roberts i orffen taith lwyddiannus ac amrywiol. Nick White. (Cyf: DHW).
Dydd Sul Ebrill 10, 2016. Llwybr yr Arfordir o Nefyn i Towyn. Ian Spencer arweiniodd 8 aelod yn “ffres” ar ol gwyliau’r Clwb ar daith 7.5 milltir ar hyd Llwybr yr Arfordir o Nefyn i Towyn, siawns foddhaol i gerdded wrth y mor a’r creigiau eto ar ol y rhostir a chymoedd y “Peak District”. R’oedd y tywydd yn glir a heulog, er fod yna naws oer gwynt y dwyrain, ac mi oedd golygfeydd braf i lawr yr arfordir ac ar draws y dwr i Caergybi. Gwelsom Forlo. Mi oedd y llwybr yn eithaf gwastad yn dilyn pen y clogwyn ond mewn amryw le mi oedd rhaid mynd i fyny ac i lawr oherwydd ffosydd wedi eu creu gan y mor. Toedd y mwd sydd yn arferol drwchus yn y fan yma ddim yn ddrwg. Gorffenodd y daith foddhaol hon yn eitha cynnar ond mi oedd y pellter yn addas ar ol yr wythnos egniol gynt. Noel Davey.(Cyf: DHW).
Ggwyliau blynyddol o 1 Ebrill – 8. Mi fu i 24 aelod fwynhau eu gwyliau blynyddol o 1 Ebrill – 8, y tro hwn yng Ngwesty “ HF hotel of Peveril” yn y “Peak District”. Yn ol yr arfer mi oedd yna ddewis dyddiol o 3 gradd o daith bob dydd tros bum diwrnod o gerdded yn denu rhifau amrywiol. Mi oedd y teithiau ar draws trawsdoriad helaeth o’r Parc Cenedlaethol, o’r cyfagos swynol Dovedale i’r rhostir wyllt yn y gogledd ac i etifeddiaeth diwydiannol Dyffryn Derwent yn y de. Mi oedd pellter y teithiau A yn gyfanswm o 60- 65 milltir am yr wythnos. Mi oedd y tywydd yn gyson yn well na’r rhagolygon, yn glir tipyn yn oer a dim ond ychydig o law. Ar y diwrnod rhydd cymerodd aelodau y cyfle i ymweld a thref cyfagos, Ashbourne, Buxton, Matlock Bath, Bakewell a Chatsworth. R’ oedd safon y llety, y bwyd a’r gwasanaeth yn cymharu yn dda hefo beth ydym yn ddisgwyl gan HF er inni y tro hwn orfod rhannu yr adeilad hefo clwb cerdded arall. Mae gennym ddyled eto i Ian am drefnu y daith yn cynnwys trefnu y teithiau gan wynebu prinder teithiau, mapiau a cyferiadau oedd ar gael i arweinyddion y teithiau. Mae Hugh wedi gwirfoddoli i drefnu’r gwyliau HF y flwyddyn nesaf. Diolch hefyd i Megan, Judith, Dafydd a Tecwyn am gyfrannu i restr amrywiol o adloniant gyda’r nos. Noel Davey.(Cyf: DHW).
Dydd Iau Mawrth 31 2016. Mynytho. 16 aelod yn mwynhau taith amrywiol o dair milltir yn cael eu harwain gan Miriam Heald o amgylch Mynytho. Mi oedd y golygfeydd ar y diwrnod heulog yma yn wych yn ymestyn i bob cyfeiriad o’r gorynys, i Eryri a thros Bae Ceredigion. Mi oedd y prif ffordd dros lwybrau mwdlyd cyn cael cinio mewn gardd gyfforddus sef cartref Kev a Jean Norton. Mi wnaeth chwe aelod gylchdaith fer i fyny’r “pot jam” ar Foel Fawr! Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul y Pasg Mawrth 27 2016. Llanuwchllyn - Cylch Cwm Wnion. Hugh Evans yn arwain criw bychan dewr ar daith 10 milltir+ o Llanuwchllyn ar hyd Cwm Wnion. i ddechrau mi oedd y ffordd yn dilyn llwybr amlwg drwy dir gwledig dyumunol ar hyd yr ochr dde o’r dyffryn ac yna croesi yr A494 a dringo yn serth drwy goedwig mwsoglyd ar yr ochr gogleddol; y ffordd ddychwelyd yn ymylu tir mynediad ac sawl peth yn achosi cynhyrfdod yn cynnwys afon dros ei glannau, coed wedi disgyn a mieri anhreiddadwy. Ambell gawod yn cynnwys cenllys a hefyd ysbeidiau braf yn creu cyflusterau cerdded derbyniol hefo golygfeydd ardderchog o’r wlad, y ddwy Aran a copfeydd eraill. Yn dilyn y daith drefnus yma cafwyd coffi a cacennau yn ngwesty’r Llew Gwyn yn Bala i ddiweddu diwrnod llawen mewn ardal eithaf ddiarth i’r Clwb. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 4 Chwefror 2016 – Taith o Penmaenpool.
