Mawr10-Gorff10
Mae'r adroddiadau llofnodi "(Cyf-DHW)" wedi cael eu cyfieithu gan Dafydd H Williams.
Dydd Iau 29 Gorffennaf 2010. Uwchmynydd, Mynydd Mawr, Ffynnon Mair.Tywydd ardderchog ar gyfer taith Judith i Ffynnon Mair a Mynydd Mawr ar ben draw Penrhyn Llyn gydfa golygfeydd ardderchog dros Ynys Enlli a gorffen hefo te bach “al fresco” yn Brynllwyd. Judith Thomas. (Cyf: DHW)
Dydd Sul 25 Gorffennaf 2010. Moel Cynghorion i Foel Eilio o Lanberis. Robert Herve arweinodd y Clwb dros “Y Carousel” gan gychwyn o Lyn Llanberis.i fyny Moel Cynghorion, Foel Goch ac yn olaf dringo Moel Eilio gan orffen y daith gan ddathlu hefo diod o chocolate poeth a scones yn y caffi, Pen y Ceunant Isaf. Judith Thomas. (Cyf: DHW)
Y diwrnod yn canlyn ras Y Wyddfa arweinodd Rober Herve (Robert Pierre) yn fedrus gan ddilyn yr un llwybr a’r rhedwyr ar ochr rheilffordd Tren y Wyddfa. Gellir gweld y ddwy Foel ar draws y dyffryn ac,wedi cyrraedd Hanner Fordd, y caffi newydd ei ail agor, cael amser i gael ein gwynt atom cyn mynd i’r dde i gyfeiriad Llyn Du’r Arddu a disgyn i lawr i Cwm Brwynog ac yna i lwybr y Snowdon Ranger.
Bron yn syth dyma droi i’r gorllewin ac i fyny yn serth tua 500 troedfedd a chyrraedd y copa cyntaf sef Moel Cynghorion (2211 troedfedd). Ymlaen i gyfeiriad y gorllewin ar hyd y grib hefo golygfeydd o chwareli Elidir Fawr i’r gogledd ddwyrain ac yna cyrraedd copa Foel Gron (2064 troedfedd) a disgyn i’r bwlch ac ar ol disgyn eto am 400 troedfedd, cyrraedd y copa olaf, Moel Eilio (2382 troedfedd) a dyma’r tywydd eithaf braf yn cymylu.
Yna mi oedd yn daith hawdd i lawr y rhiw yn ol i Lanberis a thrafod y gwahanol bellder wedi eu gofnodi gan y nifer G.P.S. ac wedi Tecwyn ei roddi ar ei gyfrifiadur y pellter oedd 11.4 milltir. Diwrnod ardderchog arall yn y bryniau hefo cwmni arbennig, pa well sydd i’w gael? Dafydd Williams. (Cyf: DHW)
Dydd Iau 15 Gorffennaf 2010. Cylchdaith Bedgelert. Gwenda yn arwain yn fedrus, taith olygus o Feddgelert ac yn dychwelyd ar hyd ochr glannau r Afon Glaslyn ar y “Fisherman’s Path”. Judith Thomas. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 11Gorffennaf 2010. Y Ddwy Arran. Taith arbennig iawn yn cael ei arwain gan Hugh a Noel o Gwm Cywarch i fyny ac ar hyd y grib i ben Arran Fawddwy (bron yn 3000 troedfedd) gyda golyg feydd arswydus dros Eryri gyfan ac ymhellach. Judith Thomas. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 1 Gorffenaf 2010. Cewri Americanaidd, Bianale Cymraeg Venice, Sierra Craig y Castell. Colin arweinodd 15 aelod ar daith ddiddorol o Benmaenpool. Mi welwyd gewri Redwood Americanaidd oedd mewn 150 mlynedd wedi tyfu 130 troedfedd (Maent yn medru byw am 4000 mlynedd). Mi aeth y daith a ni hefyd i weld y model gwaith Cymraeg yn yr Arddangosfa Venice Bianale. Mi oedd yna siap ddieithr neu estron cwt arno. Ymlaen wedyn drwy y Sierra Craig y Castell cyn dychwelyd i Benmaenpool. Trwy gydol y daith cawsom ambell i gip o Aber ryfeddol y Mawddach. Mi oedd rhagolygon y tywydd wedi eu or ddweud a dim ond ychydig o law a gawsom. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 27 Fehefin 2010. Moel y Gyrafolen. Tecwyn arweinodd daith ardderchog a mwynhaol o 10 milltir o Forglawdd Maentwrog ger Trawsfynydd. Mi ddringwyd nifer copa isel yn ardal gogleddol y Rhinogydd. Mi oedd y rhain yn cynnwys Moel Criafalon, Diffwys, Foel Penolau a Moel Ysgyfarnogod ac mi oedd rhaid y 10 aelod ymgiprys hefyd. Dychwelyd heibio’r carnedd anghysbell crwn, Bryn Cader Faner. Mi oedd yn ddiwrnod cynnes eto er fod yna wynt ar y copau. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 13 Fehefin 2010. Mynydd y Dref (Conway Mountain) a Foel Lys. Rhagolygon y tywydd yn gaddo ambell gawod yn y boreu a cawodydd cyson i ddilyn. A felly buo hi. Y canlyniad oedd gwisgo a tynu dillad glaw yn gyson. Deg aelod yn cael eu tywys gan wr a gwraig, Cleaton (arweinydd) a Mary (yn y canol) ar daith arbennig siap wyth a’r golygfeydd yn odidog. Yn gwneud argraff oedd y golygfeydd dros Conwy i gyfeiriad Llandudno, Ynys Seiriol a Sir Fon ac hefyd Llwybr y Jubilee.