Dydd Iau 17 Mawrth 2016. Cylchdaeth Nefyn via Mynydd Nefyn. Ar ddydd Iau yr 17 Fawrth arweinodd Ian Spencer 22 o gerddwyr ar gylchdaith 6 milltir bleserus a chymlymdra hamddennol o Nefyn. Y daith yn cychwyn i fyny’r rhiw i Coed Mynydd Nefyn ac yna ar hyd Bwlch Gwynt rhwng Gwylwyr a Moel Ty Gwyn a dychwelyd ger lle picnic dymunol Eglwys Pistyll ac ar hyd Llwybr yr Arfordir o dan yr hen chwareli. Mi oedd y tywydd yn heulog a chynnes eto ac yn hyrwyddo y golygfeydd hardd o’r Eifl a Porth Dinllaen. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 13 Mawrth 2016. Yr Aran a Goedwig Beddgelert. Criw o 10 aelod yn cael eu arwain gan Noel Davey ar ddiwrnod arbennig o dywydd heulog gan gerdded o Rhyd Ddu i fyny’r Aran a drwy Goedwig Beddgelert. R’ oedd y daith yma wedi ei gohirio dwy flynedd yn ol pan oedd rhew trwm ar draws uchelderau Eryri. Y tro yma mi oedd yr eira wedi diflannu mewn pryd ac yn caniatau taith eithaf rhwydd i fyny’r Aran o’r De Orllewin, gyda cefndir bendigedig o’r eira ar lethrau’r Wyddfa. Y daith yn parhau ar hyd y grib de orllewinnol, disgyn ar draws tir gwelltog ger Perthi a dychwelyd ar hyd adrannau o Lon Gwyrfai, taith o ryw 10 milltir. Dau o’r criw yn dewis taith haws oddeutu 7 milltir gan droi yn ol o Bwlchj Cwm Llan gyda Ffridd Uchaf a Llyn y Gader. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 3 Mawrth 2016 yn Capel y Traeth, Criccieth. Y Cyfarfod Blynyddol. Cynhaliwyd yr 37 Cyfarfod Blynyddol ar ddydd Iau Mawrth 3 yn Capel y Traeth, Criccieth. Mi oedd yna nifer dda yn bresennol ac y cyfarfod yn effeithiol fyr. Yna arweinodd Dafydd Williams 25 aelod ar daith 3-4 milltir drwy Bron Eifion ac ar hyd Y Dryll, taith bleserus mewn tywydd teg, diweddu gyda hufen ia a choffi derbynniol yn Cadwalladers. Noel Davey. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 28 Chwefror 2016. Cylch o Flaenau Ffestiniog. Ar ddydd Sul yr 28 Chwefror arweinodd y Cadeirydd, Nick White, 12 cerddwr ar fore arbennig o heulog, gan gychwyn o’r ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog i lawr rhiw gwelltog a chyrraedd coedwig. Dilynasant yr Afon Bowydd am ryw filltir ac yna cyrraedd yr A496 ar ol dringo ryw ychydig oddiwrth yr afon. Yna mynd i’r chwith ar lwybr cadarn ac aros i gael paned. Yn fuan wedyn dyma groesi’r Afon Goedel dros Bont Cymerau sydd yn dyddio o’r 17 ganrif! Unwaith eto dyma gyrraedd coed hynafol a chroesi hen lwybr. Ar ol dilyn llwybr distaw am beth amser dyma gael cinio. Yna dyma’r cerddwyr yn disgyn i lawr i bont yn croesi yr Afon Teigl. Ymlaen a dilyn yr afon am i fyny a chyfarfod a chriw o gerddwyr lleol. Am gyfnod dyma ymuno a hwy gan sgwrsio yn braf a mynd i gyfeiriad Blaenau. Diweddu y daith gan ddringo llwybrau dros gaeau yn ol i Blaenau Ffestiniog. Cafodd yr arweinydd help llaw gan Dafydd Henry a derbynasant ddiolch gan bawb am ddiwrnod bleserus. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 18 Chwefror 2016. Cylch o Fynydd Garreg. Miriam Heald a Megan Mentzoni arweinodd griw o 15 cerddwr o Farm Mynydd Carreg. Mi oedd y Clwb yn ffodus unwaith eto a’r tywydd, er iddi fod yn fwdlyd iawn ar ol y glaw diweddar. Mynd i’r Arfordir ac yna ar draws sawl cae cyn dilyn llwybr yr arfordir o amgylch Mynydd Carreg. Dilyn llwybrau caeau eto a lonydd bach ar y tir. Cael cinio mewn lle delfrydol yn ymyl Anelog.Mi oedd y daith yn gofiadwy am ini gael golygfeydd arbennig o’r arfordir a’r orynys.Daeth y daith i ben gan ddilyn Llwybr yr Arfordir yn ol at y ceir. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 14 Chwefror 2016. Gyrn Ddu, Gyrn Goch a Bwlch Mawr. Ian Spencer arweinodd 13 aelod ar y daith yma o’r A499 ger Trefor ar y llwybr o Rock Cottage. Dringo yn serth i Pen y Bwlch ac ymlaen ar hyd hen ffordd y porthmyn. Yna dringo i fyny Gyrn Ddu ac wedyn Gyrn Goch lle cafwyd cinio. Mi oedd y golygfeydd ar y diwrnod braf yma yn wreiddiol ac mi oedd Bae Caernarfon, Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri yn eu eira i’w gweld i’r dwyrain. Mi fydd i’r mwyafrif o’r criw ddringo Bwlch Mawr cyn dychwelyd ar hyd llwybr y porthmyn ac i lawr at y ceir. Taith a diwrnod ardderchog. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 4 Chwefror 2016 – Taith o Penmaenpool. – Wrth lwc, diwrnod sych yn ganol y gaeaf gwlyb yma. Nick White yn arwain 16 aelod ar daith o 6 milltir o amgylch droed Cader Idris. Gwneud ymweliad a canolfan gwybodaeth bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri yn yr hen signal box yn Penmaenpool cyn cychwyn i fyny’r allt tu ol i’r dafarn George 3. Dringo yn gyson ar ffyrdd bach a llwybrau tu ol i’r gerddi addurnol yn Penmaenuchaf yn arwain i gefn Dolgledr ble achosodd y tir llithrig, yn dilyn y glaw diweddar, i sawl aelod gael codwm, yn ffodus dim ond hunan falchder yn dioddef! Cael cinio ac Aber y Mawddach yn Bermo fel cefndir ac yna i lawr yn gyson i Abergwynant ac aros i edmygu hen odyn galch. i ddiweddu, hefo’r gwynt tu ol i ni, cerdded yn wastad ar ran o Lwybr Mawddach a chyrraedd yn ol yn ein man cychwyn, a lluniaeth derbynniol yn y George 3! Nick White. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 31 Ionawr 2016. Hen Eglwys Llangelynin, Dyffryn Conwy. Mi oedd rhagolygon y tywydd yn ddifrifol. Glaw a Gwyntoedd Cryfion. Mi oedd y man cychwyn ar ben y Sychnant Pass ac yn debyg inni fod yn nghanol corwynt! Toedd yr aweddidion ddim yn dda wrth i Judith arwain yn fedrus 9 cerddwr mewn cylch yn cynnwys Eglwys Llangelynin. R’ oedd rhaid bod yn wyliadwrus rhag cael ein chwythu oddi ar ein traed fel inni fynd i’r de i gyfeiriad Maen Escob. Wrth inni fynd heibio Maen Escob dyma dylanwad y gwynt yn gwanio a ni ddaeth y glaw trwm fel y rhagolygwyd, mewn ffaith, mi welsom awyr las! Cael paned yn y boreu gerbron cylch gerrig ger Cefn Lechen. Yna dyma droi i’r de ddwyrain a chyrraedd yr Eglwys ar gyfer cinio. Yn yr amgylchedd caled a chysgodol yma dyna fwyta ein brechdanau. Ar ol cinio a milltir a hanner ymhellach dyma droi i’r gogledd a dilyn llwybrau a ffyrdd cul yn ol i’r maes parcio gwyntog. Mi oedd y daith ardderchog yn ein cysgodi ni o’r gwynt gwaethaf ac ein galluogi i gael golygfeydd rhagorol o’r arfordir a chefn gwlad. Hugh Evans. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 21 Ionawr 2016. Cylchdaith o Langybi. Kath Spencer arweinodd 19 o gerddwyr, o Langybi, ar daith ar hyd nifer o’r lonydd bychain darluniadol yn y cylch oherwydd fod cyflwr mwdlyd dros ben ar y llwybrau yn dilyn y glaw garw diweddar. Ymadael a’r tarmac yn Bryn Selyf a dilyn llwybr yn arwain i Bont Maenllwyd. Yna mi oedd y cerddwyr ar lwybrau mwdlyd iawn ger Llyn Glasfryn cyn ymuno a llwybrau yn arwain yn ol i Langybi. Yn dilyn y cerdded cael mwynhau te bach blasus yn cartref yr arwainyddes yn Llanarmon. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Dydd Sul 17 Ionawr 2016. – Taith Pedair Dyffryn (Taith Dwy Ddyffryn). Noel Davey yn arwain taith hyfryd o Dafarn y Wyddfa, Waenfawr, taith Pedair Dyffryn. Mi oedd 11 aelod ar y daith yn cychwyn gan ddringo’n gyson i Cefn Du a chael cysgod o’r gwynt i gael paned.Yna gan ail gysylltu a’r llwybr, mynd o amgylch y bryn ac o’r diwedd yn cyrraedd Castell Bryn Bras. Noel Davey yn arwain yn wych ac ar ol mynd i fyny’r bryn unwaith eto, cyrraedd yn ol yn Waenfawr. Peth nodweddol o’r daith oedd y golygfeydd arbennig o fynyddoedd Eryri oedd yn rhoddi ryw deimlad alpanaidd hefo Llyn Padarn yn y dyffryn odditanom.. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 7 Ionawr 2016. O gwmpas Trefor. Nancy Saville arweinodd barti o 19 aelod ar daith o harbwt Trefor. Cychwyn gan ddilyn Llwybr yr Arfordir i’r de a’r mor yn arw ar y dde. Yna troi i’r tir, i ddechrau ar wellt glas, i fyny llwybr tawel ac heibio gweddillion hen westy aeth ar dan. Cael cinio mewn man dymunol mewn ardal goediog ac yna cymeryd mantais o’r ffordd beicwyr ochr yn ochr a’r lon bost Caernarfon.. Croesi’r ffordd ac i lawr yn ol i harbwr Trefor a’r ceir. Diolchwyd i Nancy am daith ardderchog yn dilyn y glaw trwm diweddar a’i gallu i osgoi y rhan mwyaf o’r mwd. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Sunday 3 January 2016. Dwyfor (Lon Goed). Taith gyntaf y Flwyddyn Newydd yn cael ei harwain gan Dafydd Williams. Oherwydd cyflwr y llwybrau yn dilyn y tywydd garw dyma ail drefnu pethau. Deuddeg aelod yn cychwyn i fyny’r Lon Goed ac ar ol peth amser dyma’r glaw trwm yn gostegu. Mi oedd y coed Derw a’r Fawydden ar bob ochr yn llechu y Lon. Cafodd y Lon ei adeiladu er mwyn hwyluso cludo calch o Afonwen io Stad Vaughan i wella’r tir.
Mi fu i’r cerddwyr ddilyn y Lon am oddeutu tair milltir a hanner i’r gogledd, cael picnic cyn dychwelyd i’r cychwyn. Diolchwyd i Dafydd am daith foddhaol ac osgoi y tir mwdlyd oedd ei gael ym mhobman ar y pryd. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
Dydd Iau 24 Ragfyr 2015. Llanbedrog i Bwllheli. Ian Spencer yn arwain 11 cerddwr yn cynnwys tair cenhedlaeth o un teulu ar daith fer yr arfordir o Lanbedrog i Bwllheli. Y tywydd yn ffafriol ac oherwydd ei fod yn dymor y dathlu, cael aros a chael mins peis a choffi. Wedi cyrraedd Pwllheli pawb yn mynd ar y bws yn ol i’r ceir yn Lanbedrog ar ol dymuno Nadolig Llawen i’w gilydd. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 20 Ragfyr 2015.Cylch o Foel Dyniewyd. Hugh Evans yn arwain 7 cerddwr o Feddgelert i Aberglaslyn gan feddwl mynd i lawr llwybr y pysgotwyr ond methu oherwydd ei fod dan ddwr mewn mannau. Fodd bynnag, roedden nhw yn gallu osgoi’r rhain heb orfod cerdded ar ddŵr. Yna mynd i’r Gogledd Ddwyrain ac i fyny Cwm Nanmor a’i ddilyn tan iddynt gyrraedd y chwareli ger Llwynyrchwch. Hugh yna yn arwain y cerddwyr i fyny a dros Grib Moel y Dinewyd a disgyn i Nant Gwynant wrth odre’r Wyddfa. Dychwelyd yn ol i Feddgelert ar hyd ochr Llyn Dinas a’r Afon Glaslyn. Hugh yn derbyn diolch am daith ardderchog ar ddiwrnod syndod o sych. Ian Spencer. (Cyf-DHW).