Erbyn amser cinio r’oeddym yn ol y y maes parcio a glaw man trwm a hanner ffordd ar ein taith. Tybed fuasa y temtasiwn i fyrhau y daith yn ormod? Dim peryg! Ymlaen a ni. Gwnaetrh Cleaton un ymdrech olaf i’n denu oddi ar y llwybr pan ini fynd heibio tafarn “The Fairy Glen” “Yn awr yn paratoi bwyd cartref a chwrw da”. Toeddem ddim yn cael ein temptio. Hufen Ia oeddem eisiau ac mi oedd hwnnw i’w gael yn ol yn y maes parcio. Mewn 15 munud, diwedd y daith a hufen ia!Ardderchog. Hugh Evans. (Cyf: DHW).
Dydd iu 3 Fehefin 2010. Cylchdaith Sant Seriol Llangoed/Penmon. Mary Williams arweinodd 26 aelod ar daith hyfryd o Langoed yn Mon i Drwyn Penmon a chael golwg o Ynys ? a’r Goleudy. Dychwelyd heibio Abaty Augustine a chael golwg ar yr hen eglwys hardd, y colomendy a gweddillion o’r Abaty ei hun. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 30 Fai 2010. Mynyddoedd y Berwyn, Cwm Maen Gwynedd. Ar ddydd Sul y 30 Fai Ian Spencer arweinodd griw o 9 cerddwr o Gwm Maen Gwynedd ar mynyddoedd y Berwyn. Ar ddiwrnod braf ond hefo gwynt oer a chryf gwneuthon daith bedol ar y grib o amgylch y cwm yn cynnwys saith copa. Y rhai mwyaf amlwg oedd Cadair Bronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych. Oddi ar y grib gwelsom mynyddoedd Gogledd Cymru a’r Plumlumons. Diwrnod da yn y mynyddoedd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 16 Fai 2010.Dyffryn Dysynni, Taith Castell y Bere. Diwrnod arbennig i gerdded. Haul a gwynt oer. Cychwyn i’r de o faes parcio y Castell, galw yn Capel Mary Jones (methu a gweld yr arddangosfa oherwydd na toedd yna ddim golau), cip olwg ar gofeb Mary Jones cyn nelu am y gorllewin ar ochr yr afon Dysynni. Cinio ysgafn ar y gyfordd Y ar Yr Allt; i ohirio’r ansicrwydd.
Dewis troi i’r dde ac mi oedd y dewis cywir, t’oeddem ni ddim wedi troedio y llwybr yma pan yn gwneud y darpar daith. Disgyn yn araf tan inni gyrraedd y rhan olaf. Yna lonc di lonc i’r dwyrain ar hyd yr afon i waelod Craig y Deryn. Mi oedd car Dafydd yn yr arosfan ac yn loches demtasiynol! Yr oll a wnaethpwyd oedd gadael ain bagiau yn y car ac ymlaen!
Mi oedd y golygfeydd o’r copa yn werth ein ymdrechion i gyrraedd ac yn dal i sefyll. Cyrraedd yn ol i gar Dafydd yn diffygiol, cawsom arbed 2 filltir o gerdded ar y ffordd yn ol i Gastell Bere gan i Dafydd (Trefnydd ac Arweinydd) ein cludo at ein ceir. Piti na wnaethom hyn ar y darpar daith! Hugh Evans. (Cyf:DHW).