10 Ragfyr 2015. Nefyn. Miriam Heald yn arwain 17 cerddwr o maes parcio Bryn Cynan. Cychwyn i gfeiriad Nefyn cyn mynd i’r cae ar y dde a dilyn y lwybr i ganol y pentref. Ymlaen at y llwybr ar y clogwyn a Miriam yn eu harwain o amgylch y Bae, cawsant olygfeydd ardderchog dros yr arfordir. Ar ol cyrraed Bae Porthdinllaen mynd i’r tir ac i lawr llwybr cul a heibio llyn difyr bychan a chroesi y B4417. Wedyn dilyn amryw o lwybrau dymunol ar draws dolyddion oedd braidd yn fwdlyd cyn cyrraedd yn ol ym Mryn Cynan a mwynhau llymed a mince peis. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
6 Ragfyr 2015. Yr Eifl 3 Coppa. Catrin Williams arwainodd 7 cerddwr o faes parcio Mount Pleasant ar daith oedd wedi ei chyfyngu oherwydd y glaw trwm diddiwedd a’r gwyntoed nerthol oedd wedi bodoli yn ddiweddar ac hefyd mi oedd niwl trwchus a glaw ysgafn o amgylch Tre’r Ceiri a’r Eifl. Mynd mewn cylch o amgylch Tre’r Ceiri nes dod i’r llwybr yn arwain i fyny o Fwlch yr Eifl i’r Bwlch. Ymlaen wedyn tan cyrraed yn ol i Mount Pleasant ac i lawr y llwybr serth i Nant Gwrtheyrn a chael siom oherwydd i’r caffi fod ar gau! Pawb yn diolch i Catrin oedd wedi cyhoeddi ei bod am ddilyn gyrfa newydd a mynd yn “Par Medic”. Ian Spencer/Dafydd Williams. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 26 Tachwedd 2015, Ian Spencer arwainodd 16 aelod ar daith o Edern. Cychwyn drwy gerdded hanner milltir ar hyd yr B4417 cyn troi i’r chwith a dilyn y fordd i lawr i Farm Bryn Rhydd. Oddi yma mi oedd y llwybr yn fwdlyd iawn ond yn fuan cyrraeddasant y fferm nesaf sef Tref-yr-Ewyn .Wedyn dilyn llwybr sychach i gyfeiriad mynydd Garn Fadryn ac allan ar ffordd darmac: troi i’r chwith ac yna i’r dde a mynd heibio Fferm Cefn Leisog. Yn fuan cyrraeddodd y cerddwyr y ffordd a’i dilyn i’r chwith am tua chwarter milltir ac ar ol mynd i’r chwith eto mynd ar lwybr i lawr y rhiw a dros dir pori gan fynd heibio Ffermydd Madryn Isaf. Mi oedd y llwybr drwy’r coed dan ddwr ac mi oedd rhaid dilyn ymyl y cae i gyrraedd Ceidio Fawr ac ar hyd llwybrau yn ol i Edern. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 22 Tachwedd 2015. Kath Spencer arwainodd 11 cerddwr i Cwm Pennant yn ystod cawod drom ond yn fuan iawn daeth yr haul i’r golwg. Ymadael llawr y cwm a dringo’r ochr orllewinol ger coed newydd eu planu, croesi nant ac ymlaen i Cae Amos a dod ar draws gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith atgyweiro angenrheidiol. Aros am goffi ac ymlaen dros gaeau gwlyb iawn ar ol y glaw trwm diweddar, a chyrraedd waelod y cwm. Heibio’r hen gapel (nawr yn dy!) a dringo i’r “Outdoor Centre” ac yna dilyn llwybrau haws yn ol i’r ceir ar ol siwrne o 10 milltir.Diolchwyd i Kath am arwain mor fedrus.Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 12 Dachwedd 2015. Caernarfon – Foryd. Catrin Williams oedd yn arwain 26 cerddwr ar daith yn cychwyn ochr draw i Bont yr Aber ger maes carafanau Coed Helen, ac yn dilyn y ffordd ar lannau’r Fenai cyn cyrraedd Eglwys Saint Baglan, sydd yn y cae ar y chwith. Wedi eistedd yn yr Eglwys cafodd y cerddwyr araeth gan un sydd yn gyfrifol amdani, ar ran mudiad “The Friends of Friendless Churches” Mae yr eglwys wedi ei lleoli mewn dyll pum ongl, yr unig un o’i math yn Ewrop. Ar ol cinio, ymlaen a Catrin a’r criw, dros y caeau a’r llwybrau a chyrraedd yn ol i’r man cychwyn.Mi oedd y tywydd yn dderbyniol ac mi ddiolchwyd i Catrin am arwain y daith bleserus. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 8 Dachwedd 2015. Porth Neigwl i Lanbedrog oedd i fod ond oherwydd y tywydd garw, cychwyn o Porth Neigwl ac amgylchynu Mynydd Cilan a Cim. Arweinydd dewr iawn oedd Roy a phump cerddwr arall yn cychwyn ar y daith o 10 milltir. Gwneuthwyd y daith yma achos fod rhaid gohirio y daith wreiddiol oherwydd rhagolygon y tywydd. Roedd y gwynt cryf ond chynnes yn iachus a cawsant lonydd oddiwrth y glaw trwm a addawyd, am y rhan fwyaf o’r daith. Roedd y golygfeydd o’r mor gwyllt o dan y clogwyni yn wych. Cael cinio yn gysgod y clogwyn ger lan y mor Porth Ceiriad a’r mor brawychus. Taith gofiadwy ond mi oedd y cerddwyr yn falch o ddychwelyd i’w ceir. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 29ain Hydref 2015. Dolgellau. Nick White arweinodd y daith yma o Ddolgellau. Pedwar ar bymtheg gychwynodd, trwy y dref yna dilyn a dringo yn gyson llwybr hir cyn cyrraedd oddeutu 700 troedfedd. Mae gan yr ardal hon gysylltiad hanesyddol clos hefo’r Crynwyr ac mae sawl safle i’w gweld. Troi wedyn i’r gorllewin cyn disgyn i lawr llwybr braf yn ol i Ddolgellau a chael paned a chacen yn un o’r caffes campus yn y dref. Cafodd Nick ei ddiolch am arwain taith bleserus iawn. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 25ain Hydref 2015. Coed y Brenin. Coed y Brenin. Cadeirydd y Clwb, Nick White oedd yr arweinydd dan i gamp ar y daith o Lanfachreth ar fore go wlyb ond yn fuan yn brafio i fod yn ddiwrnod ardderchog i gerdded. Naw aelod oedd yn bresennol ac i ddechrau cerdded i’r gogledd ddwyreiniol o Lanfachreth. Dilyn yr “Afon Las neu Afon Babbi” fel y gelwyd ar map yr “Ordance Survey” cyn croesi rhyd dros yr afon ac i mewn i’r goedwig ,a throi wedyn i gyfeiriad y de. Y cerddwyr yn parhau i fwynhau y daith bleserus yma er fod y rhan olaf yn serth. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 15ed Hydref 2015. Dyffryn Maentwrog A Llyn Mair. Ysgrifennydd y Clwb, Mr John Enser oedd yr arweinydd medrus ar y daith 5/6 filltir yma ar ddiwrnod Hydrefol braf hefo 16 aelod yn bresennol. Mi oedd rhan fwyaf o’r llwybr yn goedwig stad Plas Tan y Bwlch ac mi gerddom yn igam ogam i fyny o’r maes parcio gwaelod, yna croesi y reilffordd Ffestiniog a heibio Llyn Hafod y Llyn. Parhau i dirgrynu cyn cyrraedd orsedd rheilffordd Tan y Bwlch ble cafom gyfle i fwynhau pryd awyr agored hefo rhai aelodau yn cymeryd mantais o’r cyfusterau caffi oedd ar gael! Wedi disgyn o’r orsedd ac amgylchu Llyn Mair dyma wneud ein ffordd i Plas Tan y Bwlch ble eto methodd rhai o’r cerddwyr fynd heibio y caffi cyfleus! Taith foddhaol dros ben yn yr haul cynnes. Dafydd H Williams. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 11 Hydref 2015. Aberdaron i Porth Neigwl taith linellol arfordirol. Roy Milne oedd yr arweinydd medrus yn ein tywys ar hyd llwybr Arfordir Gogledd Cymru a rhannau diweddar, o Aberdaron, i’r maes parcio ger Porth Neigwl. Mi oedd yr awyr cymylog a’r awel dyner yn berffaith ar gyfer cerdded ac i ni fwynhau y golygfeydd.Cawsom gyfle i archwilio un neu ddau o byllau manganis wedi ei cau yn Nant y Gadwen ac ar ol cinio, mewn man cysgodol ,ar Fynydd Penarmynydd uwchben Twyn Talfach mi gafwyd digon o amser i werthfawrogi yr arfordir hardd; Ynysoedd y Wylan ac Enlli. Ar ol awr o gerdded ar y llwybr cyrraeddom Plas y Rhiw ac aros yn yr Ystafell De er mwyn rhoi yn ol y caloris! Wedyn ymadael llwybr yr arfordir a cerdded 2.8 milltir ar hyd y traeth i’r maes parcio yn Porth Neigwl ble cawsom ein codi gan fws fechan Drws i Drws a’n cludo yn ol i Aberdaron. Taith wirioneddol ardderchog. Hugh Evans. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 1 Hydref 2015. Foel Sengl. Arweinwyd y daith yma yn ofalus gan Kath Marsden. Dim ond naw cerddwr ddaeth i fwynhau y golygfeydd a mynyddodd Eryri ar draws Bae Tremadog. Mynd heibio y gwersyllt campio a charafanau Farm Merthyr ble r’oedd nifer o gerrig parhaol. Mi oedd hon yn daith ddymunol iawn a phawb wedi ei mwynhau ac yn canmol Kath, a gytunodd i arwain ar y funud olaf. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 27 Fedi 2015. Beddgelert 3 copa. Mwynhauodd wyth aelod y daith wych yma a gafodd ei arwain yn fedrus gan Hugh Evans, dringo tri copa cyfagos sef Moel Hebog, Moel yr Ogof ac Moel Lefn, o Feddgelert. Mi oedd y cyfanswm o ddringo yn 3000 troedfedd ac ryw 8.5 milltir. Mi oedd y golau, ar ddydd hydrefol perfaith, yn eu galluogi i weld y golygfeydd ar draws Gogledd Eryri ac i lawr i Cwm Pennant gyda gorynys Llyn yn y pellter.Dychwelyd heibio Bwlch yr Elor, Choedwig Beddgelert a Lon Gwyrfai sydd newydd ei hagor. Dydd cofiadwy. Noel Davey. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 17 Fedi 2015. Llanfrothen. Tecwyn Williams oedd yn arwain y daith hon yn ei ffordd unigryw ei hun a cafodd gefnogaeth cryf gan dau ddeg naw o gerddwyr a deithiodd o Lanfrothen ar ddiwrnod braf.Dringo ar i fyny drwy y coed cyn dod o’r diwedd allan ar ben y bryn ger y ffordd cyfagos i Garreg. Wedyn dilyn wrth ochr y rhostir ac yn ryfeddol i’r arweinydd hwn, mi ddilynnodd lwybrau trwy’r dydd! Peth nodweddol o’r daith bleserus yma oedd y “Folly” aethant heibio ar y ffordd.Dychwelyd uwchben cwm Afon Glyn a mwynhau te a chacen yn y caffe ger y maes parcio. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 13 Fedi 2015. Rhinog Fawr. Mewn tywydd perffaith i gerdded, Noel Davy oedd yr arweinydd medrus gyda wyth cerddwr ar y daith i fyny Rinog Fawr. Cychwynodd y daith o’r maes parcio yn Cwm Bychan a chyrraeddi pen uchaf y Grisiau Rhufeinig ble cafwyd baned. Troi i’r de orllewinnol a dringo heibio Llyn Du ar lwybr serth a chyrraedd y copa mewn amser i ginio.Cymeryd y llwybr gorllewinol o’r copa cyn troi i’r gogledd a chyrraedd y llyn prydferth Gloyw Lyn. Aros wrth y llyn am baned arall a mwynhau y llonyddwch yn haul y prynhawn. Ail gychwyn a toedd hi ddim yn hir cyn i ni ail ymuno a’r Grisiau Rhufeinig a chyrraedd yn ol yn y maes parcio. Diwrnod ardderchog o gerdded gyda gologfeydd syfrdanol. Hugh Evans. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 3 Fedi 2015. Lon Goed. Dafydd Williams oedd yn arwain 36 aelod ar y daith adnabyddus yma o’r gogledd ger Hendre Cennin i lawr i Afonwen. Mi oedd y golygfeydd yn ardderchog ar bob ochr i’r llwybr llydan sydd wedi ei amlynelli gan goed aeddfed derw a fawydden, hefo’r Wyddfa a’r mor i’w gweld. Diolchwyd i Dafydd am arwain y daith boblogaidd yma. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 30 Awst 2015. Moel Hebog. Dafydd Williams arwainodd griw o ddeg ar daith o 12 milltir allan o Feddgelert, drwy Goedwig Beddgelert cyn cael ei cinio yn Bwlch Meillionen. Disgyn i lawr Cwm Llefrith i Cwm Pennant ac ar hyd yr hen reilffordd i Cwmstradllyn. Dringo eto dros y grib cyn disgyn i Feddgelert twy y goedwig ble r’oedd hi yn wlyb iawn dan draed. Diolchwyd i Dafydd am daith ardderchog ond anodd. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 20 Awst 2015. Llyn Idwal. Kath Spencer arwainodd 17 o gerddwyr ar daith 6 milltir o Dyffryn Ogwen, gan gychwyn wrth odre Tryfan, y tywydd yn fwyn gyda ambell gyfnod o law man. Yr oedd y rhan gyntaf o’r daith ochr y Mynydd i Lyn Ogwen, y llwybr yn anwastad ac mi gafwyd ginio yn cysgodi tu ol i’r creigiau. Croesi yr A5 a dilyn llwybr tywodlyd campus o amgylch Llyn Idwal . Gerllaw roedd dringwyr i’w gweld ar y creigiau enwog cyn inni ddychwelyd i’r A5, ac i’r ceir ar ol manteisio ar y cynyrch yn y Caffe Ymelwyr. Diolchwyd i Kath am daith foddhaol iawn. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 16 Awst 2015. Cnicht. Arwainwyd 9 aelod gan Roy Milnes o faes parcio Croesor i fyny Cnicht ac yna dilyn y grib ac i lawr i Chwarel Rhosydd ble cafwyd ginio. Yna i fyny i gopa Moelwyn Mawr, i lawr i’r bwlch cyn dringo i gopa Moelwyn Bach. Am i lawr i’r ffordd sydd yn arwain yn ol i’r maes parcio yn Croesor.Pawb wedi mwynhau a diolchwyd i Roy am y daith 9 milltir. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Iau 6 Awst 2015. Panorama walk Bermo. Fred Foskett oedd yn arwain 17 aelod oddiar ffordd fechan i’r dwyrain o Bermo a’r tywydd, yr haf gwael yma, yn braf. Cerdded i gyfeiriad y de drwy y goedwig a chael cyfle i aros mewn manau i edrych ar ysblennydd Aber Mawddach. O’r fan hyn dringo yn serth tan cyrraedd pellter o filltir i’r man cychwyn. Dal ar i fyny tan cyrraedd man amlwg a chael cinio cyn mynd ymlaen a dod at Lwybr Ardudwy. Wedi mwynhau y golygfeydd ardderchog unwaith eto, mynd i’r gorllewin i gyfeiriad Aber Mawddach ac yn ol i’r ceir ar ol 5 milltir o gerdded caled. Ian Spencer. (Cyf-DHW)
Dydd Sul 2 Awst 2015. Cylch Tremadog – Cwm Stradllyn. Ian Spencer oedd yr aweinydd medrus (wedi ei ychwanegu gan y golygydd a oedd yn bresennol gan fod Ian yn rhu ddiymhongar i gynwys y geiriau ei hun!!) yn arwain 9 cerddwr ar y daith o Dremadog. Dechrau mewn tywydd cymysglyd gan ddringo i fyny trac Cwm Mawr cyn pasio y ffermdy. Dilyn y llwybr ar i lawr ac ar draws caeau gwelltog ac heibio yr hen felin lechi. Yn fuan cyrraedd Cronfa Ddwr Cwm Stradllyn a cheisio y cysgod goreu er mwyn cael cinio. Croesi’r argae a dychwelyd drwy ddefnyddio gwahanol lwybrau a tracs gan osgoi y tir corslyd gwaethaf. Cyrraedd yn ol i clogwynau Tremadog wedi mwynhau taith o 9 milltir. (Cyf-DHW).