Dydd Sul 2 Fai 2010. Chwech aelod gyrhaeddodd ar gyfer y daith 9 milltir o Bae Trearddur i Barc Gwledig Breakwater Holyhead a chael eu harwain gan Noel Davey a John Enser. Mi oedd y nifer braidd yn isel oherwydd fod amryw o’r aelodau i ffwrdd ar wyliau blynyddol y Clwb.. Mi oedd yr amodau yn berffaith, yn heulog er fod yr awel braidd yn oer. Tynnu lluniau yn South Stack ble gawsom ginio. Robert Herve. (Cyf:DHW).
Dydd Gwener 30 Ebrill – Dydd Gwener 7 Fai 2010. Newfield Hall, Malhamdale yn Broydd Efrog. Mi oedd gwyliau’r Clwb y flwyddyn yma yn H.F.Holidays Country House, Newfield Hall, Malhamdale. Broydd Efrog. Mi oedd yna griw o 37 yn cynnwys 5 ffrind newydd o’r gogledd ddwyrain ac mi oedd yn llwyddiannus dros ben. Mi gyfrannodd y tywydd ardderchog at y llwyddiant heblaw am gawod stormllyd o genllys ddioddefoedd y dosbarth A ar gopa Great Whernside.
Pob dydd mi oedd tair taith wedi eu paratoi hefo dau arweinydd ar gyfer pob taith. Mae diolch mawr yn ddyledus i’r arweinwyr yn enwedig i Lil Parker wnaeth arwain pob taith “C”. Rhoddodd y cerddwyr “A” gynnig ar daith fer ond anodd a gorfod crafangu i fyny Gordale Scar, Great Whernside a Pen y Ghent yn ystod yr wythnos.
Mi sefodd Mary Williams yn y bwlch yn absenoldeb Cath Tebbitt a gofalu am yr adloniant gyda’r nos. Diolch i bawb a drefnodd y “Quizees” ac i Joan “Parsley” a wnaeth unwaith eto ofalu a threfnu y Dawnsio. Mi oedd yn cael ei ganmol gan y rhai a gymerodd ran! Llywyddodd y Cadeirydd gyda urddas.
Mae’r gwyliau y flwyddyn nesaf yn Dovedale yn Sir Derby yn y Peak District. Toes dim ond lle i 43. Ian Spencer. Trefnydd. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 18 Ebrill 2010. Gareth Hughes arweinodd yn fedrus griw o 10 ar daith anodd o Cwm Mynachj i fyny Llethr ac yna Diffwys a dychwelyd heibio Llyn y Bi. Mi oedd y tywydd yn berffaith, pawb yn dychwelyd hefo teimlad o fod wedi cyflawni camp. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 22 Ebrill 2010. Fred Foskett arweinodd 33 aelod ar daith hyfryd o Lanbedr o amgylch Cwm Bychan a Chwm Nantcol gan ymweld a Chapel Salem i weld y darlun enwog o’r “Welsh Lady”. Dychwelyd i Landanwg ar ol cael te a chacenni gan Roberta Foskett. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 8 Ebrill 2010. Arwel Davies arweinodd griw o 39 cerddwr i fyny’r Wyddfa gan ddefnyddio llwybr” The Snowdon Ranger”. Mi oedd hwn yn ddiwrnod arbennig gan ei fod yn benblwydd Arwel yn 80 oed ac mi gyflawnodd y gamp yn hyderus. Mi oedd y tywydd yn garedig gyda golygfeydd godidog o Eryri gyfan! Yn enwedig wrth fod yr eira wedi culio oddi ar y copfeydd. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Iau 25 Fawrth 2010. Emyr a Rhian Jones arweinodd daith i fyny’r Great Orme ar ddiwrnod braf, cynnes a heulog. Mi oedd y 22 aelod yn unfrydol ei bod yn daith arbennig a mwynfaus. Ian Spencer. (Cyf: DHW).
Dydd Sul 21 Fawrth 2010. Dafydd Williams arweinodd 10 cerddwr ar gylchdaith o Benygroes. Cerdded ar hyd ffyrdd cul, ar draws caeau ac ar ochr y bryniau ar ddiwrnod llwyd a glyb. Er hyn mi oedd y daith 10 milltir wedi ei mwynhau gan bawb. Ian Spencer. (Cyf: DHW).